FFI LM A R CYFRYN GA U

Size: px
Start display at page:

Download "FFI LM A R CYFRYN GA U"

Transcription

1 FFY DD Y N Y F F R ÂM C YNNAU R F F L AM A S T U DI O S Ê R Y N Y MA E S F F IL M IAU YSG RIFAU AR T WIN TOW N, F F I L M I AU R au FFI LM A R CYFRYN GA U C AM P HYS BYS E B U A R P L E NT YN S E NS O R I A E T H Y C Y F R W NG A R I A I T H R A DI O C W E S T I Y NU R T E S T U N MY T H O L E G AM DDI F F Y N R E A L A E T H GO LY GY DD ELIN HAF GRU FFYDD JONES

2 2 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau CYNNWYS CYNNWYS 2 RHAGAIR 3 TERMINOLEG DDETHOL 6 MANYLION CYFRANWYR 8 FFYDD YN Y FFRÂM 9 John Hefin CYNNAU R FFLAM: ARLOESWYR CYNNAR Y SINEMA, Gwenno Ffrancon ASTUDIO SÊR YN Y MAES FFILMIAU: DULLIAU A DADLEUON 35 Robert Shail TWIN TOWN, FFILMIAU R 1990AU A R ETIFEDDIAETH FFILM GYMREIG 44 Geraint Ellis CAMP YN Y GYNRYCHIOLAETH O DDYNION HOYW MEWN FFILM 54 George Jones HYSBYSEBU A R PLENTYN GOROLWG BEIRNIADOL O R DAMCANIAETHAU A R DADLEUON ALLWEDDOL 61 Merris Griffiths SENSORIAETH: Y LLYWODRAETH A R CYFRYNGAU 76 Eifion Lloyd Jones Y CYFRWNG A R IAITH: DADANSODDI RÔL Y CYFRYNGAU MEWN CYD-DESTUN IEITHOEDD LLEIAFRIFOL 89 Elin Haf Gruffydd Jones RADIO CYFRWNG HEN FFASIWN NEU GYFRWNG OESOL? 98 Non Vaughan Williams CWESTIYNU R TESTUN: DADANSODDI AC AMLYSTYREDD 105 Catrin Prys ROLAND BARTHES: MYTHOLEG FEL NODWEDD O R BYWYD CYFOES 113 Roger Owen AMDDIFFYN REALAETH: RAYMOND WILLIAMS VS. ÔL-STRWYTHURIAETH 124 Daniel G. Williams

3 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau 3 RHAGAIR Datblygwyd y gyfrol hon yn sgil gweithgaredd Panel Rhwydwaith y Cyfryngau o dan arweiniad Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru ac yn ddiweddarach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ei bwriad oedd cynyddu r deunydd astudio a fyddai ar gael yn y Gymraeg i r myfyrwyr hynny sydd yn dewis dilyn modiwlau a graddau ym meysydd astudiaethau ffilm, teledu a r cyfryngau ar draws ein sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Er gwaethaf y twf aruthrol a welwyd yn y maes academaidd hwn yn y degawdau diwethaf, ni welwyd cyhoeddi deunyddiau astudio priodol yn y Gymraeg ochr yn ochr â hynny. Er mwyn unioni ychydig ar hynny yr aethpwyd ati i gynllunio cyfrol o ysgrifau a fyddai n cyflwyno deunydd addas ac yn hynny o beth a feddai ar dair nodwedd benodol, sef, yn gyntaf deunydd o r ansawdd academaidd priodol ar gyfer astudiaethau ar lefel prifysgol, yn ail deunydd wedi ei wreiddio ym maes astudiaethau ffilm, teledu a r cyfryngau, ac yn drydydd deunydd yn yr iaith Gymraeg. Yn rhy aml y mae n rhaid i r rhai sydd yn dysgu ac yn astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg gyfaddawdu ar o leiaf un o r tair nodwedd hyn y lefel, y maes neu r iaith ac wrth gwrs, yn amlach na pheidio, y cyfaddawdu ieithyddol yw r hyn a ddigwydd. Yn aml, nid oes cyfleoedd digonol i fyfyrwyr sydd yn dilyn modiwlau drwy gyfrwng Gymraeg i weithio gyda thestunau ysgrifenedig yn y Gymraeg ac mae r gyfrol hon ynghyd â chynlluniau eraill, ac yn benodol yr e-gyfnodolyn academaidd Gwerddon, yn ymgais fwriadol i geisio unioni ychydig ar y cam hwnnw. Gyda chymorth Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a r Dr Ioan Matthews yn benodol, aethpwyd ati felly i ganfod cyfranwyr addas ar gyfer y gyfrol hon. Estynnwyd gwahoddiad i drafod y prosiect gyda phob sefydliad addysg uwch yng Nghymru a oedd ar y pryd yn dysgu yn y maes hwn drwy gyfrwng y Gymraeg neu a oedd yn awyddus i gyflwyno darpariaeth o r fath. Aethpwyd ati i droi r sgyrsiau cychwynnol yn gynigion pendant o benodau, gan geisio cadw perthynas agos rhwng y meysydd dysgu ar draws y sefydliadau, arbenigeddau ymchwil yr awduron a chydbwysedd pynciol o fewn y gyfrol. Ceisiwyd taro rhyw fan canol rhwng y Gymraeg fel cyfrwng yr ysgrifennu ar gyfer y penodau a r Gymraeg fel testun y cyfryngau o dan sylw yn yr astudiaethau. Gwelir ystod o gyfraniadau, felly, nad oes a wnelo n uniongyrchol â chyfryngau Cymraeg neu Gymreig: pynciau y gellid disgwyl darllen amdanynt ar lefel academaidd mewn unrhyw iaith dysg drwy r byd. Yn ogystal, mae cyfrifoldeb penodol ar gyfrol o r fath, ac ar ei hawduron, i ddatblygu astudiaethau sydd wedi eu lleoli ym myd y Gymraeg ac yng Nghymru o fewn y maes disgyblaethol, ac fe welir enghreifftiau o ysgrifennu o r math hwnnw hefyd yn y cyhoeddiad hwn. Fe ysgrifennwyd deg o r penodau hyn yn wreiddiol yn y Gymraeg, ac yn ychwanegol at hynny, penderfynwyd rhoi cynnig ar drosi dwy o r penodau o r Saesneg i r Gymraeg. Cafwyd cymorth anhepgorol gan Ganolfan Gwasanaethau r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth i r perwyl hwn. Nid tasg rwydd yw cyfieithu darnau o r math hwn i iaith arall, yn enwedig yng nghyd-destun y Gymraeg. Yn ein cyd-destun ni, fel yn nifer o ieithoedd eraill, nid yn unig y gwelwn fod terminoleg yn gallu bod yn anghyfarwydd, ansefydlog ac yn aml yn absennol, ond hefyd y mae teithi r mynegiant yn dioddef oherwydd gwendid y disgwrs cynhaliol i r pynciau yma ar lefel academaidd. Rhaid nodi nad y cyfieithydd a r golygydd yn unig a gafodd y profiad hwn: bu r profiad hwn o ysgrifennu n academaidd yn y Gymraeg yn gyfle i godi sawl cwestiwn tebyg gan nifer o r cyfranwyr. Fel rhan o r gyfrol cyflwynir hefyd restr o dermau penodol a ddefnyddir yn y gyfrol. Mae dau fwriad i gyflwyno r rhestr terminoleg: yn gyntaf ac yn fwyaf amlwg efallai er mwyn hwyluso r darllen wrth ymwneud â r termau a all fod yn anghyfarwydd; ac yn ail er mwyn cydnabod mai proses yw datblygu terminoleg, a bod angen amser a chyd-destun yn aml iawn er mwyn i gynigion penodol ar eiriau newydd gydio a gwreiddio yn nisgwrs yr iaith.

4 4 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Rhagair Yn y bennod agoriadol Ffydd yn y ffrâm gan John Hefin, mae r awdur yn dadlau n ddeheuig o blaid gramadeg y gweledol ac yn galw arnom i ddarganfod a chydnabod llygaid y ddraig ar draws ein celfyddydau gweledol, gan bwyntio hefyd at nifer o enghreifftiau o sinema glasurol y byd gorllewinol. Mae pennod Gwenno Ffrancon, Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, yn olrhain hanes cynnar y sinema gan leoli gwaith arloeswyr y sgrin fawr yma yng Nghymru yn eu cyd-destun hanesyddol ac yn bwrw golwg ar ddyddiau cynnar ffilm a dylanwad y cyfnod hwnnw ar siapio r cyfrwng oddi ar hynny. Un o r meysydd a ystyrir yn allweddol i astudio ffilm yw r drafodaeth ynglŷn â swyddogaeth Sêr yn y diwydiant hwnnw. Mae pennod Robert Shail Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon yn mynd i r afael â rhai o r prif gwestiynau sydd wedi eu codi mewn cyhoeddiadau academaidd ar ddatblygiad y maes hwn, gan gyfeirio n benodol at Brydain a r Unol Daleithiau. Troi tuag at Gymru yn benodol y gwna Geraint Ellis yn ei bennod Twin Town, ffilmiau r 1990au a r etifeddiaeth ffilm Gymreig gan dafoli r berthynas rhwng dau gyfnod penodol o ran themâu ac ymdriniaeth, sydd yn cysylltu r cyfnod Cŵl Cymru a r hyn a i ragflaenodd. Canolbwyntio ar agwedd arall ar gynrychiolaeth y mae George Jones yn ei bennod Camp yn y gynrychiolaeth o ddynion hoyw mewn ffilm wrth iddo bwyso a mesur cymhlethdodau a gwleidyddiaeth hunaniaeth. Mae pennod Merris Griffiths Hysbysebu a r Plentyn Gorolwg Beirniadol o r Damcaniaethau a r Dadleuon Allweddol yn ystyried nifer o theorïau cyfryngol yn benodol yn nghyd-destun plant a phlentyndod, gan drafod y modd y mae plant yn defnyddio ac yn dehongli hysbysebion. Y berthynas oesol rhwng llywodraethau a r cyfryngau yw pwnc Eifion Lloyd Jones yn ei bennod yntau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau gan ddwyn i gof nifer o enghreifftiau ble gwelwyd y berthynas honno ar ei mwyaf heriol. Ystyried rhai agweddau o r berthynas rhwng iaith a chyfryngau y mae r bennod Y cyfrwng a r iaith: dadansoddi rôl cyfryngau mewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol gan gyflwyno rhai o r syniadau sydd wedi ceisio llunio naratif gyffredin yn hytrach na disgrifio cyd-destun unigol wrth astudio ieithoedd lleiafrifol. Dadl amserol iawn sydd gan Non Vaughan Williams yn ei phennod Radio cyfrwng hen ffasiwn neu gyfrwng oesol? o ystyried fod tirluniau cyfryngol wedi eu trawsnewid dros y pymtheng mlynedd diwethaf, a bod i radio wytnwch arbennig sydd yn caniatáu i r cyfrwng addasu, datblygu a pharhau. Mae pennod Catrin Prys Jones Cwestiynu r testun: Dadansoddi ac Amlystyredd yn trafod seiliau a defnyddioldeb un o fethodolegau anhepgorol y maes hwn sef dadansoddi testun, ac yn cyflwyno theorïau ac enghreifftiau penodol o r rheiny ar waith. Yn yr un modd y mae pennod Roger Owen Roland Barthes: Mytholeg fel nodwedd o r bywyd cyfoes yn mynd i r afael â strwythuriaeth a semioteg drwy gyfraniad gwaith y Ffrancwr hwnnw i r maes. Yn olaf, ac i gloi r gyfrol, mae pennod Daniel G. Williams Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth yn dystiolaeth o r berthynas agos sydd rhwng gwahanol ddisgyblaethau celfyddydol a thrwy ei ddadansoddiad yntau, yn bennaf ym maes cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth, gellir tynnu cymariaethau rhwng y disgyblaethau a u perthynas â Realaeth. Wrth reswm, nid yw cynnwys y gyfrol hon yn gasgliad cyflawn a chynrychioladol o r hyn a ddysgir yn israddedig yn ein prifysgolion. Mae paratoi deunydd astudio ar gyfer astudiaethau ar lefel prifysgol yn dasg sydd yn dilyn targed symudol i raddau helaeth gan fod adolygu ac adnewyddu cyson yn digwydd i ddarpariaeth. Dyna, mewn gwirionedd, yw un o nodweddion y berthynas agos rhwng ymchwil a dysgu. Fodd bynnag, mae n sicr fod yma ddeunydd a fydd yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr a u haddysgwyr wrth iddynt geisio astudio r meysydd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

5 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Rhagair 5 Bu aros lawer hwy na r disgwyl am y gyfrol hon. Dylid nodi fod sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers i r penodau gael eu hysgrifennu a u golygu, ac er fod ergyd y ddadl yn dal i fod yn berthnasol ynddynt, yn amlwg, nid oes cyfeiriad at waith academaidd a gyhoeddwyd na chynnyrch creadigol a grëwyd oddi ar y cyfnod hwnnw. O r diwedd dyma gyfle i r casgliad weld golau dydd a hynny mewn cyfrwng a fydd yn ei gwneud yn rhwydd i w chynulleidfa darged ei defnyddio ar gyfer astudio ac ymchwil pellach. Cyflwynir y gyfrol hon er cof am y Dr Catrin Prys Jones a fu farw n greulon o gynamserol yn 30 mlwydd oed ym mis Hydref Fe i cofiwn fel myfyrwraig hynod ddisglair, darlithydd craff a deallus ac un fyddai wedi cyfrannu n sylweddol iawn i w maes academaidd. Dyfernir Gwobr Goffa Dr Catrin Prys Jones gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn flynyddol i r myfyriwr/ fyfyrwraig sydd yn graddio â r marciau uchaf yn y meysydd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Ei phennod yn y gyfrol hon oedd ei gwaith ysgrifenedig olaf a diolchwn am ganiatâd ei hanwyliaid i w chyhoeddi yma. Yn olaf, carwn ddiolch i bawb a fu n rhan o greu r gyfrol hon, ac yn enwedig i r Dr Gwenllian Lansdown Davies am ei llywio n llwyddiannus drwy r wasg, gan obeithio y bydd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a darlithwyr ac yn ysgogi datblygu r maes ymhellach.

6 6 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau TERMINOLEG DDETHOL TERM YN GYMRAEG TERM YN SAESNEG (AC YN FFRANGEG) AWDUR/ON Y BENNOD adeiladweithiau constructions (social) MG amgodio encode MG amlystyredd polysemy CPJ argraffiadaeth impressionism GFf arwyddedig signified (signifié) RO & CPJ arwyddwr signifier (signifiant) RO & CPJ astudiaethau derbyniad reception studies CPJ bathotig bathotic GOJ camsyniad bwriad intentional fallacy CPJ Canllaw Rhaglenni Electronig EPG NVW clywedol auditory MG cydgyfeiriant convergence NVW cymuned ddychmygol imagined community EHGJ dadymuniaethu disidentification MG darllenus readerly / le lisible CPJ dadgodio decode MG defnydd a boddhad uses and gratifications MG derbyniad cynulleidfaoedd audience reception MG deuoliaethau dichotomies MG dialogig dialogic CPJ didactigiaeth didacticism CPJ dominyddol-hegemonig dominant-hegemonic CPJ düwch blackness RS effeithiau r cyfryngau media effects MG esthetiaeth aestheticism GOJ geodemograffeg geodemographics MG glamor glamour MG goddefol passive MG golygu didoriant continuity editing GFf goruwchwrywaidd supermasculine GOJ grŵp cyfoed peer group MG gwyliwr gweithredol active viewer MG gwrthgyferbyniad deuol binary opposition MG gwrthwynebus (darlleniad) oppositional (reading) CPJ gwybyddol (datblygiad gwybyddol) cognitive (development) MG heteroglosia heteroglossia CPJ heteroglotaidd heteroglot CPJ hunaniaethau rhyweddol gender identities MG hypodermig hypodermic MG lleihaol reductivist / reductionist CPJ lleisiadau di-lafar non-speech vocalisations MG llinellol linear CPJ

7 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Terminoleg Ddethol 7 llithriant slippage CPJ llun (saethiad) agos close up c.u. JH lluniau lluosog multiple exposures GFf marchnadle r defnyddwyr consumer marketplace MG meta-iaith neu uwchiaith metalanguage DW moddolrwydd modality MG monoglotaidd monoglot CPJ monologig monologic CPJ mynegiadaeth yr Almaen German expressionism GFf ôl-strwythuriaeth post-structuralism CPJ, RO & DW penderfyniaethol deterministic CPJ & RS rhywedd gender MG saethiad lled-agos medium shot JH saethiad pell long shot JH seicograffeg psychographics MG semioleg / semioteg semiology / semiotics MG, CP & RO swrrealaeth surrealism GFf & JH sylliad gwrywaidd gaze (male) CPJ & RS testun caeëdig closed text MG & CPJ theatricaliaeth theatricality GOJ treulyddiaeth consumerism MG ymchwil i gymhelliannau motivational research MG ysgrifus writerly / le scriptible CPJ

8 8 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau MANYLION CYFRANWYR Mae John Hefin yn gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr ffilm a rhaglenni teledu megis Pobol y Cwm, Grand Slam, The Life and Times of David Lloyd George, Bus to Bosworth, Rhandir Mwyn, Stafell Ddirgel, Penyberth, Tom Paine a Kyffin Williams. Bu n Bennaeth Drama BBC Cymru ac yn Gymrawd Ffilm yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae Gwenno Ffrancon yn arbenigwraig ar astudiaethau ffilm a theledu ac yn Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae Robert Shail yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffilm a Diwylliant Gweledol yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant. Mae Geraint Ellis yn Uwch Ddarlithydd Diwydiannau Creadigol yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor. Mae George Jones yn gyfieithydd amlieithog, prawf ddarllenwr a golygydd. Cyn hynny bu n Uwch Swyddog Ymchwil gyda Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Merris Griffiths yn Ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Bu Eifion Lloyd Jones yn Bennaeth Adran Cyfathrebu a r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor am flynyddoedd, ac mae bellach yn Ymgynghorydd Datblygu Staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Elin Haf Gruffydd Jones yn Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau a r Diwydiannau Creadigol ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae Non Vaughan Williams yn Uwch Ddarlithydd mewn cyfryngau yn Ysgol y Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant. Bu farw Catrin Prys Jones yn 30 oed yn Roedd yn Ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae Roger Owen yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Theatr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Daniel G Williams yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Saesneg, ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, ym Mhrifysgol Abertawe.

9 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau 9 FFYDD YN Y FFRÂM JOHN HEFIN RHAGYMADRODD Fy nghynulleidfa yw fy nheulu. Dydw i ddim yn siarad wrthych ond yn siarad â chi. Mae hyn yn rhan o r traddodiad Celtaidd. E. G. Bowen Prin iawn y bydd myfyrwyr mewn coleg yn myfyrio; mae yna gymaint o demtasiynau gwych ac erchyll i w dargyfeirio. Bydded hyn fel ag y bo, dyma a benderfynodd ar gyfeiriad clir i r hyn a ganlyn. Wele ymgais i godi arwyddbyst a fydd yn ddefnyddiol, gobeithio, er mwyn ysgogi ac arwain, maes o law, at feysydd ysgolheictod arbenigol, meysydd meistri ffilm tebyg i Bazin, Truffaut a Powell, meysydd bras a phleserus. O hebrwng y darllenwyr ar hyd y filltir gyntaf hollbwysig, fy mhleser mawr fyddai eu trosglwyddo, fel petai, yn barod gogyfer â gweddill y daith yng nghwmni r rhai sy n well na mi. Bydd byrdwn y sylwadau a r casgliadau yn oddrychol yn hytrach na gwrthrychol, a dyma rybudd teg. Byddaf hefyd yn ceisio osgoi beirniadu, ond nid bob amser yn llwyddo. Pam? Darllener y ddau ddyfyniad isod: Duw a luniodd fardd, Yna cymerth ddyrnaid O r ysbwriail oedd ar ôl A gwnaeth dri o feirniaid. (Thomas Jacob Thomas, Sarnicol, ) Vladimir: Moron! Estragon: Syniad da; gad i ni ladd ar ein gilydd. V: Moron! E: Gwahil! V: Brych! E: Mwnci! V: Llygoden Ffrengig! E: Curad! V: Cretin! E: Beirniad!! V: Ahhhh (mae n gwywo; trechwyd ef). Wrth Aros Godot, Samuel Beckett Gêm anwyddonol yw beirniadaeth, ac wrth gwrs fod beirniad a beirniad, ond mae r mwyafrif yn arfilod, ac i w hosgoi ar bob cyfrif, yn enwedig gan ganran gref o n dyfodol fel cenedl, sef myfyrwyr ein Colegau. Y BROSES GREADIGOL Mewn ffilm dda, mae yna eglurdeb sydd yn ein rhyddhau ni o r ysfa i ddehongli. Susan Sontag

10 10 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm P un ai yw r broses greadigol yn digwydd mewn stiwdio neu ddarlithfa, mewn stafell olygu neu draethawd PhD, dyma galon y mater dan sylw. Mae yna fygythiad cyson i werth canolog y broses yma ymhlith gwneuthurwyr ffilm sy n aml yn gallu siarad ffilm dda a hefyd ymhlith ysgolheigion sy n anghofio y byddent heb swydd oni bai am y rhai a esgorodd ar y ffilmiau a r rhaglenni gosod. Y mae Jan Morris yn arwres i mi, ac mae arna i ofn fod yr arwr a r arwres wedi bod yn allweddol yn fy mywyd; ofn, oherwydd fe all y rhain greu cysgod sy n bygwth lleihau r unigolyn edmygus, a r addoli yn creu gwaseidd-dra. Ar y llaw arall mi all greu positifrwydd digwmwl, lle mae dylanwad da yn hytrach na dynwarediad gwael yn llywio r berthynas. Perthynas felly sydd rhwng y wraig a fu n ŵr a minnau. Mae hi, i mi, yn garisma, yn gonwndrwm, yn Flodeuwedd, ac ni allaf feddwl am dri gair gwell i ddechrau gwerthuso r broses o greu. Darllener unrhyw un o i llyfrau lu a gellir adnabod yn syth ei chariad diddiwedd at Gymru. Ffiol o win na ellir ei fferru yw Wales iddi hi. Mae n adnabod hwyl a hiraeth yr henwlad ac yn ddigyfaddawd yn ei chenhadu ledled y byd. Ei swyddogaeth yw creu llefydd a gwledydd, ac mae wedi llwyddo i gyhoeddi clasuron fel Oxford (1978), Venice (1974), The Matter of Wales: Epic Views of a Small Country (1986) ac A Machynlleth Triad (1993). Sail y rhain a phob un arall o i chreadigaethau yw ymchwil manwl a dehongliad personol. Dyma fy ngwir i yw ei chri, a dyna, yn y pendraw, yw r unig beth y gall artist ei gyflwyno i r byd. Nes na r hanesydd at y gwir di-goll, Ydyw r dramodydd, sydd yn gelwydd oll. R. Williams Parry ( Gwae Awdur Dyddiaduron, Cerddi r Gaeaf) Does yna yr un gwir, yn enwedig yn yr oes Ôl-fodernaidd hon. Yr hyn sy n oesol yw r angen am ddehongli sensitif ac ymwybyddiaeth drylwyr o r hyn sy n bod. Mae gwirioneddau llachar Jan Morris wedi goleuo a swyno darllenwyr o Abergorky i Albuquerque, am eu bod nhw wedi adnabod a gwerthfawrogi deunydd sy n ffeithiol ac yn delynegol. Un arall o m harwyr yw Chris Lawrence, chef du montage, neu o i roi mewn cyfieithiad Cymraeg anysbrydoledig, golygydd ffilm. Cymaint gwell yw r term Ffrangeg sy n cyfleu mwy o ddewiniaeth y swydd. Y cast a r cyfarwyddwr sy n cael y sylw mawr wrth drafod ffilm. Ambell dro caiff y sgwennwr neu r person camera, ond odid byth yr un sy n gosod trefn ar filoedd o luniau a milltiroedd o effeithiau sain. Mae Chris Lawrence wedi ennill gwobr fwyaf Bafta Cymru, a da yw r gydnabyddiaeth honno. Ond pam? Am ei fod wedi deall y conwndrwm o r hyn sy n digwydd i ymwybyddiaeth gwyliwr pan fo dau lun yn gorgyffwrdd ar y sgrin, dwy sain yn plethu, dau air yn dod ynghyd, hynny yw, hud y broses o greu a cholyn y cyfan. Yr hyn yr hoffwn i ei bwysleisio yw bod Jan a Chris fel ei gilydd yn meddu ar y ddawn o wneud un ac un yn dri, a hynny oherwydd eu hadnabyddiaeth o greu. Ni chefais sadrwydd barn yn waddol drud Dim ond ymennydd sydd yn rhemp i gyd. Mi gefais nerth o fêr eich esgyrn chwi I goelio, dro, fod un ac un yn dri. T.H. Parry-Williams ( I m Hynafiaid, Olion)

11 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm 11 Does yna yr un esboniad i r broses greadigol, er bod sawl ymgais ddiddorol ac anghyflawn wedi ei gwneud yng nghyd-destun ffilm. Yr hyn sy n gwbl gytûn ymysg y dehonglwyr yw na fyddai bywyd gwâr yn bosib heb y broses hon. Tristwch yw r ymateb ymhlith rhai academyddion y byd cyfathrebu i r casgliad hwn. Cymaint mwy gwerthfawr fyddai i r modiwlau sydd yn eu gofal gydnabod gwir werth creadigrwydd. Wrth gwrs fod Goleuo, Set ag Effeithiau Arbennig, Ymateb y Gynulleidfa a r myrdd o bynciau ymchwil eraill yn bwysig dros ben, ond eilradd yn fy marn i ydynt i r broses greadigol. Petai pob myfyriwr ffilm, wedi tair blynedd o astudio r maes, yn gadael y Coleg yn ymwybodol o r ffaith gymhleth/syml hon, byddai r addysg wedi bod yn baratoad gwerthfawr i anghenion gweddill eu bywydau. Wedi r cyfan, dim ond ychydig o raddedigion ffilm a theledu sy n mynd yn eu blaenau i weithio yn y cyfryngau, felly cyfrwng addysg, ac addysg i astudio byd, yw ffilm. Ystad bardd astudio byd, a braint pob bardd-fyfyriwr wedyn fyddai sylweddoli mai r hyn sy n cyfrif, beth bynnag fo troeon ei yrfa, yw r sawl sydd yn creu, boed yn rheolwr, yn dechnegwr, yn gogydd, yn farchnatwr ac, yn sicr, yn addysgwr. Dewch nôl am ennyd i un o freuddwydion cynnar S4C i gynhyrchu ffilm fawreddog a fyddai n llwyddiant yng Nghymru ac yn werthadwy yng ngwledydd cred, a diffyg cred o ran hynny. O freuddwydio, da yw cael ambell rodd sy n cyfoethogi r daith ddychmygol. Fel Aur, Thus a Myrr gynt, rhoddion gwerthfawrocaf y byd teledu yw Amser, Hyder a Chyngor. Dyw r tri yn gwarantu dim, ond maent yn iro a chryfhau r brwdfrydedd ac yn sicr yn hwyluso r creu. Grêt! Grêt! oedd un o ebychiadau cyson pennaeth rhaglenni S4C, Euryn Ogwen, bardd a galluogwr. Ogi i w ffrindiau, ac fel Prospero yn y Dymhestl, fe aeth ati i alluogi r freuddwyd o greu ffilm ysgubol. Allan o niwl y dalent oedd ar gael yng Nghymru ar y pryd, dewisodd fardd arall, nad oedd erioed wedi ysgrifennu ffilm, a dysgwr, a oedd yn gyn-olygydd ffilm. Cafodd Euryn y weledigaeth a r hyder i wahodd y deuddyn i greu r blockbuster, Hedd Wyn. Gambl, gwallgof a dwl i sawl un a glywodd y newyddion ar y pryd. Rhoddodd Euryn y ddwy rodd o Amser a Hyder iddynt. Dwy flynedd i weithio ar ymchwilio, synhwyro, dehongli, chwynnu, drafftio a drafftio eto, nes bod y deunydd, y sgript, yn barod i w saethu. Drwy gydol y cyfnod allweddol yma bu n eu cefnogi ac yn eu hannog fel bod Alan Llwyd a Paul Turner wedi cael cyfle i gyfoethogi eu doniau fel bardd ac fel golygydd, gan fod y ddwy ddisgyblaeth o fudd naturiol i r gwaith dan sylw. Yn wir, honna Alan yn ei ffordd ddihafal wych, fod barddoniaeth a ffilm yn efeilliaid celfyddydol. Petaem yn pentyrru pob un o r celfyddydau ar ben ford a bod rhaid dewis y ddau debycaf i w gilydd, does dim cwestiwn yn ei dyb e pa ddau fyddai r rheiny. Mae r ddau n dibynnu n helaeth ar ddelweddau a disgyblaeth geiriau i drefn rhythmau ac anghenion penodedig, megis odl neu gynghanedd neu rediad o luniau. Felly disgyblaeth lem y delweddau sy n apelio at Alan, fel bardd ac nid rhigymwr. Heb fanylu rhagor, cafwyd llwyddiant Oscaraidd a bu S4C ar ei helw. Ac yn awr, yn anffodus, at y Rhodd olaf. Cyngor i r naïf a r diniwed ynglŷn â real politik y byd teledu a ffilm. Am ba bynnag reswm, ni chafodd Paul nac Alan yr un llwyddiant tebyg wedi Hedd Wyn. Cynigiwyd sawl sgript i r gwahanol gyrff darlledu yng Nghymru a thros y ffin. Gwn am un yn arbennig, sef hanes hynod Goronwy Owen, ond na, dim diolch yn fawr fu r ymateb. Felly, cyngor caled, os caf aralleirio Aneirin, Wedi llwyddiant, tawelwch fu Bu llawer o wŷr dewr byw cyn Agamemnon: oll yn anhysbys, di-farwnad, wedi eu gorchuddio ag angof am eu bod yn amddifad o fardd. Mae r Gwrol, heb ei ddathlu fawr gwell na r Llwfr yn y bedd. Horace

12 12 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm Mae yna enghraifft o amddifadu yng nghyntedd y BBC. Yno gweler cerfluniau o Dylan Thomas, Carwyn James, Ryan Davies a Ray Gravell sydd yn ardderchog ac yn gwbl haeddiannol. Ond ble mae r cof am ddau arall a fu n gwbl allweddol i enedigaeth BBC Cymru, Aneurin Talfan Davies a Hywel Davies? Gwnaeth y ddau gymaint i sefydlu r gwreiddyn brau sydd erbyn hyn yn dwf o dros ddeugain mlynedd ond, hyd yma, ni chawsant eu lle mewn cof cenedl. Mewn ffordd fechan fe ddewisais i ddathlu a chofio dau ffrind, Rhydderch Jones (Rhydderch Hael, BBC 2002), a Nhad (Bus to Bosworth, 1974), nid mewn clai, olew na cherdd, ond ar ffilm. Roedd yna beryg i w gwerth fynd ar goll. Roedd The Life and Times of David Lloyd George (1981) a Grand Slam (1978) yn enghreifftiau digon difyr a gwrthgyferbyniol o r broses greadigol. Y naill â strwythur manwl, wedi ei ymchwilio n drwyadl dros gyfnod o ddwy flynedd, a r llall yn gwbl organig o fewn strwythur dychymyg. BBC2 gomisiynodd The Life and Times of David Lloyd George, naw awr a hanner o deledu cyfnod ar oriau brig y sianel. Cafwyd pob cefnogaeth gan Shaun Sutton (Pennaeth Drama r BBC yn Llundain) a Geraint Stanley Jones (Rheolwr BBC Cymru). Ef a ddysgodd i mi mai braint yw darlledu ac nid hawl a bu n arbennig o gefnogol a dewr yn ystod y cyfnod peryglus hwn, nid yn unig o ran llefaru ei frwdfrydedd, ond hefyd o ran gofalu fod yna gyllid priodol i fwydo r anghenfil o gyfres. Ni allaf bwysleisio ddigon gwerth rheolwr dawnus yn y byd teledu neu ffilm. Mae r bòs yn bwysig, ac mewn ambell funud ramantaidd, mae n perthyn i draddodiad Cymraeg yr Oesoedd Canol, pan oedd y Bonedd yn noddi r Clêr. Nod gyntaf y broses o greu Lloyd George oedd sicrhau sgript deilwng. Prif nodwedd ffilm dda, yn ôl yr archboenydiwr Alfred Hitchcock yw Sgript dda, sgript dda, sgript dda. Sgersli bilîf, chwedl Wil Sam. Petasai r gwerthoedd i gyd yn y sgript, beth fyddai r pwynt o drosglwyddo r cyfan i r sgrin? Wrth reswm rhaid cael sgript dda mewn rhyw ffurf neu i gilydd, fel rhan hollbwysig o r cyfanrwydd, ac yn yr achos yma pwy n well nag Elaine Morgan, meistres y feiro bic, i lunio r cyfan. Bu hithau a minnau yn ffodus o dderbyn y ddwy rodd gan y BBC, sef Amser a Hyder, i baratoi teledu drudfawr heb boeni n ormodol am y drud. Cawsom hefyd yr ymdeimlad clir, sy n anodd iawn ei ddiffinio, sef yr ymwybyddiaeth ein bod yn derbyn ffydd ac ymddiriedaeth, a pharodrwydd i n hamddiffyn drwy r cyfnodau anodd sy n anorfod mewn cyfres mor gymhleth. Yn bwysicach na dim, roedd pawb a oedd wrthi am i r gyfres lwyddo. Rwyf wedi gweithio i reolwyr nad oeddent yn dymuno dim o r ffactorau uchod oherwydd eiddigedd, diffyg gweledigaeth ac yn y blaen, ond straeon eraill yw r rheiny. Profiad yr un mor bleserus â Lloyd George oedd Grand Slam. Cafwyd y rhoddion, ond roedd yr ymateb i r rhoddion yn gwbl wahanol, am resymau da, rhesymau oedd yn llawn risg. Yn y lle cyntaf penderfynwyd gwneud i ffwrdd â r sgript gonfensiynol ac, yn yr ail le, â r dull o gyfarwyddo confensiynol. Roedd bod heb sgript ym 1976, a heb batrwm BBCaidd o saethu yn anghyfrifol ac yn gofyn am drwbl, a gyda llaw does dim sgript o Grand Slam yn bod hyd heddiw! Stori am fand pres oedd braslun y ffilm wreiddiol, a bu fy ffrind annwyl Gwenlyn Parry a minnau yn brwdfrydu am bosibilrwydd y syniad hwnnw, tan i ni gael awgrym gan D.J. Thomas (neu D.J. T.V. Thomas, fel y galwai Dylan Thomas ef), Isbennaeth Rhaglenni r BBC ar y pryd, y dylid cyfnewid stori r band pres am helyntion clwb rygbi. Apeliodd y syniad yn syth, yn enwedig o gofio hinsawdd y gêm hyfryd yn y 70au. Aethpwyd ati ar frys i roi syniadau ar bapur fel braslun newydd o n pwrpas. Wedi gwneud hynny doedd dim ar ôl ond camu ymlaen gyda meddwl agored. Cychwynnodd Gwenlyn a minnau ar daith fythgofiadwy a llawn difyrrwch! Un o r pethau cyntaf i newid oedd y cynnwys a r cyfeiriad. Newidiwyd un o r cymeriadau o fod yn chwarelwr o Ogleddwr digrif iawn heb yr un syniad am rygbi i fod yn Maldwyn Novello Pughe, deheuwr hoyw a pherchennog boutique, a dyn hilariws. Roedd Siôn Probert wedi cymryd rhan yn nrama wych Rhydderch Jones, Mr Lolipop M.A.

13 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm 13 cyn gwneud Grand Slam. Chwaraeodd Siôn ran gweithiwr cymdeithasol call a syber. Yn ystod ymarferion y ddrama honno, byddai n dweud straeon a fyddai n gwneud i fochyn pren chwerthin, straeon am Tyrone Jones o Seven Sisters when I went there were only six left. Doedd dim cwestiwn yn fy meddwl y byddai castio Siôn yn gaffaeliad amhrisiadwy. Cytunodd Gwenlyn a minnau y byddai cymeriadau Windsor Davies (Mog), Dewi Pws (Glyn) a Hugh Griffith (Caradog) yn cael gwrthgyferbyniad gwych ym mhresenoldeb annisgwyl Maldwyn ( open late Thursdays ). Wedi r cyfan roedd y syniad o ddynion hoyw a r hiwmor arbennig sy n gysylltiedig yn ddiarth i r sgrin deledu ar y pryd. Buom yn ymarfer am bythefnos cyn y saethu. Ymarfer yn yr ystyr o eistedd o amgylch ford am oriau ac oriau, yn cael bwyd a diod gyda n gilydd, yn byw a bod y cymeriadau, ond heb ddysgu r un llinell nac ymarfer yr un symudiad. Erbyn diwedd yr ail wythnos roedd y pedwar wedi eu trwytho ym mhosibiliadau eu cymeriadau heb lyffethair sgript ffurfiol gonfensiynol. Felly r patrymau gogyfer â r criw; doedd dim sgript saethu ffurfiol gonfensiynol. Roedd rhai o r Penaethiaid Adrannau ceidwadol eu golygon yn amheus iawn o r pethau hyn. It s not the BBC s way of doing things a How can the realisation team prepare if there is no script ac ati. Ond roedd y rhai a oedd â gwir bŵer o m plaid, ac felly yr aeth y cwch i r dŵr, heb gwmpawd ffurfiol ond â chyfeiriad a nod clir iawn yn y dychymyg: Hefyd: (Caradog, Glyn + Maldwyn enter a pissoir to relieve themselves.) (Caradog exits pissoir, shakes a leg, the old dog that he is, and looks around for any signs of his old haunt in Paris) Caradog: I ve got this feeling Glyn: Is this the same feelin you ad alf an our ago Dad? (Caradog threatens him with his rolled up umbrella) Glyn and Maldwyn, undeterred by the old boy s threat, move on and exit frame, leaving Caradog frustrated and looking a bit lost. Interior aeroplane. Caradog and Maldwyn walk down the aisle and find their seats, Caradog sits by the window, it is his privilege. Maldwyn sits next to him and searches for his safety belt, due to his extremely nervous state of mind he gets hold of one of Caradog s belts and one of his. Maldwyn: O Mr Lloyd Evans, I ve got two buckles and no end! Digwydd wnaeth y ddau ddyfyniad uchod, nid o ymarfer a sgript, ond o wybodaeth fanwl o gymeriadau unigol. Caniataodd hyn i r broses o greu ddigwydd yn fyrfyfyr. Trwy ryfedd wyrth rhoddodd y Dewin o Lanystumdwy a r Adar o Gwm Tawe gyfle i baratoi ffilmiau a oedd yn caniatáu llwybrau tra gwahanol i w gilydd parthed y broses o greu. Fel ag y sydd i r Nefoedd mae yna gannoedd o ffyrdd i wireddu gobeithion bywyd. Gallaf feddwl am enghreifftiau clasurol megis Casablanca (Michael Curtiz, 1942, UDA) lle bu Ingrid Bergman yn actio llinellau heb syniad beth oedd diweddglo r ffilm. The Gold Rush (Charlie Chaplin, 1925, UDA) lle bu Chaplin yn ymarfer y cyfan wrth ffilmio, hynny yw dim paratoi o gwbl, a Psycho (Alfred Hitchcock, 1960, UDA) lle r oedd pob un o r symudiadau, y ddeialog a r sain wedi eu cyfansoddi n fanwl derfynol cyn camu i mewn i r stiwdio.

14 14 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm Gocheled rhag fformiwlâu! Da a gwych yw gwybod y rheolau ond gwychach fyth yw ceisio eu dehongli n ddifyr. AGENDA GUDD Bydd y sinema yn ddim mwy na stondin hwyl mewn sioe wagedd. Auguste Lumière Petai Moses yn disgyn o r mynydd heddiw, yn ôl pob sôn, deg awgrym fyddai ar y dabled gan nad yw gorchymyn yn wleidyddol gywir. Ga i felly awgrymu fod yna ddau rwystr sydd yn fythol bresennol wrth astudio ffilm, sef, yn gyntaf, ffilmiau ag is-deitlau, ac, yn ail, ffilmiau du a gwyn. Mae fy ngreddf, rhaid cyfaddef, am orchymyn i bob myfyriwr weld cynifer â phosib o r rhain gan fy mod i n sicr yn fy meddwl fy hun mai mewn du a gwyn a gydag is-deitlau y mae rhai o berlau gorau r cwt chwain. Ond, gwn mai ofer fyddai mynnu hynny gan fod rhagfarn mor ddwfn yn y psyche i ymwrthod ag awdurdod sydd ynghlwm wrth orchymyn. Felly, agenda gudd ac awgrymog amdani, a chyda chyfrwyster sarff a diniweidrwydd colomen, dyma ddangos Cinema Paradiso (Giuseppe Tornatore, 1989, Yr Eidal/ Ffrainc) a La Battaglia di Algeri, neu Frwydr Alger (Gillo Pontecorvo, 1966, Algeria/Yr Eidal) iddynt heb egluro pam. Dyw r ddau glasur heb fethu eto gan eu bod yn torri trwy r rhagfarnau fel cyllell trwy fenyn. Mae Cinema Paradiso, er ei bod mewn iaith estron, yn llwyddo gyda chymorth Toto (Salvatore Cascio) y bachgen bach â r llygaid mawr i greu byd hynaws Sicilia sy n gwbl dderbyniol i gynulleidfa gyfoes. Mae lluniau Blasco Giurato a cherddoriaeth Ennio Morricone yn gaffaeliadau mawr. Ond yr hyn sy n gweithio n ddi-ffael yw apêl leol a rhyngwladol cyfarwyddo Giuseppe Tornatore, gŵr sy n adnabod ei filltir sgwâr enedigol hyd at obsesiwn. Mae Brwydr Alger wedi ei chyfarwyddo, eto n wych, gan Gillo Pontecorvo. Fel rhyw gyd-ddigwyddiad rhyfedd, Ennio Morricone gyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm hon hefyd. Dilyn helynt rhyfel annibyniaeth Alger rhwng 1954 a 1956 yw cefndir y ffilm, ac mae wedi ei saethu n fwriadol mewn du a gwyn di-raen, hynny yw, tebyg i ansawdd hen ffilm newyddion y cyfnod. Gallech dyngu ei bod yn pluo eira mewn ambell olygfa, cymaint yw r niwl o fewn y ffrâm. Ffilm sy n perthyn i draddodiad Neo Realaeth ydyw, yn arddull Rossellini ( ) o ran saethu ac yn dilyn Eisenstein ( ) o ran golygu. Ar wahân i un actor, Jean Martin (Colonel Mathieu), mae n gast amatur. Mewn geiriau eraill, mae n dipyn o bwdin ac mi all dagu r gwylwyr, ond nid felly mae hi yn fy mhrofiad i, o i dangos i filoedd o fyfyrwyr a brofodd dröedigaeth. Mae r ddwy ffilm yn enghreifftiau da o r celwrn o rai tebyg sy n aros i r sawl sydd am fentro, ac am gamu heibio eu drwgdybiaeth. Gemau fel gwaith Ingmar Bergman ( ), Luís Buñuel ( ), Salvador Dalí ( ), Federico Fellini ( ), Jean Cocteau ( ), François Truffaut ( ), Alain Resnais (1922), Akira Kurosawa ( ), Orson Welles ( ), D.W. Griffith ( ) ac yn y blaen. Arloeswyr oedd â ffydd yn y ffrâm, ac sydd wedi gosod seiliau cryf i ganrif gyntaf y ffilm. Mae yna is-bennawd arall ar yr Agenda Gudd. Sylwer ar enw olaf yr arloeswyr, David (Llywelyn) Wark Griffith o Kentucky ac o dras Gymreig, a thad ffilm. We owe him everything, meddai Charlie Chaplin. Hawliai Griffith ach yn ôl i Oes y Tywysogion, ac fel Syr John Morris-Jones, fe greodd Ramadeg, sef Gramadeg y Sgrin. Ef a roddodd hygrededd a ffurf i r saethiad agos, y saethiad lled-agos a r saethiad pell a symudiadau r camera a greodd yr hyn a elwid yr helfa neu r chase.trueni mai araf yw r Cymry fel cenedl i gydnabod rhai fel D.W.Griffith, ac eraill fel Frank Lloyd Wright o Sir Benfro, pensaer a chrëwr rhai o adeiladau harddaf y byd, a Jack Daniels o Aberteifi, crëwr yr anfarwol Cysur y De.

15 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm 15 LLYGAD Y DDRAIG Po fwyaf emosiynol y deunydd, lleiaf emosiynol y driniaeth. Jean Renoir Heb ddilorni dim ar dafod y Ddraig, rhaid ar gwrs ffilm rhoi priod sylw i r llygad nad yw i raddau helaeth yn rhan o gof ein cenedl ni. Da o beth yw sylweddoli fod newid dirfawr wedi dod i n rhan fel cenedl yn ystod yr ugain mlynedd olaf; mae C.P.L (Cyn Peter Lord) ac O.P.L. yn ddwy oes bur wahanol parthed gwerthuso celf weledol. Rhywsut, rydym yn hwyr yn y dydd yn deffro o ryw drwmgwsg i sylweddoli braint ein bodolaeth weledol. Ond mae n anodd, wedi wyth can mlynedd o ddiffyg rhyddid go iawn, newid dros nos ond mae na bethau sy n rhoi brys ar y deffro ac yn gymorth i agor ein llygaid, megis gwaith arwrol Peter Lord. Pam fod y traddodiad gweledol wedi bod fel ag y mae? Dyma un ddamcaniaeth. Yn ôl yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru, roedd pawb, fwy neu lai, yn siarad Cymraeg, yn mynd i r eglwys, ac yn anllythrennog. Roedd modd gwrando ar yr offeiriad, gan fod y ddawn o ddarllen ym meddiant yr ychydig ddysgedig. Ffynnai r beirdd, a u camp oedd, nid yn unig sgrifennu r cerddi, ond eu llefaru i r rhai oedd am wrando. Fe sylwch felly, o gymharu â heddiw, fod yna wacter amlwg parthed darllen. Yr hyn a lanwodd y bwlch oedd yr hyn a welai r llygad, e.e. urdd-wisgoedd coeth yr offeiriaid, ffenestri plwm amryliw, gwaith coed cerfiedig cain, modelau mawr a bach o r Forwyn Fair, ffrescau dramatig ar y welydd gwyngalch a oedd yn aml iawn wedi eu paentio â gwaed. (Un o r enghreifftiau harddaf yn y byd o r ffrescau hyn yw Eglwys Patruso sy n ddwfn yng nghefn gwlad Mynwy). Yna, yn sydyn, ar draws popeth, fel pladur enfawr, daeth Cromwell a i luoedd. Dymchwelwyd y delweddau, malwyd y trysorau crefyddol a thrwy fandaliaeth bur, diddymwyd gwrthrych addoliad gan adael y ffyddlon rai, nid yn unig yn anllythrennog, ond yn ddall bellach i ogoniant gweledol eu ffydd. Sicrhaodd Piwritaniaid y cyfnod nad oedd cerfluniau, eilunod a gwagedd o r math yma yn dderbyniol mewn cymdeithas. Symlrwydd diaddurn y Gair oedd ffasiwn y dydd. (Ganrif neu ddwy yn ddiweddarach gwnaeth y Methodistiaid eu gorau glas i barhau r traddodiad.) Wedi r gyflafan, mae n debyg fod arlunwyr mor brin, fel bod rhaid eu mewnforio o r Iseldiroedd os am baentio unrhyw fath o bortread. Rheibiwyd celf er mwyn mawrygu enwadaeth gul ac fe agorwyd clwyf sy n parhau hyd heddiw. Yn y gwacter gweledol a adawyd daeth cyfle i lanw bwlch, a phwy n well yn yr iaith Saesneg na Shakespeare. Fe greodd cymaint â grym geiriau. Geiriau gwych, ond geiriau, geiriau, geiriau. Yn ôl Harold Bloom yn un o i lyfrau ar y bardd, cymaint oedd ei rym geiriol nes peri creu a rhoi ffurf ar genedl y Sais fel y i hadwaenir heddiw. Llanwyd y gwacter gweladwy yng Nghymru eto gan feirdd ac mae r traddodiad barddol yn parhau n rhyfeddol wych hyd heddiw. Hyd at yn gymharol ddiweddar bu r glust a r dafod yn melysu r ymennydd, ond am y llygad druan! Damcaniaeth arall yw mai bach yw pris pensil a phapur, sef offer bardd, ond cymaint drutach yw offer dramodydd, sef cast, celfi, theatr ac ati. Hynny yw, diwedd y gân gelfyddydol yw r geiniog, yn enwedig arian sydd wedi ei ganoli n ddinesig. Ar wahân i eithriadau diddorol, celfyddyd wasgaredig, wledig oedd celfyddyd y Cymry, heb yr arian mawr fu n gynhaliaeth amhrisiadwy yn Nulyn, Caeredin a Llundain. Mae r berthynas hanesyddol rhwng cyllid a chelf yn ddifyr; pan fo economi man a lle yn llifo n hwylus ac er mantais i r cyfryw rai, felly hefyd y llifa r hyder a r agwedd bositif a dyma arwain yn eu tro at gynaeafau celfyddyd. Enghreifftiau amlwg yw Oes y Dadeni yn yr Eidal, Oes Oleuedig yr Alban, a lle bach yng Nghaliffornia, yn 1910, o r enw Hollywood. Hawdd yw gweld apêl fformiwla fel hon. Er hyn dychmyger ei pherthynas â Chymru; er enghraifft, ai golud barodd yr emyn, un o binaclau ein creu? Pa ddylanwad gafodd pres y Penrhyn ar Arfon, a beth am

16 16 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm farsiandwyr Merthyr, y Crawshays? A oes yna le i gredu fod golud llechi, glo a dur wedi peri diwylliant ffyniannus yng Nghymru? Ai arian sy n creu celf, ai celf sy n creu arian, ai caledi sy n creu? Wedi r cyfan, beth yw arwyddair Morgannwg ond A ddioddefws a orfu? Bid fel y bo am fformiwlâu! Maent mor aml â mwyar Medi ac yn bodoli ers i r byd fod yn lle pan oedd Duw yn unlliw â Diawl. Felly, safed Cromwell, Enwadaeth a Thlodi o flaen eu gwell, a u dyfarnu n euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth! Bob blwyddyn mae yna bôl-piniwn ynglŷn â ffilmiau gorau a theledu gorau r byd. Bydd y British Film Institute a r American Film Institute yn eu cynnal o ran difyrrwch ac o ran nodi patrymau barn. Maent yn targedu ystod o farn ysgolheigaidd a lleyg wrth ddyfarnu. Diddorol i mi yw sylwi o flwyddyn i flwyddyn nad oes un ffilm o wledydd Prydain yn neg uchaf y ffilmiau gorau, ond yn ddieithriad mae yna gynnyrch Prydeinig yn neg uchaf y teledu. Pam fod ein teledu gymaint yn well na n sinema yn ôl y gwybodusion? Ai diffyg ffydd yn y ffrâm? PRIODAS WAED Peth arwynebol a rhwydd ei wastraffu yw talent. Yr hyn sy n bwysig mewn celf yw obsesiwn, gan fod hwnnw n mynnu ei le. Kyffin Williams Go brin bod yr obsesiwn gyda defnyddioldeb a buddioldeb yn creu r hinsawdd orau ar gyfer llenyddiaeth y dychymyg. John Rowlands Uniad nad oedd yn fwriad gan yr un o r partneriaid fu r briodas gyfryngol rhwng ffilm, teledu, radio a theatr, yn enwedig yr asiad cyfleus a di-gariad rhwng ffilm a theledu sy n bychanu r ddau sy n cydorwedd, yn hytrach na bod yn gyfrwng i w cryfhau a u datblygu n unigryw. Bûm yn ffodus i fod yn Bennaeth Drama yn y BBC. Roedd y swydd yn golygu gofalaeth am deledu a radio ac, erbyn diwedd fy nghyfnod i, ffilm hefyd. Yn ystod yr amser hapus iawn hwn bûm hefyd yn ffodus i gyfarwyddo Drama Gomisiwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug, sef Y Ffin, drama lwyfan Gwenlyn Parry. Bu r profiadau hyn yn rhai hynod ddiddorol a chefais flas ar y pedwar cyfrwng, ond gwyddwn mai ond un oedd yn cyfri i mi. Term cyfleus iawn yw Drama. Mae n cwmpasu r uchod i gyd yn daclus ar bapur, ond mae n gwbl annigonol yn y byd real. Ni allaf feddwl am gyfryngau mwy annhebyg i w gilydd na r pedwar dan sylw. Mae hi n ddigon hawdd dweud fod cymeriadau a deialog dda yr un mewn unrhyw ddrama radio, llwyfan, teledu neu ffilm ond dyma n union yw r broblem, sef cyffredinoli. Mae cymeriadu radio yn gwbl ddibynnol ar sain, sy n hollol wahanol i r tri chyfrwng arall, ac os yw hyn yn wir am gymeriadu, yn sicr mae n wir am ddeialog. Mae yna nodweddion unigryw i r pedwar cyfrwng, ac o u gosod yn fathemategol braidd, dyma ymgais at eu diffinio: RADIO Radio = Môr o eiriau a môr o ddelweddau dychmygol. Theatr = Môr o eiriau ac afonig o ddelweddau. Teledu = Môr o eiriau ac afon o ddelweddau. Ffilm = Môr o ddelweddau ac afon o eiriau. Un o glasuron radio r byd yw Dan y Wenallt (Under Milk Wood). Nid yn aml mae r cyfieithiad cystal â r gwreiddiol, ond yn yr achos yma credaf fod T. James Jones wedi dod yn agos iawn ati. Geiriau gogoneddus sydd yma yn tywallt eu hunain ar glust y gwrandäwr ac yn creu setiau, cymeriadau, a delweddau

17 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm 17 bythgofiadwy. Dywedir yn aml fod y setiau neu r lluniau gorau yn y dychymyg, ac o r herwydd ei bod hi n harddach yn aml i weld Llaregub ar y radio nag yw hi ar ffilm, teledu neu theatr. Mae hyn yn wir am ffilm Under Milk Wood (Andrew Sinclair, 1972, DG) gyda Richard Burton, Peter O Toole, Ryan Davies ac Elizabeth Taylor. Roedd dehongliad Sinclair yn syrthio rhwng dwy stôl. Nid radio, nid ffilm chwaith ond dynwarediad o waith un o r enw Max Ophul. Gwaith didwyll uchel ael, ie, ond nid ffilm. Petai Dylan Thomas am i Under Milk Wood fod yn ffilm mi fyddai wedi ei sgrifennu fel ffilm; wedi r cyfan, fe sgrifennodd dros ugain ohonynt, a phrin fod neb gwell na bardd i ddeall un o brif hanfodion ffilm, sef y ddawn i ddisgyblu geiriau, fel y gwelwyd gan Alan Llwyd yn Hedd Wyn. Mae Radio yng ngwledydd Prydain yn drysor. Mae r doniol a r dwys yn ddyfnach ac aeddfetach nag yn yr un o r cyfryngau eraill, er gwyched y rheiny n aml. Cymerer, er enghraifft, Talwrn y Beirdd. A oes yna raglen deledu sy n medru cymharu o ran difyrru, addysgu a hudo? Mae rheolwyr Radio n ymwybodol o u cynulleidfa ond yn anaml yn poeni n ormodol am fod yn boblogaidd, fel eu cyfoedion yn y byd teledu. Nid Rhyfel y Rhifau sy n tra-arglwyddiaethu ar bob penderfyniad. Cymaint mwy diddorol, weithiau, yw cael gwerthfawrogiad gan leiafrif gwybodus a difyr. Mae hi n bosib wedi r cyfan i addysgu a difyrru yn yr un anadl, ac nid drwg i gyd mo r Arglwydd Reith! THEATR Anacronistiaeth yw theatr, am wn i, sy n cael ei gynnal gan y dosbarth canol ar gyfer y dosbarth canol, fel yr Opera a r Ballet. Er hyn, yn ddigon eironig, cefais wefr gelfyddydol fwyaf fy mywyd o fod yn bresennol mewn dau gynhyrchiad theatr gan y cyfarwyddwr theatr, Peter Brook, sef A Midsummer Night s Dream (1971) a Marat/Sade (1974). Ni ellir dileu theatr gan fod iddo werth hanesyddol a i fod yn fodd i arddangos gwaith rhai o gewri r cyfrwng. Wedi r cyfan, prin fod gwell lle i weld Lysistrata, Hamlet neu Saer Doliau nag yn y theatr briodol. Gwefr gyfoes oedd gweld Llwyth (Dafydd James/Arwel Gruffydd); yr ymennydd, y galon a r coluddion yn cael eu hergydio n gelfydd (tri targed y dylai cyfarwyddwr/wraig gofio!). Arabedd ar ei orau a oedd yn goleuo bywydau sydd wedi cael eu gochel cyhyd. Yng Nghymru mae sefyllfa r theatr yn gwbl wahanol i r rhan fwyaf o wledydd. Rhan amlaf yr hyn sy n digwydd yw bod Theatr Genedlaethol yn cael ei sefydlu mewn rhyw ganrif a fu, ac yna ddegawdau yn ddiweddarach sefydlu r gwasanaeth teledu a radio cenedlaethol. Yn wych o ben i waered bu pethau yma. Er hyn teimlaf ryw dristwch wrth feddwl am Twm o r Nant a i grwydro helbulus ar gefn gambo yn gofalu am ei gymdeithas (cofier yr olygfa hyfryd fu rhwng Tomos Charles o r Bala a Twm o r Nant a llinell anfarwol Twm i un o gewri r Ffydd, Edrychwch chi ar ôl y defaid, ac edrychaf i ar ôl y bleiddiaid ). Trueni na welwyd datblygiad o i waith amhrisiadwy, a theimlad o dristwch pur sydd wrth feddwl am yr hyn wnaeth crefydd cul i ladd arno ef a i fath. Trwy ch cennad heb gynnen, â llawen ddull hoyw, Dymuna yma silence, ac i bawb ddal sylw ; Chwi gewch ddifyrrwch yn ddi feth Os torrwch beth o ch twrw. Ma dynion yng Nghymru heno Lawer wedi eu lled oleuo, Ac er hynny â bywyd rhydd Yn ddiffrwyth o grefydd effro. Geiriau Syr Tom Tell Truth, Thomas Edwards (Twm o r Nant) Tri Chryfion Byd (1789)

18 18 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm Gwn fod llawer, hwyrach y mwyafrif llethol, yn mynd i anghytuno, ond yn fy nhyb i nid oes lle heddiw yng Nghymru i Theatr Genedlaethol i oedolion. Ond mae yna le a mawr angen i Theatr Genedlaethol gref i r ifanc, magwrfa ddwyieithog genedlaethol fyddai n sail gadarn i werthoedd drama ac a fyddai n arwain yn rhwydd at un o r chwaer gyfryngau. TELEDU A FFILM Rwyf wedi cyplysu r ddau gyfrwng oherwydd, rhywle rhwng y ddau hollbwysig hyn, mae un o r problemau anoddaf sydd yn wynebu myfyrwyr y cyfryngau heddiw. O astudio yn yr Eidal, Ffrainc neu Sbaen fyddai r broblem hon ddim yn bodoli, ond yma yng ngwledydd Prydain mae r briodas rhwng y ddau gyfrwng yn hunllefus i rai fel fi. Mea culpa am sawl trosedd dros blyg y blynyddoedd. Mae r hyn a elwir yn yrfa yn llawn methiant, methiant cyson wrth geisio deall diffiniad y sgrin fawr o i chymharu â diffiniad y sgrin fach. Dro ar ôl tro, tra oeddwn yn gweithio yn y BBC, ceisiais wneud ffilm o r ddrama deledu (gan mai cyfarwyddo ffilm oedd fy nod). Yna pan gefais gyfle i wneud ffilm go iawn, llithro n ôl i arferion teledu fu fy hanes. Sail y drosedd oedd gorddibyniaeth ar blot geiriol a diffyg ffydd yn y plot delweddol, hynny yw diffyg ffydd yn y ffrâm. Mae damnedigaeth deialog ddiangen yn bla parthed ffilmiau gwledydd Prydain. Beth yw The Full Monty (Peter Cattaneo, 1997, DU), Billy Elliot (Stephen Daldry, 2000, DU), Four Weddings and a Funeral (Mike Newell, 1994, DU) ond dramâu teledu yn y sinema? Môr o eiriau ac afon o ddelweddau, a phrin fod yr un ddelwedd weledol gref heb eiriau yn yr un ohonynt. Dim ond tanlinellu r gair a wna r llun ar y cyfan. Eithriad gyfredol yw r gyfres Sherlock (BBC) sy n gyforiog o ddelweddau cryfion. Clywaf sgrechfeydd! Pam lai?, medd Middle England and Wales, Beth sy n bod ar fwynhau môr o eiriau yn y sinema? Dyna beth rydyn ni n arfer ei gael a dyna beth rydyn ni n lico! Efallai mai dyma yw ein tranc, a n bod yn ynysig, ac yn Ewropeaidd-ddiarth mor bell â bod ffilmiau safonol y byd yn bodoli. Rhaid cofio geiriau François Truffaut, nad oedd yn wrth-seisnig, nôl yn 1972, English film is an oxymoron, ac roedd ei English ef yn golygu British hefyd. Eto mae r freuddwyd yn parhau ymysg llawer ohonom i weld ffilm Gymraeg neu Gymreig sy n perthyn i linach Fellini neu Bergman. Ffilmiau sy n ysgytwol, yn ddigrifgall, yn loewddysg ac yn oleuddawn! Mae goreuon y sgrin fawr yn cael eu gwerthu i gwmnïau teledu ledled y byd, ac yn cymryd eu lle n llwyddiannus ar y sgrin fach. Y rhain yn aml sy n peri i r ffigyrau gwylio chwyddo n ddramatig ar nosweithiau gŵyl a gwaith. Mae r broses yn enghraifft o undod llwyddiannus rhwng dau gyfrwng pwysig, a phriodas dda ar yr adeg iawn, sef diwedd cylchrediad yn y sinema, pan mae r ffilm wedi gwneud ei helw, y DVD a r marchnata ac yn awr yn barod am y cyflenwad olaf o arian y byd teledu. Ar y llaw arall dychmygwch wyrdroi r broses, sef dechrau gyda drama deledu ar gyfer y sgrin fach yn y gobaith o i gweld ar y sgrin fawr ryw ddydd. Sef yn gywir yr hyn sy n digwydd yn gyson yng ngwledydd Prydain. British film is alive and well and living in T.V. meddai Mike Leigh ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Os dyna welwn ni yn y ganrif hon, Duw a n gwaredo. Deallaf ond yn rhy dda, ac o brofiad nid hapus, ddadleuon y rhai sydd am gadw r status quo. Ffactorau cyllidol wrth reswm, sydd wrth wraidd hyn, sef nad yw r cwmnïau teledu am wario ar ffilm ar draul teledu, a pham ddylent wario ar eu chwaer gelfyddyd pan fo llywodraeth Llundain a Chaerdydd mor gybyddlyd eu pres a u gweledigaeth? Mae yna deimlad ar led ymysg gormod lawer o wybodusion mai dim ond pleser munud awr yw r sinema, pics a fflics sy n addas i r hoi poloi ond ymhell o fod yn gydradd â theatr, llenyddiaeth a r celfyddydau cain. Anwar yw agwedd gwledydd Prydain tuag at yr holl gelfyddydau

19 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm 19 o u cymharu â gwledydd cyffelyb yn Ewrop, ac nid oes gwell enghraifft o i hanwaredd na i hagwedd tuag at ffilm ers dros ganrif. Mae yna arwyddion o obaith, a gwell cynnau un gannwyll o obaith na ffromi yn y tywyllwch! Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae nifer y sinemâu yng Nghymru wedi treblu a bellach mae Caerdydd ar fap y dosbarthwyr ffilm. Dau arwydd da. Ffactor bwysig arall yw bod mynychu r Forgetting Chamber (y diffiniad gorau o sinema y gwn i amdano) yn cŵl. Mae r llestr, fel petai, yn ffynnu ond beth am y trysor, y ffilmiau eu hunain? Gwella mae r sefyllfa hon hefyd wrth i fwy a mwy o gyfarwyddwyr a chyfarwyddwragedd ddiosg mantell teledu ac ailennill y ffydd yn y ffrâm, gan gofio fel ag yr oeddem cyn i r euog rai geisio dinistrio eu cryfderau delweddol. Brysied y dydd pan mai gwir go iawn fyddo r dywediad fod un llun yn werth un mil o eiriau ac y bydd modd dathlu ysgariad gwych rhwng dau gyfrwng sy n haeddu gwell. HANFOD DELWEDD O am y doniau i weld fel y byddar a chlywed fel y dall. Cyfarwyddwr anhysbys Heb ddibrisio mewn unrhyw fodd fy nghariad at eiriau, rwyf fi yn credu r gosodiad fod un llun yn gydradd â mil o eiriau, ond rwy n amau n fawr a yw r farn yn un gyffredinol. Cymaint mwy yw cariad y Cymry at y bardd a r cerddor nag at yr arlunydd ac onid Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri? A oes yna gofeb i Richard Wilson ym Mhenegoes? Nac oes. A oes yna gofeb i fân feirdd ymhob tref a phentref yng Nghymru? Oes; a gyda llaw, os na chlywsoch erioed am Richard Wilson, oes angen dweud mwy? Mae delweddau r clêr a r cantorion yn treiddio n rhwyddach i ymwybyddiaeth y Cymry na delweddau r artist. Do, bu Salem Curnew Vosper i un genhedlaeth a thirweddau Kyffin Williams i genhedlaeth arall yn eiconig a gwerthfawr, ond megis crafu r wyneb yw eu dylanwad ar yr ymwybyddiaeth weledol. Yr Iaith, a iaith y gân sy n teyrnasu r tir. Dychmygwch Lywodraethwyr Ysgol Gyfun Cwmsgwt yn gorfod penderfynu rhwng llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf, gan nad oes cyllid digonol i ddysgu r tri phwnc. Er fy mod i n optimist, rwy n credu mod i n gwybod beth fyddai r dewis er fod yna werth aruthrol i r tri. Sut gallwn ni ddod â pherswâd i geisio newid yr agwedd? Dyma enghreifftiau o waith pedwar meistr, enghreifftiau a fydd, gobeithio, yn cyfrannu at yr ateb. STEPHEN SPEILBERG, CLOSE ENCOUNTERS OF THE THIRD KIND, 1977 Bachgen bach mewn trowsus byr ger y drws gwyn a mwg yn cymylu y tu allan. Dyma un o ddelweddau allweddol y genhedlaeth MTV, neu genhedlaeth Jung, neu genhedlaeth X, ac mae yna le i gredu mai r ddelwedd hon yw hanfod meddylfryd Stephen Speilberg. Mae yma symbolaeth weddol syml, gan fod cynulleidfaoedd ar bum cyfandir yn medru deall dyn bach a i gefn atom yn wynebu r tragwyddoldeb mawr. Ieuenctid ar drothwy disgwyliadau, Peter Pan, dyn mewn corff bachgen, haniaethu amser a diniweidrwydd wrth borth profiad. Yn nheyrnas diniweidrwydd y bu r cyfarwyddwr hwn drwy r rhan fwyaf o i yrfa ddisglair. Gwyrodd ar adegau bid siŵr yn Schindler s List (1993, UDA) a Saving Private Ryan (1998, UDA) ond hyd yn oed yn y rheiny, ymhlith gwead eu themâu mae yna elfen gyson o ddiniweidrwydd. Mae yna elfen o M&S yn S.S. Ar y cyfan does dim pethau fel rhyw a thrais mewn unrhyw ffrâm. Maent at ddant y rhelyw, yn boblogaidd ac mae yna deimladau cysurlawn, o wybod fod y da y rhan amlaf yn concro r drwg yn ei ffilmiau. Mae r ychydig eiriau uchod yn ddisgrifiad moel ac annigonol o r ffrâm

20 20 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm dan sylw. Yr hyn sy n absennol, ac mae n anodd ei roi mewn geiriau, yw r naws a r gerddoriaeth a r cyddestun. O roi r rhain at ei gilydd, ceir hyd i fyd o hud a lledrith sydd wedi swyno un genhedlaeth eisoes, ac yn ôl pob golwg bydd yr hud yn parhau i r dyfodol pell. Diddorol yw nodi fod y ffrâm allweddol heb bresenoldeb geiriau. FEDERICO FELLINI, LA DOLCE VITA, 1960 Hofrennydd yn cario cerflun Crist o gwmpas Rhufain. Wrth edrych ar y ffrâm hon, dylid cadw mewn cof y ffaith fod y ffilm wedi ei saethu mewn gwlad Gatholig ar ddechrau chwyldro r chwedegau. Rhwyddach wedyn yw sylweddoli cymaint o herio cableddus a ddehonglwyd ar y pryd oddi mewn i r ffrâm hon, ffrâm a ymddangosodd yng nghanol golygfa gyntaf y ffilm. Sôn am dynnu sylw! Mae n ddelwedd oesol ac yn un ganolog i waith Fellini, y gŵr a oedd ar goll, ac am ailafael yng ngwerthoedd ei fagwrfa. Mae gwrthrych y ddelwedd i fyny fry yn yr awyr a rhaid edrych lan i w weld. Nid rhywbeth ar y ddaear sy n tynnu sylw ond dyfais ddu, swnllyd fodern, hofrennydd ac oddi tano ddelwedd o Grist sanctaidd, colofn cred gorllewin Ewrop ers dwy fil o flynyddoedd. Gellir gweld y ffrâm yn cynrychioli Crist yn llanw r nen â i fawredd o r newydd. Crist yn rhydd o bedair wal eglwys ac yn ôl yn y byd go iawn, yn weledol drawiadol. Fodd bynnag, roedd sioc y gwrthgyferbynnu yn y 1960au cynnar yn ei gwneud hi n anodd iawn derbyn mai symbol gobaith oedd y llun hwn. Roedd Crist, fel Fellini, ar goll yn y llun hwn ac ar goll i Rufain y cyfnod lle r oedd y la dolce vita y bywyd bras yn ennill tir. Ffair wagedd oedd byd Marcello Mastroianni, alter ego Fellini lle nad oedd lle i r offeren nac i ffydd. Melys moes mwy oedd arwyddair y 1960au yn Rhufain ac roedd moesoldeb yn pydru a r hyn a arswydai Fellini oedd bod gwynt y pydredd fel perarogl. Codi cwestiwn mae r ffrâm, trwy gynnig delwedd bwerus. Cwestiwn sy n mynd at graidd y ffydd Gatholig ac, wrth gwrs, at ffydd egwan y cyfarwyddwr. Dywedir yn aml mai Catholigion (fel Scorsese) sy n gwneud y ffilmiau gorau ac yn sicr mae ffydd a gwaith Fellini yn gorgyffwrdd yn gyson. Fel Eric Gill yng Nghapel y Ffin, mae Fellini yn symud yn gelfydd ac yn hynod weladwy o r sanctaidd i r pechadurus ac yn ôl heb amwysedd. Mae n bererindod nad yw n annhebyg i waith mawr John Bunyan, Taith y Pererin. Angst ac ofn colli ffydd sydd o fewn y llun hwn. Yr ydym yn byw ar ymylon realiti ac mae Crist yn bod, ond mewn stad ansicr, ac mae r ansicrwydd yn bwyta i mewn i enaid y cyfarwyddwr ifanc. I ble mae r cerflun am fynd? Pam nad yw e mewn lle pwrpasol cysurus a diogel? A phwy sydd yn ei dywys? Dyma r pethau sy n crafu celloedd ymennydd Fellini. Dyna pam y creodd sgrech o ddarlun fel Munch gynt. Mentrodd gredu fod y gwir yn gorwedd yn yr anwir. Fe agorodd ddrysau, tebyg i ddrws bachgen bach Spielberg, ac fe rannodd ddirgelion yr isymwybod gyda chynulleidfaoedd ledled y byd. Gwyddai Fellini yn iawn y byddai pobol yn gwerthfawrogi taith o r fath, sef taith a droediai ffantasïau a breuddwydion Byd Fellini. Cafodd afael ar luniau a delweddau oedd yn rhoi r ffocws yn glir ar natur ffydd mewn oes ddi-gred. Deallodd nad yr hyn a ddywed ffilm sy n bwysig,ond yr hyn ydyw.

21 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm 21 LUÍS BUÑUEL, UN CHIEN ANDALOU, 1929 Llygad yn cael ei hollti â rasel eillio. Dyma un o ddelweddau enwocaf hanes y sgrin, ac un o r rhai mwyaf brawychus o gofio ei bod wedi ei chreu yn Ffilm dwy funud ar bymtheg o freuddwydio hunllefus. O m profiad i, mae pawb sydd wedi edrych ar y ffilm wedi cau eu llygaid wrth fethu ag edrych ar y llygad sydd ar y sgrin yn cael ei hollti n ddau â hen rasel eillio. Mae sioc y swrreal cynnar yn parhau hyd heddiw. Luís Buñuel sydd piau r ddelwedd hon ac ef a i gyfaill Salvador Dalí a lywiodd y ffilm fer hon y mae r ddau ohonynt hefyd yn ymddangos ynddi. Ffilm ddiystyr a llawn ystyr yw hon, ac o r teitl hyd at y ffrâm olaf does yr un ci o Andalwsia i w weld nac yr un cyfeiriad at gi ynddi. Dyna yw r ffilm yma, sef cyfres o ddigwyddiadau sy n cael eu huno gan olau r lleuad, fel nofel wych Caradog Pritchard. Mae yna drais, rhyw, erchylltra, gwawd ac ati wedi eu pentyrru n swrreal ac, yn unol â r mudiad pwysig hwnnw, un o r prif amcanion oedd creu arswyd rhyfeddol a does yr un ffrâm yn y ffilm sy n gwneud hynny n well na hon. Y llygad yw un o arfau r artist, boed realaidd neu swrrealaidd. Dyma ddrws yr enaid a dyma r drws sy n astudio byd. O i gau mae breuddwyd neu farwolaeth yn dilyn, ac o i hollti poen tu hwnt i ddisgrifiad trais a cholled. Mae r effaith mor syml ac mor rhad! Nid oes rhaid wrth effeithiau arbennig sy n costio ffortiwn i greu effaith pwerus a chofiadwy. Sawl gwaith mae rasel wedi cael ei defnyddio mewn ffilmiau? Weithiau i eillio (un o ddyletswyddau mwyaf anniddorol dyn) ond rhan amlaf i gyflawni hunanladdiad neu lofruddiaeth, a r cyffredin yn troi n anghyffredin wrth i r safety razor droi yn Exhibit A. Trwy ddefnyddio llygad mul marw a rasel eillio a saethu r ddau yn dynn mae wedi creu campwaith sy n parhau n glasur dychrynllyd. INGMAR BERGMAN, DET SJUNDE INSEGLET (Y SEITHFED SÊL), 1956 Marwolaeth mewn clogyn du yn chwarae gwyddbwyll â marchog. Ac mi a welais yn neheulaw yr hwn oedd ar yr orseddfainc, lyfr wedi ei sgrifennu oddi fewn ac oddi allan, ac wedi ei selio â saith sêl. Llyfr y Datguddiad: Pennod 5, adnod 1 Cyn gweld y llun uchod, mae r gwyliwr yn cael rhagflas pwerus o r hyn sydd i ddod. Ar y sgrin, gwelir dau ddyn ar draeth tywyll, marchog yn effro flinedig a mân sgweier yn cysgu n drwm. Yn ddiarwybod, fe ymddengys y trydydd cymeriad sy n llwyd ei wedd a i wisg fel y fagddu. Marchog: Marwolaeth: Marchog: Marwolaeth: Marchog: Marwolaeth: Marchog: Marchog: Marwolaeth: Marchog: Pwy ydych chi? Myfi yw marwolaeth. I ymweld â mi? Rwyf wedi bod yn cydgerdded â ti ers amser hir. Rwy n gwybod. Wyt ti n barod? Mae fy nghorff i n llawn ofn ond nid felly myfi (mae Marwolaeth yn araf agor ei glogyn du i w daenu o amgylch y Marchog.). Aros am eiliad. Dyna r hyn maen nhw i gyd yn dweud. Does dim oedi i fod er mwyn arbed einioes. Ydych chi n chwarae gwyddbwyll?

22 22 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm A dyna daro bargen. Cyhyd â bod Brenhines y marchog yn ddiogel, caiff fyw, a dyna gefndir un o ddelweddau enwocaf y sgrin, a chreadigaeth Brotestannaidd y tro hwn! Mae Monty Python, French and Saunders a Woody Allen wedi creu parodïau o r olygfa dro ar ôl tro mae efelychu n ymwybodol yn gryn ganmoliaeth. Talu gwrogaeth ar ei orau. Delwedd ddu a gwyn, cymylau tywyll, gwylanod yn y cefndir a cherddoriaeth offeren y meirw Dies Irae, sydd wedi ei selio ar hen emyn o r drydedd ganrif ar ddeg ac yn alargerdd gofiadwy iawn. Tra bod eu ffrind yn cysgu mae r marchog (filwr dewr) yn brwydro am ei fywyd. Nid yw n saethu, nac yn twyllo, na n ymladd, na n rhedeg ond yn hytrach mae n chwarae am ei einioes. Heriaf unrhyw un i beidio ag aros i weld diwedd y gêm. Rwyf wedi dewis pedair enghraifft ddramatig a chymhleth o ddelweddu. Delweddau sydd heb orddibyniaeth ar eiriau. Mae yna enghreifftiau symlach megis camau carwriaethol Harvey Keitel tuag at Holly Hunter yn The Piano (Jane Campion, 1993, UDA). Mae sylwgarwch rhyfeddol y gyfarwyddwraig Jane Campion yn pwysleisio gwerth aruthrol gynyddol y llygad benywaidd. Nid llond sgrin o gnawd sydd yma, sef yr arlwy arferol wrth ddangos dau yn caru, ond un nam yn hosan Holly Hunter a r modd y mae Harvey Keitel yn anwylo r darn bach o goes sydd i w weld drwy r hosan. Cymaint gwell yw golygfa erotig na golygfa rywiol, o bryd i w gilydd. Roedd hi n anodd dewis y pedair delwedd. Mor rhwydd fyddai bod wedi cynnwys wyneb Jeanne d Arc yng nghlasur Carl Dreyer, La Passion de Jeanne d Arc (1928, Ffrainc), neu r hen wraig ar risiau Odessa yn Battleship Potemkin / Bronenosets Potyomkin (Sergei M. Eisenstein, 1925, Yr Undeb Sofietaidd), neu r pedwar Droog yn Clockwork Orange (Stanley Kubrick, 1971, UDA) a gyda llaw roedd Anthony Burgess, awdur y nofel, yn ymwybodol o ystyr y gair Cymraeg drwg ac yn hapus i gynnwys sŵn ac ystyr y gair neu r ddelwedd honno o Robert de Niro yn ymarfer o flaen drych yn Taxi Driver (Martin Scorsese, 1976, UDA) ac yn y blaen, ond roedd rhaid cyfyngu fy hun i bedwar dewis. Hoffwn feddwl bod iddynt awyrgylch tra gwahanol i w gilydd a bod yna rymoedd oddi mewn iddynt sy n meddu ar y ddawn o ddatrys pob math o glymau r meddwl. Mae rhannu problem yn medru ei haneru ac, o fynychu ffilmiau da, a drwg o ran hynny, mae n bosib profi catharsis o dro i dro, sydd o fudd personol ac yn gyfle i ni fel cenedl ailgydio yng ngwerthoedd Gweld. Ac o sôn am y gwerthoedd hynny, pleser yw nodi tri cyfarwyddwr Cymraeg, Euros Lyn, Marc Evans a Dylan Richards, sy n Ewropeaidd-Gymreig eu hagwedd. Gwylier House of America a Johnnie be Good gan Marc, Carwyn a Burton gan Dylan a Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw a Sherlock gan Euros fel enghreifftiau o u dawn. (Nid oes lle yma i fanylu, ond erfyniaf arnoch i fanteisio ar y we a hefyd, os caf fod mor ewn, cysylltwch â nhw ma nhw n fois ffein ac fe gewch wybodaeth na chewch mewn unrhyw lyfr). Drwy fod yn rhyw fath o Peeping Tom neu voyeur cyfreithiol yn y sinema, mae n bosib gweld a chlywed pethau na fyddech yn cydnabod, heb sôn am gyfarfod yn eich bywyd bob dydd. Wrth reswm, mi all darllen nofel neu wrando ar gerddoriaeth eich arwain at bob math o orwelion, ond prin fod yna r un llwybr rhwyddach sy n galluogi trwch y boblogaeth i gyrraedd y dirgel rannau hyn. Mae r tywyllwch cysurus sydd mewn sinema, maint y sgrin, y sain o gylch y pedair wal, dim galwadau ffôn, a phopcorn yn rhan o r broses o bensynnu ac mae r meddwl yn cael massage. Lle, ac awyrgylch perffaith i astudio byd. Rhwydd hynt, fyfyrwyr hoff. Nid yw llenyddiaeth Gymraeg byth bron yn mynd i eithafion. Mae cadwyn traddodiad yn rhy greulon o dynn. T. H. Parry-Williams Rhowch werth ar Lun-yddiaeth!

