Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog
|
|
- Lucas Green
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol 2015 Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog Enillwyr Gwobrau Gwireddu r Geiriau 2015
2 Mae Gwobrau Gwireddu r Geiriau yn cydnabod ac yn dathlu pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a r gwaith eithriadol sy n cael ei gyflawni gan unigolion a thimau. Mae r llyfryn hwn yn amlygu enillwyr gwobrau 2015 a u mentrau y rheini sydd wedi mynd yr ail filltir er mwyn sicrhau fod cleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn gallu derbyn gwasanaeth da yn Gymraeg. Gwobr Arbennig y Gweinidog Ward B2 Ysbyty Cwm Rhondda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mae Ward B2 yn Ysbyty Cwm Rhondda yn ward sy n gweithredu n ddwyieithog. Nod y prosiect oedd rhoi staff sy n siarad Cymraeg ar un ward yn yr ysbyty a gofyn i r cleifion a fyddent yn dymuno mynd i r ward hon lle gallant dderbyn eu gofal a u triniaeth yn eu dewis iaith. Mae staff eraill ar y ward fel y porthorion a staff arlwyo hefyd yn gallu delio â r cleifion ar y ward yn Gymraeg. Roedd hwn yn ddefnydd trawiadol o n hased mwyaf gwerthfawr, sgiliau gweithlu r GIG. Cleifion hirdymor fel arfer yw r cleifion yn yr ysbyty hwn, felly mae r gallu i siarad Cymraeg gyda r staff wedi gwneud gwahaniaeth mawr i r cleifion. Mae staff y ward wedi gweld newid cadarnhaol yn agweddau r staff a r cleifion ac mae ymateb y cleifion a u teuluoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn. Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford AC, Rwyf o r farn mai r fenter Ward B2 yn Ysbyty Cwm Rhondda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Rhondda sy n haeddu Gwobr Arbennig y Gweinidog eleni. Mae hon yn fenter glodwiw o roi egwyddor y cynnig rhagweithiol ar waith. Mae r fenter hefyd yn dangos ei bod yn bosibl, hyd yn oed mewn ardal nad yw n cael ei hystyried yn un draddodiadol Gymraeg, i sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg gael gwasanaethau gofal iechyd yn eu hiaith gyntaf, drwy wneud y defnydd gorau o sgiliau ac adnoddau r staff presennol.
3 Y Gwobrau Enillwyr Gwaith â Grwpiau sy n Flaenoriaeth a) Teuluoedd, plant a phobl ifanc Enillydd: Cael y Ffeithiau Adnodd Iechyd a Lles Emosiynol i Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Fel modd i gynorthwyo gweithwyr y sectorau iechyd ac addysg i addysgu plant a phobl ifanc am broblemau iechyd meddwl a lles emosiynol, datblygwyd yr adnodd yma. Mae r adnodd yn cynnwys cynlluniau dysgu, adnoddau allanol a DVD. Mae r DVD wedi ei wahanu i adran i blant ysgolion cynradd ac adran i blant ysgolion uwchradd ac yn delio gyda phroblemau iechyd meddwl a lles emosiynol mewn ffordd hawdd i w ddefnyddio gan gynnwys cyflwynwyr proffesiynol a phlant yn actio a hynny yn Gymraeg. Mae r adnodd yn cael ei ymestyn i holl ysgolion Sir Benfro yn ogystal ag ysgolion yng Nghasnewydd a Chaerdydd. b) Pobl hŷn Enillydd: Cartref Preswyl Foxtroy House, Pen-y-bont ar Ogwr O ganlyniad i ddarllen strategaeth Mwy na geiriau... roedd y cartref preswyl i r henoed yma yn ymwybodol o r angen i greu cynllun gweithredu i wireddu r cynnig rhagweithiol. Crëwyd sesiynau Gofalu yn Gymraeg Caring in Welsh yn y cartref i ymateb i r angen am wasanaethau iaith Gymraeg gan y preswylwyr. Mae r sesiynau yma yn trafod diwylliant Cymru, bingo, canu emynau Cymraeg a llu o weithgareddau eraill sy n cynnwys y Gymraeg. Wedi r sesiynau yma â r preswylwyr, mae sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnig i r staff i sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaethau yn Gymraeg.
4 c) Defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl Enillydd: Pecyn Offer Asesu Gwybyddol Prifysgol Bangor O ystyried pa mor hanfodol i ofal claf yw derbyn diagnosis o broblemau iechyd meddwl cyn gynted â phosib, mae defnyddio mesurau safonol mewn iaith nad yw n iaith gyntaf i r claf i bennu diagnosis yn gallu effeithio n negyddol ar y driniaeth. Gan fod problemau iechyd meddwl (megis dementia) yn gallu effeithio ar allu cleifion i ddefnyddio eu hail iaith (yn enwedig wrth i r salwch waethygu), roedd cael y mesurau safonol yma yn y Gymraeg yn holl bwysig i ofal cleifion Cymraeg eu hiaith. Cyfieithwyd Pecyn Offer Asesu Gwybyddol Cymdeithas Alzeheimer gan y grŵp yma gan ddilysu tri o r mesurau asesu gwybyddol yn ieithyddol. O ganlyniad, gellir asesu siaradwyr Cymraeg trwy r Gymraeg yn ôl yr angen. ch) Pobl ag anableddau dysgu gan gynnwys therapi iaith a lleferydd Enillydd: Gaf i ymuno â ti? Derwen: Tîm Integredig Plant Anabl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr / Cyngor Gwynedd Crëwyd adnodd gan y tîm yma i helpu rhieni plant gyda phroblemau cyfathrebu (megis awtistiaeth) ac unigolion sy n gofalu am y plant yma ond heb arbenigedd yn y maes. Mae r adnodd yn cynnwys llyfryn i w ddefnyddio gyda phlant wrth chwarae, llyfryn gwybodaeth, a DVD. Mae r adnodd arloesol Cymraeg hwn yn dangos strategaethau syml ac ymarferol mae modd eu defnyddio i annog plant ifanc i gyfathrebu.
