Nazareth Chapel. Capel Nasareth. Dyma erthygl a ymddangosodd yn y Drysorfa yn The following article appeared in the Trysorfa in 1869:

Similar documents
Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

Buy to Let Information Pack

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

Cyfres newydd, rhif 17 Hydref Mi glywais lais yr Iesu n dweud, Tyrd ataf fi yn awr. Llun: Fishers of Men (Simon Dewey)

HALF YEARLY MEETING. Castell Brychan, Aberystwyth. DATE: 25 June Professor M. Wynn Thomas (Chair)

CYMDEITHAS TREFTADAETH Y CAPELI THE CHAPELS HERITAGE SOCIETY TAFLEN WYBODAETH LEOL 23 LOCAL INFORMATION SHEET

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Bwletin Gorffennaf 2017

P A P U R B R O G E N A U R - G L Y N, M E L I N D W R, T I R Y M Y N A C H, T R E F E U R I G A R B O R T H. Dathlu r Gwyliau

Bwletin i Rieni - Hydref 2014

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

Cor Caerdydd o flaen adeilad y Pierhead yn y Bae noson noson perfformio Ar Waith Ar Daith gweler tud. 13. Dyluniad a lluniau: Irfon Bennett

Cylchlythyr / Newsletter 42 Hydref I Autumn Spring Meeting at Bala

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

Family Housing Annual Review

Cefnogi gwaith eich eglwys

Development Impact Assessment

BEDDARGRAFFIADAU EGLWYS SANT IOAN PENRHYNCOCH PLWYF LLANBADARN FAWR SAINT JOHN PENRHYNCOCH MONUMENTAL INSCRIPTIONS. M. A. James

Gwr lleol yn Grønland

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

DYFED ARCHAEOLOGICAL TRUST NEWSLETTER SUMMER 2014 NEWYDDLEN HAF 2014 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL DYFED

W32 05/08/17-11/08/17

CYMDEITHAS TREFTAIMETH Y CAPEL1 THE CHAPELS HERITAGE SOCIET)' Cylchlythyr /Newsletter 43 Gwanwyn /Spring 2004

Cydymaith i r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Eirionedd A. Baskerville

Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth

Local Authorities Councillor Chris Bithell (Flintshire) Councillor Hugh Jones (Wrexham) Councillor David W. M. Rees (Pembrokeshire)

Cymeriadau Anhygoel Eryri

Llantwit Major Llanilltud Fawr

Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts

Rhewlifegydd o r Borth yn astudio genedigaeth mynydd iâ

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

NORTH WEST WALES DENDROCHRONOLGY PROJECT DATING OLD WELSH HOUSES CYNFAL FAWR

The Friend. Y Cyfaill. Kyffin Williams Library book launch. Lansiad llyfr Kyffin Williams yn y Llyfrgell

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

AVID D NOSON D AWSON ARIAN I GARNIFAL LLANFAIR AS HAPUS PRIODAS. Ionawr 2015

AREA G G LOVING JJG IN MEMORIAM

PENCAMPWYR PÊL-DROED POWYS

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014

DATHLU 30 MLYNEDD YR ARCHIF WLEIDYDDOL GYMREIG CELEBRATING 30 YEARS OF THE WELSH POLITICAL ARCHIVE

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

ARGRAFFIAD canmlwyddiant Centenary edition

Deddf Awtistiaeth i Gymru

Cyngor Cymuned Llandwrog

Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru

CYMDEITHAS TREFTADAETH Y CAPELI THE CHAPELS HERITAGE SOCIETY CADW SEMINAR ON REDUNDANT CHAPELS

NEWSLETTER Cylchlythyr

AREA J INSCRIPTIONS J1

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

Traddodiad a newydd-deb. yn nofelau Wiliam Owen Roberts

Dydd Sadwrn, Mai 19eg, 2018

R o b C o l l i s t e r

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018

Descendants of William Jones

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD. Y Naturiaethwr. Cyfres 2 Rhif 4 Gorffennaf 1999

BEDDARGRAFFIADAU CAPEL MADOG PLWYF LLANBADARN FAWR CAPEL MADOG MONUMENTAL INSCRIPTIONS. E. L. James & M. A. James

Mynwent ganoloesol gynnar a gwersyll adeiladu Rhufeinig o dan Ysgol Yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

Llenydda a Chyfrifiadura

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf

CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf

Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a r 1970au

6.5m; 10.5km 7 sites to visit / 7 safle i ymweld â nhw

Gwell Cymro, Cymro oddi cartref? cymhlethdod meddwl a gwaith John Ceiriog Hughes

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD. Y Naturiaethwr. Cyfres 2 Rhif 18 Gorffennaf 2006

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Bangoriad /6/04 1:41 pm Page 1. The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor


Cyngor Cymuned Y Fali Community Council

ACQUISITION OF LAND ACT 1981

Rural Crime Forum. MONDAY 23 JULY :00-12:30 FUW Building Royal Welsh Showground. Panel Members. Are we doing enough to tackle rural crime?

