MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015 Mae r Canfyddiadau hyn gan y New Policy Institute yn dadansoddi r data diweddaraf i ddangos tueddiadau o ran gwaith, tlodi a sancsiynau budd-daliadau yng Nghymru. Mae r ymchwil yn edrych ar fesurau incwm isel, cyflog isel a mathau eraill o anfantais. Yna mae n ystyried yr heriau yn sgil y newidiadau hyn a Chyllideb Haf 2015 wrth lunio polisïau yng Nghymru. Pwyntiau allweddol Ar gyfartaled, roedd 700,000 o bobl mewn tlodi yng Nghymru yn y tair blynedd hyd at 2013/14, sy n gyfystyr â 23 y cant o r boblogaeth. O i gymharu â deng mlynedd yn ôl, mae mwy o bobl o oedran gweithio (yn arbennig oedolion ifanc) mewn tlodi a llai o blant a phensiynwyr. Mae tlodi wedi cynyddu mewn teuluoedd sydd mewn gwaith ac wedi gostwng mewn teuluoedd di-waith. Mae dau ddeg saith y cant o bobl mewn teulu lle mae o leiaf un oedolyn anabl mewn tlodi, o i gymharu â 23 y cant yn gyffredinol. Mae cyfradd tlodi yn y teuluoedd hyn yn codi i 33 y cant os na chaiff budd-daliadau anabledd ei gynnwys yn yr incwm. Ni fu unrhyw ostyngiad yng ngraddau cyflog isel yng Nghymru am ddegawd, gyda chyfran y swyddi ar gyflog isel yn dal oddeutu 25 y cant. Mae cyfanswm o 270,000 o swyddi, a wneir yn bennaf gan ferched, yn talu islaw dwy ran o dair y cyflog canolrif fesul awr yn y Deyrnas Unedig. Yn 2014 roedd 30,000 o sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith, oedd yn is nag yn 2013, a hynny n bennaf oherwydd bod llai wedi ei hawlio. Mae n dal yn ffigwr uchel o i gymharu â blynyddoedd cynt. Mae pobl ifanc sy n hawlio a hawlwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn colli budd-daliadau mewn modd anghymesur. Mae nifer cynyddol o bobl mewn tlodi n byw yn y sector rhentu preifat yn hytrach na r sector rhentu cymdeithasol ond mae nifer uwch o hyd yn y sector preifat. Dim ond yn rhannol y bydd cyflwyno r cyflog byw n gwrthbwyso r toriadau mewn credydau treth: bydd rhai teuluoedd, yn arbennig rhai gyda phlant, yn waeth eu byd. Bydd ardaloedd gwledig yng Nghymru n cael eu heffeithio n anghymesur. Yr ymchwil Gan Adam Tinson a Tom MacInnes MEDI 2015
Tlodi yng Nghymru Diffiniad o dlodi Ystyr tlodi yma yw incwm aelwyd, wedi ei addasu n ôl maint teulu, islaw 60 y cant o incwm canolrif wedi ei addasu n ôl maint teulu. Mesurir incwm ar ôl didynnu costau tai. Mae tlodi llwyr yn defnyddio 60 y cant o incwm canolrif mewn blwyddyn benodol gynharach fel trothwy. Ar gyfartaledd, rhwng 2011/12 a 2013/14 roedd 700,000 o bobl mewn tlodi yng Nghymru, tua 23 y cant o r boblogaeth. Nid oes unrhyw newid yn nifer a chanran y bobl sy n byw mewn tlodi rhwng 2010/11 a 2012/13 ac mae r ddau n is na ffigwr y 1990au pan oedd tua 26 y cant o r boblogaeth yn byw mewn tlodi. Gan gymryd 2010/11 fel y flwyddyn drothwy, mae tlodi llwyr yng Nghymru wedi cynyddu o dri phwynt canran yn ystod yn pedair blynedd hyd at 2013/14. Bu gostyngiadau mawr o ran tlodi pensiynwyr, gan ostwng oddeutu 26 y cant yn y 1990au i 14 y cant erbyn hyn. Felly er bod twf cynyddol yn nifer y pensiynwyr, maent i gyfrif am 13 y cant o bobl mewn tlodi o i gymharu â 19 