MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015
|
|
- Alexis Jenkins
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015 Mae r Canfyddiadau hyn gan y New Policy Institute yn dadansoddi r data diweddaraf i ddangos tueddiadau o ran gwaith, tlodi a sancsiynau budd-daliadau yng Nghymru. Mae r ymchwil yn edrych ar fesurau incwm isel, cyflog isel a mathau eraill o anfantais. Yna mae n ystyried yr heriau yn sgil y newidiadau hyn a Chyllideb Haf 2015 wrth lunio polisïau yng Nghymru. Pwyntiau allweddol Ar gyfartaled, roedd 700,000 o bobl mewn tlodi yng Nghymru yn y tair blynedd hyd at 2013/14, sy n gyfystyr â 23 y cant o r boblogaeth. O i gymharu â deng mlynedd yn ôl, mae mwy o bobl o oedran gweithio (yn arbennig oedolion ifanc) mewn tlodi a llai o blant a phensiynwyr. Mae tlodi wedi cynyddu mewn teuluoedd sydd mewn gwaith ac wedi gostwng mewn teuluoedd di-waith. Mae dau ddeg saith y cant o bobl mewn teulu lle mae o leiaf un oedolyn anabl mewn tlodi, o i gymharu â 23 y cant yn gyffredinol. Mae cyfradd tlodi yn y teuluoedd hyn yn codi i 33 y cant os na chaiff budd-daliadau anabledd ei gynnwys yn yr incwm. Ni fu unrhyw ostyngiad yng ngraddau cyflog isel yng Nghymru am ddegawd, gyda chyfran y swyddi ar gyflog isel yn dal oddeutu 25 y cant. Mae cyfanswm o 270,000 o swyddi, a wneir yn bennaf gan ferched, yn talu islaw dwy ran o dair y cyflog canolrif fesul awr yn y Deyrnas Unedig. Yn 2014 roedd 30,000 o sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith, oedd yn is nag yn 2013, a hynny n bennaf oherwydd bod llai wedi ei hawlio. Mae n dal yn ffigwr uchel o i gymharu â blynyddoedd cynt. Mae pobl ifanc sy n hawlio a hawlwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn colli budd-daliadau mewn modd anghymesur. Mae nifer cynyddol o bobl mewn tlodi n byw yn y sector rhentu preifat yn hytrach na r sector rhentu cymdeithasol ond mae nifer uwch o hyd yn y sector preifat. Dim ond yn rhannol y bydd cyflwyno r cyflog byw n gwrthbwyso r toriadau mewn credydau treth: bydd rhai teuluoedd, yn arbennig rhai gyda phlant, yn waeth eu byd. Bydd ardaloedd gwledig yng Nghymru n cael eu heffeithio n anghymesur. Yr ymchwil Gan Adam Tinson a Tom MacInnes MEDI 2015
2 Tlodi yng Nghymru Diffiniad o dlodi Ystyr tlodi yma yw incwm aelwyd, wedi ei addasu n ôl maint teulu, islaw 60 y cant o incwm canolrif wedi ei addasu n ôl maint teulu. Mesurir incwm ar ôl didynnu costau tai. Mae tlodi llwyr yn defnyddio 60 y cant o incwm canolrif mewn blwyddyn benodol gynharach fel trothwy. Ar gyfartaledd, rhwng 2011/12 a 2013/14 roedd 700,000 o bobl mewn tlodi yng Nghymru, tua 23 y cant o r boblogaeth. Nid oes unrhyw newid yn nifer a chanran y bobl sy n byw mewn tlodi rhwng 2010/11 a 2012/13 ac mae r ddau n is na ffigwr y 1990au pan oedd tua 26 y cant o r boblogaeth yn byw mewn tlodi. Gan gymryd 2010/11 fel y flwyddyn drothwy, mae tlodi llwyr yng Nghymru wedi cynyddu o dri phwynt canran yn ystod yn pedair blynedd hyd at 2013/14. Bu gostyngiadau mawr o ran tlodi pensiynwyr, gan ostwng oddeutu 26 y cant yn y 1990au i 14 y cant erbyn hyn. Felly er bod twf cynyddol yn nifer y pensiynwyr, maent i gyfrif am 13 y cant o bobl mewn tlodi o i gymharu â 19 y cant yn flaenorol. Mae tlodi plant hefyd wedi gostwng, er yn llai dramatig, o 36 y cant i 31 y cant. Nid oes unrhyw wahaniaeth yng nghyfradd tlodi dynion a menywod yng Nghymru. Mae hyn yn rhannol oherwydd y ffaith bod y boblogaeth fenywod yn cynnwys cyfran uwch o fathau o aelwydydd sydd â risg uwch o dlodi (fel aelwydydd un rhiant) a chyfran uwch o r rhai â risg is o dlodi (fel pensiynwyr). Fodd bynnag, gan fod tlodi incwm yn cael ei fesur ar lefel aelwyd, nid yw, er enghraifft, yn adlewyrchu dosbarthiad adnoddau o fewn aelwydydd. Mae cyfran y bobl mewn tlodi yn achos y rhai sydd mewn teulu lle mae o leiaf un oedolyn anabl, yn uwch na r gyfran gyffredinol, sef 27 y cant o i gymharu â 23 y cant. Os addasir