23 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Ffydd yn y Ffrâm 23 LLYFRYDDIAETH Adair, Gilbert (gol.) (1999) Movies Llundain: Penguin. Andrew, Geoff (1998) Stranger than Paradise Llundain: Prion. Baxter, John (1996) Stephen Spielberg Llundain: Harper Collins. Bazin, André (1967) What is Cinema? (Cyfrolau 1 a 2) Berkeley a Los Angeles: Gwasg Prifysgol California. Bazin, André (1977) Bazin at Work Efrog Newydd a Llundain: Routledge. Bragg, Melvyn (1993) The Seventh Seal Llundain: British Film Institute. Bricknell, Timothy (gol.) (2005) Minghella on Minghella Llundain: Faber & Faber. Buñuel, Luis (1994) My Last Breath Llundain: Vintage. Carrière, Jean-Claude (1995) The Secret Language of Film Llundain: Faber & Faber. Cocteau, Jean (1992) The Art of Cinema Llundain: Marion Boyars. Crisp, Quentin (1990) How to Go to the Movies, a Guide for the Perplexed Llundain: Hamilton. Curtis, Tony (1986) Wales, the Imagined Nation Pen-y-bont: Gwasg Poetry Wales. Dancyger, Ken (1997) The Technique of Film and Video Editing Boston a Rhydychen: Focal. Davies, Aneurin Talfan (1967) Astudio Byd Llandybie: Llyfrau r Dryw. Eisenstein, S.N. (1998) The Psychology of Composition Llundain: Methuen. Fellini, Federico (1995) Fellini on Fellini Llundain: Faber & Faber. Ffrancon, Gwenno (2003) Cyfaredd y Cysgodion Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Griffith, Wyn (1953) Twm o r Nant Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Hitchcock, Alfred (1995) Hitchcock on Hitchcock Llundain: Faber & Faber. Humphreys, Emyr (1999) Dal Pen Rheswm Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Jarman, Derek (1995) Derek Jarman s Garden Llundain: Thames and Hudson. Jones, Dafydd Glyn (2004) Agoriad yr Oes Talybont: Y Lolfa. Jones, Elis Gwyn (1973) Richard Wilson Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Jones, John Gwilym (1977) Swyddogaeth Beirniadaeth Dinbych: Gwasg Gee. Kolker, Philip (1988) The Cinema of Loneliness Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. Llwyd, Alan (1997) Y Grefft o Greu Caerdydd: Barddas. Morgan, Mihangel (1998) Darllen Ffilmiau Aberystwyth: Prifysgol Cymru Aberystwyth. Powell, Dilys, (1992) The Dilys Powell Film Reader Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. Scorsese, Martin (1989) Scorsese on Scorsese Llundain: Faber & Faber. Truffaut, François (1990) Letters Volume 1 Llundain: Faber & Faber. Thomas, Gwyn (2000) Gair am Air Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Thomson, David (2005) The Whole Equation Llundain: Little Brown. Williams, Euryn Ogwen (1998) Byw yng Nghanol Chwyldro Bro Ogwr: Llys yr Eisteddfod. Williams, Kevin (1997) Shadows and Substances Llandysul: Gomer. Winstone, Brian (1995) Claiming the Real Llundain: British Film Institute.

24 24 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau CYNNAU R FFLAM: ARLOESWYR CYNNAR Y SINEMA, GWENNO FFRANCON Cyfres o arbrofion a arweiniodd at enedigaeth y cyfrwng sinematig ac, yn benodol, cyfres o arbrofion gan amryw o unigolion mewn nifer o wledydd, yn bennaf, Unol Daleithiau America, Ffrainc, Yr Almaen a r Deyrnas Unedig. Nod y bennod hon yw taflu rhywfaint o oleuni ar y cyfnod cynnar cyffrous hwnnw o arbrofi a dyfeisio a gafwyd yn Ewrop ac America a esgorodd ar y cyfrwng ffilm. Cyfnod o ddatblygu cyflym oedd hwn wrth i r dyfeiswyr orfod brwydro i gynnal diddordeb y gynulleidfa ym myd cystadleuol adloniant. Ni ellir dweud bod un arloeswr yn unig wedi dyfeisio r cyfrwng. Er i ffotograffydd o Brydain, Eadweard James Muybridge, greu cyfres o ffotograffau yn cyfleu symudiad ym 1878, y gŵr a fynnodd glod am ddyfeisio r camera ffilm cyntaf a datblygu ffurf ar ffilm oedd Thomas Alva Edison ( ), y dyfeisydd enwog o Ohio, America, a roes ei enw ar nifer o ddyfeisiadau megis y bwlb golau a r phonograph. 1 Eto i gyd, y gŵr a ddyfeisiodd y camera oedd un a gyflogwyd gan Edison, sef William Kennedy Laurie Dickson ( ). Ac yntau n cyflogi Dickson, gallai Edison gymryd y clod am y ddyfais a grëwyd ym 1891, sef y peiriant a enwyd yn kinetograph. 2 Yna, er mwyn arddangos y ffilmiau mud byr a grëwyd trwy gyfrwng y kinetograph, dyfeisiodd Dickson beiriant sioe sbecian, sef y kinetoscope, peiriant a alluogai un gwyliwr i wylio stribed o ffilm oddi mewn i r peiriant. Trwy gyfrwng y kinetoscope 3 arddangoswyd ffilmiau byrion syml megis y darlun o un o weithwyr Edison, Frank Ott, yn tisian. Er bod taflunyddion megis llusernau hud, sioeau sleid a diddanwch cysgodion eraill wedi bodoli ers blynyddoedd, nid oedd gan Edison ddiddordeb mewn parhau â r traddodiad hwnnw ar gyfer arddangos ffilmiau. Yr oedd yn gadarn ei farn mai profiad i r unigolyn fyddai r cyfrwng. O ganlyniad, ni ellir honni mai Edison oedd y cyntaf i ddarparu r profiad sinematig yr ydym yn gyfarwydd ag ef heddiw. Yn hytrach na darparu taflunyddion ar gyfer arddangos ei ffilmiau i dorfeydd, prysurodd Edison i agor parlyrau kinetoscopes adeiladau digon tebyg i arcêd fideo heddiw lle y ceid rhesi o r peiriannau a weithredai ar fatris wedi i r gwyliwr dalu nicel. Crëwyd y stribedi ffilm byr ar gyfer y parlyrau kinetoscopes hyn yn stiwdio arbennig Edison yn West Orange, New Jersey, sef y Black Maria a adeiladwyd gan Dickson ym Yn y stiwdio arbennig hon byddai perfformiadau vaudeville a theatrig eu naws yn cael eu hanfarwoli ar seliwloid. Ceid ar ffilm ddiddanwyr megis clowniaid, jyglwyr a dawnswyr, ffigurau enwog o fyd chwaraeon ac enwogion y dydd, megis y ddiddanwraig Annie Oakley. Yr oedd yr adeilad yn un hynod iawn, wedi ei baentio n ddu a i osod ar drofwrdd a chledrau cylchog. Gellid codi rhan o do r stiwdio ac wrth droi r adeilad ar y cledrau gellid dilyn hynt yr haul gydol y dydd a goleuo r llwyfan yn ôl y galw. Serch hynny, yr oedd i gamera Edison a Dickson ei wendidau. Yr oedd yn gwbl ddibynnol ar drydan, ac yn beiriant hynod drwm ac anodd ei drin, ac felly nid oedd modd symud y camera o r stiwdio er mwyn ffilmio golygfeydd yn yr awyr agored. Ond ym 1895 llwyddwyd i ryddhau r camera ffilm o r cyfyngiadau hyn gan ddau Ffrancwr, sef y brodyr Auguste ( ) a Louis ( ) Lumière. Aethai r ddau frawd ati i arbrofi â kinetograph a kinetoscope Edison ym 1894, gan fanteisio ar eu cefndir fel meibion i berchennog ffatri creu platiau ffotograffiaeth yn ninas Lyon yn Ffrainc. Erbyn diwedd 1895 yr oedd y brodyr wedi creu eu peiriant eu hunain a i alw n Cinématographe. 4 Yn wahanol iawn i gamera mawr 1 Dengys lluniau Muybridge geffyl yn rhedeg ac yn neidio dros glwyd. Defnyddiodd gyfres o ddeuddeg camera i greu r lluniau, gan rewi camau o r symud yn hytrach nag ail-greu symud trwy daflunio r delweddau unigol mewn dilyniant. Gellir gweld ceffyl Muybridge yn 2 Gair o darddiad Groeg sy n golygu argraffydd symudiad (motion writer) yw kinetograph. 3 Gair o darddiad Groeg sy n golygu golygddrych symudiad (motion viewer) yw kinetoscope. 4 Y term Ffrangeg ar gyfer kinetograph yw cinématographe.

25 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, trwsgl Edison, yr oedd camera r brodyr Lumière yn ysgafn a gellid ei gludo i unrhyw leoliad. Gweithredai trwy granc llaw a gallai r peiriant nid yn unig ffilmio ond hefyd argraffu r ffilm 35mm a i thaflunio ar 16 ffrâm yr eiliad. Ar 28 Rhagfyr 1895 cynhaliwyd un o ddigwyddiadau enwocaf y byd ffilm, sef dangosiad o ddeg ffilm gan y brodyr Lumière yn y Grand Café ym Mharis a hynny ar gyfer cynulleidfa sylweddol yn hytrach nag unigolion a pheiriant sioe sbecian. Tafluniwyd cyfres o ffilmiau byr a grëwyd gan y brodyr, megis Sortie d usine (Gweithwyr yn gadael Ffatri Lumière), Le Repas de bébé (Bwydo r babi), L Arrivée d un train en gare (Trên yn cyrraedd gorsaf) a r ffilm naratif gyntaf, L Arroseur arrosé (Trochi r Garddwr). Y ffilm o r trên yn cyrraedd yr orsaf yn Ciotat a enynnodd yr ymateb mwyaf dramatig gan y gynulleidfa gynnar honno wrth i nifer ohonynt geisio cuddio y tu ôl i w seddi neu redeg am yr allanfa oherwydd eu bod yn ofni y byddai r cerbyd yn eu taro. Yr oedd hi n amlwg o r cychwyn cyntaf bod angen addysgu cynulleidfaoedd ynglŷn â sut i wylio ffilmiau. O fewn dim yr oedd llwyddiant y brodyr Lumière wedi bwrw dyfeisiadau Edison i r cysgod ac anfonwyd nifer o griwiau camera gan y brodyr i ffilmio golygfeydd hardd a dinasoedd y byd, digwyddiadau unigryw ac eitemau newyddion er mwyn diwallu archwaeth cynulleidfaoedd Ewrop am ddeunydd gwylio diddorol na châi r mwyafrif fyth eu gweld â u llygaid eu hunain. Creu ffilmiau diriaethol oedd arbenigedd cwmni Lumière ac, yn aml iawn, ffilmiau a grëwyd yn yr awyr agored. Buan y crëwyd dros 1,200 o stribedi ffilm ar gyfer catalog dosbarthu r cwmni, ond ymddengys nad oedd y brodyr yn awyddus i greu busnes o u menter gan y diflannodd yr enw Lumière yr un mor sydyn ag yr ymddangosodd a daeth eraill i barhau â r arbrofi ac i ddatblygu r cyfrwng. Er iddynt ddiflannu o olwg y byd ffilm erbyn 1905, fe adawodd y brodyr Lumière eu hôl ar y cyfrwng mewn sawl modd, gan gynnwys iaith sinema a ddefnyddir hyd heddiw, sef cinema a cinematography. Ymhlith y dyfeiswyr eraill a fu n creu camerâu a thaflunyddion amrywiol, gan frwydro am gydnabyddiaeth, yr oedd Emil a Max Skladanowsky yn yr Almaen a gurodd y brodyr Lumière i r anrhydedd o arddangos ffilm yn gyhoeddus am y tro cyntaf, a r peiriannydd R.W. Paul a i bartner am gyfnod, y ffotograffydd Birt Acres, y ddau n gweithio yn Lloegr. 5 Addaswyd taflunydd R.W. Paul, y Theatrograph, peiriant a oedd ei hun yn seiliedig ar kinetoscope Edison, gan Georges Méliès ( ) a i droi n gamera yn ogystal. Bu Méliès, consuriwr o Baris a welsai gyfle gwych i gyfoethogi ei berfformiadau drwy r cyfrwng ffilm, yn aflwyddiannus wrth geisio prynu camera gan y brodyr Lumière a i cynghorodd, yn hytrach, i gadw ei arian gan nad oedd dyfodol i r cyfrwng yn yr ugeinfed ganrif! Ond sylweddolodd Méliès, a feddai ar ddychymyg gwyllt a synnwyr digrifwch cynnil iawn, fod potensial gan y ffilm i greu gweithiau ffantasïol a lledrithiol drwy atal hynt y ffilm o flaen y lens, newid neu addasu r olygfa ac yna ailddechrau r camera a pharhau â r ffilm. Gallai, trwy r dechneg syml hon, gyfuno dwy o brif gampau y byd hud, sef achosi diflaniad a thrawsffurfiad, fel a welwyd yn un o i ffilmiau tric cyntaf, L Escamotage d une dame chez Robert Houdin (Diflaniad Gwraig, 1896). Yn y ffilm hon gwelir Méliès yn achosi diflaniad gwraig ac ymddangosiad sgerbwd yn ei lle. Dadlennodd Méliès tua diwedd ei yrfa ym myd ffilm ei syniadaeth ar gyfer y cyfrwng, sef de faire servir le cinéma, non à la reproduction servile de la nature, mais à l expression spectaculaire des conceptions artistiques et imaginatives de tous genres (defnyddio sinema, nid er mwyn atgynhyrchu natur yn slafaidd, ond ar gyfer cyfleu n drawiadol syniadau artistig a chreadigol o bob math). 6 Gellid dadlau o ganlyniad: If Lumière documented the world, Méliès transformed it. If Lumière established that the camera could create a factual record of an event, Méliès proved that the camera could create an event that never happened. Lumière set the pattern for realism; Méliès opened the door to the impossible. 7 5 Cynhaliwyd dangosiad y brodyr Skladanowsky ar 1Tachwedd 1895 yn ninas Berlin. 6 Geiriau Georges Méliès a ddyfynnwyd yn Elizabeth Ezra, Georges Méliès (Manchester, 2000), t Gerald Mast a Bruce F. Kawin, A Short History of the Movies (London, 2000), t. 31.

26 26 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, Yr oedd Méliès yn auteur yng ngwir ystyr y gair. Gofalai ef ei hun am bob agwedd ar y gwaith cynhyrchu, gan gynnwys y sgriptio, dylunio, adeiladu a goleuo setiau cymhleth, cyfarwyddo, actio, datblygu r ffilm stoc, golygu a chreu r deunydd cyhoeddusrwydd. Ni phrofwyd y fath annibyniaeth gan yr un cyfarwyddwr cyn, nac ar ôl, oes Méliès. Rhwng 1897, pan sefydlodd ei gwmni, Star-Film, a 1914, pan ddaeth ei yrfa ym myd ffilm i ben, creodd Méliès o leiaf 500 o ffilmiau mewn amryw o genres, o ffilmiau a oedd yn ail-greu digwyddiadau cyfoes i ffilmiau dogfen, ac o ffilmiau tric i ffilmiau ffug-wyddonol, gyda Le Voyage dans la Lune (Taith i r Lleuad, 1902) ymhlith yr enwocaf. Erbyn heddiw, serch hynny, dim ond rhyw 170 sydd wedi goroesi. Ym 1897 adeiladodd y dewin hwn ar lwyfan a sgrin stiwdio ym Montreuil-sous-Bois, Paris, adeilad wedi ei greu o wydr a oedd yn caniatáu i olau r haul lifo i mewn. Oddi mewn ceid myrdd o drapddorau, panelau twyll ac esgynfeydd, er mwyn galluogi Méliès i reoli a llunio mise-en-scène trawiadol a chreu setiau anhygoel a ddarluniai fydoedd ffantasi. Yn dilyn traddodiad ffilmiau Edison, ac i r gwrthwyneb i waith y brodyr Lumière, y mae ffilmiau Méliès yn rhai theatrig iawn. Ond er gwaethaf ei ddyfeisgarwch, methodd Méliès â sylweddoli y gellid symud y camera o fan i fan o fewn y stiwdio; yn hytrach y mae r camera yn aros yn ei unfan yn ei ffilmiau, gyda r digwyddiadau n dod tuag at y lens. Yr oedd, serch hynny, yn gyfarwyddwr a fu n arbrofi â naratif ei ffilmiau, ynghyd â thechnegau sinematig megis saethiadau agos, lluniau lluosog a golygu didoriant. Ond nid oedd dull gweithio gofalus a chrefftus Méliès yn cyd-fynd yn rhwydd iawn â datblygiadau modern yr ugeinfed ganrif a r galw uchel a geid am ffilmiau erbyn diwedd degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Erbyn 1914 yr oedd gyrfa Méliès yn dirwyn i ben wrth i r galw am ffilmiau oddiweddyd y disgwyliad am ansawdd a gwerthoedd cynhyrchu uchel. Yr oedd y diwydiant y bu Méliès yn rhan mor allweddol o i greu, fel sefydlydd un o gwmnïau cynhyrchu cyntaf y byd ac un a gynorthwyodd y broses o fasnacheiddio r cyfrwng, yn ei adael ar ôl. I ychwanegu halen at y briw, atafaelodd llywodraeth Ffrainc oddeutu 400 o i ffilmiau ym 1917 gan eu toddi er mwyn creu sodlau i esgidiau milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf ffaith dra eironig o gofio mai mab i wneuthurwr esgidiau oedd Méliès ei hun. Y mae lle i ddadlau mai Ffrainc oedd prif rym y byd ffilm ar droad yr ugeinfed ganrif, o gofio cyfraniadau r brodyr Lumière, Méliès a chwmni Pathé Frères, sef cwmni ffilm mwyaf y byd rhwng 1901 a Agorodd Pathé Frères ganghennau cynhyrchu a dosbarthu mewn nifer o wledydd, gan sicrhau grym trwy logi ffilmiau yn hytrach na u gwerthu hyd nes i r Rhyfel Byd Cyntaf danseilio llwyddiant y cwmni a llwyddiant Ffrainc yn gyffredinol ym myd y ffilm. Rhagflaenodd y cwmni hwn system cwmnïau Hollywood o integreiddio fertigol, system a ganiatâi i r cwmni reoli pob elfen o r byd ffilm o adeiladu r camerâu a thaflunyddion i greu ffilm stoc craidd, o gynhyrchu a dosbarthu r ffilmiau i berchen ar gyfres o theatrau arddangos. Cynyddwyd rheolaeth a lleihawyd y costau o ganlyniad. Erbyn troad yr ugeinfed ganrif yr oedd y cyfrwng wedi hen fagu stêm, gan esgor ar gyfranwyr eraill i w ddatblygiad, yn eu plith, Edwin Stanton Porter. Daethpwyd i ystyried yr Americanwr hwn o Pennsylvania fel tad y ffilm-stori. Ef oedd y cyntaf i sylweddoli gallu r cyfrwng i adrodd stori ac, wedi iddo feistroli r grefft o adrodd naratif gronolegol, perffeithiodd Porter y dull o adrodd stori drwy neidio o un lleoliad i r llall ac o un safbwynt i un arall, gan ymhelaethu ar y stori, yn hytrach na cholli r trywydd. Gwelir yn ei waith ddyddiau cynnar y grefft o olygu ffilm. Tan ddyfodiad Porter, bu r ffilmiau cynnar yn gyfresi o olygfeydd yn hytrach na saethiadau, hynny yw, yr oedd un saethiad yn gyfystyr ag un olygfa. Fe i cyflogwyd yn ystod haf 1900 fel dyn camera a chyfarwyddwr gan Edison a dyna pryd y lluniodd gampweithiau cynnar megis Life of an American Fireman a The Great Train Robbery, y ddwy ffilm ym Yn The Great Train Robbery, ffilm fwyaf poblogaidd America cyn 1912, gwelir Porter ar ei orau. Dengys y ffilm, sy n adrodd stori am griw o ladron yn ymosod ar drên, ddeallusrwydd a dychymyg Porter wrth

27 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, adrodd stori. Gwelir, ar ddechrau r ffilm, delegraffydd yn yr orsaf drenau yn cael ei glymu a i gaethiwo gan ladron cyn iddynt fyrddio trên gyda r bwriad o i ysbeilio. Wedi nifer o olygfeydd yn dilyn hynt y lladron ar y trên y mae Porter, gyda r bwriad o roi dyfnder ychwanegol i r stori, yn torri yn ôl i olygfa agoriadol y ffilm. Gwelir yn yr olygfa y tro hwn yr hyn sy n digwydd wedi i r lladron adael y telegraffydd, sef fod y gŵr hwnnw n cael ei ddarganfod a i ryddhau, a dechreuir ar yr helfa i ddal y lladron. Er bod y gynulleidfa n gwylio r digwyddiadau newydd hyn, y mae meistrolaeth Porter fel golygydd wedi sicrhau bod y gynulleidfa n sylweddoli hefyd fod dihangfa r lladron wedi iddynt ladrata o r trên yn dal i ddigwydd. Aiff Porter ymlaen i ailadrodd y dechneg hon sawl gwaith eto yn y ffilm, gan ddangos mai r ffordd orau o lunio gwaith effeithiol a chynnil yw trwy hepgor yr hyn sy n ddianghenraid a chyfleu mwy nag un safbwynt. Y mae n ffilm a dorrodd dir newydd mewn mwy nag un ffordd, o r golygfeydd treisgar a chyffrous i r gofal arbennig a roddwyd i r modd y i crëwyd ar leoliad ac i r wers a roddir ar sut i ymosod ar drên darluniau y byddai sensoriaid diweddarach yn siŵr o u dileu! Ond yr olygfa a roes y wefr fwyaf i gynulleidfaoedd y cyfnod oedd yr un nad oedd yn rhan uniongyrchol o r ffilm, sef golygfa o leidr yn saethu ei ddryll tuag at y camera ac, wrth gwrs, y gynulleidfa. Cafwyd cyfarwyddyd yng nghatalog ffilmiau cwmni Edison y gellid dangos yr olygfa hon ar ddechrau neu ar ddiwedd y ffilm fel rhyw fath o ddyfais er mwyn sicrhau bod y ffilm yn para n hir yng nghof y gwyliwr. Un a fu n gweithio yng nghysgod Porter am gyfnod, gan wisgo i fantell wedi hynny, oedd David Wark Griffith, cyfarwyddwr y campweithiau dadleuol The Birth of a Nation (1915) ac Intolerance (1916); ganwyd Griffith yn Kentucky a honnai ei fod yn ddisgynnydd o linach brenhinoedd Cymru. Gwelid dylanwad Porter yn gryf ar ffilmiau Griffith a aeth ati i ddatblygu syniadau r cymwynaswr cynnar am naratifau ffilm tra oedd yn cyfarwyddo i gwmni Biograph. Cyfrannwr arall i ddatblygiad cynnar estheteg y cyfrwng oedd Cecil Hepworth ( ). Dechreuodd gyrfa r cyfarwyddwr, y cynhyrchydd a r sgriptiwr hwn, a anwyd yn ne Llundain, ym 1899 pan droes dŷ bychan yn Walton-on-Thames yn stiwdio a sefydlu cwmni ar y cyd â i gefnder, Monty Wicks, sef Hepworth and Co. Cawsant eu llwyddiant cyntaf ym 1901 wrth ffilmio angladd y Frenhines Fictoria, ond y ffilm a enillodd enwogrwydd i r cwmni oedd gwaith a gyd-gyfarwyddodd Hepworth â Lewin Fitzhamon, Rescued by Rover (1905). Yn y ffilm hon, cafwyd golygu cyffrous a naratif a rhythm glyfar wrth adrodd stori herwgipio plentyn cyn ei achub gan gi defaid o r enw Rover. Gwelir ar ddechrau r ffilm y baban yn cael ei gipio gan sipsi wrth i w nyrs sgwrsio â i chariad, ond yn hytrach na dangos y nyrs yn sylweddoli hyn ac yn rhedeg adref, fe i gwelir yn yr olygfa nesaf yn rhedeg i mewn i ystafell fyw y teulu gan adrodd y newyddion drwg wrth y rhieni. Ond dilyniant mwyaf rhyfeddol y ffilm yw r un o Rover yn canfod y baban cyn dychwelyd i gartref y teulu er mwyn arwain y tad yn ôl at ei blentyn a i achub. Gwelir y ci yn rhedeg tua chuddfan y sipsi, gan symud ymlaen trwy ofod pob saethiad a gadael yr olygfa ar ochr chwith y sgrin cyn ymddangos yn yr olygfa nesaf, symud yn ei flaen trwy r gofod hwnnw a gadael eto i r chwith. Daeth y math hwn o saethu yn gyffredin mewn ffilmiau diweddarach gan Hollywood fel dyfais sy n cyfleu cysondeb y stori i r gwyliwr. Gwelir craffter Hepworth a Fitzhamon wrth eu gwaith unwaith eto, gyda r olygfa nesaf yn dangos aduniad y teulu yn hytrach na r tad yn dychwelyd gyda r baban i r cartref. Trwy gyfrwng y ffilm hon, cyfrannodd cwmni Hepworth, fel Porter, i r dasg o addysgu cynulleidfa i ddilyn stori heb unrhyw esboniadau a heb ddefnyddio rhyng-deitlau, nodwedd a ddaeth mor boblogaidd yn ddiweddarach. Ond beth oedd cyfraniad cynnar Cymru i r cyfrwng ffilm a datblygiad y sinema? Gellid dadlau na fu Cymru n llusgo i thraed o bell ffordd yn y cyfnod cynnar hwn ac i ambell ffigwr fod yn gymaint arloeswr â rhai o enwau mawr Ewrop ac America. Ail-ddarganfuwyd yn ddiweddar enghreifftiau gwych o ffilm ac ynddynt ddarluniau o Gymru. Yn eu plith y mae ffilm liw a saethwyd yng Nghonwy mor gynnar â Ffilm ydyw o daith trên rithiol i gastell Conwy a ffilmiwyd gan neb llai na W.K.L. Dickson ar

28 28 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, ran y cwmni British Biograph, cangen Brydeinig y cwmni Americanaidd Mutoscope and Biograph. 8 Llwyddwyd, trwy gyfrwng y broses stensil, i ychwanegu lliw i r darluniau hyn o gastell Conwy yn agosáu wrth i r trên dynnu tua r gaer. Er ei bod yn bell o fod yn berffaith o ran ei thechneg, y mae swyn anhygoel yn perthyn i r darluniau sigledig. Darluniau cynnar eraill o ogledd Cymru a ddarganfuwyd yn ddiweddar iawn yw gwaith y ddau entrepreneur o Blackburn, Sagar Mitchell a James Kenyon. Bu ffilmiau r ddau ar goll am oddeutu canrif tan i ddyn busnes o Blackburn, Peter Worden, a r National Film and Television Archive yn Llundain eu canfod a u hadfer ym Ymhlith yr 800 o ffilmiau a ganfuwyd y mae dyrnaid o ffilmiau a ffilmiwyd yng ngogledd Cymru gan gynnwys y ffilm gynharaf o unrhyw gêm bêl-droed ryngwladol. Yn y ffilm hon gwelir Cymru yn chwarae yn erbyn Iwerddon ar y Cae Ras ar yr ail o Ebrill 1906 gyda r sgôr ar ddiwedd y gêm yn bedair yr un. Ceir hefyd ffilm o longau pleser yn teithio rhwng Lerpwl a r Fenai, sef A Trip to North Wales on the St. Elvies (c.1902), ac ynddi olygfeydd o deithwyr yn eu dillad gorau yn mwynhau harddwch arfordir gogledd Cymru. Mewn ffilm arall cofnodir ymweliad Tywysog a Thywysoges Cymru, a goronwyd yn ddiweddarach yn Frenin George a Brenhines Mary, â r Rhyl ym 1902 er mwyn agor Ysbyty Brenhinol Alexandra. Y ffilm olaf yn y casgliad yw ffilm ddymunol iawn o drigolion Llandudno yn mwynhau gorymdaith Calan Mai y dref ym Ynddi ceir golygfeydd o r Frenhines Fai, Doris Ward ynghyd ag amryw o arddangosfeydd gan fusnesau r dref gan gynnwys dyn glanhau simneiau, gwerthwr pianos a threfnydd angladdau. Yn dilyn gorymdaith o ffigurau lliwgar yr olwg gan gynnwys band pres, clown, minstrel a dyn mewn gwisg Gymreig draddodiadol daw r ffilm i ben gyda hysbysfwrdd ac arno amserau arddangos y ffilm ei hun. Mae r casgliad hynod hwn wedi sicrhau bod i Mitchell a Kenyon bellach ran flaengar yn hanes ffilm Prydain ac, yn ddiau, y mae r ffilmiau hyn a wnaed yng Nghymru yn ychwanegiadau gwerthfawr i r darluniau cynnar sydd yn ein meddiant eisoes. Tua r un cyfnod ag y bu Mitchell a Kenyon yn ffilmio yng ngogledd a chanolbarth Lloegr a gogledd Cymru, cafwyd datblygiadau cyffrous eraill yn hanes ffilm Cymru. Yn ystod y 1890au yr oedd y Rhyl yn gyrchfan gwyliau poblogaidd ac un a ddenwyd i r dref ym 1889 gan ei phrysurdeb oedd Arthur Cheetham, gŵr a anwyd yn Derby ym Gŵr llawn bywiogrwydd a dyfeisgarwch oedd Cheetham. Dyn sioe wrth reddf ydoedd ac yn hunan-hyrwyddwr rhyfeddol. Yn ystod ei yrfa liwgar troes ei law at argraffu, cyhoeddi, ffotograffiaeth a llawer mwy, gan ymhél â r chwiwiau a r dyfeisiau diweddaraf. Erbyn 1893 yr oedd wedi gwneud enw iddo i hun gyda i driniaeth drydan feddygol a i ddarlithoedd-arddangos ffrenoleg ar draeth y Rhyl. Honnodd hefyd mai ef oedd y cyntaf i gyflwyno golau trydan i r Rhyl ym Hysbysebai ei swyddfa yn 12 Stryd y Frenhines yn y papurau lleol, gan ei ddisgrifio ei hun fel Character Reading Specialist, Medical Electrician, Hygenist. 9 Ond buan y i swynwyd gan y cyfrwng ffilm newydd cyffrous a ddaeth i r Rhyl yn ystod Awst 1896 trwy gyfrwng sioe glerwyr Moore & Burgess, Llundain, yng ngerddi haf y dref. Erbyn Rhagfyr 1896 yr oedd Cheetham wedi cael gafael ar daflunydd a swmp o ffilmiau syml megis golygfeydd o donnau n golchi dros forglawdd yn ystod storm neu olygfeydd mewn gerddi. Fe u dangosai yn Nhreffynnon, Bwcle, y Fflint a r Rhyl a nifer o drefi eraill gogledd Cymru. 10 O gofio byrder y ffilmiau a dafluniai Cheetham roeddent yn para am lai na munud yr un cynhwysid hefyd yn rhaglen y sioe sleidiau llusern hud a chaneuon ganddo ef ei hun a i wraig, Madam Rose Garton, a pherfformwyr eraill. Erbyn 1898 yr oedd gan sioe Cheetham yr enw crand The Silvograph oherwydd y sgrin arian y taflunnid y darluniau arni, ac yr oedd Cheetham wedi addasu ei beiriant taflunio i weithredu fel camera yn ogystal. Ymddengys mai ei ffilm gyntaf (ffilm sydd bellach ar goll) oedd darlun o blant yn chwarae ar draeth y Rhyl, a ffilmiwyd ar yr wythfed o Ionawr 1898 ac fe i harddangosodd yn Neuadd y Dref, y Rhyl, bum 8 Crëir ffilmiau taith rithiol trwy osod camera ar flaen trên a ffilmio r golygfeydd a welir o r cerbyd. 9 Philip Lloyd, Glorious Rhyl: A Peep at its Past (Yr Wyddgrug, 2002), t Taflen swfenîr, Opening of the Colwyn Bay Cinema in connection with Arthur Cheetham s Picture Theatres (A. Cheetham, Printer, Y Rhyl, 1913), tt. 5, 6.

29 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, niwrnod yn ddiweddarach. 11 Arweiniodd hyn at fisoedd o ffilmio mewn amryw o drefi ledled gogledd Cymru, megis Bae Colwyn, Caergybi, Porthmadog, Llanrwst, Llangollen a Wrecsam lle y bu n ffilmio digwyddiadau beunyddiol cyn dychwelyd i r Rhyl i arddangos ei weithiau yn y Grand Pavilion ar lanfa r dref. Byddai hefyd yn dychwelyd i r trefi y bu n ffilmio ynddynt, gan y gwyddai y byddai r trigolion yn fwy na pharod i dalu am y cyfle i w gweld eu hunain wedi eu hanfarwoli ar y sgrin fawr. Erbyn 1905 yr oedd Cheetham wedi prynu car i gario holl offer y Silvograph a dechreuodd deithio trwy Sir y Fflint a Swyddi Caer, Amwythig, Stafford, Caerlŷr, Caerloyw a Rhydychen. Llwyddodd i ffilmio nifer o ddigwyddiadau a brofasai n boblogaidd gan ei gynulleidfaoedd, megis gorymdaith Gŵyl Fai y Rhyl, Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref, ymweliad Dug a Duges Efrog a (a goronwyd yn ddiweddarach fel y Brenin George V a r Frenhines Mary) â Chonwy ym 1899 ac ymweliad Buffalo Bill Cody a i Congress of Rough Riders of the World â r Rhyl ym Ffilmiau ffeithiol oedd hoffter pennaf Cheetham. Gwyddys iddo saethu oddeutu deng ffilm ar hugain rhwng 1898 a 1903, ond bellach dim ond rhyw ddeuddeg ohonynt sydd wedi goroesi, gan gynnwys y ffilm o Buffalo Bill, ymweliad y Dug a r Dduges, y gêm bêl-droed rhwng Blackburn Rovers a West Bromwich Albion ym 1898 (y ffilm gynharaf o gêm bêl-droed ym Mhrydain), y llong bost Munster yn cyrraedd porthladd Caergybi, hefyd ym 1898, ac E. H. Williams and his Merrie Men (1899), ffilm sy n dogfennu un o adloniannau llwyfan mwyaf poblogaidd y Rhyl ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef sioe glerwyr. Ymhlith ei ffilmiau colledig y mae Ladies Boating at Aberystwyth, Arrival of a Train at Llanrwst, Rhyl May Day Procession, Slate-loading onto Ships at Porthmadog, Horse Fair at Llangollen a The Irish Mail Train going through Rhyl Station, y cyfan wedi eu ffilmio ym Ond nid cofnodi digwyddiadau hanesyddol yn unig a wnâi Cheetham. Meddai ar ddigon o synnwyr busnes i sylweddoli y byddai cynnwys nifer o wynebau lleol yn ei ffilmiau yn ennyn chwilfrydedd ei gynulleidfa ac yn sicrhau torf a busnes da. Er hynny, yr oedd Cheetham, fel arloeswyr eraill ledled y byd, yn ymwybodol iawn o r beirniadu ar y cyfrwng newydd-anedig hwn. O ganlyniad, mewn ymdrech i dymheru r gwrthwynebiad hysbysebai ei sioeau drwy ddefnyddio ansoddeiriau megis addysgiadol a diwylliedig, a gosodiadau disgrifiadol megis a sound and healthy, recreative amusement, gan bwysleisio agweddau gwyddonol ac addysgiadol y ddyfais. Mewn taflen swfenîr a gyhoeddwyd ar achlysur agor sinema Cheetham ym Mae Colwyn yn ystod y 1910au, disgrifir Cheetham yn prynu ei gamera cyntaf, gan nodi: Having been interested for many years in modern scientific inventions, he was at once attracted to this new development, and his attraction to it was more as that of the scientist than the Showman Unlike many others who have been attracted to this business during the last few years, he did not attach himself to this business because there was money in it, after it had been made popular by others before him, but he is in truth one of the PIONEERS who have had to educate the people to the usefulness of the Cinematograph, both as an Educational factor and as a sound and healthy, recreative amusement At this time [1897] (particularly in Wales) Animated Pictures were not understood, and their scientific value was certainly not appreciated. Mr Cheetham found at that time that it was only the well informed people, who could appreciate the marvellousness as well as possibilities of the new invention Ibid. t Ymhlith casgliad ffilmiau Cheetham canfuwyd ffilmiau y tybir iddynt gael eu cynhyrchu yn Aberystwyth rhwng 1923 a 1928 gan feibion Arthur Cheetham, sef Gustavus a Bernard. Yn eu plith ceir ffilmiau yn darlunio dadorchuddio cofgolofn rhyfel Aberystwyth ym 1923, golygfeydd o arddangosfa mabolgampau a dawnsio gwerin ysgol sirol y dref ym Mai 1924, a ras bum milltir yr Aberystwyth Town Harriers a saethwyd ym Taflen swfenîr, Opening of the Colwyn Bay Cinema in connection with Arthur Cheetham s Picture Theatres, tt. 5, 6.

30 30 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, Yr oedd yn amlwg ei fod yn ei ystyried ei hun yn arloeswr, un a dorrai gŵys newydd ac yn un a addysgai pobl gogledd a gorllewin Cymru a u llusgo gerfydd eu gwallt i mewn i r ugeinfed ganrif. Yn hyn o beth, ar ddydd Llun y Sulgwyn ym 1906, agorodd Cheetham ei sinema sefydlog gyntaf y gyntaf yng Nghymru yn y Central Hall, Stryd y Farchnad, y Rhyl, dan yr enw The Silvograph. Buan yr agorodd fentrau cyffelyb a ddarparai adloniant gydol y flwyddyn ym Mae Colwyn ym 1908 ac eto ym 1911, y Cheetham Picture Palace yn Aberystwyth ym 1910, a sinema yn Cheetham Hill, Manceinion, ym Er bod Cheetham a i deulu yn tra-arglwyddiaethu ar ddatblygiad y cyfrwng ffilm a r sinema yng ngogledd a gorllewin Cymru y teulu a gysylltir yn anad neb â hynt y cyfrwng yng nghymoedd de Cymru a Sir Benfro yw r Haggars, yn enwedig y penteulu, Arthur William Haggar. Brodor o Dedham, Essex, oedd Haggar, ac ar ôl blynyddoedd cynnar digon anhapus ymunodd â chwmni theatr teithiol, lle y cyfarfu â i wraig gyntaf, Sarah. Wedi iddynt briodi ym 1870 a dechrau magu un ar ddeg o blant dim ond wyth a fu byw i fod yn oedolion bu r teulu yn byw a theithio mewn wagenni am dros bymtheg mlynedd ar hugain er mwyn arddangos eu sioe, yr Haggar s Castle Theatre. Dengys tystysgrifau geni r plant i r teulu brofi blynyddoedd o deithio prysur oherwydd ganwyd y plant i gyd mewn mannau gwahanol. 14 Y teulu mawr hwn oedd un o seiliau llwyddiant Haggar oherwydd defnyddiai ei blant a i wraig wrth gastio i sioeau, gyda William Jnr, Fred, Jim, Nell, Walter, Violet, a Lily May ymhlith yr amlycaf. O 1885 ymlaen ymwelai r teulu yn bennaf â de-orllewin Lloegr a de Cymru, gan ddiddanu trigolion trefi megis Tredegar, Bryn-mawr, Merthyr, Nant-y-glo, Casnewydd, Aberdâr, Blaenafon, Blaenau, Pontypridd, Maesteg, Treharris, Treorci a Hwlffordd. Profai r teulu gryn lwyddiant yn y trefi hyn o u cymharu â threfi mawr fel Caerdydd ac Abertawe, a hynny n bennaf am mai prin iawn oedd yr adloniant masnachol a geid yn yr ardaloedd hynny. Yna, yn ffair Aberafan ym mis Ebrill 1898, wedi iddo brynu taflunydd gan John Wrench, Llundain, rhoes Haggar ei berfformiad cyhoeddus cyntaf o i sioe bioscope, sef sinema deithiol. Ac yntau wedi arbrofi â ffotograffiaeth ers rhai blynyddoedd, gan werthu lluniau i r rhai a fynychai ei berfformiadau theatrig, nid oedd yn syndod iddo gael ei swyno gan y chwiw ddiweddaraf, sef y cyfrwng ffilm. Bu r perfformiad cyntaf yn llwyddiant ysgubol, ond bu r misoedd dilynol yn anodd wrth i streic y glowyr y flwyddyn honno gyfyngu ar wariant teuluoedd y cymoedd. Er hynny, yng ngwanwyn 1899 dechreuodd Haggar deithio unwaith yn rhagor gyda i bioscope, gan brofi cystal llwyddiant nes iddo fabwysiadu r cyfrwng yn llwyr a gosod ei gwmni theatr deithiol yng ngofal ei fab hynaf, William. Nid anghofiwyd cyni r flwyddyn 1898 a chymerai r teulu y dywediad Stick to the Coal o ddifrif wrth deithio ac arddangos y bioscope. Er gwaethaf yr enw crand a roddwyd i r sioe Haggar s Royal Electric Bioscope nid oedd y sioe yn un wych iawn ei golwg. Llunid y llwyfan gan ddwy wagen a darperid pŵer ar gyfer y goleuadau amrywiol gan injan stêm ar un ochr y llwyfan ac ar yr ochr arall gerddoriaeth gan organ Gavioli 89 allwedd. Denid cynulleidfaoedd i r sioe gan fwstrwyr (neu paraders ), sef merched ifanc mewn gwisgoedd lliwgar yn dawnsio, gydag un o ferched Haggar, Violet, yn eu harwain, a gwaeddwyr (y barkers ) a fyddai n annog y cyhoedd i brofi r dechnoleg a r adloniant diweddaraf, gyda William Haggar Snr ei hun yn ymgymryd â r ddyletswydd honno yn aml. Erbyn 1900 yr oedd Haggar wedi taro ar y syniad o gynhyrchu ei ffilmiau ei hun a u harddangos yn ei bioscope. Creodd ei ffilm gyntaf ym 1901, sef golygfeydd o drên yng ngorsaf Porth Tywyn, ffilm sydd bellach ar goll. Flwyddyn yn ddiweddarach, gan ddefnyddio cast cwmni theatr Wil Jnr ac aelodau o i deulu, ffilmiodd ar leoliad ym Maesteg, mewn awr a hanner, y ddrama gyntaf i w ffilmio yng Nghymru, sef The Maid of Cefn Ydfa. Seiliwyd naratif y ffilm ar stori wir am berthynas drasig y töwr a r cerddor Wil Hopcyn â r aeres Ann Thomas yn ardal Llangynwyd. Profodd testun y ffilm a i lleoliad ffilmio lleol yn hynod o boblogaidd ymhlith poblogaeth Treorci lle y gwnaed elw o 40 yn y perfformiad cyntaf a 14 Ymhlith mannau geni plant William a Sarah Haggar ceir Gorleston, Mansfield, Dursley, Preston, Taunton, Poole a Bedwellty.

31 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, gynhaliwyd o fewn dyddiau i orffen ffilmio r cynhyrchiad saith munud a hanner o hyd. 15 Bu r ffilm yn llwyddiant ledled Cymru, yn enwedig yn y cymoedd, ac yr oedd yn gymaint o ffefryn teuluol nes y gwnaed fersiwn arall o r stori ym 1908, ac un arall eto ym gan William Haggar Jnr yn Sir Benfro. 16 Creodd Haggar amryw o ffilmiau yn ystod y blynyddoedd dilynol: ffilmiau ffuglen, megis ei fersiwn ef o Ryfel y Boer a ffilmiwyd ym Maesteg; ffilmiau yn darlunio digwyddiadau go iawn, megis angladd chwech o ddynion bad achub y Mwmbwls a foddodd mewn damwain anghyffredin ger harbwr Aberafan ym 1903, a chomedïau megis y gyfres Mirthful Mary a grëwyd rhwng 1903 a Amcangyfrifir bod William Haggar Snr wedi cynhyrchu rhwng deugain a thrigain o ffilmiau rhwng 1901 a 1909, gan ddefnyddio i deulu fel cast, a u dosbarthu trwy Brydain ac yn rhyngwladol, gan amlaf drwy Gaumont, cwmni dan reolaeth A.C. Bromhead, a chwmni Charles Urban, sef y Warwick Trading Company. 17 Yr oedd Haggar yn ddyfeisiwr heb ei ail ac yn un a fu n gwthio r ffiniau n barhaus. Dengys y ffilmiau sydd wedi goroesi (gwaetha r modd, dim ond pump sy n bodoli ac y mae sawl un o r rheini yn dameidiog) ei afael sicr ar ramadeg a chonfensiynau cynnar y ffilm. Ffilm a grëwyd ganddo sy n adlewyrchu ei hoffter o ddarlunio bywyd gwledig ac o dor-cyfraith yw A Desperate Poaching Affray (1903), a ffilmiwyd yn Sir Benfro gyda mab hynaf Haggar, William Jnr, yn chwarae rhan un o r potswyr. Fe i hystyrir yn un o ddyrnaid o ffilmiau Prydeinig cynnar a ddylanwadodd ar naratif ffilmiau America. Honnir iddi, law yn llaw â ffilm Frank Mottershaw, A Daring Daylight Burglary, ddylanwadu ar ddatblygiad is-genre y ffilmiau erlid a ddechreuodd yn America ym 1903 ac a ddaeth i w anterth gyda Mack Sennett a r Keystone Kops. Y mae rhai yn honni hefyd mai hon yw r ffilm erlid gyntaf a wnaed erioed ac iddi ddylanwadu n drwm ar Edwin S. Porter a i ffilm arloesol, The Great Train Robbery (1903). Yn A Desperate Poaching Affray gwelir tystiolaeth glir o ddealltwriaeth Haggar o r angen i sicrhau dyfnder a chwimdra i r digwyddiadau ar y sgrin ac ychwanegu prysurdeb a chyffro er gwaetha r ffaith fod y camera n statig. Llwyddodd i wneud hyn drwy gyfarwyddo r actorion i fynd a dod o r ffrâm yn agos iawn at y camera ac o onglau amrywiol. Ynddi hefyd y ceir yr olygfa banio gyntaf gan Haggar wrth i r camera ddilyn y ddau botsiwr yn rhedeg o afael y ciperiaid a r heddlu ac yn neidio dros glwyd. Ffilm arall am botswyr gan Haggar sydd heb oroesi yw The Salmon Poachers (1905), ffilm erlid sydd wedi ennill ei lle yn y llyfrau hanes oherwydd iddi werthu mwy o gopïau yn y dyddiau cyn llogi ffilmiau nag unrhyw un o r holl ffilmiau Prydeinig eraill a ddosbarthwyd gan Gaumont hyd hynny, sef cyfanswm o 480, gan gynnwys ffilm enwog Cecil Hepworth, Rescued by Rover. 18 Ffilm arloesol arall gan Haggar yw The Bathers Revenge (1904) a wnaed ar gyfer Charles Urban. Yn y ffilm hon gwelir dau neu dri o fechgyn yn nofio mewn afon cyn diflannu o r ffrâm. Yna daw dau gariad i r golwg, gan daflu dillad y nofwyr oddi ar y fainc i r llawr, gan ddal eu trwynau, eistedd ar y fainc a dechrau cofleidio. Dychwel y nofwyr i r ffrâm heb i r ddau gariad eu gweld, gan dynnu ar raff sydd ynghlwm wrth y fainc, a thynnu r fainc a r ddau gariad i r afon. Cyn i r ffilm gloi daw ci mawr du i syllu ar y nofwyr a r ddau gariad yn stryffaglio yn yr afon. Y mae r ffilm hynod fer hon, a elwid o r herwydd yn quickie (ac a ddarganfuwyd a i hadfer ym 1995 wedi i ymchwilwyr yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru adnabod Walter Haggar mewn gwisg merch fel un o r cariadon) yn rhagflaenydd i r math o ffilm a ddaeth yn enwog yn nyddiau Roscoe Fatty Arbuckle a Buster Keaton, sef y gomedi mainc parc. 15 Geoffrey Hill, William Haggar, Pioneer of the Cinema in Wales, Old Aberdare, Cyfrol VI, 1989, tt Dim ond The Maid of Cefn Ydfa gan William Haggar Jnr sydd wedi goroesi, er ei bod yn anghyflawn. William Jnr a i wraig Jenny Linden sy n chwarae rhannau Wil Hopcyn ac Ann Thomas yn y fersiwn hwn. 17 Defnyddiodd William Haggar Snr ei gwmni stoc ei hun, ei deulu gan amlaf, yn ei ffilmiau flynyddoedd cyn i Mack Sennett a D.W. Griffith ennill enwogrwydd am wneud hynny. 18 Teitl arall ar y ffilm hon yw A Midnight Mêlée.

32 32 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, Nid ymddiddorai Haggar mewn adloniant uchel ael. Tra oedd Cheetham yn pwysleisio gwreiddiau gwyddonol y cyfrwng gan ddogfennu digwyddiadau go iawn, yr oedd yn well gan Haggar ddarparu adloniant ar gyfer y dosbarth gweithiol yr adwaenai mor dda, gan wneud hwyl am ben yr awdurdodau, megis yr heddlu a chrefydd, a hynny er gwaetha r ffaith fod ei gyfnod mwyaf llwyddiannus fel cynhyrchydd ffilmiau wedi cyd-ddigwydd ag awr anterth y Diwygiad ymneilltuol yng Nghymru. Ar sail adloniant a geid yn y ffair a r theatr y lluniai ei ffilmiau, yn ôl David Berry: the Welsh-based showman was the only film-maker, of any standing, weaned in the hurly-burly of the fairground or the theatre, where he performed his stage potboilers before introducing his early films to audiences. 19 Yn hyn o beth, âi Haggar yn groes i r cynnyrch a geid gan ffilmwyr o dde Lloegr. Dim ond Frank Mottershaw yn Sheffield a chwmni Bamforth yn Leeds a oedd yn creu ffilmiau er mwyn diddanu r dosbarth gweithiol. Yr amlycaf o i ffilmiau am dor-cyfraith a thrais yw The Life of Charles Peace (1905), ffilm ddrama-ddogfen sy n adrodd hanes gyrfa frith Charles Peace, y lleidr a r llofrudd go iawn a grogwyd yng ngharchar Armley, Leeds, ym Walter Haggar sy n chwarae rhan Charles Peace, gan gyflwyno r troseddwr mewn golau digon ffafriol a gwneud yn fawr o r golygfeydd doniol niferus a gynhwyswyd gan ei dad. Ceir yn y ffilm amryw o olygfeydd sy n cyfleu natur frysiog ac amrwd y ffilmio, megis cath fach yn cael ei thaflu yn ôl i r ffrâm wedi iddi grwydro o olwg y camera yn yr olygfa o Peace yn diddanu Mr a Mrs Dyson. Golygfa ddoniol arall yw r un lle y mae Peace yn gwisgo fel clerigwr er mwyn twyllo r heddlu sydd yn ei erlid. Wedi iddo newid ei wedd fe i gwelir yn dosbarthu pamffledi ymhlith yr heddweision wrth iddynt redeg ato a gofyn i ba gyfeiriad yr aeth Peace. Yna, wedi iddo anfon yr heddweision i r cyfeiriad anghywir y mae n symud ymlaen tua r camera ac yn bodio i drwyn at gefnau r heddlu. Yn ogystal â bod yn enghraifft brin o ddiffyg parch at yr awdurdodau y weinidogaeth a r heddlu y mae hon yn un o r golygfeydd lle ceir y defnydd cyntaf o saethiad agos gan Haggar. Ef oedd y cyntaf i wneud hynny yng Nghymru. Erbyn creu r ffilm hon ar leoliad yn Sir Benfro, yr oedd Haggar wedi llwyr feistroli r camera a grym y cyfrwng, gan iddo drefnu tintio r golygfeydd mewn amrywiol liwiau er mwyn cyfleu eu hawyrgylch. Ynddi hefyd ceir defnydd cynnar o ryng-deitlau, dyfais a roddai gymorth i r gwyliwr ddeall naratif y stori mewn ffilmiau hwy na munud neu ddwy, dyfais brin iawn ei defnydd cyn Wrth gwrs, nid creu ffilmiau ar leoliad yn y cymoedd a Sir Benfro oedd unig gymwynas Haggar Snr i hanes ffilm Cymru; bu ei gyfraniad hefyd yn allweddol i lwyddiant y sinemâu. Yn ystod dyddiau teithio cynnar y teulu gyda r bioscope, byddai r Haggars yn byw mewn carafannau ac yn tynnu r offer angenrheidiol o ardal i ardal â cheffylau. Ond yn ystod y 1890au manteisiwyd ar yr injan stêm a ddarparai, yn ogystal, ffordd o oleuo r offer a u goleuadau addurniadol. Ym 1904, yn sgil ei lwyddiant cynnar, prynodd Haggar injan stêm gan gwmni John Fowler & Co. yn Leeds. Bedyddiwyd y peiriant gan y teulu yn The Maid of Cefn Ydfa. 21 Aeth busnes y teulu o nerth i nerth ac ym 1905 prynwyd bioscope newydd a i alw n Haggar s Electric Bioscope sioe hynod o gywrain o ran ei goleuo a i haddurn. Defnyddid organ Marenghi wych a cheid amrywiaeth o ddarnau opera, ymdeithganau gan Sousa a rhai o ganeuon Harry Lauder. Yr oedd angen injan arall ar gyfer tynnu r sioe hon ac felly, ym 1910, prynwyd y King George V. Yna, ym 1907 prynwyd William Haggar s Electric Coliseum, sioe bioscope ac iddi organ Gavioli 110 allwedd yn ogystal â llawer o oleuadau a phaneli a ffigurau addurniadol aur. Ceid y pŵer ar gyfer y bioscope hwn o injan arall gan gwmni John Fowler ac fe i bedyddiwyd yn Cymru am Byth, gweithred a adlewyrchai ymlyniad y 19 David Berry, Wales and Cinema: The First Hundred Years (Cardiff, 1996), t Camgymerwyd y ffilm hon gan William Haggar Snr am flynyddoedd fel ffilm arall o r un teitl gan Frank Mottershaw. Y mae ffilm Mottershaw bellach ar goll. 21 Y mae r injan hon wedi goroesi ac yn cael ei hadfer yn y Gelli.

33 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, teulu wrth eu gwlad fabwysiedig. Diau fod ymweliadau r rhyfeddodau hyn ymhlith pinaclau r flwyddyn yn llawer o gymunedau tlawd ac ynysig de a gorllewin Cymru. Erbyn diwedd degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif yr oedd cwmnïau mawr yn dechrau rheoli r farchnad ac yn hytrach na gwerthu ffilmiau i arddangoswyr, y drefn bellach oedd llogi ffilmiau. Wrth i dechnoleg newydd a dulliau mwy soffistigedig o greu ffilmiau fygwth dyfodol y cynhyrchydd bychan ar lawr gwlad, fe berswadiwyd Haggar i ystyried sefydlu sinema sefydlog. Ffactor arall a brysurodd ei benderfyniad oedd marwolaeth ei wraig gyntaf, Sarah, yng Nghaerfyrddin ym O ganlyniad, dewisodd Aberdâr fel lleoliad ei sinema sefydlog gyntaf. Bwriodd wreiddiau yn Stryd y Farchnad, Aberdâr, ym 1910 gan greu sinema mewn caban dros dro o r enw Haggar s Electric Coliseum a ailfedyddiwyd ym 1912 yn Haggar s Electric Palace. Yn ogystal, ym 1912, fe ailbriododd Haggar â Mary Davies o Aberdâr, gan godi cartref yn Abernant a i alw n Kinema House. O fewn blwyddyn yr oedd Haggar wedi ei ethol i Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr ac fe i hetholwyd y flwyddyn ganlynol yn aelod o Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr. Yr oedd yn prysur ymbarchuso ac aeth y teulu yn eu blaen i sefydlu a rheoli sinemâu ledled de Cymru. Adeiladwyd, er enghraifft, sinema newydd ym Merthyr ym 1910, agorwyd dau leoliad yn Llanelli, sef Haggar s Theatre, y theatr a r sinema a agorwyd ym 1910 ac a reolid gan ei fab James, a r Hippodrome a reolid gan fab arall, Walter. Ym 1912 agorwyd y Palace yn Aberpennar a Haggar s Theatre and Bioscope Palace ym Mhontarddulais lle y bu tân difrifol a ddinistriodd nid yn unig yr adeilad ac offer cwmni theatr Walter Haggar ond, yn fwy torcalonnus, nifer fawr o ffilmiau William Haggar Snr. Bu hynny n golled amhrisiadwy i hanes ffilm Cymru a r byd. Ond ar 23 Awst 1915, yn goron ar ymerodraeth Haggar, agorwyd y Kosy Kinema yn Aberdâr, a hynny y tu draw i w hen stondin yn Stryd y Farchnad. Yr oedd yn adeilad hardd iawn a gynlluniwyd yn ofalus gan ddarparu adloniant ar gyfer 700 o bobl gyda cherddorfa chwe darn yn cyfeilio r ffilmiau. Bu cyfraniad William Haggar o anhraethol bwys yn nyddiau cynnar y cyfrwng a thrwy gydol yr ugeinfed ganrif bu ei ddisgynyddion yn rheoli degau o sinemâu ledled de a gorllewin Cymru, gan ddiddanu cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Diolch i ymdrechion cynnar Cheetham, Haggar ac ambell un mentrus arall, erbyn 1934 yr oedd yna 321 o sinemâu sefydlog yng Nghymru a ddarparai adloniant a dihangfa rad i wylwyr. Anwybyddai gwerin-bobl Cymru bryderon yr élite am ddylanwad dieflig y palasau breuddwydion neu r cytiau chwain ar foesau a diwylliant y genedl. Yn hytrach, magwyd y cyfrwng fel un o brif ffurfiau diddanwch y genedl. Yr un oedd grym y cyfrwng yn Lloegr gyda 3,462 o sinemâu yn cynnig seddau i dros dair miliwn o bobl erbyn Y degawd hwn oedd blynyddoedd anterth y sinema ym Mhrydain. Yn ddi-os, pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf daeth cyfnod aur arloeswyr y sinema i ben. Yr oedd bywyd ar fin newid yn llwyr ac yr oedd y cyfrwng ffilm yn wynebu tro ar fyd yn ogystal. Hyd at y cyfnod hwn, tra-arglwyddiaethwyd dros y byd ffilm gan Ffrainc. Er i wledydd cyfandir Ewrop brofi n ddylanwadol wrth ffurfio r cyfrwng am gryn flynyddoedd wedi r Rhyfel Mawr fel y dengys ysgolion ffilm megis mynegiadaeth yn yr Almaen a swrrealaeth ac argraffiadaeth yn Sbaen a Ffrainc agorwyd y drws yn llydan wedi r rhyfel i weithiau hawdd-eu-deall Hollywood a ffilmiau gwleidyddol gan Sofietiaid megis Pudovkin ac Eisenstein. Ym mlynyddoedd cynnar y 1920au esgorwyd ar oes aur ffilm fud glasurol Hollywood a system y sêr yn America, a chafwyd cyfnod tra chyffrous o arbrofi a datblygu ar seiliau a osodwyd gan yr arloeswyr cynnar. Wrth i Hollywood ledaenu ei dylanwad ledled y byd, crebachodd sinemâu cenedlaethol gwledydd Ewrop, gan gynnwys Prydain, na lwyddodd i adfer ei llwyddiant cynnar, a gellid dadlau mai felly y mae pethau wedi parhau hyd heddiw.

34 34 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cynnau r Fflam: Arloeswyr Cynnar y Sinema, LLYFRYDDIAETH Berry, D. (1994), Wales and Cinema The First Hundred Years, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Cheetham, A. (1913), Opening of the Colwyn Bay Cinema in connection with Arthur Cheetham s Picture Theatres, (Taflen swfenîr), Y Rhyl. Ezra, E. (2000), Georges Méliès, Manceinion: Gwasg Prifysgol Manceinion. Ffrancon, G. (2003), Cyfaredd y Cysgodion Delweddu Cymru a i Phobl ar Ffilm, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Herbert, S. a McKernan, L. (goln.) (1996), Who s Who of Victorian Cinema, Llundain: British Film Institute. Hill, G. (1989), William Haggar, Pioneer of the Cinema in Wales yn Old Aberdare 6: tt Lloyd, P.(1998), Arthur Cheetham: Welsh Film Pioneer yn Cambria 2 (2): tt Mast, G. a Kawin, B. (2000), A Short History of the Movies, Llundain a Boston: Allyn & Bacon. Popple, S. a Kember, J. (2004), Early Cinema: from factory gate to dream factory, Llundain: Wallflower. Toulmin, V., Russell, P. a Popple, S. (2004), The lost world of Mitchell and Kenyon: Edwardian Britain on film, Llundain: British Film Institute. Thompson, K. a Bordwell, D. (1994), Film History An Introduction, Efrog Newydd a Llundain: McGraw-Hill.

35 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau 35 ASTUDIO SÊR YN Y MAES FFILMIAU: DULLIAU A DADLEUON ROBERT SHAIL Bron ers dyddiau cynharaf un y sinema bu r syniad o sêr yn un o nodweddion diffiniol y cyfrwng. Parhaodd yn rhan ganolog o gynhyrchu, dosbarthu ac arddangos ffilmiau n llwyddiannus yn fasnachol. Mae hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn y modd y mae r cyfrwng yn rhyngweithio â rhannau eraill o r cyfryngau ac, o ganlyniad, mae sêr wedi chwarae rhan allweddol yn y modd y mae r sinema yn cael sylw ac yn cael ei marchnata yn fwy cyffredinol yn y cyfryngau. Statws sêr ffilm sydd wedi diffinio r berthynas y mae r sinema wedi i chreu â i chynulleidfa gan amlaf. Hwy sy n parhau i fod yn brif ddulliau marchnata r diwydiant ac yn aml hwy yw prif reswm y gynulleidfa dros fynd i wylio r ffilm yn y lle cyntaf. O ystyried effaith ariannol, cymdeithasol a diwylliannol enfawr sêr y byd ffilm yn ystod hanes y sinema mae n gryn syndod na fu fawr o drafodaeth arnynt mewn cyd-destun academaidd. Bu r pwnc yn sail i gryn nifer o lyfrau a chylchgronau poblogaidd, ond dim ond yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, y datblygodd astudio sêr yn y maes ffilmiau ar lefel ysgolheigaidd, damcaniaethol. Fel cangen benodol o astudiaethau ffilm mae cyhoeddi Stars gan Richard Dyer yn 1979 yn parhau i fod o bwys allweddol, gan ei fod wedi sefydlu conglfaen hanfodol ar gyfer dechrau ymchwilio n ysgolheigaidd yn y maes. O ganlyniad mae gwaith Dyer wedi bod yn hwb i ymestyn y drafodaeth a thrwy hynny daeth astudio sêr yn y maes ffilmiau yn elfen ganolog i lawer o r gwaith yn y maes astudiaethau ffilm, yn arbennig o ran canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â dehongli a gwylio. Mae nifer o wahanol resymau am yr esgeuluso hwn, ond mae n debyg y gellir ei olrhain i r ffaith fod dwy fethodoleg gyffredinol a ddefnyddir i ddadansoddi testunau ffilm wedi tra-arglwyddiaethu yn y maes astudiaethau ffilm. Mae r gyntaf yn tueddu i bwysleisio r modd yr adeiledir naratif ac o r herwydd mae wedi edrych ar rôl sêr ffilm mewn perthynas â chreu cymeriadau yn y naratif yn unig, yn hytrach nag ystyried eu swyddogaeth benodol fel sêr. Mae r ail wedi canolbwyntio ar nodweddion gweledol y cyfrwng, mise-en-scène yn benodol, lle r edrychir ar sêr yn bennaf mewn perthynas â u cyfraniad i goreograffi gweledol golygfa. Tuedd y dulliau hyn fu anwybyddu cyfraniad y sêr eu hunain fel ffactor yn y broses o roi arwyddocâd i destunau ffilm. Nod y bennod hon yw amlinellu rhai o r prif fframweithiau cysyniadol sydd wedi datblygu yn y maes astudiaethau sêr ers cyhoeddi llyfr arloesol Dyer. Bydd yn cael ei rhannu n bedair rhan fydd yn edrych ar gynhyrchu sêr yn y maes ffilmiau, sêr a syniadaeth, sêr a u cynulleidfa, a sêr fel portreadau. Wrth edrych ar y prif fethodolegau a dadleuon sydd wedi datblygu yn ystod y cyfnod hwn byddaf yn ceisio canolbwyntio ar ddwy brif agwedd fydd, yn fy marn i, yn effeithio n sylfaenol ar y modd y bydd astudiaethau o sêr yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Y rhain yw r newidiadau sydd wedi digwydd yn y modd y mae r syniad o sêr yn cael ei lunio yn y cyfryngau cyfoes a phwysigrwydd cynyddol dull hanesyddol i academyddion a myfyrwyr sy n ceisio gwneud synnwyr o r modd y mae r syniad o sêr yn gweithio. CYNHYRCHU SÊR Mae Richard de Cordova wedi dangos sut y datblygodd y syniad o sêr yn y maes ffilmiau yn sinema America rhwng 1909 a Mae n rhannu r datblygiad hwn yn dair rhan yn ymwneud âr drafodaeth ynghylch actio lle mae r sinema, am y tro cyntaf, yn tynnu ar feini prawf sefydlog o ran safon mewn actio (yn deillio o r theatr i raddau helaeth) er mwyn cadarnhau ei chredinedd artistig ei hunan, personoliaeth y llun, lle gwelwn enw perfformiwr yn dod i r amlwg am y tro cyntaf (tua 1909), a r defnydd llawn o r 22 R. de Cordova, The emergence of the star system in America, yn C. Gledhill (gol.), Stardom: Industry of Desire (London/New York, 1991), t. 17.

36 36 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon term seren (a ymddangosodd am y tro cyntaf tua 1914) i nodi dechrau system sêr go iawn yn sinema America. 23 Nodwedd gyson yn nisgrifiad de Cordova o ddatblygiad sêr yn y maes ffilmiau yw r pwyslais a rydd ar y syniad o sêr fel cynnyrch economaidd mewn system a yrrir gan elw. Mae r angen am sêr yn cael ei fwydo gan awydd y gynulleidfa i gael mwy o r cynnyrch y maent eisoes wedi i fwynhau. Yna cydnabu sinema, fel diwydiant masnachol, fod sêr yn bwysig o ran denu a chadw cynulleidfa. Yn ei dro mae hyn yn datblygu n rhan allweddol yn y broses o ddiwydiannu arferion gwneud ffilmiau yn ystod deng mlynedd ar hugain cyntaf hanes y sinema yn America. Mae John Ellis yn mynd ar ôl y thema hon yn Visible Fictions lle mae n cymharu rôl sêr y byd ffilm ag eiddo genre gan fod cynhyrchwyr yn ystyried sêr yn swm y gellir ei ddiffinio ac y gellir ei ailadrodd mewn dull cymharol fformiwläig er mwyn annog cynulleidfa, a ystyrir yn gynyddol oddefol, i fynychu. 24 Nodwyd y newid cyfeiriad hwn, sy n gweld y syniad o sêr yn y maes ffilmiau yn newid o i ystyr gwreiddiol o fod wedi i greu yn nhermau r galw gan gynulleidfa, i ddiffiniad lle y i crëir gan gynhyrchwyr ffilm i reoli r galw hwnnw, gan haneswyr sinema Hollywood fel Richard Maltby a John Belton. Yn arwyddocaol, mae pennod Maltby ar y system sêr yn Hollywood Cinema wedi i osod mewn rhan o r llyfr sy n bwrw golwg dros arferion diwydiannol a masnachol Hollywood yn y cyfnod clasurol. Mae Maltby n diffinio sêr fel the commodities that consistently drew audiences to the movies. 25 Y term allweddol yn y fan hon yw defnydd Maltby o r gair commodity. Trwy ddiffinio sêr yn y modd hwn gall Maltby amlinellu r gwahanol arferion cynhyrchu a ddefnyddiwyd gan Hollywood yn y cyfnod clasurol i gynhyrchu a gwerthu r nwyddau hyn. 26 Ymhlith yr arferion hyn roedd y defnydd o gytundebau hir, caethiwus oedd yn fodd i stiwdios gadw rheolaeth dynn ar waith eu sêr (gan gynnwys defnyddio cosbau i sêr a geisiai wingo yn erbyn y symbylau), creu adrannau marchnata a chyhoeddusrwydd a ddefnyddiai sêr fel dull canolog o werthu ffilmiau, ac wedi hynny datblygu medrau fel y llun llonydd i bwrpas cyhoeddusrwydd a meithrin yn ofalus berthynas gyfeillgar â r cyfryngau yn gyffredinol, a hynny fel arfer yn golygu gadael i newyddiadurwyr gael cyswllt cyfyngedig â r sêr er mwyn darparu sylw cadarnhaol yn gyffredinol. Roedd hefyd yn cynnwys datblygu cyfrwng y seren fel modd o arddangos sêr a chreu persona r seren. Efallai mai r nodwedd hon oedd yr un bwysicaf o ran sefydlu elfen ddeniadol fasnachol unrhyw seren arbennig. Mae John Belton yn dychwelyd at wreiddiau Groegaidd y gair persona, fel term a ddefnyddiwyd i ddisgrifio r masg a wisgai perfformwyr yn y theatr Roegaidd hynafol, er mwyn gosod diffiniad lle bo actorion yn datblygu a persona or portrait of themselves out of the personalities of various characters they have played over the course of their careers and out of the elements of their personal lives that have become public knowledge. 27 Mae r persona hwn yn cynnwys y nodweddion sylfaenol sy n gwneud seren yn ddeniadol i w chynulleidfa: y cyfuniad o wytnwch a theimlad yn Humphrey Bogart; deallusrwydd a ffraethineb boneddigaidd Katherine Hepburn. Yna mae r system stiwdio yn gweithio i gynnal y nodweddion hyn yn y ffilmiau y mae r seren yn actio ynddynt ac yn eu gwahanol ymddangosiadau eraill yn y cyfryngau ehangach. Mae r olaf yn ffactor allweddol oherwydd, fel y dywed Richard Dyer, stars as images are constructed in all kinds of media texts other than films, but none the less, films remain privileged instances of the star s image. 28 Gallai r mathau eraill hyn o destunau cyfryngau gynnwys cylchgronau dilynwyr, ffotograffau a phosteri hyrwyddo, adroddiadau yn y cyfryngau ehangach, cyfweliadau ac ymddangosiadau personol. Ym mhob un o r rhain byddai r stiwdio yn ceisio cynnal cysondeb persona r seren. Mae r persona ei hun yn gyfuniad o elfennau r 23 Ibid.tt John Ellis, Visible Fictions: Cinema, Television, Video (London, 1982), tt Richard Maltby, Hollywood Cinema (Malden/Oxford, 2003), t Ibid. tt John Belton, American Cinema/American Culture (New York, 1994), t Richard Dyer, Stars (London, 1998), t.88.

37 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon 37 rhannau y bu r seren yn eu hactio mewn ffilmiau ac elfennau o u bywydau preifat, er mai dim ond cyswllt tenau iawn â r olaf all fod gan y persona seren a grëwyd. Er enghraifft, dan y system sêr, roedd yn berffaith bosibl i Rock Hudson gael ei farchnata am ugain mlynedd fel gŵr blaenllaw heterorywiol confensiynol a chyfareddol tra arhosai realiti ei wrywgydiaeth, ffactor y credai Hollywood allai fod yn rhywbeth niweidiol i w ymarferoldeb masnachol fel seren, allan o olwg y cyhoedd yn gyfan gwbl. Tra bod y model hwn o sêr fel nwyddau masnachol yn ddefnyddiol o ran ystyried sut yr oedd y system stiwdio yn gweithredu yn ei ddydd, mae n bwysig ystyried natur y newidiadau sydd wedi digwydd ers y 1960au. Mae effaith y newidiadau hyn yn arbennig o ganolog i swyddogaethau ideolegol y syniad o sêr a drafodir yn yr adran nesaf. Adlewyrchwyd chwalu r system stiwdio yn y 1960au yn uniongyrchol gan y modd y newidiodd safle sêr ffilm yn y broses gynhyrchu. Mae hyn wedi dod i r amlwg mewn tair ffordd neilltuol. Yn y lle cyntaf, arweiniodd chwalu system gynhyrchu ffatri r stiwdio at ddwyn cytundebau caethiwus cyfnod hir i ben. Nid oedd y sêr yn eiddo i stiwdios bellach, ond fe ddechreuon nhw gael elfen o annibyniaeth. Yn yr un modd, nid oedd y ffilmiau eu hunain yn cael eu cynhyrchu n uniongyrchol gan y stiwdios, ond yn hytrach roeddent yn cael eu prynu i mewn fel pecynnau a grëwyd oddi allan i r system stiwdio. I bob pwrpas datblygodd y stiwdios yn dai buddsoddi a oedd yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau ffilm a ddatblygwyd oddi allan i r system ei hun. Fel y mae Geoff King yn nodi, mae sêr wedi datblygu n fwy pwysig oddi mewn i r broses gynhyrchu yn y cyswllt hwn. 29 Gall hyn fod ar ffurf uniongyrchol iawn lle y gall seren fod yn brif symbylydd yn y broses o ddatblygu r pecyn ffilm fel cyfarwyddwr, cynhyrchydd neu swyddog gweithredol yn ogystal â bod yn seren. Hyd yn oed os nad yw r sêr yn cymryd rhan uniongyrchol y tu ôl i r camera yn y modd hwn, hwy yn aml yw r prif nwydd a ddefnyddir gan gynhyrchydd y pecyn ffilm i werthu r ffilm i noddwr o Hollywood. Mae r broses hon yn cael ei pharodïo n ddidrugaredd yn The Player gan Robert Altman (UDA, 1992) a ninnau n dystion i r broliant lle mae awdur neu gynhyrchydd ifanc yn ceisio gwerthu eu pecyn ffilm i weithredwr stiwdio. Yn y broses hon gellir gweld mai cynnwys enw seren yn y pecyn yw prif arwydd ei ymarferoldeb masnachol. Yr ail faes lle gwelwyd newid sylweddol yw r berthynas hanfodol rhwng sêr a r cyfryngau ehangach. Yn ystod y cyfnod clasurol gellir gweld fod hyn yn drefniant cyfeillgar o r ddau du i raddau helaeth a hynny n fantais ym marn gwneuthurwyr ffilm a r cyfryngau ehangach. Wedi chwalu r system stiwdio, canfu r sêr nad oeddent yn cael eu gwarchod gan y stiwdios fel ag yr oeddent wedi arfer. O ganlyniad, rhyddhawyd y cyfryngau ehangach o u rôl wasaidd. Mewn cyd-destun cyfoes, mae r cyfryngau yn gyffredinol yn llawer iawn mwy busneslyd yn y modd y maent yn edrych ar fywydau preifat sêr y byd ffilm ac y maent yn llawer llai parchus ohonynt. Mae dadlennu bywydau cudd sêr mewn llyfrau fel Hollywood Babylon gan Kenneth Anger wedi arwain at berthynas lawer mwy gelyniaethus, neu anesmwyth o leiaf, rhwng sêr a r cyfryngau ehangach. Mae safle seren fel Madonna yn nodweddiadol o r tensiwn yn y berthynas hon lle mae r seren yn parhau i wahodd sylw r cyfryngau fel rhan angenrheidiol o u swyddogaeth fasnachol ac eto n gwarafun yr ymyrryd gormodol a r diffyg parch yn y modd y mae r cyfryngau n eu trin. Mae r newid olaf yn y broses o gynhyrchu sêr cyfoes yn deillio o r doreth anhygoel o wahanol destunau cyfryngau sydd wedi datblygu dros yr ugain mlynedd diwethaf. Er bod Dyer yn cydnabod fod sêr yn cael eu llunio drwy wahanol gyfryngau oddi allan i ffilmiau, mae amrywiaeth a chymhlethdod y testunau cyfryngau gwahanol hyn wedi newid yn llwyr. Llunnir persona seren drwy gyfrwng amrywiaeth enfawr o sianelau bellach, o sylw mewn cyfryngau argraffu traddodiadol, i radio a theledu, i r rhyngrwyd. Mae dau ganlyniad uniongyrchol i r newid hwn. Yn y lle cyntaf mae personau sêr yn tueddu i ddatblygu n fwy tameidiog ac anghyson wrth iddynt gael eu llunio o ffynonellau amrywiol o r fath. O ganlyniad, mae creu persona go iawn ac unedig mewn modd oedd yn ddealladwy yn y cyfnod clasurol yn mynd yn fwy 29 Geoff King, New Hollywood Cinema: An Introduction (London, 2002), tt

38 38 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon anodd. Yn ail, mae n llawer anos i r seren, neu unrhyw unigolyn arall, gadw unrhyw reolaeth ar y broses o gynhyrchu r persona hwnnw. Mae statws sêr yn y maes ffilmiau ei hun yn cael ei herio wrth i fwy a mwy o bobl gael mynediad i r cyfryngau. Mae hyn wedi arwain at ffenomen gyfoes y statws enwogion. Mae Dyer yn diffinio un o r prif ffactorau allweddol yn y syniad o sêr yn y maes ffilmiau fel carisma, nodwedd sy n nodi sêr fel pobl arbennig ac sydd o ganlyniad yn eu gwneud yn wahanol i aelodau cyffredin y gynulleidfa, gan roi iddynt nodweddion sy n ymddangosiadol hudol. 30 Mae r syniad o enwogrwydd cyfoes lle gall unrhyw un gael mynediad i r cyfryngau ac ennill elfen o anfadrwydd yn gwneud diffiniad Dyer o r hyn yw bod yn seren yn aneglur, gan olygu leihau r statws arbennig a ddynodwyd i sêr ffilm cyn hyn. SÊR A SYNIADAETH YN Y MAES FFILM Conglfaen dull Dyer yw ei ddefnydd o r cysyniad o deipiau o sêr. 31 Gan fenthyca n helaeth o waith O.E. Klapp, mae Dyer yn mabwysiadu system lle y gellir dosbarthu sêr ffilm yn un o dri theip dominyddol: The Good Joe, The Tough Guy a The Pin-up. Yn ogystal â hynny, cyfeirir at ddau fath gwahanol neu chwyldroadol arall: The Rebel a The Independent Woman. Bydda n hawdd i ni dybio fod y teipiau hyn yn gweithredu fel ffurf ar ddyfais gatalogio lle gellid cymryd sêr arbennig a u dosbarthu yn un o r teipiau sydd i w weld yn eu ffitio orau. O ganlyniad Pin-up yw Marilyn Monroe, mae James Stewart yn Good Joe ; a Bogart yn Tough Guy. Gellid disgrifio James Dean yn Rebel a Bette Davies yn Independent Woman. Fodd bynnag, mae bwriadau Dyer yn mynd ymhellach o lawer na darparu system ar gyfer catalogio gwahanol fathau o sêr yn unig. Yn y bôn mae Dyer yn ymdrin â natur syniadaeth a sut y mae n cael ei amlygu mewn diwylliant modern. 32 Trwy ddiffinio syniadaeth yn nhermau systemau rhannu gwerthoedd mae Dyer yn defnyddio model Marcsaidd sydd wedi hen ymsefydlu ar gyfer esbonio r berthynas rhwng syniadaeth ddominyddol mewn cymdeithas a chynnyrch diwylliannol y gymdeithas honno, yn arbennig y rhai hynny ym maes diwylliant poblogaidd. Ystyrir fod ffilmiau Hollywood, fel ffenomen boblogaidd, fasnachol, yn ymgorffori ac yn ategu gwerthoedd dominyddol cymdeithas America, gwerthoedd cyfalafiaeth, patriarchaeth a gwahanrywioldeb yn bennaf. O ganlyniad mae n dilyn fod tri phrif deip o sêr Dyer yn ailgadarnhau ac yn cefnogi r gwerthoedd dominyddol hyn i r gynulleidfa. Diben y mathau gwahanol neu chwyldroadol yw bod yn fodd i gyfleu teimladau o anhrefn neu anfodlonrwydd â r gwerthoedd hyn, ond dim ond er mwyn i deimladau o r fath gael eu lledaenu neu eu ffrwyno. O ganlyniad, mae uniaethu â James Dean yn fodd i gynulleidfa fynegi teimladau o anniddigrwydd â safonau eu cymdeithas, ond diwedd anorfod unrhyw ffilm sy n cynnwys James Dean fydd fod y rebel yn dod o hyd i hapusrwydd drwy ddarganfod ffordd o ailymdoddi i mewn i gymdeithas. Hyd yn oed mewn ffilmiau sy n cynnwys y teipiau hyn, y gwerthoedd confensiynol sy n tra-arglwyddiaethu. Un o anawsterau uniongyrchol dull Dyer, ac un y gallaf gadarnhau ar sail fy mhrofiadau fy hun gyda myfyrwyr sy n defnyddio model Dyer, yw bod ei restr o deipiau yn ymddangos yn eithriadol o gyfyngedig. Wrth gwrs, nid yw hyn o angenrheidrwydd yn tanseilio egwyddorion sylfaenol ei ddull, ond yn hytrach yn awgrymu n unig bod angen, efallai, ymestyn ei restr o deipiau. Yn y bôn, dyma r dull a fabwysiadodd Andrew Spicer yn ei Typical Men: The Representation of Masculinity in Popular British Cinema. 33 Yma mae Spicer yn nodi sut y gellid ymestyn y fethodoleg sylfaenol a awgrymwyd gan Dyer i fanylion penodol sinema Prydain ar ôl y rhyfel er mwyn dangos sut y mae amrywiaeth o deipiau yn datblygu yng nghyddestun diwydiant ffilm sy n benodol genedlaethol. O r herwydd mae teipiau Spicer yn fwy nodweddiadol Brydeinig. Fodd bynnag, mae problem fwy sylfaenol yn dod i r amlwg yn achos dull Dyer a hynny yn sgil 30 Dyer, Stars, tt Ibid. tt Ibid. tt Andrew Spicer, Typical Men: The Representation of Masculinity in Popular British Cinema (London, 2001).