y cant yn flaenorol. Mae tlodi plant hefyd wedi gostwng, er yn llai dramatig, o 36 y cant i 31 y cant. Nid oes unrhyw wahaniaeth yng nghyfradd tlodi dynion a menywod yng Nghymru. Mae hyn yn rhannol oherwydd y ffaith bod y boblogaeth fenywod yn cynnwys cyfran uwch o fathau o aelwydydd sydd â risg uwch o dlodi (fel aelwydydd un rhiant) a chyfran uwch o r rhai â risg is o dlodi (fel pensiynwyr). Fodd bynnag, gan fod tlodi incwm yn cael ei fesur ar lefel aelwyd, nid yw, er enghraifft, yn adlewyrchu dosbarthiad adnoddau o fewn aelwydydd. Mae cyfran y bobl mewn tlodi yn achos y rhai sydd mewn teulu lle mae o leiaf un oedolyn anabl, yn uwch na r gyfran gyffredinol, sef 27 y cant o i gymharu â 23 y cant. Os addasir cyfradd y bobl mewn tlodi a pheidio â chynnwys budd-daliadau anabledd (sydd i gynnwys costau heb eu cyfrif yn yr ystadegau), yna mae cyfran y bobl mewn teuluoedd lle mae o leiaf un oedolyn anabl yn codi o 27 y cant i 33 y cant. Gwaith a thlodi Ffigur 1: Nifer y bobl mewn tlodi yn ôl oedran, 2002/03 2012/13 Nifer y bobl mewn tlodi 250,000 200,000 150,000 Mewn teulu sydd mewn-gwaith Mewn teulu allan-o-waith Mewn teulu sydd mewn-gwaith Mewn teulu allan-o-waith 100,000 50,000 0 2002/03 2012/13 2002/03 2012/13 2002/03 2012/13 2002/03 2012/13 2002/03 2012/13 Plant 16 29 30 49 50 64 65+ Ffynhonnell: Aelwydydd Islaw Incwm Cyfartalog, Adran Gwaith a Phensiynau; mae r data n defnyddio ffigyrau cyfartalog tair blynedd
Yn y grŵp oedran 16 29 gwelwyd cynnydd mewn tlodi yn ystod y deng mlynedd diwethaf yng Nghymru, felly hefyd y grŵp 30 49 ac i raddau llai y rhai rhwng 50 a 64 oed (gweler Ffigur 1). Mae tlodi pensiynwyr a thlodi plant wedi gostwng o tua 40,000 a 20,000 yn y drefn honno. Mae r nifer mewn tlodi mewn teuluoedd mewn-gwaith wedi cynyddu ym mhob grŵp oedran yn ystod y cyfnod deng mlynedd. Roedd 22,000 yn fwy o blant mewn teuluoedd mewn-gwaith mewn tlodi, ond 40,000 yn llai mewn teuluoedd allan-o-waith. I r rhai rhwng 30 a 64 oed, roedd niferoedd cynyddol mewn teuluoedd mewn-gwaith, a hynny n dileu r gostyngiad mewn tlodi allan-o-waith. O ran y rhai rhwng 16 a 29 oed, nid oedd unrhyw ostyngiad mewn tlodi allan-o-waith i wrthbwyso r cynnydd mewn tlodi mewn-gwaith. Y cynnydd cyffredinol mewn tlodi i rai rhwng 16 a 29 oed oedd 24,000, sy n cyfateb yn fras i r cynnydd cyfun i r rhai rhwng 30 a 64 oed. Roedd cynnydd o tua 10,000 mewn tlodi yn y rhai rhwng 30 a 49 oed mewn teuluoedd a oedd yn gweithio n llawn amser, ond gostyngiad bach i grwpiau oed eraill. Mae faint o waith a wneir o fewn y teulu n gwneud gwahaniaeth mawr i risg tlodi. O ran teuluoedd yn gweithio n rhannol, a oedd naill ai n gweithio n rhan amser, yn hunangyflogedig neu gydag un oedolyn yn gweithio n llawn amser ac un oedolyn ddim yn gweithio, roedd cynnydd o tua 100,000 mewn tlodi yn ystod y cyfnod o ddeng mlynedd. O i gymharu â hyn, mewn teuluoedd lle r oedd pob oedolyn yn gweithio gydag o leiaf un yn gweithio n llawn amser, nid oedd unrhyw gynnydd yn y nifer mewn tlodi yn y degawd diwethaf. Roedd y cynnydd mewn tlodi mewn-gwaith bron yn gyfan gwbl mewn teuluoedd a oedd yn