cyfradd y bobl mewn tlodi a pheidio â chynnwys budd-daliadau anabledd (sydd i gynnwys costau heb eu cyfrif yn yr ystadegau), yna mae cyfran y bobl mewn teuluoedd lle mae o leiaf un oedolyn anabl yn codi o 27 y cant i 33 y cant. Gwaith a thlodi Ffigur 1: Nifer y bobl mewn tlodi yn ôl oedran, 2002/ /13 Nifer y bobl mewn tlodi 250, , ,000 Mewn teulu sydd mewn-gwaith Mewn teulu allan-o-waith Mewn teulu sydd mewn-gwaith Mewn teulu allan-o-waith 100,000 50, / / / / / / / / / /13 Plant Ffynhonnell: Aelwydydd Islaw Incwm Cyfartalog, Adran Gwaith a Phensiynau; mae r data n defnyddio ffigyrau cyfartalog tair blynedd
3 Yn y grŵp oedran gwelwyd cynnydd mewn tlodi yn ystod y deng mlynedd diwethaf yng Nghymru, felly hefyd y grŵp ac i raddau llai y rhai rhwng 50 a 64 oed (gweler Ffigur 1). Mae tlodi pensiynwyr a thlodi plant wedi gostwng o tua 40,000 a 20,000 yn y drefn honno. Mae r nifer mewn tlodi mewn teuluoedd mewn-gwaith wedi cynyddu ym mhob grŵp oedran yn ystod y cyfnod deng mlynedd. Roedd 22,000 yn fwy o blant mewn teuluoedd mewn-gwaith mewn tlodi, ond 40,000 yn llai mewn teuluoedd allan-o-waith. I r rhai rhwng 30 a 64 oed, roedd niferoedd cynyddol mewn teuluoedd mewn-gwaith, a hynny n dileu r gostyngiad mewn tlodi allan-o-waith. O ran y rhai rhwng 16 a 29 oed, nid oedd unrhyw ostyngiad mewn tlodi allan-o-waith i wrthbwyso r cynnydd mewn tlodi mewn-gwaith. Y cynnydd cyffredinol mewn tlodi i rai rhwng 16 a 29 oed oedd 24,000, sy n cyfateb yn fras i r cynnydd cyfun i r rhai rhwng 30 a 64 oed. Roedd cynnydd o tua 10,000 mewn tlodi yn y rhai rhwng 30 a 49 oed mewn teuluoedd a oedd yn gweithio n llawn amser, ond gostyngiad bach i grwpiau oed eraill. Mae faint o waith a wneir o fewn y teulu n gwneud gwahaniaeth mawr i risg tlodi. O ran teuluoedd yn gweithio n rhannol, a oedd naill ai n gweithio n rhan amser, yn hunangyflogedig neu gydag un oedolyn yn gweithio n llawn amser ac un oedolyn ddim yn gweithio, roedd cynnydd o tua 100,000 mewn tlodi yn ystod y cyfnod o ddeng mlynedd. O i gymharu â hyn, mewn teuluoedd lle r oedd pob oedolyn yn gweithio gydag o leiaf un yn gweithio n llawn amser, nid oedd unrhyw gynnydd yn y nifer mewn tlodi yn y degawd diwethaf. Roedd y cynnydd mewn tlodi mewn-gwaith bron yn gyfan gwbl mewn teuluoedd a oedd yn gweithio n rhan amser. Yng Nghymru, mae 31 y cant o oedolion o oedran gweithio yn ddi-waith. Yn achos merched, mae r ffigwr hwn ychydig yn uwch, sef 34 y cant. Y ganran i grwpiau lleiafrifoedd ethnig yw 45 y cant, ac i bobl anabl mae n 55 y cant. Yng Nghymru bu gostyngiad uwch yn y cyfraddau hyn ers 2009 nag yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, ond mae cyfraddau uwch o ddiweithdra yng Nghymru o hyd. Ffigur 2: Cyfran y swyddi yng Nghymru â chyflog isel Holl swyddi Swyddi Llawn amser Swyddi rhan amser Holl swyddi DU Cyfran y swyddi ag enillion fesul awr islaw dwy ran o dair o r cyflog canolrif (y cant) Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion drwy NOMIS, Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) Mae Ffigur 2 yn dangos cyfran y swyddi yng Nghymru sydd â chyflog isel, wedi ei fesur ar sail eu bod yn cael eu talu islaw drwy ran o dair o r cyflog canolrif fesul awr yn y Deyrnas Unedig ( 7.69 yn 2014). Yn 2014, roedd 25 y cant o swyddi gweithwyr â chyflog isel, yn cyfateb i 270,000 o swyddi. Ers 2003, mae cyfraddau cyflog isel yng Nghymru wedi bod tri neu bedwar pwynt canran yn gyson uwch na r Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Yng Nghyllideb Haf 2015, cyhoeddodd y Canghellor fod cyflog byw newydd yn cael ei gyflwyno i r rhai dros 25 oed. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno yn Ebrill 2016, ar sail 7.20 yr awr, a bydd yn codi i 9 yn Ebrill Gan ddefnyddio Arolwg y Gweithlu a dadchwyddo r ffigyrau i brisiau 2014/15 gan amcangyfrif chwyddiant, bydd 200,000 o bobl neu 20 y cant o weithwyr 25 oed neu hŷn yn elwa ar gyfradd 2016.
