NEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!

Similar documents
Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

Buy to Let Information Pack

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

Deddf Awtistiaeth i Gymru

Wythnos Gwirfoddolwyr

Family Housing Annual Review

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

Bwletin Gorffennaf 2017

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Welsh Conservative Manifesto for Local Government

Bwletin i Rieni - Hydref 2014

Cefnogi gwaith eich eglwys

The One Big Housing Conference

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Business development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

No 7 Digital Inclusion

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi?

Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

GWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru. 1

Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg

Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol

Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

Cyngor Cymuned Llandwrog

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

Dyfarniadau Arian i Bawb Dyddiad embargo: 04/04/2016

W32 05/08/17-11/08/17


PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg

SAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi

Wreiddio. Crynodeb. Dinas a Sir. yn y pen draw. Abertawee. newydd i CDSA. equivalent/fte) yn. corfforaethol ailddefnyddio, m 2.

Newyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

ATB: Collective Misunderstandings

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC

Development Impact Assessment

Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth

Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU

Cyngor Cymuned Y Fali Community Council

PR and Communication Awards 2014

Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018

europe rittany Wales a partner for Llydaw, partner i Gymru

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )

Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus

Grwp Rheoli Adeiladu canllawiau rheoli adeiladu 2018

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.

Magnox s socio-economic scheme has donated 50,000 to the Cylch Y Llan Trust to transform the former Grade II* St Deiniol s Church in Llanuwchllyn.

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014

CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016

Adopting Preventative Approaches Shared Learning Seminar Seminar Dysgu a Rennir Mabwysiadu Dulliau Ataliol

Llogi Cyfleusterau Venue Hire

Profion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697

Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg

Bangoriad /6/04 1:41 pm Page 1. The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor

Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin

Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol:

Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg

Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr SAMPL

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

Dyfarniadau Arian i Bawb Dyddiad embargo: 09/02/2016

YMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

BODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG

Hydref Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau.

Gwlad, Gwlad. Hyfforddi, Gweithio, Byw yng Nghanolbarth Cymru

Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC

Rural Crime Forum. MONDAY 23 JULY :00-12:30 FUW Building Royal Welsh Showground. Panel Members. Are we doing enough to tackle rural crime?

Llenydda a Chyfrifiadura

Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil

Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor University of Wales, Bangor Alumni Magazine

Transcription:

Rhifyn 55 Haf 2012 Elusen Rhif 1043989 Cwmni Cyfyngedig gan Warant rhif 2993429 NEWS www.avow.org www.avow.org Tŷ Avow 21 Egerton Street 21 Stryd Egerton Wrexham Wrecsam LL11 1ND Tel/Ffôn: 01978 312556 Fax/Ffacs: 01978 352046 info@avow.org www.avow.org Engaging with everybody in Wrexham County Borough Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw! www.avow.org Gwefan newydd AVOW Mae r wefan newydd wedi ei chreu ac mi fydd hi n haws ac yn gynt i chi dderbyn gwybodaeth am ein gwasanaethau. Rhowch wybod i ni be dach chi n feddwl o wefan newydd AVOW. Be dach chi n ei hoffi a beth sydd angen i ni ei wella? E-bostiwch info@avow.org neu ffoniwch 01978 312556 gyda ch barn a ch syniadau. Nodweddion newydd: Calendr Digwyddiadau (fe gewch chi 1 wybodaeth a dolenni defnyddiol, ffurflenni cadw lle ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau, cymorthfeydd a hyfforddiant, a gwybodaeth am swyddi ac ati) Llogi ystafell ac offer; Cyfeiriadur Cymunedol; Tanysgrifio i n cylchlythyrau a n e-fwletinau; Dogfennau, dolenni a gwybodaeth ddefnyddiol i chi a ch mudiad Rydym ni wedi ceisio gwneud y wefan yn hawdd i bawb ei defnyddio.

Yn Y rhifyn hwn Peidiwch ag anghofio... 3 Holi Gwirfoddolwr AVOW 3 Cylchlythyr ac aelodaeth AVOW 3 Cysylltwch â ni trwy r Cyfryngau Cymdeithasol 4 Cymunedau 2.0 4 Dathlu Gwirfoddoli a r Gymuned a Diwrnod Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Parc Caia 5 Sesiwn Recriwtio Gwirfoddolwyr 5 Wythnos y Gofalwyr 6 Diwrnod Mawr Iechyd 2012 7 Llwyddiannau AVOW a Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam 8 Voice Premier ffilm fer Wrecsam, Mai r 17eg 9 Cais Lleisiau Lleol Wrecsam yn mynd o nerth i nerth 9 Diwrnod Cenedlaethol Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig, Awst y 12fed 9 Ewch yn ôl i weithio! 10-11 Gwirfoddoli i chi 10 Lle i Oedolion Ddysgu 10 Ollie s Snax 11 Mentoriaid yn helpu pobl yn ôl i weithio 11 Hanes Sue 11 Y Parc 12 Diwrnod Rhyngwladol y Merched, Mawrth yr 8fed 2012 12 Murlun Fy Wrecsam i 12 Cynllun Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Wrecsam 2011-2012 13 Busnesau yn Cefnogi Cymunedau 13 Prosiect Grant Dwyieithrwydd 13 Hyfforddiant AVOW 14 Ymddiriedolwyr a Staff AVOW I wybod mwy am ymddiriedolwyr a staff AVOW ewch i www.avow.org/our-trustees/ a www. avow.org/about-us/our-staff/ E-Newsletter Os bydd well gennych dderbyn y newyddlen dros e-bost, gadewch i ni wybod drwy gysylltu gyda reception@avow.org neu tanysgrifiwch ar-lein i www.avow.org/subscribe-to-newsletters/ Be dach chi n feddwl o NEWYDDION AVOW? Gobeithio eich bod yn mwynhau darllen Newyddion yr Haf. Anfonwch unrhyw sylw at info@avow.org neu ffoniwch 01978 312556 i ddweud be dach chi n feddwl o n newyddion. 2 AVOW Tŷ Avow 21 Egerton Street 21 Stryd Egerton Wrexham Wrecsam LL11 1ND Tel/Ffôn: 01978 312556 Fax/Ffacs: 01978 352046 info@avow.org www.avow.org