5 2 Ymarfer blaengar mewn gofal sylfaenol sy n ymateb i anghenion cleifion am wasanaeth Dwyieithog Enillydd: Meddygfa Teifi Llandysul Ar ôl cynnal arolwg o gleifion y feddygfa, crëwyd cynllun gweithredu i gynyddu darpariaeth y feddygfa o wasanaethau iaith Gymraeg. Fel rhan o r cynllun, anogwyd staff i ddefnyddio eu Cymraeg neu i ddysgu Cymraeg, a datblygwyd system gyfrifiadurol i gofnodi dewis iaith cleifion ac a oes angen trefniadau cyfieithu arnynt os ydynt yn cael eu hatgyfeirio gan y meddyg. 3 4 Addysg a hyfforddiant sy n cynyddu gallu / hyder y gweithlu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg Gweithio mewn Partneriaeth Enillydd: Prosiect Pencampwyr Iaith Prifysgol Bangor Gan fod arweinyddiaeth yn bwysig iawn o ran datblygu r ddarpariaeth o wasanaethau iaith Gymraeg, nod y prosiect arloesol yma yw sefydlu unigolion fel Pencampwyr dros y Gymraeg ymysg myfyrwyr nyrsio r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor. Wedi i r Pencampwyr dderyn hyfforddiant pwrpasol, fe fydd y pencampwyr yn gweithio i godi proffil ac effaith materion yn gysylltiedig â r Gymraeg y tu fewn i wasanaethau iechyd a sefydliadau dysgu lleol. Cydnabyddiaeth Arbennig: Gwasanaeth gyda n Gilydd, Tîm Gyda n Gilydd, Cyngor Gwynedd Mae r Tîm Gyda n Gilydd wedi dod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Barnados, Cyngor ar Bopeth ac Uned Blynyddoedd Cynnar Cyngor Gwynedd at ei gilydd i gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ataliol i deuluoedd yng Ngwynedd. Yn ganolog i r gwasanaeth yma yw r gallu i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog gyda r teulu yn arwain ym mha iaith y maent yn derbyn eu gwasanaeth.
6 5 Gofal Cydnabyddiaeth Arbennig: Pwynt Mynediad Sengl Partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig Mae Sir Ddinbych wedi datblygu model integredig o wasanaeth cymunedol, ac yng nghanol y model hwn mae yna bwynt mynediad sengl newydd (PMS) sy n cael ei gydlynu n effeithiol, pwynt asesu sengl a chydlynu craidd ar gyfer gwaith ataliol ac adsefydlu i oedolion ledled y sir. Wedi iddynt gysylltu â r Tîm PMS, bydd y tîm yn casglu gwybodaeth yn naill ai Cymraeg neu Saesneg yn ôl dymuniad y cleient er mwyn adnabod pa ddeilliannau y mae angen eu sicrhau; trafod pa atebion posibl sydd ar gael a phwy all helpu i wireddu r deilliannau hynny. Mae r ffaith y gall unigolyn siarad yn uniongyrchol â siaradwr Cymraeg wrth gysylltu am y tro cyntaf yn torri tir newydd o ran cynnig gwasanaethau partneriaeth dwyieithog yn y maes iechyd a gofal. sy n seiliedig ar y Cynnig Rhagweithiol Enillydd: Ward B2 Ysbyty Cwm Rhondda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf I ateb y galw am wasanaethau Cymraeg gan gleifion, crëwyd ward yn yr ysbyty yma gyda r nod o ddarparu gwasanaethau iaith Gymraeg. Mae r ward yn cael ei staffio gan staff clinigol â sgiliau Cymraeg a mae defnydd helaeth yn cael ei wneud o ddeunyddiau Iaith Gwaith. Wedi cyfnod llwyddiannus fel peilot, mae r ward bellach wedi dod yn elfen barhaol o r ddarpariaeth iechyd a mae gwaith caled yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth am y ward.