4 Tai a thlodi Mae dosbarthiad deiliadaeth tai yn newid yng Nghymru; mae mwy o bobl yn byw yn y sector rhentu preifat neu n berchen eu tai eu hunain yn llwyr, tra bod y niferoedd sydd â morgais ac yn y sector rhentu cymdeithasol yn gostwng (er bod y newidiadau hyn yn digwydd yn araf. Mae gan Gymru un o r sectorau perchen-feddianwyr uchaf a r sectorau rhentu preifat isaf ymysg rhanbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig.) O ganlyniad, mae patrwm y bobl mewn tlodi yn ôl eu deiliadaeth tai hefyd yn newid yn araf. Yn y tair blynedd hyd at 2002/03, roedd 41 y cant o bobl mewn tlodi n byw yn y sector rhentu cymdeithasol, gan ostwng i 33 y cant yn 2012/13. Ar gyfer y sector rhentu preifat, bu cynnydd o 19 y cant i 28 y cant. Nid oedd unrhyw newid yng nghyfradd y bobl mewn tlodi a oedd yn byw yn eu cartrefi eu hunain, boed y bobl hynny n berchen yn llwyr ar eu tai ai peidio. Ffigur 3: Cyfran yr hawlwyr cymdeithasol yn cael eu heffeithio gan gosb tanfeddianaeth (chwith); cyfran yr hawlwyr Budd-dal Tai mewn-gwaith (dde) 22% a throsodd 19% i 21% 16% i 18% 15% ac is 19% a throsodd 16% i 18% 13% i 15% 12% ac is Mae Ffigur 3 yn dangos cyfran y rhai sy n derbyn Budd-dal Tai yn y sector rhentu cymdeithasol sy n cael eu heffeithio gan y gosb tanfeddianaeth (cyfeirir yn aml at hyn fel treth ystafell wely yn y map ar y chwith a chyfran y rhai sy n derbyn budd-dal tai (yn cynnwys lwfans tai lleol y budd-dal tai a delir fel arfer i bobl sy n rhentu n breifat) mewn-gwaith ar y map ar y dde. Y gosb tanfeddianaeth yw un o r newidiadau mwyaf gweladwy i fudd-dal tai a wnaed gan Lywodraeth Glymblaid Yng Nghymru mae n effeithio ar 30,000 neu 19 y cant o denantiaid cymdeithasol (o i gymharu â 14 y cant ym Mhrydain). Yr awdurdodau lleol sy n cael eu heffeithio fwyaf yw r Cymoedd, yn arbennig Blaenau Gwent, gyda chwarter y tenantiaid cymdeithasol yn cael eu heffeithio. Ardaloedd eraill sy n cael eu heffeithio n arbennig yw Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Gallai hyn adlewyrchu r mathau o gartrefi cymdeithasol a adeiladwyd yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â pha gyfnod yn eu bywydau y mae r tenantiaid. Mae ardaloedd lle mae cyfran uwch o hawlwyr budd-dal tai mewn-gwaith yn gallu adlewyrchu cyfuniad o nifer isel o oriau neu waith â chyflog gwael yn ogystal â chostau rhentu uwch. Mae daearyddiaeth yr ardaloedd hyn ychydig yn wahanol. Yr uchaf yw Caerdydd, sef 22 y cant, ond mae r pedwar ffigwr uchaf nesaf i gyd yn ardaloedd mwy gwledig, fel Sir Benfro a Cheredigion.
5 Sancsiynau budd-dal i hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith Ffigur 4: Nifer y sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith fesul blwyddyn yn ôl oedran y sawl sy n derbyn y sancsiwn Nifer y sancisynau fesul blwyddyn 50,000 45,000 40,000 35,000 30,000 25,000 20,000 15,000 10,000 5, Ffynhonnell: Stat Xplore, Adran Gwaith a Phensiynau Mae sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith yn cynnwys atal budd-dal yn gyfan gwbl am gyfnod penodol o wythnosau. Tra bod sancsiynau ar gyfer budd-daliadau eraill (Lwfans Cyflogaeth a Chymhorthdal Incwm i rieni sengl), sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith yw r rhai mwyaf cyffredin o ddigon. Yn 2014, roedd 30,00 o sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith, oedd yn is o i gymharu â 43,000 yn Fodd bynnag, yr hyn sydd i gyfrif am y gostyngiad hwn yn bennaf yw r nifer llai o hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith yn 2014 o i gymharu â Mae Ffigur 4 yn dangos mai r rhai rhwng 16 a 24 oed yw r grŵp oedran mwyaf sy n colli budd-daliadau. Yn 2014, derbyniodd rhai rhwng 16 a 24 oed 13,000 o r 30,000 o sancsiynau, 44 y cant o r cyfanswm. ar gyfartaledd, ym mhob mis yn 2014, cafodd 7 y cant o hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith rhwng 16 a 24 eu heffeithio gan sancsiynau. Mae nifer y sancsiynau a dderbyniwyd yn gostwng ar sail oedran, felly y rhai rhwng 25 a 34 oed a dderbyniodd y nifer uchaf wedyn o sancsiynau, yn yr achos hwn 8,000. Mae hyn yn gyfystyr â 4.4 y cant o r grŵp oed rhwng 25 a 34 sy n hawlio budd-dal bob mis. Mae cyfradd sancsiwn i bob grŵp oedran yn uwch na deng mlynedd yn ôl. Roedd cyfradd sancsiwn i fenywod yn 2014 yn is na r gyfradd gyffredinol (4 y cant o hawlwyr y mis yn hytrach na 5 y cant), ond roedd cyfradd sancsiwn i grwpiau lleiafrifoedd ethnig bron ddwywaith yn uwch, sef 9 y cant.