Peidiwch ag anghofio... Dathlu Gwirfoddoli a r Gymuned a Diwrnod Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Parc Caia (gwelwch dudalen 5) Mehefin yr 16eg Wythnos y Gofalwyr (gwelwch dudalen 6) Mehefin y 18fed-22ain Diwrnod MAWR Iechyd (gwelwch dudalen 7) Mehefin y 19eg Diwrnod Cenedlaethol Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig Awst y 12fed Sesiwn Recriwtio Gwirfoddolwyr yn Nhŷ AVOW Dydd Mawrth cyntaf pob mis Gorffennaf y 3ydd, Awst y 7fed, Medi r 4ydd 10.30yb-11.30yb Holi Gwirfoddolwyr AVOW Carole Binnersley Dywedwch rywbeth bach amdanoch chi ch hun: Dw i n briod gyda thair o enethod 23, 21 ac 19 mlwydd oed. Mae gen i hefyd wyres fach. Dw i wedi bod yn gwirfoddoli gydag AVOW ers dros ddwy flynedd a dw i n bwriadu parhau i wneud hynny hyd y medraf neu than mae fy angen. Pam ddaru chi ddechrau gwirfoddoli? Mi ddechreuais i wirfoddoli er mwyn ennill profiad ymarferol ar gyfer fy ngradd Sesiwn Galw Heibio i Ofalwyr yn Nhŷ AVOW Pob dydd Llun (ar wahân i ŵyl y banc) 10yb-12yp (Cyfiawnder Troseddol, Gweithio gyda phobl sydd ag Ymddygiad Troseddol) ac er mwyn ychwanegu rhywbeth at fy CV. Rŵan dw i n gwirfoddoli oherwydd fy mod i mewn sefyllfa i helpu pobl lai ffodus na mi. Pa effaith mae gwirfoddoli wedi ei gael arnoch chi? Mae gwirfoddoli wedi gwneud i mi sylweddoli, di o m bwys pa mor ddrwg mae pethau, bod yna bobl mewn sefyllfa llawer gwaeth na mi. Felly, mae gwirfoddoli wedi gwneud i mi ddiolch am y pethau sydd gen i. Mae pobl, beth bynnag eu cefndir a u problemau, yn fodau dynol gyda theimladau. Petai pawb yn parchu ei gilydd byddai r byd yn well lle o lawer. Ydych chi n aelod o AVOW? Ddim eto. I ymuno â ni ac i weld beth ydi r manteision o ddod yn aelod ewch i www.avow.org/become-a-member. Dydi o ddim yn costio llawer i ymuno ac mae gymaint Nid yw n costio llawer, ond mae cymaint gallwch fanteisio o. Fel arall, allwch chi danysgrifio i dderbyn ein cylchlythyron a n e-fwletinau yn RHAD AC AM DDIM drwy ymweld www.avow.org/subscribe-tonewsletters/ neu roi gwybod i ni drwy e-bostio reception@avow.org. Mae AVOW yn cynhyrchu nifer o gylchlythyrau eraill yn cynnwys: Y Cylchlythyr Ariannu Cylchlythyr y Ganolfan Gwirfoddoli Y Cylchlythyr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Cylchlythyr Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam Cylchlythyrau AVOW Os hoffech gael ei gynnwys ar y rhestr bostio ar gyfer unrhyw un o r cylchlythyrau neu os oes gennych erthygl hoffech gynnwys taflenni newyddion cysylltwch â AVOW: ffôn: 01978 312556 e-bost: info@avow.org neu ewch i n gwefan www.avow.org/subscribe-to-newsletters/ 3

Cysylltwch â ni trwy r Cyfryngau Cymdeithasol Oeddech chi n gwybod bod modd i chi gysylltu â ni trwy Facebook a Twitter? Rydym ni wedi bod yn defnyddio r cyfryngau cymdeithasol ers peth amser ond byddem ni wrth ein bodd petaem yn medru cyfathrebu mwy efo chi. Mae mwy a mwy o bobl a mudiadau yn Sir Wrecsam yn defnyddio r Cyfryngau Cymdeithasol, felly ewch i n tudalen Facebook a Twitter i wybod Tudalen Facebook AVOW pa ddigwyddiadau a hyfforddiant sydd gennym ni ar y gweill ac i dderbyn gwybodaeth am wasanaethau a grwpiau. Mae r tudalennau yn ffordd hawdd ac anffurfiol i chi roi gwybod i ni am eich anghenion a sut gallwn ni gydweithio i wneud gwahaniaeth. Felly, cofiwch ymuno â ni ar Facebook a Twitter! B l w y d d y n gyntaf AVOW ar Facebook! Cafodd tudalen Facebook AVOW ei chreu ar Fai r 24ain 2011. Rydym ni n hapus iawn efo r ffordd mae r dudalen wedi datblygu a chyda r niferoedd sydd wedi ymuno â ni. Felly, diolch i bawb sydd wedi ein hoffi ni! Hoffwch ni ar Facebook, teipiwch AVOW yn y blwch chwilio i ddod o hyd i ni. Tudalen Facebook Wrexham Carers Service @WrexhamCarers Ydych chi n gofalu am rywun neu a oes rhywun yn gofalu amdanoch chi? Hoffwch Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam (Wrexham Carers Service) ar Facebook neu dilynwch ni ar Twitter! Tudalen Facebook Play On Plas Madoc Os hoffech chi wybod mwy am Chwarae ym Mhlas Madog, ychwanegwch Play on Plas Madoc fel eich ffrind ar Facebook. Rydym ni newydd ei lansio, ond mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael i chi! Angen cymorth i fynd ar-lein? Mae prosiect Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru, Cymunedau 2.0, bellach ar gael yn Wrecsam Bwriad y prosiect ydi cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol i fanteisio mwy ar dechnoleg ddigidol a, thrwy wrth wneud hynny, datblygu a dod yn fwy cynaliadwy. Mae r prosiect hefyd yn cynnig gweithgareddau cymunedol a hyfforddiant ar gyfer pobl na fyddan nhw fel arall yn mynd ar-lein. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kevin Roberts: kevin.roberts@walescooperative. org neu 0845 474 8282 / 07788 314711 neu ewch i www.communities2point0.org.uk 4