7 6 Arweinyddiaeth, Ymrwymiad ac Arloesi gan Uwch-reolwyr Enillydd: Judith Roberts, Uwch Ymarferydd Cynllun Ysgolion Iach a Chyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Gwynedd Mae Judith yn rheoli ac yn gweithredu pob agwedd o Gynllun Ysgolion Iach Gwynedd drwy gyfrwng y Gymraeg. Er nad yw r cynlluniau hyn yn newydd, beth sydd yn torri tir newydd yw r ddarpariaeth o waith bob dydd a wneir sy n sicrhau bod defnyddwyr y cynlluniau hyn yn cael y gwasanaeth yn yr iaith o u dewis. Gall cydweithio â rhwydweithiau perthnasol bob dydd fod yn heriol, er enghraifft mae r rhwydwaith Ysgolion Iach yn gweithredu yn Saesneg felly rhaid i Judith sicrhau fod unrhyw wybodaeth newydd yn cael ei phasio ymlaen yn Gymraeg. Drwy roi cefnogaeth, hyfforddiant, dogfennau ac adnoddau yn Gymraeg mae r cynlluniau yn cyfrannu at hyrwyddo a diogelu iechyd a lles plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau mewn lleoliadau ysgol a chyn-ysgol yn effeithiol ac yn llwyddiannus. 7 Technoleg a r Gymraeg Cydnabyddiaeth Arbennig: Gwasanaeth Atgoffa Apwyntiadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Mae n wasanaeth cwbl ddwyieithog ar raddfa enfawr miliwn apwyntiad y flwyddyn, yn cwmpasu poblogaeth o 676,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Mae r negeseuon testun, y negeseuon llais awtomatig, a r ganolfan alw i gyd yn cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae r dechnoleg wedi i phrofi, a gall yr hyn mae r Bwrdd Iechyd wedi i ddysgu o ran iaith a chyfathrebu effeithiol trwy negeseuon testun a llais gael ei ddefnyddio gan weddill y GIG a r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae r prosiect wedi arbed dros 5,000 o apwyntiadau yn ystod 2014, ac mae hyn yn debygol o ddyblu yn ystod Bydd hyn yn arbed arian sylweddol, tra n sicrhau bod ein cleifion yn cael eu gweld yn lleol.
8 Cydnabyddiaeth Arbennig: Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd Iechyd Cyhoeddus Cymru Lluniodd yr Uwch Ymarferydd Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd adnoddau rhyngweithiol dwyieithog o r enw Tyfu i Fyny. Mae r adnoddau Tyfu i Fyny wedi eu cynllunio i ymateb i sensitifrwydd yn y maes addysg rhyw a pherthnasedd ac o ganlyniad i hyn mae athrawon yn hyderus ac yn gyfforddus i gyflwyno r maes ac mae r disgyblion yn mwynhau r addysgu. O ganlyniad i greu r adnoddau yma i ysgolion Gwynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i r adnoddau fod ar gael i holl ysgolion Cymru. 8 Dysgu r Gymraeg Cydnabyddiaeth Arbennig : Adnodd dwyieithog ar-lein o wybodaeth am ganser a ddatblygwyd gan gleifion Fforwm Cleifion Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru ( Mae Fforwm Cleifion Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru yn grŵp gwirfoddol o bob sydd wedi eu heffeithio gan ganser. Mae r Fforwm, sy n cynnwys cleifion canser a gofalwyr, yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda r Rhwydwaith Canser, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, awdurdodau lleol a nifer o sefydliadau trydydd sector. Aeth aelodau r Fforwm ati i ddatblygu gwefan flaengar gyda r bwriad penodol o gyfeirio pobl a effeithir gan ganser yng Ngogledd Cymru i amrediad eang o ffynonellau cymunedol o wybodaeth a chymorth. O r cychwyn cyntaf, roedd y Fforwm yn ymroddedig i sicrhau fod yr adnoddau yn gwbl ddwyieithog gan hyrwyddo cyfartaledd i r gyfran uchel o bobl yn y rhanbarth sydd â r Gymraeg yn Iaith gyntaf. a) Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn dan ddwy flynedd Enillydd: Laura Owens Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
9 Cydnabyddiaeth Arbennig: Gareth Hutchinson Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn dros ddwy flynedd Enillydd: Amy de Cunha Prys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 9 Ymrwymiad eithriadol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg a) Yn y GIG Enillydd: Rhiannon Davies Swyddog Iaith Gymraeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Cyn i Rhiannon gael ei phenodi fel Swyddog Iaith Gymraeg yn 2008, fe fu hi n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb i siaradwyr Cymraeg yn ei hamser personol ei hun. Yn ogystal â r hyn y mae Rhiannon yn ei wneud fel rhan o i swydd, mae hi n ymgymryd â nifer o swyddogaethau eraill. Fel un o lywodraethwyr ysgol leol ac fel Llysgennad Busnes i Gyrfa Cymru, mae Rhiannon yn meithrin cysylltiadau agos rhwng y Bwrdd Iechyd ac ysgolion yr ardal gan drefnu ymweliadau a phrofiad gwaith iddynt mewn ymgais i ddenu siaradwyr Cymraeg i GIG Cymru yn y dyfodol. Fel tiwtor Cymraeg, mae Rhiannon wedi helpu dysgwyr yn y Bwrdd Iechyd. Ar lefel genedlaethol, mae Rhiannon wedi gweithio fel aelod o Dasglu r Gymraeg mewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac ar hyn o bryd mae n cynrychioli Swyddogion Iaith Gymraeg y GIG ar Grŵp Implementeiddio Mwy na geiriau.... Tu allan i r gwaith, mae Rhiannon hefyd yn cwblhau sawl swyddogaeth i hybu r Gymraeg yn lleol.