6 Casgliad Mae r tueddiadau cyffredinol o ran tlodi yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd diwethaf wedi adleisio r tueddiadau drwy r Deyrnas Unedig yn gyffredinol: mae mwy o bobl o oedran gweithio, ond yn arbennig oedolion ifanc, mewn tlodi, yn ogystal â phobl mewn tai rhent preifat a phobl mewn teuluoedd sydd mewn gwaith. Nid yw Cyllideb Haf 2015 wedi darparu llawer o gymorth i oedolion ifanc: nid yw r cyflog byw newydd yn berthnasol i r rhai o dan 25 oed, ac roedd toriadau i fudd-daliadau tai y rhai rhwng 18 a 21 oed. Mae hyn yn ychwanegol at feysydd eraill o bolisi cyhoeddus, fel sancsiynau, sy n cael effaith anghymesur ar bobl ifanc. Yr ochr arall i r geiniog o bosibl yw bod isafswm cyflog is yn golygu bod mwy o apêl i gyflogwyr gyflogi rhai o dan 25 oed. Mae hanes tlodi wedi bod yn fwy cadarnhaol ar y cyfan i blant a phensiynwyr. Fodd bynnag, mae cylch newydd o newidiadau lles yng Nghyllideb Haf 2015 yn bygwth tanseilio r cynnydd a wnaed i blant. Yn 2012/13, bu r credydau treth yn fodd i godi 100,000 o blant allan o dlodi yng Nghymru, a chefnogwyd incwm 160,000 pellach a oedd yn dal mewn tlodi. Tra bod y cyflog byw n gwneud iawn i raddau, yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol nid yw r cynnydd mewn cyflogau erbyn 2020 yn gwneud iawn am doriadau i gredyd treth na r toriadau i Nawdd cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Hefyd, mae effeithiau gwahanol iawn o ran dosbarthiad. Pwrpas credydau treth yn bennaf yn helpu r rhai gyda phlant, oherwydd nid yw cyflogwyr yn talu cyflogau uwch i bobl gyda phlant. Felly gallai dibynnu mwy ar gyflogau uwch yn hytrach na chredydau treth fod yn llai o gymorth i r rhai gyda phlant. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai sy n gweithio ychydig o oriau, grŵp sydd wedi bod yn gyfrifol i raddau helaeth am y cynnydd mewn tlodi mewn-gwaith yn ystod y degawd diwethaf. Yn ôl yr adroddiad diwethaf yn y gyfres hon, roedd y rhai a oedd yn derbyn credydau treth gwaith yn byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Un arall o ganlyniadau r Gyllideb felly, yw y bydd ardaloedd gwledig Cymru n cael eu taro n galed gan doriadau i gymorth mewn gwaith. Mae datganoli n gallu gadael bylchau mewn polisi rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, tra bod y Gyllideb wedi gostwng oed y plentyn ieuengaf lle mae disgwyl i rieni sengl chwilio am waith drwy r Deyrnas Unedig, roedd y cyhoeddiad a wnaed yr un pryd fod gofal plant i blant tair a phedair oed yn cael ei ehangu, yn berthnasol i Loegr yn unig (gan fod gofal plant yn faes datganoledig). Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i fesurau r gyllideb sy n peri risg i dlodi cynyddol a newidiadau o fewn Cymru sy n golygu bod tlodi n dod yn fwy o broblem i oedolion ifanc sy n gweithio ac sy n byw yn y sector rhentu preifat. Am y prosiect Mae r ymchwil hwn yn rhan o gyfres barhaus o adroddiadau sy n monitro tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru. Mae r papur hwn yn defnyddio r setiau data cyhoeddus diweddaraf yn y Deyrnas Unedig i ymchwilio i r tueddiadau, a u deall. I GAEL MWY O WYBODAETH Mae r crynodeb hwn yn rhan o raglen ymchwil a datblygu Sefydliad Joseph Rowntree. Mae r safbwyntiau n eiddo i r awduron ac nid ydynt o anghenraid yn cyd-fynd â rhai Sefydliad Joseph Rowntree. Mae adroddiad Monitro tlodi ac allgáu cymdeithasol ar gael i w lawrlwytho am ddim o wefan Sefydliad Joseph Rowntree, Gallwch ddarllen mwy o grynodebau ar Mae fformatau eraill ar gael ISSN Joseph Rowntree Foundation The Homestead 40 Water End York YO30 6WP Rhif ffôn: e-bost: publications@jrf.org.uk mailto: publications@jrf.org.uk Cyf: 3143
Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service
Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service 1 Mae r Tîm Ansawdd i Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationBuy to Let Information Pack
Buy to Let Information Pack The information provided in this pack is a duplicate of the information provided on display boards at the Drop-in event on Friday 6 th May 2016 in Fairbourne Village Hall. Please
More informationArsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU
Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU Medi 2004 CYNNWYS Rhifau r tudalennau Crynodeb gweit hredol 3-7 Adran 1 Rhagymadrodd a methodoleg 8-10 Adran
More informationPecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol
/ (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod Pynciau & agweddau: Cymraeg Saesneg TGCh Addysg Byd Dinasyddiaeth Sgiliau: Llythrennedd Digidol Adnoddau cefnogol: Taflen Waith Llyfryn yr Eisteddfod Dolen i
More informationCôd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Mae r lluniau yma yn dod o Photo Symbols Gwnaed y ddogfen hon yn rhwydd ei darllen gan VoiceAbility Mae r geiriau a amlygir a u hystyron yn y rhestr geiriau
More informationDeddf Awtistiaeth i Gymru
Deddf Awtistiaeth i Gymru Until everyone understands Nes bydd pawb yn deall CYNNWYS Rhagair gan Mark Lever, Prif Weithredwr, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cyflwyniad 03 04 05 06 07 08 Diagnosis a
More informationHM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497
HM Land Registry THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1 Date 08 May 2018 Your Ref DLA/P5472-1 Our Ref RCS/ HM Land Registry Wales Office PO Box 75 Gloucester GL14 9BD DX 321601 Gloucester 33 Tel 0300 006 0009 wales.office@
More informationAdran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon
Mae r data o r papur: Archwilio Perthnasoedd mewn Dimensiynau Corff Grete Heinz a Louis J. Peterson San José State University Roger W. Johnson a Carter J. Kerk South Dakota School of Mines and Technology
More informationDEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil
DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil APPROX. 5.54 ACRES (2.24 HECTARES) ALLOCATED FOR HOUSING Upper Georgetown Plateau Merthyr Tydfil CF48 1BZ Adjacent to Kier Hardie Health Park Very close to facilities
More informationCyflwyniad cyflym i Parkinson s
Cyflwyniad cyflym i Parkinson s A quick introduction to Parkinson s Welsh Os ydych newydd dderbyn eich diagnosis, neu os ydych yn adnabod rhywun sydd newydd gael gwybod, mae n debyg bod gennych lawer o
More informationYR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus
YR HYN Y DYLAI ATHRAWON WYBOD Y TORIADAU UNDEB CENEDLATHOL YR ATHRAWON MAE YNA DDEWIS ARALL Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus Yr undeb athrawon mwyaf www.teachers.org.uk Gwanwyn
More informationDadansoddiad disgrifiadol o iechyd yng nghyffiniau Gwaith Hanson Cement
Dadansoddiad disgrifiadol o iechyd yng nghyffiniau Gwaith Hanson Cement Chwefror 2011 Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru Awduron: Rhys Gibbon, Dr Ciaran Humphreys, Claire Jones, Nathan Lester, Margaret Webber
More informationBeth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?
