Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Size: px
Start display at page:

Download "Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol"

Transcription

1 Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Mae r lluniau yma yn dod o Photo Symbols Gwnaed y ddogfen hon yn rhwydd ei darllen gan VoiceAbility Mae r geiriau a amlygir a u hystyron yn y rhestr geiriau ar dudalennau 19-20

2 Manylion Cyswllt Cyngor Gofal Cymru South Gate House Wood Street Caerdydd CF10 1EW Ffôn: Ffacs: Minicom: E-bost: ISBN: Cyngor Gofal Cymru Cedwir pob hawl. Ni chaniateir i unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn gael ei atgynhyrchu, ei storio mewn system adalw na i drosglwyddo mewn unrhyw fodd heb ganiatâd ysgrifenedig Cyngor Gofal Cymru o flaen llaw. Dylid anfon unrhyw geisiadau i w atgynhyrchu y tu allan i r cwmpas a ganiateir gan y gyfraith at Brif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru yn y cyfeiriad a nodir uchod. Copïau pellach a fformatau eraill Gellir cael mwy o gopïau o r ddogfen hon mewn print bras neu mewn fformatau eraill yn ôl y gofyn. 2

3 Cyflwyniad Mae r ddogfen hon ynglŷn â r Côd Ymarfer y cytunwyd arno ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y cyflwyniad hwn yn eich helpu i ddeall: beth yw diben y Côd, a r hyn mae n ei olygu i: 1. Ddefnyddwyr Gwasanaeth 2. Aelodau r cyhoedd Bydd y Côd yn eich helpu i ddeall: 1. Sut y dylai gweithwyr gofal cymdeithasol eich trin. 2. Sut y dylai cyflogwyr gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud eu gwaith yn dda. 3

4 Beth yw r Côd? Ceir Côd Ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a Chôd Ymarfer ar gyfer eu cyflogwyr. Cawsant eu rhoi gyda i gilydd yn y ddogfen hon. Mae r Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn rhestr sy n rhoi r safonau mae n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol eu defnyddio yn eu gwaith. Mae r Côd yn egluro beth yw r safonau. Mae hefyd yn sicrhau bod gweithwyr yn gwybod y safonau y mae cyflogwyr, defnyddwyr gwasanaeth a r cyhoedd yn eu disgwyl. Mae r Côd Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn dweud wrth gyflogwyr beth mae n rhaid iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cadw at y rheolau. 4

5 Mae r Côd yn dweud wrth gyflogwyr bod rhaid iddynt: 1. Gadw at safonau yn eu Côd. 2. Helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud yr hyn mae n ei ddweud yn eu Côd. 3. Cymryd camau gweithredu os nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir. Bydd y Cynghorau Gofal yn sicrhau bod pawb yn gwybod am y safonau drwy eu dangos i lawer o bobl 5

6 Y Côd Ymarfer Hawliau Mae 6 safon yn y Côd Ymarfer. Mae n rhaid i weithiwr gofal cymdeithasol: 1. Amddiffyn hawliau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gan sicrhau bod pawb yn gwybod beth sy n bwysig iddynt. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Drin pawb fel unigolyn, gan barchu r hyn mae pob defnyddiwr gwasanaeth a gofalwr yn ei feddwl a i eisiau. Mae n rhaid iddynt sicrhau bod y wybodaeth hon gan y bobl sydd ei hangen. cartref eich hun allweddol eu hunain Cefnogi hawliau defnyddwyr gwasanaeth i reoli eu bywydau. Rhoi i ddefnyddwyr gwasanaeth y wybodaeth maen nhw ei hangen er mwyn gwneud dewisiadau am y gwasanaethau maent yn eu cael. 6

7 Parchu a chadw urddas a phreifatrwydd defnyddwyr gwasanaeth bob amser Helpu defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gael yr un cyfleoedd â phawb arall. Coleg Parchu gwahaniaethau pobl eraill, diwylliannau eraill a r hyn sy n bwysig iddynt. 7

8 2. Gwneud eu gorau glas i ennill a chadw ffydd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Fod yn onest ac yn unigolyn y gellir ymddiried ynddo. Siarad â phobl mewn ffordd y gallant ei deall.?? Peidio â datgelu manylion personol am bobl. Esbonio i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr am bolisi eu sefydliad am gadw gwybodaeth yn breifat. 8

9 Bod yn unigolyn sydd bob amser yn gwneud yr hyn maen nhw n dweud y byddant yn ei wneud. Os nad yw hyn yn bosibl, mae n rhaid iddynt esbonio pam i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Dweud os oes unrhyw beth a allai ei wneud yn anodd iddynt gefnogi defnyddiwr gwasanaeth yn y ffordd gywir ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Cadw at bolisi eu sefydliad am dderbyn anrhegion ac arian gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr 9

10 3. Helpu defnyddwyr gwasanaeth i fod yn annibynnol, ac ar yr un pryd eu cadw n ddiogel rhag perygl. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Ti yn Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn annibynnol a u helpu i ddeall a defnyddio eu hawliau Hawliau Defnyddio polisi eu cwmni i ddweud ei ddweud am ymddygiad a dulliau gweithio gwael. A defnyddio r polisi i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel rhag ymddygiad treisgar neu fwlio. 10