Dathlu Gwirfoddoli a r Gymuned a Diwrnod Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Parc Caia Dydd Sadwrn, Mehefin yr 16eg 2012, 11yb 4yp Maes Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines, Wrecsam Dyma ddigwyddiad wedi ei drefnu gan AVOW a Grŵp Amgylcheddol Parc Caia. Bwriad y digwyddiad ydi dangos pa wasanaethau sydd gan fudiadau gwirfoddol a statudol ar gyfer trigolion Sir Wrecsam. Gyda thros 100 o stondinau, rydych chi n siŵr o ganfod rhywbeth fydd yn mynd â ch bryd o gyngor ar sut i fyw n wyrdd i wybodaeth ar sut i ymdopi â salwch. Drwy gydol y dydd bydd amrywiaeth o adloniant ar y llwyfan yn Llwyn Isaf, o sioeau grwpiau drama i gorau a bandiau lleol. Bydd yna hefyd weithgareddau a phaentio wynebau i blant bach. Bydd rhywbeth ar gyfer pob oed. Mae gennym ni hefyd sioe gŵn ac anifeiliaid anwes felly dewch â ch anifail anwes efo chi! Os hoffech chi wybod mwy am y gwasanaethau sydd yn Wrecsam, yna dewch draw a chymryd rhan yn y digwyddiadau di-ri. Dywedodd John Gallanders, Prif Swyddog AVOW, Dyma gyfle gwych i fudiadau ddangos pa wasanaethau sydd ganddyn nhw yn Wrecsam ac i bobl wybod mwy amdanyn nhw. Mae croeso i unrhyw un ddod draw i dderbyn mwy o wybodaeth ac i fwynhau r gweithgareddau. Am fwy o wybodaeth ffoniwch AVOW ar 01978 312556 neu anfonwch e-bost at lynsey.edwards@avow.org Oes angen gwirfoddolwyr arnoch chi? Sesiwn Recriwtio Gwirfoddolwyr Beth am ddod i n Sesiwn Recriwtio Gwirfoddolwyr a recriwtio gwirfoddolwyr i helpu efo gwaith eich grŵp? Ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis mae yna sesiwn galw i mewn ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli n lleol. Mae r sesiynau ar agor i r cyhoedd rhwng 10 a 11.30 y bore yn Nhŷ AVOW, 21 Stryd Egerton, Wrecsam Byddwn ni n disgwyl i bob mudiad neu grŵp sydd am recriwtio i gyrraedd tua 9.30 ac aros tan hanner dydd os yn bosibl. Bydd y sesiwn yn gyfle i chi sôn am brofiad ac arbenigedd eich mudiad neu grŵp ac am sut y gall gwirfoddolwyr eich helpu. I gadw lle ar gyfer eich mudiad chi anfonwch e-bost at vicky.hand@avow.org neu ffoniwch 01978 312556 5 Lluniau o Ddathliadau Gwirfoddoli 2011! Ymunwch â ni eleni ar ddydd Sadwrn, Mehefin yr 16eg!

Wythnos y Gofalwyr Mehefin y 18fed - 22ain 2012 Mae Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam yn AVOW yn trefnu wythnos o weithgareddau ar gyfer Wythnos y Gofalwyr 2012. Ydych chi n ofalwr? Yna, dewch draw ac ymuno efo ni! Mae gweithgareddau r wythnos yn rhoi cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr sy n byw yn y Sir. Mae r wythnos yn gyfle i ofalwyr dderbyn gwybodaeth, cymdeithasu a chael hwyl. Mae r digwyddiadau n cynnwys: Sesiwn galw heibio i ofalwyr (gyda therapïau) Diwrnod Mawr Iechyd (gwelwch dudalen 7) Bwffe Haf Tripiau i Ofalwyr Digwyddiad i ddynion sy n gofalu Stondinau Gwybodaeth yn Ysbyty r Waun ac Ysbyty Maelor, Wrecsam I wybod mwy ewch i n tudalen Facebook neu Twitter. Os hoffech chi ddod i un o r digwyddiadau uchod cysylltwch â ni cyn gynted â phosib. Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam Tŷ Avow, 21 Stryd Egerton, Wrecsam, LL11 1ND Ffôn: 0800 276 1070 E-bost: carers@avow.org www.avow.org Lluniau o ddathliadau Wythnos y Gofalwyr 2011! Ymunwch â ni ar Fehefin y 18fed 22ain! I wybod mwy am grwpiau, sesiynau galw heibio, fforymau ac ymgynghoriadau i ofalwyr ewch i www.avow.org/carers-what-we-do/ 6