Pa fath o wlad oedd Cymru yn yr Oesoedd Canol (tua 1000)? Pa fath o gestyll sydd i w gweld yng Nghymru heddiw? Pa effaith gafodd y Normaniaid ar Gymru? I ba raddau y dylai Owain Glyndwr gael ei gofio yng
More informationConfensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi?
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi? 2 Cynnwys Beth mae r canllaw 3 yma n ei gynnwys Rhan 1 4 Cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl
More informationBeth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?
Pa fath o wlad oedd Cymru yn yr Oesoedd Canol (tua 1000)? Pa fath o gestyll sydd i w gweld yng Nghymru heddiw? Pa effaith gafodd y Normaniaid ar Gymru? I ba raddau y dylai Owain Glyndwr gael ei gofio yng
More informationFamily Housing Annual Review
Family Housing Annual Review 2013-14 Statement from Chief Executive Last year has seen significant change for Family Housing also significant achievements in terms of the delivery of services and new homes.
More informationEffaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg
Huw Dylan Owen a Steve Morris Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd
More informationDatganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!
DYDDIAD: 10/07/2018, dim embargo Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da! Mae'n bleser gennym gyflwyno Cynhadledd Genedlaethol Cymdeithas Atal Dweud Prydain 2018 i ddinas brydferth Caerdydd ar gampws
More informationCynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog
Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol 2015 Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog Enillwyr Gwobrau Gwireddu r Geiriau 2015 Mae Gwobrau Gwireddu r
More informationAnatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth
Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth Gan Imogen Blood, Ian Copeman & Jenny Pannell Hydfref 2015 1 Cydnabyddiath Hoffai r awduron gofnodi eu diolch i r
More informationNo 7 Digital Inclusion
No 7 Digital Inclusion 7 Digital Inclusion Active Response 7 will reflect on the issues that have arisen around the lack of engagement of some sectors of the community in recent technological advances.
More informationAdran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith
Mae r data o r papur: Archwilio Perthnasoedd mewn Dimensiynau Corff Grete Heinz a Louis J. Peterson San José State University Roger W. Johnson a Carter J. Kerk South Dakota School of Mines and Technology
More informationAnhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru
Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru Rhagfyr 2010 ISBN 978 0 7504 5977 8 Hawlfraint y Goron 2011 WAG10-11196 F1141011 2 Cynnwys Tudalen Beth yw Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig?
More informationMentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin
Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin Alcohol Concern Alcohol Concern yw r elusen genedlaethol ar gamddefnyddio alcohol, gan ymgyrchu dros bolisi alcohol
More informationDevelopment Impact Assessment
Development Impact Assessment Impact Asssessment in respect of rights and Covenants on Development Property: 56 Cedar Wood Drive Third party interests such as rights and covenants can have a negative effect
More informationCriw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc
Criw Celf 2017/18 Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc Criw Celf Participants 2016/17 Cyfranogwyr Criw Celf 2016/17 Imogen Sadler Imogen
More informationA: Property Register / Cofrestr Eiddo
THIS IS A PRINT OF THE VIEW OF THE REGISTER OBTAINED FROM HM LAND REGISTRY SHOWING THE ENTRIES SUBSISTING IN THE REGISTER ON 24 MAY 2017 AT 11:04:26. BUT PLEASE NOTE THAT THIS REGISTER VIEW IS NOT ADMISSIBLE
More informationAgenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1
Agenda Item 3 Public Accounts Committee Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations January 2017 National Assembly for Wales Public Accounts Committee Pack Page 1 The National Assembly for
More informationAnatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.
Heading Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth /1 Manylion cyswllt Gofal Cymdeithasol
More informationIechyd Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd
Living With Environmental Change Iechyd Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd Cerdyn Adroddiad 2015 Mae r Cerdyn Adroddiad Byw gyda Newid Amgylcheddol (LWEC) hwn ar gyfer y rhai sy n gyfrifol am iechyd cymunedau
More informationHawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg Cyhoeddwyd yn unol ag Adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 1 Cynnwys Rhagair Rhagair 3 Cefndir 4 Adroddiad cryno 6 Rhan 1: Mae gwasanaethau
More informationWreiddio. Crynodeb. Dinas a Sir. yn y pen draw. Abertawee. newydd i CDSA. equivalent/fte) yn. corfforaethol ailddefnyddio, m 2.