11 Dweud wrth eu cyflogwr, neu wrth y sefydliad allanol cywir, am unrhyw broblemau yn eu gwasanaeth a allai rhwystro gofal diogel rhag cael ei roi. A dweud wrthynt am unrhyw weithwyr sy n gweithio mewn ffordd sy n anniogel neu n rhwystro gofal da rhag cael ei roi. Dilyn polisïau iechyd a diogelwch eu cyflogwr, gan gynnwys y rhai am gyffuriau ac alcohol. Helpu defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i ddweud os nad ydynt yn hapus. Mae n rhaid iddynt ymateb i unrhyw gwynion a throsglwyddo r wybodaeth i r unigolyn cywir. Deall a defnyddio r rheolaeth sydd ganddynt yn y ffordd gywir wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. 11

12 4. Parchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth, ac ar yr un pryd sicrhau nad yw r hyn a wnânt yn eu niweidio neu bobl eraill. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Ddeall bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth yr hawl i gymryd risgiau. Helpu defnyddwyr gwasanaeth i gydnabod risgiau posibl a gwirioneddol i w hunain ac i eraill. Eu cefnogi i ddelio â r risgiau hyn a chadw n ddiogel. Dilyn polisïau i benderfynu a fydd ymddygiad defnyddwyr gwasanaeth yn arwain at berygl iddynt niweidio eu hunain neu bobl eraill. Yr enw am hwn yw asesiad risg. 12

13 Cymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i leihau r risg o ddefnyddwyr gwasanaeth yn niweidio eu hunain neu bobl eraill. Sicrhau eu bod yn dweud wrth weithwyr a sefydliadau eraill am unrhyw asesiadau risg a allai effeithio ar eu gwaith gyda defnyddwyr gwasanaeth. 13

14 5. Gwneud eu gwaith yn dda, fel bod pawb yn teimlo bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith da. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol beidio â: Niweidio, bwlio neu fethu gofalu yn iawn am ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr neu weithwyr eraill. Defnyddio defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr neu weithwyr eraill i gael rhywbeth iddo ei hun. Torri ymddiriedaeth defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Datgelu gwybodaeth bersonol am ddefnyddiwr gwasanaeth neu ofalwr, neu wybodaeth am eu cartref neu ble maent yn gweithio. 14

15 Cael perthnasoedd personol agos gyda defnyddwyr gwasanaeth. Trin unrhyw un yn wahanol oherwydd eu hil, ffordd o fyw, rhyw, oedran, rhywioldeb neu grefydd. Mae hyn yn erbyn y gyfraith. Hefyd mae n rhaid iddynt beidio â chytuno ag unrhyw un arall sy n trin rhywun yn wahanol oherwydd y rhesymau hyn. Rhoi ei hun neu bobl eraill mewn sefyllfa beryglus. Ymddwyn mewn ffordd a fyddai n peri i bobl ofyn a yw r unigolyn yn addas i weithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol. 15

16 6. Sicrhau eu bod yn gwybod digon i wneud gwaith da. Mae hyn yn golygu sicrhau eu bod yn cael hyfforddiant yn y sgiliau cywir. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Weithio mewn ffyrdd maent wedi cytuno arnynt gyda r cyflogwr. Gweithio mewn ffordd ddiogel sy n achosi canlyniadau da ac nad yw n torri r gyfraith. Dweud wrth eu cyflogwr, neu r sefydliad allanol cywir, os oes ganddynt broblem bersonol a allai ei wneud yn anodd iddynt wneud eu gwaith yn dda ac yn ddiogel. Mae n rhaid iddynt ofyn i w cyflogwr am gymorth os ydynt yn teimlo na allant wneud unrhyw ran o u waith. 16

17 ? Chwilio am gymorth gan eu cyflogwr, neu r sefydliad allanol cywir, os ar unrhyw adeg nad ydynt yn sicr o beth i w wneud yn y gwaith. Gweithio gyda gweithwyr eraill yn y ffordd orau bosibl. Gweithio gyda gweithwyr eraill yn y ffordd orau bosibl. Os yw r gweithwyr yn dod o sefydliad arall, eu trin yn yr un ffordd ag y mae pawb yn hoffi cael ei drin. Deall os ydynt wedi rhoi unrhyw waith i weithwyr eraill, mae arnynt ddyletswydd i sicrhau y caiff ei wneud yn iawn. 17

18 Beth sy n digwydd os nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud yr hyn y mae n ei ddweud yn y Côd? Mae Cyngor Gofal Cymru yn disgwyl i bob gweithiwr gofal cymdeithasol wneud yr hyn mae n ei ddweud yn y Cod. Mae n bosibl y byddant yn cymryd camau gweithredu os na fydd hyn yn digwydd. Mae n rhaid i gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol edrych ar y Côd hwn cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniadau am yr hyn mae eu gweithwyr wedi i wneud. Os nad yw ei waith yn ddigon dda, gallai gweithiwr gofal cymdeithasol golli ei swydd. 18