2012 Diwrnod MAWR Iechyd yn ôl ar gyfer Wythnos y Gofalwyr Yn dilyn ar lwyddiant y llynedd mae Diwrnod MAWR Iechyd 2012 ar ddydd Mawrth, Mehefin y 19eg yn Neuadd Goffa Wrecsam rhwng 10.30 a 4yp. Mae Grwpiau Cymorth Iechyd Wrecsam, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol AVOW a Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam wedi ymuno â i gilydd i drefnu bod arbenigwyr o Ysbyty Calon a Brest Lerpwl, Bwrdd Iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, cymdeithasau proffesiynol a mudiadau gwirfoddol yn dod i siarad efo cleifion, gofalwr a gweithwyr proffesiynol am faterion iechyd penodol. Mi fydd yna dros 40 o fudiadau gyda stondinau gwybodaeth a gweithgareddau gwahanol; o hyrwyddo iechyd i ofalu am rywun sydd ag anghenion iechyd neu gymdeithasol cymhleth a lluosog. Mae rhywbeth i bawb yn ystod Diwrnod MAWR Iechyd meddai Chris Roberts, Rheolwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol AVOW, mi fydd yna gyngor ar gael y gorau o ch meddyginiaeth, gwiriadau iechyd a sgyrsiau am ofalu am eich iechyd a ch lles. Ar ben hynny, bydd nifer o arbenigwyr ar gael i sôn am gyfleoedd a gwasanaethau r sector gwirfoddol sy n gwella ar y gefnogaeth a r gofal y mae pobl yn eu derbyn drwy r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae r digwyddiad hefyd yn addas i bobl sy n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac sydd eisiau dysgu mwy am y sector gwirfoddol a beth mae n gynnig i bobl. Mae lluniaeth ar gael drwy gydol y dydd. Os ydych chi n gyfrifol am fudiad gwirfoddol neu gyhoeddus ac eisiau gosod stondin ar y diwrnod cysylltwch â Mathew Hampson yn AVOW (01978 312556 neu mathew.hampson@avow.org) cyn gynted â phosib gan nad oes llawer o le ar ôl. Os ydych chi n ofalwr, yn weithiwr proffesiynol neu n glaf ac yn bwriadu dod am dro i n gweld ar y diwrnod, nid oes angen i chi archebu lle. Fodd bynnag, os ydych chi n bwriadu dod i un o r seminarau a fyddech chi n cysylltu â ni yn y bore fel bod modd i ni gadw lle ar eich cyfer. Lluniau o Ddiwrnod Mawr Iechyd 2011! Ymunwch â ni ar Fehefin y 19eg! 7

Llwyddiannau AVOW a Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam! Mae AVOW wedi llwyddo i dderbyn safon PQASSO a statws y Ddraig Werdd! Mae mwy a mwy o bwysau ar gwmnïau a mudiadau, gan gynnwys AVOW, i ystyried eu goblygiadau amgylcheddol. Fe geisiodd AVOW am Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd sy n rhoi System Rheoli Amgylcheddol i fudiadau allu ymchwilio a lleihau eu heffaith amgylcheddol. Mae PQASSO yn safon ansawdd wedi ei ddatblygu ar gyfer y sector gwirfoddol gan y Gwasanaeth Gwerthuso Elusennau. Mae r safon yn galluogi defnyddwyr, yn ogystal â chomisiynwyr a chyrff ariannu, i wirio ansawdd a hygrededd unrhyw fudiad. Fe lwyddodd AVOW i fodloni gofynion deuddeg o feysydd ansawdd gan gynnwys dulliau llywodraethu, cynllunio, arwain a rheoli. Roedd gofyn hefyd i AVOW gwblhau asesiad gan aseswyr allanol. Gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff AVOW sy n gyfrifol am lwyddiant ac ansawdd gwasanaeth AVOW. Nid tystysgrifau yn unig mo r safonau hyn, maen nhw n dangos beth mae staff a gwirfoddolwyr AVOW yn ei gynrychioli a sut mae r mudiad yn gweithredu. Rydym ni n uchelgeisiol ac fe wnawn ein gorau i wella n gwasanaethau a n dulliau gweithio pob dydd. Mae Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam wedi llwyddo i fodloni r gofynion Marc Ansawdd Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr. I dderbyn y safon yma mae gofyn i Ganolfannau Gofalwyr fodloni gofynion penodol. Fe ddaeth person annibynnol o r Ymddiriedolaeth i ymweld â r gwasanaeth gofalwyr i holi r rheolwr a r staff ynglŷn â dulliau gweithio, gweithdrefnau a r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr. Cafodd grŵp o ofalwyr a oedd wedi dod i r sesiwn galw heibio ar fore dydd Llun hefyd eu holi am ansawdd y gwasanaeth maen nhw n ei dderbyn. Roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben ac roedd Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr yn hapus iawn ein bod yn derbyn y safon yma! I wybod mwy am ein gwasanaethau a r gefnogaeth sydd ar gael ewch i www.avow.org Mae n hawdd. Ewch i n gwefan ac edrychwch ar ein calendr i weld a oes gennym ni ystafell yn rhydd neu offer ar gael ar ddiwrnod penodol. Fe gewch chi lawer o wybodaeth gan gynnwys y prisiau! Mae AVOW yn cynnig dewis eang o wasanaethau ymarferol i grwpiau elusennol a chymunedol yn Wrecsam W Y D D O C H C H I? Os ydych chi n unigolyn neu n fudiad, o r Trydydd Sector neu o blith y cyhoedd, yn aelod, daliwr trwydded neu ymddiriedolwr AVOW, fe allwn ni gynnig cymorth, cyngor a gwasanaethau o bob math i chi: llogi ystafell benthyg offer ffacsio lamineiddio argraffu ffotocopïo cyflogau awdit (archwiliad annibynnol) lle i gynnal swyddfa Am fwy o wybodaeth ewch i: www.avow.org neu ffoniwch 01978 312556 8