gweithio n rhan amser. Yng Nghymru, mae 31 y cant o oedolion o oedran gweithio yn ddi-waith. Yn achos merched, mae r ffigwr hwn ychydig yn uwch, sef 34 y cant. Y ganran i grwpiau lleiafrifoedd ethnig yw 45 y cant, ac i bobl anabl mae n 55 y cant. Yng Nghymru bu gostyngiad uwch yn y cyfraddau hyn ers 2009 nag yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, ond mae cyfraddau uwch o ddiweithdra yng Nghymru o hyd. Ffigur 2: Cyfran y swyddi yng Nghymru â chyflog isel Holl swyddi Swyddi Llawn amser Swyddi rhan amser Holl swyddi DU Cyfran y swyddi ag enillion fesul awr islaw dwy ran o dair o r cyflog canolrif (y cant) 60 50 40 30 20 10 0 1997 1998 1999 2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion drwy NOMIS, Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) Mae Ffigur 2 yn dangos cyfran y swyddi yng Nghymru sydd â chyflog isel, wedi ei fesur ar sail eu bod yn cael eu talu islaw drwy ran o dair o r cyflog canolrif fesul awr yn y Deyrnas Unedig ( 7.69 yn 2014). Yn 2014, roedd 25 y cant o swyddi gweithwyr â chyflog isel, yn cyfateb i 270,000 o swyddi. Ers 2003, mae cyfraddau cyflog isel yng Nghymru wedi bod tri neu bedwar pwynt canran yn gyson uwch na r Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Yng Nghyllideb Haf 2015, cyhoeddodd y Canghellor fod cyflog byw newydd yn cael ei gyflwyno i r rhai dros 25 oed. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno yn Ebrill 2016, ar sail 7.20 yr awr, a bydd yn codi i 9 yn Ebrill 2020. Gan ddefnyddio Arolwg y Gweithlu a dadchwyddo r ffigyrau i brisiau 2014/15 gan amcangyfrif chwyddiant, bydd 200,000 o bobl neu 20 y cant o weithwyr 25 oed neu hŷn yn elwa ar gyfradd 2016.
Tai a thlodi Mae dosbarthiad deiliadaeth tai yn newid yng Nghymru; mae mwy o bobl yn byw yn y sector rhentu preifat neu n berchen eu tai eu hunain yn llwyr, tra bod y niferoedd sydd â morgais ac yn y sector rhentu cymdeithasol yn gostwng (er bod y newidiadau hyn yn digwydd yn araf. Mae gan Gymru un o r sectorau perchen-feddianwyr uchaf a r sectorau rhentu preifat isaf ymysg rhanbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig.) O ganlyniad, mae patrwm y bobl mewn tlodi yn ôl eu deiliadaeth tai hefyd yn newid yn araf. Yn y tair blynedd hyd at 2002/03, roedd 41 y cant o bobl mewn tlodi n byw yn y sector rhentu cymdeithasol, gan ostwng i 33 y cant yn 2012/13. Ar gyfer y sector rhentu preifat, bu cynnydd o 19 y cant i 28 y cant. Nid oedd unrhyw newid yng nghyfradd y bobl mewn tlodi a oedd yn byw yn eu cartrefi eu hunain, boed y bobl hynny n berchen yn llwyr ar eu tai ai peidio. Ffigur 3: Cyfran yr hawlwyr cymdeithasol yn cael eu heffeithio gan gosb tanfeddianaeth (chwith); cyfran yr hawlwyr Budd-dal Tai mewn-gwaith (dde) 22% a throsodd 19% i 21% 16% i 18% 15% ac is 19% a throsodd 16% i 18% 13% i 15% 12% ac is Mae Ffigur 3 yn dangos cyfran y rhai sy n derbyn Budd-dal Tai yn y sector rhentu cymdeithasol sy n cael eu heffeithio gan y gosb tanfeddianaeth (cyfeirir yn aml at hyn fel treth ystafell wely yn y map ar y chwith a chyfran y rhai sy n derbyn budd-dal tai (yn cynnwys lwfans tai lleol y budd-dal