19 Cyngor Rhestr geiriau Cynghorau Gofal Mae Cynghorau Gofal yn gwneud y rheolau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol. Maent wedi ysgrifennu r Codau ac maent yn sicrhau bod pobl yn gwybod amdanynt. Gall Cynghorau Gofal rwystro pobl rhag gweithio mewn gofal cymdeithasol os nad ydynt yn gweithio yn y ffordd mae r Codau n dweud bod rhaid iddynt wneud. Côd Ymarfer Mae Côd Ymarfer yn dweud wrth bobl am y safonau a ddisgwylir Urddas Dignity is a person's right to be treated like everyone else who is not receiving support. If people are treated with dignity, they usually have the right to make choices for themselves. Cyflogwr Mae cyflogwr yn rhoi swyddi i weithwyr. Mae n rhaid i gyflogwr sicrhau y caiff y gwaith ei wneud yn iawn gan y gweithwyr 19

20 Polisïau Mae polisïau yn gynlluniau neu n rheolau sydd gan sefydliad ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd fel bod pawb yn gwybod beth mae n rhaid iddynt ei wneud. Asesiad risg Mae asesiad risg yn darganfod faint o berygl a allai fod mewn sefyllfa. Mae hefyd yn pennu r hyn mae angen ei wneud i w wneud yn llai peryglus. Defnyddiwr gwasanaeth Mae defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn cymorth gan weithwyr gofal cymdeithasol ac yn defnyddio eu gwasanaethau. Gweithiwr Gofal Cymdeithasol Mae gan weithiwr gofal cymdeithasol swydd yn gweithio gyda phobl sydd angen cymorth ychwanegol yn eu bywydau. Er enghraifft, gallai fod yn weithiwr cymdeithasol neu n weithiwr cymorth Safon Mae safon yn ffordd o wneud rhywbeth y cytunwyd arni gan bawb 20

Buy to Let Information Pack

Buy to Let Information Pack Buy to Let Information Pack The information provided in this pack is a duplicate of the information provided on display boards at the Drop-in event on Friday 6 th May 2016 in Fairbourne Village Hall. Please

More information

Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service 1 Mae r Tîm Ansawdd i Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y

More information

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi?

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi? 2 Cynnwys Beth mae r canllaw 3 yma n ei gynnwys Rhan 1 4 Cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl

More information

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth 2015 2016 dwrcymru.com PRE 0081 2 Weithiau, mae pethau n mynd o chwith Ein nod bob amser yw sicrhau ein bod yn gwneud pethau n iawn y tro cyntaf, bob tro

More information

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru Rhagfyr 2010 ISBN 978 0 7504 5977 8 Hawlfraint y Goron 2011 WAG10-11196 F1141011 2 Cynnwys Tudalen Beth yw Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig?

More information

Deddf Awtistiaeth i Gymru

Deddf Awtistiaeth i Gymru Deddf Awtistiaeth i Gymru Until everyone understands Nes bydd pawb yn deall CYNNWYS Rhagair gan Mark Lever, Prif Weithredwr, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cyflwyniad 03 04 05 06 07 08 Diagnosis a

More information

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod Pynciau & agweddau: Cymraeg Saesneg TGCh Addysg Byd Dinasyddiaeth Sgiliau: Llythrennedd Digidol Adnoddau cefnogol: Taflen Waith Llyfryn yr Eisteddfod Dolen i

More information

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Heading Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth /1 Manylion cyswllt Gofal Cymdeithasol

More information

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497 HM Land Registry THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1 Date 08 May 2018 Your Ref DLA/P5472-1 Our Ref RCS/ HM Land Registry Wales Office PO Box 75 Gloucester GL14 9BD DX 321601 Gloucester 33 Tel 0300 006 0009 wales.office@

More information

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s Cyflwyniad cyflym i Parkinson s A quick introduction to Parkinson s Welsh Os ydych newydd dderbyn eich diagnosis, neu os ydych yn adnabod rhywun sydd newydd gael gwybod, mae n debyg bod gennych lawer o

More information

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru Prosbectws i Israddedigion Social Work in Wales Undergraduate Prospectus Dysgu sy n Newid Bywydau Mae popeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn dechrau ar eich taith gyda

More information

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil APPROX. 5.54 ACRES (2.24 HECTARES) ALLOCATED FOR HOUSING Upper Georgetown Plateau Merthyr Tydfil CF48 1BZ Adjacent to Kier Hardie Health Park Very close to facilities

More information

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

NEWYDDION.  I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar: Rhifyn. 63 Elusen Rhif 1043989 Haf 2014 NEWYDDION Cwmni Cyfyngedig gan Warant Rhif 2993429 I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar: /AVOWWrexham @AVOWWrexham Yn Y Rhifyn Hwn 03 04 05 06 07 08 09

More information

Welsh Conservative Manifesto for Local Government

Welsh Conservative Manifesto for Local Government Welsh Conservative Manifesto for Local Government MAY 2017 FOREWORD Welsh Conservatives believe that strong and effective local government should put power back into your hands, giving people across Wales