Cerddi mawl Robin Ddu o Fôn. Heledd Haf Williams

Sir Ddinbych / Denbighshire Phil Lord. Sir y Fflint / Flintshire Phil Lord

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus

CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG

Welcome to Hale House

Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau Cymreig?

Irene Cobb Papers #2918 1

Collection List No. 102

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Campus. Cylchgrawn Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru. The Magazine for University of Wales Alumni #002. Haf Summer 2010

Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor University of Wales, Bangor Alumni Magazine

MAPIAUMAPS. Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales

No 7 Digital Inclusion

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.

FFI LM A R CYFRYN GA U

Transcription:

Capel Nasareth Dyma erthygl a ymddangosodd yn y Drysorfa yn 1869. Tal-y-bont, Ceredigion Y mae y Methodistiaid wedi adeiladu capel newydd yn y lle hwn yr hwn sydd yn adeilad hardd iawn. Ni fu yno erioed gapel o r blaen gan y Methodistiaid Calfinaidd. Dechreuwyd y gwasanaeth crefyddol cyntaf yn y capel newydd ar y Sabath cyntaf y 7fed o Fawrth 1869 ac y mae pob lle i gredu y bydd yno yn fuan eglwys flodeuog a lluosog. Nazareth yw enw r capel a thystia y rhai ymgynnullant yno fod llawer o ddaioni wedi dod o r lle yn barod. Un o r rhai cyntaf oedd yn gysylliedig a r trefniadau i sefydlu r capel oedd John Williams, pannwr canol oed o Dal-y-bont a gynorthwywyd gan Thomas James y Ffatri. Bu John Williams yn casglu enwau r rhai hynny a fyddai n barod i ymuno â r achos newydd. Ef hefyd a sicrhaodd safle i r capel newydd ar dir a berthynai i Syr Pryse Pryse, Gogerddan. Bu fyw hyd 1897 ac ef oedd y codwr canu cyntaf. Yr oedd ei fab yng nghyfraith, John Hughes, yn un o r blaenoriaid cyntaf ac ef oedd y cyntaf i fyw yn Tñ Capel. 1900 Rhif yr aelodaeth oedd 71. Y gweinidog oedd y Parch. Thomas Jenkins, Brynhyfryd a r blaenoriaid William Edwards, Bryngryffty; John Hughes (Ysgrifennydd), Tñ Capel; J.T. Morgan (Trysorydd), Maesnewydd; Thomas Jones, Cwrt Farm; Thomas Hughes, Brynhyfryd; William Evans, Bryngryffty; Richard Phillips, Llwynglas; Richard Davies, Cerrigmawr a W.R. Jones, Bryngwynmawr. Rhoddwyd cryn amlygrwydd i un dosbarth yn yr Ysgol Sul yn Nasareth ddechrau r ganrif hon. Tynnwyd sylw r cyhoedd at y dosbarth Ysgol Sul hynaf yn y byd yn y papur cenedlaethol, The Sunday Companion. Yr oedd pob un o r chwech aelod o r dosbarth dros 80 oed ac un, sef yr athro William Edwards, dros 90. A dywedodd y papur hwnnw amdanynt, It is doubtful if there is a more remarkable religious gathering in the world. Yr oedd Nazareth Chapel The following article appeared in the Trysorfa in 1869: Tal-y-bont Ceredigion The Methodists have built a new chapel here, and it is a most beautiful building. There has never been a Calvanistic Methodist chapel here previously. The first religious service was held in the new chapel on March 7th 1869 and there is room to believe that there will be a large thriving chapel there soon. The chapel is called Nazareth and those who congregate there vouch that much benefit has been derived from it already. One of the earliest to be associated with the work of founding the chapel was the middle aged fuller from Tal-y-bont, John Williams, who was assisted by Thomas James the Factory. John Williams gathered names of those who would be willing to join the new cause. He also secured the site for the new chapel, on land which belonged to Sir Pryse Pryse, Gogerddan. He lived until 1897 and he was the first precentor. His sonin-law, John Hughes, was one of the first deacons and he was the first to live in the chapel house. 1900 There were 71 members. The minister was the Reverend Thomas Jenkins, Brynhyfryd and the deacons were William Edwards, Bryngryffty; John Hughes (Secretary), Tñ Capel; J.T. Morgan (Treasurer), Maesnewydd; Thomas Jones, Cwrt Farm; Thomas Hughes, Brynhyfryd; William Evans, Bryngryffty; Richard Phillips, Llwynglas; Richard Davies, Cerrigmawr and W.R. Jones, Bryngwynmawr. One class in the Sunday School at Nazareth received quite a lot of attention at the beginning of this century. The public s attention was drawn to the Oldest Sunday School Class in the World in the national paper The Sunday Companion. Each of the six members in the class was over 80 years old and the teacher, William Edwards, was over 90. That paper quoted, It is doubtful if there is a more remarkable religious gathering in the world. At the beginning of the century 246