39 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon 39 ei ddibyniaeth ar ffurf o benderfyniaeth Farcsaidd lle mae rhagdybiaeth fod syniadaeth ddominyddol yn gweithredu mewn dull eithaf unffurf, yn llunio ac yn rheoli unrhyw drafodaeth sy n digwydd mewn cymdeithas. I bob pwrpas, ni all sêr y byd ffilm wneud dim ond adlewyrchu a chefnogi syniadaeth ddominyddol diwylliant y Gorllewin. Heriwyd y dull penderfyniaethol hwn gan ymholiadau deallusol syniadau ôl-strwythurol ac ôl-fodernaidd, yn ogystal â rhai meddylwyr Marcsaidd. Wrth wraidd y dulliau hyn o ddadansoddi mae ymdrech i symud i ffwrdd oddi wrth ddamcaniaeth benderfyniaethol, hollgynhwysfawr tuag at ddull mwy amrywiol. Un canlyniad i r dulliau hyn yw y gellir gweld syniadaeth ddominyddol yn gweithredu mewn dull llai unffurf neu benderfyniaethol. Cynhwysir gweithrediad unigol yn y llun, ynghyd â r posibilrwydd fod syniadaeth ddominyddol yn gweithredu mewn dull mwy hyblyg a dynamig, â bylchau n agor sy n fodd i gael anghytuno neu droi o r neilltu. O ran y ddamcaniaeth ynghylch sêr, gallai hyn fod yn fodd i ni weld fod seren unigol yn gweithredu mewn dull cymhleth ac amrywiol ac, o ganlyniad, ei fod yn agored i amrywiaeth o swyddogaethau ideolegol. Gan ddefnyddio model Dyer, gellid diffinio John Wayne fel Good Joe a i ddadansoddi yn nhermau ei ailgadarnhad o werthoedd cyfalafol, patriarchaidd a gwahanrywiol. Fodd bynnag, gallai dadansoddiad cymhlethach awgrymu r modd y mae persona Wayne yn datod, naill ai n fwriadol neu beidio, y gwrthgyferbyniadau sydd yn y systemau gwerthoedd hyn, fel y u gwelir mewn ffilmiau fel Red River, Howard Hawk (1948), neu The Searchers, John Ford (1956). Ymddengys fod dull o r fath yn fwy priodol hefyd wrth ymgodymu â r newidiadau yn y dulliau o gynhyrchu sêr a nodwyd yn y bennod flaenorol, lle mae llunio syniadaeth ddominyddol ym maes y sêr wedi datblygu n rhywbeth mwy tameidiog a llai cyson. Yng nghyd-destun y cyfryngau lle mae ystyr bod yn seren yn cael ei aildrafod yn barhaus, mae gan ddull mwy amryfath fanteision amlwg. SÊR FFILM A U CYNULLEIDFA Mae r dulliau a drafodwyd yn yr adrannau blaenorol yn tueddu i ganolbwyntio ar adeiladwaith ideolegol bod yn seren ei hun, ond elfen ganolog arall mewn astudiaethau sêr fu edrych ar y modd y mae sêr yn cael eu treulio gan eu cynulleidfa. Mae r dull mwy cymdeithasegol hwn wedi tynnu n helaeth ar ddulliau a geir ym maes seicdreiddiad a fframweithiau cysyniadol a luniwyd mewn trafodaethau ffeministaidd. Fel y digwyddodd â r trafodaethau ynghylch cynhyrchu sêr bu symudiad sylweddol oddi wrth ddull mwy penderfyniaethol tuag at un amryfath. Mae hyn i w weld wrth i ni ddilyn y datblygiad deallusol o draethawd Laura Mulvey Visual pleasure and narrative cinema i rai o r ymatebion a gafwyd i brif waith Mulvey wedi hynny. Nod bwriadol traethawd Mulvey oedd ysgogi dadl trwy sefydlu esboniad ffeministaidd penderfyniaethol am y pleser, a r diflastod, oedd ynghylch gwylio ffilmiau. 34 Syniad canolog Mulvey yw sefydlu gwylio ffilmiau fel profiad wedi i seilio n bendant ar y rhywiau, ac un sydd, o ganlyniad, yn adlewyrchu r anghydraddoldeb mewn grym sy n bodoli rhwng dynion a merched mewn cymdeithas. I ddynion, mae gwylio ffilmiau yn cynnig cyfle rhwydd iddynt uniaethu â chymeriadau gwrywaidd ar y sgrin, rhai y maent yn rhannu eu golwg wrywaidd ar y byd a chanolbwynt y golwg hwn yw menyw a wrthrychwyd ac a gyflwynir fel gwledd rywiol i r llygad. Ffrwynir y bygythiad posibl y gallai gwrthrych chwant o r fath ei gynrychioli i r ysbryd gwrywaidd trwy gosbi r fenyw i bob pwrpas. Cyflawnir y gosb hon trwy adael iddi gael ei meddiannu gan y prif gymeriad gwrywaidd canolog (trwy goncwest ramantus) neu trwy weithredu mwy treisgar (os yw hi n cael ei difrïo yn y rôl o r femme fatale ddinistriol, er enghraifft). I ferched yn y gynulleidfa yr unig bleserau a ganiateir iddynt yw rhai masochistaidd, yn yr ystyr eu bod yn cael eu gorfodi i uniaethu â seren fenywaidd oddefol a wrthrychwyd, neu, yn groes i r graen, bod gofyn iddynt geisio uniaethu â r prif gymeriad gwrywaidd. Mae r naill ymateb neu r llall 34 L. Mulvey, Visual pleasure and narrative cinema, Screen, 16, 3 (1975), 6-18.

40 40 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon yn eu dadrymuso yn anorfod. Lluniwyd rôl sêr gwrywaidd, felly, yn ymgorfforiad cysurlon i aelodau gwrywaidd y gynulleidfa ynghylch y modd y mae gwrywod yn tra-arglwyddiaethu. Mae sêr benywaidd yn gweithredu fel gwrthrychau i foddhau chwantau r gwryw a hynny n gofyn am i wylwyr benywaidd uniaethu â rôl sy n eu trosgyfeirio i r sylliad gwrywaidd. Mae r ymatebion a gafwyd i waith Mulvey wedi tueddu i feirniadu natur unffurf ei dadl trwy awgrymu fod aelodau r gynulleidfa n ymateb yn fwy cymhleth ac amlochrog i r straeon wedi u seilio ar y rhywiau a gynigir iddynt mewn ffilmiau. Yn nodweddiadol, mae ymateb Mary Ann Doane yn Film and the masquerade theorising the female spectator yn dadlau dros safbwynt llai hanfodol, gan awgrymu fod gwylwyr o r naill ryw neu r llall yn cymryd rhan mewn rhyw fath o chwarae rôl pan fônt yn cael profiad o ffilmiau. 35 Mae hyn yn agor y drws i r posibilrwydd fod aelodau r gynulleidfa yn uniaethu â sêr ar y sgrin ar draws y ffiniau rhywiol. O ddefnyddio r dull hwn gallai seren fel Clint Eastwood yn ymddangos yn Dirty Harry (Don Siegel 1971, UDA) beri fod aelodau benywaidd y gynulleidfa yn uniaethu ag ef, yn union yn yr un modd ag y gallai gwylwyr gwrywaidd uniaethu n rhwydd â Jane Fonda yn Klute (Alan J. Pakula 1971, UDA). Mae safbwynt Doane yn fodd o gael dehongliad lle mae gwyliwr yn cymryd rhan weithredol yn y broses o greu ystyr, yn hytrach na derbyn yn oddefol y syniadaeth ddominyddol a gyflwynir iddynt. Mae hyn i bob pwrpas yn dadadeiladu r drafodaeth benderfyniaethol a sefydlwyd gan Mulvey, ac yn ei disodli gan system fwy hyblyg sy n tanlinellu rôl annibynnol y gwyliwr. Adlewyrchwyd y dull hwn mewn amrywiaeth o waith wedi hynny sydd wedi edrych ar y berthynas rhwng cynulleidfaoedd a thestunau ffilmiau, gan gynnwys y sêr sy n ymddangos ynddynt. Mae gwaith empiraidd Jackie Stacey wedi dangos sut y gall gwylwyr gymryd meddiant o destunau ffilmiau i w dibenion eu hunain. 36 Mae ymchwil Stacey n dangos, er enghraifft, sut y mae aelodau benywaidd cynulleidfa yn uniaethu â seren fenywaidd (Bette Davies, Joan Crawford) sy n aml yn rhan o stori sy n troi o gwmpas anhapusrwydd y prif gymeriad ac sydd weithiau n dod i ben â gweithred o hunanaberth arwrol. Wrth wneud hyn bydd y gwylwyr benywaidd yn aml yn dangos elfen ryfeddol o annibyniaeth wrth ddewis a dethol pa rannau o r ffilm y maent yn uniaethu â hwy. Gallai hyn olygu uniaethu n agos â r rhannau o r ffilm lle mae r seren fenywaidd yn chwarae rhan weithredol iawn, tra bo n well ganddynt eithrio allan bron o r diweddglo trasig, confensiynol. Gellir canfod rhagor o enghreifftiau o r modd y mae sêr yn agored i w dadansoddi mewn mwy nag un ffordd gan gynulleidfa ym maes astudiaethau gwrywgydiol. Yn Masculinity as spectacle: reflections on men and mainstream cinema, mae Steve Neale yn creu problem o ddadl Mulvey trwy gyfeirio at y modd y gellir cyfeirio sylliad gwrywaidd tuag at bwnc ar wahân i fenyw a wrthrychwyd, yn arbennig y ffaith y gellir cyfeirio chwant rhywiol y sylliad gwrywaidd i gyfeiriad dynion hefyd. 37 Mae Neale yn honni mai canolbwynt erotig, voyeuraidd nifer o ffilmiau, o felodramâu Douglas Sirk i ffilmiau epig Hollywood fel Spartacus (Stanley Kubrick 1960, UDA), yw r ffurf wrywaidd ac o r herwydd eu bod yn chwarae â gwrthrychau ffetish gwrywdod, sy n cyfateb i r rhai hynny a gyfeirir tuag at ferched. Mae dadl Neale yn tanlinellu rôl weithredol rhannau penodol o r gynulleidfa sy n gwneud eu dadansoddiad eu hunain o destun ffilm arbennig. Gellid cymhwyso hyn i ddilynwyr sêr yn y modd y mae rhai sêr arbennig, fel Marlene Dietrich neu Brad Pitt, wedi denu dilynwyr hoyw. Unwaith eto, mae r datblygiadau dadansoddol hyn yn tueddu i adlewyrchu newid yn y drafodaeth ddamcaniaethol o fframweithiau hanfodol i rai sy n ymateb fwy i fanylion penodol unrhyw destun ffilm arbennig, gan gynnwys sêr unigol. 35 M. Doane, Film and the masquerade: theorising the female spectator, Screen, 23, 3/4 (1982), tt Jackie Stacey, Star Gazing (London/New York, 1994). 37 S. Neale, Masculinity as spectacle: reflections on men and mainstream cinema, Screen, 24, 6 (1983), tt

41 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon 41 SÊR FEL DEHONGLIADAU Mae r cysyniadau yr ymdriniwyd â hwy yn yr adran flaenorol yn pwysleisio r broses o r sêr yn cael eu treulio gan eu cynulleidfa. Yn ganolog i hyn mae r syniad fod sêr yn cynrychioli rhywbeth arwyddocaol i r rhai hynny sy n uniaethu â hwy. Mae holl bwnc ffilm fel system o gynrychioli realiti yn rhy fawr i w ystyried oddi mewn i gylch gwaith y bennod hon, ond i m diben i yma efallai ei bod yn ddigonol i nodi mai elfen ganolog yn namcaniaeth ffilm fu dadansoddi ffilmiau fel systemau iaith sy n tystio, yn uniongyrchol neu n anuniongyrchol, i r cyd-destun y cawsant eu cynhyrchu a u treulio ynddynt; hynny yw, a symleiddio, eu bod yn cynnig delwedd o r byd fel y mae, neu fel y dylai fod, ag agwedd o gymeradwyaeth neu anghymeradwyaeth yn ymhlyg ynddynt. Nid yw n syndod felly fod un o r prif dueddiadau yn yr astudiaeth o sêr yn y maes ffilmiau wedi canolbwyntio ar y modd y mae sêr yn ymgorffori mathau penodol o ddehongliadau. Yn y gyfrol America on Film: Representing Race, Class, Gender and Sexuality at the Movies a gyhoeddwyd yn 2004, mae Benshoff a Griffin yn cynnig arolwg o r prif bynciau y mae astudio dehongliadau mewn ffilmiau wedi tueddu i ganolbwyntio arnynt, sef hil, dosbarth, rhyw a rhywioldeb. 38 Byddai ystyried y pynciau hyn am gyfnod byr yn unig yn dangos pa mor ganolog yw sêr ffilm o ran ymgorffori dulliau dehongli o r fath. Mae r drafodaeth a geir yn y llyfr ynglŷn â r prif faterion hyn yn cyfeirio n ôl yn gyson at enghreifftiau o sêr sy n darlunio r ffurfiau cynrychioliadol hyn, fel y gellid cynrychioli r syniad o Iddewiaeth yn sinema America gan Barbara Streisand neu Woody Allen, negroeiddiwch gan Sidney Poitier neu Will Smith, a hunaniaeth Tseineaidd gan Anna May Wong neu Jackie Chan. Gallai ein dehongliad o Tom Hanks yn Philadelphia (Jonathon Demme, 1993, UDA) ganolbwyntio ar y modd y teimlwn y mae n cynrychioli rhywioldeb (hoyw) ei gymeriad, neu gallai dadansoddi Greta Garbo ganolbwyntio yn yr un modd ar gymhlethdodau r modd y mae hi n darlunio rhywioldeb benywaidd. Mae r ffurf ar wrywdod a gynrychiolir gan John Wayne yn amlwg yn dra gwahanol i r un a gynigir gan Johnny Depp, yn union fel y mae r cysyniad o r benywaidd a ymgorfforir yn Jayne Mansfield yn awgrymu gwahanol werthoedd a nodweddion o u cymharu â r rhai hynny a luniwyd gan ddelwedd seren Jody Foster. Fel gyda dadansoddiad Dyer o deipiau gwahanol o sêr, a model Mulvey ar gyfer edrych ar natur dau ryw y profiad sinematig, mae r rhan fwyaf o r ysgrifennu am faterion o ddehongli yn y sinema wedi canolbwyntio ar ddylanwad systemau gwerthoedd dominyddol wrth gynhyrchu ystyr. Gwelir hyn yn amlwg yng ngwaith Manthia Diawara sy n edrych ar y modd y portreadir Düwch 39 yn sinema America. 40 Mae Diawara yn trafod hanes y modd y portreadwyd pobl groenddu o ran y modd y mae wedi cynnal neu wedi symud i ffwrdd oddi wrth syniadau dominyddol America ynglŷn â hil a dueddodd i stereoteipio ac israddio rôl Americanwyr-Affricanaidd. Fel y nodwyd yng ngwaith Jude Davies a Carol R. Smith, 41 mae newid yn dod i r amlwg mewn trafodaethau mwy diweddar sy n nodi ymddangosiad dehongliadau cymhlethach o hunaniaeth Affricanaidd-Americanaidd sy n troi oddi wrth wrthwynebiad deuol syml rhwng delweddau cadarnhaol a rhai negyddol tuag at rai sydd, fel y dywed Davies a Smith, yn cwestiynu yr union syniad o hunaniaeth ei hun. Er bod yr awduron hyn yn aml yn canolbwyntio eu trafodaethau ar waith cyfarwyddwyr ffilm Affricanaidd-Americanaidd cyfoes o bwys fel Spike Lee, mae trafodaeth o r fath yn ei benthyg ei hun hefyd i ddadansoddi sêr, fel y gwelir o r ffurfiau gwahanol o ddehongli y gellid eu cynnig gan Sidney Poitier o i gymharu â Spike Lee ei hun fel perfformiwr/seren. Gallai dadansoddiad defnyddiol gynnwys ystyriaeth o r modd y mae r sêr hyn yn cynrychioli eu hethnigrwydd o ran delweddau cadarnhaol, negyddol a/neu negodol. 38 Harry H. Benshoff and Sean Grffin, America on Film: Representing Race, Class, Gender and Sexuality at the Movies (Malden, 2004). 39 Defnyddir Düwch yn cyd-destun hwn i gyfleu Blackness yn hytrach na negroeiddiwch rhag camgyfleu negritude. 40 M. Diawara, Black spectatorship: problems of identification and resistance, Screen, 29, 4 (1988). 41 Jude Davies and Carol R. Smith, Gender, Ethnicity and Sexuality in Contemporary American Film (Edinburgh, 1997)

42 42 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon Wrth ystyried sut y mae sêr yn eu swyddogaeth ddehongliadol yn adlewyrchu syniadaethau dominyddol, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cyd-destun penodol. Mae Jackie Stacey yn awgrymu r canlynol: this conceptualisation suggests that ways of seeing, or relations of looking, far from being universal, are actually transformed through particular historical developments. 42 Mae n cyfeirio n benodol at faterion penodol amserol a lleoliadau gofodol, gan ddadlau fod angen i ni roi ystyr seren yng nghyd-destun lle penodol mewn amser ac oddi mewn i ddull arbennig o gynhyrchu/treulio os ydym am ddeall y broses o ddehongli. Mae r broses hon o leoli ystyr ideolegol seren oddi mewn i r fframwaith a ddarperir gan eu cyddestun yn broses gymhleth yn anorfod, yn llawn perygl posibl o gamddarllen arwyddocâd sêr arbennig drwy eu cysylltu n anghywir â u cyd-destun. Mae r anawsterau sydd ynghlwm wrth y dull hanesyddol hwn wedi cael eu trafod gan Robert C. Allen a Douglas Gomery yn eu hastudiaeth Film History: Theory and Practice. 43 Maent yn awgrymu y gallai agweddau mor amrywiol ar y sinema â natur polisïau cynyrchiadau stiwdio, y modd y mae systemau sêr yn gweithredu, asesiad empiraidd o batrymau ac ymatebion cynulleidfaoedda r defnydd o ddulliau seicdreiddiol, fod o fudd wrth werthuso testunau (sêr) ffilmiau yn hanesyddol. Mae r system o ddadansoddi y maent yn ei disgrifio, ac y cyfeirir ati yn aml fel y system agored, yn cynnwys crynhoi cynifer o r amrywiaethau ag a allai lunio ystyr mewn unrhyw destun (sêr) ffilm ag sy n rhesymol bosibl. Mantais y system agored yw r modd y mae n gadael i r berthynas rhwng y gwahanol agweddau ar gynhyrchu a threulio ffilmiau/sêr orgyffwrdd a dylanwadu ar ei gilydd. Mae r haenau hyn o ddadansoddi, â chymorth ymchwil empiraidd, hefyd yn cryfhau r dull hwn o ddadansoddi yn wyneb y cyhuddiad o ddewis a dethol allai ddigwydd fel arall. Y ffaith fod ymchwil hanesyddol wedi bod yn ganolog i ddatblygu sêr yn y maes ffilmiau yw sylfaen y casgliadau sy n dilyn. EDRYCH I R DYFODOL Ychwanegodd Paul McDonald bennod newydd at argraffiad newydd y gyfrol Stars gan Richard Dyer yn Mae r bennod hon yn adlewyrchu r newidiadau, a nodwyd uchod, sydd wedi digwydd wrth astudio sêr yn y maes ffilmiau ers i lyfr Dyer gael ei gyhoeddi n wreiddiol. Mae astudiaeth Dyer yn tueddu i ddiffinio sêr yn nhermau syniadau penodol o ddehongli a syniadaeth, lle mae McDonald yn cyfeirio at safbwynt mwy perthynolaidd, yn arbennig mewn perthynas â r cyd-destun hanesyddol. Mae McDonald yn cyfeirio at ahistoricism sy n amlwg yn null Dyer ac y mae n tynnu sylw at dueddiad, o ganlyniad, i symud astudiaethau o r sêr tuag at sail fwy hanesyddol. 44 Arweiniodd hyn at ddwy thema bendant sy n rhedeg drwy lawer o r gwaith diweddar ar sêr yn y maes ffilmiau: yn y lle cyntaf, diddordeb yn natblygiad hanesyddol cynnar y system sêr (sy n nodweddiadol o waith Richard de Cordova y cyfeirir ato yn y traethawd hwn); ac, yn ail, gwaith sydd wedi historicised stardom by exploring the ways in which social circumstances act as a context for the production of a star s significance. 45 Mae casgliad Bruce Babington o draethodau ar sêr Prydeinig yn brawf o hyn. 46 Neilltuir pob traethawd yn y gyfrol hon i edrych ar yrfa seren Brydeinig a threfnwyd y penodau hyn yn nhrefn amser er mwyn cynnig math o hanes sêr ym Mhrydain. Mae pob traethawd yn cynnwys rhyw ymgais i ddeall yr ystyr a luniwyd gan bob seren trwy eu cysylltu n benodol â u cyfnod hanesyddol a u cyd-destun diwylliannol arbennig, un cenedlaethol yn yr achos hwn. Fel y mae traethawd rhagarweiniol Babington yn ei awgrymu, pa bethau bynnag y mae sêr yn eu golygu yn y sinema ehangach, they signify more complexly in relation to their original environment. 47 Mae Babington yn defnyddio achos penodol Michael Caine i ddadlau 42 Stacey, Star Gazing, t Robert C. Allen and Douglas Gomery, Film History: Theory and Practice (New York, 1985), tt P. McDonald, Reconceptualising stardom, yn Dyer, Stars, t Ibid. 46 Bruce Babington (gol), British Stars and Stardom (Manchester and New York: 2001). 47 Ibid. t. 22.

43 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Astudio Sêr yn y Maes Ffilmiau: Dulliau a Dadleuon 43 fod swyddogaeth Caine fel dynodydd ar ei fwyaf cyfoethog a i fod yn taro tant pan edrychir arno yng nghyd-destun diwylliant ffilm Prydeinig lle mae ei ystyr yn llai syml. Gellid dadlau bod modd ymestyn hyn i awgrymu y gallai lleoliad hanesyddol fod yn gymwys hefyd, fel bod modd deall arwyddocâd Caine yn fwy eglur o ran ei apêl fel seren pan oedd ar ei gryfaf ym Mhrydain yn ystod y 1960au. Diben y bennod hon fu amlinellu rhai o r patrymau thematig a methodolegol a ddatblygodd yn ystod hanes byr yr astudiaeth academaidd o sêr yn y maes ffilmiau. Y bwriad hefyd fu edrych i ba gyfeiriad yr aeth arferion gwybodegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu symud amlwg tuag at ddull mwy ymwybodol o hanes ac un amryfath, un sy n cydnabod fod cyd-destun yn ganolog o ran cynhyrchu a threulio sêr ffilm, ond un sydd hefyd yn cydnabod yr amrywiaeth eang o ffurfiau lle mae sêr ffilm yn cael eu creu a u dehongli gan eu cynulleidfa. Mae n ymddangos mai dull sy n pwysleisio lluosogrwydd a newidioldeb, yn enwedig mewn cyfnod pan fo newidiadau cyflym yn y cyfryngau ehangach eu hunain yn effeithio ar y modd y mae enwogrwydd yn gweithredu, yw r unig un fydd yn galluogi astudio sêr i fod cyfuwch â r amrywiaeth anhygoel o ystyron sydd ynghlwm wrth fod yn seren gyfoes yn y maes ffilmiau. LLYFRYDDIAETH Allen, Robert C. a Gomery, Douglas (1985) Film History: Theory and Practice Efrog Newydd/Llundain: McGraw Hill. Babington, Bruce (gol.) (2001) British Stars and Stardom Manceinion: Gwasg Prifysgol Manceinion. Belton, John (1994) American Cinema/American Culture Efrog Newydd a Llundain: McGraw Hill. Benshoff, Harry H. a Grffin, Sean (2004) America on Film: Representing Race, Class, Gender and Sexuality at the Movies Malden/Rhydychen: Blackwell. Cordova, R. De (1991) The emergence of the star system in America, yn C. Gledhill (gol.) Stardom: Industry of Desire Llundain/Efrog Newydd: Routledge. Davies, Jude a. Smith, Carol R. (1997) Gender, Ethnicity and Sexuality in Contemporary American Film Caeredin: Gwasg Prifysgol Keele. Diawara, M. (1988) Black spectatorship: problems of identification and resistance, Screen 29 (4): tt Doane, M. (1982) Film and the masquerade: theorising the female spectator, Screen 2 (3/4): tt Dyer, Richard (1998) Stars Llundain: British Film Institute. Ellis, John (1982) Visible Fictions: Cinema, Television, Video Llundain:Routledge & Kegan Paul. King, Geoff (2002) New Hollywood Cinema: An Introduction Llundain: I.B. Tauris. Maltby, Richard (2003) Hollywood Cinema Malden/Rhydychen: Blackwell. McDonald, P. (1998) Reconceptualising stardom yn Richard Dyer (gol.) Stars Llundain: British Film Institute. Mulvey, L. (1975) Visual pleasure and narrative cinema, Screen 16 (3) tt Neale, S. (1983) Masculinity as spectacle: reflections on men and mainstream cinema, Screen 24 (6): tt Spicer, Andrew (2001) Typical Men: The Representation of Masculinity in Popular British Cinema Llundain: I.B. Tauris. Stacey, Jackie (1994) Star Gazing Llundain/Efrog Newydd: Routledge.

44 44 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau TWIN TOWN, FFILMIAU R 1990au A R ETIFEDDIAETH FFILM GYMREIG GERAINT ELLIS Yn ei bennod This Town ain t big enough for the both of us, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Wales on Screen, mae Darryl Perrins 48 yn gweld cyffelybiaethau difyr rhwng Twin Town (Kevin Allen, 1997, DU) a r gyfres ffilmiau Carry On (Gerald Thomas, , DU). Mae n trafod natur slapstig y gomedi ddu yn Twin Town, naws ffarsaidd y stori a nodweddion ystrydebol y cymeriadau, ac yn dadlau fod y ffilm yn ddisgynnydd o fath i glasuron Carry On. Dyma enghraifft o sut mae ffilm sydd ar un lefel yn waith poblogaidd adloniannol y gellir ei werthfawrogi heb unrhyw fath o ymwybyddiaeth o gyd-destun ehangach ac sydd ar lefel arall yn ffilm hynod ddiddorol o ran ei llinach sinematig. Mae Perrins hefyd yn trafod pwysigrwydd cyd-destun Cymreig y ffilm, a m bwriad i yn y bennod hon ydy gwneud cyfraniad pellach i r drafodaeth honno ar yr etifeddiaeth ffilm Gymreig gan ddadlau fod Twin Town yn ddisgynnydd uniongyrchol i ffilm arall o r 1960au, nad yw n perthyn i gyfres y Carry On, sef y ffilm gomedi gyda Peter Sellers Only Two Can Play (Sidney Gilliat, 1962, DU). Yn ogystal, mae modd gosod Twin Town ochr yn ochr â sawl ffilm Gymreig arall o r 1990au, a chymharu eu perthynas â r hyn y gellir ei ddisgrifio fel yr etifeddiaeth ffilm Gymreig. Wrth drafod dylanwad y gorffennol ar ffilmiau r 1990au, mae modd adnabod cyfres o ffilmiau a all fod o ddiddordeb i academyddion, sylwebwyr diwylliannol a gwneuthurwyr ffilm fel ei gilydd. Y ffilm unigol sydd yn ganolog i r drafodaeth arbennig hon ydy Twin Town. Fe fyddai n ddigon hawdd dadlau nad oes yna gysylltiad uniongyrchol mewn gwirionedd rhwng y tair ffilm fawr Gymreig a ryddhawyd yn y cyfnod hwnnw, sef Twin Town, House of America (Marc Evans, 1997, DU) a Darklands (Julian Richards, 1996, DU) ac mai dim ond cyd-ddigwyddiad ffodus oedd y ffaith fod tair ffilm gan gyfarwyddwyr a sgriptwyr o Gymru ac a oedd wedi eu lleoli a u cynhyrchu yng Nghymru, wedi cael mwy o sylw nag arfer y tu mewn a thu allan i r wlad. Dehonglwyd hyn fel rhyw fath o zeitgeist Cymreig gan weld llwyddiant unigolion a grwpiau mewn amryw o feysydd creadigol ac yn arbennig mewn cerddoriaeth gyfoes yn dod ynghyd o dan faner fyrhoedlog Cool Cymru. Wrth ychwanegu cyd-destun ehangach, sef datblygiad Caerdydd fel canolfan ddinesig ar gyfer llwyfannu digwyddiadau rhyngwladol ynghyd â r datblygiadau cyfansoddiadol a oedd ar droed yn ystod y cyfnod hwn, y ddadl simplistig fyddai bod mwy o hunanhyder cenedlaethol wedi arwain at fwy o weithgaredd o fewn y byd ffilm fel mewn sawl maes arall. O ystyried fod y sefyllfa mewn gwirionedd yn llawer iawn mwy cymhleth na hyn, mae r perygl o orgyffredinoli ac o ffug-gorlannu cyfres o ffilmiau amrywiol iawn gyda i gilydd yn ddigon amlwg. Serch hynny, gellir dadlau fod modd adnabod patrymau cyffredin wrth ystyried ffilmiau Cymreig y 1990au. Gellir gosod pob un o fewn sawl cyd-destun gwahanol, wrth ystyried gwahanol elfennau megis gwaith y cyfarwyddwyr, y sgriptwyr, yr actorion a r genre, ac wrth gwrs mae pob un yn haeddu ystyriaeth unigol, ond mae r cefndir Cymreig hefyd yn bwysig iawn mewn sawl achos. Mae r cyd-destun hwn, i raddau sylweddol iawn, yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o n hetifeddiaeth sinematig, ac yn rhan o drafodaeth ehangach am ddelweddau ystrydebol o Gymru mewn sawl maes celfyddydol. Wrth drafod yr etifeddiaeth ffilm Gymreig, rhaid cyfeirio at y ffordd y portreadwyd Cymru a r Cymry yn y gorffennol a r modd y mae r etifeddiaeth hon wedi cael ei chrynhoi a i symleiddio nid yn hollol mewn ffordd anghywir a chamarweiniol, ond yn hytrach mewn modd sydd wedi dyrchafu rhai themâu a rhai 48 Wales on Screen, gol. Steve Blandford (Pen-y-bont 2000), tt

45 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig 45 ffilmiau allweddol i statws allweddol sydd yn golygu eu bod yn cael eu defnyddio fel rhyw fath o law fer am yr hyn ydy r etifeddiaeth yn gyffredinol. Mae yna wahaniaeth felly rhwng y ddelwedd gynhaliol, gan ddefnyddio geiriau Gwenno Ffrancon 49 a r darlun ychydig yn fwy cymhleth sy n cael ei hamlinellu ganddi hi a David Berry. 50 Wrth reswm, dydy r etifeddiaeth ffilm Gymreig ddim wedi i chyfyngu i ffilmiau nodwedd sydd naill ai n ddramâu glofaol neu n gomedïau Prydeinig â naws ranbarthol iddynt, neu hyd yn oed yn gomedïau rhanbarthol glofaol, ond mae r rhan helaethaf o r ffilmiau mwyaf adnabyddus, ffilmiau fel How Green Was My Valley (John Ford, 1941, UDA), A Run for your Money (Charles Frend, 1949, DU), The Corn is Green (Irving Rapper, 1945, UDA), Valley of Song (Gilbert Gunn, 1952, DU) a The Proud Valley (Pen Tennyson, 1940, DU), yn rhai y gallwn eu disgrifio yn y ffordd yma. Yn ogystal â r diwydiant glo, mae cerddoriaeth, addysg, crefydd anghydffurfiol a rygbi i gyd yn bynciau a gysylltir â r traddodiad hwn. Gallwn ychwanegu nodweddion cenedlaethol ystrydebol eithaf negyddol at y darlun hwn hefyd. Mae r Cymry n aml yn cael eu portreadu fel pobl ansoffistigedig, plwyfol ond cerddorol, sydd yn ddewr ac yn onest yn y bôn ond sydd yn hoff o gecru ymysg ei gilydd ar adegau. Wrth gwrs, nid ffilm ydy r unig gyfrwng sydd yn cyfleu hyn, ond o ran yr ymwybyddiaeth allanol o n delwedd fel cenedl, mae r fersiwn llaw-fer hon a ddaw o n hetifeddiaeth ffilm yn un o r prif ffynonellau sydd yn mynd â r ddelwedd i bedwar ban byd, ac yn amlwg yn un sydd o ddiddordeb i rai sy n gweithredu o fewn y cyfrwng sinematig. Mae r diffyg sylw sinematig uniongyrchol i Gymru rhwng cyfnod y ffilmiau cynharach hyn a r ffilmiau a gynhyrchwyd yn y 1990au yn drawiadol. Pa ryfedd, felly, o gael y cyfle i gynhyrchu ffilmiau nodwedd, fod nifer o wneuthurwyr ffilm Cymreig ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf am ddweud rhywbeth am ein cynrychiolaeth sinematig yn eu gwaith? Felly, gydag ymwybyddiaeth o r cefndir hwn, mae modd inni adnabod tair elfen gyffredin wrth ddadansoddi cyfres o ffilmiau Cymreig a grëwyd yn ystod y 1990au a u perthynas â themâu a delweddau r etifeddiaeth ffilm Gymreig. Yn gyntaf, mae yna dueddiad i ddiweddaru r hen themâu a u gosod o fewn cyd-destun modern; yn ail, fe welwn dystiolaeth o ddychanu, gwyrdroi neu danseilio hen themâu ac ystrydebau; ac yn drydydd, ceir enghreifftiau o r hyn sy n ymddangos fel ymdrech fwriadol i osgoi r hen themâu a sefyllfaoedd a chwilio am rai newydd mewn ffordd bendant ac eithafol ar adegau. TWIN TOWN AC ONLY TWO CAN PLAY O edrych ar Twin Town, gellir dadlau fod cyfleu darlun tywyll, eiconoclastaidd o ail ddinas Cymru yn ddatganiad o ddiffyg ffydd yn hyder newydd honedig y 1990au er, wrth gwrs, mai arwydd o hyder mewn gwirionedd ydy r gallu i feirniadu ein hunain yn y ffordd yma. Gellir hefyd dadlau mai prosiect penodol iawn yw Twin Town, nad yw n bodoli o fewn unrhyw gyd-destun cyfredol Cymreig a i fod yn ddarn o waith gan wneuthurwyr ffilm hyderus a heriol sydd ag ymwybyddiaeth o rym delweddau sinematig y gorffennol, a bod hyn yn un o r elfennau a fwydodd eu gwaith. Ond eto, wrth ystyried y dylanwad hwn o fewn cyd-destun ffilmiau Cymreig eraill y cyfnod, mae modd gweld rhai patrymau cyffredin. Yn nhermau genre gellir disgrifio Twin Town fel comedi ddu ffantasi droseddol sydd wedi i lleoli yn Abertawe yn y 1990au. Mae n stori ddial lle gwelwn y brodyr Lewis, Jeremy a Julian, sy n cael eu chwarae gan y ddau frawd Rhys Ifans a Llŷr Evans, yn dial yn erbyn yr heddwas llwgr, Terry Walsh (Dougray Scott), a r contractiwr toeau a r darpar-farwn cyffuriau, Bryn Cartwright (William Thomas), wedi marwolaeth eu rhieni a u chwaer. 49 Cyfaredd y Cysgodion, Gwenno Ffrancon (Caerdydd 2003), t Wales and the cinema: the first hundred years, David Berry (Caerdydd 1994).

46 46 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig Ar un lefel, mae n bosib dadlau fod hon yn stori y gellid fod wedi ei gosod mewn unrhyw ddinas neu dref ranbarthol ym Mhrydain, neu hyd yn oed y tu hwnt. Hawdd oedd deall cymhelliad y gwneuthurwyr, wrth iddyn nhw farchnata r ffilm, i ddadlau nad ffilm Gymreig oedd hi n benodol. Ar y llaw arall, i wylwyr o Gymru, a gwylwyr sy n ymwybodol o r etifeddiaeth ffilm Gymreig a r drafodaeth gyfredol am ddelweddau Cymreig, mae haen ychwanegol yn perthyn i r ffilm ar ben y stori ddial. Ac wrth gwrs, i wylwyr sy n gyfarwydd ag Abertawe, a chyda r ffilm Only Two Can Play, mae haen arall eto. O ran y ffordd mae n ymdrin â phwysigrwydd rygbi a phêl-droed, er enghraifft, mae n amlwg bod yna gyfoesi, cywiro a dychanu delweddau r gorffennol yn digwydd yma. Y ddelwedd allanol draddodiadol a r ddelwedd fewnol i raddau helaeth am flynyddoedd oedd mai rygbi oedd ein gêm genedlaethol, ac o safbwynt ffilm mae A Run for Your Money a Grand Slam (John Hefin, 1978, Cymru/DU) yn enghreifftiau da o r ffordd mae rygbi wedi cael sylw teilwng. Nid dyma r lle i gynnal trafodaeth estynedig am boblogrwydd y ddwy gamp, ond teg ydy nodi fod pêl-droed o leiaf yr un mor boblogaidd â rygbi yng Nghymru, gyda sawl dilynwr o r bêl gron yn eiddigeddus o statws ddyrchafedig y bêl hirgron o safbwynt sefydliadol Cymreig a delweddau allanol o Gymru. Y sefyllfa gyda Twin Town ydy fod y ddwy gamp yn cael sylw, gyda r ddwy yn chwarae rhan bwysig yn y gymdeithas sy n cael ei phortreadu yn y ffilm a hefyd o fewn y stori ei hun. Bryn ydy cadeirydd y clwb rygbi lleol a dyma lle mae damwain Fatty, tad y brodyr Lewis, yn digwydd a hyn yn ei dro sydd yn arwain at y prif ddigwyddiadau yng ngweddill y ffilm. Ceir golygfa ddiddorol hefyd wrth i Bryn ddisgrifio cais enwog Phil Bennett ym Murrayfield ym 1977 mewn araith hir ble mae r agwedd hiraethus tuag at lwyddiannau r saithdegau yn cael ei dychanu. Yn yr olygfa hon rydym yn gweld fod Bryn wedi cuddio r cocên y tu mewn i bêl rygbi. Dyma felly enghraifft dda o r cyfoesi eithafol a r ymdriniaeth ddychanol a chwareus o r delweddau traddodiadol. Ond hefyd, gwelir yr hyn sy n ymddangos fel ymgais fwriadol i ddangos o fewn cyd-destun sinematig nad rygbi ydy r unig gêm sy n cael ei chwarae yng Nghymru, a hwyrach mai nad rygbi ydy n prif gêm. Fel yng ngeiriau Neil Rosser, y canwr o Abertawe, yn Lawr yn fy ardal i, sydd yn delio â n hystrydebau cenedlaethol, Lawr yn fy ardal i, mae na rai sy n whare rygbi, trafod tactics nos a dydd. Ond mae na fwy yn whare soccer, ac mae na lot sy n gwneud dim byd 51. Pêl-droed yn bendant sy n bwysig i r brodyr Lewis, ac nid rygbi. Maen nhw n gwisgo crysau Swansea City, yn canu caneuon pêl-droed ac yn holi cwestiynau trifia pêl-droed i w gilydd yn y bath. Mae ci o r enw Cantona yn chwarae rhan allweddol yn y stori, 52 a gwelir poster mawr o r pêl-droediwr Eric Cantona y tu ôl i garafán y teulu Lewis. Pêl-droed sy n cael ei chwarae y tu allan i far y clwb rygbi, ac mae diffyg llwyddiant y tîm rygbi cenedlaethol yn cael ei drafod mewn ffordd ddilornus. Ond dydy r awydd i gyfoesi a chywiro o fewn cyd-destun dychanol ddim yn gyfyngedig i r ymdriniaeth o rygbi a phêl-droed. Testun arall sy n cael sylw ydy hoffter y Cymry o gerddoriaeth. Mae Fatty Lewis yn perthyn i gôr meibion, ac mae perfformiad y côr o Myfanwy yn rhan bwysig o r diweddglo, ond eto mae canu karaoke yn ymddangos yn fwy poblogaidd, ac mae cyfartaledd oedran y côr yn ymddangos yn uchel. Dydy r nifer o aelodau sy n mynychu r ymarfer yn y capel, lle perfformir In the Summertime, cân Mungo Jerry, ddim yn uchel chwaith. Mae dyfodol y côr yn ymddangos yn ddigon bregus, a dydy hi ddim yn debygol y bydd y brodyr Lewis yn dilyn y traddodiad teuluol. Er fod cyd-destun Cymreig Twin Town yn llawer ehangach na r zeitgeist Cool Cymru, cerddoriaeth gyfoes Gymreig Catatonia a r Super Furry Animals sydd i w chlywed ar y trac sain. Mae presenoldeb grymus y côr yn y diweddglo yn ddyfais 51 O r casét Ffordd Newydd Gymreig o Fyw, Neil Rosser a r Partneriaid (Ankst 1988). Mae na fersiwn newydd hefyd ar gael ar y gryno ddisg Casgliad o ganeuon A Fergie ydy enw pŵdl y teulu Cartwright, sef llys-enw rheolwr Manchester United, Sir Alex Ferguson.

47 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig 47 sinematig ddigon addas ond, o edrych ar y ffilm yn ei chyfanrwydd, gwelir ymgais i osod y traddodiad o fewn cyd-destun llai rhamantaidd a llai dyrchafedig na delwedd gynhaliol yr etifeddiaeth ffilm Gymreig. Mae r sylw a roddir i grefydd, er yn ymylol, hefyd yn berthnasol i r drafodaeth hon. Rhywbeth nad yw n rhan greiddiol o fywyd pob dydd y gymuned sy n cael ei bortreadu yma ond caiff ei ddefnyddio ar gyfer achlysuron penodol, fel yn angladd Fatty, Jean ac Adie, sydd yn ddiddorol ddigon yn digwydd mewn eglwys yn hytrach na chapel, a hefyd yn angladd Fergie, y pwdl. Mae n gysylltiad â r gorffennol ac yn rhywbeth sy n cael ei gymryd yn ganiataol fel gwasanaeth i w ddefnyddio yn ôl yr angen. Mae r capeli n cau, fel mae r hen organ yn y garafán yn ei awgrymu. Yn y ffilmiau glofaol, sy n ffurfio rhan mor allweddol o r etifeddiaeth ffilm Gymreig sy n gefndir i r drafodaeth hon, un olygfa gyfarwydd ydy r ddefod o gael bath ar ôl dychwelyd o r pwll. Yn Twin Town, gwelir y brodyr Lewis yn rhannu bath ond, yn yr achos yma, mae n digwydd wedi noson o ddwyn ceir, gweithgaredd nid anghyffredin yn Abertawe yn ystod y 1990au. Eto, mae hyn yn ymddangos fel enghraifft o gyfoesi mewn ffordd ddychanol a chwareus, ac fe geir amryw o gyffyrddiadau eraill sy n ymddangos fel ymgais i ddiweddaru ein cynrychiolaeth sinematig yn y modd yma. Yn ogystal â gweld yr ymateb i r ymwybyddiaeth gyffredinol o n hetifeddiaeth sinematig, mae dylanwad uniongyrchol un ffilm benodol hefyd i w weld yn Twin Town, sef dylanwad Only Two Can Play. Fel Twin Town, a feirniadwyd am gyfleu delwedd negyddol o Abertawe, roedd Only Two Can Play hefyd yn ffilm ddigon dadleuol yn ei chyfnod. Oherwydd elfennau rhywiol y stori, ac un saethiad penodol lle gwelir adlewyrchiad o gorff noeth mewn drych, fe gafodd dystysgrif X, er ei bod yn ymddangos yn ddigon diniwed i ni heddiw. 53 Mae n addasiad o nofel Kingsley Amis, That Uncertain Feeling, ac yn dilyn hanes llyfrgellydd o Abertawe, a chwaraeir gan Peter Sellers, sy n ymddangos yn anhapus gyda i waith a i fywyd teuluol. Mae n ceisio am ddyrchafiad yn ei swydd tra i fod ar yr un pryd yn ceisio sefydlu perthynas â gwraig y cynghorydd a fydd yn llywio r pwyllgor cyf-weld. Wrth gymharu r ddwy ffilm hyn, mae modd gweld y math o gyfoesi ymwybodol a oedd yn digwydd yn y 1990au: teuluoedd gyda r un cyfenw, sef Lewis, a geir yn y ddwy ffilm. Mae John Lewis, y prif gymeriad yn Only Two Can Play, yn briod â Jean, sy n wraig tŷ ac mae ganddyn nhw ddau o blant, Gwyneth a Freddie. Merch ysgol ddireidus ond diniwed ydy Gwyneth, gyda ffrind dychmygol o r enw Bork. Maen nhw n byw mewn tŷ teras yn un o faestrefi gorllewinol Abertawe. Mae Twin Town yn ein cyflwyno i deulu Lewis tra gwahanol. Does gan Fatty ddim gwaith parhaol, ond mae n cael ei gyflogi o bryd i w gilydd fel töwr neu adeiladwr. Enw ei wraig unwaith eto ydy Jean Lewis. Mae r ddau fab yn treulio u hamser yn dwyn ceir, cymryd cyffuriau a gwneud drygioni cyffredinol. Mae ganddyn nhw ferch hefyd, Adie, sydd yn gweithio wrth y dderbynfa mewn rhyw fath o barlwr massage go amheus. Maen nhw n byw mewn carafán yn nwyrain y ddinas, ac mae r gwahaniaethau cymdeithasol rhwng yr ardal hon a maestrefi dosbarth canol y gorllewin yn amlwg. Yn y ddwy ffilm mae llygredd cyhoeddus yn rhywbeth sy n allweddol i r stori, gydag unigolyn dylanwadol yn gwrthdaro yn erbyn y prif gymeriadau. Yn Only Two Can Play, mae r llygredd yn ymwneud â r cyngor a phenodi pobl i swyddi gyda r gwasanaeth llyfrgell, a chadeirydd pwyllgor llyfrgell y cyngor ydy r dyn pwysig. Yn Twin Town, mae r llygredd yn deillio o r heddlu. Gwelwn aelodau o r heddlu n ceisio ymelwa o r farchnad gyffuriau anghyfreithlon, ac yn creu tân bwriadol sy n achosi marwolaeth tri o bobl. Yna, 53 Wales and the Cinema, tt

48 48 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig gwelwn gamweinyddu cyfreithiol difrifol, gyda r heddlu llwgr yn cyhuddo gŵr lleol o lofruddiaeth, er eu bod yn gwybod ei fod yn ddieuog. 54 A gŵr busnes sy n ceisio bod yn farwn cyffuriau ydy r dyn pwysig. Mae ceir, tân, a phwdls i gyd yn elfennau amlwg yn y ddwy stori ond mae eu presenoldeb yn Twin Town yn gysylltiedig â digwyddiadau llawer mwy eithafol na r hyn a welwn yn Only Two Can Play. Yn y ffilm fwyaf cyfoes o r ddwy, mae r ceir yn cael eu dwyn a u gyrru n wyllt yn hytrach na chael eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd rhwng darpar gariadon; mae r tân yn Twin Town yn lladd tri o bobl, yn hytrach na dod â pherfformiad theatrig i ben yn gynnar; ac yn olaf mae r pwdl yn Only Two Can Play yn drosiad chwareus am berthynas y cynghorydd a i wraig, yn hytrach nag yn addasiad o r olygfa enwog gyda phen ceffyl yn The Godfather (Francis Ford Coppola, 1972, UDA). Ceir cymeriadau ecsentrig yn y ddwy ffilm; ond pobl fel y llyfrgellydd niwrotig Kenneth Griffith a geir yn Only Two Can Play, tra bod Twin Town yn ein cyflwyno i gymeriadau fel y pensiynwyr sy n hoff o fadarch hud a r ffermwr sy n cael cyfathrach rywiol gyda defaid wedi iddo gymryd cyffuriau yn ddiarwybod. Mae hyn hefyd yn enghraifft arall o r ymdriniaeth chwareus ag ystrydebau traddodiadol. Mae r ffaith fod yna 35 mlynedd rhwng y ddwy ffilm yn egluro llawer o r gwahaniaethau rhwng Only Two Can Play a Twin Town, ond mae r cymariaethau hyn, gyda r diweddaru eithafol a dychanol, yn awgrymu fod Twin Town, ar un lefel beth bynnag, yn ymateb uniongyrchol i w rhagflaenydd. Ac yn nhermau bras iawn, gellir dweud fod yna raniad Gorllewin/Dwyrain Abertawe i r ddwy ffilm, sydd yr un mor arwyddocaol â r gwahaniaethau rhwng 1962 a Mae teitlau agoriadol Twin Town yn cyflwyno golygfeydd cefndir sy n ymddangos yn gyfarwydd iawn o wylio dechrau Only Two Can Play. Unwaith eto, mae n ymddangos fod yma ymgais i ddiweddaru r ddelwedd o Abertawe ac o Gymru mewn modd direidus a chwareus. Mae r cyflwyniad hwn, yn ôl Perrins, yn arwyddocaol, ac mae n tynnu sylw at y delweddau a ddefnyddir a r dull o saethu sydd yn cyflwyno rhyw fath o bersbectif ni a nhw. 55 Gellir dehongli fod y gwylwyr yn rhyw fath o dwristiaid diwylliannol breintiedig ac yn gwylio r digwyddiadau hyn o leoliad allanol diogel. Mae n pwysleisio arwyddocâd y llinell olaf a glywir o gân Petula Clark, The Other Man s Grass is Always Greener, sef Be thankful for what you ve got. Gellir dadlau hefyd fod yma ddatganiad am egni, bywiogrwydd, amrywiaeth, a natur liwgar a hoffus trigolion Abertawe yn hytrach na r darlun mwy unffurf a llwm a geid yn y gorffennol, yn enwedig y darlun o Gymru yn gyffredinol, ac o Abertawe yn benodol yn Only Two Can Play. Mae r pwyslais ar drigolion dosbarth gweithiol Abertawe yn hytrach na r byd bourgeois a gawn yn Only Two Can Play, gyda r geiriau Some are lucky, some are not yn pwysleisio r gwahaniaethau cymdeithasol sydd i w gweld yn y ddinas ac yn y ffilm. Rydym yn gweld beicar yn ei chwedegau, nyrsys yn codi u sgertiau, dyn yn cario siarc rwber ac, o ddychwelyd at thema chwaraeon, y bachgen yn chwarae gyda phêl rygbi ond yn gwisgo crys pêl-droed. Mae r beicar yn codi dau fys at y camera ac yn crynhoi r agwedd heriol yma. Dyma ddinas sy n llawn cymeriadau ac, yn wahanol i r hyn y byddai rhywun yn ei ragdybio o edrych ar y dehongliad arferol o n hetifeddiaeth sinematig, mae pawb yn wahanol. 54 Mae Kevin Allen wedi cyfeirio at y profiad o gynhyrchu r rhaglen ddogfen Open Space, am achos o anghyfiawnder troseddol yn Glasgow, fel rhywbeth a ysbrydolodd y stori sylfaenol (er enghraifft, mewn cyfweliad gyda r cylchgrawn electronig Americanaidd Urban Desires yn 1997). Mae n ddifyr nodi fod achos y brodyr Paul a Wayne Darvell, a ddedfrydwyd i garchar am oes am lofruddiaeth cynorthwyydd siop rhyw yn Abertawe yn 1985, cyn cael eu rhyddhau gan y Llys Apêl yn 1992, wedi cael llawer o sylw yn ystod y cyfnod hwn. Mae n debyg, gyda llaw, fod Paul Durden wedi bod yn gweithio ar brosiect am lofruddiaethau Clydach yn ddiweddar. 55 Wales on Screen, t. 157.

49 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig 49 Nid tref ranbarthol gysglyd, gyda phawb yn byw yr un math o fywydau diflas sydd yma ac er fod cyffro ac egni Abertawe yn cael ei gyflwyno o fewn cyd-destun stori ffantasi eithaf tywyll ar un ystyr, mae r ffilm hefyd yn ddathliad o r egni hwn. Mae hi n ddinas sy n llawn unigolion diddorol, fel y sgriptiwr Paul Durden ei hun, sy n ymddangos fel gyrrwr tacsi yn y ffilm. Mae r geiriau, It s much better by far just to be who you are, yng nghân Petula Clark, ac agwedd y gyrrwr tacsi tuag at y gwragedd bowlio sydd ar y ffordd i Gwmdoncyn, yn gydnaws â r ysbryd hwn. Un disgrifiad o r ffilm a gafwyd gan y cyfarwyddwr, Kevin Allen, oedd fod Twin Town yn acid love letter to my home town, 56 ac mae r geiriau hyn yn berthnasol iawn wrth edrych ar y portread hoffus o r trigolion a harddwch Bae Abertawe. Eto, dyma ymgais i ddweud rhywbeth penodol am yr ardal ac i ddiweddaru delweddau sydd wedi parhau n rhy hir oherwydd diffyg cynrychiolaeth sinematig yn y gorffennol. FFILMIAU CYMREIG ERAILL O droi ein sylw at ffilmiau Cymreig eraill a ymddangosodd yn ystod yr 1990au, gellir sylwi ar rai tueddiadau cyffredin rhyngddynt oll a i gilydd ond efallai y gellir dadlau fod cysylltiad mwy pendant rhwng Twin Town a phob un o r lleill yn unigol. Mae angen pwysleisio un elfen gyffredin sy n cysylltu ffilmiau Cymreig y cyfnod hwn i gyd, ac yn arbennig y rhai mwy cyfoes sy n rhan o r un ffrwd â Twin Town, sef cefndir diwylliannol a chenedlaethol y rhai a fu n gyfrifol am sgriptio, cyfarwyddo a chynhyrchu r ffilmiau hyn. Mae llawer mwy o ddylanwad, cynrychiolaeth a mewnbwn Cymreig yn y ffilmiau a gynhyrchwyd yn y 1990au nag a gafwyd yn gyffredinol yn achos ffilmiau r etifeddiaeth ffilm Gymreig, er fod cyfraniad Emlyn Williams, er enghraifft, i w weld yn glir. Mae r duedd hon o gael pobl sydd â dealltwriaeth o Gymru yn cyfrannu at ffilmiau Cymreig yn arwyddocaol iawn: yn gyffredinol, mae delweddau mewnol, mwy cynhenid, yn fwy cymhleth ac yn fwy amrywiol a hefyd yn llai ystrydebol na delweddau allanol. 57 Dydy diffinio beth yw ffilm Gymreig, neu ffilm Brydeinig o ran hynny, ddim bob amser yn hawdd ond mae mewnbwn Cymreig o ran y tîm cynhyrchu yn sicr yn un elfen. Mae House of America yn enghraifft arall o ffilm o r 1990au y gellir ei disgrifio fel diweddariad o ffilm Gymreig o r gorffennol, sef yn yr achos hwn, How Green Was My Valley. Eto, dim ond un o elfennau r ffilm ydy r gyffelybiaeth â r ffilm o r 1940au. Mae r addasiad o ddrama lwyfan Ed Thomas, gydag Ed Thomas ei hun yn sgriptio a Marc Evans yn cyfarwyddo, yn ddrama ffilm wych ble mae r teulu canolog yn ymddangos fel trosiad ar gyfer gwacter diwylliannol Cymru a grym y diwylliant Americanaidd. Dyma ddrama lofaol gyfoes sydd nid yn unig yn diweddaru r delweddau traddodiadol, ond yn eu gwyrdroi a u tanseilio. Fel How Green Was My Valley, mae n canolbwyntio ar un teulu, ond glo brig ydy r cefndir yma, ac mae Sid, Gwenny, Boyo a u mam mor wahanol i r Teulu Morgan ag y mae n bosib ei ddychmygu. Yn How Green Was My Valley, ffilm bwysicaf yr etifeddiaeth ffilm Gymreig, mae r teulu Morgan yn deulu mawr, gyda r tad a r brodyr yn gweithio yn y pwll glo. Mae r tad a r fam yn ffigurau urddasol traddodiadol gyda r fam, er gwaethaf acen Wyddelig yr actores Sara Allgood, yn fam Gymreig draddodiadol, fel y cymeriadau a chwaraeir gan Rachel Thomas mewn sawl ffilm Gymreig. 58 Yn House of America, mae r uned deuluol yn llai, gyda thri o blant dau mewn perthynas losgach â i gilydd, dim tad a dim gwaith. Mae r fam, a chwaraeir gan Siân Phillips, yn gymeriad llawer iawn mwy bregus. Mae n dioddef o salwch meddwl ac yn hytrach na bod yn gefn i w gŵr, mae hi n ei ladd. Dyma oedd disgrifiad Deirdre Beddoe 56 Yn y rhaglen ddogfen, The Making of Twin Town (BBC Cymru 1998). 57 A diddorol oedd clywed yr hanesydd celf Peter Lord yn trafod hyn yng nghyd-destun celf weledol Cymru mewn darlith ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn Nhachwedd Yn The Proud Valley (1940), Blue Scar (1949), David (1951) a Valley of Song (1953).

50 50 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig o r fam Gymreig ystrydebol, ac wrth ddarllen y geiriau canlynol a meddwl am y gwrthwyneb i bob un o r elfennau yn y disgrifiad, cawn ddarlun o Siân Phillips yn House of America. I have a vivid mental image of her: She is small; she wears plain dresses and an apron; her hair is in a bun. She looks like the Welsh actress Rachel Thomas. She is hardworking. She is as clean as she is pious; she scrubs the floors and her husband s coal-black back. 59 Mae House of America yn ymddangos fel fersiwn wyneb i waered o How Green Was My Valley mewn sawl ffordd arall hefyd. Yn How Green Was My Valley, gwlad y cyfle yw r Unol Daleithiau, ond mae r agwedd tuag at ddylanwad diwylliannol yr Unol Daleithiau yn House of America yn llawer mwy cymhleth a negyddol. Mae r cwmni glo brig Americanaidd yn symbol o fygythiad ac mae eu gweithgareddau hefyd yn peryglu dyfodol y teulu yn llythrennol. Yn How Green Was My Valley, mae r syniad o gychwyn bywyd newydd yn yr Unol Daleithiau yn un hollol hyfyw, ond yn House of America ffantasi llwyr wedi i seilio ar dwyll ac ar hunan-dwyll ydy breuddwyd Sid o groesi r Môr Iwerydd i ymuno â i dad. Dydy Clem, tad Sid, ddim yn America, fel mae Sid yn gwybod yn iawn. Yr unig ddihangfa ymarferol i Sid ydy cyffuriau, perthynas losgachol ac, yn y pen draw, hunanladdiad. Mae n werth pwysleisio lleoliad y tŷ yn House of America, o i gymharu gyda chartref y teulu Morgan yn How Green Was My Valley. Dydy Sid, Gwenny, Boyo a Mam ddim yn byw mewn tŷ teras traddodiadol yng nghanol pentref glofaol yn y cymoedd. Mae eu cartref ( The Ranch, Ynys, Banwen ) mewn lleoliad anghysbell ar wastadeddau llwm pen uchaf y cwm a dydyn nhw ddim yn ymddangos yn rhan o unrhyw fath o gymuned. Yn How Green Was My Valley y diwydiant glo sy n cynnal y gymuned, diwydiant sydd, wrth gwrs, yn gyfrifol am ei bodolaeth yn y lle cyntaf. Yn House of America, mae Sid a Boyo gyda u ffrind, Cat, yn gobeithio cael cynhaliaeth gan y cwmni glo brig, ond mae ymdrechion y ddau frawd i gael swydd yn arwain at ragor o ddioddef a thristwch. Mae r optimistiaeth gychwynnol wrth glywed am y posibilrwydd o swyddi yn arwain at ddadrithiad eithafol, a hynny mewn modd trawiadol iawn. Yn House of America, yn hytrach nag uned deuluol fawr, sy n rhan o gymuned fywiog, yr hyn sydd gennym ni yw uned deuluol fach a hynod o fregus, a chymdeithas sy n darfod. Fel cefndir i r drafodaeth gyfredol am broblemau r Gymru gyfoes, ceir fframwaith sy n gyfarwydd iawn i unrhyw un sydd â rhyw fath o ymwybyddiaeth o n hetifeddiaeth sinematig. Mae r ddwy ffilm ar ddau begwn hollol wrthgyferbyniol o ran rhamantiaeth a sentimentalrwydd How Green Was My Valley a naws dywyll ddigyfaddawd House of America. Ffilm nodwedd gyntaf Marc Evans, cyfarwyddwr House of America, oedd y ffilm ffug-wyddonol Ymadawiad Arthur (1994), ac mae modd gwneud cymariaethau difyr rhwng y ffilm honno a Twin Town a Darklands, y ffilm arswyd Gymreig a ryddhawyd yn yr un flwyddyn â Twin Town a House of America. Yn gyntaf, mae r tair ffilm, a ffilmiau trosedd fel Dial (Paul Turner, 1995) a r ddrama ffug wyddonol Y Plentyn Cyntaf (Siôn Humphreys, 1998), yn enghreifftiau o ffilmiau sy n defnyddio genre sy n newydd neu n anghyfarwydd o fewn cyd-destun Cymreig. Er fod y ffaith syml fod rhagor o ffilmiau wedi u cynhyrchu yn y 1990au yn egluro hyn i raddau helaeth, mae n ddatblygiad arall sy n berthnasol i r drafodaeth, ac yn cadarnhau r awydd i gyfoesi a chyflwyno rhagor o amrywiaeth. Fel y cyfeiriwyd yn gynharach, gellir disgrifio Twin Town fel comedi ddu gyda naws ffantasi, tra bod Darklands yn ffilm arswyd gydag elfennau thriller gwleidyddol, am gymdeithas gudd o genedlaetholwyr 59 Deidre Beddoe, Images of Welsh Women yn Tony Curtis (gol.) Wales: the Imagined Nation (Penybont, 1986).

51 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig 51 eithafol sy n cyflawni defodau paganaidd marwol. Mae Ymadawiad Arthur yn ffilm ddychanol ffug wyddonol am ddau Gymro, o r gorffennol a r dyfodol, yn ffeirio lle â i gilydd mewn arbrawf sy n mynd o chwith, wrth i Gymry r dyfodol adnabod yr Arthur anghywir, gan gipio arwr rygbi o r chwedegau, yn hytrach na r Brenin Arthur. Mae cyd-destun Cymreig Twin Town, Darklands ac Ymadawiad Arthur hefyd yn ymestyn i r ymdriniaeth o r iaith Gymraeg. Gellir dehongli Darklands fel trosiad am y ffordd mae Julian Richards, sgriptiwr a chyfarwyddwr y ffilm, wedi beirniadu r gefnogaeth sefydliadol i r iaith Gymraeg o fewn y byd ffilm a theledu. Mae Kevin Allen a Paul Durden hefyd yn Gymry di-gymraeg sydd wedi gwneud datganiadau negyddol am yr iaith yn y cyd-destun hwn. 60 Yn Twin Town, yn hytrach na chyflwyno Cymry Cymraeg fel llofruddwyr cynllwyngar paganaidd, cawn ddarlun pesimistaidd ond teg o sefyllfa r iaith yn y rhan yma o Abertawe, o leiaf. Mae r iaith yn bodoli, ond dydy hi ddim yn cael ei defnyddio n gyhoeddus i raddau helaeth o gwbl. Ceir ambell un sy n gallu siarad Cymraeg, ond prin yn ei defnyddio. Maen nhw naill ai n hŷn, neu wedi cael ychydig mwy o addysg na r cymeriadau eraill. Dydy r genhedlaeth hŷn, yn gyffredinol, ddim wedi trosglwyddo r iaith i r genhedlaeth nesaf, ac mae r Gymraeg yn iaith a ddefnyddir i gyfathrebu â chŵn, a hwyrach i ganu Calon Lân, Myfanwy neu My Way in f Welsh. Mae n ymddangos yn rhywbeth sydd, gyda rhai eithriadau, yn perthyn i r gorffennol, ac er gwaethaf twf addysg Gymraeg yn y ddinas, mae n anodd dadlau fod y defnydd bob dydd o r Gymraeg yn nwyrain Abertawe yng nghanol y 1990au yn golygu fod y darlun hwn yn anghywir. Mae Ymadawiad Arthur hefyd yn ymdrin â r iaith, ond dychan mwy ysgafn a chadarnhaol a geir yn y ffilm hon, ym mhurdeb ieithyddol élite Cymreig 2096 ac ymateb yr ymwelydd o r dyfodol i ymadroddion anghyfarwydd y ffermwr gogleddol. Hunanddychanu gan Gymry Cymraeg ac ar gyfer cynulleidfa Gymraeg a geir yma yn bennaf. Yn nhermau cyffredinol, mae n debygol fod Cymry Cymraeg, Cymry di-gymraeg, a phobl sydd â phrofiad o fyw yng Nghymru am ddangos mwy o ddiddordeb, o safbwynt cadarnhaol neu negyddol, yn y pwnc nag a fyddai gwneuthurwyr ffilm o r tu allan i Gymru. Yn yr un modd, wrth edrych i r gorffennol, mae r ymdriniaeth amrywiol o r iaith Gymraeg yn Last Days of Dolwyn (Emlyn Williams a Russell Lloyd, 1949, DG) ac Only Two Can Play yn adlewyrchu profiadau a safbwyntiau gwahanol Emlyn Williams a Kingsley Amis. Er nad oes gwahaniaeth sylfaenol felly rhwng ffilmiau Cymreig y gorffennol a ffilmiau r 1990au o ran yr egwyddor sylfaenol yma, mae r iaith yn fwy amlwg fel testun yn y 1990au, gan fod mwy o ffilmiau Cymraeg a Chymreig, a gyda mwy o fewnbwn Cymreig, yn cael eu cynhyrchu. Gellir gosod y drafodaeth am yr agwedd arbennig hon o Twin Town yn yr un cyd-destun nid yn unig ag Ymadawiad Arthur a Darklands, ond hefyd dramâu fel O.M. (Emlyn Williams, 1990) a Bydd yn Wrol (Terry Dyddgen-Jones, 1996), sydd hefyd yn ymdrin â r iaith, ond o bersbectif unigolion â chefndir a safbwyntiau gwahanol i Paul Durden a Kevin Allen, neu Julian Richards, cyfarwyddwr Darklands. Mae r agweddau amrywiol tuag at yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig a geir yn y ffilmiau hyn yn adlewyrchu r gwahaniaeth barn sy n bodoli o fewn y wlad. O wylio r holl ffilmiau hyn, cawn ddarlun llawer gwell o gymhlethdod y sefyllfa na delweddau mwy unffurf, a gogwydd mwy allanol, ffilmiau nodwedd y gorffennol. Fel ffilm sy n rhoi sylw i ddiwylliant ieuenctid gyda phobl ifanc fel y prif gymeriadau gellid ystyried Twin Town hefyd fel rhan o ffrwd sy n cynnwys ffilmiau Cymraeg fel Gadael Lenin (Endaf Emlyn, 1993), Jabas y Ffilm (Emlyn Williams, 1992), Dafydd (Ceri Sherlock, 1993), Lois (Eurwyn Williams, 1999), Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (Euros Lyn, 2000) a Bydd yn Wrol. Gydag S4C yn cael ei beirniadu am edrych yn ôl i r gorffennol yn rhy aml yn ei darpariaeth sinematig gynnar, gwelir cyfres o ffilmiau llawer iawn 60 Gweler, er enghraifft, yr erthygl Darkman gan David Berry yn Nodiadau Ffilm Chapter, Tachwedd 1997, Wales on Screen tt , a thrafodaethau ac erthyglau amrywiol yn yr Ŵyl Ffilm Gymreig Ryngwladol a r Western Mail.

52 52 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig mwy cyfoes o r 1990au cynnar ymlaen sy n rhoi sylw blaenllaw i brofiadau Cymry ifanc, mewn gwahanol rannau o Gymru, a thu hwnt. Mae diwylliant ieuenctid, a chymeriadau ifanc, hefyd yn bwysig yn Human Traffic (Justin Kerrigan, 1999), House of America, House! (Julian Kemp, 2000), 61 a Streetlife (Karl Francis, 1995) yn ogystal â Twin Town, ac mae ffilmiau genre fel Darklands ac Ymadawiad Arthur yn rhai sy n llawer iawn mwy tebygol o apelio at gynulleidfa iau na dramâu a chomedïau Cymreig mwy traddodiadol. Rhywbeth arall sy n cysylltu r ffilmiau genre â r ffilmiau eraill ydy r ffaith ein bod ni n cael ein cyflwyno i ryw fath o Gymru arall. Hynny ydy, mae llawer iawn mwy o amrywiaeth rhwng y math o Gymru a welir yn y ffilmiau hyn a r unffurfiaeth a gysylltir â r ffilmiau traddodiadol. Rydym, serch hynny, yn cael ein hatgoffa o n hetifeddiaeth ddiwydiannol yn aml iawn yn y ffilmiau hyn, ond mae n rhywbeth sydd yn y cefndir, gyda r sefyllfaoedd a r cymeriadau canolog yn llawer mwy amrywiol. Mae yna berygl o orgyffredinoli wrth gwrs gyda Justin Kerrigan, sgriptiwr a chyfarwyddwr Human Traffic a leolwyd yng Nghaerdydd, yn awyddus iawn i wadu unrhyw ddimensiwn Cymreig i w ffilm. 62 Ond eto, gellir adnabod tuedd gynyddol i gyfoesi a phwysleisio profiadau r ifanc, ac mae hyn yn rhywbeth sydd angen esboniad gwell na r ffaith syml fod mwy o ffilmiau Cymreig wedi u cynhyrchu. Gellir dadlau fod yr ymwybyddiaeth o r delweddau anacronistaidd wedi ennyn ymateb pendant. Felly, yn ogystal â r ymateb mwy uniongyrchol i n hetifeddiaeth ffilm a welir yn Twin Town ac yn House of America, mae hinsawdd cyffredinol sinema a ffilmiau teledu Cymru yn y 1990au wedi i ddylanwadu i raddau helaeth iawn gan yr awydd i gyfoesi. Yr hyn a welir yn y 1990au, yn ogystal â dramâu hanesyddol a ffilmiau eraill mwy traddodiadol eu naws, ydy cyfres o ffilmiau cyfoes iawn, gyda r ymwybyddiaeth o r delweddau ystrydebol sydd yn rhan o n diwylliant ffilm yn gosod cyd-destun pwysig iawn ar eu cyfer. Roedd ymgais yn y ffilmiau hyn i greu darlun mwy tywyll a llai rhamantaidd, i roi mwy o sylw i ddiwylliant ieuenctid a hefyd i gyfleu darlun mwy cymhleth ac amrywiol na r hyn a gyflwynwyd yn y gorffennol. Roedd awydd i ddychanu ac i ddefnyddio genres newydd ac, yn gyffredinol, roedd gan y sgriptwyr a r cyfarwyddwyr lawer gwell dealltwriaeth o r gymdeithas roedden nhw n ei phortreadu na r bobl a oedd yn gyfrifol am lawer o ffilmiau nodwedd y 1940au, y 1950au a r 1960au cynnar. Roedd y cwmnïau cynhyrchu yn fwy tebygol o fod yn rhai Cymreig, neu n cynnwys mwy o gynrychiolaeth a dylanwad Cymreig. Fel ffilm sy n ymgorffori nifer o r nodweddion hyn, gyda haenau arbennig sy n dangos dylanwad ffilmiau r gorffennol, mae Twin Town yn ffilm arwyddocaol. Mae n addas felly mai hon ydy r ffilm Gymreig fwyaf llwyddiannus ers How Green Was My Valley. Mae n waith sydd wedi llwyddo i gyrraedd statws prin, sef ffilm Gymreig y bydd canran ddigon sylweddol o boblogaeth Cymru â rhyw fath o ymwybyddiaeth ohoni. Cawn obeithio y bydd corff digon o sylweddol o ffilmiau Cymreig yn cael eu cynhyrchu n ddigon cyson dros y degawdau nesaf fel y bydd modd ychwanegu n rheolaidd at y rhestr hon. Wrth i wneuthurwyr ffilm Cymreig y dyfodol gyflwyno straeon newydd, fe gânt wneud hynny heb orfod ysgwyddo r baich o geisio gwneud yn iawn am ddiffyg gweithgaredd y gorffennol. 61 Dyma achos diddorol, wrth ystyried cyd-destun sinematig cenedlaethol ffilmiau Cymreig y 1990au. Er fod y prif gymeriadau yn rhai ifanc, a chyffyrddiadau digon cyfoes o ran y cyfarwyddo, mae naws fwy traddodiadol i r ffilm hon nag i Twin Town a r ffilmiau eraill a drafodir. Dydy hi ddim yn ffilm mor draddodiadol â The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain (1994), ond mae dylanwad Ealing yn gryf, ac mae sawl tebygrwydd rhwng House! a Rhosyn a Rhith (1986) fel comedïau ysgafn Cymreig gyda stori Dafydd yn erbyn Goliath. 62 Er enghraifft, mewn sylwadau i un o r rhaglenni Film Futures (HTV Cymru, 1999).

53 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Twin Town, Ffilmiau r 1990au a r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig 53 LLYFRYDDIAETH Aaron, Wil (1979) Ffilm yn Meic Stephens (gol.) Y Celfyddydau yng Nghymru , Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru. Anderson, Lindsay (1981), About John Ford, Llundain: Plexus. Barr, Charles (gol.) (1986), All our yesterdays 90 years of British cinema, Llundain: British Film Institute. Berry, David (1994), Wales and the Cinema: the first hundred years, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Blandford, Steve (gol.) (2000), Wales on Screen, Pen-y-bont: Seren. Bogdanovich, Peter (1967), John Ford, Llundain: Studio Vista. Ffrancon, Gwenno (2003), Cyfaredd y Cysgodion Delwedd Cymru a i Phobl ar Ffilm , Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Higson, Andrew (1997), Waving the Flag Constructing a National Cinema in Britain, Rhydychen: Gwasg Clarendon. Hill, John (1986), Sex, Class and Realism: British Cinema , Llundain: British Film Institute. Hjort, Mette a Mackenzie, Scott (2000), Cinema and Nation, Llundain: Routledge. McBride, Joseph a Wilmington, Michael (1975), John Ford, Efrog Newydd: St. Martin s. Mitchell, Brian (1996), Cyflwyniad i House of America, Flowers of the Dead Red Sea, East from the Gantry, Pen-y-bont: Seren. Morris, Nigel (1997), Projecting Wales, yn Planet 126 tt Murphy, Robert (1989), Realism and Tinsel: Cinema and Society in Britain, Llundain: Routledge. Perry, George (1981), Forever Ealing, Llundain: Pavilion. Pettitt, Lance (2000), Screening Ireland, Manceinion: Gwasg Prifysgol Manceinion. Richards, Jeffrey (1997), Films and British National identity from Dickens to Dad s Army, Manceinion: Gwasg Prifysgol Manceinion. Smith, Dai (1984), Wales! Wales?, Llundain: Allen & Unwin. Stead, Peter (1986), Wales in the Movies yn Tony Curtis (gol),wales the Imagined Nation, Pen-y-bont: Poetry Wales. Stead, Peter (1989), Film and the Working Class, Llundain: Routledge. Taylor, Phil (gol.) (1988), Britain and the Cinema in the Second World War, Llundain: Routledge.