10 b) Yn y gwasanaethau cymdeithasol / gofal cymdeithasol Enillydd: Margaret Watkins Swyddog Datblygu Staff, Cyngor Sir Ddinbych Yn ei rôl yn y Cyngor, penderfynodd Margaret gymryd perchnogaeth dros hyrwyddo r Gymraeg yn y sector gofal cymdeithasol. Yn ogystal â i gwaith fel Swyddog Datblygu Staff, mae Margaret wedi cymryd cyfrifoldeb dros weithredu Mwy na geiriau... trwy ddarganfod ble mae modd hyrwyddo r strategaeth yn y sector a thrwy hyrwyddo r strategaeth mewn sesiynau gyda staff gofal cymdeithasol. Ynghyd â hyn, mae Margaret wedi gwthio pwysigrwydd yr iaith ymhlith rheolwyr trwy redeg cwrs ymwybyddiaeth iaith wedi ei deilwra i reolwyr y sector. Hefyd yn ogystal â chyfrifoldebau ei swydd, mae Margaret wedi mynd ati i fagu hyder ymysg dysgwyr a u cefnogi wrth ddosbarthu adnoddau megis Welsh in your pocket a r poster Welsh on the wall. Datblygwyd adnoddau gan Margaret hefyd i helpu dysgwyr megis cortyn Dysgu Cymraeg a chasgliad o ymadroddion i ofalwyr cymdeithasol eu defnyddio yn eu gwaith. Os hoffech ddysgu mwy am yr enwebiadau buddugol neu i gyslltu a nhw n uniongyrchol cysylltwch â ni ar Uned-yr-iaith@Cymru.GSI.Gov.UK neu ffoniwch Dilynwch y newyddion diweddaraf am y Gwobrau a gwaith yr Uned Polisi Iaith Gymraeg ar Facebook.
Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service
Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service 1 Mae r Tîm Ansawdd i Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationBuy to Let Information Pack
Buy to Let Information Pack The information provided in this pack is a duplicate of the information provided on display boards at the Drop-in event on Friday 6 th May 2016 in Fairbourne Village Hall. Please
More informationPecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol
/ (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod Pynciau & agweddau: Cymraeg Saesneg TGCh Addysg Byd Dinasyddiaeth Sgiliau: Llythrennedd Digidol Adnoddau cefnogol: Taflen Waith Llyfryn yr Eisteddfod Dolen i
More informationDeddf Awtistiaeth i Gymru
Deddf Awtistiaeth i Gymru Until everyone understands Nes bydd pawb yn deall CYNNWYS Rhagair gan Mark Lever, Prif Weithredwr, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cyflwyniad 03 04 05 06 07 08 Diagnosis a
More informationCôd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Mae r lluniau yma yn dod o Photo Symbols Gwnaed y ddogfen hon yn rhwydd ei darllen gan VoiceAbility Mae r geiriau a amlygir a u hystyron yn y rhestr geiriau
More informationNEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:
Rhifyn. 63 Elusen Rhif 1043989 Haf 2014 NEWYDDION Cwmni Cyfyngedig gan Warant Rhif 2993429 I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar: /AVOWWrexham @AVOWWrexham Yn Y Rhifyn Hwn 03 04 05 06 07 08 09
More informationCyflwyniad cyflym i Parkinson s
Cyflwyniad cyflym i Parkinson s A quick introduction to Parkinson s Welsh Os ydych newydd dderbyn eich diagnosis, neu os ydych yn adnabod rhywun sydd newydd gael gwybod, mae n debyg bod gennych lawer o
More informationHawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg Cyhoeddwyd yn unol ag Adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 1 Cynnwys Rhagair Rhagair 3 Cefndir 4 Adroddiad cryno 6 Rhan 1: Mae gwasanaethau
More informationRecriwtio: Ystyried y Gymraeg
Recriwtio: Ystyried y Gymraeg comisiynyddygymraeg.cymru Cefndir Prif nod Comisiynydd y Gymraeg, sefydliad annibynnol a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw hybu a hwyluso defnyddio r Gymraeg.
More informationCriw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc
Criw Celf 2017/18 Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc Criw Celf Participants 2016/17 Cyfranogwyr Criw Celf 2016/17 Imogen Sadler Imogen
More informationDEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil
DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil APPROX. 5.54 ACRES (2.24 HECTARES) ALLOCATED FOR HOUSING Upper Georgetown Plateau Merthyr Tydfil CF48 1BZ Adjacent to Kier Hardie Health Park Very close to facilities
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC (2007) 022 Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ Cathays Park Cardiff CF10 3NQ Dyddiad Cyhoeddi: 20 Ebrill 2007 Statws: Gweithredu Teitl: Datganiad Polisi a Fframwaith Gwasanaeth
More informationHM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497
HM Land Registry THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1 Date 08 May 2018 Your Ref DLA/P5472-1 Our Ref RCS/ HM Land Registry Wales Office PO Box 75 Gloucester GL14 9BD DX 321601 Gloucester 33 Tel 0300 006 0009 wales.office@
More informationGan Heini Gruffudd a Steve Morris
Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy n Dysgu r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-gymraeg Gan Heini Gruffudd a Steve Morris Hawlfraint
More informationDatganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!
DYDDIAD: 10/07/2018, dim embargo Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da! Mae'n bleser gennym gyflwyno Cynhadledd Genedlaethol Cymdeithas Atal Dweud Prydain 2018 i ddinas brydferth Caerdydd ar gampws
More informationAnatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.
Heading Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth /1 Manylion cyswllt Gofal Cymdeithasol
More informationBwletin Gorffennaf 2017
Bwletin Gorffennaf 2017 Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Wythnos Sgiliau Unwaith eto mae r ysgol wedi trefnu wythnos o weithgareddau gyda r nod o ehangu gorwelion ein disgyblion, a hynny
More informationEffaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg
Huw Dylan Owen a Steve Morris Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd
More informationGwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus
Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru Prosbectws i Israddedigion Social Work in Wales Undergraduate Prospectus Dysgu sy n Newid Bywydau Mae popeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn dechrau ar eich taith gyda
More informationGwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1
Gwobrau 2015 Enillwyr Prif noddwyr 1 Prif noddwyr Cyflwyniad Heb ymgeiswyr am Wobrau CEW ni fyddai cyfle i ddathlu rhagoriaeth y sector adeiladu yng Nghymru. Ac heb noddwyr, ni fyddai digwyddiad dathlu
More informationAnhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru
Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru Rhagfyr 2010 ISBN 978 0 7504 5977 8 Hawlfraint y Goron 2011 WAG10-11196 F1141011 2 Cynnwys Tudalen Beth yw Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig?
More informationMONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015
MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015 Mae r Canfyddiadau hyn gan y New Policy Institute yn dadansoddi r data diweddaraf i ddangos tueddiadau o ran gwaith, tlodi a sancsiynau budd-daliadau
More informationNo 7 Digital Inclusion
No 7 Digital Inclusion 7 Digital Inclusion Active Response 7 will reflect on the issues that have arisen around the lack of engagement of some sectors of the community in recent technological advances.
More informationWelsh Conservative Manifesto for Local Government
Welsh Conservative Manifesto for Local Government MAY 2017 FOREWORD Welsh Conservatives believe that strong and effective local government should put power back into your hands, giving people across Wales
More informationGWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru. 1
GWOBRAU TAI CYMRU 2017 COMPENDIWM ARFER DA Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru 2017 www.cih.org 1 Sponsored Noddwyd by gan Cymru Adnewyddu Cymunedau Trawsnewid Bywydau O fewn Lovell, rydym
More informationCYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG
Rhif 6 Gorffennaf 2010 ISSN 1741-4261 CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG Golygydd: Yr Athro Ioan Williams Cyhoeddwyd gyda chymorth: 1 Rhif 6 Gorffennaf 2010 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I
More informationProfion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth
Adroddiad Cryno Profion casglu a monit tro WEEE: adlewyrchu mewn cytundebau awdurdod Cod prosiect: EEE520-021 Dyddiad yr ymchwil: Tachwedd 2015 Chwefrorr 2016 Dyddiad: Mawrth 2016 Gweledigaeth WRAP yw
More informationeurope rittany Wales a partner for Llydaw, partner i Gymru
europe rittany Wales a partner for Llydaw, partner i Gymru Historic links, strengthened by a Memorandum of Understanding signed in January 2004 A. Sandford As Celtic cousins, there are many similarities
More informationAnatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth
Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth Gan Imogen Blood, Ian Copeman & Jenny Pannell Hydfref 2015 1 Cydnabyddiath Hoffai r awduron gofnodi eu diolch i r
More informationFamily Housing Annual Review
Family Housing Annual Review 2013-14 Statement from Chief Executive Last year has seen significant change for Family Housing also significant achievements in terms of the delivery of services and new homes.
More informationBeth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?
Pa fath o wlad oedd Cymru yn yr Oesoedd Canol (tua 1000)? Pa fath o gestyll sydd i w gweld yng Nghymru heddiw? Pa effaith gafodd y Normaniaid ar Gymru? I ba raddau y dylai Owain Glyndwr gael ei gofio yng
More informationPWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018
PWYSEDD GWAED UCHEL Sut allwn ni wneud yn well? 1 Dyddiad adolygu: Chwefror 2018 Yn y daflen hon, cewch arweiniad ymarferol gan feddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr ar sut i wella trefniadau canfod a rheoli
More informationTystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg
Defnyddio r Gymraeg: Canolradd B1 2018 Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg LLYFRYN YR YMGEISYDD Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). WJEC
More informationNEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!
Rhifyn 55 Haf 2012 Elusen Rhif 1043989 Cwmni Cyfyngedig gan Warant rhif 2993429 NEWS www.avow.org www.avow.org Tŷ Avow 21 Egerton Street 21 Stryd Egerton Wrexham Wrecsam LL11 1ND Tel/Ffôn: 01978 312556
More informationWythnos Gwirfoddolwyr
www.mantellgwynedd.com NEWYDDLEN MUDIADAU GWIRFODDOL GWYNEDD Rhifyn 46 Gorffennaf 2009 CYNNWYS Newyddion Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd Grantiau Plant a Phobl Ifanc Y Porth Ymgysylltu Iechyd, Gofal Cymdeithasol
More informationPR and Communication Awards 2014
PR and Communication Awards 2014 PR and Communication excellence in the Welsh social housing sector The third PR and Communication Awards Ceremony was held during CHC's Communications Conference in Llandrindod
More informationAROLWG BLYNYDDOL 2003 2004 2005 2006-2007 2008 2009 2010 2 Prifysgol Cymru, Bangor 2 Gair gan yr IS-GANGHELLOR Unwaith eto, gallaf nodi fod y Brifysgol wedi mynd trwy gyfnod o newid yn ystod y flwyddyn
More informationBeth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?
Pa fath o wlad oedd Cymru yn yr Oesoedd Canol (tua 1000)? Pa fath o gestyll sydd i w gweld yng Nghymru heddiw? Pa effaith gafodd y Normaniaid ar Gymru? I ba raddau y dylai Owain Glyndwr gael ei gofio yng
More informationConfensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi?