Astudiaeth Achos: Defnyddio Strategaeth Gaffael Arloesoll i Wreiddio Cylcholdeb yn Adnewyddiad Swyddfa Canolfann Ddinesig Cyngor Abertawee Crynodeb Ffeithiau Allweddol Yn ystod 2017, dechreuodd Cyngor
More informationProfion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth
Adroddiad Cryno Profion casglu a monit tro WEEE: adlewyrchu mewn cytundebau awdurdod Cod prosiect: EEE520-021 Dyddiad yr ymchwil: Tachwedd 2015 Chwefrorr 2016 Dyddiad: Mawrth 2016 Gweledigaeth WRAP yw
More informationBil Cyllido Gofal Plant (Cymru)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Gorffennaf 2018 www.cynulliad.cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff
More informationISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697
ISBN digidol 978 1 4734 2505 7 Hawlfraint y Goron WG23697 Cynnwys Cefndir 2 Nodyn gan yr Athro Ian Diamond 3 Cais am dystiolaeth 4 Manylion yr atebydd 5 Holiadur 6 Atodiad A: Cylch gorchwyl y Panel Adolygu
More informationPWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018
PWYSEDD GWAED UCHEL Sut allwn ni wneud yn well? 1 Dyddiad adolygu: Chwefror 2018 Yn y daflen hon, cewch arweiniad ymarferol gan feddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr ar sut i wella trefniadau canfod a rheoli
More informationGan Heini Gruffudd a Steve Morris
Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy n Dysgu r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-gymraeg Gan Heini Gruffudd a Steve Morris Hawlfraint
More informationCynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) Archwiliad Sesiwn Gwrandawiad 8 YNNI ADNEWYDDADWY 9.30 yb, Dydd Iau 15 Medi 2016 Datganiad ysgrifenedig pellach a thystiolaeth i w hystyried gan
More informationCefnogi gwaith eich eglwys
Elusen Gofrestredig Rhif: 1142813 Rhifyn Hydref 2017 2 Am fwy o cysylltwch: Â ch Trysorydd lleol neu Yr Eglwys yng Nghymru 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd. CF10 5BT rhoiynsyth@eglwysyngnghymru.org.uk gwaith
More informationTystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg
Defnyddio r Gymraeg: Canolradd B1 2018 Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg LLYFRYN YR YMGEISYDD Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). WJEC
More informationAtrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018
Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, 13-14 April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, 13-14 Ebrill 2018 Dame Venodotia, alias Modryb Gwen. A map of North Wales.... Designed
More informationRHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC
RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007 Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC Cynnwys 2 Cyflwyniad y Cadeirydd 5 Trosolwg Ymddiriedolaeth y BBC 9 Beth ydyw a beth mae n ei wneud 12 Yr Ymddiriedolwyr
More informationGwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus
Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru Prosbectws i Israddedigion Social Work in Wales Undergraduate Prospectus Dysgu sy n Newid Bywydau Mae popeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn dechrau ar eich taith gyda
More informationCYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG
Rhif 6 Gorffennaf 2010 ISSN 1741-4261 CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG Golygydd: Yr Athro Ioan Williams Cyhoeddwyd gyda chymorth: 1 Rhif 6 Gorffennaf 2010 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I
More informationGynhyrchu gwartheg bîff a defaid organig yn yr ucheldiroedd
Canllaw Technegol Ffermio Organig Arweinlyfr ffermwr i: Gynhyrchu gwartheg bîff a defaid organig yn yr ucheldiroedd David Frost a Mair Morgan, ADAS Pwllpeiran Simon Moakes, IBERS Mawrth 2009 Cydnabyddiaeth
More informationGwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1
Gwobrau 2015 Enillwyr Prif noddwyr 1 Prif noddwyr Cyflwyniad Heb ymgeiswyr am Wobrau CEW ni fyddai cyfle i ddathlu rhagoriaeth y sector adeiladu yng Nghymru. Ac heb noddwyr, ni fyddai digwyddiad dathlu
More informationDyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru
Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru 2017 Cymru Cyfeiriwch at y geirfa ar y dudalen ôl am ddiffiniad o'r testun sydd wedi ei oleuo'n las. Cyflwyniad Mae r ucheldiroedd yn nodwedd allweddol o
More informationLlenydda a Chyfrifiadura
Llenydda a Chyfrifiadura Ifor ap Dafydd Archif Llenyddiaeth Cymru / The Welsh Literature Archive Cyflwyniad Awr Ginio 03/02/10 J. Guttenburg (1397?-1468) (Artist anhysbys G19) Yny lhyvyr hwnn John Price,
More informationYmgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol
Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol Adroddiad dadansoddi r ymgynghoriad Ynghylch yr adroddiad hwn 1. Mae r adroddiad hwn yn crynhoi r ymatebion i r ymgynghoriad
More informationW32 05/08/17-11/08/17
W32 05/08/17-11/08/17 2 Hedd Wyn: The Lost War Poet 3 The Bug Grub Couple 4 Cardiff Bay Lives 5 Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Bodedern, Ynys Môn / Anglesey
More informationWelsh Conservative Manifesto for Local Government
Welsh Conservative Manifesto for Local Government MAY 2017 FOREWORD Welsh Conservatives believe that strong and effective local government should put power back into your hands, giving people across Wales
More informationGWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru. 1
GWOBRAU TAI CYMRU 2017 COMPENDIWM ARFER DA Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru 2017 www.cih.org 1 Sponsored Noddwyd by gan Cymru Adnewyddu Cymunedau Trawsnewid Bywydau O fewn Lovell, rydym
More informationCyfnodolyn Academaidd Cymraeg
Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg Golygydd: Dr Anwen Jones Rhif20 Hydref 2015 ISSN 1741-4261 Golygydd: Dr Anwen Jones Cyhoeddwyd gyda chymorth: C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd:
More information14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall
14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall Attendees Emma North, Planning, City and County of Swansea Councillor Paul Northcote,
More informationEisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 Y Lle Celf Noddwyr Balch Medal Aur am Bensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cymru wedi i dylunio n well Cynnwys Contents 3 Gair o r Gadair A Word
More informationAdnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol I gael rhagor o wybodaeth a dolenni gwe sy n berthnasol i r maes ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/is/subject/interpol/ Cyflwyniad Mae astudio Gwleidyddiaeth
More informationYr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts
Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts Nodweddion arwyddocaol: Ymchwil ddiweddar i hanes Cymru; Bylchau yn yr ymchwil i hanes Cymru; Dyfodol disglair felly i hanes Cymru?