Voice - Premiere ffilm fer Wrecsam, Mai r 17eg Cais Lleisiau Lleol Wrecsam yn mynd o nerth i nerth Yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2012 aeth Tîm Lleisiau Lleol a chynhyrchwyr ffilmiau Partneriaeth Cymuned Dyffryn Dyfrdwy o amgylch y sir yn recordio lleisiau ac yn gwrando ar beth oedd gan y trigolion i w ddweud am eu llais. Dywedodd Jennifer Naylor, Swyddog Datblygu Prosiect Llais Mawr AVOW, roedd hi n anrhydedd clywed storïau pobl a gweld sut oedden nhw n teimlo am eu llais ac am y materion oedd yn bwysig iddyn nhw. Fe gawsom ni farddoniaeth, canu, chwerthin a storïau trist. Mae r hyn a ddywedodd pobl wedi pwysleisio r angen am ein cynllun a r dulliau arloesol rydym ni n bwriadu eu defnyddio i annog pobl i gymryd rhan. Yn ymddangos yn y ffilm mae Côr Cymunedol Wrecsam. Fe sefydlwyd y côr ym mis Ionawr 2012 ac erbyn hyn mae yna 160 o aelodau. Mae Stewy, cerddor ifanc o r Glasshouse yng Nghefn Mawr, yn sôn am yr hyder y mae o wedi ei fagu wrth berfformio o flaen cynulleidfa ddiduedd. Mae Jeanette, a fu i ni ei chyfarfod yn nigwyddiad Dyfodol Disglair, wedi ysgrifennu cerdd y mae hi n gobeithio fydd yn achub nifer o fywydau. Cafwyd premiere y Voice yn ystod ymgynghoriad Lleisiau Lleol Wrecsam ar ddydd Iau, Mai r 17eg ym Mhrifysgol Glyndŵr. I wybod mwy ffoniwch Jennifer neu Luke ar 01978 312556 neu anfonwch e-bost at jennifer.naylor@avow.org Jan Lancelot - darllen ei barddoniaeth sydd wedi cael ei gyhoeddi Uchod - Côr Cymunedol Wrecsam 9 Yn dilyn llwyddiant y cam cyntaf ar gyfer cynllun Lleisiau Lleol y Loteri, mae AVOW wedi sicrhau grant datblygu o 25,000 i fwrw ymlaen gyda u prosiect o annog pobl i gymryd rhan. Os ydym ni n llwyddo gyda r ail gam, fe allwn ni sicrhau bron i filiwn o bunnoedd ar gyfer rhoi mwy o lais i drigolion Wrecsam ar faterion sydd yn eu heffeithio. Mae Jennifer Naylor a Luke Walker wedi bod yn datblygu portffolio o brosiectau. Mae r prosiectau hyn yn cynnwys mudiadau sy n defnyddio dulliau arloesol i annog pobl hŷn, pobl anabl a phobl sy n byw yng nghefn gwlad i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol ac amgylcheddol. Bydd bancio amser a chyllidebu hefyd yn cael eu defnyddio i wella r cyfleodd i bobl wneud rhywbeth ymarferol. Am fwy o wybodaeth ffoniwch AVOW ar 01978 312556 neu anfonwch e-bost at jennifer.naylor@avow.org Datblygu cynlluniau ar gyfer y Cais Lleisiau Lleol Wrecsam y Loteri Diwrnod Cenedlaethol Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig, Awst y 12fed, 2012 Mae Diwrnod Cenedlaethol Ieuenctid y Cenhedlodd Unedig yn dathlu r cyfraniad mae pobl ifanc yn ei wneud yn eu cymunedau ac ar draws y byd. Bydd gennym ni ddigwyddiadau a gweithgareddau (cerddoriaeth, gwaith gwirfoddol a chelf) i arddangos medrau a chyfraniad pobl ifanc Plas Madog. Byddwn yn cadarnhau r dyddiad a r amser cyn bo hir. Os oes gennych chi syniadau neu os hoffech chi gymryd rhan cysylltwch â Clare Barnes-Kandeh ar 01978 813911 neu clare.barnes-kandeh@ avow.org

Ewch yn ôl i Mae gan AVOW nifer o brosiectau a gwasanaethau i helpu pobl fynd yn ôl i weithio. Mae Prosiect y Porth Ymgysylltu, Camau i r Dyfodol a Goresgyn Rhwystrau yn dod i ben cyn bo hir. Mae llawer o bobl wedi mynd yn ôl i weithio yn sgil y prosiectau yma a bydd AVOW yn parhau â r gwaith da gan gynnig gwasanaethau hanfodol i helpu pobl fynd yn ôl i weithio. Twf Swyddi Cymru Mae Llywodraeth Cymru a WCVA yn creu 1000 o swyddi newydd yn y sector gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed. Mae cynllun Twf Swyddi Cymru yn ariannu r swydd (rhwng 25 a 40 awr yr wythnos) gan dalu r lleiafswm cyflog a r cyfraniad Yswiriant Gwladol. Am fwy o wybodaeth fe ddylai pobl ifanc ymweld â gwefan Gyrfa Cymru ac fe ddylai cyflogwyr gysylltu â WCVA ar 08002888329. Gwirfoddoli i chi! Ydych chi n byw yn Sir Wrecsam ac yn teimlo n unig neu n teimlo ch bod wedi eich eithrio yn eich cymuned? Ydych chi erioed wedi ystyried Gwirfoddoli fel ffordd o oresgyn hyn? Drwy wirfoddoli fe allwch chi - ymwneud mwy â gweithgareddau lleol, dysgu pethau newydd neu rannu eich sgiliau gydag eraill gwella ch sgiliau cymdeithasol, cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd! Bydd AVOW yn gweithredu prosiect Gwirfoddoli MAWR ledled y sir diolch i arian y Gronfa Loteri Fawr. Bydd cefnogaeth a chymorth tymor byr ar gael i bobl sy n byw mewn ardaloedd anghysbell neu i bobl sydd angen cymorth ychwanegol i wirfoddoli n annibynnol. Mae cymorth gyda r byd gwaith, magu hyder, meithrin sgiliau a rhannu cyfleodd yn elfennau pwysig o r prosiect. I fynd i r afael â r elfennau hyn rydym ni n cynnal cyfarfodydd grŵp a chyfarfodydd un-i-un a sesiynau blas mewn adeiladau cymunedol ledled y sir. Mae r sesiynau anffurfiol a r cyfleodd i feithrin sgiliau wedi eu harwain gan wirfoddolwyr cymwys a chyfeillgar sy n annog pobl i ddysgu pethau newydd mewn lleoliad cymunedol. Am fwy o wybodaeth ar y Prosiect Gwirfoddoli MAWR cysylltwch â Lisa Jones ar 01978 312556 neu lisa. jones@avow.org 10 Bydd AVOW yn gweithio mewn partneriaeth â r Ganolfan Fyd Gwaith, Cysylltiadau Allweddol a r Brifysgol Agored i ddarparu lle am ddeuddydd yr wythnos i oedolion ddysgu ym Mhlas Madog. Ar fore dydd Mawrth (9 tan 12) bydd Clwb Swyddi lle cewch gefnogaeth i ysgrifennu CV a chwilio am waith a chyfle i ddysgu r sgiliau angenrheidiol y byddwch chi eu hangen yn y gweithle. Mae rhwydd hynt i bobl ddod draw i r sesiwn yma i astudio. Ar brynhawn dydd Gwener (1 tan 4) bydd lle diogel a thawel i bobl ddod i ddysgu, astudio a mynychu cyrsiau fel cwrs Dysgu Agored y Brifysgol Agored sy n rhad ac am ddim. Bydd tiwtor cymwys yn cynorthwyo pawb i feithrin a datblygu sgiliau sylfaenol. Bydd pecyn dysgu rhad ac am ddim i bawb sy n dod eto. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Victoria Westaway drwy ffonio 01978 813918 neu anfon e-bost at victoria.westaway@ avow.org