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi? 2 Cynnwys Beth mae r canllaw 3 yma n ei gynnwys Rhan 1 4 Cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl
More informationAdopting Preventative Approaches Shared Learning Seminar Seminar Dysgu a Rennir Mabwysiadu Dulliau Ataliol
Adopting Preventative Approaches Shared Learning Seminar Seminar Dysgu a Rennir Mabwysiadu Dulliau Ataliol Presenter Name / Enw Cyflwynydd Alan Morris Job title / Teitl swydd Organisation / Sefydliad E-mail
More informationRhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development
Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017/18 ANNUAL REPORT 2017/18 What is PLANED? Pembrokeshire
More informationBil Cyllido Gofal Plant (Cymru)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Gorffennaf 2018 www.cynulliad.cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff
More informationCYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL
CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL Neuadd y Pentref, Drefach am 7.30yh 3ydd o Fedi 2013 Drefach Village Hall, 7.30pm 3 rd of September 2013 Yn bresennol/present: Cyng. Bill Green, Cyng. Gwilym
More informationDyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru
Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru 2017 Cymru Cyfeiriwch at y geirfa ar y dudalen ôl am ddiffiniad o'r testun sydd wedi ei oleuo'n las. Cyflwyniad Mae r ucheldiroedd yn nodwedd allweddol o
More informationCylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor University of Wales, Bangor Alumni Magazine
Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor University of Wales, Bangor Alumni Magazine bangoriad 2005 y gair cyntaf Croeso i argraffiad diweddaraf y Bangoriad. Erbyn hyn, mae r Brifysgol yn cychwyn cyfnod
More informationISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697
ISBN digidol 978 1 4734 2505 7 Hawlfraint y Goron WG23697 Cynnwys Cefndir 2 Nodyn gan yr Athro Ian Diamond 3 Cais am dystiolaeth 4 Manylion yr atebydd 5 Holiadur 6 Atodiad A: Cylch gorchwyl y Panel Adolygu
More informationBusiness development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio
Business deveopment support and networking patform Cefnogaeth i ddatbygu busnes a wyfan rhwydweithio Cyfwyniad 02 Fe sefydwyd Waes and West Energy i gynorthwyo datbygiad cwmnïau eo a rhanbartho drwy ddarparu
More informationYmgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol
Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol Adroddiad dadansoddi r ymgynghoriad Ynghylch yr adroddiad hwn 1. Mae r adroddiad hwn yn crynhoi r ymatebion i r ymgynghoriad
More informationSut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth
Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth 2015 2016 dwrcymru.com PRE 0081 2 Weithiau, mae pethau n mynd o chwith Ein nod bob amser yw sicrhau ein bod yn gwneud pethau n iawn y tro cyntaf, bob tro
More informationCynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) Archwiliad Sesiwn Gwrandawiad 8 YNNI ADNEWYDDADWY 9.30 yb, Dydd Iau 15 Medi 2016 Datganiad ysgrifenedig pellach a thystiolaeth i w hystyried gan
More informationCylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018
Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018 Llawenydd i Cytûn yr adeg hon o r flwyddyn yw cynnig diweddariad byr ynghylch sut mae offeryn eciwmenaidd cenedlaethol Cymru wedi bod yn gwasanaethu
More informationMy Square Mile Fy Milltir Sgwâr
My Square Mile Fy Milltir Sgwâr Published by the Design Commission for Wales 2007 Cyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru 2007 Eileen Adams and the Design Commission for Wales Eileen Adams a Chomisiwn Dylunio
More informationNewyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd
Newyddion Ansawdd Dathlu dwy flynedd Rhifyn 24 Chwefror 2011 Cynhadledd Breswyl POWIS Mae ymrwymiad ein hysgolheigion yn glir ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eu bod yn datblygu n gyflym i fod yn arloeswyr
More informationW32 05/08/17-11/08/17
W32 05/08/17-11/08/17 2 Hedd Wyn: The Lost War Poet 3 The Bug Grub Couple 4 Cardiff Bay Lives 5 Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Bodedern, Ynys Môn / Anglesey
More informationDadansoddiad disgrifiadol o iechyd yng nghyffiniau Gwaith Hanson Cement
Dadansoddiad disgrifiadol o iechyd yng nghyffiniau Gwaith Hanson Cement Chwefror 2011 Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru Awduron: Rhys Gibbon, Dr Ciaran Humphreys, Claire Jones, Nathan Lester, Margaret Webber
More informationWreiddio. Crynodeb. Dinas a Sir. yn y pen draw. Abertawee. newydd i CDSA. equivalent/fte) yn. corfforaethol ailddefnyddio, m 2.
Astudiaeth Achos: Defnyddio Strategaeth Gaffael Arloesoll i Wreiddio Cylcholdeb yn Adnewyddiad Swyddfa Canolfann Ddinesig Cyngor Abertawee Crynodeb Ffeithiau Allweddol Yn ystod 2017, dechreuodd Cyngor
More informationGwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr SAMPL
Cynnwys 1. Taflen grynhoi ar gyfer y panel maethu 2. Adran A Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr 3. Adran B Gwybodaeth ansoddol, gwerthusiad ac argymhelliad ar addasrwydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr
More informationArsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU
Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU Medi 2004 CYNNWYS Rhifau r tudalennau Crynodeb gweit hredol 3-7 Adran 1 Rhagymadrodd a methodoleg 8-10 Adran
More informationCefnogi gwaith eich eglwys
Elusen Gofrestredig Rhif: 1142813 Rhifyn Hydref 2017 2 Am fwy o cysylltwch: Â ch Trysorydd lleol neu Yr Eglwys yng Nghymru 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd. CF10 5BT rhoiynsyth@eglwysyngnghymru.org.uk gwaith
More informationDatblygu r Cwricwlwm Cymreig
Datblygu r Cwricwlwm Cymreig Cyfeiria r llyfryn hwn at y Cwricwlwm Cymreig pan yn cyfeirio at Ofyniad Cyffredin y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac at Gwricwlwm Cymreig pan yn cyfeirio at ddadansoddiad ysgolion
More informationYR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus
YR HYN Y DYLAI ATHRAWON WYBOD Y TORIADAU UNDEB CENEDLATHOL YR ATHRAWON MAE YNA DDEWIS ARALL Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus Yr undeb athrawon mwyaf www.teachers.org.uk Gwanwyn
More informationYr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.
