Bwletin i Rieni - Hydref 2014

Similar documents
Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

Bwletin Gorffennaf 2017

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

Buy to Let Information Pack

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

W32 05/08/17-11/08/17

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

Deddf Awtistiaeth i Gymru

Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.

Welsh Conservative Manifesto for Local Government

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG

CYNNWYS. Llawlyfr y 6ed 2016/2018 1

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

PR and Communication Awards 2014

Cyngor Cymuned Llandwrog

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1


Wythnos Gwirfoddolwyr

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

AVID D NOSON D AWSON ARIAN I GARNIFAL LLANFAIR AS HAPUS PRIODAS. Ionawr 2015

europe rittany Wales a partner for Llydaw, partner i Gymru

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

Family Housing Annual Review

NEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014

Sir Ddinbych / Denbighshire Phil Lord. Sir y Fflint / Flintshire Phil Lord

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council

Colofn B BIOLEG. UNED 1: BIOCEMEG SYLFAENOL A THREFNIADAETH CELLOEDD Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 20% o'r cymhwyster

GWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru. 1

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

Cyngor Cymuned Y Fali Community Council

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

Newyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru

Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg

Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018

Dydd Sadwrn, Mai 19eg, 2018

Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

Business development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio

Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor University of Wales, Bangor Alumni Magazine

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus

Cefnogi gwaith eich eglwys

No 7 Digital Inclusion

Bangoriad /6/04 1:41 pm Page 1. The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697

Development Impact Assessment

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )

Llenydda a Chyfrifiadura

Cor Caerdydd o flaen adeilad y Pierhead yn y Bae noson noson perfformio Ar Waith Ar Daith gweler tud. 13. Dyluniad a lluniau: Irfon Bennett

Datblygu r Cwricwlwm Cymreig

CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL

Rhewlifegydd o r Borth yn astudio genedigaeth mynydd iâ

PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018

Campus. Cylchgrawn Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru. The Magazine for University of Wales Alumni #002. Haf Summer 2010

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf

ACQUISITION OF LAND ACT 1981

Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol:

Cyfres newydd, rhif 17 Hydref Mi glywais lais yr Iesu n dweud, Tyrd ataf fi yn awr. Llun: Fishers of Men (Simon Dewey)

P A P U R B R O G E N A U R - G L Y N, M E L I N D W R, T I R Y M Y N A C H, T R E F E U R I G A R B O R T H. Dathlu r Gwyliau

Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr

BODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

Gwr lleol yn Grønland

Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru

Rural Crime Forum. MONDAY 23 JULY :00-12:30 FUW Building Royal Welsh Showground. Panel Members. Are we doing enough to tackle rural crime?

Prifysgol Aml-gyswllt. Adroddiad Blynyddol UWTSD. Annual Report. A Connected University

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf

The Chairman welcomed all to the meeting. Mrs Dooley absent due to being on maternity leave. 2. Datganiadau Diddordeb. 2. Declarations of Interest.

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018

Hydref Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau.

EISTEDDFOD TALAITH A CHADAIR POWYS BRO HAFREN RHESTR TESTUNAU

REVIEW OF THE YEAR GOLWG AR Y FLWYDDYN PRESIDENT THE YEAR IN PROFILE HIGHLIGHTS FACTS AND FIGURES THE YEAR AHEAD LLYWYDD NEWYDD CRYNODEB O R FLWYDDYN

Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg

GAIR O R DYFFRYN CROESO Dyna r cyfarchion unwaith eto o Ddyffryn Ceiriog.

Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg

Transcription:

Bwletin i Rieni - Hydref 2014 Dyddiadau Pwysig 27.10.14 31.10.14 Gwyliau Hanner Tymor. 03.11.14 Yr ysgol ar agor yn dilyn hanner tymor. 18.11.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 8 02.12.14 Cyfarfod Rhieni Bl. 7 Croeso! Croeso n ôl i bawb ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd. Croeso arbennig i ddisgyblion sy n cychwyn yn Ysgol Dyffryn Ogwen o r newydd ac i w rhieni. Dymunwn flwyddyn hapus a llwyddiannus iawn i bawb. Llwyddiant Arholiadau Disgyblion Roedd hi n bleser unwaith eto cydnabod llwyddiant ein disgyblion. Roedd y canrannau llwyddiant Lefel A ar bob lefel yn galonogol iawn gyda mwyafrif helaeth wedi llwyddo i sicrhau cwrs o u dewis cyntaf mewn Prifysgol. Llwyddodd canran uchel iawn o r flwyddyn i ennill cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gan sicrhau mynediad i Addysg Uwch yn sgil y llwyddiant hwn. Mae r llwyddiant yma yn adlewyrchiad o waith caled y disgyblion a r staff i gyd, yn ogystal â chefnogaeth rhieni. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i bob un ohonynt. Cafwyd canlyniadau TGAU da iawn eto eleni gyda 96% o ddisgyblion blwyddyn 11 yn ennill yr hyn sy n cyfateb i 5 A*-C. Mae hyn yn llawer uwch na chyfartaledd ysgolion Gwynedd. Rydym yn arbennig o falch hefyd nad yw yr un disgybl yn gadael yr ysgol yn ddigymhwyster. 19.12.14 - Diwrnod olaf yn yr ysgol cyn gwyliau r Nadolig Cafwyd y canlyniadau TGAU gorau gan Cafwyd y canlyniadau Lefel A gorau gan Elin Cain, Cai Dickinson a Nic Johns. Adam Hughes, Cara Thomas a Ben Roberts. Cyfarfod Gwobrwyo Disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen Cynhaliwyd Cyfarfod Gwobrwyo blynyddol yr ysgol nos Fercher, Medi 17eg, yn neuadd yr ysgol. Mae r cyfarfod yn gyfle i ddathlu llwyddiannau ein disgyblion a n pobl ifanc yn academaidd, yn allgyrsiol ac o ran presenoldeb ac ymdrech gyda gwaith ysgol. Ein gŵr gwadd eleni oedd Mr Dewi R. Jones - cyn Bennaeth Addysg Cyngor Gwynedd. Ein gwesteion oedd Mrs Beryl Orwig - Ysgoloriaeth Dafydd Orwig, y Cynghorydd Godfrey Northam - Cadeirydd Cyngor Cymuned Bethesda, a r Cynghorydd Mrs Mair Leverett, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llandygai. Yr oedd yn braf iawn hefyd croesawu penaethiaid ysgolion cynradd y dalgylch. Wedi r cyfan y mae llwyddiant y disgyblion yn gymaint o waith yr ysgolion cynradd ag o n gwaith ninnau yn yr uwchradd. Hoffai r ysgol ddiolch i r noddwyr isod am eu cyfraniadau ariannol tuag at y Cyfarfod Gwobrwyo eleni:- Jones & Whitehead, Trydanwyr, Tregarth - DU Construction Cyf, Adeiladwyr, Gaerwen Welsh Slate, Chwarel y Penrhyn, Bethesda Tony Davies, Plymwr, Llanllechid.

ENILLWYR GWOBRAU 2013-2014 Gwobrau Presenoldeb 100% Reece Davies Nel Rhys Cai Williams Morgan Davies Nia George Joshua Hughes Sion Jones Elen Owen Dylan Robertson Ieuan Hughes Mari Jones Cadi Rhys Arwel Davies Manon Hughes Ben Jones Morgan Jones Huw Owen Gwobrau Blwyddyn 7 :- Ella Baker Lowri Ford Meilir Griffiths Beca Nia Thalia Lichtenstein Cai Rees Williams Mia Richards Ceri Williams Gwobrau Pynciol:- Cymraeg (Noddwyd gan Mr & Mrs J H Evans, Tegfryn, Rhiwlas) Alys Haf Llinos Roberts Saesneg Kara Bullock Adam Hughes Ffrangeg Elin Cain Meilir Griffiths Cerdd Jac Peall Mari Williams Mathemateg Luke Crow Ben Jones Math Owen Gwyddoniaeth CA3 Owain Morgan Martha Evans Gwyddoniaeth CA4 Cai Dickinson Rhiannon Llwyd Gwyddoniaeth CA5 Cara Thomas Ben Roberts Hanes Luke Crowe Bethan Hughes Daearyddiaeth Nicholas Johns Jasmine Jones Astudiaethau Crefyddol Sara Evans Llinos Evans Addysg Gorfforol Llinos Evans Gethin Williams Celf Joshua Williams Dion Jones Lletygarwch Rhys Evans Sara Evans Datblygiad Plentyn Lisa Francis Llinos Evans Dylunio a Thechnoleg (Gwrthiannol) Jade Roberts Joshua Williams Technoleg Gwybodaeth Morgan Davies Cadi Roberts Gwobr Cynnydd (Noddwyd gan deulu'r diweddar Wyn Davies, Bronydd Isaf, Llanllechid) Dewi Moses-Roberts Beca Bullock Gwobrau Cyngor Cymuned Llandygai Ymdrech Bl. 7 Megan Williams Dafydd Williams Ymdrech Bl. 8 Stephanie Owen Alex Welling Ymdrech Bl. 9 Chloe Davies Tomos Gwyn Jones Ymdrech Bl. 10 Daniel Evans Lois Owen Mabolgampwr y Flwyddyn Blwyddyn 7 Beca Nia Caio Hughes Cai Williams Mabolgampwr y Flwyddyn Blwyddyn 8 Sophie Ellis Esme Crowe Ben Williams Mabolgampwr y Flwyddyn Blwyddyn 9 Elin Owen David Florence Mabolgampwr y Flwyddyn Blwyddyn 10 Manon Hughes Harri Phillips