More information

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC (2007) 022 Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ Cathays Park Cardiff CF10 3NQ Dyddiad Cyhoeddi: 20 Ebrill 2007 Statws: Gweithredu Teitl: Datganiad Polisi a Fframwaith Gwasanaeth

More information

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith Mae r data o r papur: Archwilio Perthnasoedd mewn Dimensiynau Corff Grete Heinz a Louis J. Peterson San José State University Roger W. Johnson a Carter J. Kerk South Dakota School of Mines and Technology

More information

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol 2015 Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog Enillwyr Gwobrau Gwireddu r Geiriau 2015 Mae Gwobrau Gwireddu r

More information

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg Cyhoeddwyd yn unol ag Adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 1 Cynnwys Rhagair Rhagair 3 Cefndir 4 Adroddiad cryno 6 Rhan 1: Mae gwasanaethau

More information

Cefnogi gwaith eich eglwys

Cefnogi gwaith eich eglwys Elusen Gofrestredig Rhif: 1142813 Rhifyn Hydref 2017 2 Am fwy o cysylltwch: Â ch Trysorydd lleol neu Yr Eglwys yng Nghymru 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd. CF10 5BT rhoiynsyth@eglwysyngnghymru.org.uk gwaith

More information

Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil

Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil 2017-2020 1 Cyflwyniad Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol uchel mewn perthynas â r ymchwil a wneir gan ei staff a i myfyrwyr,

More information

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

A: Property Register / Cofrestr Eiddo THIS IS A PRINT OF THE VIEW OF THE REGISTER OBTAINED FROM HM LAND REGISTRY SHOWING THE ENTRIES SUBSISTING IN THE REGISTER ON 24 MAY 2017 AT 11:04:26. BUT PLEASE NOTE THAT THIS REGISTER VIEW IS NOT ADMISSIBLE

More information

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon Mae r data o r papur: Archwilio Perthnasoedd mewn Dimensiynau Corff Grete Heinz a Louis J. Peterson San José State University Roger W. Johnson a Carter J. Kerk South Dakota School of Mines and Technology

More information

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg Recriwtio: Ystyried y Gymraeg comisiynyddygymraeg.cymru Cefndir Prif nod Comisiynydd y Gymraeg, sefydliad annibynnol a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw hybu a hwyluso defnyddio r Gymraeg.

More information

Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol

Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol Adroddiad dadansoddi r ymgynghoriad Ynghylch yr adroddiad hwn 1. Mae r adroddiad hwn yn crynhoi r ymatebion i r ymgynghoriad

More information

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL Neuadd y Pentref, Drefach am 7.30yh 3ydd o Fedi 2013 Drefach Village Hall, 7.30pm 3 rd of September 2013 Yn bresennol/present: Cyng. Bill Green, Cyng. Gwilym

More information

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da! DYDDIAD: 10/07/2018, dim embargo Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da! Mae'n bleser gennym gyflwyno Cynhadledd Genedlaethol Cymdeithas Atal Dweud Prydain 2018 i ddinas brydferth Caerdydd ar gampws

More information

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL Neuadd y Pentref, Drefach am 7.30yh 3ydd o Ebrill 2018 / 3 rd April 2018 Yn bresennol / Present: Cyng Alwena Williams, Cyng Hazel Thomas, Cyng Euros Davies, Cyng

More information

PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018

PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018 PWYSEDD GWAED UCHEL Sut allwn ni wneud yn well? 1 Dyddiad adolygu: Chwefror 2018 Yn y daflen hon, cewch arweiniad ymarferol gan feddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr ar sut i wella trefniadau canfod a rheoli

More information

Edexcel TAG. Mehefin Edexcel TAG mewn Iechyd a. Gofal Cymdeithasol. Papurau enghreifftiol gyda chvnlluniau marcio. dysgu uwch, newid bywyd

Edexcel TAG. Mehefin Edexcel TAG mewn Iechyd a. Gofal Cymdeithasol. Papurau enghreifftiol gyda chvnlluniau marcio. dysgu uwch, newid bywyd Edexcel TAG Edexcel TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Sengl (8741) Edexcel TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Dwbl) (8742) Edexcel TAG Uwch mewn

More information

Family Housing Annual Review

Family Housing Annual Review Family Housing Annual Review 2013-14 Statement from Chief Executive Last year has seen significant change for Family Housing also significant achievements in terms of the delivery of services and new homes.

More information

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth Gan Imogen Blood, Ian Copeman & Jenny Pannell Hydfref 2015 1 Cydnabyddiath Hoffai r awduron gofnodi eu diolch i r

More information

No 7 Digital Inclusion

No 7 Digital Inclusion No 7 Digital Inclusion 7 Digital Inclusion Active Response 7 will reflect on the issues that have arisen around the lack of engagement of some sectors of the community in recent technological advances.