Dewis Dŵr Arweiniad ar Ddŵr mewn Ysgolion Cynulleidfa: Penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr ysgolion sy n derbyn peiriannau oeri dŵr a noddir gan y Cynulliad. Gorolwg: Mae r ddogfen hon yn cynnig gwybodaeth
More informationBwletin i Rieni - Hydref 2014
Bwletin i Rieni - Hydref 2014 Dyddiadau Pwysig 27.10.14 31.10.14 Gwyliau Hanner Tymor. 03.11.14 Yr ysgol ar agor yn dilyn hanner tymor. 18.11.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 8 02.12.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 7 Croeso!
More informationCYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL
CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL Neuadd y Pentref, Drefach am 7.30yh 3ydd o Ebrill 2018 / 3 rd April 2018 Yn bresennol / Present: Cyng Alwena Williams, Cyng Hazel Thomas, Cyng Euros Davies, Cyng
More informationMentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin
Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin Alcohol Concern Alcohol Concern yw r elusen genedlaethol ar gamddefnyddio alcohol, gan ymgyrchu dros bolisi alcohol
More informationCYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council
CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL Swyddfa r Cyngor, Llawr y Llan, Lon Goch, Amlwch, Ynys Mon, LL68 9EN Ebost/Email: swyddfa@cyngortrefamlwch.co.uk Ffon/Tel: 01407 832 228 Cyngor Tref Amlwch Town Council
More informationPrifysgol Aml-gyswllt. Adroddiad Blynyddol UWTSD. Annual Report. A Connected University
Adroddiad Blynyddol Prifysgol Aml-gyswllt 2015-2016 UWTSD Annual Report A Connected University 2015-2016 UNIVERSITY PROFILE TRANSFORMING EDUCATION... TRANSFORMING LIVES The University of Wales Trinity
More informationTrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion CYFRES NEWYDD, CYFROL 23 (2017) Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion NEW SERIES, VOLUME 23 (2017) Golygydd : Editor HELEN FULTON Trafodion
More informationEdexcel TAG. Mehefin Edexcel TAG mewn Iechyd a. Gofal Cymdeithasol. Papurau enghreifftiol gyda chvnlluniau marcio. dysgu uwch, newid bywyd
Edexcel TAG Edexcel TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Sengl (8741) Edexcel TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Dwbl) (8742) Edexcel TAG Uwch mewn
More informationRHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC
RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007 Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC Cynnwys 2 Cyflwyniad y Cadeirydd 5 Trosolwg Ymddiriedolaeth y BBC 9 Beth ydyw a beth mae n ei wneud 12 Yr Ymddiriedolwyr
More informationDyfarniadau Arian i Bawb Dyddiad embargo: 04/04/2016
Enw Lleoliad Crynodeb Hafod Bowls and Social Club Abertawe Bydd Clwb Bowls a Chymdeithasol yr Hafod yn Abertawe yn defnyddio'r grant i ddarparu gwyliau byr i 40 o aelodau mewn perygl o arwahanrwydd cymdeithasol.
More informationBODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG
BODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG 104.23 acres (42.18 hectares) or thereabouts of land including a substantial character residence with garden grounds and a walled garden
More informationAgenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1
Agenda Item 3 Public Accounts Committee Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations January 2017 National Assembly for Wales Public Accounts Committee Pack Page 1 The National Assembly for
More informationAdran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon
Mae r data o r papur: Archwilio Perthnasoedd mewn Dimensiynau Corff Grete Heinz a Louis J. Peterson San José State University Roger W. Johnson a Carter J. Kerk South Dakota School of Mines and Technology
More informationSAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi
SAETHU YNG NGHYMRU er budd cefn gwlad a chymuned y r ac h o s dro s gefnogi r h aga i r Rwyf wir yn credu bod saethu yng nghefn gwlad Cymru n rhan annatod o ddiwylliant a thraddodiadau campau ein cenedl.