weithio! Mae Ollie s Snax yn dal i ddarparu cyfleoedd i bobl, sydd naill ai wedi bod yn camddefnyddio sylweddol neu wedi bod yn ddi-waith, wirfoddoli mewn sefydliad arlwyo. Hyd yma mae 7 person wedi llwyddo i ennill cymwysterau ac mae 3 arall yn aros am eu canlyniadau. Mae gwirfoddolwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd wedi manteisio ar y gwasanaeth yma. Braf ydi cael paned a brechdan ar ôl bore caled o waith. Mae r staff yn gyfeillgar a r bwyd a r diodydd yn ffres. Gobeithio y byddwch chi n mynd o nerth i nerth cwsmer Ollie s Snax Mentoriaid yn helpu pobl yn ôl i weithio! Mae Mentoriaid yn gallu newid bywydau pobl er gwell drwy annog a chynorthwyo pobl i wirfoddoli neu fynychu cyrsiau a hyfforddiant er mwyn ennill cymwysterau. Mae gan y mentoriaid hefyd wybodaeth am y gwasanaethau addas a all gefnogi pobl a thrwy helpu eraill fe all y mentoriaid eu hunain ennill sgiliau cymdeithasol a dod yn fwy cyfrifol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â r Tîm Mentora ar 01978 312556 neu anfonwch e-bost at Tony Ormond (tony.ormond@avow.org) Hanes Susan Jones Mentor Gwirfoddol Sue ydw i a dw i n 55 mlwydd oed. Mi ges i fy ngeni a m magu yn Wrecsam ac yno mae fy nghartref hyd heddiw. Dw i wedi bod yn fentor gwirfoddol ers mis Mawrth 2012 ac wedi mynychu sawl cwrs yn ystod fy nghyfnod fel Mentor. Un o r rhesymau pam y des i n Fentor ydi r prinder mewn cymorth i bobl. Yn 2010, awgrymodd fy ffrind i mi fynd i CAIS ger Coleg Iâl a gofyn iddyn nhw am y gwasanaethau sydd ar gael i m cynorthwyo. Mi ddywedon nhw wrtha i am gysylltu â Mentoriaid AVOW. Ar ôl cysylltu gydag AVOW mi ges i Fentor i m helpu i. Roeddwn i n cyfarfod yn rheolaidd gyda m Mentor ac mi gefais restr o gyrsiau addas y gallwn i eu mynychu. DAFFA (Cymdeithas Pêl-droed Di-gyffur a Di-alcohol ) Sgorio yn erbyn cyffuriau Ymdopi gyda phethau fel tîm! Herio r Stereoteipio! Dewch i daclo ch problemau trwy bêl-droed! Mwynhau! Mae DAFFA yn wasanaeth newydd dan ofal W.A.S.U.P a Phrosiect Ymyrraeth er Cyfiawnder Troseddol. Ar gyfer bechgyn dros 16 mlwydd oed Ymarfer Pêl-Droed AM DDIM ym Mhrifysgol Glyndŵr. POB DYDD GWENER 9.45 tan11yb Mae r Cynllun Mentora nid yn unig yn eich helpu gyda ch dibyniaeth, ond mae n helpu chi i ddatblygu a byw eich bywyd. Ers 2010 dw i wedi mynychu sawl cwrs fel Diogelwch Bwyd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, Magu Hyder, Cymryd Cofnodion, Paratoi i Ddysgu yn y Sector Gydol Oes a chwrs Lefel 2 a 4 mewn Mentora. Drwy ddod yn Fentor Gwirfoddol dw i n gallu rhoi rhywbeth yn ôl i AVOW a fu n gefn i m rhieni. Fy Mentor ddaru fy annog i ddod yn Fentor Gwirfoddol. Gyda fy mod i n gwella o alcoholiaeth dw i n deall beth mae pobl eraill yn mynd trwodd ac oherwydd hynny dw i n teimlo fy mod mewn sefyllfa dda i w helpu. Os ydych chi neu rywun rydych chi n ei adnabod yn dioddef o gamddefnyddio sylweddau, cysylltwch â r Mentoriaid rŵan! Partneriaeth Cynghrair Defnyddwyr Gwasanaeth Wrecsam (W.A.S.U.P.) Yn pontio r bwlch rhwng darparwyr a defnyddwyr Ydych chi n defnyddio gwasanaethau cyffuriau ac alcohol yn Wrecsam? Hoffech chi wella r gwasanaethau a r ffyrdd mae pobl yn cael budd ohonyn nhw? Mae W.A.S.U.P. yn fforwm newydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sydd dan ofal defnyddwyr a chynddefnyddwyr gwasanaeth. Ein bwriad ydi gwella ansawdd gwasanaethau cyffuriau ac alcohol yn Wrecsam. Bydd cyfarfodydd wythnosol a Phrif Fforwm unwaith y mis. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tony Ormond: tony.ormond@avow.org neu 01978 312556 / 07766031595 11