54 54 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau CAMP YN Y GYNRYCHIOLAETH O DDYNION HOYW MEWN FFILM GEORGE JONES Mae r hyn sy n dilyn yn ymgais at ddadansoddi r modd y mae camp yn cael ei ddefnyddio mewn ffilmiau lle mae r prif gymeriadau yn rhai hoyw. Gwneir hyn gan ddechrau o safbwynt gwleidyddiaeth hunaniaeth, boed hynny allan o gytgord â phrif ffrwd y ddisgwrs academaidd gyfredol ar bynciau o r fath. Hynny yw, byddaf yn cychwyn drwy gymryd hoyw yn ganiataol ac yn pwyso a mesur goblygiadau elfennau camp y ffilmiau dan sylw o safbwynt statws y dynion hoyw yn y bydoedd a bortreedir yn y ffilmiau. TERMINOLEG Yn ddigon tebyg i r hyn a welir mewn perthynas â diffinio ffenomen fel pornograffiaeth, mae cynnig diffiniad diddos o camp yn drafferthus ond, serch hynny, rydym yn ei adnabod o i weld, neu o leiaf yn meddwl ein bod ni, oherwydd pan edrychir ar syniadau gwahanol bobl amdano, gwelir mor amrywiol yw r term a chymaint y mae n dibynnu ar ddehongliad. Rwyf am ddefnyddio r term camp wedi ei fenthyca fel ag y mae o r Saesneg ar gyfer y drafodaeth hon. Byddai unrhyw ymgais at ei drosi yn esgor ar ateb rhy anfoddhaol o ran dal ystyr llawn y gair. Yn wir, diddorol yw nodi mor aml y mae tynfa i fenthyg o r Saesneg wrth drafod cysyniadau perthnasol i r holl fater o camp. Y mae fel petai r holl esthetig sydd yn ymdrin â camp, kitsch, naff, trashy ac ati yn un nad oes llawer o ddatblygiad wedi bod arno yn y Gymraeg, am ba reswm bynnag. Tybed nad oes a wnelo hyn â goruchafiaeth y gwledig tan yn ddiweddar, o leiaf, yn y cyd-destunau lle mae r Gymraeg wedi cael ei defnyddio fwyaf, a blaengarwch byd natur yn y math hwnnw o amgylchfyd? Soniodd rhai am yr elfen gref o artiffisialrwydd sydd i camp a dywedodd Sontag, Nothing in nature can be campy Rural Camp is still man-made, and most campy ojects are urban. Boed a fo am y rhesymau, mae ceisio mynd i r afael â camp a i gysyniadau cysylltiedig drwy r Gymraeg yn golygu ymgodymu â thermau y mae dyn yn eu cymryd yn ganiataol yn Saesneg ac, wrth feddwl sut i w trosi, neu ddewis p un ai gwneud yr ymgais ai peidio hyd yn oed, gwelir yn gliriach fyth mor anodd yw cyfleu rhai ohonynt mewn unrhyw eiriau eraill o gwbl (yn y naill iaith neu r llall). Efallai bod llawer o achosion lle gellid cyfieithu kitsch neu hyd yn oed camp ei hun gyda rhywbeth mor syml â r gair di-chwaeth ond y mae hwnnw yn gwbl anfoddhaol wrth geisio mynd yn ddyfnach at wraidd y cysyniadau. Yn un peth, gellir darllen gair fel di-chwaeth i olygu bod y tramgwydd yn erbyn deddf chwaeth yn un damweiniol, lle mae camp yn fwy tebygol o fod yn fater o dor-cyfraith bwriadol. Dichon nad yw defnydd beunyddiol y gair camp yn golygu llawer mwy na merchetaidd mewn perthynas â dynion neu fechgyn, neu efallai mursennaidd. Ond mewn un o r ysgrifau deallusol cynharaf ar y pwnc, tynnodd Christopher Isherwood (1954) sylw at ystyr fwy cwmpasog na hynny. You thought it meant a swishy little boy with peroxided hair, dressed in a picture hat and a feather boa, pretending to be Marlene Dietrich? Yes, in queer circles they call that camping What I mean by camp is something much more fundamental. You can call the other Low Camp, if you like; then what I m talking about is High Camp. High Camp is the whole emotional basis of the Ballet, for example, and of course of Baroque art. You see, true High Camp always has an underlying seriousness. You can t camp about something you don t take seriously. You re not making fun of it; you re making fun out of it. You re expressing what s basically serious to you in terms of fun and artifice and elegance.

55 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Camp yn y Gynrychiolaeth o Ddynion Hoyw mewn Ffilm 55 Yn y fan hon gwelir un o r elfennau sy n rhedeg drwy r rhan fwyaf o r ymdrechion i ddiffinio camp, sef y syniad o gyfosod y difrif a r digrif, ac o r tyndra rhyngddynt. Mae hyn yn un o r elfennau a grybwyllir gan Susan Sontag hithau yn ei Notes on Camp (1964), a fu n gyfeirbwynt i lawer sydd wedi mynd i r afael â r pwnc, pan ddywed, The whole point of Camp is to dethrone the serious. Camp is playful, antiserious. Rhai o r nodweddion eraill mae hi n tynnu sylw atynt yw bod camp yn ffurf ar esthetiaeth, ac yn rhoi goruchafiaeth i arddull a r arwynebol dros gynnwys. Gall pethau fod yn rhy dda, yn ôl safonau confensiynol, i fod yn camp, hynny yw mae r hyn sydd braidd yn trashy neu heb fod yn llwyr daro deuddeg, yn ddibwys neu yn ymylol, yn rhan ohono. Mae n ymwneud hefyd â phethau yn cogio bod yn rhywbeth nad ydynt a gweld pob dim fel petai rhwng dyfynodau. Mae camp yn pwysleisio chwarae rôl. Beirniadwyd nodiadau Sontag gan Booth (1983) a ddywedodd A definition of camp that includes Tennyson, the Goon Show, Dali, de Gaulle and children s cartoons is obviously casting the net too wide. Wrth gwrs mae hyn yn dechrau o r rhagdybiaeth bod camp naill ai yn bresennol neu yn absennol yn y cyd-destunau hyn i gyd mewn rhyw ffordd wrthrychol, gan anghofio rôl y dehonglwr. Trafodwyd camp yn benodol mewn perthynas â r sinema gan Babuscio (1977). Yn wahanol iawn i Sontag, na wnaeth ond braidd gyffwrdd â r berthynas rhwng camp a hoywder, mae Babuscio yn gwneud cysylltiad penodol rhwng camp a r hyn a eilw yn gay sensibility, sef ffordd o ganfod sydd i fod i ddeillio o r profiad o fod yn hoyw. The term camp describes those elements in a person, situation, or activity that express, or are created by, a gay sensibility. Camp is never a thing or person per se, but, rather, a relationship between activities, individuals, situations and gayness. Nid pawb a gytunai â r dehongliad hwn wrth gwrs, ac fe ymwrthodwyd yn gryf â r safbwynt hwn gan Britton (1978). Y mae Babuscio hefyd yn priodoli pedair nodwedd sylfaenol i camp, sef eironi, esthetiaeth, theatricaliaeth a hiwmor. Mae r eironi, yn nhyb Babuscio, yn dibynnu ar wrthgyferbyniad rhwng unigolyn neu wrthrych a i gyd-destun neu i gysylltiadau. Ymhlith y gwrthgyferbyniadau anghydnaws mwyaf cyffredin mae r rhai rhwng gwrywaidd a benywaidd. SWYDDOGAETH CAMP MEWN FFILMIAU AM DDYNION HOYW Mae camp mewn ffilm wedi gweithredu fel arwydd confensiynol i sefyll am hoywder ac felly yn sefyll fel cod ar gyfer rhywbeth nad oedd gwneuthurwyr ffilm yn teimlo n abl neu n fodlon ei ddatgan yn blaen. Eto i gyd erys y camp yno, ac efallai i raddau helaethach hyd yn oed, mewn rhai ffilmiau lle mae rhywioldeb (hoyw) y cymeriadau wedi i ddatgan yn echblyg. Ond gellir edrych y tu hwnt i gymeriadau unigol wrth archwilio defnydd camp mewn ffilmiau sy n ymwneud â dynion hoyw. Bydd yn eglur o rai o r diffiniadau a r nodweddion uchod y gellir gweld camp fel elfen o r cynhyrchiad ei hun. Os meddylir am La Cage aux Folles (Edouard Molinaro, 1980, Ffrainc/Yr Eidal) neu The Adventures of Priscilla Queen of the Desert (Stephan Elliott, 1994, Awstralia), gwelir bod camp yn nodwedd graidd o r testun ei hun. Pam y naws camp hon drwy holl wead ffilmiau lle mae r cymeriadau canolog yn hoyw? Gellir cyfiawnhau holi, felly, yn enwedig, o gofio geiriau Sontag ac eraill am dethroning the serious, a oes lle i ofni bod camp yn cael ei ddefnyddio i fychanu dynion hoyw, i w gwneud yn ddibwys? Wrth drafod y cwestiwn hwn, byddaf yn defnyddio pedair enghraifft yn benodol, sef The Rocky Horror Picture Show (Jim Sharman, 1975, DG/ UDA), La Cage aux Folles, Torch Song Trilogy (Paul Bogart, 1988, UDA) a The Adventures of Priscilla Queen of the Desert.

56 56 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Camp yn y Gynrychiolaeth o Ddynion Hoyw mewn Ffilm Mae gwahanol fathau o camp yn cael eu defnyddio yn y ffilmiau hyn i ddweud pethau gwahanol am y cymeriadau a bortreedir. Ymhob un o r achosion hyn mae camp yn perthyn i r cymeriadau, y mise-en-scène a r plot ei hun. Er gwaethaf y gwahaniaethau, mae llawer o r delweddau a r dyfeisiadau camp yn y ffilmiau hyn yn gyffredin i fwy nag un neu i bob un ohonynt. Mae drag, wrth gwrs, yn elfen gyffredin iddynt i gyd, er bod union natur y drag yn amrywio ond gyda bwâu pluog a gwyntyllau o r math a ddefnyddid gan foneddigesau gynt yn hollbresennol, ynghyd â saethiadau o drag queens yn ymbincio mewn drychau, a r drychau, fynychaf, wedi eu hamgylchynu â goleuadau amryliw, a hynny yn digwydd ymhobman ac yn unrhyw le. Mae elfennau tebyg o r décor yn digwydd dro ar ôl tro, gan gynnwys defnyddiau gorfoethus, lampau trawiadol a pheli drychau tebyg i r rhai pefriol a ddefnyddir mewn disgos yn arddull y 1970au. Ar lefel y ddeialog a r digwyddiadau, mae hiwmor bathotig, sef iselhau yn sydyn yr hyn sydd o ddifrif, yn aruchel neu yn rhamantus, yn elfen hollbresennol ac yn aml gan ddisgyn o uchder sy n orddramatig yn y lle cyntaf. Mae hiwmor o wahanol fathau yn elfen ganolog mewn camp ac yn un sy n codi cwestiwn anesmwyth ynglŷn â r cyswllt mynych â dynion hoyw mewn ffilm. Mae lle i ofyn fel a nodir uchod a yw r defnydd o camp yn cael yr effaith o fychanu cymeriadau hoyw a hyd yn oed eu gwneud nhw n llai na dynol. O gofio mor aml y mae dynion hoyw wedi cael eu cynnig fel adloniant ysgafn i gynulleidfaoedd fel yn rhaglenni teledu Dick Emery a chymeriad Mr Humphreys yn Are You being Served (BBC, ), mae n rhaid ystyried portreadau doniol fel rhai problematig o r safbwynt hwn. Tan yn ddiweddar, o leiaf, roedd mwyafrif helaeth y dynion hoyw a welid ar y sgrin yn cael eu dangos fel clowniaid, fel ffigurau trasig neu fel cymeriadau anfad a dieflig a camp yn fynych yn bresennol yn y rhain i gyd. Cymerwn, felly, enghraifft La Cage aux Folles. Comedi ffarsaidd yn Ffrangeg, sy n dangos dau ddyn hoyw, Albin a Renato, yn rhedeg clwb nos lle mae Albin yn perfformio mewn drag. Mae mab Renato, Laurent, yn datgan ei fod am briodi dynes ifanc, Andrea, merch i wleidydd ceidwadol, Monsieur Charrier, sydd wedi cymryd safbwynt cyhoeddus ar foesoldeb traddodiadol. Mae rhieni r ferch am ddod i gwrdd â rhieni Laurent. Mae r ymdrechion i helpu Laurent drwy gogio ei fod yn dod o deulu confensiynol barchus yn esgor ar sefyllfa ffarsaidd. Yn y diwedd, mae r gwleidydd ceidwadol a i deulu yn eu cael eu hunain yn y tŷ uwchben y clwb drag a r wasg yn eu hamgylchynu y tu allan. Mae n rhaid iddo ddianc wedi i wisgo fel drag queen (dyfais Albin i achub y dydd). Mae camp i w weld yn y ddau brif gymeriad ond yn enwedig yn achos Albin. Mae rhan o hyn yn deillio o i ymatebion gorddramatig a gellir dadlau y defnyddir y portread camp ohono fel bod hiwmor yn tanseilio unrhyw gydymdeimlad gan y gwyliwr am y ffordd greulon y mae n cael ei drin ar adegau (er enghraifft, pan ofynnir iddo adael ei gartref i hwyluso carwriaeth heterorywiol). Eto, mae r elfen camp yn La Cage yn ymestyn y tu hwnt i r cymeriadau hoyw. Ar ryw ystyr gellir gweld y portread o r gwleidydd ceidwadol, ei deulu a i gartref fel camp hefyd. Yn wir, gellir gweld plot y ffilm hon ei hun yn yr un modd. Mae eironi camp yn y ffaith mai r unig ffordd y mae r gwleidydd ceidwadol yn ei achub ei hun rhag y wasg yw gadael y clwb nos wedi i wisgo fel drag queen. Rhaid cyfaddef bod y digwyddiad hwn yn un sy n troi Albin yn llai o gyff gwawd ac yn fwy o arwr yr awr. Serch hynny, at ei gilydd mae camp y dynion hoyw yn La Cage aux Folles, ac yn enwedig yn achos Albin, o fath sy n gadael y cymeriad yn un ysgafnbwys, gyda chynodiadau o wendid, diymadferthwch ac ati. Mae gwisg Albin, boed mewn drag neu beidio, yn tanlinellu hyn. Mae pinc a lliwiau gwelw, pastel yn teyrnasu. Awgrymwyd y gellir gweld The Adventures of Priscilla Queen of the Desert fel La Cage aux Folles for the Nineties (Murray, 1998). Mae Tick (a adwaenir hefyd fel Mitzi) yn diflasu yn Sydney ac yn cael galwad annisgwyl gan ei gyn-wraig yn gofyn iddo wneud sioe yn bell o r ddinas. Mae n gofyn i Adam (a adwaenir hefyd fel Felicia) a Bernice (sy n drawsrywiol) ymuno ag ef. Maent yn cael gafael mewn bws

57 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Camp yn y Gynrychiolaeth o Ddynion Hoyw mewn Ffilm 57 ac yn mynd ar daith ar draws y diffeithwch i gyrraedd eu cyrchfan ac yn cwrdd ar eu ffordd â phobl tref fach fwyngloddio, grŵp o frodorion Awstralaidd a Bob, sy n briod â dynes Asiaidd iau ac sy n dechrau carwriaeth gyda Bernice. Ar ôl cyrraedd pen y daith mae Tick yn cwrdd â i fab ifanc. Prin y gellid disgrifio plot y ffilm hon fel un dwys ac mae n ymddangos mai ei bwrpas pennaf yw darparu esgus ar gyfer giamocs doniol mewn drag, a rhywbeth camp ynddo ei hun, efallai, yw r pwys yma a roddir i arddull o i gymharu â chynnwys. Mae r drag a ddefnyddir yma at ei gilydd yn perthyn llai i r dame theatrig draddodiadol fel a welir gan Albin yn La Cage ac yn rhywbeth mwy annaearol ac ysgytiol. Yn wir, ar adegau y mae fel petai n awgrymu creaduriaid arallfydol. Mae r lliwiau yn fwy trawiadol ac yn gryfach na r rhai a wisgir gan Albin ac mae r arlliwiau o binc a gwyrddlas llachar yn anesmwytho. Ceir perfformiad drag tua diwedd y ffilm ar ôl i r perfformwyr gyrraedd yn ôl yn Sydney lle mae r olygfa yn troi n swrreal braidd wrth i r llun rewi gyda chelfyddyd frodorol Awstralaidd yn gefndir a r perfformwyr yn chwarae madfallod neu greaduriaid tebyg sy n dwyn i gof yr hyn a ddywed Babuscio (1977): In film, the aesthetic element in camp further implies a movement away from contemporary concerns into realms of exotic or subjective fantasies; the depiction of states of mind that are (in terms of commonly accepted taboos and standards) suspect Mae cynnwys cerddoriaeth boblogaidd sydd wedi dyddio ac yn amheus o ran chwaeth yn nodwedd camp glasurol a gellir dehongli r ffordd y defnyddir actorion sydd yn eilunod heterorywiol â delwedd oruwchwrywaidd megis Terence Stamp a Guy Pearce fel ffraetheb camp ynddi ei hun. Mae r cyfosodiad rhwng delwedd yr actor a r cymeriad yn eironig ac yn golygu bod persona r actor fel petai yn cipedrych allan o r tu ôl i r cymeriad, rhywbeth sy n tanlinellu r ffaith mai perfformiad a chwarae rôl rydym yn ei weld. Ar un ystyr mae camp a drag yn y ffilm hon yn cyfrannu n sylweddol at yr ymfalchïo sydd yn y ffilm mewn hunaniaeth hoyw neu drawsrywiol. Fe n gwahoddir fel gwylwyr i chwerthin am y ffordd mae r drag queens yn siocio eraill ac mae r rhai a siocir yn llawn cymaint o destun chwerthin â r queens eu hunain. Eto gellir ystyried rhai agweddau ar y peth yn fwy amheus. Mae r comedi camp yn golygu gan amlaf nad yw r cymeriadau i w cymryd o ddifrif. Hyd yn oed pan gyll Bernice ei phartner ar ddechrau r ffilm, fe droir hyn yn destun chwerthin drwy gyfeirio at ddamwain abswrd wrth gannu gwallt. Dyna natur y gomedi, efallai, ac mae n wir bod rhai o r cymeriadau eraill braidd dros ben llestri hefyd. Eto, o r ychydig elfennau sy n rhoi unrhyw ddyfnder neu agwedd o ddifrif i un o r tri phrif gymeriad, mae un yn deillio o gyn-berthynas heterorywiol Mitzi. Does dim perthynas hoyw yn cael ei harchwilio mewn unrhyw ddyfnder o gwbl, dim ond awgrym o rywbeth rhwng Tick ac Adam, er bod y berthynas rhwng Bernice a Bob (nad yw n hoyw fel y cyfryw am mai trawsrywiolyn yw Bernadette) yn cael ei dangos yn llawer mwy plaen. Ar ben hynny, pwysleisir statws Mitzi fel gŵr priod drwy ddefnydd mynych y gair husband gan ei wraig ac mae Bernice yn mynegi eiddigedd at yr agwedd hon ar fywyd Tick. Eto, petai rhywun am ddadlau yn erbyn y safbwynt hwn, sef bod yr hiwmor camp yn dad-ddynoli r cymeriadau ac yn eu gwneud yn ysgafnbwys, mae n debyg y byddai n dyfynnu r olygfa yn hwyr yn y ffilm lle mae r triawd yn dringo Ayers Rock yn eu drag. Er mor abswrd yw r golygfeydd ar ryw ystyr, mae urddas a gosgeiddrwydd yn perthyn i r triawd ac, yn annisgwyl, efallai, a hwythau yng nghanol y diffeithwch, maent yn ymddangos yn gartrefol ac fel petaent yn eu cynefin, fel rhyw adar ecsotig yn y diffeithwch. Efallai bod hyn yn mynd â ni yn ôl at yr hyn a ddywedir yn nofel Isherwood, You re expressing what s basically serious to you in terms of fun and artifice and elegance. Mae Torch Song Trilogy yn ffilm led-hunangofiannol wedi i hysgrifennu gan Harvey Fierstein, ac yntau hefyd yn chwarae r brif ran, Arnold. Er bod llawer o r ffilm yn gomic mae agwedd dywyllach iddi. Mae

58 58 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Camp yn y Gynrychiolaeth o Ddynion Hoyw mewn Ffilm Arnold yn colli partner a leddir gan homoffobiaid treisgar ac mae n dioddef tipyn o dorcalon carwriaethol. Serch hynny, mae n diweddu n optimistaidd gyda naws teimlad da iddi. Mae gan ddrag Arnold fwy yn gyffredin â gwisg y dame draddodiadol a chwaraeir gan Albin yn La Cage aux Folles na r dillad arallfydol a geir ar adegau yn The Adventures of Priscilla Queen of the Desert. Eto, mae r lliwiau n gryfach gyda thipyn o goch a du yn cynodi mwy o gryfder a gravitas ac mae perfformiadau drag Arnold ac iddynt natur fwy rhywiol ymosodol. Mae Arnold yn cael ei ddangos inni fel person sydd â bywyd rhywiol ac fe n gwahoddir i gydymdeimlo â i brofiadau poenus. Ar adegau ceir ymgom rhwng Arnold a r camera, dyfais theatrig (bantomeimaidd hyd yn oed) sy n tynnu sylw r gwyliwr at statws y ffilm fel perfformiad ac sydd, o r herwydd, yn cyfrannu at natur camp y testun ei hun. Mae r addurno yn nhŷ Arnold, â i thema o gwningod, yn rhywbeth y gellid ei alw yn kitsch, perthynas agos i camp. Trafodir y gwahaniaeth rhwng y ddau hyn, sef camp a kitsch gan Babuscio (1977) ond yn wir mae r gwahaniaeth yn un eithaf annelwig. Mae r elfen camp yn ymestyn y tu hwnt i gymeriad Arnold ei hun a r drag queens eraill yn y ffilm ac mae n ymddangos hefyd yn ymddygiad mam Arnold a chwaraeir gan Anne Bancroft. Gellir gweld camp yn ei hystumiau theatrig dros ben llestri hithau ar adegau ond, wrth gwrs, mae r hyn sy n ymddangos yn anarferol o theatrig yn rhwym o amrywio yn ôl diwylliant ac mae n bosib eu bod yn llai amlwg yn ei chyd-destun diwylliannol hi nag yr ymddangosant i wyliwr o Gymro neu Brydeiniwr. Yn wahanol i r ffilmiau eraill a drafodir yma, ni welaf fod plot Torch Song Trilogy ei hun yn un sydd â llawer o camp ynddo. Er bod gan Arnold ei hun ffraethineb chwerw, mae r ffilm yn sentimental mewn mannau a phryd arall yn fygythiol ac yn dywyll, heb ddigon o eironi na gormodedd i fod yn camp. Wrth gwrs, lle mae The Adventures of Priscilla Queen of the Desert a La Cage aux Folles yn adar o r unlliw (llachar) o safbwynt genre, mae Torch Song Trilogy yn rhywbeth gwahanol. Er bod ynddi agwedd gomic mae r ffaith bod gennym hefyd elfen hunangofiannol yn gwneud gwahaniaeth ac efallai mai yn union oherwydd mai dyn hoyw sy n adrodd ei stori ei hun yn y fan hon y mae r stori yn ei chymryd ei hun rywfaint mwy o ddifrif. Trof yn olaf at The Rocky Horror Picture Show fel y ffilm camp benigamp. Parodi cerddorol o ffilm arswyd/ ffuglen wyddonol yw r ffilm hon ac fe geir ynddi lawer o gyfeiriadau at ffilmiau yn y genres hynny. Mae r cwpl heterorywiol, glân eu delwedd a diniwed yn eu car sy n torri lawr y tu allan i gastell mawr lle mae r trawswisgwr Frank N. Furter yn teyrnasu. Mae Frank N. Furter yn gwneud dyn mawr cyhyrog gwallt melyn yn ei labordy. Mae llawer o giamocs rhywiol a gwrthryfel gan rai o staff Frank N. Furter yn dilyn ac nid yw r hyn sy n digwydd yn gwneud fawr o blot yn yr ystyr gonfensiynol. Yn wir, mae perfformiad ac arddull er eu mwyn eu hunain wedi cael goruchafiaeth lwyr dros naratif, ac mae hynny ynddo ei hun yn camp pur. Gellid dadlau bod perthnasedd y ffilm hon i gynrychiolaeth hoyw ychydig yn ymylol, mewn gwirionedd, oherwydd, er bod y prif gymeriad Frank N. Furter yn amlwg yn cymryd diddordeb rhywiol mewn dynion, nid yw n ddiamwys hoyw ac, er na roddir llawer o sylw i r peth, y mae fel petai yn cymryd diddordeb ar adegau mewn merched hefyd. Fel yn achos Arnold yn Torch Song Trilogy fe welir Frank N. Furter yn y lliwiau cryf coch, gwyrdd tywyll a du (er eu bod yn cael eu cyfosod ar adegau gyda menig golchi llestri). Mae r camp yn yr achos hwn yn cyfleu bygythiad eithaf cryf. Mewn gwrthgyferbyniad hollol â gwisg ac osgo Albin yn La Cage aux Folles yr hyn sydd gennym yn y fan hon yw camp y wrach anfad yn hytrach na r dylwythen deg ysgafnbwys. Gall y benywaidd a ddefnyddir mewn camp fod wedi i seilio ar draddodiadau gwahanol o fenyweidd-dra. Mae r genre gerddorol yn un sy n arbennig o agored i camp ac fe geir traddodiadau o fewn genre arswyd sydd hefyd yn aml yn cael eu dehongli fel camp. Mae adeiladwaith y ffilm gerddorol yn golygu bod plot a digwyddiadau yn cael eu hatal ar gyfer interliwd gerddorol lle mae arddull a pherfformiad er eu mwyn eu hunain yn cael blaenoriaeth.

59 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Camp yn y Gynrychiolaeth o Ddynion Hoyw mewn Ffilm 59 Not all horror films are camp, of course; only those which make the most of stylish conventions for expressing instant feeling, thrills, sharply defined personality, outrageous and unacceptable sentiments, and so on. (Babuscio) Prin y gellir gweld y cymeriadau camp yn The Rocky Horror Picture Show (o ba rywioldeb bynnag) yn fwy ysgafnbwys nag ymylol na r rhelyw, a hwythau n ffurfio cyfran sylweddol o r cymeriadau a welir. Y cocyn hitio, yn hytrach, yw Brad a Janet yn eu diniweidrwydd. Ni welaf fod camp bob amser yn yr enghreifftiau uchod yn peri bod cymeriadau yn cael eu gwneud yn ysgafnbwys, yn llai na dynol neu yn Arall. Eto, mae n ymddangos imi y gall gyfrannu at hynny mewn rhai ohonynt. Credaf y gellir tynnu gwrthgyferbyniad yn hyn o beth i raddau rhwng y ffilmiau mwy prif ffrwd fel The Adventures of Priscilla Queen of the Desert a La Cage aux Folles ar y naill law, a r un fwy arbenigol (Torch Song Trilogy a r un gwltaidd (The Rocky Horror Picture Show) ar y llall er wrth gwrs, ei bod yn rhaid cofio nad ydym yn cymharu enghreifftiau o r un genre. Comedïau pur yw r ddwy gyntaf ac, fel y nodais uchod, mae portread comic o ddynion hoyw yn rhwym o fod yn fater sensitif, os nad problematig, o gofio r cyd-destun hanesyddol. Tybed nad yw r comedeiddio (a r camp yn elfen hanfodol o hynny) yn y ddwy ffilm hyn yn cyflawni r swyddogaeth o wneud y dynion hoyw yn fwy derbyniol i gynulleidfa brif ffrwd, er gwaethaf eu hunaniaeth rywiol amrwd o amlwg, drwy wneud iddynt ymddwyn fel y mae dynion hoyw i fod i wneud? Hynny yw, o orfod gweld dyn hoyw diamwys ar y sgrin, wedyn diamwys amdani. Cydymffurfied yn glir â r codau amlycaf sydd ar gael i w ddynodi, fel ein bod ni n siŵr pa un yw ef ac fel y gallwn gadw llygad arno rhag ofn ei fod yn dod o r tu ôl inni ac anfadwaith ar ei feddwl. Onid mwy o her i r gynulleidfa brif ffrwd (ac wrth gwrs her i r gynulleidfa brif ffrwd yw r nod bellaf yn y byd o feddwl gwneuthurwr y ffilm sydd am dynnu r torfeydd i r sinema) fyddai criw o ddynion hoyw yn croesi r diffeithwch mewn bws gan edrych fel y dyn drws nesaf a lapswchian â i gilydd yr holl ffordd? Na chamddealler. Yn sicr, nid wyf am ddadlau na ddylid portreadu dynion hoyw camp ar y sgrin nac ychwaith na ddylem weld y pantomime dames mwyaf outrageous posibl. Ond un ddelwedd o r dyn hoyw yw hynny a theg yw cwestiynu pam mai hon a ddewisir i w dangos yn yr enghreifftiau hyn. Does bosib mai rhan o r ateb yw ei bod yn porthi r gomedi, fel y gwnaeth Dick Emery a John Inman ar y sgrin fach Brydeinig yn ystod y 1970au. Ar ôl dweud hynny i gyd, mae n hanfodol pwysleisio bod hyd yn oed presenoldeb camp yn dibynnu ar ddehongliad y gwyliwr ac, yn sicr o safbwynt effaith y camp, nad oes raid i wyliwr gymryd darlleniad cytûn o ran beth mewn cymeriad, sydd yn ysgafnbwys, yn orddramatig, yn perthyn i r Arall neu n ddieithr. Rhaid cydnabod o ran y ffilmiau i gyd a drafodir uchod, er nad yw hyn yn deillio o r camp ynddo i hun, eu bod i gyd yn gosod cymeriadau hoyw neu ddeurywiol neu drawsrywiol ar ganol y llwyfan fel petai, a dyma pwy yw r arwyr neu r cymeriadau canolog. Mae hyn yn dra gwahanol i r arfer gan mai cymeriadau heterorywiol a fyddai n chwarae r rôl hon bob amser ar un adeg. Eto i gyd, hyd yn oed wrth i gymeriadau hoyw, deurywiol a thrawsrywiol gamu i r canol yn y ffilmiau hyn, yn aml fe welwn fod eu buddiannau, ar adegau, yn cael eu darostwng i rai r cymeriadau heterorywiol, fel sydd yn digwydd yn y briodas heterorywiol sydd yn ffurfio diweddglo ac uchafbwynt La Cage aux Folles ac sydd wedi bod yn ganolbwynt i holl ymdrechion y cymeriadau.

60 60 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Camp yn y Gynrychiolaeth o Ddynion Hoyw mewn Ffilm LLYFRYDDIAETH Babuscio, Jack (1999) The Cinema of Camp (aka Camp and the Gay Sensibility) yn Fabio Cleto (gol.) Camp: Queer Aesthetics and the Performing Subject: A Reader Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. Booth, Mark (1983) Campe-Toi! On the Origins and Definitions of Camp yn Fabio Cleto (gol.) Camp: Queer Aesthetics and the Performing Subject: A Reader Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. Britton, Andrew (1978) FOR Interpretation: Notes against Camp, Gay Left 7. URL issues/issue07.asp Isherwood, Christopher (1954) The World in the Evening Efrog Newydd: Random House. Murray, Raymond (1998) Images in the Dark: an encyclopedia of gay and lesbian film and video Llundain: Titan. Sontag, Susan (1964) Notes on Camp Partisan Review 31: t 4.

61 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau 61 HYSBYSEBU A R PLENTYN GOROLWG BEIRNIADOL O R DAMCANIAETHAU A R DADLEUON ALLWEDDOL MERRIS GRIFFITHS RHAGYMADRODD Rhaid i blant, fel pawb arall, ddysgu sut le yw r farchnad. Seymour Banks, Is-Lywydd Leo Burnett, UDA (Clark, 1988: 163) Y darlun traddodiadol sydd gan y meysydd sy n astudio effeithiau r cyfryngau torfol a derbyniad cynulleidfaoedd yw mai creaduriaid y mae n hawdd gwneud argraff arnynt yw plant, a u bod yn arbennig o agored i elfennau anaddas eu perswadio a dylanwadu arnynt. Mae plant fel carfan wedi tyfu n destun poblogaidd i ddadleuon ac ymchwil academaidd ac mewn astudiaethau cyfryngau a chyfathrebu fe ystyrir bod hysbysebu i blant, ynghyd â mater trais yn y cyfryngau (cymh. Buckingham, 1996; Gunter, 1985), yn bwnc llosg. Y prif bryder sy n codi n gyson yn y ddadl honno yw bod plant ifanc yn ddefnyddwyr dibrofiad a naïf o r cyfryngau ac y gwnaiff busnesau masnachol diegwyddor unrhyw beth i ddal eu cynulleidfa darged a u hannog i ymddwyn fel defnyddwyr (Williams, 1997). Fel genre teledu, ystyrir yn aml bod hysbysebion yn ddylanwad anaddas yn yr ystyr y gallai plant ildio n ddi-gwestiwn i negeseuon gwerthu sydd, yn aml, wedi u gorliwio, a hynny am nad yw plant wedi u harfogi i edrych yn wrthrychol ar ddelweddau a honiadau o r fath (Winick ac eraill, 1973: 7-8). Hynny yw, fe ddadleuir nad yw plant yn ddigon profiadol neu n ddigon hyddysg yn y cyfryngau i ffurfio barn briodol am gynnwys testunau hysbysebion a r negeseuon gwerthu sydd ynddynt. Er hynny, ni welwyd erioed o r blaen gymaint o anelu ymbiliadau masnachol ymddangosiadol ddi-baid at gynulleidfaoedd o blant wrth i blant o r oedrannau cynharaf hyd at yr arddegau ddatblygu n ganolbwynt i ymchwil ddwys i r farchnad (e.e. Lindstrom, 2003) ac iddynt gael eu chwennych fel ffynhonnell o wariant gan ddefnyddwyr na fanteisiwyd arni. Wrth ysgrifennu yn y cylchgrawn Industry, dywedodd Williams (1997) fod pobl ifanc (sef y rhai sy n perthyn i r Farchnad Ieuenctid) yn datblygu mwyfwy n ganolbwynt sylw i hysbysebwyr am eu bod yn farchnad 3-mewn-1 (cymh. model McNeal, yn Gunter a Furnham, 1998: 3), sef fframwaith y gellir ei ddadansoddi a i esbonio fel hyn: 1 Prynwyr mae plant yn ddefnyddwyr unigol sydd â u harian eu hunain (neu o leiaf â r gallu i gael arian oddi wrth eu rhieni drwy ddefnyddio pŵer poeni [pester power]) ac yn mwynhau gwario r arian hwnnw. 2 Dylanwadwyr gwelir plant fel rhai a yrrir gan dueddiadau a bennir gan eu grwpiau cyfoed, yn bennaf ar sail y syniad o fod yn cŵl a r fersiwn diweddaraf o unrhyw beth. 3 Y Dyfodol gan fod pobl ifanc yn mynd i ymuno â r farchnad oedolion yn y pen draw, y nod allweddol yw meithrin eu teyrngarwch at y brand yn gynnar (gan obeithio y defnyddiant ef weddill eu hoes). Rhesymeg waelodol y portread hwn yw bod pobl ifanc yn agored i gael eu dal yn gynnar, a u gosod o fewn diwylliant (hynod strwythuredig) o ddefnyddwyr. Mae elfen y Dyfodol yn y fframwaith uchod, sef meithrin teyrngarwch plant i frand drwy gael gafael ynddynt yn ifanc, yn esgor wrth gwrs ar enillion

62 62 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn i gwmnïau yn y pen draw wrth i blant lynu wrth eu patrymau prynu ar ôl tyfu n oedolion. Enghraifft arbennig o dda o r patrwm hwnnw yw ymgyrch banc y NatWest yn yr 1980au lle cynigiwyd cadw-mi-gei deniadol am bob cyfrif a agorwyd, a chynnig rhagor o gadw-mi-geis i ysgogi plant i gynilo. Go brin bod angen dweud bod cyfran uchel o r plant a agorodd gyfrifon er mwyn cael y cadw-mi-gei yn dal i fod yn gwsmeriaid i r banc hwnnw. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu lladd mawr ar y cynnydd yn y targedu masnachol at blant ifanc, ac yn ddiweddar mae r dadleuon allweddol wedi u hadolygu ac wedi tyfu unwaith eto n ganolbwynt sylw. Yn Rhagfyr 1996, bu r Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried gwahardd pob hysbyseb i blant dan 12 oed yn y Deyrnas Unedig, yn unol â r polisi ar ddarlledu yn Sweden, am nad yw plant yn deall amcanion a bwriadau r hysbysebwyr yn llawn (AEF, 1999). Gan fod y dadleuon yn rhygnu yn eu blaen ac yn cael eu porthi gan ddyfalu yn y cyfryngau, penllanw hyn i gyd yn gynharach eleni oedd y cyhoeddiadau panig ynghylch hysbysebu bwydydd a r epidemig o ordewdra sydd, i bob golwg, yn lledu drwy r wlad i gyd (AEF, 2004). Yn yr un modd, mae hysbysebu i blant hefyd yn fater dadleuol a phroblematig i gyrff rheoleiddio ac i r rhai sy n llunio polisïau. Mae Ofcom (2004), er enghraifft, yn nodi bod cysylltiad rhwng defnyddwyr a dinasyddion ac yn codi problemau ynghylch hynny. Maent wedi clustnodi hysbysebu bwydydd i blant yn flaenoriaeth i w hymchwil yn yr hinsawdd newydd o reoleiddio ysgafn, ynghyd â phryderon ynghylch pa mor hyddysg yw plant yn nulliau r cyfryngau (gweler Paragraff 42 o Ddatganiad Ofcom ar Lythrennedd Gyfryngol). Mae n amlwg, felly, fod perthynas ddynamig a bregus rhwng testunau masnachol a r gynulleidfa o blant, a gellid dadlau bod graddfa a chyfeiriad y dadleuon hyn yn amlygu grym tybiedig hysbysebion i lygru plant ifanc. HYSBYSEBU DIFFINIADAU A SWYDDOGAETHAU Gan fod hysbysebu yn ddimensiwn o r profiad o r cyfryngau sy n gyson bresennol ers dyddiau cynharaf cyfathrebu torfol, nid ffenomen newydd mohono o bell ffordd. Ond dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd datblygiadau cyflym ynddo ac arfer ymagweddau mwyfwy soffistigedig am fod y cynulleidfaoedd yn gofyn mwy a mwy ganddo ac yn deall ei dechnegau n well. Barnwyd mai hwn oedd y diwydiant gwasanaethu pedwerydd cyflymaf ei dwf yn y Deyrnas Unedig ym 1994 (Bignall, 1997: 32). Ceir llu o wahanol ddiffiniadau o hysbysebu. Diffiniwyd y diwydiant i gychwyn fel cyfathrebu (yn y cyfryngau torfol) y telir amdano (Brierley, 2002: 2; Bullmore, 2003: 8). Disgrifiad Rossiter a Percy o hysbysebu (1987: 3, yn Forceville, 1996: 67) oedd ei fod yn ffordd o ddarbwyllo cwsmeriaid i brynu cynhyrchion a gwasanaethau drwy roi gwybod iddynt eu bod ar gael. Yn y traddodiad Marcsaidd, gwelir hysbysebu fel ffordd o reoli r farchnad defnyddwyr yn y ffordd rataf bosibl (Brierley, 2002: 2). Diffiniad pellach yr Advertising Association (DU) o hysbysebion oedd negeseuon y telir amdanynt gan y rhai sy n eu hanfon ac y bwriedir iddynt hysbysu neu ddylanwadu ar y sawl sy n eu cael. Mae diffiniad geiriadur yn rhoi pwyslais mawr ar natur gyhoeddus hysbysebion. Drwy r sbectrwm hwn o ddiffiniadau, gallwn ddweud bod plant yn un math o gynulleidfa darged y bydd hysbysebwyr yn ceisio cyfathrebu â hi, a u hysbysu a dylanwadu arnynt o fewn cylch cyhoeddus cymdeithas a phlentyndod heddiw. I bob golwg, mae gan y diwydiant ddau fwriad, sef cyfathrebu â r gynulleidfa a sicrhau y caiff ei gynnyrch ei brynu (Fowles, 1996: 13). Yn fwy cynnil, dywed Williamson (1978: 11-12) fod i hysbysebu swyddogaeth arall sef creu strwythurau ystyr. Gellid dadlau bod y strwythurau ystyr yn cynnwys yr hyn y mae n ei olygu i fod yn blentyn, yn ogystal â r hyn y mae n ei olygu i fod yn ferch neu n fachgen neu i berthyn i genedl/hil/dosbarth cymdeithasol penodol.

63 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn 63 Dadl Manca a Manca (1994: 60), a ysbrydolwyd gan astudiaeth glasurol Hall o Culture, the Media and the Ideological Effect (1977), oedd bod hysbysebu n gweithredu mewn tair ffordd, a bod modd cymhwyso pob un o r swyddogaethau hynny at blant yng nghyd-destun y drafodaeth hon: Yn gyntaf, mae n darparu ac yn adeiladu, yn ddetholus, wybodaeth gymdeithasol a delweddaeth gymdeithasol sy n fodd i ni ddeall a dehongli ein byd a n profiadau cymdeithasol a gallai cyfnod plentyndod mewn bywyd fod yn un o r fframweithiau dehongli hynny. Yn ail, mae n dosbarthu ac yn trefnu gwahanol fathau o wybodaeth gymdeithasol yn ôl yr ystyron a r dehongliadau y dymunir eu rhoi iddynt, lle gallai r diwylliant cyfoed, oedran a sefydliadau fel yr ysgol fod yn bocedi penodol o wybodaeth yn ystod cyfnod plentyndod. Yn drydydd, mae gweithrediad ideolegol hysbysebu yn gweithio i drefnu, cyd-drefnu a chynnull yr hyn y mae wedi i gynrychioli n ddetholus ac wedi i ddosbarthu n ddetholus mewn ffordd sydd, er gwaetha r posibilrwydd y gall esgor ar lawer ystyr, yn esgor ar ystyr benodol lle y gallai r hyn y mae bod yn blentyn yn ei olygu fod yn fframwaith diffiniol. Gellir defnyddio hysbysebu am amryw o resymau sy n tueddu i gael eu gyrru gan syniadau o gymhelliant (gan fwriadu, fel rheol, gyfoethogi neu wella ch bywyd), anogaeth (i brynu cynhyrchion), anogaeth i beidio (â phrynu cynhyrchion, yn enwedig y rhai a gynhyrchir gan y cystadleuwyr), ac addasu agwedd (cymh. Brierley, 2002: 2). Y cysyniad sydd wedi i blethu i bob un o r swyddogaethau hynny yw r cysyniad o ymglywed ag ymddygiadau cymdeithasol a dylanwadu arnynt. Gellid dadlau bod hysbysebu n ceisio creu defnyddwyr yn effeithlon (Corrigan, 1997: 66), ac fe gyflawnir hynny fel rheol drwy beri bod pobl yn sylweddoli eu bod yn agored i sylw cymdeithasol llym y byd o u cwmpas (ibid.); meithrin yr angen i gadw i fyny â r Jonesiaid a chyson gwestiynu eu hunan-werth. I blant, ymboeni ynghylch agweddau cyfoedion a pherthyn yn gymdeithasol sydd wrth wraidd y mwyafrif o r negeseuon masnachol a dargedir atynt, a r canlyniad yw creu mathau arbennig o ddefnyddwyr ifanc sy n prynu cynhyrchion penodol. DERBYNIAD Y GYNULLEIDFA AC YSTYRIAETHAU EFFEITHIAU Cyn canolbwyntio ar fater plant a hysbysebu fel y cyfryw, mae n hanfodol gosod y ddadl yng nghyddestun materion ehangach y cyfryngau torfol, sef materion sy n ymwneud â derbyniad a dehongliad y gynulleidfa. Efallai mai un man cychwyn yw disodli r syniad clasurol o r gwyliwr goddefol (sy n adleisio r ddamcaniaeth hypodermig ) â r syniad o r gwyliwr gweithredol (sy n adleisio r ddamcaniaeth Defnydd a Boddhad ). I r perwyl hwnnw, dadl Williamson (1978: 41) yw bod unigolion yn troi n bynciau a u bod nid yn unig yn derbyn ond hefyd yn creu ystyr. Y pwynt allweddol, yn ôl Williamson, yw nad yw unigolion ond yn creu ystyr am fod galw arnynt i wneud hynny. Drwy dargedu cynulleidfaoedd penodol yn ofalus, ni fydd hysbysebion yn gadael i ni fod yn oddefol. Yn hytrach, byddant yn ei gwneud yn ofynnol i ni lunio ystyron y gallwn ni eu cymhwyso atom ni n hunain. Mae r syniad cymhleth hwn yn awgrymu bod cydddibyniaeth rhwng semioleg (system arwyddion hysbyseb, o fewn systemau ehangach y cyfryngau torfol a chymdeithas o arwyddion) a seicoleg (meddyliau a theimladau r unigolyn). Cynigiwyd llu o ddamcaniaethau o effaith y cyfryngau a gellir cydnabod eu bod, yn rhannol o leiaf, yn perthnasu ag effaith bosibl hysbysebion teledu ar blant ifanc a u dehongliad hwy ohonynt, a bod y

64 64 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn broses honno n digwydd mewn haenau. O ran ymosodiad cychwynnol hysbysebion, mae Unnikrishnan a Bajpai (1996: 55) yn pwysleisio bod rhaid iddynt gipio a chadw sylw r gwyliwr, a llwyddo yr un pryd i hau hedyn o awydd ym meddwl y gwyliwr hwnnw i brynu r cynnyrch. Yn ogystal, gellid dadlau y byddai modd i blant ifanc ddefnyddio hysbysebion teledu i fodloni eu hawydd i fod yn berchen ar gynhyrchion mewn cymdeithas faterol (cymh. Berger, 1991: 85). Gall hysbysebion, yn eu tro, ysgogi plant ifanc i brynu (neu ddarbwyllo eraill i brynu drostynt) nwyddau yn y marchnadle, mewn ymateb i r apelau neu r addewidion a wnaed (cymh. McQuail, 1994: 338). At hynny, gall testunau hysbysebion fod yn ddeunydd sy n dysgu ymddygiad cymdeithasol drwy i blant weld patrymau ac yna u hefelychu (cymh. Harris, 1994: 19; Smith, 1994: 324). Yn olaf, gall y ffyrdd y bydd plant ifanc yn dadgodio y negeseuon hysbysebu a amgodiwyd (yn unol â u profiadau a u hamgylchiadau) fod o bwys o ran sut y caiff y neges werthu gyffredinol ei dehongli neu sut y mae n ddylanwadol (cymh. Hall ac eraill, 1980: 128 ff). Mae prosesau cynulleidfa o ddehongli yn fwy cymhleth na phroses linol syml, fel y i brasluniwyd yn y patrwm amgodio/dadgodio (ibid.). Ni ddylid diystyru r defnyddiwr (y plentyn). Pwysleisiodd Williamson (1978: 174) nad naïf mo myth hysbysebu na i fod ychwaith yn gyfrwng i drochi n ideolegol. Rhaid bob amser ganiatáu ar gyfer y ffaith fod agwedd ymwybodol pobl at hysbysebu yn debyg o fod yn un amheus, a gellid dadlau y dylid estyn yr amheuaeth honno i r grŵp cymdeithasol, sef plant, na pharchwyd digon ar eu crebwyll (cymh. Buckingham, 1993). LLUNIO YSTYRON: NEGODI A DEHONGLI Eto, er yr holl wylio gweithgar gan gynulleidfaoedd, rhaid hefyd gydnabod bod hysbysebwyr yn mynd ati n ddygn i gyfleu hoff ystyr yn nhestun eu hysbysebion er mwyn cyfleu r neges honno i r gynulleidfa mewn ffordd mor effeithiol a diymdrech â phosibl a chan gyfyngu ar y broses o lunio ystyron (cymh. McQuail, 1994: 239/242). I blethu r hoff ystyr i ymgyrch hysbysebu, rhaid llwytho r broses amgodio, gan beri bod y casgliad y dymunir i r gynulleidfa ei dynnu am y cynnyrch yn amlycach nag unrhyw ddarlleniad arall (cymh. Hall ac eraill,1980: 128 ff). I wneud hynny, rhaid strwythuro r hysbysebion a phennu eu fformat yn ofalus er mwyn dweud wrth y gwyliwr sut mae dehongli ystyr yr hysbyseb (Fowles, 1996: 83; Goldman, 1992: 124). Yn ideolegol, credir y caiff testunau caeëdig o r fath fwy o effaith am eu bod yn cynnig llai o bosibiliadau dehongli (McQuail, 1994: 239/242) ac, o u cyplysu â chynulleidfa benodol â u hanghenion (megis plant a plentyndod ), fe gyfyngir mwy a mwy ar y potensial i w dehongli. Er hynny, arfer peryglus yw cael eich dal yn yr ymchwil am yr unig wir ystyr gan y caiff amwysedd arwyddion ei ddatbwysleisio a i danbrisio. Fel yr awgrymodd Cook (1992: 29), mae hysbysebion yn barasitig ar lawer sefyllfa, ac yn digwydd o fewn disgyrsiau eraill yn ogystal â u dynwared. Yn rhyngdestunol, felly, gall neges yr hysbyseb olygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac mae hynny n cyd-fynd yn daclus â r syniad na ellir cymryd o r testun ond rhywbeth sy n perthnasu â r hyn y daw r gwyliwr ag ef at y testun hwnnw. Er enghraifft, y cyfan a wêl plentyn yw hysbyseb am Action Man, tra gall oedolyn yn hawdd weld yr hysbyseb yn debyg i ffilm ryfel; gall Barbie fod yn ddol ffasiwn i blentyn, ond mae hi hefyd yn symbol o ryw. Dadleuodd Bignall (1997: 47) fod anfanteision i r holl syniad bod testun yn pennu safle unigolyn am na all y syniad hwnnw esbonio r gwahanol ffyrdd y darllenir hysbysebion. Mae dychmygu y bydd pob gwyliwr yn ymateb i hysbysebion yn yr un ffordd yn naturioleiddio ideoleg ddominyddol treulyddiaeth, sef bod ar bob un ohonom angen a n bod ni i gyd yn dymuno yr un peth er mwyn integreiddio i gymdeithas a chael ein bodloni. Nid oes modd edrych ar yr ystyron a gaiff eu negodi o fewn hysbyseb, ac o i hamgylch, ar eu pennau eu hunain am fod yna hefyd amryw o berthnasoedd rhyngdestunol rhwng yr hysbyseb a r gymdeithas ehangach, a rhwng yr hysbyseb a genres eraill y cyfryngau. Gellid dadlau bod plant yn achos

65 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn 65 arbennig o ddiddorol am eu bod wrthi n datblygu eu gwybodaeth o gymdeithas a r cyfryngau torfol ac y gallai r ffordd y maent yn negodi neu n dadgodio testunau r cyfryngau fod yn arwydd o u safleoedd unigryw fel bodau dynol sy n tyfu ac yn aeddfedu. HYSBYSEBU A SEICOLEG PLANT TARGEDU: FFYRDD O CHWILIO AM Y PLENTYN Mewn cyfweliad â swyddog sy n gweithio i asiantaeth hysbysebu Lowe Howard-Spink, asiantaeth sydd â i chanolfan yn Llundain, disgrifiwyd sector plant y farchnad fel un sy n wirioneddol syml a hefyd yn un hynod gymhleth! Adleisiwyd y teimlad hwnnw gan Williams (1997) yn ei herthygl yn y cylchgrawn Industry, gan iddi ddisgrifio plant fel criw di-ddal sy n ffoli ar newydd-deb. Nid yw r croesddweud hwn o gymorth pan ddaw hi n fater o geisio dehongli r strategaethau y bydd hysbysebwyr yn eu defnyddio yn gyffredin wrth dargedu plant ifanc. Mae un peth fel petai n glir- bod cracio y greal sanctaidd, sef y Farchnad Ieuenctid broffidiol, wedi tyfu n bwnc sy n cael sylw hysbysebwyr. Mewn llyfr o r enw BRANDchild yn 2003, er enghraifft, cyhoeddodd Martin Lindstrom, gŵr ifanc sydd wedi tyfu n un o r arbenigwyr mawr ar frandio yn yr Unol Daleithiau, -ffrwyth astudiaeth yr honnwyd mai hi oedd yr astudiaeth ddrutaf yn y byd. Dros gyfnod o bron i flwyddyn, bu tîm o 500 o bobl o Millward Brown, asiantaeth ymchwil fyd-eang i frandiau a chyfathrebu, wrthi n ymchwilio, a nod y prosiect oedd ceisio dadansoddi cymhlethdodau ymddygiadau, cymelliannau, agweddau a bywydau meddyliol ac emosiynol plant 8-14 oed, y tweens. Pe na chredid bod y sector hwnnw o r farchnad yn bwysig, ni chawsai astudiaeth mor helaeth a chostus ei chomisiynu. Mae r cyhoeddiadau a r llawlyfrau ar farchnata i blant (Acuff, 1997; Del Vecchio, 1997) yn ei gwneud hi n haws darganfod sut y bydd hysbysebwyr yn chwilio am eu cynulleidfaoedd targed o blant. Y ffaith amdani yw na all unrhyw beth ddisodli dealltwriaeth glir o blant pan ddaw hi n fater o farchnata cynhyrchion iddynt. Pwysleisir deall seicoleg plant a chamau eu datblygiad gwybyddol yn ogystal â u hoedran, eu rhywedd (gender) a u demograffeg gymdeithasol (eu grŵp cyfoed), yn ogystal â r cyd-destun hanesyddol y mae r plentyn yn byw ynddo. Mae n amlwg bod hysbysebwyr yn mabwysiadu amryw o strategaethau wrth chwilio am ddefnyddwyr posibl a chynnig ysgogiadau seicolegol i w denu. Ar ôl canfod y defnyddiwr a dargedir (gan ddefnyddio amryw o ddulliau, gan gynnwys demograffeg, ymchwil i gymhelliannau, seicograffeg, doethineb a geodemograffeg, gweler Brierley, 2002, Pennod 3), y cam nesaf yw ceisio canfod neu greu eu dymuniadau a u hanghenion ymddangosiadol. APELAU SEICOLEGOL ALLWEDDOL Yn ddiddorol ddigon, un o r ffactorau diffiniol sy n allweddol mewn plentyndod, o ran natur yr apelau seicolegol a wneir gan hysbysebwyr, yw rhywedd. O adeg geni plant ymlaen, bydd rhieni n defnyddio marcwyr rhywedd, yn enwedig ar ffurf lliwiau, i ddangos i r byd fod eu babanod naill ai n fechgyn glas neu n ferched pinc. Pan fydd plant yn dechrau cymysgu â u cyfoedion mewn grwpiau gofal plant, cylchoedd chwarae ac ysgolion, daw eu hunaniaethau rhyweddol eu hunain yn fwyfwy pwysig iddynt ac fe fyddant, fel rheol, yn cymdeithasu mewn grwpiau cyfoed o r un rhyw â hwy tan iddynt gyrraedd canol eu harddegau. Bydd hysbysebwyr yn cydnabod yn glir y ffurfiau rhywedd hyn ar ymddygiadau ac adeiladweithiau cymdeithasol ac yn eu defnyddio wrth farchnata cynhyrchion i blant (cymh. Griffiths, yn Buckingham, 2002: ), nid yn unig o ran natur y cynhyrchion ond hefyd o ran siâp a ffurf gyffredinol hysbysebion ar y lefel dechnegol (cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu) (Chandler a Griffiths, 2000).

66 66 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn Gan fod i rywedd arwyddocâd a phwysigrwydd fel math o arf i fframio r gynulleidfa darged ag ef, bydd asiantaethau n tueddu i ddilyn rhai rheolau sy n adlewyrchu nid yn unig y gwahanol bwysleisiau yn psyches bechgyn a merched ond hefyd elfennau cyffredin yr hyn y mae bod yn blentyn yn ei olygu. Gan osod ei resymeg ym maes eang iawn seicoleg plant, mae Del Vecchio (1997: 35-63) yn rhoi sylw manwl i r gwahaniaethau allweddol rhwng psyches bechgyn ifanc a merched ifanc. Mae n amlinellu sut y mae n rhaid cydnabod y gwahaniaethau hynny cyn i hysbyseb allu siarad â r naill segment a r llall o r gynulleidfa. Mae n diffinio r psyche (ibid. 34) fel y rhan o r unigolyn sy n rheoli r meddwl a r teimladau n ymwybodol ac yn anymwybodol, sef hanfod pwy ydym ni. Mae n pwysleisio bod i psyche bechgyn a psyche merched elfennau tebyg, ond bod amlygiadau r elfennau hynny n wahanol yn y naill a r llall. Er bod bechgyn a merched yr un fath mewn cynifer o ffyrdd (fel plant a bodau dynol ), dadl Del Vecchio (1997: 60) yw bod y pwysau a roir ar wahanol werthoedd yn amrywio o r naill ryw i r llall. Mae Del Vecchio (1997: 35 ff.) yn cynnig strwythur o r elfennau sy n tueddu i apelio at psyches bechgyn a psyches merched. Ymhlith elfennau allweddol psyche r bachgen mae: Grym: a sicrheir drwy gyflawni campau corfforol neu ddefnyddio crebwyll Da yn erbyn Drwg: gan gynnwys grym, cyflymdra, cryfder, clyfrwch, crebwyll neu allu Yr hyn sy n ych-a-fi (unrhyw beth sy n troi ar bobl) Gwiriondeb: mynd dros ben llestri, chwarae triciau a dweud jôcs, gan gynnwys hiwmor corfforol megis slapstick Dewrder: rhoi prawf ar ei wytnwch corfforol Llwyddo/meistroli: angen i fod y gorau un, gan gynnwys sialens mewn gêm ac adeiladu Cariad: tra bo bechgyn ifanc yn dangos hoffter yn agored, ni chânt wneud hynny mewn ffordd mor amlwg wrth fynd yn hŷn, er bod yr angen am gariad yn dal i fod yr un fath. Mae psyche merch yn cynnwys ffactorau sy n debyg ac yn wahanol i anghenion bechgyn (ibid. 49 ff.): Prydferthwch: nid yn unig drwy ymddangosiad allanol ond hefyd drwy greu campweithiau celfyddydol ac ati Glamor: y wefr o fyw bywyd cyffrous Bod yn famol: sylfaen emosiynol pob merch ar sail yr angen i fynegi tynerwch a rhoi gofal Gwiriondeb: giglan a gwneud hwyl am ben pobl eraill Llwyddo/meistroli: y celfyddydau a meysydd eraill lle nad oes gofyn gormod o ymddygiad (corfforol) cystadleuol. Efallai mai r gwahaniaeth mwyaf trawiadol yn y crynodebau hynny o psyches y ddau ryw yw bod bechgyn yn cael eu gosod yn bendant ym maes y cystadleuol, y corfforol a r gweithgar tra categoreiddir merched yn fwy yn nhermau ymboeni ynghylch ymddangosiad ac emosiwn. Er bod llawer o r materion yr un fath ar draws y ddau gategori o gynulleidfa, megis apêl gwiriondeb a r angen i lwyddo, mae r materion wedi u stereoteipio n fwy pendant yn ôl rhywedd, megis dewrder yn erbyn prydferthwch, neu r ych-a-fi yn erbyn glamor. Pe dymunid categoreiddio r patrwm hwnnw mewn termau semiotig, y patrwm fyddai un o wrthgyferbyniad deuol (Griffiths, yn Buckingham, 2002).

67 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn 67 CARFANAU A CHYFOEDION PLENTYNDOD Yn ogystal ag ystyried anghenion seicolegol plant, bydd asiantaethau hysbysebu a chwmnïau sy n gweithgynhyrchu cynhyrchion i blant hefyd yn rhoi sylw manwl i ffactor oedran a ffactor y grŵp cyfoed. Bydd y categoriadau o segmentau r farchnad yn ôl ystod oedran yn gwahaniaethu o gyfrwng i gyfrwng. Yn y Deyrnas Unedig, er enghraifft, bydd BARB (y Broadcasters Audience Research Board) fel rheol yn defnyddio r ystod gronolegol gonfensiynol wrth gyfeirio at grwpiau oedran y cynulleidfaoedd teledu, sef: 4-15 (a rennir weithiau n 4-7, 8-11 a 12-15) (a rennir weithiau n a 25-34) (a rennir weithiau n 35-44, a 55-64) 65 a throsodd Er hynny, mae asiantaethau hysbysebu fel petaent yn edrych llai a llai ar oedran yn y ffurf hon ar flynyddoedd bywyd ond, yn hytrach, yn defnyddio oedran fel ffordd o ddiffinio grwpiau penodol o bobl neu garfanau ar sail sylfeini seicolegol y tybir eu bod yn brofiadau cyffredin. Ystyrir bod oedran geni yn ffordd ddefnyddiol o greu grwpiau a disgrifio segmentau, fel yn enghraifft BARB, ond nad yw ef mewn gwirionedd yn helpu marchnatwyr i ddeall cymelliannau r segmentau h.y., yr hyn sy n eu gyrru n seicolegol, a u dymuniadau a u hanghenion. Y ddadl waelodol yw mai digwyddiadau yn yr amgylchedd allanol a r hyn a elwir yn eiliadau diffiniol a geir yn ystod amrywiol gyfnodau bywyd blynyddoedd dod i oed (rhwng 17 a 23 oed) yw r cyfnod dwysaf fydd yn creu gwerthoedd, dewisiadau, agweddau ac ymddygiadau prynu a wnaiff aros yn gymharol ddigyfnewid gydol oes (Schewe a Carlson, 2003: 1). Gan mai r gwerthoedd hynny sy n creu cwlwm cyffredin a grymus i r rhai mewn grŵp neu garfan oedran, maent yn cynnig ymagwedd gyfoethocach at segmentu nag a wna oedran geni. Awgrymodd Acuff (1997: 14) nad oes yr un ffordd iawn o rannu plant yn segmentau oedran am fod eithriadau i w cael bob amser oherwydd cyflymdra datblygiad yr unigolyn a lefel ei (d)deallusrwydd a bod hynny n golygu ei bod hi bron â bod yn amhosibl gweithredu rheol. Nodir anhawster tebyg ynghylch oedran gan Del Vecchio (1997: 105), sy n dadlau bod cynllunio targed effeithiol o ran agwedd yn bwysicach o lawer iawn na thargedu ystod oedran gyfyngedig. Mae Del Vecchio (1997: 109) yn cynnig crynodeb o r ffordd y mae hysbysebwyr fel petaent yn gweld y bachgen nodweddiadol a r ferch nodweddiadol yng nghyd-destun yr hyn y mae n ei alw n age-tudes. Gan ddefnyddio hysbysebion teganau i ddarlunio hynny, yr oedran sylfaenol a dargedir fel rheol yw rhyw 5-6 oed. Yn yr oedran hwnnw, mae gan fechgyn a merched age-tudes penodol y gall hysbysebwyr estyn atynt. Dywedir bod bechgyn yn rhoi prawf ar gryfder corfforol a galluoedd ei gilydd i gymaint graddau nes bod grym yn troi n rhinwedd. Iddynt hwy, pethau apelgar a difyr yw pethau ych-a-fi. Bydd bechgyn hefyd yn amharod iawn i grio. Bydd clybiau neu gangiau ac iddynt gymal aelodaeth dim merched yn fwyfwy pwysig. Bydd ffigurau gwrywaidd ymosodol, gemau fideo a chwaraeon yn fwyfwy poblogaidd. Bydd merched, ar y llaw arall, yn grwpio gyda i gilydd, a chredir yn aml mai harddwch, ffasiwn, glamor a rhamant sy n mynd â u bryd. Mae Barbie yn arbennig o boblogaidd fel ymgorfforiad o r holl sylw hwnnw. Bydd babanod hefyd yn cyffroi chwilfrydedd merched wrth i r reddf famol gael ei deffro ac wrth i chwarae â doliau ddatblygu n weithgarwch pwysig iawn. Credir hefyd mai drwy r rhaniad hwn yn grwpiau oed a rhywedd y bydd mater pwysau neu ddylanwad gan eu cyfoedion yn tyfu n ystyriaeth o bwys. Bydd hysbysebwyr yn gofalu eu bod yn llawn sylweddoli

68 68 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn pŵer posibl grwpiau cyfoed i benderfynu a yw cynnyrch yn ddigon cŵl. Yn ôl Del Vecchio (1997: 117), fe seilir grwpiau cyfoed, yn eu hanfod, ar y dymuniadau emosiynol grymus a brofir gan blentyn sy n dymuno perthyn a theimlo n rhan o i gymdeithas neu ei chymdeithas (cymh. Corsaro, 1997). Mae marchnatwyr yn sylweddoli mai dyrnaid yn unig o blant, mae n debyg, sy n pennu r cyfeirbwyntiau i eraill eu dilyn, a bod i hynny oblygiadau penodol o ran hysbysebu. Dyma lle y defnyddir un o r strategaethau marchnata allweddol: bydd hysbysebwyr yn manteisio ar y ffaith y bydd plant iau n cyson ddilyn y rhai sy n hŷn na hwy. I gynnyrch fod yn cŵl i blentyn 7 oed, felly, bydd hysbysebwyr yn aml yn dangos plentyn 9 neu 10 oed yn ei fwynhau (cymh. Clark, 1988: 190). HYSBYSEBU A DATBLYGIAD Y PLENTYN SUT MAE PLANT YN GWYLIO SYLW, ADNABOD GENRES, AMGYFFRED A GALW I GOF Er y gall set deledu fod yn dangos rhaglenni am rai oriau bob dydd yn y cartref arferol, nid yw n rhwym o gael rhyw lawer o sylw. Yn ogystal, gan mai r farn yn aml yw mai hysbysebion yw r darnau diflas rhwng rhaglenni, mae n debyg y cânt lai byth o sylw. Yn sicr, mae hyd a lled y sylw manwl y mae r unigolyn yn ei roi i r sgrin yn ffactor pwysig wrth benderfynu ar botensial y teledu (a masnach) i ddylanwadu ar yr unigolyn hwnnw. Wrth gyfeirio at astudiaeth Ward ac eraill, mae Gunter a McAleer (1997: 136) yn nodi r gwahaniaethau yn lefelau sylw plant hŷn a phlant iau ac yn credu bod yr olaf yn rhoi llai o sylw i hysbysebion teledu. Rhoddai plant rhwng 5 a 8 oed eu holl sylw i r sgrin am ryw 67 y cant o r amser gwylio, o i gymharu â chyfartaledd o 75 y cant o u sylw llawn yn achos plant 9-12 oed. Ond rhaid dehongli r data n ofalus: hyd yn oed os nad yw r plentyn yn rhoi sylw uniongyrchol i r sgrin, gall fod yn monitro cynnwys y rhaglen drwy wrando ar y sain (cymh. Rolandelli, 1989, yn Gunter a McAleer, 1997: 139). Un o r ffyrdd amlycaf o benderfynu a yw plant yn ymwybodol o hysbysebion yw cynnal prawf i weld a allant wahaniaethu rhwng yr hysbysebion a r rhaglenni y mae r hysbysebion wedi u plannu ynddynt. Darganfu Wartella a Hunter (yn Meyer, 1983: 149) fod plant iau, yn enwedig y rhai a oedd heb ddechrau mynd i r ysgol, yn cael mwy o drafferth nag a wna plant hŷn i wahaniaethu rhwng y ddau genre. Dywedir bod gallu plant ifanc i wahaniaethu n ganfyddiadol rhwng y ddau yn ymddangos rywbryd rhwng 3 a 5 oed (ibid. 150). Awgrymodd un astudiaeth fod plant mor ifanc â 3.0 i 3.6 oed yn gallu adnabod hysbysebion (Jaglom a Gardner, 1981: 42) (cymh. Kline, 1993: 169). Yn ogystal â lefelau sylw ac adnabod genres, credir bod rhai nodweddion ar raglenni teledu y bydd plant yn eu hamgyffred ac yn eu galw i gof yn haws na i gilydd. Adolygodd Rice ac eraill (yn Meyer, 1983: 31) amryw o astudiaethau ar wahanol fathau o raglenni, a gweld bod rhai nodweddion cynhyrchu cyffredin yn apelio n fwy na i gilydd at blant ifanc. Mae nodweddion clywedol, megis cerddoriaeth fywiog, effeithiau sain, lleisiau plant, lleisiau rhyfedd, lleisiadau di-lafar a newidiadau mynych yn y sawl sy n siarad, yn effeithiol iawn wrth ddenu a dal sylw plant. Mae n amlwg bod llawer o hysbysebion i blant yn defnyddio llawer o r technegau hyn. Mewn amryw o astudiaethau fe danlinellwyd pwysigrwydd nodweddion sain mewn hysbysebion, gan bwysleisio cerddoriaeth fel dull o gyfathrebu n ddi-eiriau. Mae Winick ac eraill (1973: 37) yn nodi bod cerddoriaeth yn iaith gyffredin i blant am ei bod yn tueddu i ysgogi symudiadau corfforol digymell, yn symbylu cysylltiadau unigolyddol, yn hybu curo dwylo ac yn gofyn am ddim gwybodaeth o gwbl o iaith. Mae Calvert a Scott (1989) (ibid.) hefyd yn honni bod defnyddio cerddoriaeth ddeniadol yn ei gwneud hi n fwy tebygol y bydd plentyn yn gwylio ac yn gwrando bob tro y dangosir yr hysbyseb ar y sgrin, gan gynyddu r effaith bosibl drwyddi draw. Dadl Macklin (yn Hecker a Stewart, 1988: 225) yw mai cerddoriaeth

69 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn 69 yw r ddyfais fwyaf effeithiol wrth ddenu sylw ac y gall neges hysbysebu heb gerddoriaeth ynddi yn hawdd gael ei hanwybyddu. Mae hi hefyd yn esbonio bod cerddoriaeth yn cynnig llwyfan ar gyfer ymarfer, lle y gall y gwyliwr hymian y dôn apelgar a thrwy hynny wneud yr hysbyseb yn fwy cofiadwy. Yn olaf, mae Gunter a McAleer (1997: 137) yn tynnu sylw at y ffaith fod tuedd i blant ifanc alw elfennau unigol o hysbysebion, megis cerddoriaeth, cymeriadau neu ddarn doniol, i gof, tra gallai plant hŷn alw i gof fwy o wybodaeth am y cynnyrch a r plot. CYMHWYSO DAMCANIAETH PIAGET O DDATBLYGIAD GWYBYDDOL AT HYSBYSEBU Gellir dadlau bod effaith hysbysebion ar blant yn dibynnu n bennaf ar ddau brif beth, sef gwybodaeth y plentyn o r byd a gwybodaeth y plentyn o r cyfrwng (cymh. Condry, 1989: 166; Durkin, 1984/1985; Calvert ac eraill, 1982). Defnyddiodd Buckingham (1996: 36) y term moddolrwydd, term sy n deillio o fyd ieithyddiaeth, i gyfeirio at y berthynas rhwng gosodiad neu destun a realiti. Hynny yw, mae gan bob testun ryw fath o gysylltiad â r byd go-iawn ac yn deillio ohono, yn enwedig o ran codau a chonfensiynau. Rhaid i unigolion ddod o hyd i ffordd drwy r strwythurau cymdeithasol hynny er mwyn deall sylfeini r testun a i wneud yn ystyrlon. Rhaid i blant ifanc weithio n galetach nag oedolion i ganfod y cysylltiadau moddol hynny am eu bod yn dal wrthi n ffurfio sgemata gwybyddol sylfaenol ( mapiau yn y meddwl ). Er y gellir datblygu gwybodaeth o r byd drwy arbrofi n weithgar yn amgylchedd uniongyrchol y plentyn, gallai gwybodaeth o r cyfrwng ddibynnu nid yn unig ar brofiad ond hefyd ar alluoedd y plentyn i brosesu n wybyddol. Dadl Noble (1975: 82 ff), er enghraifft, yw y gallai damcaniaeth Piaget ynghylch oedran cronolegol (cymh. Piaget, 1978) esbonio sut mae plant yn gwylio r teledu. Mae Noble (1975: 94) yn crynhoi sut mae plant yng Nghyfnod Cyn-weithrediadol (Pre-operational Stage) Piaget (18 mis i 6 neu 7 oed) yn gwylio r teledu. Cyfeiria at y drafferth y gallent ei chael wrth geisio dehongli dilyniannau plot oherwydd eu hanallu i wrthdroi r elfennau cyfansoddol o fewn cadwyn resymu. Mae n nodi hefyd fod hunanganologrwydd a phrosesau meddwl deuol yn esgor ar anallu i weld digwyddiadau o safbwynt rhywun arall. Ychwaneger at hynny y duedd i blant o r oedran hwn ychwanegu n ddychmygus at y plot neu ychwanegu digwyddiadau gan ddefnyddio rhaglenni teledu n sylfaen i chwarae cymdeithasol hynod stereoteipiedig. Mae Noble (1975: 104) hefyd yn trafod sut y bydd plentyn yn mireinio i ffordd o wylio r teledu wrth symud i Gyfnod Gweithrediadau Diriaethol (Concrete Operations Stage) (6-11 oed) a chyn cyrraedd Cyfnod y Gweithrediadau Ffurfiol (Formal Operations Stage) (11 neu 12 oed ac ymlaen) (ibid. 105) lle mae amgyffrediad y plentyn o deledu yn bur debyg i amgyffrediad gwylwyr mewn oed ohono (cymh. Davies, 1989: 12-22). Yn ddiddorol ddigon, mae n amlwg bod Acuff (1997: 14) wedi i ysbrydoli gan theori ddatblygu glasurol Piaget ac yn ei haddasu wrth sôn am bwysigrwydd strwythur. Cyfeiria (yn arwynebol) at dri chyfnod gwahanol yn natblygiad gwybyddol plentyn (cymh. Piaget, 1978; Durkin, 1985: 46; Noble, 1975: 82 ff) a sut mae n rhaid i hysbysebwyr eu cymryd i ystyriaeth: Y Cyfnod Dibynnu/Ymchwilio (Dependency/Exploratory Stage) (0 2 oed) (cymh. cyfnod Synhwyraidd-ymudol (Sensori-motor Stage) Piaget) Dyma r cyfnod pryd y bydd plant yn dibynnu ar oedolion i ofalu amdanynt. Nodweddir y cyfnod hefyd gan lawer iawn o ymchwilio, arbrofi a darganfod (Acuff, 1997: 43). I farchnata cynnyrch yn llwyddiannus i r grŵp oedran hwn, rhaid i r cynnyrch gyd-fynd ag anghenion datblygol y plentyn yn ogystal â bod yn unol â r hyn y tybia r rhieni yw anghenion eu plant (ibid. 44). Gweithgynhyrchwyr fel Fisher-Price sy n arwain y farchnad o ran darparu ar gyfer y cyfnod datblygol hwn.

70 70 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn Nododd Acuff (1997: 46) mai cyflymdra a chanolbwynt y technegau cynhyrchu yw dau o r ffactorau pwysicaf wrth geisio dal sylw plant ifanc iawn. Pwysleisiodd nad yw plant dan dair oed eto wedi cyrraedd y cyfnod yn eu datblygiad gwybyddol lle gallant ddehongli ystyron symudiadau cyflym, newid cyflym o olygfa i olygfa, delweddau cywrain a chynnwys gweledol cymhleth. Tacteg effeithiol, felly, fydd arafu r broses gyflwyno yn am ei bod hi n rhoi digon o amser i blant ifanc iawn hoelio u sylw ar ddelweddau a chymeriadau unigol. O ran naws cyffredinol hysbysebion a anelir at y segment hwn o r gynulleidfa, credir mai amgylcheddau mwy meddal, meithringar ac araf yw r rhai mwyaf addas. Y Cyfnod Magu Annibyniaeth (The Emerging-Autonomy Stage) (3-7 oed) (cymh. Cyfnod Cyn-weithrediadol Piaget) Mae Acuff (1997: 61) yn canolbwyntio ar y cysyniadau o hwyl a chwarae, gan honni mai chwarae yw un o brif ffyrdd plant o ddysgu am eu meysydd cymdeithasol ac ymarfer eu rhannau. Nodwedd sy n magu pwysigrwydd arbennig yn yr oedran hwnnw yw r broses o ymuniaethu ag eraill, yn unol ag angen y plentyn i berthyn ac i ddeall ei hamgylchedd uniongyrchol (cymh. Noble, 1975: 36 ff). Yng nghyd-destun hysbysebion am deganau, mae Acuff (1997: 62-63) yn nodi pedwar patrwm pendant o adnabod sy n egluro pam y bydd gweithgynhyrchwyr yn aml yn seilio u cyfresi o deganau ar gymeriad canolog. Meithrin naill ai meithrin cymeriad fel dol neu dedi, neu gael ei feithrin/ei meithrin ganddo/ganddi, megis Big Bird o Sesame Street neu Barney y dinosor porffor Fel fi sy n pwysleisio r syniad o hunanganfyddiad ac yn edrych ymlaen at y rôl a fydd gan grwpiau cyfoed o r un rhyw â r plentyn Efelychu lle y gall y plentyn deimlo yr hoffai fod yn union fel cymeriad megis Batman neu Barbie Dadymuniaethu lle nad yw r plentyn yn dymuno bod yn debyg i r cymeriad ond yn cael ei (d)denu at ochr dywyll neu briodoleddau negyddol y cymeriad. Yn ogystal â theimlo angen i berthnasu â chymeriadau, nodweddir y cyfnod hwn yn natblygiad plant gan hudoliaeth. Mae hud, hudol, hudoliaeth(ol) a cyfrinach yn eiriau mawr ym myd hysbysebu am y dywedir bod plant o r oedran hwn yn ymateb yn emosiynol i r syniadau hynny (Del Vecchio, 1997: 179). Mae r geiriau n awgrymu ymwybyddiaeth o edrych ymlaen, o gyffro ac o ryfeddu. Mae Acuff (1997: 68) yn dangos pa mor effeithiol yw r broses o drawsffurfio fel ystryw farchnata mewn hysbysebion. Credir bod gan blant o r oedran hwn alluoedd gwybyddol nad ydynt, hyd yn hyn, yn caniatáu iddynt ddilyn proses y trawsffurfio yn nhermau dechrau, canol a diwedd pendant. Mae digwyddiad trawsffurfiol felly n ymddangos fel petai n hudolus ac yn creu syndod mawr. Yn aml iawn, mae brwydr y da yn erbyn y drwg yn sefyllfa gyffredin mewn naratifau i blant, a gellir cymhwyso hynny n uniongyrchol at y ffaith ddatblygol fod plant yn yr oedran hwn, yn gyffredinol, yn gweld eu bydoedd yn nhermau deuoliaethau (ibid. 74). Gwelir popeth yn nhermau du a gwyn heb fod unrhyw arlliw o lwyd. Yn aml, bydd gweithgynhyrchwyr yn defnyddio ciwiau stereoteipiedig syml fel ffordd hwylus o ddynodi deuoliaethau i apelio at hydeimledd syml plant. Bydd arwyr fel Batman neu Superman, er enghraifft, yn aml yn gwisgo mantell (arwydd confensiynol o bobl dda ) tra bydd drwgweithredwyr fel Dr. X, gelyn Action Man, yn gwisgo patsyn llygad (arwydd confensiynol o bobl ddrwg ). Yn olaf, mae Acuff (1997: 78) hefyd yn nodi bod hiwmor yn bwysig. Pwysleisia nad yw meddyliau plant yn y cyfnod datblygol hwn yn barod i brosesu ffurfiau datblygedig ar hiwmor, ond maent yn gwerthfawrogi slapstick, gweithredoedd grymus a syndod sydyn.