Gwobr Tîm y Flwyddyn/ Tîm Rygbi bechgyn dan 13. Cai Griffiths Pedr Owen Shaun Roberts Mathew Buchanan Sion Jones Kieran Briggs Kieron Bullock Dafydd Williams Caio Hughes Jac Oliver Joseph Bullock Joshua Hughes Ben Williams Gruffydd Roberts Sion Davies Jorden Roberts Osian Sanderson Joshua Dignam Morgan Davies Rhys Puw Perfformiad Gorau T.G.A.U. Cai Dickinson Elin Cain Nicholas Johns Perfformiad Gorau Lefel A Adam Hughes Ben Roberts Cara Thomas Tarian Carwyn Thomas Tlws Athletwr y Flwyddyn Sophie Ellis Sion Bullock Gwobr Goffa Frank Rhys Jones Hannah Cook Blwyddyn a hanner yn ôl roedd Hannah yn byw yn Banbury yn Swydd Rhydychen ac yn Saesnes uniaith heb unrhyw gysylltiad â Chymru. Erbyn hyn, ac ar ôl bod yn y Ganolfan Iaith Uwchradd ym Mhorthmadog, mae hi n rhugl ei Chymraeg, ac yn cymryd rhan lawn yn holl weithgareddau r ysgol. Dipyn o gamp! Ysgoloriaeth Cyngor Cymuned Bethesda Cai Jones Steffan Owain Steffan Owen Kyle Thomas Mae r pedwar ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau yng Ngholeg Menai a fydd yn arwain at grefft benodol yn y dyfodol fel saer, plymiwr neu drydanwr. Ysgoloriaeth Dafydd Orwig Adam Hughes Cara Thomas Mae r ddau bellach wedi cychwyn ar eu cyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd. Dymuniadau gorau i chi. Staff Croeso cynnes i r staff newydd sydd wedi ymuno â ni r tymor hwn:- Miss Delyth Hughes Athrawes Mathemateg Dyddiaduron Mae pob disgybl ym mlynyddoedd 7-13 wedi derbyn dyddiadur personol er mwyn trefnu eu gwaith yn rheolaidd. Mae r dyddiadur hefyd yn fodd pwysig o gyfathrebu rhwng yr ysgol a r rhieni. Byddwn yn defnyddio r dyddiadur i rannu gwybodaeth ynglŷn â r canlynol:- Gwaith Cartref Adroddiadau ac Asesiadau Monitro a thracio cynnydd yn erbyn targedau Cyfweliadau Tiwtor Llythyrau i Rieni Arholiadau/Asesiadau dan Reolaeth Presenoldeb Gofynnwn yn garedig i chi drafod cynnwys y dyddiadur gyda ch plentyn a i arwyddo n wythnosol.