More information

Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr SAMPL

Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr SAMPL Cynnwys 1. Taflen grynhoi ar gyfer y panel maethu 2. Adran A Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr 3. Adran B Gwybodaeth ansoddol, gwerthusiad ac argymhelliad ar addasrwydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr

More information

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon. Dewis Dŵr Arweiniad ar Ddŵr mewn Ysgolion Cynulleidfa: Penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr ysgolion sy n derbyn peiriannau oeri dŵr a noddir gan y Cynulliad. Gorolwg: Mae r ddogfen hon yn cynnig gwybodaeth

More information

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc Criw Celf 2017/18 Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc Criw Celf Participants 2016/17 Cyfranogwyr Criw Celf 2016/17 Imogen Sadler Imogen

More information

Cyngor Cymuned Llandwrog

Cyngor Cymuned Llandwrog Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion Cyfarfod y Cyngor 15 Medi 2014 Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 1 - Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion y cyfarfod o Gyngor Cymuned Llandwrog a gynhaliwyd Nos Lun,

More information

Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg

Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg Defnyddio r Gymraeg: Canolradd B1 2018 Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg LLYFRYN YR YMGEISYDD Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). WJEC

More information

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015 MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015 Mae r Canfyddiadau hyn gan y New Policy Institute yn dadansoddi r data diweddaraf i ddangos tueddiadau o ran gwaith, tlodi a sancsiynau budd-daliadau

More information

Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts

Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts Nodweddion arwyddocaol: Ymchwil ddiweddar i hanes Cymru; Bylchau yn yr ymchwil i hanes Cymru; Dyfodol disglair felly i hanes Cymru?

More information

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1 Agenda Item 3 Public Accounts Committee Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations January 2017 National Assembly for Wales Public Accounts Committee Pack Page 1 The National Assembly for

More information

NEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!

NEWS.  Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw! Rhifyn 55 Haf 2012 Elusen Rhif 1043989 Cwmni Cyfyngedig gan Warant rhif 2993429 NEWS www.avow.org www.avow.org Tŷ Avow 21 Egerton Street 21 Stryd Egerton Wrexham Wrecsam LL11 1ND Tel/Ffôn: 01978 312556

More information

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL Swyddfa r Cyngor, Llawr y Llan, Lon Goch, Amlwch, Ynys Mon, LL68 9EN Ebost/Email: swyddfa@cyngortrefamlwch.co.uk Ffon/Tel: 01407 832 228 Cyngor Tref Amlwch Town Council

More information

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697 ISBN digidol 978 1 4734 2505 7 Hawlfraint y Goron WG23697 Cynnwys Cefndir 2 Nodyn gan yr Athro Ian Diamond 3 Cais am dystiolaeth 4 Manylion yr atebydd 5 Holiadur 6 Atodiad A: Cylch gorchwyl y Panel Adolygu

More information

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus YR HYN Y DYLAI ATHRAWON WYBOD Y TORIADAU UNDEB CENEDLATHOL YR ATHRAWON MAE YNA DDEWIS ARALL Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus Yr undeb athrawon mwyaf www.teachers.org.uk Gwanwyn

More information

GWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru. 1

GWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru.   1 GWOBRAU TAI CYMRU 2017 COMPENDIWM ARFER DA Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru 2017 www.cih.org 1 Sponsored Noddwyd by gan Cymru Adnewyddu Cymunedau Trawsnewid Bywydau O fewn Lovell, rydym

More information

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall 14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall Attendees Emma North, Planning, City and County of Swansea Councillor Paul Northcote,

More information

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1 Gwobrau 2015 Enillwyr Prif noddwyr 1 Prif noddwyr Cyflwyniad Heb ymgeiswyr am Wobrau CEW ni fyddai cyfle i ddathlu rhagoriaeth y sector adeiladu yng Nghymru. Ac heb noddwyr, ni fyddai digwyddiad dathlu

More information

Development Impact Assessment

Development Impact Assessment Development Impact Assessment Impact Asssessment in respect of rights and Covenants on Development Property: 56 Cedar Wood Drive Third party interests such as rights and covenants can have a negative effect

More information

Profion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth

Profion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth Adroddiad Cryno Profion casglu a monit tro WEEE: adlewyrchu mewn cytundebau awdurdod Cod prosiect: EEE520-021 Dyddiad yr ymchwil: Tachwedd 2015 Chwefrorr 2016 Dyddiad: Mawrth 2016 Gweledigaeth WRAP yw

More information

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL Cynhaliwyd Cyfarfod o r Cyngor Cymuned Nos Fercher, Medi 30ain 2015 am 7.30 yh yng Nghanolfan Gwytherin Ymddiheuriadau: Elen H Edwards, R Emlyn Williams,

More information

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Gorffennaf 2018 www.cynulliad.cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff

More information

Grwp Rheoli Adeiladu canllawiau rheoli adeiladu 2018

Grwp Rheoli Adeiladu canllawiau rheoli adeiladu 2018 Grwp Rheoli Adeiladu canllawiau rheoli adeiladu 2018 The Seashore Grill We are available for Private hire at the Seashore Grill and can cater for all your needs and requirements. The warm and friendly