71 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn 71 Cyfnod y Rheol/Rôl (plant 8-12 oed) (cymh. Cyfnod Diriaethol-weithrediadol Piaget) Cyfeiriodd Acuff (1997: 83) at y ffordd y bydd plant tua 6-7 oed yn dechrau ymwrthod â gweithgareddau mwy plentynnaidd, ac yma mae n arbennig o fuddiol dychwelyd at theori Piaget (1978) fel ffordd o esbonio sut mae pethau n dechrau syrthio i w lle wrth i blant symud i gyfnod y Gweithrediadau Diriaethol. Maent yn gallu deall egwyddor cadwraeth, yn gallu edrych ar sefyllfa o bersbectif rhywun arall (er eu bod, o hyd, yn hunanganolog gan mwyaf), yn deall natur barhaus gwrthrychau ac yn gallu gwrthdroi trefn gweithredoedd. Gellid dadlau bod hysbysebion am gynhyrchion fel teganau yn dechrau colli eu hapêl pan ddaw r holl alluoedd gwybyddol hynny i r golwg. Hynny yw, nid yw trawsffurfiadau bellach fel petaent yn hudolus nac yn annisgwyl, a gall fod golwg braidd yn wirion, hyd yn oed, ar y cynnwys a ddangosir mewn hysbysebion am deganau. Ceir gan Acuff (1997: 94) ddisgrifiad byr o r ffordd y bydd plentyn yn y cyfnod hwn yn gwneud popeth yn ei (g)allu i ailchwarae rolau cymdeithasol cydymffurfiol a rolau sy n cydymffurfio â r grŵp cyfoed. Rheolir y cyfnod hwn gan yr angen i gydymffurfio a pheidio â bod yn wahanol i bawb arall. Yn ddiddorol ddigon, disgrifir hwn fel y pwynt lle bydd apelau tywyll gan gynnwys ffurfiau amharchus ar ddigrifwch, darostwng cymeriadau neu drechu ffigurau awdurdodol megis rhieni ac athrawon ar eu cryfaf. Er ei bod hi n anodd meddwl am enghreifftiau o hysbysebion sy n darparu ar gyfer yr anghenion newydd hyn, gallai n hawdd fod yn wir bod rhaglenni teledu megis dramâu fel Byker Grove, Grange Hill a The Demon Headmaster neu gartwnau fel The Simpsons yn ateb anghenion newydd. HYSBYSEBU A R PLENTYN PROBLEMUS MATERION DYLUNIO TESTUNOL Un o r prif broblemau a nodwyd gan Del Vecchio (1997: 212 ff) yw r drafferth a gaiff rhai hysbysebwyr wrth geisio trosi syniadau marchnata yn ddelweddau teledol sy n symud. Rhennir ei eiriau pwyllog yn bedair elfen, sef technegau cynhyrchu, cymhlethdod y naratif, traciau sain a chastio cymeriadau. Mae Del Vecchio (1997: 212) yn ystyried a yw hi n well defnyddio canolbwynt brand neu nodweddion cynhyrchu cŵl. Awgrym llawer o hysbysebwyr yw bod tuedd i roi gormod o sylw i ddefnyddio technegau ymgolli, megis cerddoriaeth uchel, graffigwaith cyfrifiadurol, animeiddio, sefyllfaoedd ffantasïol, cymeriadau ac onglau camera anarferol, ar draul canolbwyntio ar y cynnyrch. Dadl hysbysebwyr eraill yw nad yw technegau o r fath yn tynnu r sylw oddi ar y cynnyrch ond, yn hytrach, eu bod yn denu ac yn cadw sylw r gwyliwr. Ystyrir cwestiwn y cynhyrchu hefyd yn nhermau ai bod yn syml neu n gymhleth sydd orau (ibid. 213). Ar y naill law, os yw hysbyseb yn rhy simplistig ei strwythur a i dull o annerch ei chynulleidfa, bydd plant hŷn yn ystyried bod y cynnyrch yn blentynnaidd. Dywedir ei bod yn well gan blant hŷn naratif cyflym, delweddau cymhleth a mathau mwy aeddfed o hiwmor. Ar y llaw arall, os yw hysbyseb yn rhy gymhleth, bydd yn colli r gwylwyr ifanc. I bob golwg, nod hysbysebwyr yn y pen draw yw cadw r neges am y cynnyrch yn syml ond ei mynegi drwy gyfrwng agwedd plentyn hŷn gan roi i aelodau ifancaf y gynulleidfa rywbeth y gallant ei ddeall ac anelu ato. Dewis rhwng gair a chân, mae n debyg, yw r cwestiwn nesaf sy n wynebu hysbysebwyr (ibid.). Hynny yw, a ddylid cyflwyno neges yr hysbyseb drwy gyfrwng llais yn llefaru neu ynteu drwy gân fer neu jingl. Mae jingls yn effeithiol am eu bod yn aml mor ddeniadol nes bod plant yn eu cael eu hunain yn canu gyda r gerddoriaeth. Ond weithiau gall fod mor anodd dehongli geiriau jingls nes colli r neges werthu. Mae n well gan y mwyafrif o hysbysebwyr gyfuniad o r ddwy elfen ar y trac sain er mwyn creu r agwedd orau ar gyfer hysbyseb.

72 72 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn Yn olaf, mae Del Vecchio (1997: 214) yn cyfeirio at anhawster penderfynu a ddylid castio bechgyn neu ferched mewn rhai hysbysebion penodol. Gan fod plant rhwng 5 a 10 oed yn canolbwyntio llawer ar eu rhyw eu hunain, ceir gwahanu pendant yn aml. Y patrwm cymdeithasol hwnnw sydd, i bob golwg, yn pennu mai bechgyn yn unig sy n ymddangos mewn hysbysebion sy n ymwneud â bechgyn, ac mai merched yn unig sydd i w gweld mewn hysbysebion sy n ymwneud â merched. Wrth anelu r cynnyrch at y ddau ryw y ceir cymhlethdod. Credir ei bod hi n fwy diogel cynnwys bechgyn yn bennaf mewn hysbysebion sy n ceisio apelio at y ddau ryw. Fe gytunir, mae n debyg, nad yw merched yn ymateb mewn ffordd mor eithafol o negyddol i fechgyn ag a wna bechgyn i ferched (cymh. Acuff, 1997: 157). RHAI SYLWADAU I GLOI: MARCHNADOEDD IEUENCTID PLANT IFANC, PLANT 8-14 OED A PHLANT YN EU HARDDEGAU Wrth i r diddordeb a r ymchwil yn (nhair rhan) y Farchnad Ieuenctid gynyddu, mae n fwyfwy pwysig taro r nodyn cywir wrth hysbysebu i r segment hwnnw. Cylchredir amrywiol ystadegau i helpu i esbonio neu ddeall yr hyn y gallai perthnasoedd pobl ifanc â byd hysbysebu fod, ac awgrymir ein bod ni i gyd yn dod ar draws rhyw 3,000 o hysbysebion bob dydd (Media Awareness Network). Os oes modd credu r ystadegyn hwnnw, fe ddaw plant yn naturiol yn ddefnyddwyr ac yn ddatgodwyr mwyfwy profiadol o destunau hysbysebion wrth iddynt aeddfedu n wybyddol, a thrwy gysylltiad byddant yn ymwneud ac yn cymryd rhan yn fwyfwy annibynnol ym marchnadle r defnyddwyr. Wrth i r cyfryngau torfol gydgyfeirio a throi n fwy rhyngweithiol, un o r meysydd twf pwysicaf o ran targedu r Farchnad Ieuenctid yw r Rhyngrwyd. Mae hynny n ddealladwy o gofio ein bod yn ymdrin â r garfan N-Gen (Schewe a Carlson, 2003: 4) sydd wedi tyfu i fyny gyda thechnoleg. Er bod economi r Rhyngrwyd drwyddo draw mewn cyflwr bregus, mae marchnata ar-lein i blant yn duedd sy n ffynnu. Noda Nueborne (2001) mai refeniw o hysbysebion sy n ariannu dros ddwy ran o dair o holl wefannau r Rhyngrwyd sydd wedi u cynllunio ar gyfer plant a r rhai yn eu harddegau. Mae amrywiol astudiaethau ymchwil (yn yr Unol Daleithiau n bennaf) wedi dangos bod plant rhwng 5 a 18 oed yn gwario llawer iawn iawn o arian ar-lein. Er mai r prif ddefnydd a wneir o r Rhyngrwyd yn yr oedran hwn yw e-byst, peiriannau chwilio, gemau, cerddoriaeth a gwaith cartref (gweler Tarpley, yn Singer a Singer, 2001), mae marchnatwyr yn dechrau manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y gynulleidfa gaeth a chynyddol helaeth hon. Bellach, dyfeisir gwefannau n ofalus i apelio at y sector hwn o r gynulleidfa. Mae tuedd i wefan fod yn lliwgar a denu sylw a chynnig eitemau-am-ddim a gemau ynghyd â gwybodaeth, a r cyfan wedi i seilio o amgylch eitemau a chynhyrchion y mae plant ifanc, plant 8-14 oed a phlant yn eu harddegau yn eu hadnabod. Gall hyn fod yn arbennig o effeithiol wrth feithrin teyrngarwch i frand, a denir plant at wefannau masnachol y Rhyngrwyd am i r gwefannau gael eu cynllunio i fod yn atyniadol i blant h.y., teimlant fod y cyfan yno er eu mwyn nhw a u bod yn byw yn eu gofod arbennig eu hunain (yn hytrach nag yn y byd y mae oedolion yn tra-arglwyddiaethu arno). Er bod canllawiau darlledu caeth iawn ynglŷn â r ffyrdd yr hysbysebir cynhyrchion ar y teledu yn enwedig o ran gwahanu hysbysebion oddi wrth gynnwys y rhaglenni i helpu plant i wahaniaethu rhyngddynt prin iawn yw r cyfyngiadau (hyd yn hyn) ar hysbysebu ar-lein (cymh. Kenway a Bullen, 2001: 92). Niwlog, yn aml, yw r ffin rhwng cynnwys addysgol neu wybodaethol a hysbysebion am gynhyrchion ar y Rhyngrwyd, er enghraifft (ibid. 116 ff). Bydd gwefannau n defnyddio gwybodaeth i feithrin ymwybyddiaeth o frandiau neu i gysylltu hoff gymeriadau cartŵn â gemau a gwybodaeth addysgol. Mewn gwirionedd, caiff cynhyrchion sy n gysylltiedig â rhaglenni eu hecsbloetio n ddidrugaredd ar wefannau sy n targedu ieuenctid, a hynny i gymaint graddau nes ei bod hi n anodd gwahaniaethu rhyngddynt a gwybodaeth.

73 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn 73 Gwelwyd ehangu rhyfeddol ar hysbysebu i blant dros y deng mlynedd diwethaf, ac mae amcanion, swyddogaethau a thechnegau targedu cynhyrchion at y Farchnad Ieuenctid yn esblygu n gyflym. Mae hysbysebwyr yn cydnabod bod plant erbyn hyn wedi magu llawer iawn o brofiad am eu bod wedi hen arfer defnyddio r cyfryngau, a thueddant i gredu (yn gam neu n gymwys) fod gan blant y gallu i benderfynu n wybodus ac yn annibynnol drostynt eu hunain. Gan fod y diddordeb yn y maes hwn wedi ailgynnau, gan fod y dinesydd-ddefnyddiwr wedi i eni a chan fod sylw ymchwil Ofcom wedi i hoelio ar y ddadl hon, mae hi n un y dylid ei monitro n ofalus. Byddai addysgwyr cyfryngol a swyddogion y llywodraeth yn dadlau mai addysgu yn erbyn negeseuon gwerthu targededig o r fath yw r ffordd orau ymlaen, sef arfogi plant â r sgiliau beirniadol allweddol i weld pa mor wag yw addewid nwyddau materol. Er enghraifft, traddododd Tessa Howell, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y pryd, araith mewn seminar ar Lythrennedd yn y Cyfryngau yn Ionawr 2004, ac ynddi fe roddodd bwys ar ddealltwriaeth o r cyfryngau, addysg a dinasyddiaeth (-ddefnyddiwr). Ar y llaw arall, mae n siŵr y croesawai rhieni sy n cael eu poeni i brynu pethau ryw ateb effeithiol i rwystro u plant rhag dod wyneb yn wyneb mor ddi-baid â negeseuon masnachol, p un ai ydynt yn eu deall neu beidio. Mae ymgyrchwyr mwy eithafol yn gwbl argyhoeddedig mai rhoi gwaharddiad llwyr ar hysbysebu i blant yw r unig ateb. Efallai y dylid cloi drwy awgrymu bod mater hysbysebu i blant yn fwy o gwestiwn o reswm a chydbwysedd yn hytrach nag o chwilio am ateb cwbl bendant i broblem. LLYFRYDDIAETH Acuff, Dan (1997) What Kids Buy and Why The Psychology of Marketing to Kids.Efrog Newydd a Llundain: Free Press. Advertising Association (U.K.) URL AEF (Advertising Education Forum) Cronfa ddata ar-lein o erthyglau sy n ymwneud â phob agwedd ar blant a hysbysebu URL BARB (Broadcasters Audience Research Board) URL Berger, Arthur Asa (1991) Media Analysis Techniques Revised Edition. Llundain: Cyhoeddiadau Sage. Bignall, Jonathan (1997) Media Semiotics An Introduction. Manceinion ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Manceinion. Brierley, Sean (2002) The Advertising Handbook (Ail Argraffiad) Llundain: Routledge. Buckingham, David (1993) Children Talking Television The Making of Television Literacy. Llundain: Gwasg Falmer. Buckingham, David (1996) Moving Images: Understanding Children s Emotional Responses to Television. Manceinion ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Manceinion. Bullmore, Jeremy (2003) Behind the Scenes in Advertising (Mark III) Henley-on-Thames: World Advertising Research Center. URL Calvert, S. L., A. C. Huston, B. A. Watkins a J. C. Wright (1982) The effects of selective attention to television forms of children s comprehension of content, Child Development 53: tt Clark, Eric (1988) The Wantmakers. Llundain: Hodder a Stoughton. Condry, John (1989) The Psychology of Television. New Jersey: Lawrence Erlbaum Associates. Cook, Guy (1992) The Discourse of Advertising. Llundain: Routledge. Corrigan, Peter (1997) The Sociology of Consumption. Llundain: Sage.

74 74 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn Corsaro, William A. (1997) The Sociology of Childhood. California, Llundain a New Delhi: Gwasg Pine Forge. Chandler, Daniel a Merris Griffiths (2000) Gender-Differentiated Production Features in Toy Commercials, Journal of Broadcasting and Electronic Media Haf 2000: tt URL Documents/short/toyads.html Davies, Máire Messenger (1989) Television is good for your kids. Llundain: Hilary Shipman. Del Vecchio, Gene (1997) Creating Ever-Cool A Marketer s Guide to a Kid s Heart Gretna: Cwmni Cyhoeddi Pelican. Durkin, Kevin (1984) Children s accounts of sex-role stereotypes in television, Communication Research 11 (3): tt Durkin, Kevin (1985) Television, Sex-Roles and Children. Milton Keynes a Philadelphia: Gwasg y Brifysgol Agored. Forceville, Charles (1996) Pictorial Metaphor in Advertising. Llundain ac Efrog Newydd: Routledge. Fowles, Jib (1996) Advertising and Popular Culture. London, Thousand Oaks & New Delhi: Cyhoeddiadau Sage. Goldman, Robert (1992) Reading Ads Socially. Llundain: Routledge. Griffiths, Merris (2002) Blue Worlds and Pink Worlds A Portrait of Intimate Polarity yn David Buckingham (gol.) Small Screens. Llundain: Gwasg Prifysgol Caerlŷr. URL pink.htm Gunter, Barrie (1985) Dimensions of Television Violence. Aldershot: Gower. Gunter, Barrie a McAleer, Jill (1997) Children and Television Second Edition. Llundain ac Efrog Newydd: Routledge. Gunter, Barrie a Furnham, Adrian (1998) Children as Consumers. Llundain: Routledge. Hall, Stuart, Dorothy Hobson, Andrew Lowe a Paul Willis (goln) (1980): Culture, Media, Language (Working Papers ) Llundain: Hutchinson. Harris, Richard Jackson (1994) A Cognitive Theory of Mass Communication Second Edition. New Jersey: Lawrence Erlbaum Associates. Hecker, Sidney a Stewart, David W. (1988) Nonverbal Communication in Advertising. Lexington, Toronto: D.C. Heath a r Cwmni. Jaglom, Leona M a Gardner, Howard (1981) Decoding the worlds of television, Studies in Visual Communication 7(1): tt Jowell, Tessa (27ain o Ionawr, 2004): Araith mewn Seminar ar Lythrennedd yn y Cyfryngau URL webarchive.nationalarchives.gov.uk/+/ aspx Kenway, Jane ac Bullen, Elizabeth (2001) Consuming Children. Maidenhead: Gwasg y Brifysgol Agored. Kline, Stephen (1993) Out of the Garden: Toys, TV and children s culture in the age of marketing. Llundain ac Efrog Newydd: Verso. Lindstrom, Martin a Seybold, Patricia B. (2003) BRANDchild. Llundain: Kogan Page. Manca, Luigi ac Manca, Alessandra (goln) (1994) Gender and Utopia in Advertising. Lisle, Illinois: Gwasg Procopian. McQuail, Denis (1994) Mass Communication Theory An Introduction Third Edition. London, Thousand Oaks a New Delhi: Cyhoeddiadau Sage.

75 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Hysbysebu a r Plentyn 75 Media Awareness Network (di-ddyddiad): Advertising and Consumerism: Advertising It s Everywhere URL Meyer, Manfred (gol.) (1983) Children and the Formal Features of Television Approaches and findings in experimental and formative research. Efrog Newydd, Llundain a Pharis: K.G. Saur. Noble, Grant (1975) Children in Front of the Small Screen. Llundain a Constable, California: Sage. Nueborne, Ellen (2001) For Kids of the Web, It s an Ad, Ad, Ad, Ad World BusinessWeek Lifestyle URL Ofcom (2004) Strategy and priorities for the promotion of media literacy. Llundain: Ofcom. URL stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/strategymedialit/summary/medialit.pdf Piaget, Jean (1978) The development of thought Equilibrium of cognitive structures. Rhydychen: Blackwell. Schewe, Charles a Carlson, Benny (2003) Age Matters Segmenting Swedish Markets by Generational Cohorts, Lund Institute of Economic Research Working Paper Series URL lufewp2003_003.htm Smith, Lois J. (1994) A content analysis of gender differences in children s advertising, Journal of Broadcasting and Electronic Media 38 (3): tt Tarpley, Todd (2001) Children, the Internet and other new technologies yn Dorothy Singer a Jerome Singer (goln.) The Handbook of Children and the Media. Llundain: Sage. Unnikrishnan, Namita a Bajpai, Shailaja (1996) The Impact of Television Advertising on Children (In India) Llundain, Thousand Oaks a New Delhi: Cyhoeddiadau Sage. Williams, Sally: When Children Rule, And Men Obey. Industry, 16eg o Chwefror Williamson, Judith (1978) Decoding Advertisements Ideology and Meaning in Advertising. Llundain ac Efrog Newydd: Marion Boyars. Winick, Charles, Lorne G. Williamson, Stuart F. Chuzmir a Mariann Pezzella Winick (1973) Children s Television Commerials A Content Analysis. Efrog Newydd: Praeger.

76 76 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau SENSORIAETH: Y LLYWODRAETH A R CYFRYNGAU EIFION LLOYD JONES Mae gan bawb hawl i ryddid barn a mynegiant heb ymyrraeth; ac i geisio, derbyn a rhannu gwybodaeth a syniadau mewn unrhyw gyfrwng ar draws ffiniau gwladwriaethol. Erthygl 19 Datganiad Byd-eang Hawliau Dynol, 1948 Er bod y dyfyniad uchod yn gwahardd sensoriaeth wleidyddol, go brin ei fod wedi llesteirio awydd nac ymdrech llywodraethau ledled y byd i amgylchynu eu gweinyddiaeth â chyfrinachedd er mwyn ynysu eu hunain rhag beirniadaeth. Beth, felly, yw sensoriaeth? Rhwng dau begwn eithaf honiad George Bernard Shaw mai r sensoriaeth eithaf yw llofruddiaeth a r cyhuddiad anhysbys fod pob golygu ynddo i hun yn sensoriaeth, mae dyfyniad yr Athro Michael Scammell yn fan cychwyn cystal ag yr un i ddiffinio sensoriaeth: The systematic control of the content of any communications medium by means of constitutional, judicial, administrative, financial or purely physical measures imposed directly by, or with the connivance of, the ruling power or a ruling elite. Fel elfen dderbyniol o lywodraeth dda y dechreuodd sensoriaeth, ac fe i hystyriwyd felly am dros fil o flynyddoedd cyn dechrau ei ddilorni. Mae r sensor yn hanu o Rufain, lle arferai warchod moesau cyhoeddus, ac ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid, gyda chynnydd a chwymp yr Eglwys Gristnogol yn Ewrop y i cysylltir fel dull o rwystro heresi. Cyn dyfeisio r wasg argraffu tua 1450, prin fod angen sensoriaeth ffurfiol a phrin fod ei weithredu yn ormod o broblem. Yna, ym 1501, dyma r Pab yn ceisio gwneud sensoriaeth yn gyffredin trwy wledydd cred, a llwyddodd ei olynydd i wneud hynny ym 1559 i Babyddion, sef Ewrop gyfan, ac eithrio r Deyrnas Unedig. Bu cysylltiad agos rhwng gwladwriaeth ac eglwys am flynyddoedd, fel bo r un sensoriaeth yn berthnasol i r ddau. Gyda dirywiad yng ngrym eithafol yr Eglwys adeg twf y cenedl-wladwriaethau seciwlar, ymateb yr Eglwys i r bygythiad oedd mwy o sensoriaeth. Ar yr un pryd, roedd y gwladwriaethau yn dechrau mabwysiadu eu sensoriaeth eu hunain. Yn Lloegr, bu brwydr arwyddocaol am sensoriaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg pan oedd y Ddeddf Drwyddedu yn gyfrifol am rwystro cyhoeddi pamffledi bradwrus, gyda John Milton yn cyhoeddi ei gyfrol Aeropagitica ym 1644 lle cafwyd yr ymosodiad cyntaf a r cryfaf ar sensoriaeth: Truth needs no licensing to make her victorious. Dros y canrifoedd, bu sensoriaeth yn llawforwyn i rym: grym yr unigolyn, y sefydliad neu r wladwriaeth: roedd yn estyniad o rym corfforol i r meddwl a r ysbryd. Ond tyfodd gwrthwynebiad i sensoriaeth, ac mae n debyg mai Voltaire, lladmerydd yr Oes Oleuedig ganol y ddeunawfed ganrif a ddywedodd: Rwy n casáu yr hyn rwyt ti n ei ddweud; ond byddwn yn amddiffyn hyd angau dy hawl di i w ddweud o. Ar y llaw arall, mae adegau hyd heddiw pan ystyrir sensoriaeth yn dderbyniol, hyd yn oed gan seneddau democrataidd. Adeg rhyfel, bydd trwch y boblogaeth yn cytuno â sensoriaeth. Gwelir ymestyn hyn wedyn i ryfel cartref, gwrthryfel neu gyfnod o argyfwng difrifol pan fo r boblogaeth yn tueddu i w dderbyn o hyd, er mai prif nod sensoriaeth bryd hynny yw cynnal y drefn bresennol.

77 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau 77 Ledled y byd, radio a theledu yw r elfennau cyntaf i gael eu rheoli gan lywodraeth. Mae sawl dull yn cael ei fabwysiadu i reoli r cyfryngau: rheolaeth uniongyrchol y llywodraeth neu r blaid, llwytho rheolwyr y cyrff darlledu â phenodiadau r llywodraeth, a rheolau deddfol neu ariannol sy n gwneud y gyfundrefn yn gaeth i r llywodraeth. Dulliau cyfreithiol eraill sy n gyfystyr â sensoriaeth yw rhai troseddol fel Deddf Cyfrinachau Swyddogol a deddfau maswedd, a rhai sifil fel deddfau enllib a deddfau hawlfraint. Rhaid wrth drwydded gan y llywodraeth i ddarlledu: fe i caniateir ar hyn o bryd i r BBC ac Ofcom. Mae hawl gan yr Ysgrifennydd Cartref i orchymyn y BBC ac Ofcom i gynnwys neu hepgor rhaglenni neu ddefnydd arbennig. Ond go brin y byddai n defnyddio r hawl hon heddiw: mae dulliau llawer mwy cyfrwys o gael y maen gwleidyddol i wal y cyfryngau. Yn draddodiadol, mae r wasg a r cyfryngau wedi dadlau dros eu hawl hwy i ddatgelu gwybodaeth er mwyn gwarchod hawl y cyhoedd i wybod popeth. Ar y llaw arall, mae pob llywodraeth yn dadlau dros eu hawl hwythau i reoli r hyn a ddatgelir er mwyn gwarchod buddiannau r cyhoedd! Golyga hyn fod perthynas o dyndra parhaus rhwng y wasg/cyfryngau a r llywodraeth yn beth iach. Ond y cwestiwn tyngedfennol yw lle mae r ffin rhwng buddiannau r cyhoedd a buddiannau r blaid sy n rheoli? Dros y blynyddoedd, cafwyd enghreifftiau lu o wrthdaro rhwng y cyfryngau a llywodraeth y dydd oherwydd dehongliad gwahanol y naill a r llall o r hyn y dylid ei ddatgelu er budd y cyhoedd a phwy a ddylai gael yr hawl i ddarlledu ar adegau o argyfwng. Yn ei ddyddiau cynnar bu n rhaid i r BBC ddygymod â r Streic Gyffredinol ym 1926 pan oedd Winston Churchill eisiau defnyddio r hawl oedd gan y llywodraeth i feddiannu r gorfforaeth i wasanaethu r llywodraeth honno. Ymateb prif reolwr y BBC, John Reith, oedd y byddai r streicwyr yn diffodd y gwasanaeth pe byddai r llywodraeth yn ymyrryd. Roedd Reith am i r Gorfforaeth weithredu fel cymodwr, ond roedd yn bwysicach sicrhau na fyddai unrhyw ymyrraeth ar y BBC o du r llywodraeth. Yn ystod y Streic Gyffredinol dewiswyd cyfranwyr y BBC yn ofalus. Cafodd Esgob Pabyddol ddatgan y gallai streicio fod yn bechadurus, ond rhwystrwyd Archesgob Caergaint rhag apelio am drafodaethau gan y gallai hynny ymddangos fel cydymdeimlad â r undebau. Roedd gweinidogion y Llywodraeth yn cael darlledu n gyson, ond nid felly Arweinydd yr Wrthblaid rhag ofn y byddai hynny n anogaeth i r streicwyr. Dim syndod fod y streicwyr yn galw r BBC yn British Falsehood Company, ac yn ei ystyried fel arf y Llywodraeth. Llywodraeth Geidwadol 1954 a ddangosodd yr awgrym cyntaf o sensoriaeth wleidyddol. Gyda r cynhyrchydd radio Nesta Pain am wneud rhaglen am effeithiau gwyddonol bom hydrogen, roedd llythyr y Postfeistr Cyffredinol, yr Arglwydd De La Warr, at Gadeirydd Llywodraethwyr y BBC, Syr Alexander Cadogan, yn arwyddocaol gan fod y llywodraeth ar fin cyhoeddi eu bod am gynhyrchu bom-h fel arf newydd: The wide dissemination in a programme of information about thermo-nuclear weapons might well raise important issues of public policy Let me see in advance the script of any programme so that the government may consider whether it is necessary in the public interest that such guidance be issued. Er bod llythyr ymateb Cadogan yn amddiffyn annibyniaeth y BBC, y diwrnod hwnnw penderfynodd Bwrdd y Rheolwyr: no programmes should be broadcast about atomic weapons. Yn dilyn llythyr y Prif Weinidog, Churchill, yn diolch i r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Syr Ian Jacob, ychwanegodd Cadogan: the corporation had no desire to embarass the government on this very delicate matter.

78 78 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau Roedd cychwyn ITV ym 1955 yn gychwyn pellhau perthynas y llywodraeth a theledu. Nid oedd ITN mor ddibynnol â r BBC ar ewyllys da y llywodraeth i godi cost trwydded ddarlledu er mwyn eu cyllido, ac felly gallai herio n fwy amharchus. Er mwyn denu gwylwyr, bu n rhaid i r BBC efelychu r duedd hon, a phenodwyd rhai o gyn-staff ITN i wneud hynny, yn cynnwys Robin Day. Ym 1965 y cafwyd y gwrthdaro mawr cyntaf am raglen deledu, The War Game, pan oedd Peter Watkins o r BBC yn gwneud ffilm ddogfen ddramatig am ganlyniadau cymdeithasol a phersonol rhyfel niwclear ym Mhrydain. Y BBC ei hun benderfynodd ei gwahardd, drwy honni the effect of the film has been judged by the BBC to be too horrifying for the medium of broadcasting a i bod wedi i gwahardd not as a result of outside pressure of any kind. Mae n amlwg bellach, fodd bynnag, mai natur wleidyddol y cynnwys oedd yr ystyriaeth bennaf. Roedd cadeirydd Llywodraethwyr y BBC bryd hynny, yr Arglwydd Normanbrook, yn gyn-bennaeth y Gwasanaeth Sifil ac yn Ysgrifennydd y Cabinet. Cyfaddefodd: It is clear that Whitehall will be relieved if we do not show it, gan gydnabod yn ddiweddarach mai r gwir reswm oedd the film might have a significant effect on public attitudes towards the policy of the nuclear deterrent. Dangoswyd y rhaglen ym 1985, ond gan ddal i honni nas gwnaed cyn hynny am ei bod yn too shocking and too disturbing to transmit! Ac yntau heb weithio i r BBC ers 1965, dywedodd Peter Watkins ym 1980: The middle echelons of television are now carrying out a wave of censorship and self-censorship unparalleled since the inception of public service broadcasting. Helyntion Gogledd Iwerddon ers dechrau r saithdegau sy n dangos ar ei orau neu ar ei waethaf y gwrthdaro rhwng y llywodraeth a r cyfryngau ym maes sensoriaeth boed honno n sensoriaeth uniongyrchol trwy ddeddf a gorchymyn neu n sensoriaeth anuniongyrchol trwy ddylanwad a pherswâd. Yn ei gyfrol, Hidden Agendas, mae r ymgyrchydd teledu dogfennol, John Pilger, yn crynhoi r diffygion a ddeilliodd o r sensoriaeth honno: To British viewers, listeners and readers, northern Ireland is synonymous with a cycle of malicious violence perpetrated exclusively by the IRA. Beyond that is an arcane struggle between two tribes, with the British authorities honourably in the middle. That is the official version, and attempts by British journalists and broadcasters to tell the truth about the state s pivotal part in the denial of human rights and justice in Ireland are likely to end up on a list of hundreds of programmes on Ireland that have been banned, doctored, delayed or neutered. Ym 1972, ceisiodd y llywodraeth annog y BBC i beidio â dangos dadl ffurfiol deirawr am sail yr helyntion yng Ngogledd Iwerddon, The Question of Ulster. Ond mynnodd y BBC ei dangos er mwyn profi ei annibyniaeth o ddylanwad y llywodraeth. Roedd Adroddiad yr Arglwydd Annan am deledu ym 1977 yn crynhoi sail y gwrthdaro rhwng y cyfryngau a r llywodraeth wrth drafod terfysgaeth: Terrorism feeds off publicity: publicity is its main hope of intimidating government and the public: it gives it further chance for recruitment. By killing and destroying, the terrorists are bound to extort publicity because such news will be reported. Safbwynt Robin Walsh, o r BBC yng Ngogledd Iwerddon, oedd na ddylid cuddio gwybodaeth:

79 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau 79 The BBC, argue its critics, should support law and order. I suggest that it is its duty to report law and order. To support it in the way that many would have it do would be to turn a blind eye to illegalities and would do little for the credibility of the security forces. Ym Medi 1979, pan oedd Panorama wrthi n ffilmio rhaglen ar y Provisional IRA galwyd hwy n gudd i bentref Carrickmore i weld yr IRA yn gweithredu fel heddlu yno trwy rwystro trafnidiaeth, a hynny er cyhoeddusrwydd. Ond pan ddatgelodd yr IRA yr hanes eu hunain cyn i r rhaglen gael ei dangos, cyhuddwyd y BBC yn y Senedd o arranging for IRA gunmen to take over an Ulster village for an afternoon as a stunt, ac o deyrnfradwriaeth. Cyhoeddodd y prif weinidog newydd, Margaret Thatcher, nad dyma r tro cyntaf i r llywodraeth orfod trafod peth fel hyn gyda r BBC, ac y dylai r gorfforaeth put its house in order. Fis Tachwedd, aeth heddlu Scotland Yard i Stiwdio r BBC i feddiannu r ffilm o dan y Ddeddf Rhwystro Terfysgaeth, sef dull o sensoriaeth uniongyrchol. Ond roedd y BBC eisoes wedi penderfynu peidio â dangos y rhaglen. Ym 1980, creodd rhaglen ddogfen Antony Thomas i un o gwmnïau ITV ar y pryd, ATV, am y meddylfryd Arabaidd, Death of a Princess, y gwrthdaro mawr cyntaf i deledu masnachol. Roedd yn canolbwyntio ar y Dywysoges Misha, 23 oed, a ddienyddiwyd gyda i chariad am odineb ym Bu ffrae ddiplomataidd rhwng llywodraeth Saudi Arabia a Swyddfa Dramor Prydain; roedd Saudi yn gwsmer Prydeinig gwerthfawr. It doesn t matter whether it s true or not, it s the disrespect that matters oedd barn un Arab pwysig iawn. Ceisiodd y ddwy ochr, Saudi a Phrydain, berswadio Rheolwr ATV rhag dangos y ffilm yn llawn. Pan wrthododd, anfonwyd llysgennad Prydain o Saudi, a chondemniwyd y Rheolwr yn San Steffan am ei styfnigrwydd gan yr Arglwydd Jaonues: When you have a film that is so against our national interest, display should be prohibited by a resolution of the Commons. Ond ymatebodd Peter Shore ar ran y Blaid Lafur: Whilst we should respect the culture and traditions of their country, we should expect an equal respect for our own traditions, of which freedom of the press and information is a vital part. Cyn y rhyfel yn y Malvinas/Falklands ym 1982, bu r rhaglen Panorama yn gwyntyllu gwrthwynebiad dau aelod seneddol Ceidwadol i driniaeth annoeth Margaret Thatcher o gysylltiadau diplomataidd rhyngwladol, gyda chyfweliad byw â Cecil Parkinson o r Cabinet Rhyfel fel cydbwysedd. Ond cafwyd protestiadau ffyrnig wedi r rhaglen gan y Prif Weinidog a llu o Dorïaid. Soniodd Thatcher am: BBC s responsibility to stand up for our boys and the cause of democracy, gan ychwanegu: I know how strongly people feel that the case of our country is not being put with sufficient vigour on certain BBC programmes. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cyfnod Margaret Thatcher fel Prif Weinidog wedi bod y gwaethaf i r BBC, fel y soniodd Ray Fitzwalter: Thatcher broke the rules to bolster her own interests in appointing Tories as both chairman and deputy of the board of governors: Stuart Young, an accountant from her own constituency as chair, and a Tory placeman as deputy William Rees Mogg. She then excluded from the board anyone who was not one of us. Then she installed a Tory businessman, George Russell, as chair of the ITC, with far right Lord Chalfont as his embarrassing spokesman. She abused the system with unprecedented self-interest. Roedd ganddi weision ffyddlon o fewn ei phlaid, hefyd, a fyddai n mwynhau enllibio r BBC: pobl fel y cadeirydd bryd hynny, Norman Tebbit, a ddisgrifiodd y gorfforaeth ganol yr wythdegau fel yr insufferable, smug, sanctimonious, naive, guilt-ridden, wet, pink, orthodoxy of that sunset home of that third-rate decade, the sixties. Erbyn Rhagfyr 1987, roedd newyddiadurwyr yn bygwth gwrthod cydweithredu gyda threfn y D-Notice sef cyfundrefn sensoriaeth wirfoddol y wasg a r cyfryngau mewn achosion o ddiogelwch y wladwriaeth

80 80 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau ar ôl i r llywodraeth rwystro r BBC rhag darlledu rhaglen ar y gwasanaethau diogelwch, My Country Right or Wrong. Roedd y BBC wedi trafod y rhaglen gydag ysgrifennydd Pwyllgor y D-Notice a chael caniatâd darlledu, ond defnyddiwyd y llysoedd i rwystro r darllediad gan y llywodraeth mewn gwrandawiad na chafodd y BBC wybod amdano na i gynrychioli ynddo! Ddiwedd y flwyddyn honno, roedd pob papur newydd drwy r byd fwy neu lai yn rhydd i ymchwilio i r honiadau o dwyll a gweithredu amheus gan Wasanaeth Cudd Prydain a wnaed yn llyfr Peter Wright, Spycatcher. Ond defnyddiodd llywodraeth Prydain y llysoedd i rwystro r cyfryngau yma rhag gwneud hynny! Oherwydd y rhwystr cyfreithiol, ni allai r Senedd drafod y llyfr, ychwaith. Ym 1991 y daeth dedfryd llys yn cefnogi gwrthwynebiad yr Observer a r Guardian i gyfyngiadau r llywodraeth ym Y rhaglen deledu unigol y bu r dadlau mwyaf yn ei chylch oedd un am Ogledd Iwerddon yn y gyfres ddogfennol Real Lives ym Roedd y cynhyrchydd profiadol Paul Hamann eisoes wedi gwneud wyth rhaglen am y dalaith, ac am wneud un arall o r enw At the Edge of the Union er mwyn dangos y pegynnu barn oedd yno, gan fod cynrychiolwyr etholedig y ddwy ochr yn cymeradwyo lladd fel dull derbyniol o weithredu. Dewisodd bortreadu bywyd a syniadau Martin McGuinness o Sinn Féin a Gregory Campbell, Unoliaethwr eithafol. Gan fod hwn yn bwnc sensitif, cyfeiriodd Will Wyatt, pennaeth dogfen y BBC ar y pryd, at hualau Newyddion a Materion Cyfoes: Interviews with individuals who are deemed by the Assistant Director General to be closely associated with a terrorist organisation may not be sought or transmitted without the prior permission of the Director General. Ond atebodd Eddie Mirzoeff, golygydd y gyfres ddogfen Real Lives, fod y ddau wedi ymddangos yn gyson ar radio a theledu fel cynrychiolwyr etholedig, ac mai rhaglen ddogfen oedd hon, beth bynnag. Roedd Rheolwr y BBC yng Ngogledd Iwerddon, James Hawthorne, yn bendant, hefyd, nad oedd y cyfyngiadau uchod yn berthnasol i gynrychiolwyr etholedig. Ffilmiwyd y rhaglen yn ystod Ebrill a thridiau ymgyrch etholiadol ym Mai. Erbyn diwedd Mehefin, roedd nifer o benaethiaid y BBC wedi gweld y ffilm, gan gynnwys Pennaeth Rhaglenni Gogledd Iwerddon ar y pryd, Arwel Ellis Owen. Eu teimlad hwy oedd fod cydbwysedd llwyr yn y rhaglen rhwng safbwynt y ddau, gan ddangos ffieidd-dra safbwynt eithafol y ddwy ochr. Yn dilyn herwgipio awyren TWA 847 yn Beirut gan Fwslemiaid Shiaidd yn gynharach y flwyddyn honno, roedd yr herwyr wedi defnyddio r cyfryngau yn gelfydd iawn i gyflwyno u hachos eu hunain. Ymateb Margaret Thatcher i hyn oedd datgan na ddylai terfysgwyr gael the oxygen of publicity. Ddiwedd Gorffennaf, roedd Thatcher yn Washington heb wybod am fwriad y BBC i deledu At the Edge of the Union. Ond roedd gohebydd The Times oedd yno gyda hi yn gwybod am y rhaglen a gofynnodd gwestiwn haniaethol iddi beth fyddai ei hymateb pe bai rhywun yn gwneud rhaglen o r fath? Condemniodd y prif weinidog y syniad yn llwyr gan ddatgan na ddylid dangos dim o r fath. Fel pennaeth yr IRA, Martin McGuinness fyddai wedi trefnu bomio gwesty r Toriaid yn Brighton ym 1984 lle lladdwyd ac anafwyd rhai o i chyfeillion a lle gallai hithau fod wedi dioddef anafiadau neu waeth. Ddiwrnod wedi r holi yn Washington, Gorffennaf 29ain, penderfynodd Bwrdd Rheolwyr y BBC yn unfrydol y dylid dangos y rhaglen. Yr un diwrnod, ac yntau hefyd heb weld y ffilm, ysgrifennodd Leon Brittan, yr Ysgrifennydd Cartref, at Gadeirydd Llywodraethwyr y BBC, Stuart Young: It is no part of my task as the Minister with responsibility for broadcasting policy generally to attempt to impose an act of censorship on what should be broadcast in particular programmes

81 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau 81 [But] It must be damaging to security and therefore wholly contrary to the public interest to provide a boost to the morale of the terrorists and their apologists in this way. I cannot believe that the BBC would wish to give succour to terrorist organisations and it is for this reason that I hope that you and your colleagues will agree on reflection that the Real Lives programme should not be broadcast. Y diwrnod canlynol cynhaliwyd cyfarfod rhwng Bwrdd y Rheolwyr, sef swyddogion pwysica r BBC, a Bwrdd y Llywodraethwyr, sef pwysigion a ddewiswyd gan y llywodraeth i oruchwylio r BBC, dan gadeiryddiaeth Stuart Young. Roedd tynged y rhaglen yn dibynnu ar y ffaith a fyddai r Llywodraethwyr am weld y ffilm eu hunain. Nid oedd y Llywodraethwyr wedi gwylio rhaglen ymlaen llaw fel hyn ers y portread beirniadol o Weinidogion Llafur, Yesterday s Men, ddechrau r saithdegau. Wrth wylio unrhyw raglen a phenderfynu wedyn a oedd hi n addas i w darlledu, roedd y Llywodraethwyr yn gwadu eu swyddogaeth fel llys apêl i r cyhoedd a allai gwyno wrthynt na ddylid bod wedi darlledu r rhaglen honno. Hynny yw, unwaith roedd y Llywodraethwyr wedi penderfynu eu hunain y gellid darlledu rhaglen, sut y gellid disgwyl iddynt ystyried yn wrthrychol a diduedd a ddylid bod wedi ei darlledu? Roedd yr Arglwydd Annan wedi datgan ym 1976: Many years of experience have shown that the Director General and his management should decide editorial issues, and the governors come down on them like a ton of bricks after the programme is over, if they think they are wrong. You may say that the damage would then have been done, and you would be right. But that is the price you pay for a free broadcasting system. Yn y cyfarfod am Real Lives, dadleuodd is-gadeirydd y Llywodraethwyr, William Rees-Mogg, y byddai n ffôl i benderfynu ei thynged heb weld y ffilm. Dadleuodd Bill Cotton ar ran y Rheolwyr mai eu dyletswydd hwy oedd rheoli. Aethpwyd i bleidlais oedd yn gyfartal 5-5, gyda Young yn ymatal, ond dyma ddadlau pellach yn troi r fantol dros wrthod darlledu. Roedd y Rheolwyr a r Llywodraethwyr benben! Yng ngeiriau un Llywodraethwr anhysbys: To start with, we all wanted to screen the programme if we could. There was a general desire to support the ordinary decision-making process inside the BBC. We were unanimous in our dislike of being pushed around by the government Once we d seen the film, there was no doubt that the vote would go against it. The opponents argument was that television is a great image-maker. Once you show a terrorist as a nice guy with a baby on his knee, it becomes difficult to shake that image. Dim ond Llywodraethwr y BBC yng Nghymru, Alwyn Roberts, oedd yn gwrthwynebu r penderfyniad, gan annog mân-doriadau ac eglurhad ar ddechrau r ffilm o i hamcanion yn hytrach na i gwahardd. Credai fod dangos annibyniaeth y BBC oddi wrth y llywodraeth yn bwysicach nag unrhyw raglen unigol. Geiriau un Rheolwr siomedig oedd: It was a vote of no confidence in the Board of Management. Roedd staff y BBC, hefyd, wedi u rhyfeddu gan weld y sensoriaeth yn tanseilio annibyniaeth y gorfforaeth. Yn ôl Syr Hugh Greene, y Cyfarwyddwr Cyffredinol rhwng 1960 a 1969, dyma un o r diwrnodau mwyaf tyngedfennol yn hanes y Gorfforaeth: To pretend that there was no surrender to the government shows a contempt for the common sense of the BBC staff and its audience. Pan oedd y ffilm i fod i w theledu, Awst 7fed, cynhaliwyd streic undydd gan newyddiadurwyr a thechnegwyr y BBC, gyda u cynghreirwyr yn ITN yn eu cefnogi. Cyhuddwyd y llywodraeth o sensoriaeth anuniongyrchol, gyda gwledydd tramor yn cyhuddo r BBC o fod yn lladmerydd Llywodraeth Prydain.

82 82 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau Dichon mai camgymeriad Margaret Thatcher oedd ymddangos ar y rhaglen Newsnight yn diolch i r BBC am wahardd y ffilm oherwydd fe i dangoswyd rai wythnosau wedyn, gyda mân-newidiadau ac ychwanegiadau fel yr awgrymodd Alwyn Roberts, ar ôl i r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Alasdair Milne, ddychwelyd o i wyliau fis Gorffennaf a galw cyfarfod arall o Fwrdd y Llywodraethwyr. Wrth edrych yn ôl ar yr helynt yn ddiweddarach, nododd Brian Wenham, Cyfarwyddwr Rhaglenni Teledu r BBC ar y pryd: The Real Lives crisis, which the governors banned, left Milne badly holed below the waterline. But it took the arrival of Marmaduke Hussey as chairman in 1986, instead of Stuart Young, to ensure a firm break with the past. Hussey was to be Thatcher s hatchet. Milne lasted a few months. The new BBC took on Tory colours. Diswyddwyd Milne ym 1987, ond roedd Paul Hamann yn bennaeth dogfen y BBC erbyn Gan droi oddi wrth y BBC at deledu masnachol, pur arwyddocaol, os nad amheus, oedd y canlyniadau i r cwmni cynhyrchu, Thames Television, am un o raglenni ITV ym 1988, Death on the Rock. Roedd tri aelod o r IRA wedi u saethu n farw gan luoedd diogelwch yr SAS yn Gibraltar, ddydd Sul y 6ed o Fawrth: Sean Savage, Daniel McCann a Mairead Farrell. Yn ôl yr adroddiadau cynnar, roedd y tri yn arfog ac roedd bom wedi i chanfod mewn car gerllaw. Pan adroddodd y Gweinidog Tramor, Syr Geoffrey Howe, wrth Dŷ r Cyffredin y diwrnod canlynol nad oedd ganddynt nac arfau na bom, penderfynodd Roger Bolton, golygydd cyfres Thames This Week, ymchwilio i r saethu ar gyfer rhaglen arbennig a fyddai n amau rhai o honiadau r llywodraeth. Gyda r rhaglen i w theledu ddydd Iau, Ebrill 28ain, archwiliwyd cynnwys y rhaglen dridiau cyn hynny gan ymgynghorydd cyfreithiol cwmni Thames a i chaniatáu fwy neu lai heb unrhyw ymyrraeth. Ond y diwrnod canlynol, ddydd Mawrth, cysylltodd Howe â Chadeirydd yr Awdurdod Darlledu Annibynnol, yr Arglwydd Thomson, yn gofyn iddo ohirio darlledu r rhaglen tan ar ôl y cwest i farwolaeth y tri ar y Graig. Ddiwrnod cyn y darlledu, gwyliwyd y rhaglen gan yr Awdurdod, yr IBA, a ofynnodd am dri newid. Cytunodd Thames â dau ohonynt a chafwyd cyfaddawd ar y trydydd. Ar y dydd Iau, cysylltodd Cyfarwyddwr yr Awdurdod, David Glencross, â swyddfa Howe i w hysbysu eu bod wedi caniatáu ar y lefel uchaf y gellid dangos y rhaglen. Ffoniodd Howe yn ôl, gan ofyn unwaith eto am ohirio r darlledu. Ond gollyngodd Howe yr wybodaeth i r wasg, hefyd; gofynnwyd cwestiynau yn Nhŷ r Cyffredin am trial by television a datganodd y Prif Weinidog Thatcher ei bod yn wallgof gyda r bwriad i ddarlledu: Force is the only language they understand. Trial by television is the day that freedom dies. Dangoswyd y rhaglen yn ôl y bwriad, ond y Sul canlynol ceisiodd ymchwiliad gohebwyr y Sunday Times danseilio hygrededd y rhaglen, tra cyhuddodd y Sun y rhaglen o fod yn piece of IRA propaganda. Dyma bapurau oedd yn fwy ffafriol i r Llywodraeth Geidwadol na r BBC, wrth gwrs. Fis Hydref, dan bwysau gwleidyddol mawr, sefydlodd cwmni Thames ymchwiliad i r rhaglen gyda chyfaill Howe, yr Arglwydd Windlesham, a Chwnsler y Frenhines, Richard Rampton, yn ei arwain. Roedd eu hadroddiad yr Ionawr canlynol yn cefnogi r rhaglen gyda dim ond tair beirniadaeth fechan am fanion. Ymateb Howe oedd cyhuddo r adroddiad o fod about television, by television, for television. Er bod y cwest gwreiddiol wedi cyfiawnhau r lladd, nid felly ymateb y Llys Ewropeaidd ar Iawnderau Dynol ym Dywedwyd yno fod y lladd yn ddiangen ac wedi amddifadu r tri o r hawl i fywyd dan gonfensiwn rhyngwladol. Er na chaniatawyd iawndal i deuluoedd y rhai a laddwyd, gorfodwyd y llywodraeth i dalu costau r achos yn gwbl groes i w dymuniad.

83 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau 83 Yn dilyn helynt y rhaglen, cydnabu Cyfarwyddwr yr Awdurdod Darlledu Annibynnol, David Glencross: We could see the Government s attempt at intimidation, but we underestimated their feeling, as it led to the 1990 Broadcasting Act which destabilised ITV and took away ITC s overview of the schedules, distancing the regulator from transmission and making the ITC more of an economic regulator. Deddf Ddarlledu 1990, felly, a arweiniodd at sefydlu r Comisiwn Teledu Annibynnol y corff rheoli newydd gyda i aelodau wedi u penodi gan lywodraeth Thatcher. A r corff hwnnw, yr ITC, a benderfynodd ddileu trwydded ddarlledu cwmni Thames a i rhoi i gwmni Carlton. Mae r cyd-ddigwyddiad yn rhyfeddol! Dyna ddwy enghraifft, felly, ar y BBC ac ITV, o sensoriaeth anuniongyrchol lle ceisiodd y llywodraeth ddylanwadu ar unigolion penodol er mwyn rhwystro darlledu rhaglenni am Iwerddon a oedd yn cyhoeddi deunydd nad oeddent hwy yn dymuno i rannu â r cyhoedd. Cawsant lwyddiant dros dro ym 1985, ond anwybyddwyd eu cais ym Ychydig fisoedd ar ôl darlledu Death on the Rock, cyflwynwyd sensoriaeth uniongyrchol yn Hydref y flwyddyn honno trwy ddeddf y Northern Ireland Notice, oedd yn ymgais i sensro llefarwyr mudiadau terfysgol a r blaid wleidyddol Sinn Féin. Rhwystrwyd darlledu cyfweliad gydag unrhyw gynrychiolydd o r cyrff hyn gan fygwth y byddai torri r gwaharddiad yn gallu arwain at ddiddymu siarter y BBC a thrwydded ITV. Ond nid oedd y ddeddf yn rhwystro r cyrff rhag dangos y llefarwyr gyda throslais actor yn datgan eu union eiriau. Dyma sefyllfa hurt ar yr olwg gyntaf, ond roedd yn sicrhau na chynhelid unrhyw gyfweliad byw, ac y câi unrhyw ddatganiad ganddynt ei olygu n ofalus cyn ei ddarlledu. Condemniwyd sensoriaeth o r fath gan brif weithredwr ITN, David Gordon, a honnai ei bod yn arddangos y cyfryngau fel lladmerydd y llywodraeth a i bod hefyd yn aneffeithiol gan nad oedd yn rhwystro trais terfysgaeth ond yn hytrach ei bod yn rhwystro r cyfryngau rhag datgelu pwy oedd yn gyfrifol am derfysgaeth. Yn wir, cyn gweithredu r gwaharddiad yn Hydref, dim ond deg munud o leisiau Sinn Féin a glywyd ar ITN ers Ionawr y cyntaf y flwyddyn honno. Roedd darlledwyr wedi bod yn ofalus ers tro i ymgynghori gyda u penaethiaid os oeddent am ddangos Sinn Féin o gwbl. Yn Iwerddon rydd y dilëwyd y rhwystr gyntaf yn Ionawr 1994, ond roedd pob cyfweliad â Sinn Féin ar RTÉ, y gwasanaeth teledu cenedlaethol, yn ddarostyngedig i Adran 18 eu Deddf Ddarlledu oedd yn rhwystro anything which may reasonably be regarded as likely to promote, or incite to, crime or undermine the authority of the State. Fis Medi r flwyddyn honno, codwyd y gwaharddiad yno ar gyfweliadau byw yn ogystal, ac ar y pymthegfed o r mis codwyd gwaharddiad llywodraeth Prydain yn dilyn cadoediad yr IRA ar y cyntaf o Fedi. Mewn erthygl olygyddol yn y cylchgrawn cyfryngol, Broadcast, honnwyd : The ban had little to do with starving the terrorists of the oxygen of publicity and everything to do with using broadcasting as a political lever. Yn Ebrill 2001, rhwystrodd y Weinyddiaeth Amddiffyn gwmni teledu Ulster rhag darlledu rhaglen ddogfen lle roedd cyn-filwr yn honni fod penaethiaid y fyddin yn gwybod ei fod wedi cynorthwyo i lofruddio aelodau r gwasanaethau diogelwch pan oedd wedi i osod fel asiant cudd o fewn yr IRA. Rhwng 1970 a Mehefin 1993, roedd 41 o raglenni am Ogledd Iwerddon wedi u rhwystro rhag cael eu darlledu gan yr awdurdodau, 33 wedi u haddasu mewn rhyw ffordd a 31 wedi u gohirio am gyfnod. Canlyniad hyn oedd fod stori newyddion fwyaf a mwyaf treisiol y chwarter canrif hwnnw heb ei hadrodd yn llawn. Oherwydd sensoriaeth uniongyrchol yn rhwystro darlledu a sensoriaeth anuniongyrchol o ran

84 84 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau dylanwadu ar unigolion, methodd y cyfryngau ag egluro i r cyhoedd pwy yn union oedd yr IRA a pham eu bod yn ymladd mor ffyrnig. Gyda Llafur yn ôl mewn grym erbyn 1998, parhau oedd y sensoriaeth wleidyddol yn Lloegr, hefyd, yn orfodol ac yn wirfoddol. Yn Ebrill, gorchmynnodd ITV y Parchedig Ddoethur Rob Frost, gweinidog Wesleaidd, i dyneru ei feirniadaeth o r prif weinidog Tony Blair a Llafur Newydd mewn gwasanaeth oedd i w ddarlledu n fyw. Yn Awst, rhwystrodd y llywodraeth ohebydd Panorama r BBC, Mark Urban, rhag datgelu manylion cynllwyn honedig gan swyddogion MI6 i lofruddio arweinydd Libya, y Cadfridog Gadaffi. Ym 1998, hefyd, yr honnodd pennaeth newyddion y BBC, Richard Clemmo, fod gweinidogion y llywodraeth yn dewis ymddangos ar raglenni poblogaidd a sioeau siarad i w holi n gyfeillgar yn hytrach na wynebu croesholi miniocach rhaglenni newyddion a materion cyfoes. Roedd Alastair Campbell, Cyfarwyddwr Cyfathrebu r prif weinidog, wedi gofyn mewn llythyr yn The Times: What is the point of traipsing out to W12 [Canolfan Deledu r BBC yng ngorllewin Llundain] late at night so that Jeremy [Paxman] can try to persuade the public that I m a criminal? Erbyn y mis Mawrth canlynol, adeg y rhyfel yn Serbia, roedd y Swyddfa Dramor a r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyhuddo excessively sceptical tone y BBC, gan honni: The newspapers have been very supportive, but we are getting massacared by the broadcasters. Beirniadwyd holi John Humphrys ar y rhaglen radio Today, yn ogystal ag adroddiadau John Simpson o Felgrâd, tra rhwystrwyd Jeremy Paxman rhag cyf-weld Tony Blair yn dilyn ymyrraeth gan Downing Street. Roedd Simpson o i gof fod Llafur yn ei gyhuddo o dyneru ei adroddiadau yn ôl dymuniad yr Arlywydd Milosovich yn Serbia: Journalism is about telling people more, not less. I said what I bloody well wanted, and find it ludicrous and offensive to suggest that I was this glove-puppet for Milosevic. It s really, really depressing. Dichon fod un o r sylwebyddion craffaf ar y berthynas rhwng y cyfryngau a r llywodraeth, Roy Greenslade, wedi deall pam fod troellwyr newyddion Llafur Newydd mor awyddus i reoli r wasg a r cyfryngau. Mewn erthygl yn y Media Guardian ym Mehefin 2002, honna mai r driniaeth a gafodd Neil Kinnock oedd y sail: Alastair Campbell and Peter Mandelson were both close to Labour leader Neil Kinnock and watched him suffer from blatantly unfair and often untrue reporting, while Labour s 1989 conference was greeted in the Sun with: Opening Today: a nearly new show starring Kinnochio. Gone with the Windbag. They were determined that Tony Blair should not suffer the same kind of character assassination as Kinnock and set out to tame the beastly media. It meant exercising as much control as possible, by kindness or cruelty, over the legion of TV, radio & newspaper correspondents on the Westminster beat. Roedd golygydd gwleidyddol y Spectator wedi datgelu ochr arall i Alastair Campbell ddeufis ynghynt, a r rheswm pam fod newyddiadurwyr yn gyndyn o wrando arno: Long and bitter experience has taught us that Alastair Campbell cannot always be trusted to tell the truth he has just got a fanatical, passionate loyalty to Blair. Sometimes that loyalty overrides other values, such as honesty: he has lied to me in the past, and to other lobby correspondents. He has the audacity to tell the press to treat prominent public figures with respect, and I agree with him. But Campbell led a repellant campaign of personal vilification against John Major, who he once described as this piece of lettuce that passes for

85 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau 85 prime minister. On one trip, Major came back to chat to reporters at the rear of the plane: Oh, sod off prime minister, Campbell claimed in a newspaper column he had said, can t you tell I m doing my expenses? That s why his new-found concern for high-mindedness in public sounds a false note. Erbyn mis Mawrth 2003, roedd Roger Mosey, pennaeth newyddion teledu r BBC, yn gweld fod sensoriaeth uniongyrchol, a hyd yn oed cynghori bonheddig y llywodraeth, yn colli u grym gan ei bod mor amhosibl cyfyngu gwybodaeth yn yr unfed ganrif ar hugain: In their place come the more sophisticated techniques of modern media management. Cyrhaeddodd y gwrthdaro rhwng y llywodraeth a r cyfryngau benllanw trist yn haf y flwyddyn honno, gyda hunanladdiad y gwyddonydd blaenllaw, y Dr David Kelly. Adroddiadau r BBC am gyfiawnhad y llywodraeth dros fynd i ryfel yn erbyn Irac oedd sail y cecru gwaethaf rhwng y gorfforaeth a Llafur Newydd. Roedd y gohebydd Andrew Gilligan wedi datgan ar raglen Today Radio 4 fod ffynhonnell bwysig a dibynadwy yn honni fod Downing Street wedi gorliwio gallu Irac i ddefnyddio arfau dinistr byd-eang yn fwriadol er mwyn argyhoeddi r cyhoedd fod rhyfel yn anorfod, ac y gallai Saddam Hussein ymosod ar y gorllewin o fewn tri chwarter awr. Cefnogwyd adroddiad Gilligan gan lywodraethwyr y BBC, gan ddangos eu hannibyniaeth o lywodraeth Blair er bod eu cadeirydd, Gavyn Davies, a Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Greg Dyke, wedi bod yn gefnogwyr pybyr o r Blaid Lafur yn y gorffennol. Wrth i r ffrae chwerwi, ac i r llywodraeth geisio canfod ffynhonnell stori Gilligan, galwyd yr arbenigwr ar arfau, y Dr David Kelly, gerbron y pwyllgor Materion Tramor ar y pymthegfed o Orffennaf, lle cafodd ei fychanu gan yr aelod Llafur, Andrew Mackinlay. Ddeuddydd ar ôl gwylio r driniaeth a gafodd ar newyddion teledu, diflannodd y Dr Kelly o i gartref; canfyddwyd ei gorff y diwrnod canlynol. Sefydlodd y llywodraeth archwiliad manwl dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Hutton i amgylchiadau ei farwolaeth oedd yn gofyn sawl cwestiwn dyrys am weithgareddau r llywodraeth a r BBC, gan gynnwys pam fod y Weinyddiaeth Amddiffyn dan arweiniad y gweinidog, Geoffrey Hoon, wedi rhyddhau enw r Dr Kelly, a pha ran oedd gan Alastair Campbell, Cyfarwyddwr Cyfathrebu r prif weinidog, yn y broses o or-liwio a phwysleisio bygythiad brys Irac. Ond credai llawer o Aelodau Seneddol o bob plaid fod y ffrae rhwng y llywodraeth a r gorfforaeth wedi cuddio archwiliad llawer pwysicach, sef faint o sail oedd gan y llywodraeth dros fynd i ryfel o gwbl. Er mor drist a diangen oedd marwolaeth un gwyddonydd blaenllaw, teimlid mai pwysicach oedd gofyn pam yr anfonwyd degau o filwyr i w marwolaeth ac y lladdwyd cannoedd o Iraciaid diniwed. Gofyn y cwestiwn hwnnw oedd gohebydd y BBC, un o r cwestiynau oesol y mae llywodraethau yn gyndyn o u hateb. Yn y gorffennol, gallai r llywodraeth fod wedi defnyddio sensoriaeth uniongyrchol neu bwysau dylanwadol ar unigolion blaenllaw i atal datgelu gwybodaeth o r fath. Erbyn yr unfed ganrif ar hugain, ymddengys fod dulliau eraill o geisio rheoli gwybodaeth yn cael eu defnyddio, ond fod canlyniadau r rheiny yn gallu bod yn annisgwyl a thrychinebus. Annisgwyl, os nad trychinebus, oedd cynnwys adroddiad Hutton am y BBC. Ni welai unrhyw fai ar weithgareddau r llywodraeth, Blair na Campbell, ond roedd yn ddamniol ei gondemniad o r BBC. Yn ôl yr Arglwydd Elis-Thomas, roedd yr Arglwydd o Ogledd Iwerddon yn rhy barod i ystyried sensoriaeth fel yr ymateb naturiol i unrhyw feirniadaeth gan y cyfryngau o r llywodraeth. Cyhuddai r adroddiad y gohebydd Andrew Gilligan o honiadau di-sail gan gynnwys yr un difrifol iawn fod y llywodraeth yn gwybod, cyn iddynt ddatgan yn eu dogfen am arfau dinistriol y wlad, mai celwydd

86 86 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau oedd yr awgrym y gallai Irac ddefnyddio u harfau o fewn tri chwarter awr. Dywedodd Hutton ymhellach fod system olygyddol y BBC yn ddiffygiol gan i r rheolwyr fethu ag ymchwilio i gwynion y llywodraeth am adroddiad Gilligan, a chyhuddodd y Llywodraethwyr o beidio ag astudio adroddiadau a nodiadau Gilligan cyn amddiffyn y gohebydd a i waith. Yn dilyn cyhoeddi r adroddiad, ymddiswyddodd Gavyn Davies, Greg Dyke ac Andrew Gilligan. Dyma r tro cyntaf erioed i gadeirydd a chyfarwyddwr cyffredinol y BBC ymddiswyddo gyda i gilydd. Yn wreiddiol, doedd Dyke ddim wedi bwriadu mynd, ond pan ofynnodd am gefnogaeth Llywodraethwyr y BBC i wrthsefyll pwysau r llywodraeth Lafur, fe i gwrthodwyd ganddynt. Gwelwyd hyn gan lawer fel arwydd o barodrwydd sydyn Llywodraethwyr y BBC i blygu a phlesio r llywodraeth. Ond cynhaliwyd protestiadau byrfyfyr gan staff y BBC mewn sawl canolfan yn erbyn ymadawiad Dyke, gan ddatgan pryder gwirioneddol am ryddid newyddiadurwyr y BBC i herio r llywodraeth yn y dyfodol. Roedd Robert Harris yn yr Observer y Sul canlynol yn gweld patrwm hanesyddol yn yr argyfwng: It is one of the great hypocrisies of British public life that the BBC is independent of government control. Tony Blair claimed, I want to make it absolutely clear that I fully respect the independence of the BBC.Nothing could be further from the truth. Prime Ministers do not respect the independence of the BBC; they are obliged to tolerate it. But when their patience is strained, or they scent danger, they move with ruthless dispatch to show just how limited that independence really is. There have been just seven Directors General since Three have been obliged to resign as an indirect result of prime ministerial action. Harold Wilson s method of dispatching Hugh Greene was to appoint a Tory chairman, Charles Hill, in 1967 to rein him in. As Greene s biographer, Michael Tracey, puts it: Wilson had realised that the only way to change the BBC was to suffocate Greene slowly by providing him with a chairman with whom he could not work Greene resigned within two years. Alasdair Milne s sacking in 1987 was much more ruthless. Having antagonised Thatcher by defending BBC coverage of the Falklands War, and then by supporting a Panorama programme alleging far-right infiltration of the Tory party, she decided to install a chairman more to her liking, with instructions to sort out the BBC. Milne was sacked in three months. Lleisiwyd cefnogaeth i r BBC a syndod at ddyfarniad Hutton gan lu o sylwebyddion yn cynnwys Alasdair Milne. Yn ôl Bryan Appleyard, gohebydd y Sunday Times y Sul canlynol: The judgement is an affront to the evidence we have heard The dossier was sexed up in every imaginable meaning of the phrase. The hearings proved that beyond any doubt. Roedd Simon Hoggart yn y Guardian yn amheus o wrthrychedd Hutton: If the Prime Minister had written the report himself, it would have read much in the way that it did. Gweld cynrychiolydd y sefydliad yn amddiffyn y sefydliad yn erbyn haerllugrwydd y cyfryngau yr oedd Hoggart, tra bu Jonathan Freedland yn llawer mwy deifiol am y barnwr yn yr un papur: Who exactly is this man? Why was he chosen for this task? Many remember Lord Widgery s similar whitewash job on the Bloody Sunday case. Or the judge in the Archer trial who believed the fragrance of wife Mary made it unimaginable that Jeffrey would have used a prostitute. Hutton seemed to have turned a deaf ear to crucial facts and testimony: transcripts of Newsnight journalist Susan Watts interview with Kelly which corroborated much of Gilligan s claims, not least that the 45-minute claim was out of all proportion. Roedd Jeremy Dear, ysgrifennydd cyffredinol yr NUJ, Undeb y Newyddiadurwyr, yn ffyrnig, hefyd:

87 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau 87 The report is selective, grossly one-sided and a serious threat to the future of investigative journalism. It does Andrew Gilligan and his story a grave injustice. We believe the criticism against him and the BBC is unfounded and potentially represents a serious threat to independent, investigative journalism. Un cysur i r BBC a newyddiaduraeth wrthrychol gwledydd Prydain yn gyffredinol oedd ymateb y cyhoedd yn dilyn cyhoeddi adroddiad Hutton. Roedd 55 y cant o r ddwy fil a holwyd yn credu fod Hutton wedi gwyngalchu r llywodraeth yn ormodol, tra mai dim ond 26 y cant oedd yn gweld yr adroddiad yn gytbwys. Yn fwy arwyddocaol, roedd dros deirgwaith mwy o bobl yn dal i ymddiried yn y BBC i ddatgan y gwirionedd yn hytrach na r llywodraeth. Yn y Sunday Times y Sul canlynol yr amddiffynnodd Greg Dyke ei hun a r BBC, gan honni am Hutton: completely failed to acknowledge the pressure that No.10 had been putting on us. Dywedodd fod Alastair Campbell yn gyrru llythyrau yn wythnosol at bennaeth newyddion y BBC, Richard Sambrook, yn ymosod ar adroddiadau r gorfforaeth am y rhyfel yn Irac: It was a classic case of the Downing Street press office trying to intimidate the BBC. Aeth Dyke mor bell â chyhoeddi llythyr a anfonasai ef ei hun at y Prif Weinidog ar ail ddiwrnod y rhyfel yn Irac ar y 23ain o Fawrth 2003: Dear Tony You have been engaged in a difficult battle fighting for your particular view of the world to be accepted and, quite understandably, you want that to be reported. We however have a different role in society. Our role in these circumstances is to try to give a balanced picture. It is perfectly legitimate for you or your advisors to complain about particular stories journalism is an imperfect profession and if we make mistakes as we inevitably do, under my leadership we will always say we were wrong and apologise. However for you to question the whole of the BBC s journalistic output across a wide range of radio, TV & online services because you are concerned about particular stories which don t favour your view is unfair. Some weeks ago I set up and chaired an ad hoc committee to discuss our coverage of the Iraq issue. It was that committee which decided to prevent any senior editorial figure at the BBC from going on the anti-war march, and which insisted that we had to find a balanced audience for programmes like Question Time at a time when it was very hard to find supporters of the war willing to come on. It was that same committee which, when faced with a massive bias against the war amongst phone-in callers, decided to increase the number of phone lines so that pro-war listeners had a better chance of getting through and getting onto the programmes. I can only assure you that under my leadership I will do everything in my power to defend the BBC s fairness, independence & impartiality. Yn dilyn adroddiad Hutton, ychwanegodd Dyke mai yng nghyd-destun y continuous barrage of complaints gan Campbell y derbyniodd y BBC lythyrau hwnnw dyddiedig Mehefin 5 a 12, yn cwyno am adroddiad Gilligan; awgrymodd Dyke nad oedd y gorfforaeth am blygu i r pwysau hwnnw: It is also important to put these letters in another context. On six occasions, the Downing Street press office under Campbell denied stories that later turned out to be true; they simply didn t want it reported. [Campbell] systematically bullied journalists who didn t want to report his version of events.

88 88 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Sensoriaeth: y Llywodraeth a r Cyfryngau Wrth syrthio ar ei fai am wendidau manylion ei adroddiad gwreiddiol, roedd Andrew Gilligan ei hun yn amddiffyn cnewyllyn ei stori ac yn feirniadol o barodrwydd Llywodraethwyr y BBC i fod mor llaes eu hymddiheuriad yn dilyn cyhoeddi adroddiad Hutton: I may have no right to say this, but I believe that the governors should not have accepted Greg Dyke s resignation, nor issued a statement which has been taken as an unreserved apology. Most of my story was right. I did accuse the government of exaggeration and I still do. There is a danger that the BBC governors could become more threatening than Ofcom if they seek to prove their value too much. Er mai dyma r argyfwng mwyaf a wynebodd y BBC erioed yn eu perthynas â r llywodraeth, nid yw r arbenigwr ar newyddiaduraeth a r cyfryngau Roy Greenslade yn rhagweld tranc newyddiaduraeth wrthrychol a heriol yn dilyn adroddiad Hutton ac ymddiswyddiadau Davies a Dyke: The BBC s independence is not under genuine threat because this government dare not do anything to wound the corporation further. The BBC retains the overwhelming support of the British public. [Hutton] will surely not have a long-lasting impact on the BBC. There are many high-quality executives and journalists in the news and current affairs departments who will not be cowed into self-censorship. Buoyed by public support, they may well be yet more vigorous in their news-gathering. Mae n eironig nad Rheolwyr y BBC gafodd eu disodli n ddiweddarach ond Bwrdd y Llywodraethwyr, gydag Ofcom yn derbyn rhagor o hawliau i reoleiddio cyfathrebu. Yr unig eithriad wedyn oedd S4C, a bydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd tynged y darlledwr Cymreig yn y dyfodol. Byddai rhai n dadlau mai doethach fyddai sefydlu Awdurdod Darlledu i Gymru yn hytrach na bod cyfryngau r genedl hon yn cael eu rheoli fel rhan bitw fach o r anghenfil Ofcom sydd yn gyfrifol am holl amryfal gyfryngau darlledu a thelegyfathrebu gwledydd Prydain. Penderfyniad gwleidyddol fydd hynny, hefyd, a chystal nodi fod y darlledwyr Cymreig wedi bod o leiaf yr un mor bryderus ynghylch beth fyddai pwysau a dylanwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru arnynt hwy ag y bu darlledwyr gwledydd Prydain am bwysau a dylanwad Llywodraeth San Steffan arnynt hwythau dros y blynyddoedd. LLYFRYDDIAETH Bolton, R. (1990) Death on the Rock Llundain: W.H.Allen. Carruthers, S. L. (1999) The Media at War Basingstoke: Macmillan. Clutterbuck, R. (1983) Media and Political Violence Llundain: Macmillan. Curran, J. a Seaton, J. (1991) Power Without Responsibility Llundain: Routledge. Curtis, L. (1984) Ireland: the propaganda war. Llundain: Pluto. Davidson, A. (1993) Under the Hammer: the ITV franchise battle Llundain: Mandarin. Milne, A. (1989) DG: The Memoirs of a British Broadcaster. Sevenoaks: Coronet. Miller, D. (1994) Don t Mention the War: Northern Ireland Llundain: Pluto. Pilger, J. (1998) Hidden Agendas Llundain: Vintage. Seaton, J. (gol.) (1987) The Media in British Politics Aldershot: Avebury. Simpson, J. (1999) Strange Places, Questionable People Llundain: Pan.

89 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau 89 Y CYFRWNG A R IAITH: DADANSODDI RÔL Y CYFRYNGAU MEWN CYD-DESTUN IEITHOEDD LLEIAFRIFOL ELIN HAF GRUFFYDD JONES A definition of language is always implicitly or explicitly a definition of human beings in the world Raymond Williams (1977: 21) Yn ei gyfrol Multicultural Citizenship mae r athronydd o Ganada, Will Kymlicka, yn trafod yr hyn y mae n galw yn societal culture neu n ddiwylliant ar sail cymdeithas ( diwylliant cymdeithas o hyn ymlaen) o i drosi i r Gymraeg. Ystyr y diwylliant cymdeithas hwn, yn ôl Kymlicka, yw math o ddiwylliant sydd yn cynnig ffyrdd o fyw ystyrlon ar gyfer ei aelodau ar draws yr ystod llawn o weithgaredd dynol gan gynnwys bywyd cymdeithasol, addysgol, crefyddol, gweithgareddau hamdden ac economaidd, sydd yn cwmpasu sfferau cyhoeddus a phreifat. 63 Dyma ddisgrifiad o ddiwylliant sydd â strwythur o barhad a datblygiad iddo, sydd yn ddigon hyfyw i fedru darparu nifer o ddewisiadau real i r boblogaeth, a hynny mewn pob math o feysydd ac ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau. Mae diwylliant o r math hwn wedi ei wreiddio mewn cymdeithas ac yn esblygu gyda r gymdeithas honno. Er fod Kymlicka yn cydnabod fod diwylliant ei hun yn beth digon anodd i w ddiffinio ac nad oes gan ddiwylliannau, yn ei farn ef, ganolbwynt penodol na ffiniau pendant 64 mae n dadlau fod y cysyniad o ddiwylliant, ac yn benodol diwylliant cymdeithas (neu r societal culture) yn hanfodol wrth drafod dewisiadau ystyrlon i unigolyn (neu hawliau unigolyddol) a hefyd fod diwylliant yn braenaru r tir ar gyfer cyfiawnhau a chefnogi hawliau torfol o fewn athroniaeth ryddfrydol. 65 Yn wir, dadl Kymlicka wrth drafod hawliau a dewisiadau unigolion yw fod diwylliant cymdeithas yn hanfodol i r ffordd y gellir gweithredu ar yr hawliau a r dewisiadau hyn mewn modd ystyrlon. 66 Er mwyn i unigolion fedru gwneud dewisiadau ystyrlon, rhaid cael mynediad i wybodaeth, y gallu i w gwerthuso n fyfyriol, rhyddid mynegiant a rhyddid i ymgysylltu. Ond rhaid hefyd ym marn Kymlicka wrth fynediad i ddiwylliant cymdeithas. Gellid dadlau felly, o bosib, mai r mynediad hwn yw r ffactor sydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng dewis a dewis ystyrlon i unigolyn. Mae hyn yn arwyddocaol iawn yn y drafodaeth ar hawliau unigolion a hawliau unigolyddol. Mae Kymlicka yn mynd ymlaen i ddiffinio diwylliant cymdeithas, neu ddiwylliannau sydd yn seiliedig ar gymdeithas, drwy nodi eu bod yn dueddol o fod wedi eu crynhoi ar diriogaeth, ac yn seiliedig ar iaith gyffredin 67 a u bod wedi eu creu yn agos iawn at y broses o foderniaeth. Mae hyn yn adleisio rhai o syniadau dylanwadol Ernest Gellner (1983) a Benedict Anderson (1983) wrth drafod y berthynas rhwng diwylliant, cenedl a gwladwriaeth, yn enwedig mewn perthynas â chenhedloedd diwladwriaeth yn y cyfnod modernaidd. 63 a culture which provides its members with meaningful ways of life across the full range of human activities, including social, educational, religious, recreational, and economic life, encompassing both public and private spheres. These cultures tend to be territorially concentrated and based on a shared language. Kymlicka 1995: Cultures do not have fixed centres or precise boundaries. Ibid: This argument about the connection between individual choice and culture provides the first step towards a distinctively liberal defence of certain group-differentiated rights. Ibid. tt For meaningful individual choice to be possible, individuals need not only access to information, the capacity to reflectively evaluate it, and freedom of expression and association. They also need access to a societal culture. Group-differentiated measures that secure and promote this access may, therefore have a legitimate role to play in a liberal theory of justice. Ibid. t These cultures tend to be territorially concentrated and based on a shared language. Ibid. t. 76.