Gwyliau yn ystod y tymor ysgol Mae r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau newydd sydd yn rhoi r hawl i ysgolion roi cosb ariannol o 120 i rieni lle mae eu plant wedi colli 10 diwrnod neu fwy heb gytundeb gyda r ysgol. Mae hyn yn cynnwys gwyliau yn ystod y tymor ysgol. Gyda chefnogaeth rhieni a r staff, mae r ysgol wedi gweithio n galed iawn i wella ffigyrau presenoldeb, ac mae gwobrau yn cael eu rhoi i r dosbarth a r unigolion gyda r presenoldeb gorau. Un peth sy n effeithio ar y ffigyrau presenoldeb yw gwyliau yn ystod y tymor ysgol. Fel pob ysgol arall yng Ngwynedd, mae r llywodraethwyr wedi penderfynu caniatáu hyd at 5 diwrnod yn unig o wyliau teuluol ym mlynyddoedd 7-9, ond dim un diwrnod ym mlynyddoedd 10 ac 11. Gofynnir am gefnogaeth rhieni i beidio trefnu gwyliau teuluol yn ystod y tymor ysgol. Prydlondeb Mae disgwyl i bawb fod yn yr ysgol erbyn 8:45yb er mwyn rhoi dechrau trefnus i r diwrnod. Gofynnwn am gydweithrediad rhieni gyda r mater yma, yn enwedig ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd. Bydd disgyblion sy n cyrraedd yn hwyr yn y bore, neu sy n hwyr ar gyfer eu gwersi yn cael eu cadw i mewn amser cinio ac yna ar ôl ysgol. Absenoldeb Disgyblion Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn hanfodol os yw r disgyblion i fanteisio n llawn ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt. Er mwyn cynnal a gwella presenoldeb yn yr ysgol gofynnwn yn garedig i chi gysylltu ar ddiwrnod cyntaf absenoldeb eich plentyn. 1. Cysylltwch â r ysgol, rhwng 8:30 a 9:00, ar y bore cyntaf y mae eich plentyn yn absennol: Ffonio 01248 600291. 2. Os na fydd yr ysgol wedi derbyn galwad ffôn rhwng 8:30 a 9:00 o r gloch yn dweud wrthym pam nad yw eich plentyn yn yr ysgol, yna bwriedir cysylltu gyda neges tecst i r rhiant. 3. Gofynnir i chi nodi rheswm yr absenoldeb yn nyddiadur eich plentyn. Diolch am eich cydweithrediad. Clwb Gwaith Cartref Cinio Ysgol am Ddim / Grant Gwisg Ysgol Mae r Clwb Gwaith Cartref ar agor bob dydd Llun i ddydd Iau o 3:20 hyd at 4:20 mewn ystafell gyfrifiadurol. Mae hyn yn gyfle ardderchog i ddisgyblion gael cymorth gyda u gwaith ysgol. Mae croeso i ddisgyblion o flynyddoedd 7 i 11 fynychu r Clwb. Rydym yn awyddus i sicrhau bod rhieni'n gallu hawlio'r cymorth ariannol sydd ar gael iddynt, e.e. mae grantiau ar gael gan y Cyngor Sir i ddarparu cinio am ddim i rai disgyblion ac i gynorthwyo rhieni i brynu gwisg ysgol. Cofiwch fod angen adnewyddu eich cais yn flynyddol. Os na fyddwch yn gwneud cais cyn diwedd y tymor, bydd disgwyl i chi dalu am wisg ysgol/cinio eich plentyn o ddechrau'r tymor. Cysylltwch gyda'r Adran Budd-daliadau 01286 682689. Gadael Tir yr Ysgol Ni chaniateir i ddisgyblion Blynyddoedd 7-11 adael tir yr ysgol yn ystod yr egwyl boreol nac amser cinio. Y prif bryder sydd gennym yw am iechyd a diogelwch, a hynny am ddau brif reswm: 1. Pe bai tân yn digwydd yn yr ysgol amser cinio, er enghraifft, ni fyddai gennym unrhyw wybodaeth am eich plentyn a ddylai fod yn yr ysgol. 2. Pe bai eich plentyn yn gadael tir yr ysgol heb ganiatâd ac yn cael damwain, hoffwn wneud yn glir i chwi fel rhieni nad oes gan yr ysgol unrhyw gyfrifoldeb drostynt. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn trafod gyda ch plentyn y peryglon. Dim ond disgyblion gyda chaniatâd rhieni a gyda thocyn cinio sy n cael gadael tir yr ysgol amser cinio yn unig.