More informationJob title / Teitl swydd Organisation / Sefydliad / E-bost
Future Generations Bill Shared Learning Seminar Seminar Dysgu a Rennir ar Fil Cenedlaethau r Dyfodol Cardiff 5 February 2014 and Llanrwst 13 February 2014 Caerdydd 5 Chwefror 2014 a Llanrwst 13 Chwefror
More informationColofn B BIOLEG. UNED 1: BIOCEMEG SYLFAENOL A THREFNIADAETH CELLOEDD Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 20% o'r cymhwyster
Colofn B Cyflwyniad/Amcanion y Cwrs BIOLEG Mae Bioleg wedi gwneud datblygiadau syfrdanol ym maes triniaethau ar gyfer afiechydon yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r cwrs Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol wedi
More informationCyngor Cymuned Llandwrog
Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion Cyfarfod y Cyngor 15 Medi 2014 Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 1 - Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion y cyfarfod o Gyngor Cymuned Llandwrog a gynhaliwyd Nos Lun,
More informationAdran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith
Mae r data o r papur: Archwilio Perthnasoedd mewn Dimensiynau Corff Grete Heinz a Louis J. Peterson San José State University Roger W. Johnson a Carter J. Kerk South Dakota School of Mines and Technology
More informationAdnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol I gael rhagor o wybodaeth a dolenni gwe sy n berthnasol i r maes ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/is/subject/interpol/ Cyflwyniad Mae astudio Gwleidyddiaeth
More informationGwlad, Gwlad. Hyfforddi, Gweithio, Byw yng Nghanolbarth Cymru
Gwlad, Gwlad. Hyfforddi, Gweithio, Byw yng Nghanolbarth Cymru Gyrfaoedd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngheredigion, Powys a de Gwynedd This is Wales. Train, Work, Live in Mid Wales Health and
More informationCyfnodolyn Academaidd Cymraeg
Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg Golygydd: Dr Anwen Jones Rhif20 Hydref 2015 ISSN 1741-4261 Golygydd: Dr Anwen Jones Cyhoeddwyd gyda chymorth: C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd:
More informationCod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil
Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil 2017-2020 1 Cyflwyniad Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol uchel mewn perthynas â r ymchwil a wneir gan ei staff a i myfyrwyr,
More information14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall
14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall Attendees Emma North, Planning, City and County of Swansea Councillor Paul Northcote,
More informationThe One Big Housing Conference
The One Big Housing Conference Thursday & Friday 9 th and 10 th October 2014 Programme Metropole Hotel, Llandrindod Wells Sponsors of Delegate Badges CHC s One Big Housing Conference The conference will
More informationCwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion. Dysgu Learn
Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion Dysgu Learn 2 Ganolfan Cwricwlwm Dysgu Cenedlaethol Cymraeg Genedlaethol Cymraeg i Oedolion Cynnwys 3-5 Cwricwlwm Cenedlaethol CiO: Cyflwyniad 6 Lefelau Cymraeg
More informationSir Ddinbych / Denbighshire Phil Lord. Sir y Fflint / Flintshire Phil Lord
Cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru, Ebbw Vale, 25 Tachwedd 2015 (10.30am 3pm) Wales Association of SACREs meeting, Ebbw Vale, 25 November 2015 (10.30am 3pm) Ynys Môn / Anglesey Bethan James Rheinallt Thomas
More informationCyngor Cymuned Y Fali Community Council
Cyngor Cymuned Y Fali Community Council 1. Croeso / Welcome. Clerc / Clerk Gwenda Owen gwenda.owen1@ntlworld.com Trigfa, Four Mile Bridge, LL65 2EZ (01407 740046) http://www.valleycommunitycouncil.com
More informationDevelopment Impact Assessment
Development Impact Assessment Impact Asssessment in respect of rights and Covenants on Development Property: 56 Cedar Wood Drive Third party interests such as rights and covenants can have a negative effect
More informationDatganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC
Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC 2009/2010 Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC 2009/2010 1 Cynnwys Datganiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol... 3 Teledu... 5 BBC One... 5 Atodiad BBC One Scotland... 9 Atodiad
More informationCycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru
Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru FCC Environment From waste to resource. FCC Environment are the leading UK waste and resource
More informationCYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL
CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL Cynhaliwyd Cyfarfod o r Cyngor Cymuned Nos Fercher, Medi 30ain 2015 am 7.30 yh yng Nghanolfan Gwytherin Ymddiheuriadau: Elen H Edwards, R Emlyn Williams,
More informationBangoriad /6/04 1:41 pm Page 1. The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor
Bangoriad 2004 9/6/04 1:41 pm Page 1 2004 The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor Bangoriad 2004 9/6/04 1:41 pm Page 2 Bangoriad 2004 Welcome to the latest
More informationA: Property Register / Cofrestr Eiddo
THIS IS A PRINT OF THE VIEW OF THE REGISTER OBTAINED FROM HM LAND REGISTRY SHOWING THE ENTRIES SUBSISTING IN THE REGISTER ON 24 MAY 2017 AT 11:04:26. BUT PLEASE NOTE THAT THIS REGISTER VIEW IS NOT ADMISSIBLE
More informationWeek/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014
Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Gâr 2014 4 X-Ray Health Special 5 The Great Welsh Diet Experiment: One Year On 6 Live Longer Wales: Helen s
More informationCampus. Cylchgrawn Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru. The Magazine for University of Wales Alumni #002. Haf Summer 2010
Campus #002 Cylchgrawn Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru Haf 2010 The Magazine for University of Wales Alumni Summer 2010 Prifysgol Cymru University of Wales 01 Campus #002 Haf / Summer 2010 02 Nodyn y Golygydd
More informationMEDDYLIWCH AM FYD NATUR SUT MAE RHOI BYWYD I DDATBLYGU CYNALADWY
MEDDYLIWCH AM FYD NATUR SUT MAE RHOI BYWYD I DDATBLYGU CYNALADWY Mark Hamblin (rspb-images.com) Os ydym am ymestyn ein bodolaeth ein hunain, mae n rhaid i ni ddiogelu n hamgylchfyd y byd naturiol rydym
More informationYMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/
YMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/ Rhan Un: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2008/09 Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC CAEL Y GORAU O R BBC AR GYFER TALWYR FFI R DRWYDDED. 02 / TROSOLWG
More informationMAPIAUMAPS. Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales
MAPIAUMAPS Y map hynaf yng nghasgliad y Llyfrgell, map Ptolemaidd o Ynysoedd Prydain, a brintiwyd ym 1486 The oldest map in the Library s collection, a Ptolemaic map of the British Isles, printed in 1486
More informationMae'r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn hefyd ar gael ar ein gwefan yn:
www.gov.uk/defra Cynigion i wahardd defnyddio microbelennau plastig mewn cosmetigau a chynhyrchion gofal personol yn y DU a chais am dystiolaeth ynglŷn â ffynonellau eraill o ficrobelennau sy'n mynd i
More information