90 90 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Y Cyfrwng a r Iaith Mae cysyniad Kymlicka o ddiwylliant cymdeithas, sydd yn cyfeirio at diriogaeth a iaith benodol ynghyd â r cwestiwn parhaol o hyfywedd y diwylliant hwnnw, yn agos at brofiad nifer o wledydd a chenhedloedd diwladwriaeth yn Ewrop, gan gynnwys Cymru, wrth gwrs. Yn wir, mae r cysylltiad rhwng cymdeithas, iaith a thiriogaeth yn elfen greiddiol o r disgyrsiau sydd yn bresennol o fewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol ar hyd ac ar led Ewrop yn ogystal â bod yn rhan annatod o r disgwrs trawsewropeaidd sydd yn dod â r grŵp amrywiol hwn o gymunedau ieithyddol ynghyd. O fewn cymunedau unigol, mae digon o enghreifftiau o bwysigrwydd ac arwyddocâd tiriogaeth fel rhan allweddol o ddiffiniad cymuned iaith leiafrifol ohoni hi ei hun o gysyniad J.R. Jones o gydymdreiddiad i ddisgrifio perthynas yr iaith Gymraeg â thiriogaeth y wlad 68 i r dadleuon parhaus a chythryblus yn y cyd-destun Basgeg o ran diffinio priod diriogaeth yr iaith a i ffiniau. Ar lefel y disgwrs Ewropeaidd ar ieithoedd lleiafrifol, mae r Comisiwn Ewropeaidd a Senedd Ewrop, yn eu dewis o derminoleg, yn cyfeirio at ieithoedd lleiafrifol rhanbarthol 69 i olygu cymunedau ieithyddol nad ydynt yn aelod-wladwriaethau ac yn ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ond sydd yn ieithoedd rhanbarthol, boed swyddogol neu answyddogol, a thrwy ddefnyddio r term rhanbarthol maent yn cydnabod yr elfen diriogaethol sydd yn ymhlyg yn eu diffiniad. Felly hefyd a wna Cyngor Ewrop yn ei Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol a/neu Ranbarthol (1992) lle y cyfeirir yn benodol at yr elfen diriogaethol. 70 Mae r cysylltiad rhwng diwylliant, cymdeithas a r cyfryngau hefyd yn tynnu ar waith Benedict Anderson, gyda nifer o academyddion ym maes astudiaethau cyfryngau yn cyfeirio at ei gysyniad o r gymuned ddychmygol a r rôl y mae r cyfryngau yn ei chwarae yn y berthynas honno. Mae yna gyseinedd amlwg rhwng cysyniad Anderson o r genedl fel cymuned ddychmygol a dyfyniad diarhebol Gwyn Alf Williams, sef Wales is an artefact which the Welsh produce. If they want to. It requires an act of choice. 71 Y Cymry eu hunain, felly, sydd yn creu Cymru drwy wahanol brosesau diwylliannol, sefydliadol, gwleidyddol a gellir trawsblannu r cysyniad hwn i gymunedau eraill lle siaredir iaith leiafrifol. Yn wir, po fwyaf bregus yw sefyllfa r iaith, yna gellir dadlau mai dyma r sefyllfaoedd lle y gwelir yn fwyaf amlwg mai r bobl eu hunain hynny yw y rheiny sydd yn arddel yr hunaniaeth honno sydd yn ei chynhyrchu, gan mai hwy yn unig sydd yn ymgymryd â r weithred ddewisol honno o wneud hynny gan mai cyfyngedig iawn yw cydnabyddiaeth y sefydliadau cyhoeddus a swyddogol o r hunaniaeth ieithyddol honno. 72 Mae astudio r cyfryngau sydd yn bodoli o fewn cymdeithas iaith leiafrifol yn gallu bod yn ffon fesur arwyddocaol wrth ddadansoddi hyfywedd y gymdeithas honno. Yn y cymunedau ieithyddol hynny lle mae r iaith ar ei gwannaf, yn aml iawn gwelir mai cyfyngedig yw r cyfryngau hefyd, o ran yr amrediad sydd yn bodoli a pha mor aml y maent yn cynhyrchu deunydd yn yr iaith honno. Mae arolygon Mercator- Cyfryngau yn cofnodi nifer, math ac amledd cyfryngau mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol ar hyd yr Undeb Ewropeaidd. 73 Hefyd, defnyddiodd astudiaeth Euromosaic 74 nifer o gategorïau ar gyfer gwerthuso hyfywedd cymunedau ieithyddol ar draws Ewrop, gan gynnwys y cyfryngau ymhlith y categorïau hynny. Nid adlewyrchu cymdeithas y mae r cyfryngau yn ei wneud wrth gwrs, yn groes i r ystrydeb, ond yn hytrach cyfrannu n sylweddol at hunaniaeth a hunanymwybyddiaeth y gymuned honno o i bodolaeth 68 Canys gan eu deuclwm priod ac analiwnedig eu hunain y lluniwyd hwy, sef gan dir Cymru mewn cydymdreiddiad oesol â r iaith Gymraeg J R Jones, Prydeindod, Llandybïe: Llyfrau r Dryw, Gweler Adroddiadau Arfé (1981), Kuijpers (1986) am enghreifftiau cynnar o hyn a am enghreifftiau diweddar. 70 Gweler 71 Gwyn A. Williams When was Wales? Llundain: Penguin, Am drafodaeth o r hunaniaeth Lydewig gyfoes yn y cyd-destun hwn, gweler Francis Favereau, Bretagne contemporaine. Langue, culture, identité. Morlaix: Skol Vreizh, 1993, neu Fañch Broudic, La pratique du breton de l ancien régime à nos jours. Rennes: Presses universitaires de Rennes (1995) a Qui parle breton aujourd hui? Qui le parlera demain? Brest: Brud Nevez,

91 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Y Cyfrwng a r Iaith 91 ei hun. Yn ôl Denis McQuail, mae r cyfryngau yn gynnyrch ac yn adlewyrchiad o hanes eu cymdeithas eu hunain, ac wedi chwarae rhan ynddo. 75 Mae cynnwys y cyfryngau ynghyd â u strwythur, felly, yn dylanwadu yn arwyddocaol ar y gymdeithas. Dadleuir fod hyn hyd yn oed yn fwy gwir, neu fod dylanwad y cyfryngau hyd yn oed yn fwy arwyddocaol mewn cymunedau nad oes ganddynt sofraniaeth wleidyddol. Nododd John Davies yn ei ragymadrodd i w gyfrol Broadcasting and the BBC in Wales: fod darlledu yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Annan ym 1975, yn chwarae rhan bwysicach yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o r Deyrnas Gyfunol. Yn wir, gellid diffinio Cymru gyfoes fel arteffact a gynhyrchwyd gan ddarlledu. 76 Mae McQuail hefyd yn cynnig esboniad pellach i w ddadl am rôl a swyddogaeth y cyfryngau o fewn cymdeithas drwy amlinellu ffynhonnell bwysig o ddiffinio a delweddu realiti cymdeithasol; ac felly dyma r fan ble mae diwylliant a gwerthoedd cyfnewidiol cymdeithasau a grwpiau yn cael eu creu, eu storio a u mynegi yn y ffordd fwyaf gweledol. 77 Gellir dadlau fod gan y cyfryngau rôl amlwg o fewn y cysyniad Kymlicka o ddiwylliant cymdeithas neu societal culture, sef fod y cyfryngau yn rhan annatod o wead cymdeithas yn y cyfnod cyfoes. Drwy r cyfryngau y mae llawer o r swyddogaethau sylfaenol sydd yn cynnal cymdeithas heddiw yn digwydd. Grŵp o bobl yn siarad â i gilydd yw iaith medd Ned Thomas, ac o dan amodau modern mae llawer o r cyfathrebu hwn yn digwydd drwy r cyfryngau. 78 Fodd bynnag, mae rhai academyddion yn amheus o werth y cyfryngau naill ai fel modd o gynnal iaith sydd o dan fygythiad neu fel modd o gynnal diwylliant lleiafrifol. Nid yw r cyflwr o fod yn lleiafrif neu n lleiafrifol yn niwtral wrth gwrs, nac wedi ymddangos mewn ffordd naturiol. Mae Monica Heller yn nodi fod lleiafrifoedd ieithyddol yn cael eu creu gan genedlaetholdebau sydd yn eu cau nhw allan. 79 Mae r berthynas o rym cymdeithasol a chyflwr lleiafrifol yn un sydd yn cael ei thrafod wrth ystyried iaith fel cysyniad cymdeithasol, yn benodol mewn gwaith sydd wedi ei ddylanwadu gan gysyniad Bourdieu o iaith fel cyfalaf diwylliannol lle mae gwahaniaethau ieithyddol yn adlewyrchu gwahaniaethau grym (er enghraifft, yng ngwaith Williams & Morris). 80 I ba raddau felly mae bod â chyfryngau yn eu meddiant yn gallu bod o gymorth i ieithoedd a chymunedau ieithyddol sydd o dan fygythiad? Yn ei gyfrol Ethnic Minority Media, 81 mae Stephen H. Riggins yn bwrw amheuaeth ar y syniad fod datblygu cyfryngau yn ateb syml a delfrydol i gynnal a datblygu lleiafrifoedd. Mae ei gyfrol yn cynnwys achosion astudio penodol o nifer o leiafrifoedd drwy r byd gan wahanol awduron, ac er fod teitl y gyfrol yn cynnwys y gair ethnig i ddisgrifio r lleiafrifoedd sydd ganddo o dan sylw, mae hynny yn gamarweiniol gan mai rhai ieithyddol yn bennaf ydyn nhw. Gwêl Riggins ei hun fod gan y cyfryngau ethnig, o ddefnyddio ei derminoleg ef, rôl ddeuol. 82 I ddechrau, mae n gosod y cwestiwn, Pa well strategaeth i sicrhau parhad 75 The media are both a product and reflection of the history of their own society and have played a part in it. Denis McQuail, Mass Communication Theory Llundain: SAGE, 1994, t To a greater extent than perhaps any other country in Europe, broadcasting has played a central role, both positive and negative, in the development of the concept of a national community. John Davies Broadcasting and the BBC in Wales Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, Denis McQuail, Mass Communication Theory Llundain: SAGE, 1994, t language is a group of people speaking to each other, and ( ) in modern conditions much of that communication occurs through the media, so that a language denied access to media is discriminated against, accorded inferior status, and is unlikely to survive. Ned Thomas Linguistic Minorities and the Media yn P. Lee (gol.) The Democratization of Communication Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, Linguistic minorities are created by nationalisms which exclude them. (Heller 1999: 7) 80 Glyn Williams a Delyth Morris Welsh in a Global Age Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, Riggins, S.H. (gol.) (1992) Ethnic Minority Media: An International Perspective. lndon: Sage. 82 Ibid. t. 4.

92 92 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Y Cyfrwng a r Iaith lleiafrifoedd nag i r lleiafrifoedd hynny ddatblygu eu cyfryngau eu hunain i gyfleu eu safbwyntiau yn eu iaith eu hunain? 83 Ond yna, â ymlaen i nodi y gall hyn arwain at wanhau r lleiafrif yn hytrach na i gryfhau, mewn rhai achosion yn sicr. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn edrych ar sut mae r wladwriaeth yn cefnogi cyfryngau lleiafrifol, ac mae n nodi pum model sydd yn ceisio crynhoi cymhelliad ac effaith cymorth ariannol gan y wladwriaeth tuag at gyfryngau ar gyfer lleiafrifoedd. Yn gyntaf, mae Riggins yn nodi r model integreiddiol, sydd yn integreiddio r lleiafrif i mewn i ddiwylliant y mwyafrif; yn ail, nodir ganddo r model economaidd, sydd yn cymathu r lleiafrif drwy bwysau economaidd; yn drydydd, y model ymrannol, sydd yn gosod lleiafrifoedd yn erbyn ei gilydd; yn bedwerydd, y model rhagymosodol, sydd yn creu cyfryngau eraill o fewn y lleiafrif; ac yn olaf, y model proselytaidd, sydd yn ceisio cynnwys y lleiafrif fel rhan o werthoedd y mwyafrif. 84 Yn ôl Riggins, mae r model integreiddiol yn seiliedig ar y cysyniad fod rhai gwladwriaethau yn gweld eu bod yn gallu rheoli r lleiafrif ieithyddol yn well drwy gefnogi gweithgaredd cyfryngol yn yr iaith. Un o r rhesymau dros hyn fyddai fod y lleiafrif yn gweld y wladwriaeth fel benevolent institution. 85 Ar yr un pryd fe fyddai modd i r wladwriaeth fonitro gweithgaredd y lleiafrif yn well, gyda r bwriad o i integreiddio n llwyr. Mae r model economaidd yn cychwyn drwy weld lleiafrifoedd ieithyddol fel canlyniad i dlodi economaidd a bod siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i fod yn anllythrennog. Tra fod hyn yn sicr yn wir o ran lefelau llythrennedd yn eu iaith eu hunain, nid yw siaradwyr pob iaith leiafrifol yn anllythrennog yn iaith y wladwriaeth. Dadleua Riggins fod Canada yn wladwriaeth sydd yn cofleidio aml-ddiwyllianedd yn sicr yn well na r Unol Daleithiau mewn perthynas â phobloedd gynhenid Alaska a Hawai i ond, serch hynny, aml-ddiwyllianedd arwynebol ydyw am ei fod yn dal yn ddibynnol ar ewyllys da. Mae r model ymrannol yn cyfeirio at sefyllfaoedd lle mae r wladwriaeth yn cefnogi cyfryngau mewn rhai ieithoedd lleiafrifol ond nid mewn eraill gyda r bwriad o rannu unrhyw wrthwynebiad i undod y wladwriaeth. Mae r model rhagymosodol yn cyfeirio at sefyllfa ble mae r wladwriaeth yn darparu cyllid ar gyfer datblygu cyfryngau mewn iaith leiafrifol, ond gyda r bwriad (neu r effaith) o geisio llesteirio datblygiadau cynhenid gan y boblogaeth. Gwelir enghraifft o hyn yn ardal Aquitaine gyda sawl radio lleol yn cystadlu am yr un gynulleidfa fechan. Gallwn weld enghreifftiau eraill yng Ngwlad y Basg yn achos sefydlu r papur dyddiol Egunkaria ar ddechrau r 1990au. 86 Mae r model proselytaidd yn cyfeirio at enghreifftiau lle mae r lleiafrif ieithyddol yn defnyddio cyfle a osodwyd ar gyfer pwrpas arall i fanteisio ar ffordd o greu cyfryngau yn eu hiaith eu hunain. Yr enghraifft y cyfeirir ati gan Riggins yw r radio lleol gan y Mapuches o Chile a oedd i fod i drosglwyddo gwerthoedd crefyddol a chymdeithasol i r boblogaeth. Fodd bynnag, defnyddiwyd y radio gan y boblogaeth leol i geisio parhau â u traddodiadau a u hiaith. Gellid gweld hyn hefyd yn achos teledu Ffriseg, a sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer darparu teledu rhanbarthol yn hytrach na theledu yn yr iaith Ffriseg. Neu enghreifftiau o r cyfryngau lleol yn Sbaen, Gwlad y Basg, Catalonia a Galicia. Wrth edrych ar strwythur y cyfryngau sydd yn bodoli ar gyfer amrediad o ieithoedd lleiafrifol o fewn yr Undeb Ewropeaidd, gwelwn mai cymharol brin yw r rhai sydd yn bodoli heb unrhyw gynhaliaeth ariannol uniongyrchol o gwbl gan lywodraethau. O ran y wasg brint, mae mwyafrif llethol y naw ar 83 Ibid. t the integrationist model, economic model, the divisive model, the pre-emptive model, and the proselytism model. 85 benevolent institution Ibid. t Gweler Martin Ugalde yn Mercator Media Forum 1

93 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Y Cyfrwng a r Iaith 93 hugain o bapurau dyddiol sydd yn bodoli mewn ieithoedd lleiafrifol yn derbyn nawdd cyhoeddus 87 uniongyrchol yn ogystal â hysbysebion gan gyrff cyhoeddus a llywodraethol. Ym myd teledu, mae r rhan fwyaf o r sianeli sydd yn darlledu n bennaf neu yn ddyddiol mewn ieithoedd lleiafrifol yn perthyn i gorfforaethau neu awdurdodau darlledu cyhoeddus. 88 Yn achos radio, nid yw r sefyllfa mor unffurf. Radio yw r cyfrwng darlledu sydd yn cael ei ddefnyddio fwyaf gan gymunedau ieithoedd lleiafrifol gyda bron i 80 y cant o r cymunedau hynny o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn cael darllediadau radio yn ddyddiol yn eu iaith eu hunain mewn rhannau o leiaf o diriogaeth yr iaith honno. Mae r rhan fwyaf o r orsafoedd a r gwasanaethau radio sydd yn darlledu n bennaf neu yn ddyddiol mewn ieithoedd lleiafrifol yn perthyn i gorfforaethau cyhoeddus neu i gwmnïau neu gymdeithasau sydd yn derbyn nawdd cyhoeddus, ond mae hefyd rywfaint o wasanaethau radio yn dod o r sector masnachol a phreifat nad yw bob tro yn derbyn nawdd uniongyrchol gan gyrff cyhoeddus. 89 Ond, wrth gwrs, un o nodweddion radio yw fod y sector radio lleol yn benodol yn dibynnu n helaeth iawn ar waith gwirfoddol ym mhob rhan o gynhyrchu gwasanaeth a bod hynny n cyfrannu n sylweddol at gost y gweithgaredd, a bod yn fuddsoddiad parhaus o lafur cariad gan y gymuned. Wrth ystyried y cyfryngau newydd, gwelwn batrwm digon cymhleth o strwythurau ariannol a nawdd gan sefydliadau cyhoeddus, gyda rhai chwaraewyr traddodiadol darlledwyr a r wasg brint yn creu cynnwys electronig a rhyngweithiol yn ogystal â darparwyr newydd, yn gwmnïau, yn gymdeithasau ac yn unigolion yn cynhyrchu deunyddiau a safleoedd heb nawdd cyhoeddus. Mae strwythurau ariannu mentrau cyfryngol o fewn ieithoedd lleiafrifol yn allweddol yn nhyb Riggins wrth ystyried a yw cyfryngau yn cyfrannu n gadarnhaol neu n negyddol at gynnal a datblygu cymuned ieithyddol leiafrifol. Mae sawl sylwebydd yn y maes hwn (Thomas, 1997; Jones, 1998) wedi cyfeirio at arwyddocâd perchnogaeth gyfryngol yn enwedig o wrthgyferbynnu cynhyrchu testun cyfryngol a bod yn wrthrych i r testun hwnnw. Producing one s own cultural output rather then being the objects of others study and gaze. 90 Ond â Riggins un cam ymhellach na hyn drwy nodi ei bod yn hanfodol i leiafrifoedd fod â rheolaeth lawn dros gyllido a gweinyddu eu cyfryngau eu hunain 91. Yng nghyd-destun nifer o ieithoedd lleiafrifol, yn enwedig y rhai sydd â r cyfryngau cryfaf, mae ganddynt strwythurau llywodraethol ar wahân i lywodraeth y wladwriaeth ac yn hynny o beth mae r rheolaeth gyllidol a gweinyddol yn eu meddiant hwy. O dan Gyfansoddiad Sbaen 1978, crëwyd deunaw o gymunedau awtonomaidd drwy r wladwriaeth, gydag amrywiadau o ran grym a chyfrifoldebau rhyngddynt, gyda r Basgiaid, y Catalaniaid a r Galisiaid yn cael mwy o bwerau deddfwriaethol na r ardaloedd eraill. Mae gan y llywodraethau a r senedd-dai hyn gyfrifoldeb mewn deddfwriaeth iaith ac ym maes y cyfryngau, ac fe ddefnyddiwyd y rhain i greu cyfryngau ac yn benodol sianeli teledu a chorfforaethau darlledu yn yr ieithoedd cynhenid yn nyddiau cynnar y llywodraethau rhanbarthol hyn. Sefydlwyd y gorfforaeth ddarlledu Fasgeg, sef Euskal Irrati Telebista (EITB), ym 1982, y gorfforaeth ddarlledu Gatalaneg, sef Corporació Catalana de Radio i Televisió (CCRTV), ym 1983 a chorfforaeth ddarlledu Galicia, sef Compañía de Radio Televisión de Galicia (CRTVG), ym Y mae r tair corfforaeth hyn yn atebol i w llywodraethau awtonomaidd eu hunain yn hytrach nag i Senedd gwladwriaeth Sbaen. Fodd bynnag, os ystyriwn y sefyllfa Gymreig, mae r holl ddarlledu sydd yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg gan S4C a chan y BBC yn cael ei gyllido drwy systemau nad ydynt yn uniongyrchol atebol i r Cynulliad neu i Lywodraeth y Cynulliad. Yn ôl canfyddiadau Riggins felly, gellir dehongli nad yw 87 Gweler MIDAS a 88 Gweler Elin Haf Gruffydd Jones, The Territory of Television yn Cormack & Hourigan, Minority Language Media: Concepts and Case Studies Clevedon: Multilingual Matters, Gweler arolygon radio a theledu Mercator: Cyfryngau ar 90 Thomas, N. (1995) Linguistic Minorities and the Media yn P. Lee (gol.), The Democratization of Communication Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 91 it is essential for minorities to have full control over the financing and administration of their own media

94 94 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Y Cyfrwng a r Iaith darlledu yn yr iaith Gymraeg yn cyflawni anghenion cyfryngau lleiafrifol cystal â r darlledu sydd yn bodoli, dyweder, yn yr ieithoedd Basgeg, Catalaneg a Galisieg, o ran rheolaeth dros gyllido a gweinyddu. Eto i gyd, mae Riggins yn cyfaddef fod meddu ar gyfryngau yn rhyw fath o raddfa gymedrol nad yw yn y tymor hir yn arwain at sicrhau parhad y diwylliant yn gyfan gwbl nac ychwaith at gymathiad llwyr, ond yn hytrach yn rhyw fath o gyfaddawd rhwng y ddau begwn eithafol yna. 92 Casgliad Riggins, fodd bynnag, yw fod gwir effaith neu ddylanwad y cyfryngau ar oroesiad lleiafrif ethnig yn broblematig. 93 Mae sylwebyddion eraill ac yn eu plith Joshua Fishman, ffigwr dylanwadol iawn ym maes ieithoedd lleiafrifol hefyd yn bwrw amheuaeth ar y pwysigrwydd a r gobeithion y mae cynllunwyr ac ymgyrchwyr iaith yn tybied sydd gan y cyfryngau i chwarae yn y broses o normaleiddio iaith. 94 Mae ymgyrchu o blaid cael cyfryngau yn yr iaith wedi bod yn nodwedd o ymgyrchu ieithyddol mewn sawl rhan o Ewrop 95 ond fel arfer mae sylwebyddion yn troi at yr ymgyrch dros sianel Gymraeg fel yr achos mwyaf arwyddocaol o r ffenomen hon. Ni chafwyd ymgyrchu gwleidyddol penodol dros y sianeli teledu Basgeg, Catalaneg a Galisieg yn Sbaen oherwydd mai ymgyrchu a symudiad poblogaidd o blaid y broses wleidyddol o sefydlu senedd-dai i r cenhedloedd hynny oedd ffocws yr ymgyrchu. Ni fu r ymgyrchu yn Llydaw yn llwyddiannus o ran canlyniadau pendant o gymharu â r ymgyrchu yng Nghymru, ac ni fu r ymgyrchu yn Iwerddon, ac yn fwy diweddar yn yr Alban, yn agos at fod mor ddramatig nac ychwaith mor niferus o ran yr ymgyrchwyr. Eto, mae ymgyrchwyr a chynllunwyr ieithyddol yn grediniol o r hyn y gall lleiafrif ieithyddol ei gyflawni drwy feddu ar ei gyfryngau ei hun neu, yn hytrach, mae yna ymwybyddiaeth o r hyn na ellir ei gyflawni hebddynt. O ystyried cyfrwng y teledu, fe ellir dadansoddi fod iddo bum swyddogaeth benodol sef swyddogaeth cyfathrebol, diwylliannol, economaidd, statws a ieithyddol. 96 Gellir dadlau fod y swyddogaethau hyn yn gyffredin i deledu mewn unrhyw iaith, ac nid dim ond yn y cyd-destun lleiafrifol. Cyfeiriwyd eisoes at swyddogaeth y cyfryngau i alluogi cymuned ieithyddol i siarad ei hiaith ei hun, i gyfathrebu ymhlith ei haelodau ac i adeiladu a chryfhau hunaniaeth gyffredin y gymuned, neu r genedl, honno. Mae creu gofodau cyfathrebol ar gyfer defnyddio iaith leiafrifol yn rhan bwysig o gynllunio iaith. Mae teledu yn creu cynrychiolaeth gyfryngol o gymdeithas nid adlewyrchiad syml ohoni ac, yn wir, o fewn cyd-destun lle nad yw r iaith yn gyfrwng cyfathrebu ar gyfer pob agwedd ar fywyd, mae creu persbectif o r byd drwy r teledu ble mae r iaith yn normal neu n gyflawn yn gallu cyflawni swyddogaeth unigryw mewn sawl ffordd. Yn ddiwylliannol, mae gan deledu rôl bwysig i w chwarae wrth ystyried trafod gwerthoedd. Meddai r diweddar Gwynfor Evans, Mae r teledu yn gymaint mwy na chyfrwng adloniant, ac hyd yn oed o addysg i Gymru ( ) Gallai wneud mwy nag unrhyw un sefydliad arall i gynnal a hybu r iaith ac egni deallusol y Cymry, ac i sicrhau na chaiff etifeddiaeth y canrifoedd ei herydu. 97 Mae nifer o astudiaethau yn cyfeirio at rôl economaidd cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Mae adroddiad Zendoia Sanz yn cyfeirio at yr effaith gadarnhaol i r economi leol yng Ngwlad y Basg ac yn priodoli hyn i bresenoldeb diwydiannau cyfryngol sydd yn defnyddio r iaith honno. Gwelwyd arolygon tebyg yma yng Nghymru ac mewn sawl gwlad arall. Mae r diwydiant teledu yn cynnig swyddi deniadol 92 It appears that the long-term effect of ethnic minority media is neither total assimilation nor total cultural preservation but some moderate degree of preservation that represents a compromise between these two extremes (Riggins, 1992 t. 276.) 93 The actual impact of the media on ethnic minority survival remains problematic (Riggins, 1992 t. 277.) 94 Gweler Cormack 95 Gweler Hourigan am drafodaeth ar Gymru, Iwerddon a Llydaw. 96 Gweler Jones yn Cormack 97 Cymdeithas yr I aith Gymraeg (1985) S4C: Pwy dalodd amdani?, Aberystwyth: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

95 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Y Cyfrwng a r Iaith 95 sydd yn talu n gymharol dda ac yn creu cyfoeth economaidd na fyddai yno oni bai fod y cynnyrch yn un lleol. Mae r newyddiadurwr a r entrepreneur gwe Vicent Partal yn gweld mai r ffactor ieithyddol sydd yn sicrhau fod y cynnyrch diwylliannol yn un sydd yn rhaid ei gynhyrchu n lleol ac felly fod y cyfoeth economaidd a ddaw o i gynhyrchu yn aros yn yr economi leol. Fel arall, meddai, gall y budd economaidd yn ddigon hawdd fod yn mynd y tu allan i diriogaeth yr iaith. Wrth gyfeirio at rôl y cyfryngau mewn cyd-destun iaith leiafrifol mae n anhepgor sôn am y cyfraniad y gall y cyfryngau ei wneud tuag at statws yr iaith. Mae swyddogaeth ieithyddol y cyfryngau, wrth gwrs, yn ddibynnol ar y math o bolisi iaith y maent yn ei arddel. Gall cyfryngau gyfrannu at wneud iawn am y diffyg cyffredinol o ddefnydd o iaith mewn gwahanol beuoedd yn y byd go iawn. Er enghraifft, efallai mai prin yw r defnydd o r iaith yn y sfferau cyhoeddus eraill, megis mewn llywodraeth a byd busnes, felly mae creu gofod cyfathrebol ble gellir defnyddio r iaith (sef drwy r cyfrwng) yn galluogi trafodaethau cyhoeddus i ddigwydd ynddi gan na fuasent yn digwydd fel arall. Gall hyn arwain at fathu a lledaenu geirfa newydd a chyflwyno meysydd trafod newydd yn yr iaith. Gall cyfrwng hefyd hwyluso cyfathrebu rhwng grwpiau tafodieithol gwahanol er nad yw bob amser yn llwyddo ym mhob achos, efallai oherwydd fod canfyddiad y siaradwyr o r gwahaniaethau tafodieithol mor gryf fel nad oes modd eu goresgyn drwy r cyfryngau yn unig. Gellir dadlau fod i gyfryngau mewn unrhyw iaith sawl swyddogaeth. Nododd Nicholas Garnham y gallem adnabod tri rheswm dros bwysigrwydd cyfryngau i unrhyw gymdeithas, sef rhesymau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol-ddiwylliannol. 98 Gellir ychwanegu at y rhestr honno, yn enwedig o fewn cyd-destun iaith leiafrifol, gan fod i r cyfryngau safle breintiedig ac unigryw yn aml iawn yn wyneb diffyg defnydd o r iaith gan sefydliadau eraill sydd yn rhan o r sffêr cyhoeddus. Fodd bynnag, mae r modd y mae r cyfryngau yn ymgymryd â r swyddogaethau hyn yn gallu amrywio n ddirfawr drwy eu bod yn ddibynnol ar bolisïau ac ar adnoddau. Mae dadleuon Riggins yn arwyddocaol felly wrth geisio dadansoddi a yw cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol yn llwyddo i wneud cyfraniad gwerthfawr yn y broses o gynnal a datblygu r ieithoedd hynny. A yw bodolaeth cyfryngau mewn iaith leiafrifol hefyd yn cyfrannu at y cysyniad o ddiwylliant cymdeithas, a r hyfywedd angenrheidiol i ganiatáu ei siaradwyr neu ei haelodau i wneud dewisiadau ystyrlon ar adegau gwahanol yn eu bywydau? Os diffinnir moderniaeth fel cyfnod lle bu lledaenu diwylliant cyffredin, gan gynnwys iaith safonol, a sefydliadau addysgol, economaidd a gwleidyddol, 99 yna mae hyn bellach yn digwydd ar raddfa sydd yn ehangach na r genedl wladwriaeth. Mae r trawsnewidiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd wrth i gymdeithas symud o r oes fodernaidd i oes globaleiddio yn her i bob diwylliant cymdeithas. Yn ôl Manuel Castells, yn ei drioleg enwog The Information Age: Economy, Society and Culture, cymdeithas rwydweithiol sydd yn datblygu o n cwmpas, un sydd yn seiliedig ar yr economi newydd ac ar gyfalaf rhyngwladol yn hytrach nag ar sefydliadau a llywodraethau. Ble, felly, mae hyn yn gadael y cysyniad o ddiwylliant cymdeithas sydd, medd Kymlicka, yn cael ei ddiffinio yn y termau hynny er mwyn pwysleisio nad mater o rannu gwerthoedd neu gof cyffredin sydd o dan sylw yma ond meddu ar sefydliadau ac arferion cyffredin yn ogystal. 100 Gellid dadlau mai r gwrthbwynt i ddiwylliant cymdeithas fyddai diwylliant nad yw wedi ei seilio ar gymdeithas ac nad yw yn ddigon hyfyw i gynnig yr amrediad hwn o ddewisiadau ar gyfer y rhai sydd yn 98 Nicholas Garnham, Policy yn A. Briggs & P.Cobley (goln), The Media: an introduction,n Harlow: Longman, Modernization involves the diffusion throughout a society of a common culture, including a standardized language, embodied in common economic, political, and educational institutions. Kymlicka t emphasize that they involve not just shared memories or values, but also common institutions and practices.kymlicka, t. 76.

96 96 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Y Cyfrwng a r Iaith perthyn iddo. Y màs critigol hwn o ddefnydd sydd yn caniatáu i unigolion wneud dewisiadau ystyrlon ar gyfer eu hunain o fewn fframwaith diwylliant cymdeithas. Dyma r math o amgylchiadau sydd yn angenrheidiol i alluogi cymuned ieithyddol i barhau ac i ddatblygu, ac mae rôl cyfryngau yn y broses honno heddiw yn gwbl allweddol. LLYFRYDDIAETH Browne, D. (1996) Electronic Media and Indigenous Peoples: A Voice of Our Own? Ames, Iowa: Iowa State University Press. Browne, D. (2004) Ethnic Minorities, Electronic Media and the Public Sphere. Creskill. N.J.: Hampton Press. Castells, Manuel (1999) The Information Age: Economy, Society and Culture Rhydychen: Blackwell. Cormack, M. (1998) Minority Language Media in Western Europe: Preliminary Considerations, European Journal of Communication, 13(1), Cormack, M. (2005) The Cultural Politics of Minority Language Media yn International Journal of Media and Cultural Politics. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1985) S4C: Pwy dalodd amdani? Aberystwyth: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dahlgren, P. (1995) Television and the Public Sphere: Citizenship, Democracy and the Media London: Sage. Davies, J. (1994) Broadcasting and the BBC in Wales Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Fishman, J.A. (gol.) (2001) Can Threatened Languages Be Saved? Clevedon: Multilingual Matters. Frachon, C. & Vargaftig, M. (goln) (1995) European Television: Immigrants and Ethnic Minorities Llundain: John Libbey. Garnham Nicholas (1998) Policy yn A. Briggs & P.Cobley (goln) The Media: an introduction Harlow: Longman. Gellner, E. (1983) Nations and Nationalism Rhydychen: Blackwell. Grillo, R. (1989) Dominant Languages: Language and Hierarchy in Britain and France. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt. Grin, F. and Vaillancourt, F. (1999) The Cost-Effectiveness Evaluation of Minority Language Policies: Case Studies on Wales, Ireland, and the Basque Country ECMI Monograph no.2. Flensburg: European Centre for Minority Issues. Heller, M. (1999) Linguistic Minorities and Modernity: A Sociolinguistic Ethnography London: Longman. Hourigan, N. (2003) Escaping the Global Village: Media, Language and Protest Lexington Books. Jones E.H.G (2007) The Territory of Television yn Cormack & Hourigan (goln.) Minority Language Media: Concepts, Critiques and Case Studies Clevedon: Mulitlingual Matters. Jones J.R. (1966) Prydeindod Llandybïe: Llyfrau r Dryw. Kymlicka, W. (1995) Multicultural Citizenship Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. May, S. (2001) Language and Minority Rights: Ethnicity, Nationalism and the Politics of Language. Harlow: Pearson Education. McQuail, D. (1994) Mass Communication Theory Llundain: SAGE. Riggins, S.H. (ed.) (1992) Ethnic Minority Media: An International Perspective. Llundain: Sage. Thomas, N. (1995a) The Mercator Media Forum, Mercator Media Forum, 1, 2-11.

97 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Y Cyfrwng a r Iaith 97 Thomas, N. (1995b) Linguistic Minorities and the Media yn P. Lee (gol.) The Democratization of Communication Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Thomas, N. (1997) Sianel Pedwar Cymru: The first years of television in Welsh, cyflwynwyd yn International Symposium on Contact and Conflict, European Centre for Multilingualism, Brwsel, 31 Mai Tomlinson, J. (2000) Cultural Imperialism. Llundain: Continuum. Ugalde, Martín de (1995) A Short History of Egunkaria. How a daily newspaper in Basque was set up yn Mercator Media Forum Cyfrol tt. Williams, Glyn a Morris, Delyth (2003) Welsh in a Global Age Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Williams Gwyn A. (1985) When was Wales? Llundain: Penguin. Williams Raymond (1977) Language yn Marxism and Literature Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. Zendoia Sainz, J. M. (1997) The Basque Language Media: An Assessment of their Economic Importance Mercator Media Forum 3:

98 98 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau RADIO CYFRWNG HEN FFASIWN NEU GYFRWNG OESOL? NON VAUGHAN WILLIAMS Ym mis Ebrill 1926, bron i bedair blynedd ers sefydlu r Cwmni Darlledu Prydeinig, trefnwyd gan y Rheolwr Cyffredinol John Reith, un o dri chyfarfod y flwyddyn o r Advisory Committee on Spoken English er mwyn trafod geiriau dadleuol. Un o r geiriau dadleuol o dan sylw yn y cyfarfod hwn oedd listener-in, sef y term a ddefnyddid ar y pryd i ddisgrifio r gwrandawr radio. Mynegodd Reith ei deimladau yn ei gyfrol ddylanwadol Broadcast Over Britain (1924) fel a nodir gan Briggs (1995, 222): This is the relic of the days when he actually did listen in to messages not primarily for himself; now he is the one addressed, and he accordingly listens. Only the unlicensed listen in. Ar gychwyn datblygiad y dechnoleg radio, adeiladai enthusiasts eu setiau radio neu eu wireless eu hunain yn eu cartrefi ac yna chwilio n ddyfal am signal. Cofier mai pobl a oedd â diddordeb mewn perfedd set radio oedd y rhain, nid pobl oedd yn ymddiddori yng nghynnwys darlledu. Diddorol yw trafodaeth P.M. Lewis a J. Booth (1989, 66) ar ddatblygiad y gwrandawr yn ystod y cyfnod hwn. Mae r dyfyniad isod o eiddo Filson Young (1924, 30), yn disgrifio ei set radio gyntaf, yn adleisio r cysyniad o r listener-in: [my] little magic cabinet by means of which on the manipulation of certain knobs and plugs, I am nightly in communication with the wonders or inanities of the ether. Roedd angen term mwy addas ar Reith gyda r BBC yn sefydlu ei hun ym mhatrwm bywydau pobl ac yn ceisio hyrwyddo gwerthiant y drwydded, ac felly fe benderfynwyd defnyddio r term listener. Yn ymhlyg yn y ferf gwrando fe bery arlliw o r aros eiddgar am sain, ond serch hynny nid yw mor oddefol ei natur â r ferf a gysylltir â r cyfrwng teledu, sef gwylio. Ystyrir darllen yn ferf sydd ag iddi agwedd weithredol a hon yw r ferf a gysylltir â r cyfrwng torfol arall, y papur newydd. A beth am y we? Mae syrffio, er y cynodiadau o fwynhad, haf a haul, o leiaf yn ferf sydd yn weithredol ei naws! Bellach, atgof hynod yw r gwrando torfol o gwmpas un set radio a oedd yn digwydd yn nyddiau cynnar darlledu a phroses unigol gan amlaf yw gwrando ar y radio i r gwrandawr cyfoes. Er hynny, caiff ei ystyried gan y darlledwr fel rhan o gynulleidfa ehangach, wasgaredig a i gyfarch gan gyflwynwyr fel petai n rhan o deulu y gwrandawyr. Mae r ystyriaeth hon hyd yn oed yn amlycach yn y Gymraeg nag yw yn y Saesneg drwy ddefnydd y chi lluosog. Mae yna ymwybyddiaeth felly ymhlith gwrandawyr eu bod yn rhan o gymuned sy n gwrando ar yr un deunydd ar yr un adeg, a bod y profiad hwnnw yn eu clymu nhw. Pan fo cynhyrchydd yn cynllunio cyfres, math o gynulleidfa sydd ganddo / i o dan sylw yn hytrach nag unigolion, a ffigurau cynulleidfa sy n pennu a yw r gyfres yn cael ail rediad ai peidio. Diddorol yw ystyried profiad Cymro neu Gymraes Gymraeg o wrando ar wahanol orsafoedd radio. Wrth wrando ar BBC Radio Cymru ar y naill law, gall deimlo n rhan o r gymuned Gymraeg ar lefel cenedlaethol, ac os yw n dewis gwrando ar orsaf radio leol yna gall deimlo n rhan o r filltir sgwâr. Yng nghyswllt hyn dylid tynnu sylw at yr hyn a wnaed gan BBC Radio Cymru yn 2004, sef ceisio cynnig dewis lleol neu optout yn y gorllewin o ardal Port Talbot i Gaerfyrddin heb golli r ymdeimlad cenedlaethol, a thrwy hynny gystadlu yn uniongyrchol â gwasanaeth masnachol lleol Radio Sir Gâr a lansiwyd ar y 13eg o Fehefin, Gall y gwrandawr hwn hefyd ddewis tiwnio i mewn i BBC Radio 2 dyweder ar nos Lun i glywed rhaglen ar gerddoriaeth jazz yn benodol a thrwy hynny ymuno â chymuned ehangach sy n rhannu r un diddordeb cerddorol. Beth am brofiad Cymro neu Gymraes ddi-gymraeg felly? Mae BBC Radio Wales yn orsaf boblogaidd ac mae n amlwg fod y gwrandawyr yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned sy n cael ei diffinio gan rywbeth heblaw iaith yn unig. Ym mlwyddyn dathlu chwarter canrif ers sefydlu r orsaf

99 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Radio Cyfrwng Hen Ffasiwn neu Gyfrwng Oesol? 99 bu cyrhaeddiad cyson o 20 y cant yn y ffigurau gwrando, y ffigwr uchaf erioed yn ei hanes yn ôl Arolwg Blynyddol BBC Cymru Y sefydliad sy n cael ei gydnabod ar gyfer mesur cynulleidfaoedd radio ym Mhrydain yw RAJAR Radio Joint Audience Research Ltd. Sefydlwyd y cwmni yn 1992, ac adolygwyd eu dulliau o fesur cynulleidfa ym 1996/7. Bellach mesurir arferion gwrando un person o fewn y cartref, a hynny trwy roi dyddiadur personol iddynt. Caiff y wybodaeth ei choladu bob tri mis, chwe mis neu ddeuddeg mis yn ôl talgylch yr orsaf o dan sylw. Mae i system fel hon ei gwendidau, ac mae n ofynnol i unigolyn fod yn ddisgybledig er mwyn cwblhau r dyddiadur personol yn gyson ac yn fanwl gywir. Ers 1992, mae Arbitron, sef cwmni cyfatebol sy n gwasanaethu darlledwyr radio (a chwmnïau cebl a hysbysebwyr) yn yr Unol Daleithiau, Mecsico ac Ewrop wedi datblygu mesurydd cynulleidfaoedd y Portable People Meter sy n galluogi i wybodaeth gwrando gael ei chasglu n electronig. Mae unigolyn yn gwisgo teclyn bychan sy n adnabod, trwy godau, pa orsaf neu sianel mae n gwrando arni, ac yn danfon y wybodaeth hon at Arbitron dros nos ar hyd llinell ffôn. Gall adnabod codau analog a digidol, deunydd byw neu wedi ei recordio yn ogystal â deunydd a ddarlledir ar y we. Yn amlwg, mae i r system hon ei manteision o i chymharu â dyddiadur personol, ac mae n system sy n medru adlewyrchu yn rhwydd y dewis o blatfformau gwrando sydd gan y gwrandawr. Ond beth am y bobl sy n defnyddio r ffigurau gwrando er mwyn mesur effeithiolrwydd eu cyfresi a u rhaglenni? Sut mae r personél ymchwilwyr, cyflwynwyr, cynhyrchwyr a phobl sain sy n ennill eu bara menyn o r cyfrwng yn teimlo am y cyfrwng ei hun a u gwaith bob dydd? O fy mhrofiad personol gwn fod nifer sydd wedi gweithio ar y radio yn teimlo cynhesrwydd tuag at y cyfrwng, ond beth sy n ysgogi r teimlad hwnnw? Fel rhan o r ymchwil, penderfynais ddanfon holiaduron at weithwyr o fewn y diwydiant radio i ofyn am eu profiadau, er mwyn gweld beth yn union yw apêl gweithio i gyfrwng sy n gorfod dibynnu ar eiriau n unig mewn oes aml-gyfrwng ac ar gyllidebau bychain o gymharu â chyfryngau eraill. O r rhai a ddychwelodd eu holiaduron roedd pob un ohonynt yn mwynhau gweithio i r cyfrwng radio, neu wedi cael boddhad o weithio i r cyfrwng yn y gorffennol. Roedd symlrwydd ac ystwythder yn eiriau a ddefnyddiwyd gan un ohonynt i ddisgrifio darlledu ar y radio, yn enwedig darlledu byw, a bod yna deimlad o gysylltiad uniongyrchol rhwng cyflwynydd a gwrandawr. Mae hyn yn adlewyrchiad o ganfyddiadau Storr (1992) bod yna apêl mewn clywed pobl eraill, arfer sy n meithrin perthynas rhwng pobl, yn fwy felly na u gweld. Hyn sydd i gyfri efallai am boblogrwydd cyflwynwyr radio, a r ffaith eu bod yn derbyn cardiau pen-blwydd a Nadolig yn ddi-ffael oddi wrth rai gwrandawyr. Nid cyflwynwyr yn unig sy n gweld mantais yr agosatrwydd, dywed un cyn uwch gynhyrchydd gyda BBC Radio Cymru, Daniel Jenkins-Jones, bod apêl yn y posibilrwydd o siarad â gwrandawr pan fo r rhaglen ar yr awyr. Nododd y cynhyrchydd Dafydd Meredydd, sy n fwy adnabyddus i wrandawyr fel y cyflwynydd Dafydd Du, bod y profiad o gyflwyno ar deledu yn golygu ei fod o flaen y camera, ond wrth gyflwyno ar y radio ei fod tu ôl i r meicroffon a bod y defnydd o r ymadroddion hynny n allwedd i ddeall awyrgylch cyffyrddus a chartrefol y cyfrwng. Roedd mwy nag un cyflwynydd yn nodi bod y gallu i reoli cynnwys yn apelio atynt, nodwedd sy n anghyffredin i gyflwynydd teledu ac i w phriodoli i ddatblygiad technoleg y stiwdios hyblyg POTS (Presenter Operated Transmission Suite) yn ystod yr 1980au. Ers hynny rhoddwyd pwysau cynyddol ar gyflwynwyr i reoli r ddesg a chyflwyno ar yr un pryd self-op arfer sy n gwbl gyffredin erbyn hyn ac sy n amlwg o fantais i r cyflwynydd yn ôl yr ymatebion a gafwyd Mae n amlwg hefyd o r ymatebion a gafwyd fod uniongyrchedd y cyfrwng yn apelio; dyma Dafydd Du unwaith eto:

100 100 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Radio Cyfrwng Hen Ffasiwn neu Gyfrwng Oesol? Y wefr o allu cael syniad da am drêl, yna ei sgriptio, recordio llais, cymysgu cerddoriaeth a clips, golygu a gwrando arno n cael ei ddarlledu am y tro cyntaf o fewn awr. D oes dim angen tîm o staff cynhyrchu a chriw technegol, dim ond un dyn neu ddynes fach. Dyna r rheswm fod cyflwynwyr, ymchwilwyr a chynhyrchwyr radio yn teimlo fod ganddynt berchnogaeth ar eu rhaglenni, yn fwy efallai na chynhyrchwyr teledu, gan fod pob agwedd o r cynhyrchu o fewn eu cyrraedd a u rheolaeth. Yn ogystal, fel y nododd Daniel Jenkins-Jones: Mae turnaround gwireddu syniadau radio cymaint yn fwy cyflym na chyfrwng teledu. Fel cynhyrchydd fe allwch chi gael syniad ar gyfer rhywbeth i w gynnwys mewn rhaglen lai na phum munud cyn bod y rhaglen honno yn mynd ar yr awyr mae n digwydd yn amlach na ma pobol gartref yn styried! Mae na duedd i ystyried radio fel cyfrwng i fwrw eich prentisiaeth ym myd darlledu, ac mae hynny i w briodoli i r ffaith ei fod yn gyfrwng sy n ei gynnig ei hun ar gyfer gwaith arbrofol. Fel y nododd un uwch gynhyrchydd: Triwch rywbeth heddi ac os nad yw e n gweithio fedrwch chi anghofio amdano a symud ymlaen at rywbeth arall fory. Ond, os yw rhywbeth yn gweithio fe deimlwch chi r buzz yn syth oherwydd agosatrwydd y cyfrwng at y gwrandawyr. Er y pleserau y cyfeirir atynt uchod, mae yna anfantais i r gwaith unigol a gall gweithio i r cyfrwng fod yn waith unig. Gan amlaf tîm bychan o bobl sy n gweithio ar raglen neu gyfres radio, lle fydd cyfres gyffelyb ar deledu yn amlwg yn gofyn am nifer o bobl ac mae yna fantais i hynny wrth drafod syniadau gyda chydweithwyr a gweld rhywbeth o bersbectif gwahanol. Pan ofynnwyd iddynt ddisgrifio r hyn nad oeddent yn ei fwynhau am weithio i r cyfrwng, roedd rhai yn methu meddwl am ddim byd negyddol, ond cyfeiriodd y cyflwynydd Kevin Davies at gynhyrchwyr oedd yn mynnu rhoi fframwaith tynn, cadarn, anhyblyg ar raglenni cred nad oes angen cynllun o r fath ar raglen radio. Yn ddiddorol, cyfeiriodd un cynhyrchydd at gyflwynwyr, am nad ydynt bob amser yn gwireddu syniad cystal ag yr oedd y cynhyrchydd wedi ei rag-weld. A oes sail i r gred mai cyflwynwyr rhwystredig yw cynhyrchwyr? Un agwedd y cyfeiriwyd ati oedd cyllid a r gwahaniaeth mawr sy n bodoli rhwng y cyfrwng teledu a r cyfrwng radio. Gall hyn effeithio ar waith bob dydd. Nododd un person ei bod wedi mynd yn anos perswadio cyfranwyr i gymryd rhan mewn rhaglenni radio am eu bod yn cyfarwyddo â thaliadau r cyfrwng teledu. Er enghraifft, byddai cyfrannwr, sydd gan amlaf ben arall y ffôn, ar raglen brynhawn ar Radio Cymru yn derbyn tâl o am sgwrs hyd at bum munud o hyd, a chyfrannwr sy n dod i r stiwdio i gael ei gyfweld ar raglen deledu ar S4C Digidol yn derbyn 80 ynghyd â chostau teithio. Er y cyllid sydd ar gael o fewn teledu, cred un uwch gynhyrchydd bod modd cynhyrchu rhaglenni llawn cystal ar y radio am y nesa peth i ddim. Mae yna duedd i feddwl am gyfyngiadau r cyfrwng radio gan ei fod yn gorfod dibynnu ar hud geiriau yn unig ond cyfeiriodd y person hwn at yr apêl sydd yna ym mhwysigrwydd geiriau at y mwynhad o geisio creu lluniau a delweddau trwy gyfrwng naratif cryf, a r miniogrwydd meddwl sydd ei angen wrth roi rhaglen at ei gilydd er mwyn creu y llun ar gyfer y gwrandawr. Gwêl Sulwyn Thomas berthynas agos rhwng y wasg a r cyfrwng radio, gan fod y gallu i ysgrifennu n gyflym, yn rhywiog a chywir mewn brawddegau byrion a syml yn nodweddu r ddau. Teimla fod teledu

101 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Radio Cyfrwng Hen Ffasiwn neu Gyfrwng Oesol? 101 yn gyfrwng cymhleth dros ben, boed yn ffilmio mewn stiwdio neu ar leoliad, a bod presenoldeb criw yn difetha sgwrs yn aml. Yn yr holiadur gofynnwyd am farn ar ba mor addas yw r cyfrwng wrth geisio trosglwyddo gwahanol genres. Mynegwyd gan bob un mai r genre mwyaf addas yn eu tyb nhw oedd newyddion gan fod y cyfrwng radio yn medru treiddio n ddwfn i straeon y dydd. Nid yw rhaglenni teledu yn medru gwneud hynny i r un graddau, oherwydd cyfyngder amser; teimla Sulwyn Thomas ei fod yn gyfrwng sy n dibynnu n ormodol ar y sound-bite bondigrybwyll. Mae radio yn cynnig cyfle i drafod straeon, ac mae genre y rhaglen drafod yn ddelfrydol ar gyfer y cyfrwng er mai ond ar ambell orsaf y clywir y fath raglenni erbyn hyn. Mae bwletinau cyson ar yr awr gan amlaf yn fformat y mae r gynulleidfa yn ymwybodol ohono ac yn arfer ag ef. Drwy ddefnyddio offer syml, symudol gall y gohebyddion sicrhau bod straeon ar yr awyr o fewn eiliadau ynghynt na theledu yn aml gan fod y cyfrwng hwnnw yn aros i gamerâu gyrraedd. Er hyn, gyda datblygiad technoleg megis y ffonau fideo a welwyd yn cael eu defnyddio dipyn adeg Rhyfel Irac mae teledu yn fwy cymharus â radio. Mae BBC Cymru wrthi n hyfforddi nifer o u newyddiadurwyr i fod yn newyddiadurwyr fideo a elwir o fewn y diwydiant yn VJs (video-journalists) neu PDPs (personal digital production), lle maen nhw fel unigolion yn gyfrifol am y sain, y llun a r cynnwys. Yn ôl Siân Gwynedd, mae yna fanteision pendant i hyn. Yn ddaearyddol mae n gwneud gwahaniaeth gan ei bod yn bosib i ohebydd dyweder yng nghanolbarth Cymru ohebu ei stori, ei golygu ar gyfrifiadur yn ei gartref a i danfon i Gaerdydd er mwyn cael ei darlledu. Rhydd yr offer hefyd gyfle i ohebydd newyddion dreulio amser gyda phobl, gan nad oes ganddo griw camera yn cadw cwmni iddo, ac sy n gorfod rhuthro i fan arall i ddal stori. Mae pobl hefyd yn fwy parod i ymlacio gan nad yw r offer yn ymwthiol elfen a arferai nodweddu r cyfrwng radio yn unig. Serch hyn, dywed Siân Gwynedd ei bod yn bwysig cadw mewn cysylltiad â r gohebyddion unigol hyn gan fod yna duedd ganddynt i weithio n rhy annibynnol. Y gyfrinach yw trafod syniad gyda nhw o r dechrau un, gan fod barn person arall yn dod â ffresni a gwrthrychedd i r gwaith. Ni ellir honni mai rhinwedd yw uniongyrchedd bob tro. Fel y gwyddys, gall newyddiadurwyr ymateb yn rhy sydyn heb fod yn hollol sicr o u ffeithiau, ac fel y profodd Rhyfel Irac ar ei anterth, pan oedd newyddiadurwyr a osodwyd gydag unedau o r Fyddin (yr embedded journalist ) yn gohebu ar eu sefyllfaoedd personol hwy ar y pryd, roedd hi n anodd cael darlun cyflawn o r rhyfel. Mae uniongyrchedd y cyfrwng yn estyn ei hun i faes chwaraeon hefyd, ac fe brofodd Radio Ceredigion ar ei orau fod modd cynnal gwasanaeth chwaraeon gyda ffôn symudol a digon o ddychymyg. Tennis, golff, athletau dyna rai o r campau y nodwyd fod angen lluniau i w gwerthfawrogi n llawn, ac fe enwyd rygbi gan un. Ni ellir gwadu gwerth y replay i ail-weld cais neu siot. Profiad cyffredin i nifer erbyn hyn yw mynd i wylio gêm rygbi sydd hefyd yn digwydd cael ei darlledu, gyda sgrin fawr ar un pen i r cae yn dangos y gêm, a r dorf yn troi n awtomatig at y sgrin i weld ailddangosiad o r cais, y trosiad neu r gosb. Diddorol yw sylwi faint o r dorf sy n parhau i gadw eu llygaid ar y sgrin yn hytrach na throi n nôl at y gêm fyw sydd o u blaenau. Pêl-droed a chriced oedd dwy gamp y tybiwyd gan nifer eu bod yn addas i r cyfrwng radio, ac maent wedi esgor ar draddodiad clodwiw o sylwebu. Mae n rhaid wrth sylwebwyr dihafal er mwyn trosglwyddo r ffeithiau a r cyffro sy n digwydd ar y maes (a daeth enw r sylwebydd pêl-droed Alan Green, Radio Five Live i r brig gyda nifer). Gŵr a arweiniodd y ffordd o ran sylwebu rygbi yn y Gymraeg oedd Eic Davies, tad y sylwebydd Huw Llywelyn Davies. Diddorol yw nodi, ddegawd cyn sefydlu S4C, fod gwylwyr gemau rygbi rhyngwladol yn diffodd sylwebaeth Nigel Starmer-Smith ar luniau r BBC er mwyn gwrando ar sylwebaeth Gymraeg ar y radio, er fod sylwebaeth o r fath yn disgrifio popeth oedd i w weld ar y teledu. Noda John Davies (1994, 319):

102 102 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Radio Cyfrwng Hen Ffasiwn neu Gyfrwng Oesol? Sports commentaries in Welsh became firmly established, Glanmor Williams in 1971 expressing his appreciation of the increasing competence of Welsh-language commentators. Ar y radio mae gan yr ail lais ei rôl i chwarae wrth fynegi barn a thrafod a daeth double -act Huw Llywelyn Davies a Ray Gravell yn ddigon enwog ac unigryw i w dychanu gan lawer, ond fel y nododd un uwch gynhyrchydd am ffresni r ail lais ar y radio: Yn ystod hanner amser mae Gary Lineker ac Alan Hansen yn trafod y gêm mae Dai Davies a Malcolm Allen yn trafod digwyddiade gyda r sylwebydd wrth iddyn nhw ddigwydd. Cydnabu pawb bod radio yn gyfrwng delfrydol ar gyfer cerddoriaeth a theimlai sawl un bod goroesiad y cyfrwng i w briodoli i r genre yma. Ond cydnabuwyd hefyd bwysigrwydd radio i r diwydiant cerddoriaeth yn enwedig ym maes pop lle mae r naill yn dibynnu ar y llall. Fel y nododd un oni bai am y sylw mae artistiaid yn ei gael ar y radio ni fyddent yn bodoli, ond heb yr artistiaid byddai arlwy gerddorol ambell orsaf yn dipyn tlotach ac ni fyddai ambell orsaf yn medru bodoli o gwbl. Ar y radio hefyd y caiff nifer o fandiau eu cyfleodd cyntaf ac mae bandiau neu artistiaid yn chwarae n fyw yn ddigwyddiad cyffredin sy n rhoi hygrededd i r gwasanaeth o dan sylw. Fel y dengys y genre newyddion, mae technoleg yn golygu fod rhai o rinweddau r cyfrwng radio yn nodweddu teledu, ac mae hyn i w weld o fewn y genre cerddoriaeth hefyd. Nodwyd gan y cynhyrchydd Geraint Davies a dreuliodd nifer o flynyddoedd yn ymwneud â pholisi cerddoriaeth BBC Radio Cymru yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni cerddorol, fod yna apêl mewn cael cais am drac gan hoff grŵp ar y radio. Mae modd gwneud hynny ar deledu, trwy gyfrwng sianeli megis MTV a Kerrang!, ond i Geraint Davies ychwanegiad yw r fideo cerddorol gan fod clywed cân ar y radio yn galluogi rhywun i greu ei ddelweddau ei hun. Flynyddoedd yn ddiweddarach mae clywed y gân yn medru ailgynnau r fideo personol hwnnw. Yn yr un modd mae nofelydd yn annog darllenydd i greu delweddau personol o gymeriadau a sefyllfaoedd, felly hefyd y dramodydd radio. Cyfeiriodd un uwch gynhyrchydd at y profiad unigryw a chyfoethog o wrando ar ddrama radio dda. Mae actorion, cynhyrchydd, dyn sain, stiwdio ddrama a r defnydd celfydd o effeithiau sain yn gallu creu campweithiau pwerus sy n tynnu r gwrandawyr i fyd dychmygus, byw. I gynulleidfa ddatblygedig, orllewinol delweddau gweledol sy n tueddu i fynd â r sylw, eilbeth yw r synnwyr clywed. Er cymhlethdodau ein bywydau gorllewinol, mewn arolwg gan Thorn (1998), pan ofynnwyd i bobl ifainc sôn am ystyron y synau sydd o u cwmpas bob dydd, roedd nifer yn cyfeirio at synau megis sŵn allwedd yn y drws ffrynt yn nodi fod Dad gartre a fod pob dim yn iawn. Yn sgil hyn, hawdd deall apêl y ddrama radio, ond eto cymharol araf fu datblygiad y genre gan ei bod yn anodd ei hysgwyd o hualau theatr, fel a nodwyd yn The Observer ym Mai 1926: The BBC has not yet discovered a modern playwriter who has the correct technique for a broadcast play, (Briggs, 1995, 258) Yng Nghymru, er ein bod yn gyfarwydd â gwaith Saunders Lewis a Dylan Thomas yn cael eu llwyfannu erbyn hyn, mae eu pwyslais ar werth y gair yn dyst i r ffaith mai bwrw eu prentisiaeth ar y radio a wnaethant. Ym 2003 comisiynwyd deunaw o ddramâu newydd gan Radio Cymru, ac fel y daeth yr opera sebon i blastro i hun dros amserlenni teledu yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mentrodd y radio hefyd i r un cyfeiriad am gyfnod. Lansiwyd Ponty ar Radio Cymru ym 1995, Station Road ar Radio Wales ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yna Eileen ac yn ddiweddarach Rhydeglwys ar Radio Cymru. Er hynny mae dilyn opera sebon ar y radio yn dipyn o gamp gan fod angen tiwnio i mewn ar yr un amser bob dydd, arfer sy n cael ei gysylltu yn fwy â r bwletin newyddion ar y radio. Diddorol nodi fod yr opera sebon Rhydeglwys wedi ei darlledu bob dydd am 12.50pm yn arwain at y newyddion, a r gobaith yw fod modd

103 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Radio Cyfrwng Hen Ffasiwn neu Gyfrwng Oesol? 103 rhagetifeddu cynulleidfa ar gyfer yr opera sebon. Yr opera sebon nodedig ym Mhrydain yw r Archers ar BBC Radio Four a ddarlledwyd gyntaf yn ystod wythnos y Sulgwyn ym 1950 fel peilot i ddalgylch canolbarth Lloegr. Ym mis Ionawr y flwyddyn olynol y i clywyd ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae n dal i rwydo ei chynulleidfa am 2pm bob dydd ar BBC Radio Four a r omnibws ar y Sul. Mae n werth cyfeirio at ffaith a gododd o ymchwil Ofcom bod 74y cant o r rheiny sy n gwrando ar y radio sy n 65 oed neu n hŷn yn gwrando ar orsafoedd y BBC, a r un ganran o blant sy n gwrando ar y radio yn tiwnio i orsafoedd masnachol. Mae hyn i w briodoli mae n debyg i w dibyniaeth ar ddeiet o gerddoriaeth. Yn yr ymateb a gafwyd i holiaduron fy ymchwil i, ni thybiwyd fod y cyfrwng yn addas ar gyfer rhaglenni plant gan fod angen symbyliad gweledol ar blentyn yn ogystal ag ysgogiad i r glust. Er hynny roedd rhai yn cofio gwrando ar Ribidirês gyda Cefyn Roberts ar Radio Cymru pan oeddent yn blant. Darlledid y rhaglen honno ar fore Sadwrn a Delwyn Siôn yn gynhyrchydd arni. Bu r gyfres yn rhedeg am wyth mlynedd, ac yn nhyb Cefyn Roberts roedd ei llwyddiant i w briodoli i r ffaith fod Cymry Cymraeg yn falch o gael rhaglen dros ben llestri yn eu hiaith eu hunain a fedrai gystadlu â rhaglenni teledu Saesneg cyffelyb y cyfnod megis Tiswas. Ni throsglwyddodd Ribidirês i deledu, er i raglen Nadolig gael ei darlledu o Gwmrhydychwadods (y cartref ysbrydol) ac i record sengl gael ei rhyddhau. Cymeriad radio i blant a drosglwyddodd o r sgrin fach i fyd y radio oedd Jeifin Jenkins y teddy boy Cymreig, a ddechreuodd fel Mr Jenkins mewn syrjeri doctor yn dweud jôcs. Yn araf, yn ystod yr 1980au drwy gyfrwng cyfresi fel Yr Hanner Awr Fawr ac yna Hafoc fe ddatblygodd yn fwy o gymeriad a llawer o i hiwmor yn dibynnu ar chwarae ar eiriau. Nid yw n syndod felly iddo drosglwyddo n rhwydd i r cyfrwng radio, lle cafwyd rhaglen fore Sadwrn gyda Jeifin yn sgwrsio gyda phlant, dweud jôcs a chreu anarchiaeth llwyr! Mae n debyg fod rhieni yn cael cymaint o fwynhad â u plant o wrando ar Jeifin. Darlledwyd cyfres o r enw Afalansh rai blynyddoedd yn ddiweddarach ond ni chydiodd yn nychymyg plant i r un graddau. Darlledir rhaglen gylchgrawn hanner awr o hyd i blant bob nos Sul am 7.15pm ar BBC Radio Four o r enw Go4It sydd wrth gwrs â i gwefan ei hun. Cafwyd anghytundeb yn atebion yr holiaduron o ran addasrwydd y cyfrwng i r genre adloniant, rhai yn tybied fod teledu yn rhagori gan fod gymaint o bwyslais yn gyffredinol ar adloniant gweledol erbyn hyn. O r rhai oedd yn canmol, nodwyd hyblygrwydd y cyfrwng a bod mwy neu lai unrhyw beth yn bosib. Teimlent fod cwisiau a gemau panel yn gweithio n well ar y radio nag ar deledu ac yn dibynnu n aml ar glyfrwch geiriau a hiwmor. Yn ogystal, gan fod modd i bobl gymryd rhan ym mhen arall y ffôn o u cartrefi, mae nhw n gallu ymlacio, yn fwy felly na phe byddent mewn sefyllfa stiwdio deledu. Dangosodd adroddiad Ofcom 2004 fod y nifer o oriau o wrando ar y radio wedi cynyddu 7 y cant yn ystod y pum mlynedd blaenorol, gyda 54 y cant o r boblogaeth yn gwrando ar y radio bob dydd. Mae r ffigwr yn uwch yng Nghymru (56 y cant) a Lloegr (55 y cant) ac yn is yng Ngogledd Iwerddon (42 y cant) a r Alban (47 y cant). Amser brecwast yw r adeg fwyaf poblogaidd ar gyfer gwrando gyda r niferoedd yn lleihau fel y mae r dydd yn mynd yn ei flaen. Gellid honni bod y rhyngrwyd wedi dod i r adwy o safbwynt goroesiad y cyfrwng. Y duedd oedd i ieuenctid ddefnyddio r cyfrwng radio fel dihangfa o r teulu, ond erbyn hyn mae arddegwyr yn gallu dianc i r ystafell wely i wylio r hyn a fynnant heb orfod plygu i ddewis eu rhieni ac aelodau eraill o r teulu. O ystyried y gystadleuaeth peiriannau DVD, GameBoys, gemau cyfrifiadurol, stereos personol, a r we mae n hynod fod gwrando ar y radio yn arfer sy n dal ei dir, ond mae natur y cyfrwng yn ein galluogi i w ddefnyddio wrth wneud rhywbeth arall; gall pobl wrando wrth syrffio r we lle bynnag maent yn y byd. Mae safleoedd gwe yn cynnig cymaint mwy i wrandawyr, megis radio ar alw, lle gall y gwrandawr ddewis gwrando ar raglen ar adeg o r wythnos sy n gweddu, a bellach podledu, sy n galluogi defnyddwyr i fynd â r rhaglen gyda nhw i unrhyw le a thanysgrifio i dderbyn diweddariadau drwy eu i-pod.

104 104 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Radio Cyfrwng Hen Ffasiwn neu Gyfrwng Oesol? Un o brif ddarganfyddiadau Ofcom oedd mai radio yw r cyfrwng sydd ar flaen y gad o safbwynt cydgyfeiriant. Y mae n bosib i r gwrandawr ddewis gwrando ar amrediad o blatfformau digidol, megis teledu digidol. Dengys ffigurau RAJAR, hyd at Fehefin 2004, fod 28.8 y cant o oedolion wedi gwrando ar y radio yn y modd hwn yn y gorffennol, sydd bron yn hanner y nifer sydd yn medru derbyn teledu digidol. Mae hyn yn ddiddorol o ystyried faint o sianeli teledu sydd at eu dewis, a safle isel gorsafoedd radio ar y Canllaw Rhaglenni Electronig. Gellir defnyddio ffôn symudol i wrando; nodwyd gan Ofcom fod 15.4 y cant o bobl rhwng 15 a 24 oed hyd at Fawrth 2004 wedi gwrando ar y radio yn y modd hwn (er dylid nodi fod hyn trwy gyfrwng radio analog oedd yn gynwysedig yn y ffôn). Efallai erbyn hyn fod y term y rhoddwyd sêl bendith iddo yn nauddegau r ganrif ddiwethaf wedi chwythu ei blwc, a bod angen gair arnom sy n cynnig gwell adlewyrchiad o r dewis sydd ar gael i r gwrandawr. Defnyddiwr fuasai r term hwnnw sy n gosod y gwrandawr radio ar yr un safle â defnyddiwr unrhyw gyfrwng cyffelyb ac sy n rhoi parch i r pŵer gweithredol sydd ganddo. LLYFRYDDIAETH BBC Cymru (2004) Arolwg Blynyddol BBC Cymru Caerdydd: BBC. URL annualreport/pdf/ /bbc_welsh_2004_05.pdf Briggs, Asa (1995) The History of Broadcasting in the United Kingdom, Volume I: The Birth of Broadcasting Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. Davies, J. (1994) Broadcasting and the BBC in Wales Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Lewis, P. M. & Booth, J. (1989) The Invisible Medium Llundain: Macmillan. Ofcom (2004) Y Farchnad Gyfathrebu Llundain: Ofcom. URL Storr, A. (1992) Music and the Mind Efrog Newydd/ Llundain: Harper Collins. Thorn, R. (1998) Hearing is Believing: the evidence, Sound Journal 1 tt Young, F. (1981) The Saturday review yn S. Briggs (gol.) Those Radio Times Llundain: Weidenfeld and Nicolson. Cyfweliadau yn ystod Medi 2004 gyda: Dafydd Meredydd (Daf Du); Siân Gwynedd; Daniel Jenkins-Jones; Sulwyn Thomas; Kevin Davies; Geraint Davies.

105 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau 105 CWESTIYNU R TESTUN: DADANSODDI AC AMLYSTYREDD CATRIN PRYS All clues, no solutions. That s the way things are. Dennis Potter, 1996: 140 Mae dadansoddi testun o fewn astudiaethau teledu wedi wynebu cryn feirniadaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn neilltuol, mae rhai o brif feirniaid y maes yn dadlau n ddiysgog fod dadansoddi testun â r math hwn o arbenigedd yn anochel o fod yn oddefol ac yn amwys; hynny yw, beth yn union sydd yn gwneud un dadansoddiad o destun yn fwy dilys na r dadansoddiad nesaf? Pa faterion cyd-destunol sydd yn berthnasol a pha rai y gellir eu diystyru? A yw cyd-destun damcaniaethol neilltuol yn gwthio r dadansoddi tuag at un ffordd arbennig o ddarllen neu edrych ar y rhaglen? Yna, ar ôl penderfynu ar y cyd-destun damcaniaethol, onid ydi r beirniad testunol yn dethol a breintio r rhannau neilltuol hynny o r testun sydd yn crisialu ei dd/dadl arbennig ei hunan? A yw beirniadaeth destunol yn cyflwyno unrhyw fath o dystiolaeth gadarn neu empirig? Ac os nad oes unrhyw fath o dystiolaeth empirig yna beth yw dilysrwydd neu bwrpas y casgliadau? Dyma r math o gwestiynau sydd yn cael eu taflu n gyson at y rheini o n plith sy n pledio achos y testun mewn astudiaethau teledu a ffilm. Ar ben hyn, mae r amryfal feirniadaethau yn erbyn dadansoddi testunol wedi cynyddu n fwyfwy ers y twf mewn astudiaethau cynulleidfa ac astudiaethau derbyniad ar ddechrau r 1980au cynnar. Mae r math hwn o ddadansoddi yn dadlau n chwyrn fod nifer helaeth o ffyrdd o edrych ar destunau a bod pob darllenydd yn dadansoddi r testun yn wahanol. Er fod Strwythuriaeth wedi ceisio n galed i gynhyrchu ffordd lymach, un lled-wyddonol hyd yn oed, o ddadansoddi r testun, yn y pen draw cafodd y mudiad hwnnw hefyd ei gyhuddo o fod yn rhy benderfyniaethol o ran ei gasgliadau. Yn wir, dadleuwyd bod y math hwn o ddadansoddi lled-wyddonol (fel a geir mewn semioteg) yn aml yn esgor ar gasgliadau rhy llym a lleihaol. Ys dywed Justin Lewis (1991:35, pwyslais yn y gwreiddiol): Textual analysis has repeatedly reverted to assertions about what the text means, rather than what or how it could mean. If these analyses offered some evidence, some sociological analysis of the ideology of the audience, this might be not only forgivable but revealing. It is, sadly, a rare thing for textual critics to let such realities interrupt the flow of their journey through the text. We are told, consequently, what films, TV programs or other cultural artefacts are really about. We are also told so and so represents the phallus, or capitalism, or post-modernist angst. This may be intellectually stimulating but it leaves us, semiologically speaking, little wiser about contemporary culture. I m tyb i, gellir derbyn a chyfiawnhau beirniadaethau fel yr uchod ynglŷn â dadansoddi testun. Ymddengys fod gormod efallai o ragdybiaethau beirniadaethol wedi eu creu yn y gorffennol a oedd yn diystyru natur astrus y broses o greu ystyr. Er enghraifft, ys gwelir o r cysyniad o gamsyniad bwriad (gweler Wimsatt a Beardsley & Monroe, 1998) ni ellir bod yn gwbl sicr beth yw bwriad awdur unrhyw destun, a gall rhagdybio r bwriad/au hyn ein harwain at wneud datganiadau anghymwys am ein dadansoddiadau ein hunain. Ond, wrth gwrs, yn yr un modd, ni ellir dyfalu neu dybio sut y bydd cynulleidfa yn darllen testun. Gellir cynnig syniadau neu awgrymiadau ynglŷn â sut y gellir darllen y testun, ond, fe fyddai rhagordeinio unrhyw ddehongliad yn unrhyw beth ond dyfaliad yn hynod naïf.

106 106 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cwestiynu r Testun: Dadansoddi ac Amlystyredd Er mwyn amlinellu ac amlygu r cysyniadau uchod rwyf am droi at waith y dramodydd teledu Dennis Potter ( ), 101 sydd yn gyfrifol am ysgrifennu nifer o ddramâu a chyfresi a bery i grisialu r hyn a olygir wrth amlystyredd. Cyn troi at enghreifftiau o i waith sydd yn adlewyrchu r cysyniad o amlystyredd, dylid nodi mai polysemy, gair o darddiad Groeg, a ddefnyddir yn aml yn Saesneg. Mae n golygu y gall pob arwydd gynnwys neu gario toreth o wahanol ystyron. Dyma ddywed John Fiske am y cysyniad o amlystyredd mewn perthynas ag astudiaethau teledu (Fiske, 1998: 195): I argue that the polysemy of television lies not just in the heteroglossia from which it is necessarily constructed, but in the ways that different socially located viewers will activate its meaning potential differently. Thus any one utterance can be a member of a number of different languages : so when a character says, in an assumed southern accent, Oh, that s the cutest thing you ve ever said to me, sugar this can be read as part of a traditional chauvinist discourse of gender, or as a more modern liberated one. We may not be able to predict the actual reading that any one empirical viewer may make, but we can identify the textual characteristics that make polysemic readings possible, and we can theorize the relation between textual structure and social structure that make such polysemic readings necessary Meaning is as much of a struggle as is economics or party politics, and television attempts (but fails) to control its meaning in the same way that social authority attempts (but fails) to stifle voices and strategies of opposition. It is the polysemy of television that makes the struggle for meaning possible, and its popularity in class structured societies that makes it necessary. Felly, yn y bôn, fe gyfeiria amlystyredd at y gwahanol ystyron y tu ôl i arwyddion neu negeseuon ffilm a theledu gan bwysleisio yn arbennig fod gwahanol wylwyr, ar sail strwythurau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, rhywedd ac ati, yn mynd i ddarllen a dehongli mewn ffyrdd gwahanol i w gilydd. Edrychwn, felly, ar ddramâu Potter i amlinellu ymhellach bwysigrwydd amlystyredd mewn astudiaethau teledu a ffilm. Ymysg ei weithiau mwyaf adnabyddus ceir Brimstone and Treacle (1976), Pennies from Heaven (1978), Blue Remembered Hills (1979), The Singing Detective (1986) a Blackeyes (1989), ac isod fe gyfeirir at ambell un ohonynt i egluro rhai dadleuon ynglŷn â dadansoddi r testun. Yn y cyd-destun hwn, gobeithiaf na fydd fy ymdriniaeth o i waith yn un or oddrychol. Nid wyf ychwaith yn datgan fod gennyf unrhyw fewnwelediad neilltuol i mewn i r modd y dylir darllen y ddrama neu r testun. Fodd bynnag, credaf yn gryf y gall dadansoddi testunol (os y i gwneir mewn modd hunan ymddangosiadol a beirniadol) fod yn hynod briodol a threiddgar o ran diwylliant yn gyffredinol ac i bwrpas teledu a ffilm yn neilltuol. Yn anad dim arall, fe ddylai darllenwyr a beirniaid y bennod hon fod yn ymwybodol mai deialog am waith Potter sydd yma ac nid rhagdybiaethau am sut fath o effaith neilltuol a geisia r dramodydd ei gyfleu drwy ddethol gwahanol olygfeydd, darnau arbennig o gerddoriaeth, deialog benodol ac ati. Yn yr un modd, ni cheisia r bennod gynnig darlleniadau a dadansoddiadau penodol gan awgrymu mai dyma r unig ffyrdd o ddehongli r gwaith. Yn hytrach, hyderaf fy mod yn amlinellu r modd y gellir dadansoddi testunau mewn amryfal ffyrdd, gan ddefnyddio sawl gwahanol theori. Yn wir, yn hytrach na chyfyngu ar yr ystyron o dan wyneb ei waith, gobeithiaf ychwanegu at y dehongliadau a, maes o law, arddangos fod cymhlethdod eang o ystyron yn llechu y tu ôl i bob arteffact diwylliannol. 101 Bu farw Dennis Potter yn gynamserol o gancr ar y pancreas a r iau. Am fwy o fewnwelediad i w waith, gweler ei gyfweliad olaf gyda Melvyn Bragg (gweler Potter: 1994).

107 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cwestiynu r Testun: Dadansoddi ac Amlystyredd 107 Efallai mae r dechreubwynt wrth ddadansoddi testun yw cyfeirio sylw r darllenydd at y newid a ddigwyddodd rhwng strwythuriaeth ac ôl-strwythuriaeth. Tra bod dyheadau lled-wyddonol strwythuriaeth wedi arwain rhai ysgolheigion at gasgliadau braidd yn eithafol, mae r ôl-strwythurwyr, ar y llaw arall, yn tueddu i roi pwyslais ar y llithriant a all ddigwydd rhwng yr ystyr a r dehongliad (gweler Seiter, 1992). Yn arbennig, fe gyfyd cwestiynau am y ffordd draddodiadol o ddeall a dirnad y modd o gyfathrebu (h.y. anfonydd neges derbynnydd). Mae r model llinellol hwn o gyfathrebu yn tueddu i awgrymu y gellir anfon neges gan yr anfonydd at y derbynnydd mewn dull cwbl uniongyrchol. Mewn geiriau eraill, gall yr anfonydd anfon y neges at y derbynydd heb unrhyw broblem neu ymyrraeth. O ganlyniad, mae r neges a ddanfonwyd gan yr anfonydd yn cyfateb yn union i r un a dderbynnir. O r safbwynt hwn, ymddengys fod y modd traddodiadol o gyfathrebu, sef cyfathrebu llinellol, yn gwrthod cydnabod y gagendor sy n digwydd i r ystyr rhwng yr anfonydd a r derbynnydd. Hynny yw, sut y gellir bod yn gwbl argyhoeddedig na fydd yr ystyr wedi newid rywfaint yn y bwlch neu r gofod rhwng y ddau begwn? Er enghraifft, gall y modd neu r cyfrwng o anfon y neges ddylanwadu n gryf ar yr ystyr gwreiddiol, hyd nes yr anffurfir neu hyd yn oed y collir yr ystyr hwnnw cyn iddo gyrraedd y derbynnydd neu r darllenydd. Hyd yn oed os ydym yn hyderus na fydd yr ystyr gwreiddiol ar goll, yn y pen draw, mae derbynnydd y neges wastad yn meddu ar y gallu i w haltro neu ei newid. Y cysyniad hwn o ddadansoddi negeseuon ac ystyron sydd yn diffinio r maes o astudio r testun y dyddiau hyn. Erbyn heddiw, mae r model traddodiadol a welir uchod wedi ei ailstrwythuro i adlewyrchu r ffaith fod y llwybr rhwng yr anfonydd a r derbynnydd yn llawer mwy dyrys ac amlochrog, ac yn dwyn ei hunan i broses o ymyrraeth a dadansoddiad. Hyd yn oed os gwyddys beth oedd yr ystyr gwreiddiol, erbyn iddo gyrraedd y derbynnydd mae n ddigon posib ei fod wedi ei drawsffurfio n llwyr. O ran astudiaethau teledu, mae erthygl Stuart Hall Encoding/Decoding in Television Discourse (1980) yn egluro n glir pam fod holl destunau r sgrin fach yn amlystyrol, hynny yw, yn cael eu darllen gan gynulleidfaoedd mewn amryfal ffyrdd. Dywed Hall na ddylai r beirniad fyth fod yn hollol sicr sut y bydd cynulleidfa yn darllen a dadansoddi ystyr rhaglen deledu. Yn hytrach, dadleua dros y cysyniad fod y gwyliwr, neu r derbynnydd, yn bennaf yn dadansoddi testun mewn tair prif ffordd. Yr enw a rydd ar y modd cyntaf o ddadansoddi yw r safbwynt dominyddol-hegemonig neu r ystyr sy n cael ei ffafrio, sef y cysyniad fod y gwyliwr yn derbyn ac yn dadansoddi yn y modd y i bwriedid gan yr awdur. Yr ail ffurf o ddadansoddi, yn ôl Hall, yw r safbwynt sydd wedi ei negodi, sef modd o ddarllen y testun sy n altro r cod dominyddol fel bod yr ystyr gwreiddiol yn cael ei drawsnewid ryw gymaint. Yn olaf, ceir y safbwynt gwrthwynebus, sef darlleniad sydd yn mynd yn erbyn y graen gwreiddiol neu n llwyr yn erbyn yr ystyr sy n cael ei ffafrio (gweler Hall 1980). Yr hyn a ddengys y tri darlleniad uchod yw pa mor simplistig oedd y modd traddodiadol o edrych ar gyfathrebu ystyr. Yn hytrach, yr hyn a gynigir gan Hall yw model neu ffurf newydd o gyfathrebu sy n adlewyrchu cymhlethdod y berthynas rhwng yr awdur 102 neu gynhyrchwyr rhaglen a phroses y derbynnydd o ddehongli ei hystyr(on) (gweler Ffig 1). Fodd bynnag, yn ddiweddarach beirniadwyd model cyfathrebu Hall, yn arbennig ei gysyniad o ffafrio ystyr. Dadleuwyd fod hyd yn oed bodolaeth y gair ffafrio yn y cyswllt hwn yn tueddu i gyfleu r syniad y gallai r gwyliwr feddu ar y gallu i ddeall ystyr gwreiddiol y neges, ac roedd y cysyniad eisoes wedi ei gwestiynu gan y cysyniad o gamsyniad bwriad. Yn hyn o beth, er fod Hall yn datgan fod modd darllen 102 Mae r cysyniad o awdur yn un dadleuol iawn ym maes astudiaethau ffilm, ac yn enwedig ym maes teledu. I gymhlethu pethau fwyfwy fe dueddir i roi pwyslais ar wahanol unigoloion o fewn y ddau faes; y cyfarwyddwr mewn ffilm a r dramodydd pan sonnir am ddrama deledu. Fe gyflwynwyd y cysyniad o auterism yn wreiddiol yn y 1950au a r 1960au gan grŵp o ysgolheigion Ffrangeg mewn cylchgrawn yn dwyn y teitl Cahiers du Cinéma (gweler Stokes: 2003 a Prys: 2006).