More information

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr My Square Mile Fy Milltir Sgwâr Published by the Design Commission for Wales 2007 Cyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru 2007 Eileen Adams and the Design Commission for Wales Eileen Adams a Chomisiwn Dylunio

More information

Mae'r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn hefyd ar gael ar ein gwefan yn:

Mae'r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn hefyd ar gael ar ein gwefan yn: www.gov.uk/defra Cynigion i wahardd defnyddio microbelennau plastig mewn cosmetigau a chynhyrchion gofal personol yn y DU a chais am dystiolaeth ynglŷn â ffynonellau eraill o ficrobelennau sy'n mynd i

More information

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( ) Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) Archwiliad Sesiwn Gwrandawiad 8 YNNI ADNEWYDDADWY 9.30 yb, Dydd Iau 15 Medi 2016 Datganiad ysgrifenedig pellach a thystiolaeth i w hystyried gan

More information

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion. Dysgu Learn

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion. Dysgu Learn Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion Dysgu Learn 2 Ganolfan Cwricwlwm Dysgu Cenedlaethol Cymraeg Genedlaethol Cymraeg i Oedolion Cynnwys 3-5 Cwricwlwm Cenedlaethol CiO: Cyflwyniad 6 Lefelau Cymraeg

More information

Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg

Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg Huw Dylan Owen a Steve Morris Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd

More information

MEDDYLIWCH AM FYD NATUR SUT MAE RHOI BYWYD I DDATBLYGU CYNALADWY

MEDDYLIWCH AM FYD NATUR SUT MAE RHOI BYWYD I DDATBLYGU CYNALADWY MEDDYLIWCH AM FYD NATUR SUT MAE RHOI BYWYD I DDATBLYGU CYNALADWY Mark Hamblin (rspb-images.com) Os ydym am ymestyn ein bodolaeth ein hunain, mae n rhaid i ni ddiogelu n hamgylchfyd y byd naturiol rydym

More information

SAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi

SAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi SAETHU YNG NGHYMRU er budd cefn gwlad a chymuned y r ac h o s dro s gefnogi r h aga i r Rwyf wir yn credu bod saethu yng nghefn gwlad Cymru n rhan annatod o ddiwylliant a thraddodiadau campau ein cenedl.

More information

Week/Wythnos 13 March/Mawrth 28 - April/Ebrill 3. Pages/Tudalennau:

Week/Wythnos 13 March/Mawrth 28 - April/Ebrill 3. Pages/Tudalennau: Week/Wythnos 13 March/Mawrth 28 - April/Ebrill 3 Pages/Tudalennau: 2 Laurence's Extraordinary Ordinary Houses 3 The Welsh Italians 4 Match of the Day Wales 5 Visions of the Valleys 6 The Valleys Fighter

More information

Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU

Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU Medi 2004 CYNNWYS Rhifau r tudalennau Crynodeb gweit hredol 3-7 Adran 1 Rhagymadrodd a methodoleg 8-10 Adran

More information

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau? Pa fath o wlad oedd Cymru yn yr Oesoedd Canol (tua 1000)? Pa fath o gestyll sydd i w gweld yng Nghymru heddiw? Pa effaith gafodd y Normaniaid ar Gymru? I ba raddau y dylai Owain Glyndwr gael ei gofio yng

More information

Wreiddio. Crynodeb. Dinas a Sir. yn y pen draw. Abertawee. newydd i CDSA. equivalent/fte) yn. corfforaethol ailddefnyddio, m 2.

Wreiddio. Crynodeb. Dinas a Sir. yn y pen draw. Abertawee. newydd i CDSA. equivalent/fte) yn. corfforaethol ailddefnyddio, m 2. Astudiaeth Achos: Defnyddio Strategaeth Gaffael Arloesoll i Wreiddio Cylcholdeb yn Adnewyddiad Swyddfa Canolfann Ddinesig Cyngor Abertawee Crynodeb Ffeithiau Allweddol Yn ystod 2017, dechreuodd Cyngor

More information

RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC

RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007 Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC Cynnwys 2 Cyflwyniad y Cadeirydd 5 Trosolwg Ymddiriedolaeth y BBC 9 Beth ydyw a beth mae n ei wneud 12 Yr Ymddiriedolwyr

More information

YMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/

YMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/ YMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/ Rhan Un: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2008/09 Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC CAEL Y GORAU O R BBC AR GYFER TALWYR FFI R DRWYDDED. 02 / TROSOLWG

More information

Cyngor Cymuned Y Fali Community Council

Cyngor Cymuned Y Fali Community Council Cyngor Cymuned Y Fali Community Council 1. Croeso / Welcome. Clerc / Clerk Gwenda Owen gwenda.owen1@ntlworld.com Trigfa, Four Mile Bridge, LL65 2EZ (01407 740046) http://www.valleycommunitycouncil.com

More information

Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin

Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin Alcohol Concern Alcohol Concern yw r elusen genedlaethol ar gamddefnyddio alcohol, gan ymgyrchu dros bolisi alcohol

More information

Lefel 1 Diploma mewn Plastro ( ) Gorffennaf 2013 Fersiwn 1.3 LLAWLYFR CYMWYSTERAU