tai a delir fel arfer i bobl sy n rhentu n breifat) mewn-gwaith ar y map ar y dde. Y gosb tanfeddianaeth yw un o r newidiadau mwyaf gweladwy i fudd-dal tai a wnaed gan Lywodraeth Glymblaid 2010 2015. Yng Nghymru mae n effeithio ar 30,000 neu 19 y cant o denantiaid cymdeithasol (o i gymharu â 14 y cant ym Mhrydain). Yr awdurdodau lleol sy n cael eu heffeithio fwyaf yw r Cymoedd, yn arbennig Blaenau Gwent, gyda chwarter y tenantiaid cymdeithasol yn cael eu heffeithio. Ardaloedd eraill sy n cael eu heffeithio n arbennig yw Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Gallai hyn adlewyrchu r mathau o gartrefi cymdeithasol a adeiladwyd yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â pha gyfnod yn eu bywydau y mae r tenantiaid. Mae ardaloedd lle mae cyfran uwch o hawlwyr budd-dal tai mewn-gwaith yn gallu adlewyrchu cyfuniad o nifer isel o oriau neu waith â chyflog gwael yn ogystal â chostau rhentu uwch. Mae daearyddiaeth yr ardaloedd hyn ychydig yn wahanol. Yr uchaf yw Caerdydd, sef 22 y cant, ond mae r pedwar ffigwr uchaf nesaf i gyd yn ardaloedd mwy gwledig, fel Sir Benfro a Cheredigion.
Sancsiynau budd-dal i hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith Ffigur 4: Nifer y sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith fesul blwyddyn yn ôl oedran y sawl sy n derbyn y sancsiwn 16 24 25 34 35 44 45 54 55+ Nifer y sancisynau fesul blwyddyn 50,000 45,000 40,000 35,000 30,000 25,000 20,000 15,000 10,000 5,000 0 2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 Ffynhonnell: Stat Xplore, Adran Gwaith a Phensiynau Mae sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith yn cynnwys atal budd-dal yn gyfan gwbl am gyfnod penodol o wythnosau. Tra bod sancsiynau ar gyfer budd-daliadau eraill (Lwfans Cyflogaeth a Chymhorthdal Incwm i rieni sengl), sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith yw r rhai mwyaf cyffredin o ddigon. Yn 2014, roedd 30,00 o sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith, oedd yn is o i gymharu â 43,000 yn 2013. Fodd bynnag, yr hyn sydd i gyfrif am y gostyngiad hwn yn bennaf yw r nifer llai o hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith yn 2014 o i gymharu â 2013. Mae Ffigur 4 yn dangos mai r rhai rhwng 16 a 24 oed yw r grŵp oedran mwyaf sy n colli budd-daliadau. Yn 2014, derbyniodd rhai rhwng 16 a 24 oed 13,000 o r 30,000 o sancsiynau, 44 y cant o r cyfanswm. ar gyfartaledd, ym mhob mis yn 2014, cafodd 7 y cant o hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith rhwng 16 a 24 eu heffeithio gan sancsiynau. Mae nifer y sancsiynau a dderbyniwyd yn gostwng ar sail oedran, felly y rhai rhwng 25 a 34 oed a dderbyniodd y nifer uchaf wedyn o sancsiynau, yn yr achos hwn 8,000. Mae hyn yn gyfystyr â 4.4 y cant o r grŵp oed rhwng 25 a 34 sy n hawlio budd-dal bob mis. Mae cyfradd sancsiwn i bob grŵp oedran yn uwch na deng mlynedd yn ôl. Roedd cyfradd sancsiwn i fenywod yn 2014 yn is na r gyfradd gyffredinol (4 y cant o hawlwyr y mis yn hytrach na 5 y cant), ond roedd cyfradd sancsiwn i grwpiau lleiafrifoedd ethnig bron ddwywaith yn uwch, sef 9 y cant.