108 108 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cwestiynu r Testun: Dadansoddi ac Amlystyredd testun mewn amryfal ffyrdd, mae ei syniad o r ystyr sy n cael ei ffafrio yn tueddu i awgrymu fod un gwir ystyr i w ganfod a i ddadansoddi (gweler Morley, 1981). Amgodio RHAGLEN FEL DISGWRS YSTYRLON Dadgodio Strwythur ystyr 1 Strwythur ystyr 2 Fframweithiau gwybodaeth Perthnasau cynhyrchiad Is-strwythur technegol Ffig 1. Model Hall o gyfathrebu a nodir yn Chandler, Fframweithiau gwybodaeth Perthnasau cynhyrchiad Is-strwythur technegol Fodd bynnag, er y problemau gyda model Hall, mae n amlwg fod y cysyniad ynglŷn ag ystyr wedi symud oddi wrth y testun a thuag at y darllenydd neu r gwyliwr. Fel yr awgrymwyd eisoes, fe ddigwydd y shift hwn o fewn cyd-destun deallusol a elwir yn Ôl-Strwythuriaeth, sef mudiad sy n cwestiynu r posibilrwydd o unrhyw berthynas sefydlog rhwng yr arwyddwr a r arwyddedig. Ymysg eraill, yr oedd Derrida (1978), yn dadlau fod gwir gasgliad neu glo yn broses ohiriadwy mewn gofod o arwyddwyr diddiwedd. Ategir y cysyniad hwn gan Roland Barthes yn ei erthygl ddylanwadol, The Death of the Author (1977: 146): We know that the text is not a line of words releasing a single theological meaning (the message of an Author-God) but a multi-dimensional space in which a variety of writings, none of them original, blend and clash. Yn wir, mae r goblygiadau ynghlwm â r ailddarlleniadau hyn o r testun yn gymhleth, yn ddadleuol ac yn dal i fod yn y broses o gael eu sefydlu. Yn sylfaenol, fodd bynnag, golyga mai hynod anodd ydyw trafod unrhyw destun mewn modd unigol. Yn benodol, mae r cysyniad o r darllenydd cyffredin nawr yn anghynaliadwy. I aralleirio, ni ellir fyth fod yn siŵr sut y bydd gwahanol aelodau o r gynulleidfa yn darllen a dehongli r testun. Tra bod modd cynnig awgrymiadau am sut y bydd testun efallai yn cael ei ddadansoddi gan y gynulleidfa, ffolineb a naïfrwydd yw tybio y bydd pob aelod o r gynulleidfa yn ei ddehongli yn yr un ffordd. O achos hyn, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn astudiaethau derbyniad ac astudiaethau cynulleidfa ar ddechrau r 1980au, a bwriad y math hwn o astudio yw nid edrych ar y testun ond, yn hytrach, ar y cyfryw ffyrdd mae aelodau r gynulleidfa wedi darllen a dadansoddi r ffilm, y rhaglen deledu ac ati (gweler Stokes:2003). Felly, wrth droi i edrych ar waith Dennis Potter, fe fyddaf yn cadw r cysyniad o amlystyredd y testun mewn cof. Nid cyfyngu ei ddramâu i un ystyr yw fy mwriad, ond, yn hytrach, amlinellu r ffaith na ellir corlannu ei waith i un dehongliad. Er fy mod yn awgrymu, yn archwilio ac yn breintio rhai ystyron posibl, gobeithiaf arddangos mai rhan o r broses ddadansoddiadol yn unig yw hyn ac nid dehongliad caeth, anhyblyg. Yn wir, i r gwrthwyneb, fy mwriad yw amlinellu fod y broses o geisio canfod ystyr i w waith yn adlewyrchu n berffaith pa mor ddyrys ac aml-haenog yw cynnwys ac arddull ei ddramâu. Yn wir, ni ellir cyfyngu ei waith i un ystyr pendant ac, yn ddi-os, yr amwysedd hwn a r diffyg ystyr terfynol yw apêl a rhan o gyfoeth ei eiddo. Er enghraifft, mae Blackeyes (1989) yn gyfres deledu astrus ac aml-haenog sydd yn chwarae gyda ac yn gwyrdroi syniadau o wylio a chael eich gwylio. Yn hyn o beth, mae n fwriadol yn herio dadansoddiad y gwyliwr o wahanol olygfeydd, ac yn ei (g)wahodd i gwestiynu sylliad ( gaze ) 103 y cymeriadau, yr adroddwr, yr awdur, ac yna, maes o law, ei edrychiad ei hunan. Mae natur agored y math hwn o destun yn cyflwyno r gwyliwr gydag amryfal bosibiliadau ynglŷn â i neges ac, yn y pen draw, yn arddangos nad oes unrhyw un ystyr terfynol yn gymwys. Fodd bynnag, cyn symud ymlaen, diddorol yw nodi beth 103 Gweler Berger: 1972 ac Ellis:1982 am fwy o fanylder am y cysyniad o edrych/syllu ( gaze ) mewn astudiaethau ffilm a theledu.

109 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cwestiynu r Testun: Dadansoddi ac Amlystyredd 109 oedd bwriad Potter, yr awdur, wrth ysgrifennu drama mor astrus o ran cynnwys ac o ran arddull. Ei amcan, ys dywed mewn cyfweliad gyda Graham Fuller, oedd i arddangos mewn modd hununymwybodol a dadelfennol sut yr oedd merched yn cael eu hecsploitio gan ddynion (Fuller, 1993: 132-3): Not only were you showing the manipulation within the story, you had this manipulator narrating it. I was hoping that out of that collision, that multiplicity of exploitation and manipulation being demonstrated in an almost explicitly Brechtian way, you would feel the alienation. The idea was to live within it instead of illustrating it. Instead of just moralizing and saying Here is A, and A is bad isn t it? And I am B, telling you that A is bad, I wanted A and B to corrupt each other. That was the dramatic method. Fodd bynnag, nid oedd nifer o feirniaid, ac yn enwedig rhai benywaidd, wedi dadansoddi r ddrama yn y modd y i bwriadwyd gan Potter. Yn benodol oherwydd yr amryfal olygfeydd yn ymwneud â merched ieuanc yn dadwisgo, gan amlaf o flaen dynion glafoerus, y cafodd Potter ei labelu gan y wasg dabloid yn enwedig fel Dirty Den neu Television s Mr Filth. Yn ôl Sally Payne, er enghraifft (gweler Carpenter, 1998, 501): The most disturbing scene in episode 1 involves the model stripping topless in front of a roomful of ofious lechers. A continuous narration (by Potter himself) is contemptuous of the men, but there s no getting away from the lingering shots of the woman s body. Is this provocative drama or a simple turn-on for male viewers? My gut feeling was distinct unease which verged on outrage the more I thought about it. I became convinced that Potter was guilty of the crime he was condemning. Dyma un enghraiffft, felly, sydd yn darlunio ymateb cwbl wahanol darlleniad gwrthwynebus i r un a fwriadwyd gan yr anfonydd, a phwy a ŵyr sut fath o ymateb i r math hwn o olygfa a geid gan haenau eraill o gymdeithas aml-ddiwyllianol, aml-hilol, aml-grefyddol ac ati. Yn y cyd-destun hwn, felly mae hi n amhosib gorfodi unrhyw ystyr caeth ar waith Potter, mae ei oeuvre yn un sydd yn crisialu n effeithiol pa mor gymhleth yw r broses o ddadansoddi r ystyr(on) rhwng yr arwyddwr a r arwyddedig. Fe fyddai Barthes yn labelu dramâu Potter fel testunau ysgrifus yn hytrach na fel rhai darllenus. Yn ôl Barthes, mae gwahaniaethau pendant rhwng testunau darllenus sy n olrhain confensiynau traddodiadol realaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thestunau ysgrifus sydd yn dwyn i gof y technegau mwy arbrofol a berthyn i foderniaeth a r avant-garde. Tra bod testunau darllenus yn dueddol o ystyried y gwyliwr neu r darllenydd fel bod goddefol, sydd yn cadarnhau ac yn derbyn disgwyliadau r strwythur a r ystyr, fe eilw r testun ysgrifus am wylwyr mwy deinamig, sydd yn chwarae rhan weithredol ac, yn ôl Barthes, sydd yn derbyn a plurality of entrances, the opening of networks and the infinity of languages (Barthes, 1975:5). Fe â Barthes ymlaen i esbonio hyn ymhellach drwy ddadansoddiad manwl o stori fer Honoré de Balzac Sarrasine yn ei gyfrol S/Z. Tra bod stori Balzac fel arfer yn cael ei thrafod fel testun realaidd, mae ymdriniaeth Barthes ohoni yn arddangos y gellir ei darllen a i dehongli mewn amryfal ffyrdd, hynny yw fel testun agored (gweler Barthes, 1975). Mae dadansoddiadau o r fath yn ein harwain ni at waith beirniad arall hollbwysig ym maes astudiaethau teledu, sef Umberto Eco, a i gysyniad o beth yn union ydyw testun agored a thestun caeëdig. Er enghraifft, fe gyfeiria at nofel James Joyce Finnegan s Wake (1939) fel testun agored, testun sydd yn ymwrthod ag unrhyw gasgliad terfynol ac sy n agored i arlliw o wahanol ystyron a dehongliadau (gweler Eco, 1979). Beth bynnag fo r derminoleg a ddefnyddir, mae r math hwn o destun agored yn rhoi cryn bwyslais ar y broses o ddarllen. Hynny yw, pan fo testun yn agored i nifer helaeth o ddadansoddiadau sydd yn

110 110 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cwestiynu r Testun: Dadansoddi ac Amlystyredd wrthgyferbyniol â i gilydd, yna mae mwy o ryddid gan y darllenydd i ddarllen rhwng y llinellau fel petai. Yn The Pleasure of the Text (1976) fe ehanga Barthes ar y cysyniad hwn drwy ganolbwyntio yn neilltuol ar y berthynas rhwng y darllenydd a r ddau fath o destun. Dywed fod darllenydd y testun darllenus yn profi plaisir neu bleser, ond fod darllenydd y testun ysgrifus yn cael profiad o jouissance neu lesmair, a hyd yn oed ecstasi. Ys dywed Barthes: Text of pleasure [plaisir]: the text that contents, fills, grants euphoria: the text that comes from culture and does not break with it, is linked to a comfortable practice of reading. Text of bliss [jouissance]: the text that imposes a state of loss, the text that discomforts (perhaps to the point of a certain boredom), unsettles the reader s historical, cultural, psychological assumptions, the consistency of his [sic] tastes, values, memories, brings to a crisis his relation with language. Eto, fe drown at waith Potter fel enghraifft o r hyn y sonnir amdano. Mae dymchweliad hanes, diwylliant, seicoleg, chwaeth, gwerthoedd ac atgofion yn greiddiol wrth drafod gwaith sy n ymwrthod â didactigiaeth ormodol, yn galw ar ddarllenwyr neu wylwyr i gymryd agwedd weithredol ac i herio u disgwyliadau a u synhwyrau yn cael eu bombardio. Cymerer Brimstone and Treacle (1976), er enghraifft, sef drama unigol gan Potter, ac mae hon yn sicr yn bombardio r ymennydd a r synhwyrau, cymaint nes iddi gael ei gwahardd o n sgriniau am ddegawd gyfan. Yn ddi-os mae r cynnwys yn ddadleuol; ynddi gwelir merch ifanc sydd wedi ei llwyr-pharlysu yn cael ei threisio gan ddyn ieuanc. I gymhlethu pethau, mae ei weithred dreisgar, yn eironig, yn deffro y ferch o i chyflwr ac mae n dychwelyd i w synhwyrau. I m tyb i, fe awgryma hyn mai ffynhonnell seicolegol yn hytrach na biolegol oedd wrth wraidd afiechyd y ferch, ac nid y ddamwain car yn unig fel yr arweinir ni i gredu ar y cychwyn. Wrth i r ferch gael ei gorfodi o r parlys ceir ôl-fflachiad byr lle i gwelwn yn canfod ei ffrind pennaf yn cysgu gyda i thad, digwyddiad a bair iddi redeg allan i r ffordd lle caiff ei tharo gan gar. Fodd bynnag, un darlleniad o r ddrama yn unig yw r uchod. Yn wir, yn wahanol i ddrama yn y traddodiad realaidd nid yw r cymhlethdod o ddigwyddiadau fyth yn cael eu sillafu n glir i r gynulleidfa. A yw r treisio yn weithred faleisus bur yn anad dim arall, neu a yw r ddrama n awgrymu fod drygioni yn gallu esgor ar oblygiadau daionus? Yn wir, ceir hyd yn oed awgrymiadau fod yr ymwelydd yn ymgorfforiad o r diafol gan ei fod yn arogli fel swlffwr a bod ganddo draed crafangog. Ond a yw r diffiniad o ddrygioni cyn symled â hyn? A beth hefyd yw rôl y tad yn y ddrama? A yw r ferch yn cael ei chosbi mewn rhyw fodd am fod yn dyst damweiniol i weithred y tad, ac ai ef sydd ar fai am ei salwch seicorywiol? A yw gweithred rywiol y tad gyda ffrind gorau ei ferch yn rhyw fath o ymgorfforiad o i chwant tuag at ei blentyn ei hunan? Yn y cyd-destun hwn, efallai mai ymgorfforiad o ddrygioni cudd y tad yw r dyn ieuanc a wahoddir i r tŷ. Yn wir, pwy sy n ddrwg a phwy sy n dda yn y ddrama? A yw r fam yn dda, neu ai naïf yn unig yw hi pan mae hi n gwahodd y diafol i gartref ei theulu? Fe gyfyd y math yma o gwestiynau gydol y ddrama ond nid oes fyth ateb syml i r un ohonynt. Mae r ddrama yn hollol benagored ac yn gwahodd amryfal ddadansoddiadau. Efallai mai r diffyg canlyniad moesol oedd un o r prif resymau pam y bu i Alasdair Milne, Cyfarwyddwr Rhaglenni y BBC yn y cyfnod, ei gwahardd. Meddai mewn llythyr at Potter yn egluro ei benderfyniad: I believe that it is right in certain instances to outrage the viewers in order to get over a point of serious importance, but I m afraid that in this case real outrage would be widely felt and that no such point would get across. (Gweler Creeber: 1998, 97) Ymddengys, felly, fod Milne yn credu fod y rhaglen yn rhy amwys i w darlledu ac na fyddai r gwylwyr yn cyrraedd unrhyw gasgliad moesol no such point would get across. Darlledwyd y ddrama ar y 25ain o

111 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cwestiynu r Testun: Dadansoddi ac Amlystyredd 111 Awst 1987, wyth mis wedi i Milne adael ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ( ) a thros ddegawd wedi iddi gael ei chomisiynu a i chynhyrchu. Hawdd fyddai i Potter fod wedi ailysgrifennu a cheisio egluro ei ddrama yn dilyn condemniad Milne ohoni. Efallai y gallai fod wedi cynnwys naratif yn dangos y tad a r diafol yn cael eu cosbi mewn rhyw fodd. Ond, nid dyma r math o weithiau yr oedd Potter a i dîm cynhyrchu yn eu creu. Mae r amwysedd sydd yn sicr wrth wraidd y ddrama hon yn ganolog ac yn hanfodol i unrhyw ystyr y tu cefn iddi. Golyga hyn fod rhaid i r gynulleidfa fod yn weithgar ac yn graff trwy gydol y ddrama. Felly, yn nodweddiadol o waith Potter, nid yw Brimstone and Treacle yn cynnig unrhyw atebion syml a therfynol; mae n fwriadol yn chwarae gyda rhagdybiaethau diwylliannol, yn anesmwytho r gynulleidfa yn ei gwrthodiad trawiadol o chwaeth ac yn ein herio i gwestiynu moesau personol. Mae sut y bydd gwahanol aelodau o r gynulleidfa yn dehongli themâu r ddrama yn benagored. Er enghraifft, mae barn nifer o fyfyrwyr sydd wedi ei gwylio yn amrywiol; rhai yn mwynhau ei thrafod, rhai yn cael braw, rhai wedi eu ffieiddio, eraill yn eithaf difater. Ond mae lluosogrwydd yr amryfal safiadau wastad yn ddigyfnewid. Bron y gellir dweud fod y ddrama wedi ei chreu i gyfleu amlystyredd a chodi cwestiynau ynglŷn â moesoldeb dynol. Yn hyn o beth, yn nhermau ieithyddiaeth Bakhtin, mae gwaith Potter yn ddi-os yn ddialogig. Yn ôl Bakhtin, yr oedd nofelau Dostoevsky yn bolyffonig, yn yr ystyr eu bod yn ddibynnol ar yr hyn a welir fel clytwaith o ddisgyrsiau (Fiske, 1987: 89) yn hytrach nag ar un disgwrs neu r disgwrs monoglotaidd. Yn debyg i gysyniad Barthes am y testun darllenus a hefyd i destun caeëdig Eco, mae r testun monologig yn un cwbl unigol o ran ieithwedd a darlun o r byd. Ac fel testun ysgrifus Barthes a thestun agored Eco, mae r testun heteroglotaidd gan Bakhtin wedi ei lunio gan nifer o wahanol leisiau. Y prif gysyniad y tu ôl i heteroglosia Bakhtin yw mynegi ac adlewyrchu amrywiaeth ein safbwyntiau cymdeithasol a diwylliannol, a dathlu amlystyredd cyfathrebu dynol (Bakhtin, 1981: 276): [Heteroglossia is] that which ensures the primacy of context over text all utterances are heteroglot in that they are functions of a matrix of forces practically impossible to recoup, and therefore impossible to resolve. Heteroglossia is as close a conceptualization as is possible of that locus where centripetal and centrifugal forces collide Drwy gyfeirio at waith Dennis Potter, gobeithiaf fod y bennod hon yn gymorth i fyfyrwyr ddeall fod y testun, boed yn ffilm, yn ddrama deledu, yn rhaglen newyddion, yn rhaglen dogfen ac ati, yn rhywbeth aml-ochrog, sy n agored i nifer o wahanol ddadansoddiadau sydd yn wrthgyferbyniol â i gilydd. Mae hi n bwysig cofio hefyd ei bod yn anochel fod barn bersonol unrhyw ddarllenydd ac unrhyw wyliwr yn mynd i ddod i r wyneb ar adegau, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ddigon teg cyhyd â bod yr unigolyn yn cadw mewn cof fod nifer o ddadansoddiadau eraill yn bosibl ac yr un mor ddilys. LLYFRYDDIAETH Bakhtin, Mikhail (1981) The Dialogic Imagination Austin: Gwasg Prifysgol Texas. Barthes, Roland (1975) S/Z Llundain: Jonathan Cape. Barthes, Roland (1976) The Pleasure of the Text Llundain: Jonathan Cape. Barthes, Roland (1977) The Death of the Author, yn Stephen Heath (gol.) Image, Music, Text Llundain: Fontana. Creeber, Glen (1998) Dennis Potter: Between Two Worlds: A Critical Reassessment Basingstoke: Macmillan. Chandler Daniel (2001) Semiotics: The Basics Llundain & Efrog Newydd: Routledge. Derrida, Jacques (1978) Writing and Difference Llundain & Efrog Newydd: Routledge.

112 112 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Cwestiynu r Testun: Dadansoddi ac Amlystyredd Eco, Umberto (1979) A Guide to the Narrative Structures in Fleming yn The Rule of the Reader Bloomington: Gwasg Prifysgol Indiana. Ellis, John (1982) Visible Fictions Llundain & Efrog Newydd: Routledge. Fiske, John (1978) Television Culture Llundain: Routledge. Fiske, John (1998), Television: Polysemy and Popularity yn Roger Dickinson, Ramaswani Harindranath ac Olga Linneé (goln.) (1998) Approaches to Audiences: A Reader Llundain & Efrog Newydd: Routledge. Hall, Stuart (1980) Encoding and Decoding in Television Discourse yn Simon During (gol.) The Cultural Studies Reader Llundain & Efrog Newydd: Routledge. Lewis, Justin (1991) The Ideological Octopus and Its Audience Llundain & Efrog Newydd: Routledge. Morley, David (1980) The Nationwide Audience Llundain: British Film Institute. Potter, Dennis (1986) The Singing Detective Llundain: Faber & Faber. Potter, Dennis (1994) Seeing the Blossom: Two Interviews and a Lecture Llundain: Faber & Faber. Prys, Catrin (2006) Issues in Television Authorship yn Glen Creeber (gol.) Tele-Visions: An Introduction to Studying Televisions Llundain: British Film Institute. Seiter, Ellen (1992) Semiotics, Structuralism and Television yn Robert C. Allen (gol.) Channels of Discourse: A Reassessment Llundain & Efrog Newydd: Routledge. Stokes, Jane (2003) How to Do Media and Cultural Studies Llundain: Sage. Wimsett, Beardsley & Monroe (1998) The Intentional Fallacy yn David Ritcher (gol.) The Critical Tradition: Classic Texts and Critical Trends Boston: Bedford.

113 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau 113 ROLAND BARTHES: MYTHOLEG FEL NODWEDD O R BYWYD CYFOES ROGER OWEN Ganwyd Roland Barthes yn Bayonne yn ne Ffrainc ym Dechreuodd ei yrfa fel beirniad yn ystod y 1950au, trwy gyhoeddi cyfrolau fel Le Degré Zéro de l Écriture (1953 [Writing Degree Zero, 1970]) a Mythologies (1957 [Mythologies, 1972]). 104 Fe gyhoeddwyd y cyfrolau hyn tra bod Barthes yn dal i weithio fel awdur ar ei liwt ei hun, a chymharol ychydig sylw cyffredinol a ddenasant adeg eu cyhoeddi. Yn ystod y 1960au, fodd bynnag, ymledodd diddordeb dysgedig yng ngwaith Barthes, a daeth yn adnabyddus fel beirniad craff o r byd modern, ynghyd ag arloeswr mewn meysydd beirniadol newydd fel semioteg a Strwythuriaeth. Wrth iddo ddod yn fwyfwy amlwg fel beirniad, fe ddatblygodd ei ddull dadansoddiadol yn sylweddol mewn cyfrolau fel Sur Racine (1963 [On Racine, 1964]), trafodaeth radical a dadleuol o waith Jean Racine, un o brif ddramodwyr Ffrainc yn y 17eg ganrif; Eléments de Sémiologie (1964 [Elements of Semiology, 1967]), ymgais i amlinellu rheolau gwyddor semioteg; ac S/Z (1970 [S/Z, 1990]), dadansoddiad Strwythuriaethol o r nofela Sarrasine gan Honoré de Balzac. Ac yntau bellach wedi ymsefydlu fel beirniad ac academydd, fe newidiodd ei ddull o ddadansoddi n sylweddol yn ystod y 1970au. Cefnodd ar y dull systematig o feirniadaeth a sefydlwyd ganddo yn y blynyddoedd cynt, a chyhoeddi nifer o gyfrolau a oedd yn ymwthiol ddeallusol ond hefyd yn llawer mwy mympwyol eu ffurf nag o r blaen. Er enghraifft, lluniodd gofiant i ddieithryn o r enw Roland Barthes, sef Roland Barthes par Roland Barthes (1975 [Roland Barthes by Roland Barthes, 1977]); creodd eiriadur myfyriol yn dehongli ieithwedd a geirfa cariadon, sef Fragments d un Discours Amoureux (1977 [A Lover s Discourse: Fragments, 1978]); a lluniodd drafodaeth astrus o ffotograffiaeth yn sgil marwolaeth ei fam, sef La Chambre Claire (1980 [Camera Lucida, 1982]). Bu r cyfrolau diweddar hyn hwythau yn ddylanwadol iawn, a buont yn fodd i sefydlu Barthes, ynghyd â Jacques Lacan ( ) a Michel Foucault ( ), fel un o sylfaenwyr mudiad beirniadol newydd a elwir erbyn hyn yn ôl-strwythuriaeth. Bu farw Barthes yn dilyn damwain ym BARTHES A MYTHOLOGIES Y gyfrol gynnar Mythologies sydd fwyaf perthnasol i r astudiaeth hon. Yn Mythologies, fe gyflwynodd Barthes archwiliad o nifer o agweddau cyffredin ar fywyd cyfoes, yn wrthrychau (fel plastig, powdwr golchi, neu geir Citroën) ac yn weithgareddau (fel ymaflyd codwm [reslo] neu striptease). Dewisodd astudio r pethau hyn am eu bod yn amlygu r hyn y galwodd yn fyth neu fytholeg, sef math arbennig o drafodaeth ddiwylliannol lled-guddiedig a geisiai ddylanwadu ar feddwl ac ymddygiad y cyhoedd heb dynnu sylw ato i hun. Roedd defnydd Barthes o r term hwn yn wahanol iawn i r sôn arferol am fyth, am ei fod yn cyfeirio at ffenomenâu mewn bywyd cyfoes yn hytrach nag at hanesion clasurol (sef yr ystyr cyffredin a ddaw i r meddwl wrth ddefnyddio r term), ond gallwn nodi sawl nodwedd sy n gyffredin rhwng mythau cyfoes Barthes a mytholeg yn yr ystyr hynafol. Math ar stori oedd myth i Barthes, dull naratif neu ffordd o gyflwyno gwybodaeth: Myth, meddai, is a type of speech a system of communication a message everything can be a myth provided it is conveyed by a discourse. 105 Roedd hyn, wrth gwrs, hefyd yn wir am fythau hynafol: straeon oeddynt yn esbonio neu gyflwyno agwedd arbennig ar fywyd dynol. Nodwedd bwysig arall ar fyth oedd ei bod yn stori heb awdur cydnabyddedig. Yn Mythologies, fe gyfeiriodd Barthes at hysbysebion, straeon papur newydd, ffilmiau ac ati fel enghreifftiau o fythau cyfoes, ac ym mhob achos fel y mythau hynafol hwythau roedd eu hawduriaeth yn lled neu n gwbl anhysbys. 104 Roland Barthes, Mythologies (cyf. Annette Lavers; Llundain: Jonathan Cape, 1972). Cyfeirir at y cyfieithiad hwn wrth ddyfynnu enghreifftiau a rhifau tudalen o Mythologies. 105 Mythologies, t.109. Fe ychwanegodd Barthes y sylw canlynol at yr uchod: Myth is not defined by the object of its message, but by the way in which it utters this message.

114 114 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes Wrth wylio neu ddarllen hysbyseb, er enghraifft, credai Barthes y câi r defnyddiwr cyffredin cyfoes, fel cynulleidfaoedd yr hen fythau hynafol, ymollwng i swyngyfaredd y profiad heb orfod ymholi ynglŷn â i hawdur o gwbl (yn wir, mae n dra thebyg fod hynny n rhan gynhenid o fwriad yr hysbyseb). Fe deimlai r hysbyseb fel peth cwbl naturiol, felly, fel stori fach a roddai fod i r wybodaeth ynglŷn â r cynnyrch ar ei phen ei hun yn hudolus uniongyrchol, heb ymyrraeth awdur ag iddo i dueddiadau amlwg a i gymhellion personol. Mae hyn yn wir am hysbysebion hyd heddiw. 106 I Barthes, felly, un o hanfodion myth oedd y teimlad hwn fod y defnyddiwr yn derbyn neges naturiol, oesol, nad oedd angen unrhyw esboniad neu ddadansoddiad pellach arni; ac yn ei Ragair i Mythologies ym 1957, soniodd am wraidd y syniad o fyth, gan ddiffinio r neges naturiol hon fel gwrthwyneb i r syniad o naratif hanesyddol: The starting point was usually a feeling of impatience at the sight of the naturalness with which newspapers, art and common sense constantly dress up a reality which, even though it is the one we live in, is undoubtedly determined by history. 107 I Barthes, roedd hanes yn ffenomen storïol ac iddo awduraeth hysbys ac achosiant eglur. Wrth ymwybod â hanes, credai Barthes y câi r darllenydd ei gymell i gydnabod sut y crëid ystyr o ganlyniad i r berthynas rhwng gwrthrych a i gyd-destun. Nid felly myth. Roedd honno n ceisio cymell y darllenydd i hepgor ystyriaeth o r cyd-destun ac yn wfftio r angen am ddadansoddiad. Credai Barthes fod y cyfryngau a r wasg yn manteisio ar fythau yn gyson er mwyn awgrymu bod i w straeon awdurdod naturiol: I resented seeing Nature and History confused at every turn, meddai, and I wanted to track down, in the decorative display of what-goes-without-saying, the ideological abuse which, in my view, is hidden there. 108 Roedd trafodaeth fytholegol yn beth pwerus a niweidiol iawn yn nhyb Barthes, am ei bod yn cymell y cyhoedd i dderbyn ffenomenâu diwylliannol yn y byd o u cwmpas heb ymchwilio iddynt, a heb ystyried sut y dylanwadai r pethau hynny arnynt. Credai Barthes fod myth er mor ddiniwed yr ymddangosai llawer iawn o r pethau hynny a drafodai yn Mythologies yn bygwth ymwybyddiaeth y cyhoedd o u perthynas â chymdeithas trwy u cymell i weithredu ac ymateb fel ddefnyddwyr dof yn hytrach na fel dinasyddion (h.y. fel pobl ac iddynt gyfran yn natblygiad a hoen eu cymdeithas). Ac roedd myth i w gael ym mhob man it invents itself ceaslessly, meddai Barthes, takes hold of everything, all aspects of the law, of morality, of diplomacy, of household equipment, of Literature, of entertainment 109 yn wir, mor gwbl gyffredin ydoedd y profiad o ymwybod â r byd yn nhermau mytholegol i ddinasyddion Ewrop a r Unol Daleithiau fel mai o r braidd fod y rhan fwyaf ohonynt yn sylweddoli eu bod yn gwneud hynny o gwbl. Roedd myth yn beryglus felly am ei fod yn amddifadu r unigolyn, heb yn wybod iddo megis, o i allu i osod pethau yn eu cyd-destun priodol: myth has the task of giving an historical intention a natural justification, meddai Barthes, and making contingency appear eternal. 110 Atgyfnerthu r ymdeimlad o naturioldeb a normalrwydd oedd swyddogaeth myth, ac yn hynny o beth roedd yn gam cyntaf tuag at feddylfryd cwbl oddefol ar ran y cyhoedd, ynghyd â diffyg ymwybod a chydwybod cymdeithasol, moesol a gwleidyddol. Ac roedd diffyg ymwybod o r 106 Diau bod awduraeth straeon papur newydd neu ffilmiau yn llai anhysbys mewn un ffordd, am fod enw r colofnydd yn amlwg ar frig y ddalen, neu enw r cyfarwyddwr yn y teitlau agoriadol. Ond yn y naill achos a r llall, gall fod ymyrraeth sylweddol rhwng gwaith a gweledigaeth yr unigolyn ac ergyd y cynnyrch terfynol. Fe grëir ac fe lywir aml i stori bapur newydd gan dueddfryd neu rwymedigaeth olygyddol y papur, nid gan ewyllys y gohebydd unigol, er enghraifft, ac fe all y cynhyrchydd, y stiwdio neu r prif actorion ymyrryd yn sylweddol yn y broses o greu ffilm, i r graddau nad yw r awduraeth hithau yn eglur ychwaith. 107 Mythologies, t Ibid. 109 Ibid., t Ibid., t.142.

115 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes 115 fath yn ddefnyddiol iawn i r bodlon-eu-byd mewn cymdeithas, sef y bourgeoisie; yn wir, roedd myth yn ddrych perffaith o beirianwaith grym y dosbarth hwn: everything in everyday life is dependent upon the representation which the bourgeoisie has and makes us have of the relations between man and the world. These normalized forms attract little attention they gravitate towards the enormous mass of the undifferentiated, of the insignificant; in short, of nature. Yet it is through its ethic that the bourgeoisie pervades France: practised on a national scale, bourgeois norms are experienced as the evident laws of a natural order 111 Roedd herio naturioldeb a normalrwydd myth yn weithred boliticaidd o bwys, felly. Ond anodd oedd gwneud hynny am ei fod yn gofyn i r heriwr y mytholegydd yn nherm Barthes osod y myth mewn cyd-destun newydd nas amlygid gan y myth ei hun. Rhaid oedd i r mytholegydd feddu ar fath arall o wybodaeth er mwyn dadberfeddu r myth a chymell y defnyddiwr cyffredin i ymryddhau o i rym hunangyfeiriol a hunangynhaliol. Rhan o fwriad Barthes wrth gyhoeddi ei gyfrol oedd i roi hwb i ymdrechion y mytholegydd hwnnw i gaffael yr wybodaeth angenrheidiol er mwyn llwyddo i gyflawni r dasg honno. BARTHES, STRWYTHURIAETH A SEMIOTEG Trwy gyfrwng y gyfrol Mythologies, fe ddechreuodd Barthes ennill bri fel un o ffigyrau mwyaf effro a dylanwadol y mudiad Strwythuriaethol. Hanfod strwythuriaeth oedd y syniad fod ystyr unrhyw wrthrych yn deillio o r berthynas rhyngddo a chyd-destun systematig ehangach. Yn hynny o beth, roedd cyswllt agos rhwng strwythuriaeth a semioteg, sef astudiaeth o arwyddion fel gwyddor lled-wyddonol. Gwreiddiwyd strwythuriaeth a semioteg ill dau yng ngwaith yr ieithydd o r Swistir, Ferdinand de Saussure ( ), a ddatblygodd ddamcaniaeth ynglŷn ag iaith fel system cymhleth o arwyddion mewn cyfres o ddarlithoedd tua throad yr ugeinfed ganrif (cyhoeddwyd syniadau Saussure gan rai o i fyfyrwyr ym 1915, ddwy flynedd wedi i farw, dan y teitl Cours de Linguistique Générale [Course in General Linguistics, 1959]). Yn hytrach nag ystyried hanes iaith, 112 ystyriodd Saussure gyflwr presennol iaith a chyd-ddibyniaeth y gwahanol elfennau oddi fewn iddi. 113 Un o r elfennau pwysicaf o i waith o safbwynt hyrwyddo datblygiad strwythuriaeth a semioteg oedd y ddamcaniaeth fod ystyr unrhyw arwydd yn ganlyniad i r berthynas rhwng yr arwyddwr (sain ar lafar neu gyfres o lythrennau ar dudalen, er enghraifft) a r arwyddedig (gwrthrych neu ffenomen yn y byd go iawn). At hynny, fe ddangosodd Saussure fod y berthynas honno yn un cwbl fympwyol nid oedd unrhyw gyswllt cynhenid rhwng yr arwyddydd a r arwyddiedig (yn fras, rhwng sain ac ystyr) mewn iaith. Gellir dangos hyn trwy ystyried y gair ci. Yn y Gymraeg, rydym yn gyfarwydd iawn â r syniad fod cyfatebiaeth gref rhwng y sŵn llafar a grëir wrth yngan y ddwy lythyren hyn gyda i gilydd, a r anifail anwes cyffredin (bedair coes, blewog), canis familiaris. Ond nid yw r berthynas hon rhwng y sŵn a r gwrthrych yn un hanfodol; mae n bodoli oherwydd bod system ieithyddol ehangach yn atgyfnerthu r cyswllt rhwng y ddeubeth. O fewn system wahanol, Saesneg neu Ffrangeg dyweder, nid yw r cyswllt rhwng ci a canis familiaris yn bod yn wir, mae r sŵn llafar a gofnodir yn y Gymraeg fel ci yn arwyddwr ar gyfer gwrthrychau arwyddedig cwbl wahanol: allwedd neu agoriad (key) yn Saesneg, ac ymysg pethau eraill y gofynair pwy (qui) yn Ffrangeg. O ystyried hyn, felly, casglodd Saussure fod ystyr mewn iaith 111 Ibid., t Cyfeirir at hyn yn aml fel astudiaeth ddiacronig. 113 Cyfeirir at hyn fel astudiaeth syncronig, neu, i ddefnyddio term Saussure ei hun, langue.

116 116 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes yn ganlyniad i weithrediad system arbennig, a bod geiriau yn caffael ystyr o ganlyniad i w safle o fewn y system gyfan, nid ar sail hwy eu hunain. Yn fras iawn, ymestyniad o r syniad sylfaenol hwn oedd semioteg a Strwythuriaeth hwythau, ac roeddynt ill dau yn rhan amlwg o waith cynnnar Barthes fel beirniad. Wrth astudio hanes llenyddiaeth yn Le Degré Zéro de l Écriture, ac wrth drafod diwylliant cyfoes yn Mythologies, yr hyn a wnaeth Barthes oedd cymhwyso r syniad fod ystyr yn deillio o berthynas rhwng gwrthrych a system. Gwelir hyn yn null dadansoddiadol Barthes yn Mythologies wrth iddo drafod y ffenomenau a ddewiswyd ganddo fel testunau ac iddynt ieithwedd sylfaenol. Amcan Barthes oedd i geisio dangos sut y medrid darllen y testunau hyn fel cyfres o arwyddion (agwedd o i waith a oedd yn gyson ag amcanion semioteg) ac i ddadlau bod y gwahanol destunau mytholegol hyn, at ei gilydd, yn atgyfnerthu system ideolegol y bourgeoisie (agwedd Strwythuriaethol o i waith). Fe grynhodd Barthes ei ymdrech i drafod y gwahanol ffenomenau diwylliannol yn Mythologies fel a ganlyn: the materials of mythical speech (the language itself, photography, painting, posters, rituals, objects, etc.), however different at the start, are reduced to a pure signifying function as soon as they are caught by myth. Myth sees in them only the same raw material; their unity is that they all come down to the status of a mere language. Whether it deals with alphabetical or pictorial writing, myth wants to see in them only a sum of signs 114 Roedd myth, felly, yn neges rhyw fath ar bropaganda efallai a greasid wrth drafod a gwerthuso gwahanol agweddau ar fywyd cyfoes. Ond mae n bwysig cofio nad oedd y gwrthrychau a r digwyddiadau a drafodwyd gan Barthes yn Mythologies yn fythau eu hunain, ond yn hytrach eu bod yn cael eu disgrifio a u cyflwyno i r cyhoedd mewn ffordd a oedd yn atgyfnerthu eu statws mytholegol. Yn hynny o beth, roedd myth yn iaith ddeublyg, a second-order semiological system 115 ys dywedai Barthes, a second language, in which one speaks about the first. 116 Hynny yw, roedd y gwrthrych sylfaenol yn cyplysu r arwyddwr a r arwyddedig er mwyn creu arwydd; a r arwydd hwnnw yn gweithredu yn ei dro fel arwyddwr i gyflwr arwyddedig pellach a oedd yna n cynhyrchu r arwydd terfynol y myth ei hun. Er mwyn ceisio crynhoi r syniad cymhleth hwn, fe i cyflwynwyd gan Barthes ar ffurf diagram: 117 Trown yn awr at archwilio dau draethawd a gynhwysir yn y gyfrol Mythologies, sef Les romains au cinéma / The Romans in Films a Saponides et détergents / Soap Powders and Detergents, er mwyn amlygu a cheisio esbonio r peirianwaith hwn yn fwy manwl. 114 Mythologies, t Ibid. 116 Ibid., t Cyfaddaswyd o ddiagram Barthes yn Mythologies, t.115.

117 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes 117 Y RHUFEINIAID MEWN FFILMIAU Yn y traethawd hwn, mae Barthes yn cyfeirio at ffilm Joseph L. Mankiewicz o ddrama Shakespeare, Julius Caesar (1953). 118 Mae r ffilm ei hun yn epig Rhufeinig o r iawn ryw, gyda golygfeydd ysblennydd o r hen Rufain ynghyd â chyffro, dadlau ffyrnig, cynllwyn, brwydro a marwolaeth. Hepgor y pethau hyn i gyd a wna Barthes fodd bynnag. Ei sylw cyntaf ar y ffilm yw fod pob un o r cymeriadau â rhimyn i w gwallt: all the characters are wearing fringes. 119 Mae r sylw hwn, ar yr olwg gyntaf, yn un go ryfedd. Peth reit ymylol ei ddiddordeb i feirniad, bid siŵr, yw steil gwallt y cymeriadau wedi r cyfan, mae yma stori yn cael ei chyflwyno, cymeriadau yn cael eu hamlinellu, tensiwn dramataidd yn cael ei greu a i gynnal, ac yn y blaen; a diau mai r rheini fyddai r pethau mwyaf priodol i sylwi arnynt o safbwynt beirniadol wrth drafod ffilm Mankiewicz. Pam sylwi, felly, ar steil gwallt y cymeriadau yn anad dim? Yr ateb syml yw am mai yno y mae Barthes wedi medru dechrau dadelfennu r ffilm fel myth, gan ddatgelu sut y mae r ffilm yn ceisio cyflwyno gwybodaeth a chyfleu argraffiadau i w chynulleidfa. Yn wir, erbyn diwedd y traethawd, cawn weld fel ag y mae diddordeb Barthes yng ngwallt y cymeriadau yn arwain at drafodaeth o natur y ffilm hon, ac eraill tebyg iddi, fel cerbyd ar gyfer cyflwyno arwyddion mytholegol. Yn hynny o beth, mae The Romans in Films yn un o r traethodau pwysicaf yn y casgliad. Wedi cyflwyno r gosodiad syml cyntaf, sef bod pob un o r cymeriadau (gwrywaidd) â rhimyn i w gwallt, aiff Barthes yn ei flaen i restru r gwahanol fathau o rimyn a wisgir ganddynt [s]ome have them curly, some straggly, some tufted, some oily 120 a noda fel y mae r triniwr gwallt, the king-pin of the film yn ei dyb ef, wedi gwneud ymdrech cwbl ymwybodol a chydwybodol i geisio llunio r holl rimynnau hyn. Nid damwain mohoni. Hyd yn oed lle ceir actorion yn y ffilm sydd ymron yn foel, ceir eto rimyn o ryw fath wedi i chrafu ynghyd ar eu pennau: Those who have little hair have not been let off and the hairdresser has still managed to produce one last lock which duly reaches the top of the forehead. 121 Pam, felly, gofynna Barthes, fod Mankiewicz a i griw wedi cymryd y fath ofal i sicrhau bod gan eu hactorion, hyd yn oed y penfoel, rimyn o ryw fath? Yr ateb yw fod a wnelo r rimyn gwallt â n gallu ni i adnabod y cymeriadau fel Rhufeinwyr: What then is associated with these insistent fringes? Quite simply the label of Roman-ness. 122 Mewn geiriau eraill, mae gennym yn ein dychymyg ryw fath o lun parod o hen Rufeiniwr er na welodd yr un ohonom y fath berson erioed (mae n debyg!), ac mae r llun neu r ddelwedd barod hon yn arf allweddol bwysig i ni wrth i ni ymwneud â r ffilm o r cychwyn. Nid delwedd weledol yw hon yn unig, wrth gwrs, mae r Rhufeindod y mae Barthes yn cyfeirio ato yma hefyd yn fater o naws neu gymeriad y Rhufeiniwr, ac yn yr achos hwn, gan gadw at y traddodiad Shakespearaidd, gallwn fwrw bod Rhufeiniwr yn berson di-lol, tanbaid ei deimladau ar brydiau, sydd er hynny n ceisio rheoli ei hun a byw ei fywyd yn ôl deddfau rheswm a stoigiaeth. Wrth bortreadu cymeriadau r ffilm hon, felly, haera Barthes fod y cyfarwyddwr wedi crynhoi r argraff hon a i chyfleu i r gynulleidfa trwy ddelwedd law-fer, sef rhimyn gwallt ar dalcen. Diau fod hyn yn ymgais ar ran gwneuthurwyr y ffilm i greu delweddau ac awyrgylch a fyddai n cyfatebi n hargraff barod gyffredinol o olwg Rhufeinwyr y ganrif gyntaf Cyn Crist, gan beri i ni fel cynulleidfa deimlo n fwy cartrefol, a bod yn fwy hyderus a sylwgar wrth osod y digwyddiadau yn eu cyddestun priodol. Dyna pam fod y label Rhufeinig hwn yn ddyfais mor ddefnyddiol i wneuthurwyr y ffilm. Ond mynega Barthes beth pryder ynglŷn â r defnydd hwn o label, neu ddelweddiaeth law-fer, er mwyn creu argraff gyffredinol o ddinas Rhufain a i phobl. I Ffrancwr, meddai, mae yma broblem, sef bod y mwyafrif o actorion y ffilm yn Americanwyr, ac felly nid ydynt yn edrych fel Rhufeinwyr o gwbl. Mae r 118 Metro-Goldwyn-Mayer, Ibid., t Ibid. 121 Ibid. 122 Ibid.

118 118 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes ffilm yn amlwg yn cyfeirio at argraff gyffredinol y gynulleidfa Americanaidd o bryd a gwedd y Rhufeiniwr. Eithr i Ffrancwr fel Barthes, mae gwylio r llu o wynebau Americanaidd (yn brif gymeriadau ac yn ecstras) a geir yn Julius Caesar yn dueddol o beri syndod neu chwerthin: A Frenchman, meddai, to whose eyes American faces still have something exotic, finds comical the combination of the morphologies of these gangster-sheriffs with the little Roman fringe: it rather looks like an excellent music-hall gag. 123 Haera Barthes na all y gwyliwr o Ffrancwr gredu yn yr Americanwyr hyn fel Rhufeinwyr o gwbl, ac o ganlyniad ni all uniaethu â r ddyfais weledol sylfaenol sy n gosod y ffilm mewn cyd-destun dramataidd a hanesyddol. Caiff y gwyliwr o Ffrancwr ei ddieithrio n llwyr, a gwêl y ffilm nid fel profiad dramataidd cyffrous ond fel cyfres o arwyddion. O r safbwynt dieithriedig hwn, caiff Barthes gyfle i ryfeddu at hyblygrwydd a medrusrwydd y defnydd o arwyddion yn y ffilm, ac yn enwedig at y modd y gall arwydd fel y rhimyn gwallt bondigrybwyll ddarbwyllo r gynulleidfa (Americanaidd, o leiaf) ei bod hithau yno gyda r actorion ar strydoedd yr hen Rufain yn profi cyffro llofruddiaeth Cesar: The frontal lock overwhelms one with evidence, no one can doubt that he is in Ancient Rome. 124 Awgrym Barthes yw ei bod hi ymron yn wyrth ein bod yn medru credu yng ngosodiad gweledol ffilm fel Julius Caesar o gwbl: ni fu gan yr un ohonom brofiad o fyw yng nghyfnod y Rhufeiniaid, nac o gynllwynio i lofruddio ymherawdwr Rhufeinig! Gwyddwn cryn dipyn am hanes y cyfnod, ac mae gennym gerfluniau, olion pensaernïol ac ati er mwyn cynnig argraff i ni o fywyd y ddinas a r Ymerodraeth, ond go brin fod y pethau hynny eu hunain yn rhoi i ni ddarlun cyfan. At hynny, mae diwyg gweledol y ffilm yn un sydd yn cyfleu r ddelwedd o Rufeindod i gynulleidfa eang: rydym yn rhannu ac yn derbyn yr un argraff o Rufain â n cyd-aelodau, a hynny, fel arfer yn gymharol ddi-gwestiwn (diddorol nodi, yn y cyswllt hwn, pa mor gyson yw r ddelwedd o fywyd Rhufeinig a geir yn ffilmiau Mankiewicz, fel Julius Caesar a Cleopatra (1963), 125 a hyd yn oed yn ffilm fwy diweddar Ridley Scott, sef Gladiator (2000) 126 ). Wrth gwrs, creadigaeth i r dychymyg yw ffilm, a gwyddom fel cynulleidfa fod pleser y profiad o wylio yn ddibynnol i ryw raddau ar dderbyn yr hyn na wyddom ddim oll amdano: rhaid i ni atal ein hanghrediniaeth, fel y dywedir, er mwyn mwynhau ffilm. Ond wrth i ni wneud hyn, medd Barthes, fe ildiwn gyfran bwysig o n cyneddfau beirniadol, ac fe aiff yn anos i ni weld bod y ffilm wedi i chreu er mwyn trin a llywio n hymateb deallusol ac emosiynol. Yn The Romans in Films, er enghraifft, nid steiliau gwallt yr actorion sy n poeni Barthes yn neilltuol, ond y ffaith fod yr arwydd y mae n ei drafod yn aros yn gudd i raddau helaeth. Er bod y rhimyn gwallt yn ddyfais weledol ac felly wrth reswm yn weladwy nid ydyw n un y cyfeirir ein sylw tuag ati yn neilltuol, ac mae n dra thebyg, o ganlyniad, nad ydym yn ei gweld. Fe ymddengys y rhimyn gwallt yn arwydd cwbl naturiol, felly, fel pe bai n un o briodoleddau cynhenid y deunydd ei hun. Mae condemniad Barthes o r naturioldeb hwn yn glir, er gwaetha i arddull grafog, ffraeth: the actors speak, act, torment themselves, debate questions of universal import, without losing, thanks to this little flag displayed on their foreheads, any of their historical plausibility. Their general representativeness can even expand in complete safety, cross the oceans and the centuries, and merge into the Yankee mugs of Hollywood extras: no matter, everyone is reassured, installed in the quiet certainty of a universe without duplicity, where Romans are Romans thanks to the most legible of signs: hair on the forehead Ibid. 124 Ibid th Century Fox, DreamWorks SKG/ Scott Free Productions/ Universal Pictures, Mythologies, t.26.

119 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes 119 Ac nid gwallt yw r unig arwydd naturiol a geir yn Julius Caesar yn ôl Barthes. Yn ail hanner ei draethawd, mae n sôn am wynebau r cymeriadau yn diferu o chwys yn y ffilm: all the faces sweat constantly. Labourers, soldiers, conspirators, all have their austere and tense features streaming (with Vaseline). And close-ups are so frequent that evidently sweat here is an attribute with a purpose. 128 Unwaith eto, mae yma ddyfais weledol ddigon rhyfedd ei naws, sydd i w gweld yn rhy aml o lawer yn y ffilm i fod yn ddibwys neu ddamweinol. Arwydd o deimlad neu frwydr foesol yw r chwys artiffisial hwn yn nhyb Barthes, arwydd o enbydrwydd y profiad o gynllwynio i ladd Cesar (yn achos Brwtws a i griw), ac arwydd o r ymdrech i ddeall a chydnabod dadleuon y llofruddion (yn achos y dorf yn yr angladd). Everyone is sweating, medd Barthes, because everyone is debating something within himself; we are here supposed to be in the locus of a horribly tormented virtue, and it is sweat which has the function of conveying this. 129 Mae Barthes wedi sylwi ar un o r problemau mwyaf i gyfarwyddwr a chynhyrchydd y ffilm hon, sef sut i gyflwyno drama ag iddi iaith mor aruchel a chymhleth i gynulleidfa eang, boblogaidd: byddai honno, bid siŵr, yn debyg iawn i r dorf yn angladd Cesar ei hun yn brwydro i ddeall rhethreg yr areithwyr ac yn bwydo ar ba friwsion bynnag a ddisgynasai o fwrdd y bardd. Fel yn achos y rhimyn gwallt, defnyddir dyfais weledol law-fer gan wneuthurwyr y ffilm er mwyn ceisio darbwyllo r gynulleidfa fod yma ystyr pendant i r cyfan, hyd yn oed os yw dwysedd iaith Shakespeare yn drech na gallu r gynulleidfa i w ddeall yn llwyr. O ganlyniad i haelioni r pot Vaseline, cawn weld ôl y gwewyr meddwl enbyd a ddaw wrth ystyried llofruddio arweinydd y bobl er budd y bobl; neu, yng ngeiriau Barthes ei hun: the enormous physiological labour produced by a virtue just about to give birth to crime. 130 Mae r chwysu dibaid hwn yn awgrymu i r gynulleidfa fod meddwl yn weithgarwch dirdynnol a thra annymunol a gyflawnir gan y rheini sy n brwydro n ffyrnig yn erbyn eu gwerthoedd moesol cynhenid, neu r rheini sy n gwthio n groes i duedd naturiol eu hoes (yr unig gymeriad nad yw n chwysu, wrth gwrs, yw Cesar ei hun, the object of the crime [who] remains dry since he does not know, he does not think ). 131 Yn nhyb Barthes, mae r chwys hwn yn gweithredu ymron fel rhyw fath ar rybudd i r gynulleidfa fod meddwl yn violent, cataclysmic operation, of which sweat is only the most benign symptom, a bod y fath rybudd yn gwbl briodol to a nation of businessmen. 132 Wedi cyflwyno r ail enghraifft hon o arwydd yn gweithredu ar ymwybyddiaeth y gynulleidfa yn ddirgel megis, fe geisia Barthes ddatblygu a dwysáau ei ymateb i ddyfeisiadau r ffilm ac i r ffordd y mae arwyddion o r fath yn gweithredu yn gyffredinol. Noda Barthes fod ei brofiad o chwys fel arwydd (fel y rhimyn gwallt yntau) yn un amwys. Ar y naill law, mae r arwydd yn gwbl arwynebol, meddai, dyfais weledol amrwd ydyw sy n crisialu hunaniaeth neu brofiad mewnol trwy newid ymddangosiad neu arwyneb yr actor ar y sgrin; ond, ar y llaw arall, ei nod fel arwydd yw ceisio darbwyllo r gwyliwr ei fod yn dynodi dyfnder profiad: the sign remains on the surface, yet does not for all that give up on the attempt to pass itself off as depth. 133 Mae r amwysedd hwn o ran ansawdd arwydd yn nodwedd amlwg o weithrediad unrhyw gelfyddyd fwrgeisiol yn nhyb Barthes, ac yn sail i w ddamcaniaeth ef ei hun ynglŷn â myth. Fe grëir myth pan geir cyswllt amhenodol rhwng y synhwyrusol a r deallusol, un sy n cael ei guddio a i esgeuluso n llwyr fel arfer o safbwynt beirniadol: between the intellectual and the visceral sign is hypocritically inserted a hybrid, 128 Ibid., t Ibid. 130 Ibid. 131 Ibid., t Ibid., tt Ibid., t.28.

120 120 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes at once elliptical and pretentious, which is promptly christened nature. 134 Mae hyn yn adleisio sylw rhagarweiniol Barthes i w gyfrol sy n nodi mai gwraidd ei ddiddordeb mewn myth oedd y profiad o weld yr un esgeulustod beirniadol mewn papurau newyddion a chylchgronau cyfredol: in the account given of our contemporary circumstances, I resented seeing Nature and History confused at every turn 135 Wrth gwrs, mae ffilm fel dramâu llwyfan, rhaglenni teledu, hysbysebion ac ati yn gwbl ddibynnol ar greu arwyddion; ond, yn nhyb Barthes, mae r modd y mae rhai arwyddion yn cael eu naturioli, ac felly u cuddio i raddau helaeth, yn nodwedd ddifaol o gelfyddyd cymdeithas fwrgeisiol y Gorllewin. Gwell yn ei dyb ef fyddai cyflwyniad gonest, amlwg o arwyddion: Signs ought to present themselves only in two extreme forms: either openly intellectual and so remote that they are reduced to an algebra, as in the Chinese theatre, where a flag on its own signifies a regiment; or deeply rooted, invented on each occasion, revealing an internal, a hidden facet, and indicative of a moment in time, no longer a concept (as in the art of Stanislavsky, for example). 136 POWDR GOLCHI A GLANEDYDDION Ac yntau n cyfrannu traethawd ar Fytholeg y Mis i Les Lettres Nouvelles, gwraidd diddordeb Barthes yn y pwnc arbennig hwn oedd y ffaith fod y Gyngres Ryngwladol Fyd-eang Gyntaf ar Lanedyddion ( detergents ) wedi i chynnal ym Mharis ym Soniodd fod hyn ynghyd â chynnydd aruthrol yn yr hysbysebion ar eu cyfer wedi tynnu sylw mawr ar ran y cyhoedd at y cynhyrchion newydd hyn, ac wedi u darbwyllo o u galluoedd rhyfeddol i lanhau dillad yn ebrwydd effeithlon. Nod Barthes yn Soap Powders and Detergents yw archwilio r delweddau a ddefnyddir wrth hysbysebu glanedyddion, ac i gymharu r modd y disgrifir gwahanol fathau ohonynt: One could then usefully contrast the psycho-analysis of purifying fluids (chlorinated, for example) with that of soap-powders (Lux, Persil) or detergents (Omo). The relations between the evil and the cure, between dirt and a given product, are very different in each case. 137 Yn gyntaf oll, fe ddisgrifia Barthes hylifon wedi u clorineiddio math ar lanedydd sydd yn gymharol brin erbyn hyn. Fe u disgrifir fel deunyddiau pwerus, peryglus a sort of liquid fire sy n trawsnewid pob dim y cyffyrddant ag ef: The implicit legend of this type of product, meddai, rests on the idea of a violent, abrasive modification of matter: the connotations are of a chemical or mutilating type: the product kills the dirt. 138 Mae powdrau, fodd bynnag ac Omo yn arbennig yn dra gwahanol. Gwahanu r bryntni oddi wrth y defnydd yw eu rôl hwythau: Powders are selective, they push, they drive the dirt throught the texture of the object, their function is keeping public order not making war. 139 Fel ag o r blaen, mae yna berygl y gallem wfftio syniadau Barthes fel dim mwy na rhyfyg barddonllyd o edrych ar y geiriau hyn ar eu pennau eu hunain. Ond eto mae gan Barthes bwynt reit ddifrifol yn gefn i w drafodaeth. Ergyd ei drafodaeth yn y bôn yw fod llwyddiant hysbysebion ar gyfer glanedyddion yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar y ffaith syml na ŵyr y rhan fwyaf o ddefnyddwyr ddim byd oll am y modd y mae r cynhyrchion hyn yn gweithio. Mater o ffydd yw gosod dillad mewn peiriant golchi a thywallt powdwr neu hylif i r dŵr: mae r hyn a ddigwydd rhwng yr eiliad pan glöir drws y peiriant a r 134 Ibid. 135 Ibid., t Ibid., t Ibid., t Ibid. 139 Ibid.

121 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes 121 foment fawr pan agorir y drws drachefn i weld dillad glân yn ddirgelwch llwyr i r rhan fwyaf ohonom. Ac eto, fe ymddiriedwn yng ngwirionedd y wyrth fach hon ymron bob dydd. A ninnau mor anwybodus, sut fedrwn ni roi cyfrif o r hyn sy n digwydd yn nrwm y peiriant golchi felly? Awgryma Barthes mai dyma r union broblem sy n wynebu hysbysebwyr y cynhyrchion hyn; ac mae n broblem ddifrifol iddynt, am fod eu bywoliaeth yn dibynnu ar ennyn diddordeb ac edmygaeth ynom tuag at y cynnyrch. A ninnau heb fawr wybodaeth ffeithiol neu grebwyll gwyddonol ynglŷn â r peth, rhaid i r gwneuthurwyr lunio rhyw fath ar stori a fydd yn ein darbwyllo bod prynu pecyn (neu botelaid) o Persil neu Ariel a.y.b. yn fater o raid. Ac fe wnânt hynny nid trwy gynnig disgrifiad o r cynnyrch ei hun i ni, ond trwy gynnig disgrifiad i ni o n profiad ni ein hunain. Dyma r hyn y sylwodd Barthes arno yn ei draethawd, yn enwedig felly r modd y mae nifer o hysbysebion yn cyfeirio at ymwybyddiaeth y defnyddiwr o i gorff. Yn nhyb Barthes (ac yntau, cofier, yn ysgrifennu yng nghanol y 1950au), gellir gwahaniaethu rhwng hysbysebion sy n seiliedig ar apêl seicolegol a r rheini sy n seiliedig ar apêl seicdreiddiol ( based on psycho-analysis ): 140 ac fe ddengys y gwahaniaeth rhwng y ddeubeth hyn trwy gyfeirio at y gwahaniaeth rhwng hysbysebion Persil ac Omo. Mae r naill, meddai, yn gweithio ar falchder neu rodres yr unigolyn trwy geisio i ddarbwyllo y bydd defnyddio Persil yn ennill iddo edmygedd a bri cymdeithasol: Persil Whiteness medd Barthes, bases its prestige on the evidence of a result; it calls into play vanity, a social concern with appearances, by offering for comparison two objects, one of which is whiter than the other. 141 Ar y llaw arall, ceir bod hysbysebion Omo yn darlunio hudoliaeth y broses o lanhau, gan geisio cymell y defnyddiwr i uniaethu n gryf ag effaith y powdwr: Advertisements for Omo chiefly reveal its mode of action they involve the consumer in a direct experience of the substance, make him the accomplice of a liberation rather than the mere beneficiary of a result 142 Er mwyn gwneud hyn, medd Barthes, rhaid atgyfnerthu ymwybyddiaeth synhwyrusol y defnyddiwr o bleser y teimlad o ymolchi i gorff ei hun, a chreu r argraff hefyd fod y dillad yn y peiriant golchi hwythau yn gwerthfawrogi r broses o gael eu golchi. Fe briodolir bywyd o ryw fath iddynt, felly, rhyw gynneddf i deimlo a gwerthfawrogi: matter here, medd Barthes, is endowed with value-bearing states. 143 Mae dwy agwedd i r gynneddf hon yn achos Omo, sef dyfnder ( Omo cleans in depth ) ac ewyn ( foam ), ac ymhelaetha Barthes ar y naill a r llall: To say that Omo cleans in depth is to assume that linen is deep, which no one had previously thought, and this unquestionably results in exalting it, by establishing it as an object favourable to those obscure tendencies to enfold and caress which are found in every human body. 144 Priodolir yr un gynneddf deimladol i r dilledyn ag a geir yn y corff dynol, ac, o ganlyniad, fe awgrymir bod Omo, rywsut neu i gilydd, yn ymaflyd â r budredd yn ein dillad 145 er mwyn adfer y briodas hudolus rhwng y croen a r dilledyn byw a wisgir arno. O ran yr ewyn, nodir bod hwnnw n allweddol bwysig wrth roi r argraff i r defnyddiwr fod y glanedydd ei hun yn fyw. Wrth iddo gynyddu, mae ewyn yn cyffroi ryw ecstasi trosgynnol, medd Barthes, am ei fod yn ddeunydd ysgafn, ac am ei fod yn atgynhyrchu i hun megis o ddim byd: 140 Ibid., t Ibid. 142 Ibid. 143 Ibid. 144 Ibid. 145 Fe gyfeiriodd Barthes eisoes at y ddelwedd o frwydro ac o waredu r dilad rhag gafael y budredd hwn: in the Omo imagery, dirt is a dimuntive enemy, stunted and black, which takes to its heels from the fine immaculate linen at the sole threat of the judgement of Omo. Ibid., t.36.

122 122 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes To begin with, it appears to lack any usefulness; then its abundant, easy, almost infinite proliferation allows one to suppose that there is in the substance from which it issues a vigorous germ, a healthy and powerful essence, a great wealth of active elements in a small original volume. 146 Ond gochel rhag ymgolli n llwyr yn y fath hudoliaeth wna Barthes ar ddiwedd ei draethawd. Yn wir, dygir y darllenydd yn ôl i ddaear lawr yn go sydyn: What matters, medd Barthes, is the art of having disguised the abrasive function of the detergent under the delicious image of a substance at once deep and airy which can govern the molecular order of the material without damaging it. 147 Hynny yw, un o brif amcanion hysbysebwyr y cynhyrchion hyn yw cuddio a gwadu r ffaith eu bod oll, boed hylifon, powdrau, Persil, Ariel, neu fel arall, wastad yn peri rhywfaint o niwed i r dillad: ni ŵyr y glanedydd sut i wahaniaethu rhwng y budreddi ar y defnydd a r defnydd ei hun. At hynny, ceisiant guddio r ffaith elfennol bwysig arall sy n tanseilio hygrededd hysbysebion ar gyfer powdrau golchi, sef bod yr hysbysebion hynny yn llawn dyfeisiadau sy n helpu r cyhoedd i wahaniaethu rhwng y gwahanol frandiau sydd ar gael ar y naill llaw; ond, ar y llaw arall, bod y rhan fwyaf o r brandiau hynny n eiddo i un neu ddau o gwmnïau anferthol rhyng-genedlaethol. Ys dywed Barthes: there is one plane on which Persil and Omo are one and the same: the plane of the Anglo-Dutch trust Unilever. 148 O r safbwynt hynny, twyll yw r holl hysbysebu, sbloets storïol a geidw r defnyddiwr yn anwybodus, yn ddof a dibynnol. O ystyried dadansoddiad Barthes o ddyfeisiadau gweledol Julius Caesar a hysbysebion Persil ac Omo, felly, cawn weld nifer o ffactorau ar waith sy n allweddol bwysig wrth i ni geisio deall ymdriniaeth Barthes â r byd cyfoes yn ei gyfrol Mythologies. Yn gyntaf oll, cawn fod y myth sy n gudd ac yn ymhlyg yn y pethau hyn yn siarad â i chynulleidfa ar sawl lefel yn ddeallusol, yn emosiynol ac yn synhwyrusol. Gwelwn hyn yn y modd y mae dadansoddiad Barthes yn tynnu ein sylw n gyson at fanylion ein profiad o r gwahanol safbwyntiau hyn. O safbwynt deallusol, mae gwylio r ffilm a r hysbysebion yn broses gymhleth am ein bod fel cynulleidfa yn gorfod cydbwyso dau ffactor, sef eu bod hwythau yn cyflwyno damcaniaeth am y byd trwy gyfrwng ffuglen, a bod ein profiad ninnau ohoni yn ymffurfio yn y presennol. Mewn geiriau eraill, mae n rhaid i ni geisio pontio rhwng byd dychmygol, ffuglennol y ffilm neu r hysbyseb ar y naill law a n byd beunyddiol, go iawn, ninnau ar y llall. Nid yw r byd ffuglennol hwn, er mor bwerus ei effaith arnom efallai, yn arglwyddiaethu ar ein profiad presennol: yn wir, mae r teimlad o ddianc i fyd ffantasi r ffilm neu r hysbyseb yn rhywbeth sy n digwydd i ni yn y presennol. Mae Barthes yn gwbl gywir, ac yn reit graff, felly, i anwybyddu agweddau ar y ffilm neu r hysbyseb sydd fel pe baent yn perthyn i r deunydd dramataidd (fel y cymeriadu, er enghraifft, yn achos Julius Caesar; neu r gwrthdaro rhwng y glanedydd a r budreddi yn achos hysbyseb Omo), a thrafod yn lle hynny y modd y mae r profiadau hyn yn ymffurfio yn ymwybod y gynulleidfa. Awgryma techneg ddadansoddiadol Barthes fod gwylio ffilm neu hysbyseb yn brofiad tra chymhleth o safbwynt synhwyrusol hefyd. O r safbwynt hwnnw, disgwylir i gynulleidfa r ffilm (a r hysbyseb hefyd, eithr i raddau llai efallai) fod yn gymharol oddefol eistedd, gwylio a gwrando yw ei rôl, ac ymateb i r deunydd fel sy n briodol. Ond er gwaetha r ffaith fod y profiad hwn o wylio yn ymddangos yn oddefol, mae iddo hefyd ddimensiwn corfforol digamsyniol. Pa sawl un ohonom nad yw, o fod wedi gweld drama neu ffilm ysgytwol, wedi gadael y theatr neu r sinema gan deimlo wedi i cyffroi n llwyr? Pa sawl un ohonom nad yw wedi i swyno gan hysbyseb o ran hynny, ac wedi teimlo n fwy pleidiol tuag at gynnyrch arbennig o r herwydd? Profiad corfforol sy n wraidd i r teimladau hyn, ac yn hynny o beth mae gwylio r ffilmiau gorau (waeth beth am hysbysebion) yn waith corfforol digon caled! Unwaith eto, mae r profiad corfforol hwn yn un sy n digwydd yn y presennol, ac nid yw n agwedd ar y ffilm neu r hysbyseb ei hun, eithr yn adlewyrchu n 146 Ibid., t Ibid., tt Ibid.

123 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Roland Barthes: Mytholeg fel Nodwedd o r Bywyd Cyfoes 123 hymateb ni iddi. Wrth drafod Julius Caesar, Persil ac Omo mewn ffordd sy n amlygu ei ymateb eclectig ei hun, felly, mae Barthes unwaith eto n adlewyrchu r profiad cynhenid yn ymwybyddiaeth y gynulleidfa o bontio rhwng y deunydd a r byd go iawn, wrth iddi deimlo i phrofiad neu i hymateb yn ymffurfio. Trwy r diddordeb hwn mewn arwyddion a phrofiadau n ymffurfio, mae Barthes yn diffinio r unigolyn o fewn y diwylliant cyfoes fel darllenydd, ac yn ceisio n darbwyllo bod ffenomenâu diwylliannol a chymdeithasol cyfoes ymron pob agwedd ar ein bywyd beunyddiol yn y byd modern yn ein cymell i weithredu fel darllenwyr y testun byw o n blaenau. O ganlyniad, gallwn feddwl am sawl agwedd ar fywyd cyfoes lluniau, perfformiadau byw, digwyddiadau cymdeithasol, gwrthrychau, ac yn y blaen fel testunau, yn yr un modd yn union ag y meddyliwn am weithiau ysgrifenedig traddodiadol fel testunau. Amlygir gan hynny ddiddordeb Barthes yng nghysondeb ac unffurfiant diwylliant poblogaidd fel testun, a n gallu i w osod mewn cyd-destun cymdeithasol a pholiticaidd ehangach, lle ceir yr holl agweddau hyn ar fywyd cyfoes yn hybu buddiannau r bourgeoisie. LLYFRYDDIAETH Barthes, Roland (1964) On Racine (cyf. Richard Howard) Efrog Newydd: Hill a Wang. Barthes, Roland (1967) Elements of Semiology (cyf. Annette Lavers a Colin Smith) Llundain: Jonathan Cape. Barthes, Roland (1970) Writing Degree Zero and Elements of Semiology (cyf. Annette Lavers a Colin Smith) Boston: Beacon. Barthes, Roland (1972) Mythologies (cyf. Annette Lavers) Llundain: Jonathan Cape. Barthes, Roland (1975) S/Z (cyf. Richard Miller) Llundain: Jonathan Cape. Barthes, Roland (1976) The Pleasure of the Text (cyf. Richard Miller) Llundain: Jonathan Cape. Barthes, Roland (1977) Roland Barthes by Roland Barthes (cyf. Richard Howard) Llundain: Macmillan. Barthes, Roland (1977) Sade, Fourier, Loyola (cyf. Richard Miller) Llundain: Jonathan Cape. Barthes, Roland (1979) The Eiffel Tower and Other Mythologies (cyf. Richard Howard) Efrog Newydd: Hill and Wang. Barthes, Roland (1982) Camera Lucida: Reflections on Photography (cyf. Richard Howard) Llundain: Jonathan Cape. Barthes, Roland (1986) The Rustle of Language (cyf. Richard Howard) Rhydychen: Blackwell. Barthes, Roland (1987) Criticism and Truth (cyf. a gol. Katrine Pilcher Keuneman) Minneapolis: Gwasg Prifysgol Minnesota. Barthes, Roland (1988) The Semiotic Challenge (cyf. Richard Howard) Efrog Newydd: Hill & Wang. Barthes, Roland (1992) Incidents (cyf. Richard Howard) Berkeley: Gwasg Prifysgol California.

124 124 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau AMDDIFFYN REALAETH: RAYMOND WILLIAMS VS. ÔL-STRWYTHURIAETH DANIEL G. WILLIAMS Realist art or literature is seen as simply one convention among others, a set of formal representations, in a particular medium to which we have become accustomed. The object is not really lifelike but by convention and repetition has been made to appear so. This can be seen as relatively harmless or as extremely harmful. To see it as harmful depends on a sense that a pseudo-objective version of reality (a version that will be found to depend, finally, on a particular phase of history or on a particular set of relationships between men and between men and things) is passed off as reality, although in this instance at least (and perhaps more generally) what is there is what has been made, by the specific practices of writing and painting and film-making This is a powerful argument against many of the claims of realism as accurate representation, but it is an accident of the way that the argument has gone, in relation to this one sense of realism, that it can be taken either way in relation to realism as a whole movement. Thus it could be made compatible with the sense of realism that was a conscious commitment to understanding and describing real forces (a commitment that at its best includes understanding the processes of consciousness and composition that are involved in any such attempt). Raymond Williams 149 Yn ei thrafodaeth ddiweddar ar lenyddiaeth Gymraeg gyfoes noda Angharad Price mai un o nodweddion diwylliant llenyddol Cymru r 1990au oedd y galw cynyddol am adnewyddu rhyddiaith Gymraeg a i thynnu o rigol gyfarwydd realaeth. 150 Yn wir, gellid dadlau mai gresynu dominyddiaeth realaeth ar ryddiaith Gymraeg fu prif nodwedd beirniadaeth lenyddol flaengar yr ugain mlynedd ddiwethaf. Honnodd Wiliam Owen Roberts fod ein rhyddiaith ni wedi cael ei heijacio gan realaeth 151 a dathlwyd nofelau parodïol Mihangel Morgan a nofelau ffantasi Robin Llywelyn am iddynt wrthod yr hen realaeth sosialaidd simplistig gynt 152 gan droi oddi wrth gonfensiwn y nofel realaidd oedd wedi gwisgo n dwll, 153 am iddynt roi dwrn digon powld yn wyneb y realaeth naif a nodweddai r traddodiad rhyddiaith Cymraeg, 154 ac am iddynt fynd ati i droi stumogau a fagwyd ar naturolaeth gynnil a realaeth gymdeithasol 155 a chreu too intoxicating a brew for palates accustomed to the weak tea of an attenuated realist traditon. 156 Ystyrid realaeth felly n ffurf hanfodol simplistig, naïf a cheidwadol. Fy mwriad yn yr ysgrif hon yw gofyn a yw r feirniadaeth hon yn deg, a gwnaf hynny drwy ymhelaethu ar y dyfyniad agoriadol uchod o eiddo r beirniad Cymreig Raymond Williams. 157 Awgrymaf fod y ddadl gyfoes sydd yn berthnasol i sawl maes diwylliannol ac i fyd y cyfryngau wedi ei seilio ar ddau fodd gwahanol o syniad am realaeth: fel ffurf neu ddull penodol o ysgrifennu, ffilmio neu baentio ar y naill law, neu fel nod neu brosiect ar y llall. 149 Raymond Williams, Keywords: A Vocabulary of Culture and Society (1976. London, 1983) t Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au (Caerdydd, 2002) t Dyfynnir yn Y Saeson am gael y Pla, Golwg, 1 (32, 27 Ebrill 1989) t John Rowlands, Robat Gruffudd a r Gweddill Ffyddlon, yn Rowlands gol., Y Sêr yn eu Graddau: Golwg ar Ffurfafen y Nofel Gymraeg Ddiweddar (Caerdydd, 2000) t Gerwyn Wiliams, Rhagymadrodd i Wiliams gol., Rhyddid y Nofel (Caerdydd, 1999) t Sioned Puw Rowlands, Mihangel Morgan; Rhwng Realaeth a Beirniadaeth yn J. Rowlands gol., Y Sêr yn eu Graddau, t W.J. Jones gol., Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Aberystwyth, 1992 (Llandybïe, 1992) t Katie Gramich, The Welsh Novel Now, Books in Wales (Winter 1995) t Ar Gymreictod Raymond Williams gweler Williams, Who Speaks for Wales: Nation, Culture, Identity, ed. Daniel Williams (Caerdydd, 2003).