Y Parc Y Parc ydi r parc chwarae antur ym Mhlas Madog. Mae r parc dan ofal staff cymwys ac ar agor pob dydd ar wahân i ddydd Mawrth a dydd Gwener. Mae r parc yn rhad ac am ddim ac ar gyfer plant dros 5 oed (ond mae croeso i blant dan 5 ddod cyn belled â bod oedolyn efo nhw). Mae r amser agor yn newid o dro i dro, felly byddai n well i chi edrych ar Facebook (gwelwch dudalen 3). Mae r parc chwarae antur yn rhan o r cyfleoedd chwarae sydd ar gael i blant Stad Plas Madog ac mae n cynnwys Chwarae Stryd ac Ewch Allan i Chwarae. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01978 813912 / 07856229029 neu ewch i dudalen Facebook Play on Plas Madoc. Murlun Fy Wrecsam i Roedd Fy Wrecsam i yn fenter gymunedol i greu murluniau. Cafodd grwpiau cymunedol ar draws y sir y cyfle i ddylunio a chreu murluniau o u hardal. Unwaith roedd pob murlun wedi ei orffen cawson nhw eu rhoi at ei gilydd i ffurfio map o r Sir yn dangos holl nodweddion unigryw yr ardaloedd. Mae r murlun wedi ei osod ar dalcen wal Tŷ AVOW. Ar Fai r 14eg, dadorchuddiodd Maer Wrecsam (y Cynghorydd Ian Roberts) y murlun yn ystod y lansiad swyddogol. Cafodd pawb a fu n brysur yn cynllunio a chreu r murluniau wahoddiad i ddod i r lansiad. Cafodd y prosiect ei ariannu gan Arian i Bawb, Cronfa r Loteri Fawr. Diwrnod Rhyngwladol y Merched Mawrth yr 8fed 2012 I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar Fawrth yr 8fed 2012, trefnwyd digwyddiad i ferched Plas Madog yn y Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau. Bwriad y diwrnod oedd dathlu rôl merched yn y gymdeithas heddiw a rhoi cyfle iddyn nhw gymdeithasu, rhannu profiadau a dysgu. Daeth 34 merch i r digwyddiad i fwynhau gweithdy celf, gweithdy ar sut i wneud nwyddau moethus a thriniaethau ymlacio gan wirfoddolwyr y Groes Goch. Yn ogystal â hyn roedd un o wirfoddolwyr Cynllun Mentora AVOW yn gwneud pethau allan o falŵns i r merched a r plant fynd adref efo nhw. Roedd y diwrnod yn gyfle i r merched, beth bynnag eu cefndir a u hoed, gymdeithasu a rhannu profiadau. Ar ôl y cinio bwffe, cawsom gyflwyniad gan Katrina Sumner, merch leol, ar y rhwystrau yr oedd hi n eu hwynebu a sut y bu iddi eu goresgyn i ennill Dysgwr o Bell y Flwyddyn yng Ngwobrau NIACE Dysgu Cymru yn 2010. Lluniau o ddigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched: 12