More informationSut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth
Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth 2015 2016 dwrcymru.com PRE 0081 2 Weithiau, mae pethau n mynd o chwith Ein nod bob amser yw sicrhau ein bod yn gwneud pethau n iawn y tro cyntaf, bob tro
More informationGwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr SAMPL
Cynnwys 1. Taflen grynhoi ar gyfer y panel maethu 2. Adran A Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr 3. Adran B Gwybodaeth ansoddol, gwerthusiad ac argymhelliad ar addasrwydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr
More information33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL
33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL Home Information Pack Index About this form: 33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL Under the Home Information Pack (No. 2) Regulations 2007, you must include
More informationNEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:
Rhifyn. 63 Elusen Rhif 1043989 Haf 2014 NEWYDDION Cwmni Cyfyngedig gan Warant Rhif 2993429 I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar: /AVOWWrexham @AVOWWrexham Yn Y Rhifyn Hwn 03 04 05 06 07 08 09
More informationRecriwtio: Ystyried y Gymraeg
Recriwtio: Ystyried y Gymraeg comisiynyddygymraeg.cymru Cefndir Prif nod Comisiynydd y Gymraeg, sefydliad annibynnol a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw hybu a hwyluso defnyddio r Gymraeg.
More informationDatganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC
Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC 2009/2010 Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC 2009/2010 1 Cynnwys Datganiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol... 3 Teledu... 5 BBC One... 5 Atodiad BBC One Scotland... 9 Atodiad
More informationCyngor Cymuned Llandwrog
Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion Cyfarfod y Cyngor 15 Medi 2014 Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 1 - Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion y cyfarfod o Gyngor Cymuned Llandwrog a gynhaliwyd Nos Lun,
More informationCYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL
CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL Cynhaliwyd Cyfarfod o r Cyngor Cymuned Nos Fercher, Medi 30ain 2015 am 7.30 yh yng Nghanolfan Gwytherin Ymddiheuriadau: Elen H Edwards, R Emlyn Williams,
More informationMAPIAUMAPS. Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales
MAPIAUMAPS Y map hynaf yng nghasgliad y Llyfrgell, map Ptolemaidd o Ynysoedd Prydain, a brintiwyd ym 1486 The oldest map in the Library s collection, a Ptolemaic map of the British Isles, printed in 1486
More informationADRODDIAD GAN GOMISIWN ATHRAWIAETH SEFYDLOG YR EGLWYS YNG NGHYMRU YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW
ADRODDIAD GAN GOMISIWN ATHRAWIAETH SEFYDLOG YR EGLWYS YNG NGHYMRU YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW Mawrth 2014 YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW Cyflwyniad i r adroddiad
More informationCronfa Buddsoddiadau Cyffredin yr Eglwys yng Nghymru. Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2014
Cronfa Buddsoddiadau Cyffredin yr Eglwys yng Nghymru Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2014 Cynnwys Adroddiad yr Ymddiriedolwr... 1 Datganiad o Gyfrifoldebau
More informationMEDDYLIWCH AM FYD NATUR SUT MAE RHOI BYWYD I DDATBLYGU CYNALADWY
MEDDYLIWCH AM FYD NATUR SUT MAE RHOI BYWYD I DDATBLYGU CYNALADWY Mark Hamblin (rspb-images.com) Os ydym am ymestyn ein bodolaeth ein hunain, mae n rhaid i ni ddiogelu n hamgylchfyd y byd naturiol rydym
More informationCycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru
Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru FCC Environment From waste to resource. FCC Environment are the leading UK waste and resource
More informationRhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development
Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017/18 ANNUAL REPORT 2017/18 What is PLANED? Pembrokeshire
More informationCYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016
CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016 www.swanseacommunityenergy.org.uk Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Cynllun Ynni a
More informationSAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi
SAETHU YNG NGHYMRU er budd cefn gwlad a chymuned y r ac h o s dro s gefnogi r h aga i r Rwyf wir yn credu bod saethu yng nghefn gwlad Cymru n rhan annatod o ddiwylliant a thraddodiadau campau ein cenedl.
More informationCod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil
Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil 2017-2020 1 Cyflwyniad Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol uchel mewn perthynas â r ymchwil a wneir gan ei staff a i myfyrwyr,
More informationMynwent ganoloesol gynnar a gwersyll adeiladu Rhufeinig o dan Ysgol Yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon
Mynwent ganoloesol gynnar a gwersyll adeiladu Rhufeinig o dan Ysgol Yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon Cloddiadau archaeolegol o waith Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd i Gyngor Gwynedd Ymddiriedolaeth
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC (2007) 022 Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ Cathays Park Cardiff CF10 3NQ Dyddiad Cyhoeddi: 20 Ebrill 2007 Statws: Gweithredu Teitl: Datganiad Polisi a Fframwaith Gwasanaeth
More informationAROLWG BLYNYDDOL 2003 2004 2005 2006-2007 2008 2009 2010 2 Prifysgol Cymru, Bangor 2 Gair gan yr IS-GANGHELLOR Unwaith eto, gallaf nodi fod y Brifysgol wedi mynd trwy gyfnod o newid yn ystod y flwyddyn
More informationYMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/
YMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/ Rhan Un: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2008/09 Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC CAEL Y GORAU O R BBC AR GYFER TALWYR FFI R DRWYDDED. 02 / TROSOLWG
More informationTraddodiad a newydd-deb. yn nofelau Wiliam Owen Roberts
Traddodiad a newydd-deb yn nofelau Wiliam Owen Roberts Non Meleri Hughes Traethawd a gyflwynwyd ar gyfer gradd PhD Prifysgol Bangor 2011 2 DATGANIAD Nid yw sylwedd y gwaith hwn wedi cael ei dderbyn o r
More informationBODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG
BODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG 104.23 acres (42.18 hectares) or thereabouts of land including a substantial character residence with garden grounds and a walled garden
More informationFFI LM A R CYFRYN GA U
FFY DD Y N Y F F R ÂM C YNNAU R F F L AM A S T U DI O S Ê R Y N Y MA E S F F IL M IAU YSG RIFAU AR T WIN TOW N, F F I L M I AU R 1 9 9 0 au FFI LM A R CYFRYN GA U C AM P HYS BYS E B U A R P L E NT YN S
More informationEisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf Cynnwys Contents 3 Rhai Cwestiynau Hynod o r Gadair 4 Some Extraordinary Questions from the Chair Thomas Williams Y Lle Celf 2018 8 David Alston Sylwadau
More informationEdexcel TAG. Mehefin Edexcel TAG mewn Iechyd a. Gofal Cymdeithasol. Papurau enghreifftiol gyda chvnlluniau marcio. dysgu uwch, newid bywyd
Edexcel TAG Edexcel TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Sengl (8741) Edexcel TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Dwbl) (8742) Edexcel TAG Uwch mewn
More informationMwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn
Dr Rhys Dafydd Jones Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd: Dr Anwen Jones 9 Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad,
More informationAmrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau
Phylip Brake Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau Rhif 7 Ionawr 2011 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I D D C Y M R A E G 9 Amrywio ieithyddol ymhlith
More informationDatblygu r Cwricwlwm Cymreig
Datblygu r Cwricwlwm Cymreig Cyfeiria r llyfryn hwn at y Cwricwlwm Cymreig pan yn cyfeirio at Ofyniad Cyffredin y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac at Gwricwlwm Cymreig pan yn cyfeirio at ddadansoddiad ysgolion
More informationDYFED ARCHAEOLOGICAL TRUST NEWSLETTER SUMMER 2014 NEWYDDLEN HAF 2014 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL DYFED
DYFED ARCHAEOLOGICAL TRUST NEWSLETTER SUMMER 2014 NEWYDDLEN HAF 2014 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL DYFED www.dyfedarchaeology.org.uk www.archaeolegdyfed.org.uk Dyfed Archaeological Trust is an independent
More informationPR and Communication Awards 2014
PR and Communication Awards 2014 PR and Communication excellence in the Welsh social housing sector The third PR and Communication Awards Ceremony was held during CHC's Communications Conference in Llandrindod
More informationCYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council
CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL Swyddfa r Cyngor, Llawr y Llan, Lon Goch, Amlwch, Ynys Mon, LL68 9EN Ebost/Email: swyddfa@cyngortrefamlwch.co.uk Ffon/Tel: 01407 832 228 Cyngor Tref Amlwch Town Council
More informationRheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?
Yr Athro R. Gwynedd Parry Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd? Rhif 9 Rhagfyr 2011 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I D D C Y M R A E G 9 Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?
More informationSir Ddinbych / Denbighshire Phil Lord. Sir y Fflint / Flintshire Phil Lord
Cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru, Ebbw Vale, 25 Tachwedd 2015 (10.30am 3pm) Wales Association of SACREs meeting, Ebbw Vale, 25 November 2015 (10.30am 3pm) Ynys Môn / Anglesey Bethan James Rheinallt Thomas
More informationBusiness development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio
Business deveopment support and networking patform Cefnogaeth i ddatbygu busnes a wyfan rhwydweithio Cyfwyniad 02 Fe sefydwyd Waes and West Energy i gynorthwyo datbygiad cwmnïau eo a rhanbartho drwy ddarparu
More informationNEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!
Rhifyn 55 Haf 2012 Elusen Rhif 1043989 Cwmni Cyfyngedig gan Warant rhif 2993429 NEWS www.avow.org www.avow.org Tŷ Avow 21 Egerton Street 21 Stryd Egerton Wrexham Wrecsam LL11 1ND Tel/Ffôn: 01978 312556
More informationNewyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd
Newyddion Ansawdd Dathlu dwy flynedd Rhifyn 24 Chwefror 2011 Cynhadledd Breswyl POWIS Mae ymrwymiad ein hysgolheigion yn glir ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eu bod yn datblygu n gyflym i fod yn arloeswyr
More informationMagnox s socio-economic scheme has donated 50,000 to the Cylch Y Llan Trust to transform the former Grade II* St Deiniol s Church in Llanuwchllyn.
Magnox Socio-economic Funding in the Community The Magnox socio-economic scheme provides funding to support activities that benefit the social or economic life of communities, in support of the NDA s responsibilities
More informationBangoriad /6/04 1:41 pm Page 1. The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor
Bangoriad 2004 9/6/04 1:41 pm Page 1 2004 The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor Bangoriad 2004 9/6/04 1:41 pm Page 2 Bangoriad 2004 Welcome to the latest
More informationBwletin Gorffennaf 2017
Bwletin Gorffennaf 2017 Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Wythnos Sgiliau Unwaith eto mae r ysgol wedi trefnu wythnos o weithgareddau gyda r nod o ehangu gorwelion ein disgyblion, a hynny
More informationBwletin i Rieni - Hydref 2014
Bwletin i Rieni - Hydref 2014 Dyddiadau Pwysig 27.10.14 31.10.14 Gwyliau Hanner Tymor. 03.11.14 Yr ysgol ar agor yn dilyn hanner tymor. 18.11.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 8 02.12.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 7 Croeso!
More informationCYMDEITHAS EDWARD LLWYD. Y Naturiaethwr. Cyfres 2 Rhif 4 Gorffennaf 1999
CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 4 Gorffennaf 1999 Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i r cyhoedd: 2.50 Gellir cael ô-rifynnau: Cyfres 1, Rhif 1 33 (1979-95)
More informationRural Crime Forum. MONDAY 23 JULY :00-12:30 FUW Building Royal Welsh Showground. Panel Members. Are we doing enough to tackle rural crime?
Rural Crime Forum MONDAY 23 JULY 2018 11:00-12:30 FUW Building Royal Welsh Showground Panel Members Are we doing enough to tackle rural crime? Dyfed-Powys is the largest police force area in both England
More information