125 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth 125 REALAETH: FFURF Nid oes lle yma i gynnig arolwg o hanes na phrif hanfodion theori ôl-strwythurol, ond un o brif amcanion yr ôl-strwythurwyr ym maes beirniadaeth lenyddol fu dadlennu sut, yng ngeiriau r dyfyniad agoriadol, a pseudo-objective version of reality is passed off as reality. Hynny ydi, dadlennu r modd y llwydda r nofel realaidd i berswadio r darllenydd ei fod yn darllen disgrifiad neu wylio darlun o r byd go iawn fel y mae, yn hytrach nag un fersiwn penodol o r byd hwnnw o bersbectif ffaeledig. Gan ddilyn trywydd y Ffrancwr Roland Barthes, aeth ôl-strwythurwyr Saesneg fel Catherine Belsey, Stephen Heath a Colin MacCabe ati i ddisgrifio prif nodweddion y nofel realaidd glasurol gan ddadlau bod realaeth yn ddull o ysgrifennu ac iddo reolau a ffurfiau pendant. 158 Seiliwyd eu syniad o realaeth glasurol ar eu hastudiaethau o weithiau nofelwyr realaidd oes Fictoria (George Eliot, Elizabeth Gaskell, Charles Dickens) ond tybient fod realaeth gyfoes yn rhannu r un priodweddau. Prif nodwedd realaeth i r meddylwyr ôl-strwythurol hyn yw ei fod yn ffurf sy n ceisio cuddio ei phrosesau nofelyddol ei hun. Hynny yw, ceisia r testun realaidd guddio r ffaith mai creadigaeth yw r fersiwn o r real a welwn ar ei gynfas, ar ei sgrin, neu rhwng ei dudalennau, a i fod yn hytrach yn cynnig adlewyrchiad cywir o r byd fel ag y mae. Yn hyn o beth mae realaeth yn ffurf beryglus, oherwydd tra bod yr elfen ffuglennol mewn nofelau ffantasïol a rhamantaidd yn hollol amlwg, tuedda r testun realaidd i anwybyddu r gwahaniaeth sylfaenol rhwng y bydoedd o fewn ac y tu allan i r testun. Mae n ffurf, felly, sydd wedi ei seilio ar dwyll. Tra bod awduron realaidd yn dueddol o dybio bod iaith yn erfyn hylaw ar gyfer mynegi realiti, a bod modd adlewyrchu a chynrychioli r byd trwy iaith, noda r ôl-strwythurwyr fod yr hyn a ystyriwn yn real yn seiliedig ar ddulliau confensiynol o weld y byd sy n seiliedig ar bob math o ragfarnau a rhagdybiaethau ideolegol amheus. Datblygwyd felly ddulliau o ddadadeiladu r testun realaidd. Â Belsey a MacCabe ati i gynnig astudiaethau manwl o ffurf y nofel realaidd, gan ddadlau fod y cyweiriau ieithyddol o fewn y testun realaidd wedi u trefnu n hierarchaidd. Gwna MacCabe yn fawr o r gwahaniaeth rhwng y lleisiau sy n ymddangos rhwng dyfynodau yn y testun a r meta-iaith, llais yr adroddwr, sydd fel pe bai yn rheoli a dehongli r disgyrsiau eraill o fewn i r nofel: The metalanguage within [the classic realist text] refuses to acknowledge its own status as writing. The text outside the area of inverted commas claims to be the product of no articulation, it claims to be unwritten. This unwritten text can then attempt to staunch the haemorrhage of interpretations threatened by the material of language. Whereas other discourses within the text are considered as materials which are open to reinterpretation, the narrative discourse functions simply as a window on reality. This relationship between discourses can be taken as the defining feature of the classic realist text. 159 Tra bod iaith yn llithrigfa di-ben-draw, ceisia r nofel realaidd wadu hynny drwy drefnu r cyweiriau ieithyddol o fewn y testun mewn hieararchiaeth gyfyng. 160 Ceisir felly bennu ystyron penodol i eiriau. Wrth addasu syniadau MacCabe ar gyfer ffilm neu deledu, mi fyddai r uwchiaith yn cyfateb i bersbectif y camera, y persbectif sy n rheoli yr hyn y gall y gwyliwr ei weld. Ceir enghreifftiau da o r broses hon yng ngweithiau dau o gewri r nofel realaidd Gymraeg, T. Rowland Hughes ac Islwyn Ffowc Elis. Wrth drafod Cysgod y Cryman (1953) nododd Ioan Williams fod safbwynt adroddwr y nofel i w weld yn un 158 Roland Barthes, S/Z (1970 yn Ffrangeg. Yn Saesneg, London, 1975); Stephen Heath, The Nouveau Roman: A Study in the Practice of Writing (London, 1972); Catherine Belsey, Critical Practice (London, 1980); Colin MacCabe, James Joyce and the Revolution of the Word (London, 1979). 159 MacCabe, t Ymadrodd John Rowlands yn Cip ar y Nofel Gymraeg Ôl-Fodernaidd yn Wiliams gol., Rhyddid y Nofel, t. 164.

126 126 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth diniwed iawn: ni hawlir dim ond dweud hanes yn ddidwyll a diffuant, 161 a chred John Rowlands fod arddull storïol Islwyn Ffowc Elis yn un y gellir sglefrio arni. 162 Gellir gwneud sylwadau tebyg yn achos nofelau T. Rowland Hughes hefyd, a chyfeirio y mae r ddau feirniad at yr hyn a alwodd Roland Barthes yn ysgrifennu gwyn ; ysgrifennu, yng ngeiriau MacCabe, sy n honni to be the product of no articulation, it claims to be unwritten. 163 Ceir enghraifft o hyn yn agoriad Cysgod y Cryman: Yr oedd yr haf yn doreithiog yn Nyffryn Aerwen y flwyddyn honno. Yr oedd barrug Ionawr wedi brathu r pridd ac eira Chwefror a Mawrth wedi i garthu a llifogydd Ebrill wedi golchi i wenwyn i r mor. Ac yn ei phuredigaeth yr oedd yr hen ddaear wedi atgyfodi n wallgof wyrdd. 164 Dyma lais awdurdodol yr adroddwr. Nid ydym yn cael ein hannog fel darllenwyr i amau r llais hwn; dyma fyd natur fel ag y mae yn Nyffryn Aerwen. Ond gallwn, mae n siŵr, weld yn syth fod elfennau penodol yn perthyn i lais yr adroddwr hwn. Mae n siarad Cymraeg cywir, idiomatig (y barrug yn brathu r pridd ), ceir tinc nodweddiadol ysgrythurol i r dweud ( puredigaeth, atgyfodi ), ac yn nes ymlaen fe welwn fod hwn hefyd yn lais tra dysgedig wrth iddo nodi y gallasai r machlud y noson honno fod wedi i baentio gan Turner. 165 Nid llais cymeriad yn y nofel mo r llais hwn. Mae n llais sy n dod o nunlle, yn llais sy n cuddio r ffaith ei fod wedi i ysgrifennu o gwbl; tybia ei fod yn ffenest ar y byd. Ceir llais, neu uwchiaith, cyffelyb yn disgrifio r tirlun diwydiannol yn nofel T. Rowland Hughes, Chwalfa: Cyn diwedd Medi yr oedd Idris a i deulu yn y tŷ yn Pleasant Row, ac er bod y stryd yn un dlawd a rhai o r cymdogion yn uchel eu sŵn, yr oeddynt yn hapus gyda i gilydd unwaith eto. Nid oedd Pleasant Row yn enw da ar yr heol; yn wir, hawdd oedd credu r farn gyffredin ym Mhentref Gwaith mai gwatwareg greulon oedd ei galw felly. Dringai r deg ar hugain o dai yn un rhes serth o r afon i fyny i lethr foel, farworllyd, a syllai ffenestri bychain y ffrynt ar y tip a r lofa uwchben. 166 Unwaith eto dyma lais sydd yn adrodd gwirionedd yr hyn sy n digwydd. Ond os adlewyrchir safbwynt addysgiadol adroddwr Islwyn Ffowc Elis yn ei iaith, cawn ymdeimlad o ymdrech yr adroddwr i uniaethu â r gymdeithas ddosbarth gweithiol yn y defnydd naturiol o eiriau megis ffrynt a tip yma. Nid disgrifiad cwbl wrthrychol, nid ffenestr ar y byd, a geir yma felly er ei fod yn cael ei gyflwyno felly ond yn hytrach disgrifiad o bersbectif penodol. O dan y llais awdurdodol fe bentyrrir disgyrsiau eraill y nofelau mewn ysgol hierarchiadd o leisiau. Gwelwn effaith hyn yn Cysgod y Cryman wrth i ni gael ein cyflwyno i weithwyr stad Lleifior am y tro cyntaf: Y cyntaf i gyrraedd oedd Wil James. Dim ond chwe mis y bu ef yn was yn Lleifior, ond yr oedd yn uwch ei gloch na r un. Wel, Harri, meddai, gan wyro n ôl ac agor ei geg, a i sigarét yn glynu wrth ei wefus isaf. Holides eto? Rydech chi r stiwdents yn cael byd reit ulw braf. Mae gwaith pen yn gofyn mwy o orffwys na gwaith cefn, William, meddai llais Edward Vaughan o r cysgod dan yr het wellt 161 Ioan Williams, Y Nofel (Llandysul, 1984) t John Rowlands, Ysgrifau ar y Nofel (Caerdydd, 1992) t Barthes, S/Z, MacCabe, t Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y Cryman (1953. Llandysul, 1999) t Ibid., t T. Rowland Hughes, Chwalfa (1946. Llandysul, 1947) t. 140.

127 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth 127 Yn nesaf daeth Terence, mab Sion Mari, Cefn Canol. Yr oedd ef yn was yn Lleifior ers dwy flynedd, ond yn styried ei foesau n well na Wil. Yr oedd hefyd flynyddoedd yn iau, a llawer o ired ar ei wallt melyn fflat. Sut ydech chi, Terence? Sdechi, Mr. Vaughan? Yr oedd athroniaeth Wil a Terence beth yn wahanol. Yr oedd Wil yn argyhoeddedig fod dyddiau r meistried drosodd, a bod eisiau dangos hynny iddynt ym mhob dull a modd. Ni buasai ef yn gweithio i r un ohonynt petai ganddo ddigon o gapitol chwedl yntau, i ffarmio i hun. Yr oedd Terence yn cytuno bod dyddiau r meistri drosodd yn gyffredinol, ond fod lle o hyd i ychydig fonedd fel Edward Vaughan Y trydydd i gyrraedd oedd Ifan Roberts. Hen ŵr addfwyn dros ei ddeg athrigain, y byddai Edward Vaughan yn ei ddisgrifio yn ei lyfrau fel casual labour. Fe fu Ifan yn was yn Lleifior yn ei breim, dan Edward Vaughan a i dad o i flaen Wel, Henri bach, meddai llais uchel, meddal Ifan Roberts, Sut ydech chi, machgen i? Yn rhinwedd ei henaint yr oedd hawl ganddo i alw Harri n Henri, ond nid i w dydïo. Chi yr oedd wedi i ddweud wrth blant Lleifior erioed. Yn dda iawn, Ifan Roberts, diolch, meddai Harri, ac yn falch o ch gweld chi. Sut mae r hen elynion heddiw? gan gyfeirio at y cryd cymalau. Yn eitha byth, ar ddiwrnod cynhaea. 167 Nid deialog yw r prif ddull o gymeriadu yma, ond yn hytrach fe ddywed yr adroddwr brif nodweddion y cymeriadau wrthym. Gwelir yn glir y gwahanol statws a roddir i lais safonol yr adroddwr a r gwahanol dafodieithoedd sy n ymddangos mewn dyfynodau. Defnyddia Islwyn Ffowc Elis leisiau r cymeriadau er mwyn tanlinellu r hyn sydd gan yr adroddwr i ddweud wrthym amdanynt. Edward Vaughan a Harri gyda i Cymraeg cywir sydd agosaf at lais yr adroddwr. Ar y gris nesaf i lawr yr ysgol mae Ifan Roberts gyda i Gymraeg idiomatig naturiol a i barch at awdurdod. Gellir cymharu Sut ydech chi tra pharchus Ifan a Sdech chi mwy tafodieithol Terence, a Wel Harri amharchus Wil James. Â Wil James ati i blagio etifedd Lleifior mewn bratiaith nas gwelir yn nhafodiaith y cymeriadau eraill ( holides, stiwdents ). Mae iaith y cymeriadau felly n tanlinellu eu safle yn hierarchiaeth y nofel. Tanlinellir y gagendor rhwng iaith yr adroddwr ac iaith Wil James pan ddyfynnir geiriau Wil James yn barodïol yn nisgwrs safonol yr adroddwr: meistried, gapitol. Yn y cyswllt hwn mae n werth dyfynnu dadl John Rowlands fod y nofel yn seiliedig ar wrthdaro rhwng delfrydau a chyfrifoldeb personol, neu rhwng damcaniaethau haniaethol a bywyd go-iawn Nid yw credu yn unbennaeth y gweithiwr yn ymddangos yr un peth ag unbennaeth Wil James a i debyg. Mae r math hwn o densiwn yn codi i ben o hyd yn y nofel: y tensiwn rhwng theori a realiti diriaethol. 168 Ond nid dod wyneb yn wyneb â realiti diriaethol wna syniadaeth Harri. Dod wyneb yn wyneb â stereoteip ystrydebol Islwyn Ffowc Elis o r gweithiwr wna i syniadau, ac fel y gwelsom o r modd y n cyflwynir i r gweithwyr mae r awdur wedi llwytho r dis yn erbyn Wil James o r cychwyn cyntaf, ac felly, fel y noda John Rowlands, mae nofel ymddangosiadol chwyldroadol mewn gwirionedd yn glynu fel gelen wrth 167 Ffowc Elis, t Rowlands, Ysgrifau, t. 194.

128 128 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth hen werthoedd. 169 Mae r olygfa lle n cyflwynir i r gweithwyr felly n sefydlu hierarchiaeth sy n parhau n gyson i bob pwrpas drwy gydol y nofel, gyda Edward a Harri Vaughan ar y brig a Wil James ar y gwaelod. Mae r gagendor rhwng llais yr adroddwr a llais y cymeriadau hyd yn oed yn fwy trawiadol yn Chwalfa, oherwydd defnydd mynych T. Rowland Hughes o r Saesneg. Cymraeg yw iaith yr adroddwr, a Chymraeg sy n ddigon tebyg o ran delweddau a ieithwedd i Gymraeg trigolion cymdeithas chwarelwyr Bethesda. Penderfyna rhai o drigolion y pentref symud i r Sowth am waith, ac yno maent hwy, yn ogystal â r adroddwr, yn dod ar draws ambell gymeriad llai parchus na r rhelyw: Y drws nesaf [i Idris a i deulu] trigai Jerry a i wraig enfawr Molly, a u haid o blant. Pa faint oedd nifer y plant, ni wyddai Idris yn iawn deuddeg, yn ôl Jerry, ond a barnu oddi wrth eu sŵn, yr oeddynt yn ddeugain o leiaf ac ym mh le y cysgai r fath genfaint mewn tŷ mor fychan a oedd yn ddirgelwch i r gymdogaeth oll Ambell noson, rhwng rhuadau Jerry ac ysgrechau i wraig a gwawchiau a nadau r plant, yr oedd y sŵn yn fyddarol, ac weithiau, pan na fyddai r tad na r fam yn sobr iawn, câi r ddau ddifyrrwch yn taflu darnau o r dodrefn at ei gilydd. 170 O safbwynt honedig wrthrychol yr adroddwr y deillia r disgrifiad hwn, ond mae n ddigon amlwg bod rhagfarnau cryf yn erbyn y Gwyddelod yn cael eu mynegi yma. Hyd yn oed os derbyniwn gwirionedd yr hyn a ddisgrifir, mae iaith yr adroddwr haid, genfaint, rhuadau, nadau - yn tanlinellu r ffaith ei fod i bob pwrpas yn ystyried y bobl hyn yn anifeiliaid. Tanlinellir yr agwedd ddibrisiol yma pan ddaw n amser i r cymeriadau siarad. Well, Idris, my boyo, if it s a house ye re wantin, I ve got it for ye. Oh! Where? Next door to me. Pleasant Row they call it, the perishin liars. Divil a bit pleasant it is, but you can t go pickin and choosin these days, can you now? Ike James, the landlord, is a great pal of mine, and if it s Jerry O Driscoll that s askin him for the house, then it s Jerry O Driscoll will be havin it. But I ve been promised one of the new houses on the Twyn, Jerry, and they ll be ready by the end of the month. Chwarddodd y Gwyddel. Begorra, at the rate they re goin at em, it s by Christmas after next they ll be finished. 171 Yma mae r adroddwr a r cymeriadau n siarad ieithoedd gwahanol. Nid yw T. Rowland Hughes yn dehongli geiriau r cymeriadau, fel wnaeth Islwyn Ffowc Elis wrth gyflwyno r gweithwyr, ond hyd yn oed yma fe sefydlir hierarchiaeth amlwg rhwng Cymraeg yr adroddwr, Saesneg tra safonol y Cymro Idris, a thafodiaith gref y Gwyddel. Dengys y termau anifeilaidd yn y dyfyniad, a r defnydd o dafodiaith amrwd, mai ar waelod ysgol hierarchaidd y nofel y daw r Gwyddelod druain. Er mwyn i ddarluniau T. Rowland Hughes ac Islwyn Ffowc Elis o Gymru ymddangos yn real mae n rhaid i r darllenydd dderbyn agweddau a r farn a fynegir gan yr uwchiaith (llais yr adroddwr trydydd person) yn ddigwestiwn. Nododd Ioan Williams sut y methodd Elis gadw rheolaeth ar ei ddeunydd ar brydiau wrth i r darllenydd ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol mewn golygfeydd nad ydynt yn argyhoeddi; yr olygfa lle sylwa Harri, fel pe bai o r newydd, i w heddychiaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd gostio iddo 169 Ibid., t. 194, t Hughes, t Ibid., t. 136.

129 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth 129 brofiad, er enghraifft, neu r olygfa lle tafla Gwylan ei hun fel llewes ar Harri wedi iddi droi ei chefn ar ei chredoau Comiwnyddol er ei fwyn ef. 172 Mae n debyg mai fel adlewyrchiad o ragfarn Cymraeg tuag at y Gwyddelod y byddem yn darllen disgrifiadau T. Rowland Hughes o deulu Jerry O Driscoll heddiw, a gellir gweld yn lled glir sut y ffurfiwyd realiti Cysgod y Cryman gan agweddau a rhagfarnau r pumdegau hefyd. Nododd Delyth George mor wamal yw r portread o fenywod; a does dim angen chwaith bod yn arbennig o sensitif i deimlo n anesmwyth ynglŷn â r disgrifiad canlynol o gyfarfod y sosialwyr ym Mangor: Pan gyrhaeddodd y stafell bwyllgor yn y coleg yr oedd tri chomiwnydd yno. Mewn cadair freichiau y tu ol i r bwrdd yr oedd Bill Kent, yn amlwg yn gadeirydd y gymdeithas. Yn ei gwman ar gadair arall wrth y mur, a r haul hwyr drwy r ffenest ar ei wyneb melyn, eisteddai Lee Tennyson. Llanc eiddil o Lerpwl, gyda llygaid culion. O dad Seisnig a mam Sineaidd [F]e ddaeth Affricanwr i mewn. Francis Oroko, dwylath o hynawsedd danheddog, a i wyneb yn disgleirio fel eboni wedi i rwbio. Deveneing, devening. Meddai Francis yn heulog wrth bob un yn ei dro, a phan eisteddodd ar un o r cadeiriau wrth y mur yr oedd ei draed ar ganol y llawr, gan fod y rhan helaethaf o lawer o i ddwylath yn goesau. 173 Fel yn achos Gwyddelod T. Rowland Hughes, mae n ddigon amlwg dybiwn i mai stereoteip anhygoel o ystrydebol o Affricanwr a geir yma ( hynawsedd danheddog, traed ar ganol y llawr ), a hynny n cael ei amlygu gan yr ymgais i gyfleu tafodiaith Francis, Devening, Devening. Pan gyplysir y disgrifiad hwn â r ddelwedd ystrydebol o r gweithiwr a geir yng nghymeriad Wil James, a u cymharu â r disgrifiadau cwbl edmygus, a r delweddau sanctaidd a ddefnyddir wrth bortreadu Karl cyn-aelod, wedi r cwbl, o fyddin Rommel a ymladdai dros burdeb hiliol dechreuwn weld sut gall y broses o ddadadeiladu Cysgod y Cryman ein harwain at rai o gorneli tywyllaf ideoleg cenedlaetholdeb Cymraeg y pumdegau. Awgrymir yn y dyfyniad uchod mai canlyniad ymadael â gwerthoedd bro, llinach a chenedl a ymgnawdolir yn Lleifior ac yn niwylliant Dyffryn Aerwen yw cenhedlu llanciau melyn, eiddil, sy n hanner Seisnig a hanner Sineaidd. Ymysg y Comiwnyddion daw Harri wyneb yn wyneb ag unigolion nad ydynt yn ffitio n dwt i fyd hierarchaidd y nofel ac felly rhaid disgrifio r unigolion hyn mewn termau sy n eu halltudio i r ymylon. Ceir cysylltiad agos rhwng strwythur a chynnwys y nofel felly, a hynny n arwain at destun sy n cynnal strwythurau hierarchaidd cymdeithas yn hytrach na u herio. Tra credai awduron realaidd y gellir mynegi realiti drwy iaith, a bod modd deall cymdeithas a i hadlewyrchu mewn testun ysgrifenedig neu mewn ffilm, cred yr ôl-strwythurwyr mai twyll yw r meddylfryd hwn. Yn eu tŷb hwy seilir realaeth ar y rhagdybiaeth beryglus fod iaith yn gallu cael gafael ar y Gwir trosgynnol, ond nid oes y fath beth â r Gwir hwn yn bodoli. Yn hytrach, gwirioneddau sydd yn bodoli, ac wrth wisgo un fersiwn o r byd yn lifrai r real, yr hyn wna r nofelydd yw cyflwyno byd-olwg Ewro-ganolog, dynganolog, gwyn ganolog fel darlun cywir o natur cymdeithas. Dull neu ffurf o ysgrifennu sy n hanfodol geidwadol a gormesol yw realaeth felly. Prif nodwedd y nofel realaidd yw r modd y trefnir y disgyrsiau, neu r cyweiriau ieithyddol, o fewn y testun yn yr ysgol hierarchaidd gydag uwchiaith awdurdodol yr adroddwr yn dehongli ac yn rheoli holl ieithoedd eraill y nofel. Adlewyrcha strwythur hierarchaidd y nofel realaidd felly ddull hierarchaidd o feddwl. Yn ôl yr ôl-strwythurwyr rhaid rhoi r gorau i realaeth fel ffurf o ysgrifennu gan ddatblygu nofelau ôl-fodern a fyddai, yng ngeiriau John Rowlands, yn torri drych realaeth y drych yr oedd nofelwyr wedi bod yn twyllo u darllenwyr ag ef am ryw ddwy ganrif Ioan Williams, tt Ffowc Elis, tt Rowlands, Cip ar y Nofel Gymraeg Ôl-Fodernaidd yn Wiliams gol., Rhyddid y Nofel, t. 162.

130 130 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth REALAETH: NOD Dyna felly ymdrech i gyflwyno agwedd yr ôl-strwythurwyr tuag at realaeth, gan ddefnyddio Cysgod y Cryman a Chwalfa i roi ychydig o gig ar esgyrn sychion y ddadl. Ond, wedi profi bod elfennau o ragdybiaeth a rhagfarn yn ymhlyg ym mhob fersiwn o r byd, oes rhaid felly rhoi r gorau i realath fel ffurf yn gyfan gwbl? Awgryma Raymond Williams yn y dyfyniad agoriadol bod beirniaid erbyn hyn yn cytuno mai un confensiwn ymysg nifer o gonfensiynau eraill yw realaeth yn hytrach na ffurf o ysgrifennu a all ddadlennu r gwirionedd. Dadleua Williams ym mrawddeg olaf y dyfyniad y gall coleddu r ddadl fod pob realaeth yn hanfodol ffaeledig fod yn gyson â chredu ym mhwysigrwydd y prosiect realaidd: it could be made compatible with the sense of realism that was a conscious commitment to understanding and describing real forces (a commitment that at its best includes understanding the processes of consciousness and composition that are involved in any such attempt). 175 Mor gynnar â 1961 roedd Williams eisioes yn rhag-weld ymosodiad yr ôl-strwythurwyr, ond hefyd am weld ffyrdd o barhau r prosiect realaidd. The old naïve realism is in any case dead, for it depended on a theory of natural seeing which is now impossible. When we thought we had only to open our eyes to see a common world, we could suppose that realism was a simple recording process, from which any deviation was voluntary. We know now that we literally create the world we see. 176 Wrth i natur cymdeithas newid onid yw r nofel realaidd yn rhwym o newid hefyd? Os mai creu ac ail greu n bydoedd yr ydym ni, onid yw dilyn yr ôl-strwythurwyr, gan synio am realaeth fel dull o ysgrifennu a thybio fod yn rhaid i r nofel realaidd ddilyn un ffurf benodol yn gam gwag? [W]e have to be especially careful about definitions which we have seen to be historically variable, rhybuddia Williams, and especially about definitions which abstract the method from an intention in ways that are finally insupportable in any substantial analysis. 177 Gellir dadlau mai r hyn a wnaeth beirniaid ôl-strwythurol oedd canolbwyntio ar un ffurf ar realaeth nofel canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan wneud eu hymosodiad ar y ffurf benodol honno yn sail ar gyfer ymwrthod â realaeth yn gyfan gwbl. Yn hytrach na synied am realaeth fel dull neu ffurf benodol o ysgrifennu, synia Raymond Williams am realaeth fel nod neu brosiect. Nid yw Williams yn cyfeirio at y nofel realaidd fel endid statig ac iddo briodweddau penodol, ond yn hytrach cyfeira at realaeth fel proses sy n cymryd gwahanol ffurfiau mewn gwahanol gyfnodau. Pan ddatgana Wiliam Owen Roberts fod realaeth yn ddull bwrgeisiol o ysgrifennu ac yn hangofyr egwan o ryddiaith, ymosod y mae ar un ffurf benodol o realaeth. 178 Yn ôl Williams, does dim rheswm pam fod yn rhaid i realaeth adlewyrchu meddylfryd bwrgeisiol. Gallwn ystyried perspectif yr adroddwr mewn nofel realaidd yn enghraifft o hyn. Fel y nodwyd eisioes, yr hyn sy n cyfateb i r adroddwr mewn ffilm neu raglen ddogfen yw llygad y camera y persbectif awdurdodol sy n fframio popeth a welwn. Disgrifia Williams un defnydd cyffredin o r dechneg hon: [O]ne of the unnoticed elements of the production of meaning within what is apparently the reproduction of what is happening, [is] the familiar media claim to be showing things as they occur. Here it is a question of the position of the camera when there is fighting between the police and others who are presented as engaged in some kind of social disturbance. It is quite remarkable, and of course the reasons are obvious, how regular and how naturalised the position of the camera behind the police is in either newsreel or in 175 Williams, Keywords, t Raymond Williams, The Long Revolution (1961. Harmondsworth, 1975) t Raymond Williams, A Defence of Realism yn What I Came to Say (London, 1989) tt Yma, t Wiliam Owen Roberts, Nofela yn y Ganrif Nesaf Llais Llyfrau (Gaeaf 1996) t. 11.

131 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth 131 fictionalised reports of that kind of disturbance. The police are seen with the camera. The crowd, the disturbance, is object. 179 Nid realiti a welwn ar ein sgriniau teledu, ond gogwydd ar yr hyn a ddigwyddodd o safbwynt penodol. Ond nid oes yn rhaid i r camera weld pethau o bersbectif yr heddlu, yn fwy nag oes yn rhaid i r nofel realaidd drosglwyddo gwerthoedd y dosbarth canol ceidwadol. Yn wir, cyfraniad mawr nofelwyr diwydiannol Cymru yn ôl Raymond Williams oedd iddynt rwygo r nofel realaidd o i seiliau bwrgesiol gan ddechrau trafod profiad y dosbarth gweithiol o bersbectif y dosbarth hwnnw, yn hytrach nag o bersbectif dyngarwyr dosbarth canol Oes Fictoria megis Charles Dickens neu Elisabeth Gaskell: For, unlike the English nineteenth-century examples, when [the Welsh industrial novels] come they are, in majority, written from inside the industrial communities; they are working-class novels in the new and distinctive twentieth-century sense. 180 Mae n ddiddorol yn y cyswllt hwn i Raymond Williams dynnu sylw yn benodol at Chwalfa, a ysgrifennwyd gan fab i chwarelwr, fel enghraifft o r symudiad nodweddiadol hwn at bersbectif y dosbarth gweithiol. 181 Ni ellir honni i Cysgod y Cryman gael ei hysgrifennu o bersbectif dosbarth gweithiol, ond eto nid nofel sy n efelychu nofelau r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn slafaidd mohoni. Yr hyn a geir yn Cysgod y Cryman yw r gymdeithas Gymreig yn cael ei phortreadu mewn nofel realaidd boblogaidd o bersbectif cenedlaetholwr Cymraeg. Tra nad oes amheuaeth fod y disgrifiad o Francis Oroko yn adlewyrchu hiliaeth anymwybodol y pumdegau (a cheir disgrifiadau cyffelyb yn llythyrau Phillip Larkin, erthyglau jazz Hughes Panassie a nofelau Saul Bellow o r un cyfnod) 182 mae yna elfennau yn yr olygfa hon sy n tanseilio r disgrifiadau ystrydebol. Cyn i Francis ymuno â chyfarfod y sosialwyr mae Harri yn teimlo n anesmwyth iawn yno, yn wir mor estron ag Affricanwr. 183 Yn nes ymlaen clywn mai Y cynhesaf ei groeso i Harri oedd Francis Oroko. Cymerodd ef ddiddordeb mawr ynddo ar unwaith, gan ei ddallu bron â fflach ei ddannedd godidog. Wedi r cyfan, i Francis, dyn gwyn oedd Harri fel y lleill, ac nid oedd dyn gwyn ond dyn gwyn, boed gomiwnydd neu beidio, un o r hil feistri a oedd yn gyfrifol am adfyd ei hiliogaeth ef. 184 Dyna r olaf a glywn am Francis yn y nofel, ond mae n debyg ei fod yn ymddangos am reswm amgenach na fflachio i ddannedd godidog. Ymgais Islwyn Ffowc Elis yn Cysgod y Cryman yw darlunio r gwahanol rymoedd gwleidyddol sy n cyd-fodoli yng Nghymru r pumdegau: hen Ryddfrydiaeth Edward Vaughan, Llafuriaeth Aerwennydd Francis, Comiwnyddiaeth Gwylan, Cenedlaetholdeb Gwdig. Yn y cyd-destun hwn, cynrychiola Francis ddull o feddwl wedi i wreiddio nid mewn dosbarth cymdeithasol, ond mewn hil neu genedligrwydd. Y pumdegau, wrth gwrs, oedd blynyddoedd cynnar brwydrau gwrth-drefedigaethol ar draws cyfandir Affrica. 185 O safbwynt gwleidyddol perthyn pwyslais Francis Oroko ar hiliogaeth yn agosach at genedlaetholdeb Gwdig (a r awdur) nag at unrhyw rym gwleidyddol arall yn y nofel. Felly, er gwaethaf y disgrifiadau cwbl sarhaus onid oes yma hefyd gychwyn meddwl am argyfwng Cymru mewn termau cymharol, trefedigaethol? 179 Williams, A Defence of Realism, t Raymond Williams, The Welsh Industrial Novel, yn Who Speaks for Wales? Tt Yma, t Wele Williams, Who Speaks for Wales?, t. 106, t. 147, t Philip Larkin, Selected Letters ed. Anthony Thwaite (London, 1992). Ar Hughes Panassie gweler Ted Gioia, Jazz and the Primitivist Myth, yn Gioia,The Imperfect Art (New York, 1988) tt Saul Bellow, Henderson the Rain King (London, 1959). Diddorol fyddai cymharu nofel Bellow â nofel Elis, Tabyrddau r Babongo (Llandysul, 1961). 183 Elis, Cysgod y Cryman, t Ibid., t Am gyflwyniad i hyn a i effaith ar lenyddiaeth gweler Gareth Griffiths, African Literatures in English (London, 2000).

132 132 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth Y gallu hwn i greu cysylltiadau newydd ac i ddychmygu cyd-destunau newydd ar gyfer amgyffred ein bywydau yw un o brif nodweddion y prosiect realaidd i Raymond Williams. Edmyga sut y llwyddodd T. Rowland Hughes i gyfleu datgymalu graddol y gymuned chwarelyddol wrth i aelodau r gymdeithas honno deithio yn Chwalfa to the waterworks at Rhayader, to the Liverpool docks, to America, to coal and copper mining. 186 The truly creative effort of our time, honnodd Williams wrth amddiffyn realaeth, is the struggle for relationships and it is possible to see this as both personal and social: the practical learning of extending relationships. 187 Perthyn theori ddiwylliannol gynnar Williams i r un cyfnod â nofelau cynnar Islwyn Ffowc Elis, ac fe ymddengys i mi, yng ngwaith y naill a r llall, nad adlewyrchiad statig o gymdeithas mo realaeth ond ffurf ddiwylliannol sy n chware rhan ganolog ym mhrosesu r gymdeithas ei hun; yn adlewyrchu ac yn dylanwadu, yn ymateb i gymdeithas ac yn ymestyn ein hamgyffred o r hyn y gall cymdeithas fod. Ni chredai Islwyn Ffowc Elis bod y nofel yn cynnig darlun gysact o gymdeithas, ond yn hytrach credai y gallai r nofel ddylanwadu ar gymdeithas. Cyfaddefodd mai ysgrifennu r hyn a ddisgwylid ganddo a wnaeth am gryn dipyn o i yrfa, gan arwain Bobi Jones i w gyhuddo o buteinio ei ddawn. 188 Ond gwêl John Rowlands yng ngwaith Elis ymateb call llenor sy wedi sylweddoli mor seithug yw role ramantaidd hunandybus yr Artist Mawr mewn cyfnod o argyfwng diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol. 189 Yn wyneb yr her i barhad yr iaith aeth Islwyn Ffowc Elis ati n bwrpasol i greu nofelau poblogaidd lle mai Cymraeg yw llais yr adroddwr awdurdodol. A language threatened with extinction, honnodd need not reject poetry that is intricate nor experimental prose or drama, but it needs light fiction and entertaining television serials. I am confident that I can write such things and have done so unashamedly. 190 Hwyrach mai gor-ddweud oedd Dafydd Iwan pan honnodd mai darllen nofelau Islwyn Ffowc Elis a i gwnaeth yn genedlaetholwr, and mae n ddatganiad sy n awgrymu nad fel adlewyrchiadau cywir y darllenwyd nofelau Ffowc Elis, ond fel nofelau n annog cymdeithas amgen i fodolaeth. 191 Argyfwng yr iaith Gymraeg fu r cyd-destun ar gyfer creu nofelau realaidd Ffowc Elis, felly; rhaid oedd creu bydoedd testunol Cymraeg fel gwrthbwynt i grebachiad yr iaith. Daw hyn â ni yn ôl at syniadaeth Raymond Williams a ddadleuodd fod angen cymdeithas ar gyfer creu realaeth: a genuine community: a community of persons linked not merely by one kind of relationship work or friendship or family but many, interlocking kinds. It is obviously difficult, in the twentieth century, to find a community of this sort. 192 Cysyllta Williams argyfwng cymdeithasol ac argyfwng y ffurf realaidd a gellir honni fod yr argyfwng hwn dadfeiliad cymdeithas yn amlycach fyth yng ngyd-destun diwylliant lleiafrifol a pheuoedd naturiol ei hiaith yn diflannu. Nododd John Rowlands yn y cyswllt hwn fod y nofel yn mynd yn anos ac anos ei sgrifennu yn Gymraeg y dyddiau hyn am fod iaith y gymdeithas Gymraeg yn mynd yn fwy a mwy briwsionllyd. 193 I rai beirniaid ac awduron arweinia hyn at sefyllfa lle bo realaeth yn amhosib a rhaid meithrin a mabwysiadu dulliau amgen o ysgrifennu. Yn ôl Angharad Price: mae perthynas gynhenid rhwng ffantasi lenyddol a realiti r Gymru Gymraeg yn y 1990au. Haws ydoedd i awduron yn y gorffennol bortreadu cymunedau Cymraeg yn realaidd. Adlewyrchu realiti y gymdeithas uniaith Gymraeg mewn pentref fel Rhosgadfan a wnaeth 186 Williams, The Welsh Industrial Novel, t Williams, The Long Revolution, t R. M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg (Llandybie, 1975) 259. Dyfynnir Islwyn Ffowc Elis yn Rowlands, Ysgrifau ar y Nofel, tt Rowlands, Ysgrifau ar y Nofel, t Islwyn Ffowc Elis, Artists in Wales (gol. Meic Stephens) (Llandysul, 1971) t Dafydd Iwan, Atgofion am Islwyn, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004) t Williams, The Long Revolution, t Rowlands, Agweddau, t. 245.

133 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth 133 Kate Roberts, er enghraifft. Doedd dim llestair o safbwynt gonestrwydd cymdeithasol iddi wneud hynny yn y dull realaidd. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, fodd bynnag, a r glastwreiddio a r darnio a fu ar gymdeithas organaidd Gymraeg, nid yn rhwydd y portredir yn realaidd y gymdeithas honno Felly, gellid dadlau nad realaeth sy n annigonol o safbwynt y diwylliant, ond mai y diwylliant, yn hytrach, sy n annigonol o safbwynt realaeth. Bydd realaeth draddodiadol yn rhwym o fradychu realiti r Gymraeg. 194 Rhagdybir eto mai adlewyrchu cymdeithas yw priod swyddogaeth realaeth. Dyma eto synied am realaeth fel ffurf neu ddull penodol o ysgrifennu, a dyna gamgymeriad yr ôl-strwythurwyr yn ôl Raymond Williams: I have never been concerned to defend realism in the historically reactionary sense that those who are now attacking realism limit it to. My argument for realism has always been that it is a certain perception of reality and a certain awareness of interrelationships, not that it carries a certain mode of composition with it, nor that it has a second-order relation to a pre-existing reality. 195 Nofel ddiweddar sy n fyfyrdod estynedig ar ein hamgyffred o r real, a n hymwybyddiaeth o n cydberthynas ag eraill yw Dyn yr Eiliad (2003) gan Owen Martell. Mae hon yn nofel sy n gwyro oddi wrth ffurf y nofel realaidd glasurol, tra n awgrymu ffyrdd o barhau r prosiect realaidd mewn cyd-destun cyfoes. Mae Dyn yr Eiliad yn adlewyrchu r crebachu a fu ar beuoedd y Gymraeg fel y u disgrifir gan John Rowlands ac Angharad Price. O i gymharu â r lliaws o gymeriadau a geir yn nofelau Islwyn Ffowc Elis a T. Rowland Hughes, tri chymeriad sydd i nofel Martell ac mae un ohonynt wedi ei ladd mewn damwain car. Ymdrech sydd yma, serch hynny, gan ddau unigolyn i greu realiti o r newydd yn dilyn marwolaeth eu ffrind. Ychydig o ddeialog sydd yn y nofel, ond mewn tafodiaith gyfoes y mae r cymeriadau n adrodd y stori: Wrth i ni gerdded adre wedyn allwn i ddim helpu teimlo ychydig bach yn inhibited. Ddylwn i afael yn ei llaw hi? Neu roi fy mraich o i chwmpas hi? Ddylwn i ei stopio hi dan bont rheilffordd i w chusanu hi eto? Ma comedians wastad yn dweud nad yw cael laugh allan o berson stoned yn cyfri achos eu bod nhw n chwerthin beth bynnag r ych chi n ei ddweud. A rhywbeth fel yna oedd hi y noson honno. 196 Yr hyn sy n taro r darllenydd yn syth yw r defnydd o eiriau Saesneg heb eu hitaleiddio. Does dim hierarchiaeth rhwng y Gymraeg a r Saesneg yma, ac nid oes ymdrech i barchuso iaith pob dydd. Chwelir hierarchiaeth y nofel realaidd glasurol ymhellach am fod yr adroddwr awdurdodol yn siarad yr un iaith â r cymeriadau. Yn wir, sylfaen ffurf drawiadol Dyn yr Eiliad yw r ffordd y mae n symud o lais cymeriad yn siarad yn y person cyntaf, fel uchod, i lais adroddwr confensiynol y nofel realaidd glasurol sy n siarad yn y trydydd person. Ond nawr mae r teimlad yn treiddio trwy bopeth. Bod yr holl beth yn fucked up. Bod Daniel yn fucked up am beidio, na, am fethu ymateb i farwolaeth ei ffrind gyda mwy o deimlad amrwd Dim ond artistiaid, sêr ffilm, sêr pop sy n llwyddo i gario off y gamp anodd o farw n osgeiddig a baletig mewn damweiniau car. Ac ar y gorau roedd Davies yn chancer, yn ddiog, ac yn treulio gormod o amser yn eistedd rownd yn trio cofio beth i w wneud nesa Rwy n dweud hyn yn y ffordd neisa posib, wrth gwrs, ond mae e n wir. (Neu dyna sut yr oedd e, beth bynnag. Fe allai e fod wedi troi deilen newydd heb i fi wybod.) Ac 194 Price, Rhwng Gwyn a Du, t Raymond Williams, Politics and Letters: Interviews with New Left Review (London, 1979) t Owen Martell, Dyn yr Eiliad (Llandysul, 2003) t. 168.

134 134 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth roedd e n fucked up jyst yn y manylion a r eironïau diflas, prosaic. Roedd Davies wedi marw ar yr A470 sy n hewl anhygoel o ddiflas. 197 Dyma lais yr adroddwr. Mae n siarad iaith sy n gyfuniad naturiol o r Gymraeg a r Saesneg, o regfeydd a chyfeiriadau at ddiwylliant poblogaidd, ac felly n rhannu r un byd â r cymeriadau yn hytrach na u beirniadu a u dehongli oddi uchod. Nid adroddwr hollwybodus mo hwn ychwaith yn wir mae n tynnu n sylw at y posibilrwydd i Davies droi deilen newydd heb iddo wybod. Mae r adroddwr wedi i ddrysu gan farwolaeth Davies i r un graddau â r cymeriadau eraill, a darllenydd y nofel. Nid strwythur hierarchaidd sydd i Dyn yr Eiliad felly. Perthyn holl leisiau r nofel i r un lefel. Os ffurf dotalitaraidd oedd i r nofel realaidd glasurol, yna gellir synio am strwythur Dyn yr Eliad fel ffurf ddemocrataidd. Gellir honni felly mai nofel nodweddiadol ôl-fodern yw Dyn yr Eiliad sy n parodïo a gwyrdroi confensiynau r nofel realaidd. Ond drwy gydol y nofel mae yna ymgais i ddeall perthynas pobl â i gilydd ac â u byd mewn cymdeithas gyfoes. Adlewyrchir ymgais Daniel ac Anna i wneud synnwyr o u realiti newydd wedi marwolaeth Davies yn ymdrechion yr adroddwr i geisio deall, a rhoi ffurf, i hanes Cwm Taf: Lawr tuag at Merthyr, ac allwch chi ddim help meddwl bod popeth wedi i gyd-gysylltu n berffaith, ac nad yw rheolau achos-ac-effaith wedi u henghreifftio n well yn unman. Cyfarthfa, y gweithiau haearn, y pyllau glo, ffatri Hoover. Roedd fy nhad yn arfer rhestru r anghyfiawnderau yn trio gwneud sosialwyr pybyr ohonom ni cyn ein bod ni n ddeg oed. Yr Arglwydd Crawshay, Dic Penderyn, aeth i w grogi tua r cyfnod hwn, canol Awst ym 1831, amgylchiadau gweithio dan ddaear, streic y glowyr a r miloedd mewn argyfwng. Ac Aberfan, wrth gwrs. 198 Er fod y rhestri yn creu argraff ddrylliedig, mae ymgais yma i ddod â r darnau ynghyd dan ddylanwad naratif sosialaidd y tad sy n seiliedig ar weld y cwm yn ysglyfaeth i rymoedd cyfalafiaeth a diwydianiaeth. Nid yw r naratif yma n ddigonol yn wyneb realiti ôl-ddiwydiannol y nofel lle disodlir y pyllau glo gan landfill sites sy n gadael eu hôl llygredig ar yr amgylchedd: Roedd y syniad o landfill, o lanw r tir yn fascinating Roedd y lorris yn dod bob wythnos ac yn cario prams wedi u taflu allan, hen duniau bwyd a dosys o ddirfodaeth. Roedd pobl degau, cannoedd i gyd yn cael eu cyflogi i glirio allan nid jyst y shit oedd o gwmpas ein tai ond ein shit metaffisegol ni hefyd, ac i w gladdu yn ddwfn yn y ddaear, nes bod strata cyfain yn y graig yn ddwfn o dan ein tai wedi addasu cawl ffowlyn Campbells ( condensed, makes double! ) yn rhan o u craidd. A dyna fyddai n gwaddol ni i r byd. Tomen enfawr o sludge fyddai un o r dyddiau hyn yn torri n rhydd ar ddechrau diwrnod ysgol ac yn llithro lawr y mynydd i gladdu Merthyr. 199 Mae i r landfill arwyddocâd symbolaidd ddigon amlwg mewn nofel sy n archwilio sut ydym yn creu ein hunaniaethau yn wyneb y gwaddol yr ydym yn ei etifeddu oddi wrth hanes. Diweddglo pwrpasol felodramataidd, apocaliptaidd, sydd i r myfyrdod hwn, ond wrth gyfeirio at y domen sludge yn torri n rhydd ar ddechrau diwrnod ysgol fe n hatgoffir am drychineb Aberfan a glodd y myfyrdod cynt ar hanes y cwm. Er gwaethaf y dadfeilio a r datgysylltu cymdeithasol yn sgil dad-ddiwydiannu, ymddengys fod hanes yn dal i ddylanwadu ar yr iaith a r delweddau a ddefnyddiwn heddiw. Nid nofel sy n honni dadlennu r gwirionedd yw Dyn yr Eiliad, ond nofel sy n ceisio creu realiti newydd wrth fyfyrio ar y gydberthynas rhwng unigolion a i gilydd, rhwng cymdeithas a i hanes. 197 Ibid., t Ibid. t Ibid., tt

135 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth 135 DIWEDDGLO: REALAETH A R GYMRAEG Drwy ystyried realaeth yn ffurf benodol ar lun nofelau r bedwaredd ganrif ar bymtheg gellir honni ei bod yn ffurf geidwadol ac amherthnasol i r byd modern. Ond o ystyried realaeth yn nod, gellir dadlau bod angen ar bob cyfnod a chenhedlaeth ei realaeth ei hun. Reality medd Raymond Williams: is continually established, by common effort, and art is one of the highest forms of this process. Yet the tension can be great, in the necessarily difficult struggle to establish reality, and many kinds of failure and breakdown are possible. It seems to me that in a period of exceptional growth, as ours has been and will continue to be, the tension will be exceptionally high, and certain kinds of failure and breakdown may become characteristic. The recording of creative effort, to explore such breakdowns, is not always easy to distinguish from the simple, often rawly exciting exploitation of breakdown. Or else there is a turning away, into known forms, which remind us of previously learned realities and seek, by this reminder, to establish probability of a kind. [A] new realism is necessary, if we are to remain creative. 200 Fel aelodau o leiafrif ieithyddol rydym yn gyson ymwybodol mai rhywbeth yr ydym yn ei greu yw realiti. Fel y prosiect realaidd ei hun, trawsnewid realiti Cymru fu bwriad y mudiadau ieithyddol a chenedlaethol yn eu ffurfiau mwyaf blaengar. Nododd Raymond Williams yntau yn y saithdegau y change of generation in nationalism, when people started talking about this Wales we re going to make. 201 Nid cadw r glendid a fu ond creu r gymdeithas sydd i ddod. 202 Nid adlewyrchiad diymadferth o r presennol ddylai realaeth gyfoes fod felly, ond ffurf sy n cyfrannu at y broses o greu dulliau newydd o feddwl ac o fod. Bydd angen realaethau newydd wrth i ni greu ac ail-greu Cymreictod. Yn y cyswllt hwn hwyrach nad cydddigwyddiad yw r ffaith i Dyn yr Eiliad nofel realaidd fwyaf trawiadol y blynyddoedd diwethaf gael ei lleoli a i hysgrifennu yn yr ardaloedd hynny sy n gweld y Gymraeg yn adfywio Williams, The Long Revolution, tt Williams, Marxism, Poetry, Wales yn Who Speaks for Wales, tt Yma, t Saunders Lewis, Buchedd Garmon yn Ioan M. Williams gol., Dramau Saunders Lewis, Cyfrol I (Caerdydd, 1996) t Ar y ffenomen hon gweler ysgrifau Owen Martell ac Iwan England yn Hywel Teifi Edwards gol., Yn Gymysg Oll i Gyd (Llandysul, 2003).

136 136 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth LLYFRYDDIAETH Barthes, Roland (1975) S/Z. Llundain: Cape. Belsey, Catherine (1980) Critical Practice. Llundain: Routledge. Chapman, T. Robin (2000) Islwyn Ffowc Elis. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Easthope, Antony (gol.) (1993) Contemporary Film Theory. Llundain: Longman. Edwards, Hywel Teifi (gol.) (2003) Yn Gymysg Oll i Gyd. Llandysul: Gomer. Elis, Islwyn Ffowc (1980) Cysgod y Cryman. Llandysul: Gomer. Gasiorek, Andrzej (1995) Post-War British Fiction: Realism and After. Llundain: Edward Arnold. George, Delyth (1990) Islwyn Ffowc Elis. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn. Hallam, Julia a Marshment, Margaret (2000) Realism and Popular Cinema. Manceinion: Gwasg Prifysgol Manceinion. Heath, Stephen (1972) The Nouveau Roman: A Study in the Practice of Writing. Llundain: Elek. Hughes, T. Rowland (1947) Chwalfa. Llandysul: Gomer. Hunter, Jerry a Jones, Richard Wyn (1995) O r Chwith: Pa Mor Feirniadol yw Beirniadaeth Ôl-Fodern?, Taliesin 92: tt Jones, R. M. (1975) Llenyddiaeth Gymraeg Llandybïe: Christopher Davies. Lodge, David (1990) After Bakhtin: Essays on Fiction and Criticism. Llundain: Routledge. MacCabe, Colin (1979) James Joyce and the Revolution of the Word. Llundain: Macmillan. MacCabe, Colin (1993) Realism and the Cinema: Notes on Some Brechtian Theses yn Antony Easthope (gol.) Contemporary Film Theory. Llundain: Longman. Martell, Owen (2003) Dyn yr Eiliad. Llandysul: Gomer. Price, Angharad (2002) Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Rowlands, John (gol.) (1992) Sglefrio ar Eiriau. Llandysul: Gomer. Rowlands, John (1992) Ysgrifau ar y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Rowlands, John (1999) Cip ar y Nofel Gymraeg Ôl-Fodernaidd yn Gerwyn Wiliams (gol.) Rhyddid y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Rowlands, John (gol.) (2000) Y Sêr yn eu Graddau: Golwg ar Ffurfafen y Nofel Gymraeg Ddiweddar. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Tallis, Raymond (1998) In Defence of Realism. Lincoln, Nebraska: Gwasg Prifysgol Nebraska.

137 Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Amddiffyn Realaeth: Raymond Williams vs. Ôl-strwythuriaeth 137 Wiliams, Gerwyn (gol.) (1999) Rhyddid y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Williams, Daniel (1997) Cymdeithas a Chenedl yng Ngwaith Raymond Williams, Taliesin 97: tt Williams, Ioan (1984) Y Nofel. Llandysul: Gomer. Williams, Raymond (1965) The Long Revolution. Harmondsworth: Penguin. Williams, Raymond (1970) The English Novel from Dickens to Lawrence. Llundain: Chatto & Windus. Williams, Raymond (1976) Keywords: A Vocabulary of Culture and Society. Llundain: Fontana. Williams, Raymond (1979) Politics and Letters: Interviews with New Left Review. Llundain: NLB. Williams, Raymond (1980) Problems in Materialism and Culture. Llundain: Verso. Williams, Raymond (1983) Writing in Society. Llundain: Verso. Williams, Raymond (1989) What I Came to Say. Llundain: Radius. Williams, Raymond (2003) Who Speaks for Wales: Nation, Culture, Identity. Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru.

138 ISBN Ysgrifau ar Ffilm a r Cyfryngau Dylunio : Neil Angove Cyf. E : tina@neilangove.ltd.uk Cyhoeddwyd :

Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service 1 Mae r Tîm Ansawdd i Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y

More information

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod Pynciau & agweddau: Cymraeg Saesneg TGCh Addysg Byd Dinasyddiaeth Sgiliau: Llythrennedd Digidol Adnoddau cefnogol: Taflen Waith Llyfryn yr Eisteddfod Dolen i

More information

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Mae r lluniau yma yn dod o Photo Symbols Gwnaed y ddogfen hon yn rhwydd ei darllen gan VoiceAbility Mae r geiriau a amlygir a u hystyron yn y rhestr geiriau

More information

Buy to Let Information Pack

Buy to Let Information Pack Buy to Let Information Pack The information provided in this pack is a duplicate of the information provided on display boards at the Drop-in event on Friday 6 th May 2016 in Fairbourne Village Hall. Please

More information

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau? Pa fath o wlad oedd Cymru yn yr Oesoedd Canol (tua 1000)? Pa fath o gestyll sydd i w gweld yng Nghymru heddiw? Pa effaith gafodd y Normaniaid ar Gymru? I ba raddau y dylai Owain Glyndwr gael ei gofio yng

More information

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s Cyflwyniad cyflym i Parkinson s A quick introduction to Parkinson s Welsh Os ydych newydd dderbyn eich diagnosis, neu os ydych yn adnabod rhywun sydd newydd gael gwybod, mae n debyg bod gennych lawer o

More information

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau? Pa fath o wlad oedd Cymru yn yr Oesoedd Canol (tua 1000)? Pa fath o gestyll sydd i w gweld yng Nghymru heddiw? Pa effaith gafodd y Normaniaid ar Gymru? I ba raddau y dylai Owain Glyndwr gael ei gofio yng

More information

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc Criw Celf 2017/18 Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc Criw Celf Participants 2016/17 Cyfranogwyr Criw Celf 2016/17 Imogen Sadler Imogen

More information

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497 HM Land Registry THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1 Date 08 May 2018 Your Ref DLA/P5472-1 Our Ref RCS/ HM Land Registry Wales Office PO Box 75 Gloucester GL14 9BD DX 321601 Gloucester 33 Tel 0300 006 0009 wales.office@

More information

W32 05/08/17-11/08/17

W32 05/08/17-11/08/17 W32 05/08/17-11/08/17 2 Hedd Wyn: The Lost War Poet 3 The Bug Grub Couple 4 Cardiff Bay Lives 5 Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Bodedern, Ynys Môn / Anglesey

More information

Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts

Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts Nodweddion arwyddocaol: Ymchwil ddiweddar i hanes Cymru; Bylchau yn yr ymchwil i hanes Cymru; Dyfodol disglair felly i hanes Cymru?

More information

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith Mae r data o r papur: Archwilio Perthnasoedd mewn Dimensiynau Corff Grete Heinz a Louis J. Peterson San José State University Roger W. Johnson a Carter J. Kerk South Dakota School of Mines and Technology

More information

Traddodiad a newydd-deb. yn nofelau Wiliam Owen Roberts

Traddodiad a newydd-deb. yn nofelau Wiliam Owen Roberts Traddodiad a newydd-deb yn nofelau Wiliam Owen Roberts Non Meleri Hughes Traethawd a gyflwynwyd ar gyfer gradd PhD Prifysgol Bangor 2011 2 DATGANIAD Nid yw sylwedd y gwaith hwn wedi cael ei dderbyn o r

More information

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol 2015 Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog Enillwyr Gwobrau Gwireddu r Geiriau 2015 Mae Gwobrau Gwireddu r

More information

Deddf Awtistiaeth i Gymru

Deddf Awtistiaeth i Gymru Deddf Awtistiaeth i Gymru Until everyone understands Nes bydd pawb yn deall CYNNWYS Rhagair gan Mark Lever, Prif Weithredwr, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cyflwyniad 03 04 05 06 07 08 Diagnosis a

More information

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015 MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015 Mae r Canfyddiadau hyn gan y New Policy Institute yn dadansoddi r data diweddaraf i ddangos tueddiadau o ran gwaith, tlodi a sancsiynau budd-daliadau

More information

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014 Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Gâr 2014 4 X-Ray Health Special 5 The Great Welsh Diet Experiment: One Year On 6 Live Longer Wales: Helen s

More information

Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion CYFRES NEWYDD, CYFROL 23 (2017) Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion NEW SERIES, VOLUME 23 (2017) Golygydd : Editor HELEN FULTON Trafodion

More information

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon Mae r data o r papur: Archwilio Perthnasoedd mewn Dimensiynau Corff Grete Heinz a Louis J. Peterson San José State University Roger W. Johnson a Carter J. Kerk South Dakota School of Mines and Technology

More information

Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg

Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg Defnyddio r Gymraeg: Canolradd B1 2018 Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg LLYFRYN YR YMGEISYDD Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). WJEC

More information

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil APPROX. 5.54 ACRES (2.24 HECTARES) ALLOCATED FOR HOUSING Upper Georgetown Plateau Merthyr Tydfil CF48 1BZ Adjacent to Kier Hardie Health Park Very close to facilities

More information

Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018

Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018 Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, 13-14 April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, 13-14 Ebrill 2018 Dame Venodotia, alias Modryb Gwen. A map of North Wales.... Designed

More information

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru Rhagfyr 2010 ISBN 978 0 7504 5977 8 Hawlfraint y Goron 2011 WAG10-11196 F1141011 2 Cynnwys Tudalen Beth yw Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig?

More information

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL Neuadd y Pentref, Drefach am 7.30yh 3ydd o Ebrill 2018 / 3 rd April 2018 Yn bresennol / Present: Cyng Alwena Williams, Cyng Hazel Thomas, Cyng Euros Davies, Cyng

More information

Gwell Cymro, Cymro oddi cartref? cymhlethdod meddwl a gwaith John Ceiriog Hughes

Gwell Cymro, Cymro oddi cartref? cymhlethdod meddwl a gwaith John Ceiriog Hughes Gwell Cymro, Cymro oddi cartref? cymhlethdod meddwl a gwaith John Ceiriog Hughes gan Bethan Angharad Huws Traethawd a gyflwynir ar gyfer gradd MPhil 2015 Cynnwys Datganiadau ii Cydnabyddiaeth iii Crynodeb

More information

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy n Dysgu r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-gymraeg Gan Heini Gruffudd a Steve Morris Hawlfraint

More information

Woyzeck Büchner, Peter Szondi ac argyfwng y Ddrama

Woyzeck Büchner, Peter Szondi ac argyfwng y Ddrama Dr Myfanwy Miles Jones Woyzeck Büchner, Peter Szondi ac argyfwng y Ddrama Rhif 4 Gorffennaf 2009 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I D D C Y M R A E G 24 Woyzeck Büchner, Peter Szondi ac

More information

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 Y Lle Celf Noddwyr Balch Medal Aur am Bensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cymru wedi i dylunio n well Cynnwys Contents 3 Gair o r Gadair A Word

More information

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru Prosbectws i Israddedigion Social Work in Wales Undergraduate Prospectus Dysgu sy n Newid Bywydau Mae popeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn dechrau ar eich taith gyda

More information

Llenydda a Chyfrifiadura

Llenydda a Chyfrifiadura Llenydda a Chyfrifiadura Ifor ap Dafydd Archif Llenyddiaeth Cymru / The Welsh Literature Archive Cyflwyniad Awr Ginio 03/02/10 J. Guttenburg (1397?-1468) (Artist anhysbys G19) Yny lhyvyr hwnn John Price,

More information

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da! DYDDIAD: 10/07/2018, dim embargo Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da! Mae'n bleser gennym gyflwyno Cynhadledd Genedlaethol Cymdeithas Atal Dweud Prydain 2018 i ddinas brydferth Caerdydd ar gampws

More information

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth 2015 2016 dwrcymru.com PRE 0081 2 Weithiau, mae pethau n mynd o chwith Ein nod bob amser yw sicrhau ein bod yn gwneud pethau n iawn y tro cyntaf, bob tro

More information

Bwletin Gorffennaf 2017

Bwletin Gorffennaf 2017 Bwletin Gorffennaf 2017 Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Wythnos Sgiliau Unwaith eto mae r ysgol wedi trefnu wythnos o weithgareddau gyda r nod o ehangu gorwelion ein disgyblion, a hynny

More information

Cefnogi gwaith eich eglwys

Cefnogi gwaith eich eglwys Elusen Gofrestredig Rhif: 1142813 Rhifyn Hydref 2017 2 Am fwy o cysylltwch: Â ch Trysorydd lleol neu Yr Eglwys yng Nghymru 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd. CF10 5BT rhoiynsyth@eglwysyngnghymru.org.uk gwaith

More information

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697 ISBN digidol 978 1 4734 2505 7 Hawlfraint y Goron WG23697 Cynnwys Cefndir 2 Nodyn gan yr Athro Ian Diamond 3 Cais am dystiolaeth 4 Manylion yr atebydd 5 Holiadur 6 Atodiad A: Cylch gorchwyl y Panel Adolygu

More information

CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG

CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG Rhif 6 Gorffennaf 2010 ISSN 1741-4261 CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG Golygydd: Yr Athro Ioan Williams Cyhoeddwyd gyda chymorth: 1 Rhif 6 Gorffennaf 2010 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I

More information

Y Meddwl a r Dychymyg Cymreig. FfugLen. Y Ddelwedd o Gymru yn y Nofel Gymraeg o Ddechrau r Chwedegau hyd at Enid Jones. Gwasg Prifysgol Cymru

Y Meddwl a r Dychymyg Cymreig. FfugLen. Y Ddelwedd o Gymru yn y Nofel Gymraeg o Ddechrau r Chwedegau hyd at Enid Jones. Gwasg Prifysgol Cymru Y Meddwl a r Dychymyg Cymreig FfugLen Y Ddelwedd o Gymru yn y Nofel Gymraeg o Ddechrau r Chwedegau hyd at 1990 Enid Jones Gwasg Prifysgol Cymru FfugLen Y MEDDWL A R DYCHYMYG CYMREIG Golygydd Cyffredinol

More information

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol I gael rhagor o wybodaeth a dolenni gwe sy n berthnasol i r maes ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/is/subject/interpol/ Cyflwyniad Mae astudio Gwleidyddiaeth

More information

Newyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd

Newyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd Newyddion Ansawdd Dathlu dwy flynedd Rhifyn 24 Chwefror 2011 Cynhadledd Breswyl POWIS Mae ymrwymiad ein hysgolheigion yn glir ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eu bod yn datblygu n gyflym i fod yn arloeswyr

More information

Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a r 1970au

Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a r 1970au Craig Owen Jones Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a r 1970au C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd Yr Athro Ioan Williams

More information

PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018

PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018 PWYSEDD GWAED UCHEL Sut allwn ni wneud yn well? 1 Dyddiad adolygu: Chwefror 2018 Yn y daflen hon, cewch arweiniad ymarferol gan feddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr ar sut i wella trefniadau canfod a rheoli

More information

Welsh Conservative Manifesto for Local Government

Welsh Conservative Manifesto for Local Government Welsh Conservative Manifesto for Local Government MAY 2017 FOREWORD Welsh Conservatives believe that strong and effective local government should put power back into your hands, giving people across Wales

More information

MAPIAUMAPS. Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales

MAPIAUMAPS. Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales MAPIAUMAPS Y map hynaf yng nghasgliad y Llyfrgell, map Ptolemaidd o Ynysoedd Prydain, a brintiwyd ym 1486 The oldest map in the Library s collection, a Ptolemaic map of the British Isles, printed in 1486

More information

Cyfarwyddiadau i Gyfranwyr. Wrth baratoi eu cyfraniadau dylai awduron ymgynghori â r cyfarwyddiadau a geir yn Elwyn

Cyfarwyddiadau i Gyfranwyr. Wrth baratoi eu cyfraniadau dylai awduron ymgynghori â r cyfarwyddiadau a geir yn Elwyn Cyfarwyddiadau i Gyfranwyr Wrth baratoi eu cyfraniadau dylai awduron ymgynghori â r cyfarwyddiadau a geir yn Elwyn Davies, Cyfarwyddiadau i Awduron, ail argraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1969);

More information

Bwletin i Rieni - Hydref 2014

Bwletin i Rieni - Hydref 2014 Bwletin i Rieni - Hydref 2014 Dyddiadau Pwysig 27.10.14 31.10.14 Gwyliau Hanner Tymor. 03.11.14 Yr ysgol ar agor yn dilyn hanner tymor. 18.11.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 8 02.12.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 7 Croeso!

More information

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion. Dysgu Learn

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion. Dysgu Learn Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion Dysgu Learn 2 Ganolfan Cwricwlwm Dysgu Cenedlaethol Cymraeg Genedlaethol Cymraeg i Oedolion Cynnwys 3-5 Cwricwlwm Cenedlaethol CiO: Cyflwyniad 6 Lefelau Cymraeg

More information

AROLWG BLYNYDDOL 2003 2004 2005 2006-2007 2008 2009 2010 2 Prifysgol Cymru, Bangor 2 Gair gan yr IS-GANGHELLOR Unwaith eto, gallaf nodi fod y Brifysgol wedi mynd trwy gyfnod o newid yn ystod y flwyddyn

More information

Arolwg Tîm Rheoli BBC Cymru Wales 2012/13

Arolwg Tîm Rheoli BBC Cymru Wales 2012/13 Arolwg Tîm Rheoli BBC Cymru Wales 2012/13 Mae ein cenhadaeth yn glir: ry n ni yma i helpu cynulleidfaoedd ddarganfod a gwneud synnwyr o Gymru ac i hyrwyddo r dalent orau a r syniadau mwyaf beiddgar ar

More information

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

A: Property Register / Cofrestr Eiddo THIS IS A PRINT OF THE VIEW OF THE REGISTER OBTAINED FROM HM LAND REGISTRY SHOWING THE ENTRIES SUBSISTING IN THE REGISTER ON 24 MAY 2017 AT 11:04:26. BUT PLEASE NOTE THAT THIS REGISTER VIEW IS NOT ADMISSIBLE

More information

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Heading Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth /1 Manylion cyswllt Gofal Cymdeithasol

More information

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg Cyhoeddwyd yn unol ag Adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 1 Cynnwys Rhagair Rhagair 3 Cefndir 4 Adroddiad cryno 6 Rhan 1: Mae gwasanaethau

More information

SAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi

SAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi SAETHU YNG NGHYMRU er budd cefn gwlad a chymuned y r ac h o s dro s gefnogi r h aga i r Rwyf wir yn credu bod saethu yng nghefn gwlad Cymru n rhan annatod o ddiwylliant a thraddodiadau campau ein cenedl.

More information

Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC

Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC 2009/2010 Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC 2009/2010 1 Cynnwys Datganiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol... 3 Teledu... 5 BBC One... 5 Atodiad BBC One Scotland... 9 Atodiad

More information

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg Recriwtio: Ystyried y Gymraeg comisiynyddygymraeg.cymru Cefndir Prif nod Comisiynydd y Gymraeg, sefydliad annibynnol a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw hybu a hwyluso defnyddio r Gymraeg.

More information

ROBERT MAPPLETHORPE PECYN ADNODDAU AR GYFER ATHRAWON AC ADDYSGWYR CEFNOGWYD GAN

ROBERT MAPPLETHORPE PECYN ADNODDAU AR GYFER ATHRAWON AC ADDYSGWYR CEFNOGWYD GAN ROBERT MAPPLETHORPE PECYN ADNODDAU AR GYFER ATHRAWON AC ADDYSGWYR CEFNOGWYD GAN YNGLŶN Â R PECYN HWN Ystyrir Robert Mapplethorpe fel un o artistiaid pwysicaf y byd yn yr ugeinfed ganrif hwyr. Mae r grŵp

More information

Week/Wythnos 13 March/Mawrth 28 - April/Ebrill 3. Pages/Tudalennau:

Week/Wythnos 13 March/Mawrth 28 - April/Ebrill 3. Pages/Tudalennau: Week/Wythnos 13 March/Mawrth 28 - April/Ebrill 3 Pages/Tudalennau: 2 Laurence's Extraordinary Ordinary Houses 3 The Welsh Italians 4 Match of the Day Wales 5 Visions of the Valleys 6 The Valleys Fighter

More information

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf Cynnwys Contents 3 Rhai Cwestiynau Hynod o r Gadair 4 Some Extraordinary Questions from the Chair Thomas Williams Y Lle Celf 2018 8 David Alston Sylwadau

More information

Datblygu r Cwricwlwm Cymreig

Datblygu r Cwricwlwm Cymreig Datblygu r Cwricwlwm Cymreig Cyfeiria r llyfryn hwn at y Cwricwlwm Cymreig pan yn cyfeirio at Ofyniad Cyffredin y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac at Gwricwlwm Cymreig pan yn cyfeirio at ddadansoddiad ysgolion

More information

Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin

Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin Alcohol Concern Alcohol Concern yw r elusen genedlaethol ar gamddefnyddio alcohol, gan ymgyrchu dros bolisi alcohol

More information

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1 Agenda Item 3 Public Accounts Committee Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations January 2017 National Assembly for Wales Public Accounts Committee Pack Page 1 The National Assembly for

More information

RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC

RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007 Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC Cynnwys 2 Cyflwyniad y Cadeirydd 5 Trosolwg Ymddiriedolaeth y BBC 9 Beth ydyw a beth mae n ei wneud 12 Yr Ymddiriedolwyr

More information

Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?

Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd? Yr Athro R. Gwynedd Parry Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd? Rhif 9 Rhagfyr 2011 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I D D C Y M R A E G 9 Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?

More information

ADRODDIAD GAN GOMISIWN ATHRAWIAETH SEFYDLOG YR EGLWYS YNG NGHYMRU YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW

ADRODDIAD GAN GOMISIWN ATHRAWIAETH SEFYDLOG YR EGLWYS YNG NGHYMRU YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW ADRODDIAD GAN GOMISIWN ATHRAWIAETH SEFYDLOG YR EGLWYS YNG NGHYMRU YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW Mawrth 2014 YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW Cyflwyniad i r adroddiad

More information

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL Neuadd y Pentref, Drefach am 7.30yh 3ydd o Fedi 2013 Drefach Village Hall, 7.30pm 3 rd of September 2013 Yn bresennol/present: Cyng. Bill Green, Cyng. Gwilym

More information

Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn

Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn Dr Rhys Dafydd Jones Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd: Dr Anwen Jones 9 Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad,

More information

Bangoriad /6/04 1:41 pm Page 1. The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor

Bangoriad /6/04 1:41 pm Page 1. The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor Bangoriad 2004 9/6/04 1:41 pm Page 1 2004 The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor Bangoriad 2004 9/6/04 1:41 pm Page 2 Bangoriad 2004 Welcome to the latest

More information

Profion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth

Profion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth Adroddiad Cryno Profion casglu a monit tro WEEE: adlewyrchu mewn cytundebau awdurdod Cod prosiect: EEE520-021 Dyddiad yr ymchwil: Tachwedd 2015 Chwefrorr 2016 Dyddiad: Mawrth 2016 Gweledigaeth WRAP yw

More information

PR and Communication Awards 2014

PR and Communication Awards 2014 PR and Communication Awards 2014 PR and Communication excellence in the Welsh social housing sector The third PR and Communication Awards Ceremony was held during CHC's Communications Conference in Llandrindod

More information

Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU

Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU Medi 2004 CYNNWYS Rhifau r tudalennau Crynodeb gweit hredol 3-7 Adran 1 Rhagymadrodd a methodoleg 8-10 Adran

More information

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC (2007) 022 Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ Cathays Park Cardiff CF10 3NQ Dyddiad Cyhoeddi: 20 Ebrill 2007 Statws: Gweithredu Teitl: Datganiad Polisi a Fframwaith Gwasanaeth

More information

No 7 Digital Inclusion

No 7 Digital Inclusion No 7 Digital Inclusion 7 Digital Inclusion Active Response 7 will reflect on the issues that have arisen around the lack of engagement of some sectors of the community in recent technological advances.

More information

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr My Square Mile Fy Milltir Sgwâr Published by the Design Commission for Wales 2007 Cyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru 2007 Eileen Adams and the Design Commission for Wales Eileen Adams a Chomisiwn Dylunio

More information

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

NEWYDDION.  I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar: Rhifyn. 63 Elusen Rhif 1043989 Haf 2014 NEWYDDION Cwmni Cyfyngedig gan Warant Rhif 2993429 I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar: /AVOWWrexham @AVOWWrexham Yn Y Rhifyn Hwn 03 04 05 06 07 08 09

More information

europe rittany Wales a partner for Llydaw, partner i Gymru

europe rittany Wales a partner for Llydaw, partner i Gymru europe rittany Wales a partner for Llydaw, partner i Gymru Historic links, strengthened by a Memorandum of Understanding signed in January 2004 A. Sandford As Celtic cousins, there are many similarities

More information

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1 Gwobrau 2015 Enillwyr Prif noddwyr 1 Prif noddwyr Cyflwyniad Heb ymgeiswyr am Wobrau CEW ni fyddai cyfle i ddathlu rhagoriaeth y sector adeiladu yng Nghymru. Ac heb noddwyr, ni fyddai digwyddiad dathlu

More information

Cyngor Cymuned Llandwrog

Cyngor Cymuned Llandwrog Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion Cyfarfod y Cyngor 15 Medi 2014 Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 1 - Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion y cyfarfod o Gyngor Cymuned Llandwrog a gynhaliwyd Nos Lun,

More information

Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau

Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau Phylip Brake Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau Rhif 7 Ionawr 2011 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I D D C Y M R A E G 9 Amrywio ieithyddol ymhlith

More information

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi?

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi? 2 Cynnwys Beth mae r canllaw 3 yma n ei gynnwys Rhan 1 4 Cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl

More information

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus YR HYN Y DYLAI ATHRAWON WYBOD Y TORIADAU UNDEB CENEDLATHOL YR ATHRAWON MAE YNA DDEWIS ARALL Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus Yr undeb athrawon mwyaf www.teachers.org.uk Gwanwyn

More information

Hydref Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau.

Hydref Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau. Hydref 2018 Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau www.llyfrgell.cymru CROSO CYNNWYS CIPOLWG Mae 2018 yn Flwyddyn y Môr dewch i ddarganfod sut rydym yn dathlu ein harfordiroedd #BlwyddynyMôr

More information

ATB: Collective Misunderstandings

ATB: Collective Misunderstandings January - April 2015 Kristian Byskov Barney Dicker Margarita del Carmen Pia Eikaas Owen Griffiths Martin Haufe Benny Henningsen Vladas Suncovas Fern Thomas Anna Ørberg On the occasion of the anniversary

More information

Y DON A R FFENESTR WYLOFUS GAN YR ARTIST PAUL CUMMINS A R DYLUNYDD TOM PIPER

Y DON A R FFENESTR WYLOFUS GAN YR ARTIST PAUL CUMMINS A R DYLUNYDD TOM PIPER PABÏAU Y DON A R FFENESTR WYLOFUS GAN YR ARTIST PAUL CUMMINS A R DYLUNYDD TOM PIPER ADNODDAU DYSGU R RHYFEL BYD CYNTAF AR GYFER DISGYBLION 9 13 OED LLYTHRENNEDD, CELF A HANES 1 01862_1418NOW_Poppies_Education_Pack_Welsh_BOOK_Translated.indd

More information

Dyma ddechrau r neges a anfonodd Eiddil o r Glyn-dyfroedd Hyfryd at olygydd y

Dyma ddechrau r neges a anfonodd Eiddil o r Glyn-dyfroedd Hyfryd at olygydd y Yn sgil Chwyldro Ffrengig 1789: Cyfieithu radicalaidd i r Cymry 1 Ddinesydd, Os bernwch fod yn y llinellau isod ryw beth a fyddai, naill a i er addysg a i pleser i m cydwladwyr, y mae i chwi ryddid i w

More information

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( ) Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) Archwiliad Sesiwn Gwrandawiad 8 YNNI ADNEWYDDADWY 9.30 yb, Dydd Iau 15 Medi 2016 Datganiad ysgrifenedig pellach a thystiolaeth i w hystyried gan

More information

Edexcel TAG. Mehefin Edexcel TAG mewn Iechyd a. Gofal Cymdeithasol. Papurau enghreifftiol gyda chvnlluniau marcio. dysgu uwch, newid bywyd

Edexcel TAG. Mehefin Edexcel TAG mewn Iechyd a. Gofal Cymdeithasol. Papurau enghreifftiol gyda chvnlluniau marcio. dysgu uwch, newid bywyd Edexcel TAG Edexcel TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Sengl (8741) Edexcel TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Dwbl) (8742) Edexcel TAG Uwch mewn

More information

Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol

Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol Adroddiad dadansoddi r ymgynghoriad Ynghylch yr adroddiad hwn 1. Mae r adroddiad hwn yn crynhoi r ymatebion i r ymgynghoriad

More information

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall 14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall Attendees Emma North, Planning, City and County of Swansea Councillor Paul Northcote,

More information

DYFED ARCHAEOLOGICAL TRUST NEWSLETTER SUMMER 2014 NEWYDDLEN HAF 2014 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL DYFED

DYFED ARCHAEOLOGICAL TRUST NEWSLETTER SUMMER 2014 NEWYDDLEN HAF 2014 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL DYFED DYFED ARCHAEOLOGICAL TRUST NEWSLETTER SUMMER 2014 NEWYDDLEN HAF 2014 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL DYFED www.dyfedarchaeology.org.uk www.archaeolegdyfed.org.uk Dyfed Archaeological Trust is an independent

More information

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth Gan Imogen Blood, Ian Copeman & Jenny Pannell Hydfref 2015 1 Cydnabyddiath Hoffai r awduron gofnodi eu diolch i r

More information

Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil

Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil 2017-2020 1 Cyflwyniad Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol uchel mewn perthynas â r ymchwil a wneir gan ei staff a i myfyrwyr,

More information

Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg

Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg Huw Dylan Owen a Steve Morris Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd

More information

CYNNWYS. Llawlyfr y 6ed 2016/2018 1

CYNNWYS. Llawlyfr y 6ed 2016/2018 1 CYNNWYS Rhagair y Prifathro... 2 1. Rhesymau dros ddychwelyd i r Chweched Dosbarth yng Nglantaf... 3 Llwyddiannau allgyrsiol:... 3 Rhesymau Cwricwlaidd... 4 Llwyddiannau Academaidd... 4 Gofal Bugeiliol

More information

ACQUISITION OF LAND ACT 1981

ACQUISITION OF LAND ACT 1981 ACQUISITION OF LAND ACT 1981 NOTICE OF A PROPOSED COMPULSORY PURCHASE OF LAND FORMING PART OF A COMMON AND RIGHTS OVER LAND FORMING PART OF A COMMON, SUCH LAND BEING KNOWN AS CWMTAFF FECHAN RIVERSIDE COMMON

More information

Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg

Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg Golygydd: Dr Anwen Jones Rhif20 Hydref 2015 ISSN 1741-4261 Golygydd: Dr Anwen Jones Cyhoeddwyd gyda chymorth: C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd:

More information

Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes, Geschichte der Freundschaft (2010)

Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes, Geschichte der Freundschaft (2010) Seiriol Dafydd Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes, Geschichte der Freundschaft (2010) C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd Yr Athro Ioan Williams 25 Ailddiffinio

More information

Cor Caerdydd o flaen adeilad y Pierhead yn y Bae noson noson perfformio Ar Waith Ar Daith gweler tud. 13. Dyluniad a lluniau: Irfon Bennett

Cor Caerdydd o flaen adeilad y Pierhead yn y Bae noson noson perfformio Ar Waith Ar Daith gweler tud. 13. Dyluniad a lluniau: Irfon Bennett Cor Caerdydd o flaen adeilad y Pierhead yn y Bae noson noson perfformio Ar Waith Ar Daith gweler tud. 13 Dyluniad a lluniau: Irfon Bennett PENCAMPWYR GWELER TUD. 20 Tîm rygbi r gynghrair bl. 7 Glantaf

More information

Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth

Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth Er i r cadoediad a ddaeth â diwedd i r ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf gael ei arwyddo ar 11 Tachwedd 1918, fe gymerodd chwe mis pellach o drafod

More information

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018 Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018 Llawenydd i Cytûn yr adeg hon o r flwyddyn yw cynnig diweddariad byr ynghylch sut mae offeryn eciwmenaidd cenedlaethol Cymru wedi bod yn gwasanaethu

More information

Prifysgol Aml-gyswllt. Adroddiad Blynyddol UWTSD. Annual Report. A Connected University

Prifysgol Aml-gyswllt. Adroddiad Blynyddol UWTSD. Annual Report. A Connected University Adroddiad Blynyddol Prifysgol Aml-gyswllt 2015-2016 UWTSD Annual Report A Connected University 2015-2016 UNIVERSITY PROFILE TRANSFORMING EDUCATION... TRANSFORMING LIVES The University of Wales Trinity

More information

Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau Cymreig?

Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau Cymreig? Dr Carys Moseley Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau Cymreig? C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd: Dr Anwen Jones 48 Moeseg Cyfraith Naturiol

More information