Casgliad Mae r tueddiadau cyffredinol o ran tlodi yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd diwethaf wedi adleisio r tueddiadau drwy r Deyrnas Unedig yn gyffredinol: mae mwy o bobl o oedran gweithio, ond yn arbennig oedolion ifanc, mewn tlodi, yn ogystal â phobl mewn tai rhent preifat a phobl mewn teuluoedd sydd mewn gwaith. Nid yw Cyllideb Haf 2015 wedi darparu llawer o gymorth i oedolion ifanc: nid yw r cyflog byw newydd yn berthnasol i r rhai o dan 25 oed, ac roedd toriadau i fudd-daliadau tai y rhai rhwng 18 a 21 oed. Mae hyn yn ychwanegol at feysydd eraill o bolisi cyhoeddus, fel sancsiynau, sy n cael effaith anghymesur ar bobl ifanc. Yr ochr arall i r geiniog o bosibl yw bod isafswm cyflog is yn golygu bod mwy o apêl i gyflogwyr gyflogi rhai o dan 25 oed. Mae hanes tlodi wedi bod yn fwy cadarnhaol ar y cyfan i blant a phensiynwyr. Fodd bynnag, mae cylch newydd o newidiadau lles yng Nghyllideb Haf 2015 yn bygwth tanseilio r cynnydd a wnaed i blant. Yn 2012/13, bu r credydau treth yn fodd i godi 100,000 o blant allan o dlodi yng Nghymru, a chefnogwyd incwm 160,000 pellach a oedd yn dal mewn tlodi. Tra bod y cyflog byw n gwneud iawn i raddau, yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol nid yw r cynnydd mewn cyflogau erbyn 2020 yn gwneud iawn am doriadau i gredyd treth na r toriadau i Nawdd cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Hefyd, mae effeithiau gwahanol iawn o ran dosbarthiad. Pwrpas credydau treth yn bennaf yn helpu r rhai gyda phlant, oherwydd nid yw cyflogwyr yn talu cyflogau uwch i bobl gyda phlant. Felly gallai dibynnu mwy ar gyflogau uwch yn hytrach na chredydau treth fod yn llai o gymorth i r rhai gyda phlant. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai sy n gweithio ychydig o oriau, grŵp sydd wedi bod yn gyfrifol i raddau helaeth am y cynnydd mewn tlodi mewn-gwaith yn ystod y degawd diwethaf. Yn ôl yr adroddiad diwethaf yn y gyfres hon, roedd y rhai a oedd yn derbyn credydau treth gwaith yn byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Un arall o ganlyniadau r Gyllideb felly, yw y bydd ardaloedd gwledig Cymru n cael eu taro n galed gan doriadau i gymorth mewn gwaith. Mae datganoli n gallu gadael bylchau mewn polisi rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, tra bod y Gyllideb wedi gostwng oed y plentyn ieuengaf lle mae disgwyl i rieni sengl chwilio am waith drwy r Deyrnas Unedig, roedd y cyhoeddiad a wnaed yr un pryd fod gofal plant i blant tair a phedair oed yn cael ei ehangu, yn berthnasol i Loegr yn unig (gan fod gofal plant yn faes datganoledig). Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i fesurau r gyllideb sy n peri risg i dlodi cynyddol a newidiadau o fewn Cymru sy n golygu bod tlodi n dod yn fwy o broblem i oedolion ifanc sy n gweithio ac sy n byw yn y sector rhentu preifat. Am y prosiect Mae r ymchwil hwn yn rhan o gyfres barhaus o adroddiadau sy n monitro tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru. Mae r papur hwn yn defnyddio r setiau data cyhoeddus diweddaraf yn y Deyrnas Unedig i ymchwilio i r tueddiadau, a u deall. I GAEL MWY O WYBODAETH Mae r crynodeb hwn yn rhan o raglen ymchwil a datblygu Sefydliad Joseph Rowntree. Mae r safbwyntiau n eiddo i r awduron ac nid ydynt o anghenraid yn cyd-fynd â rhai Sefydliad Joseph Rowntree. Mae adroddiad Monitro tlodi ac allgáu cymdeithasol ar gael i w lawrlwytho am ddim o wefan Sefydliad Joseph Rowntree, www.jrf.org.uk Gallwch ddarllen mwy o grynodebau ar www.jrf.org.uk Mae fformatau eraill ar gael ISSN 0958 3084 Joseph Rowntree Foundation The Homestead 40 Water End York YO30 6WP Rhif ffôn: 01904 615905 e-bost: publications@jrf.org.uk mailto: publications@jrf.org.uk Cyf: 3143