Cynllun Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Wrecsam 2011-2012 Yn ystod blwyddyn ariannol 2011/2012 roedd 60,000 ar gael drwy Gynllun Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Wrecsam. Dyma gynllun ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn Sir Wrecsam. Os oedd eu cais yn llwyddiannus roedd modd iddyn nhw dderbyn cyfanswm o 4,000. Daeth 41 cais i law (gyda r holl geisiadau yn dod i gyfanswm o 111,076.59). Roedd 29 o r ceisiadau yn llwyddiannus ac fe dderbyniodd y grwpiau rhwng 227 a 4,000. Isod mae rhestr o r mathau o grwpiau a fu n llwyddiannus ac ar beth fyddan nhw n gwario r arian arno. Eglwysi (sy n cael eu defnyddio i gynnal cyfarfodydd) a Neuaddau Pentref - llenni, bleindiau, drysau a ffenestri newydd, byrddau a chadeiriau, golau gwell, ceginau newydd, insiwleiddio r atig a gwres canolog. Grwpiau Chwarae lle i eistedd, carpedi, offer TG a storfa. Grŵp Geidiau a Sgowtiaid trwsio to r sied. Clybiau Bowlio golau llif, peiriannau torri gwair, ffensys a lloches Côr Meibion siacedi glaw. Mae mudiadau eraill wedi derbyn arian i brynu pethau fel dodrefn, hysbysfyrddau, tŷ gwydr a gazebos ac eraill am wario r arian i wneud mynediad i gadeiriau olwyn. Gardd Gaerog Erlas Mae gwella r mynediad i gadeiriau olwyn yn golygu fod modd i bobl anabl ddod i mewn i r ardd i fwynhau gweithgareddau garddio. Clwb Bowlio Glofa Gresffordd Mae r golau llif wedi gwneud gwahaniaeth mawr a heb y cyngor a r cymorth rydym ni wedi ei dderbyn ni fyddai ein mudiad yn gallu parhau. Rhaid i geisiadau ar gyfer 2012/13 gael ei gyflwyno ar y ffurflenni cais newydd. Cysylltwch â Lynda Williams ar community@avow.org / 01978 312556. Oes ar eich grŵp cymunedol angen ychydig o gymorth? Yn lle ceisio am grantiau beth am i chi ein holi ni i weld a allwn ni eich helpu drwy annog busnesau lleol i ch cefnogi chi. Beth bynnag eich anghenion, boed yn gymorth busnes, lle i gynnal cyfarfod cymunedol, gwirfoddolwyr ar gyfer prosiect amgylcheddol neu eisiau eich bod chi eisiau trefnu digwyddiadau rhannu gwybodaeth, fe wnawn ni ein gorau i wneud yn siŵr fod busnes lleol neu weithiwr proffesiynol yn eich helpu chi. Mae prosiect Busnesau yn Cefnogi Cymunedau wedi bod ar waith yn Wrecsam ers mis Tachwedd 2011 a chyda swyddfa yn Nhŷ AVOW. Ein bwriad ydi gweithio gyda busnesau a phobl leol i geisio eu hannog i rannu eu gwybodaeth, arbenigedd, offer ac unrhyw beth arall gyda u cymuned! Cysylltwch â Ffion Whitham, Cynorthwyydd y Prosiect: ffion@b2cwales.co.uk neu 01978 312556. Fel arall ewch i: www. b2cwales.co.uk / www.avow.org Cynllun Grant Dwyiethrwydd mewn Busnes Mae Menter Iaith Maelor yn rhedeg cynllun grant ar gyfer mentrau cymdeithasol a micro fusnesau yn ardaloedd gwledig Wrecsam. Derbyniodd Black Park Chapel (menter cymdeithasol sydd yn gweithredu fel canolfan gelf ar gyfer pobl sydd gyda anghenion dysgu) grant er mwyn cynhyrchu ystod eang o offer marchnata a oedd yn cynnwys gwefan, baner, ffliers a chardiau busnes. Pwrpas y Grant ydi annog mentrau cymdeithasol a microfentrau (sy n cyflogi hyd at 9 aelod o staff) sydd wedi eu lleoli yn ardal wledig Wrecsam i weithredu n ddwyieithog. Mae r cynllun yn galluogi busnesau a mentrau cymdeithasol i gael hyd at 1600 (gydag uchafswm o 80% o r costau) i gynhyrchu deunyddiau marchnata megis llyfrynnau, pamffledi, posteri, gwefannau, pecynnau, arwyddion ac offer swyddfa. Arriannwyd y prosiect hwn drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig Am fwy o wybodaeth am y grant cysyllwch ag Osian Edwards drwy ffonio 01978363791 neu e-bostiwch busnes@menteriaithmaelor.org 13

Cyrsiau Hyfforddi Mae AVOW yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddiant i unigolion a grwpiau gwirfoddol a chymunedol gyda r bwriad o wella sgiliau a gwneud gwasanaethau lleol yn fwy cynaliadwy. Mae AVOW wedi ymrwymo i gynorthwyo unigolion a grwpiau, ac fel elusen leol mae o mewn lle da ac yn brofiadol yn y maes hyfforddiant cymunedol. Grantiau Addas i Ariannu Mehefin yr 20fed 2012 10 tan 4yp, Ty AVOW 25 y pen I gofrestru ewch i: Ychydig o lefydd ar ol! https://www.surveymonkey.com/s/fitforfund20120620 Sut i farchnata eich sefydliad Mehefin 27 2012 10 tan 4yp, Ty AVOW 25 y pen I gofrestru ewch i: https://www.surveymonkey.com/s/27062012marketyourorg Cymryd Cofnodion Gorffennaf y 5ed 2012 10 tan 4yp, Ty AVOW 25 y pen I gofrestru ewch i: NEWYDD! https://www.surveymonkey.com/s/mintak20120705 Cyfryngau cymdeithasolyn eich sefydliad Gorffennaf 17 2012 10 tan 4yp, Ty AVOW 25 y pen I gofrestru ewch i: NEWYDD! https://www.surveymonkey.com/s/17072012socialmedia Hyfforddiant Ansawdd i Dendro Gorffennaf y 6ed 2012 Amser i w gadarnhau, Tŷ AVOW Mae Tender for Care (sy n helpu mudiadau sy n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol) yn darparu sesiynau hyfforddi i fudiadau gwirfoddol lleol. Bydd mwy o fanylion ar gael mis nesaf neu fe allwch chi e-bostio r Tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol (health@avow.org) i holi am fwy o wybodaeth. Swyddogaeth a Dyletswydd Ymddiriedolwyr Gorffennaf y 6ed 2012 10 tan 1yp, Ty AVOW I gofrestru ewch i: https://www.surveymonkey.com/s/trurolres20120905 Mae gan aelodau AVOW hawl i ostyngiad o 10% ym mhris pob cwrs. I ddod yn aelod cysylltwch ag AVOW ar 01978 312556 Mae AVOW y darparu ystod o gyrsiau a gwasanaethau ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol. Am fwy o fanylion ewch i wefan AVOW www.avow.org neu gysylltwch â r tîm ar communitycourses@avow.org Cyrsiau eraill DVSC Hyffordi Cymorth cyntaf yn y gweithle Dydd Llun, Mehefin 11 2012 9.30y.b - 4y.h CIEH Tystysgrif diogelwch bwyd Lefel 2 (hylendid bwyd sylfaenol cynt) Dydd Ian Mehefin 21 2012 9y.b - 4.30y.h Cysylltwch a DVSC am fery o wybodaeth ar 01824 702441 neu drwy e-bostio office@dvsc. co.uk 14