Lefel 1 Diploma mewn Plastro ( ) Gorffennaf 2013 Fersiwn 1.3 LLAWLYFR CYMWYSTERAU Lefel 1 Diploma mewn Plastro (6708-13) Gorffennaf 2013 Fersiwn 1.3 LLAWLYFR CYMWYSTERAU Y cymhwyster yn fyr Maes pwnc Adeiladu Rhif City & Guilds 6708 Grp oed wedi'i gymeradwyo Gofynion mynediad Asesu

More information

Sir Ddinbych / Denbighshire Phil Lord. Sir y Fflint / Flintshire Phil Lord

Sir Ddinbych / Denbighshire Phil Lord. Sir y Fflint / Flintshire Phil Lord Cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru, Ebbw Vale, 25 Tachwedd 2015 (10.30am 3pm) Wales Association of SACREs meeting, Ebbw Vale, 25 November 2015 (10.30am 3pm) Ynys Môn / Anglesey Bethan James Rheinallt Thomas

More information

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL Cynhaliwyd Cyfarfod o r Cyngor Cymuned Nos Fercher Chwefror 15fed 2017 am 7.30 yr hwyr yng Nghanolfan Gwytherin Ymddiheuriadau: Gwynfor Davies, Ifor

More information

33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL

33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL 33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL Home Information Pack Index About this form: 33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL Under the Home Information Pack (No. 2) Regulations 2007, you must include

More information

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol I gael rhagor o wybodaeth a dolenni gwe sy n berthnasol i r maes ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/is/subject/interpol/ Cyflwyniad Mae astudio Gwleidyddiaeth

More information

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL Cynhaliwyd Cyfarfod o r Cyngor Cymuned Nos Fercher, Tachwedd 4ydd 2015 am 7.30 yh yng Nghanolfan Pandy Tudur Ymddiheuriadau: Gwydion Jones, Cyngh

More information

Llenydda a Chyfrifiadura

Llenydda a Chyfrifiadura Llenydda a Chyfrifiadura Ifor ap Dafydd Archif Llenyddiaeth Cymru / The Welsh Literature Archive Cyflwyniad Awr Ginio 03/02/10 J. Guttenburg (1397?-1468) (Artist anhysbys G19) Yny lhyvyr hwnn John Price,

More information

Dadansoddiad disgrifiadol o iechyd yng nghyffiniau Gwaith Hanson Cement

Dadansoddiad disgrifiadol o iechyd yng nghyffiniau Gwaith Hanson Cement Dadansoddiad disgrifiadol o iechyd yng nghyffiniau Gwaith Hanson Cement Chwefror 2011 Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru Awduron: Rhys Gibbon, Dr Ciaran Humphreys, Claire Jones, Nathan Lester, Margaret Webber

More information

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau? Pa fath o wlad oedd Cymru yn yr Oesoedd Canol (tua 1000)? Pa fath o gestyll sydd i w gweld yng Nghymru heddiw? Pa effaith gafodd y Normaniaid ar Gymru? I ba raddau y dylai Owain Glyndwr gael ei gofio yng

More information

W32 05/08/17-11/08/17

W32 05/08/17-11/08/17 W32 05/08/17-11/08/17 2 Hedd Wyn: The Lost War Poet 3 The Bug Grub Couple 4 Cardiff Bay Lives 5 Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Bodedern, Ynys Môn / Anglesey

More information

Business development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio

Business development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio Business deveopment support and networking patform Cefnogaeth i ddatbygu busnes a wyfan rhwydweithio Cyfwyniad 02 Fe sefydwyd Waes and West Energy i gynorthwyo datbygiad cwmnïau eo a rhanbartho drwy ddarparu

More information

Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru

Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru FCC Environment From waste to resource. FCC Environment are the leading UK waste and resource

More information

Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru

Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru 2017 Cymru Cyfeiriwch at y geirfa ar y dudalen ôl am ddiffiniad o'r testun sydd wedi ei oleuo'n las. Cyflwyniad Mae r ucheldiroedd yn nodwedd allweddol o

More information

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy n Dysgu r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-gymraeg Gan Heini Gruffudd a Steve Morris Hawlfraint

More information

Newyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd

Newyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd Newyddion Ansawdd Dathlu dwy flynedd Rhifyn 24 Chwefror 2011 Cynhadledd Breswyl POWIS Mae ymrwymiad ein hysgolheigion yn glir ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eu bod yn datblygu n gyflym i fod yn arloeswyr

More information

Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development

Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017/18 ANNUAL REPORT 2017/18 What is PLANED? Pembrokeshire

More information

Bwletin Gorffennaf 2017

Bwletin Gorffennaf 2017 Bwletin Gorffennaf 2017 Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Wythnos Sgiliau Unwaith eto mae r ysgol wedi trefnu wythnos o weithgareddau gyda r nod o ehangu gorwelion ein disgyblion, a hynny

