/ (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod Pynciau & agweddau: Cymraeg Saesneg TGCh Addysg Byd Dinasyddiaeth Sgiliau: Llythrennedd Digidol Adnoddau cefnogol: Taflen Waith Llyfryn yr Eisteddfod Dolen i r wefan: https://eisteddfod.cymru/oriel Gwahaniaethu: Nifer a symlrwydd y geiriau/lluniau Nifer y brawddegau neu lenwi bylchau Addasu r dasg ddigidol i ddefnyddio rhaglen TGCh/apiau perthnasol i allu a phrofiad y disgybl. Disgyblion Mwy Abl a Thalentog (MAT) i ddefnyddio r rhestr llawn o ansoddeiriau yn y gwaith dosbarth. Cyflwyno llyfryn/taflen ar gyfer y gwaith cartref gan ddefnyddio paragraffau. Yn y gwaith grŵp/dosbarth rôl defnyddio geiriadur i wirio gwaith y disgyblion cyn cyflwyno.
Gwaith Dosbarth: Disgrifio r Eisteddfod Disgrifio Lluniau r Oriel Edrychwch ar y rhestr o ansoddeiriau isod. Eich tasg yw cael hyd i lun sydd yn cyfleu r ansoddair (gall sawl ateb fod yn gywir ond rhaid i chi esbonio eich dewis). Gallwch weld dros 150 o luniau ar https:// eisteddfod.cymru/oriel neu gallwch ddewis y lluniau sy n cyd-fynd ag ansoddair o r lluniau yn y llyfryn Eisteddfod. Ansoddair: artistig balch cerddorol croesawgar cyfeillgar chwareus diddorol doniol egniol emosiynol ffasiynol gwahanol hamddenol hapus heddychlon hwyliog lliwgar llwyddiannus prysur rhyfedd teimladwy Adjective: artistic proud musical welcoming friendly playful interesting funny energetic emotional fashionable different leisurely happy peaceful fun colourful successful busy surprising moving
Gwaith Grŵŵp/Dosbarth/Cymunedol: Cyfnewid Rhyngwladol/Cyflwyniad TGCh 1. Defnyddiwch eich gwaith i gyfathrebu hynodrwydd yr Eisteddfod gydag unrhyw ysgol gyswllt ryngwladol sydd gennych gan ddefnyddio brawddegau a lluniau. Paratowch gyflwyniad digidol i anfon atynt yn ogystal â chardiau post. 2. Gweithiwch mewn grŵp i gyfuno eich gwaith a pharatoi cyflwyniad digidol o luniau a disgrifiadau o r Eisteddfod i w osod ar wefan yr Ysgol. Ceisiwch wneud hyn yn ddwyieithog er mwyn cyfathrebu gyda rhieni sy n siarad Cymraeg neu Saesneg. Cofiwch wirio r sillafu cyn ei osod ar-lein! 3. Oes cyfle i gyflwyno ychydig o frawddegau am yr Eisteddfod mewn ieithoedd eraill a siaredir gan blant yr ysgol? Efallai gall rhieni eich helpu. 4. Dewiswch un cyflwyniad byr llai nag 1 munud a i anfon yn enw r ysgol at yr Eisteddfod gwyb@eisteddfod.org.uk. Arhoswch i dderbyn ymateb a gweld a fyddant yn ei osod ar eu safle gwe!
Gwaith Cartref / Homework: Llythyr yn Cyflwyno r Eisteddfod i Meera / Letter to Meera Ansoddeiriau Mae Meera yn byw yn yr India ble mae n mwynhau gŵyl genedlaethol Holi sy n lliwgar a swnllyd. Rydych am esbonio i Meera sut mae pobl Cymru yn mwynhau eu hunain yng ngŵyl genedlaethol yr Eisteddfod. Ysgrifennwch frawddegau i ddisgrifio sut le yw r Eisteddfod. Rhowch o leiaf un ansoddair ym mhob brawddeg. Gallwch ddefnyddio ansoddeiriau o lyfryn yr Eisteddfod a defnyddio r lluniau am syniadau. Gwiriwch eich gwaith eich hun gan danlinellu pob ansoddair yn eich gwaith gyda phensel lliw. Adjectives Meera lives in India where she enjoys the colourful and noisy Holi festival. You want to explain to Meera how people enjoy themselves in the Welsh national festival called the Eisteddfod. Use sentences to describe the Eisteddfod. Each sentence should have at least one adjective. The Eisteddfod booklet has plenty of pictures and adjectives to help you. Review your own work by underlining each adjective with a colour pencil.
Templed Llythyr at ffrind / Letter to friend template: [Cyfeiriad / Address:] [Dyddiad / Date:] Annwyl / Dear Meera Dy enw / Your name: O.N. Rydw i wedi tynnu llun o r Eisteddfod ar y cefn P.S. I ve drawn a picture of a scene from the Eisteddfod for you on the back