Wythnos Sgiliau Cynhaliwyd wythnos sgiliau traws-ysgol ddechrau mis Hydref. Yr oedd rhaglen bwrpasol a diddorol wedi ei threfnu ar gyfer yr holl flynyddoedd. Bu disgyblion blwyddyn 7 yn Rhyd Ddu am ddeuddydd o Gwrs Croeso y diwrnod cyntaf yn aros dros nos yn Rhyd Ddu a r gwaith caled o gerdded yr Aran a r ail yn adeiladu lloches ym Mharc Meurig gyda r pwyslais ar weithio fel tim. Daeth pawb adref yn flinedig ond wedi mwynhau yn adnabod ei gilydd yn well ac yn teimlo yn rhan go iawn o Ysgol Dyffryn Ogwen Croeso mawr i chi! Gan fod blwyddyn 7 yn Rhyd Ddu manteisiwyd ar y cyfle i roi profiadau gwahanol i weddill yr ysgol, gan ganolbwyntio ar hybu'r sgiliau. Dyma oedd arlwy'r wythnos:- Blwyddyn 7 Rhyd Ddu, gweithgareddau Indonesia a chreu ffilm. Blwyddyn 8 Gweithgareddau Rhifedd a Llythrennedd, datrys problemau, diwylliant Tsieina, ymweliad ag Amgueddfa Gwynedd a diwrnod dinasyddiaeth gan ganolbwyntio ar gyflenwad dŵr ar draws y byd. Blwyddyn 9 Gweithgareddau Gwrth-Fwlio, Cymru n Cofio, yn sôn am y Rhyfel Byd Cyntaf, ymweliad â r Ysgwrn (cartref Hedd Wyn) a chreu ffilm am Ioan Doyle. Blwyddyn 10 Sesiwn ar sgiliau trosglwyddadwy gan Gyrfa Cymru, gweithdai ar y Cynulliad, Y Parc Cenedlaethol a sgiliau astudio. Paratoi ar gyfer gweithgaredd Menter y Bac a sesiynau ffitrwydd, sesiynau Hawl i Holi gyda chynghorwyr lleol. Blwyddyn 11 Mynychu cynhadledd Gyrfaoedd yn Llandudno, gweithdy sgiliau astudio a ffug-gyfweliadau, ymchwiliad unigol y Bac a sesiynau ffitrwydd. Mae r disgyblion wedi datblygu llu o sgiliau gwerthfawr a fydd yn eu gwneud yn well dysgwyr ac yn eu paratoi i gyfrannu n llawn i w cymunedau yn y dyfodol. Llwyddo n Lleol Llongyfarchiadau i r tîm o 9 disgybl o flwyddyn 10 am ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth C mon Cymuned a gynhaliwyd gan Llwyddo n Lleol yng Ngwynedd. Yr oedd yn rhaid i r tîm greu syniad busnes i r gymuned leol, ac er nad oedd amodau r gystadleuaeth yn mynnu hynny, defnyddiodd y criw eu sgiliau cyfrifiadurol i wneud ffilm a chyflwyniad i werthu eu syniad. Cawsant adborth rhagorol gan y beirniaid, a oedd yn nodi ansawdd uchel y cais. Mae r criw eisoes wedi defnyddio r wobr ariannol o 1,000 i brynu adnoddau i sefydlu eu busnes. Byddant hefyd yn mynd ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth ar lefel gogledd Cymru. Sgwad Sgwennu Ddydd Sul, Medi 14eg, mynychodd Esme Crowe, blwyddyn 9, Sgwad Sgwennu yn Nhŷ Newydd, sef cartref David Lloyd George, yn Llanymstumdwy. Y Bardd Sian Northey oedd yn llywio r gweithdy sef awdures gyda chyfrol o farddoniaeth ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni. Drysau oedd thema r diwrnod. Cafodd ddiwrnod gwerth chweil.

Adran Dylunio a Thechnoleg Bu Ysgol Dyffryn Ogwen yn ffodus i dderbyn ymweliad gan dri o ddarlithwyr Adran Beirianneg, Prifysgol De Cymru. Cynhaliwyd dau weithdy llwyddiannus gyda disgyblion blwyddyn 11 yn ogystal â myfyrwyr ein chweched dosbarth ar y cyd â myfyrwyr o Ysgol Brynrefail. Gwelwyd gwaith ar sawl agwedd ddiddorol o fyd peirianneg a chafwyd cyfle i ddatrys problemau drwy adeiladu pont o bapur a gwellt yfed yn ogystal â gweld effaith gwres ar beli chwaraeon. Adran Addysg Gorfforol Canlyniadau gemau diweddar:- Rygbi Dan 16 Ysgol Syr Hugh Owen 19 19 Ysgol Dyffryn Ogwen Rygbi Dan 14 Ysgol Dyffryn Ogwen 59 5 Ysgol Syr Hugh Owen Rygbi Dan 14 Ysgol Dyffryn Ogwen 34 12 Friars Ceisiadau gan:- Mathew Buchanan x 5, Ben Williams, Gruff Roberts x 4, Kieren Briggs x 2, Caio Hughes x 3. Da iawn hogia! Pêl-rwyd Colli bu hanes tîm pêl-rwyd blwyddyn 10 yn ddiweddar yn erbyn Ysgol Syr Hugh Owen a hynny mewn gêm agos iawn gyda r sgôr terfynol yn 5-4. Llwyddodd Jade Roberts i sgorio nifer o r goliau ond cafodd Syr Hugh eu pumed gôl yn yr ugain eiliad olaf. Roedd yn berfformiad da iawn gan enethod Dyffryn Ogwen! Llongyfarchiadau i Manon Hughes, blwyddyn 11, sydd wedi ei dewis i gynrychioli Eryri yng ngharfan Pêl-rwyd dan 16. Bydd Manon yn cystadlu yng nghystadleuaeth rhyng-sirol Cymru yn ystod y flwyddyn.