More information

PR and Communication Awards 2014

PR and Communication Awards 2014 PR and Communication Awards 2014 PR and Communication excellence in the Welsh social housing sector The third PR and Communication Awards Ceremony was held during CHC's Communications Conference in Llandrindod

More information

Colofn B BIOLEG. UNED 1: BIOCEMEG SYLFAENOL A THREFNIADAETH CELLOEDD Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 20% o'r cymhwyster

Colofn B BIOLEG. UNED 1: BIOCEMEG SYLFAENOL A THREFNIADAETH CELLOEDD Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 20% o'r cymhwyster Colofn B Cyflwyniad/Amcanion y Cwrs BIOLEG Mae Bioleg wedi gwneud datblygiadau syfrdanol ym maes triniaethau ar gyfer afiechydon yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r cwrs Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol wedi

More information

CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016

CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016 CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016 www.swanseacommunityenergy.org.uk Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Cynllun Ynni a

More information

Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol:

Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch Pynciau & agweddau: Mathemateg Cymraeg Saesneg Technoleg Mentergarwch Dinasyddiaeth Sgiliau: Rhifedd Llythrennedd Digidol Adnoddau

More information

Bwletin i Rieni - Hydref 2014

Bwletin i Rieni - Hydref 2014 Bwletin i Rieni - Hydref 2014 Dyddiadau Pwysig 27.10.14 31.10.14 Gwyliau Hanner Tymor. 03.11.14 Yr ysgol ar agor yn dilyn hanner tymor. 18.11.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 8 02.12.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 7 Croeso!

More information

AROLWG BLYNYDDOL 2003 2004 2005 2006-2007 2008 2009 2010 2 Prifysgol Cymru, Bangor 2 Gair gan yr IS-GANGHELLOR Unwaith eto, gallaf nodi fod y Brifysgol wedi mynd trwy gyfnod o newid yn ystod y flwyddyn

More information

Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?

Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd? Yr Athro R. Gwynedd Parry Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd? Rhif 9 Rhagfyr 2011 ISSN 1741-4261 C Y F N O D O LY N A C A D E M A I D D C Y M R A E G 9 Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?

More information

CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL

CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL Cofnodion Cyfarfod Misol Cyngor Cymuned Llandysul Community Council a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ieuenctid Llandysul, ar 14eg Mawrth 2016 Minutes of Monthly Meeting

More information

Wythnos Gwirfoddolwyr

Wythnos Gwirfoddolwyr www.mantellgwynedd.com NEWYDDLEN MUDIADAU GWIRFODDOL GWYNEDD Rhifyn 46 Gorffennaf 2009 CYNNWYS Newyddion Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd Grantiau Plant a Phobl Ifanc Y Porth Ymgysylltu Iechyd, Gofal Cymdeithasol

More information

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018 Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018 Llawenydd i Cytûn yr adeg hon o r flwyddyn yw cynnig diweddariad byr ynghylch sut mae offeryn eciwmenaidd cenedlaethol Cymru wedi bod yn gwasanaethu

More information

Iechyd Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd

Iechyd Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd Living With Environmental Change Iechyd Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd Cerdyn Adroddiad 2015 Mae r Cerdyn Adroddiad Byw gyda Newid Amgylcheddol (LWEC) hwn ar gyfer y rhai sy n gyfrifol am iechyd cymunedau

More information

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 Y Lle Celf Noddwyr Balch Medal Aur am Bensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cymru wedi i dylunio n well Cynnwys Contents 3 Gair o r Gadair A Word

More information

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014 Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Gâr 2014 4 X-Ray Health Special 5 The Great Welsh Diet Experiment: One Year On 6 Live Longer Wales: Helen s

More information

CYNNWYS. Llawlyfr y 6ed 2016/2018 1

CYNNWYS. Llawlyfr y 6ed 2016/2018 1 CYNNWYS Rhagair y Prifathro... 2 1. Rhesymau dros ddychwelyd i r Chweched Dosbarth yng Nglantaf... 3 Llwyddiannau allgyrsiol:... 3 Rhesymau Cwricwlaidd... 4 Llwyddiannau Academaidd... 4 Gofal Bugeiliol

More information

ACQUISITION OF LAND ACT 1981

ACQUISITION OF LAND ACT 1981 ACQUISITION OF LAND ACT 1981 NOTICE OF A PROPOSED COMPULSORY PURCHASE OF LAND FORMING PART OF A COMMON AND RIGHTS OVER LAND FORMING PART OF A COMMON, SUCH LAND BEING KNOWN AS CWMTAFF FECHAN RIVERSIDE COMMON

More information

ADRODDIAD GAN GOMISIWN ATHRAWIAETH SEFYDLOG YR EGLWYS YNG NGHYMRU YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW

ADRODDIAD GAN GOMISIWN ATHRAWIAETH SEFYDLOG YR EGLWYS YNG NGHYMRU YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW ADRODDIAD GAN GOMISIWN ATHRAWIAETH SEFYDLOG YR EGLWYS YNG NGHYMRU YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW Mawrth 2014 YR EGLWYS YNG NGHYMRU A PHARTNERIAETHAU O R UN RHYW Cyflwyniad i r adroddiad

More information