Dosbarth o r Ysgol Sul ar ddechrau r ganrif. O r chwith: Margaret Morgan (Gwynfa, ganwyd 23/3/1813), Rebecca Jones (Tal-y-bont, ganwyd 7/2/1826), Anne Williams (Tñ r Capel, ganwyd 12/6/1812), William Edwards (Bryngriffty, athro, ganwyd 24/1/1810), Catherine Evans (Tal-y-bont, ganwyd 8/2/1820), Elizabeth Jones (Maesnewydd, ganwyd 8/8/1823) A Sunday School class at the beginning of the century. From the left: Margaret Morgan (Gwynfa, born 23/3/1813), Rebecca Jones (Tal-ybont, born 7/2/1826), Anne Williams (Tñ r Capel, born 12/6/1812), William Edwards (Bryngriffty, teacher, born 24/1/1810), Catherine Evans (Tal-y-bont, born 8/2/1820), Elizabeth Jones (Maesnewydd, born 8/8/1823) rhif yr Ysgol Sul ar ddechrau r ganrif yn fwy lluosog na r aelodaeth yn y capel. Ail adeiladwyd y capel yn 1905 06 a gosodwyd organ bib newydd ardderchog yno a gostiodd 280. Fe i hagorwyd mewn cyngerdd a gynhaliwyd ar Orffennaf 11, 1906. Y datgeinydd gwadd oedd Mr G. Stephen Evans, A.R.C.O., Aberystwyth a gorffennodd y cyngerdd gyda chytgan yr Haleliwia o r Meseia. Adeiladwyd yr organ gan y meistri Conacher a r Cwmni, Huddersfield. Yr oedd costau r atgyweriadau a r gwelliannau dros 1400 a chliriwyd y cyfan ar wahân i 200 cyn ail agor y capel yn 1906. Cynhaliwyd arwerthiant llwyddiannus ar ddechrau 1909 i glirio r ddyled a chyda r hwyr cafwyd cyngerdd cysegredig i ddathlu r achlysur gyda Mr J. Charles McLean o Aberystwyth yn organydd. Yr oedd y canlynol yn cymeryd rhan Miss Mary Jones, Miss Anne Prosser, Bow St., Mr Tom Jones, Dole, Mr J.M. Jones, Efail Fach a Mr E.W. Evans, Tal-y-bont. Yn y gadair oedd Mr William Rees, Isfryn. 1909 Ar nos Wener, Ionawr 21 cyflwynodd aelodau r eglwys anrheg hardd o Globe Werniker roll top desk a chadair dderw the number attending Sunday School exceeded the chapel membership. The chapel was rebuilt in 1905 06 and a splendid new pipe organ was installed at a cost of 280. It was first played during a concert held on 6th July 1906. The recital was given by Mr G. Stephens ARCO Aberystwyth and the concert closed with the Hallelujah Chorus from the Messiah. The organ was built by Messers Conacher and Company, Huddersfield. The cost of the repairs and improvements exceeded 1400 and, apart from 200, the whole of this sum was cleared before the chapel was reopened in 1906. A successful sale of work was held at the beginning of 1909 in order to clear the debt and in the evening a religious concert was held to celebrate the occasion with Mr J. Charles McLean from Aberystwyth playing the organ. The following took part Miss Mary Jones; Miss Anne Prosser, Bow Street; Mr Tom Jones, Dole; Mr J.M. Jones, Efail Fach and Mr E.W. Evans, Tal-y-bont. Mr Williams Rees, Isfryn, was in the Chair. 1909 On Friday evening, 21st January, chapel members presented a beautiful Globe Wernike roll top desk along with a valuable 247

Yr Organ The Organ 248

werthfawr i Mr John James Hughes a i briod ar achlysur eu priodas. (Y mae r anrheg hon ym meddiant eu mab Mr Geraint Hughes yn awr). Dyma ychydig o hanes John James Hughes: Yn fab i Mr a Mrs John Hughes ganed ef yn Tñ Capel ond ar ôl priodi symudodd i dñ newydd, sef Llys Alaw, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Am dros 50 o flynyddoedd yr oedd yn ysgrifennydd y capel ac yn organydd am 60 blwyddyn gan adael ei nod ar ganiadaeth y cysegr a hefyd fel arholwr cerdd o dan goleg y Tonic Solffa. Cyflawnodd oes o waith gwerthfawr. Mynnodd organ bib i r capel, chwaraeodd hi a gofalodd amdani ar hyd y blynyddoedd. Bu n aelod o Orsedd y Beirdd am dros hanner canrif a r enw a roddwyd arno oedd Afaon Alaw. Ail adeiladwyd y capel yn 1953 pan dynnwyd y pileri wrth y prif ddrysau i lawr. Peth anghyffredin yw gweld capel â stabl wrtho ond un felly yw Nazareth; y mae tu cefn i r capel. Yr olaf i w ddefnyddio oedd Mr D.R. Jenkins, Erglodd yn nechrau r 50au. Cofiwn amdano yn dod i r capel yn ei drap a phoni. Yr oedd Mr Jenkins yn rhoddi pwys mawr ar brydlondeb, ffyddlondeb a chysondeb gyda moddion y tñ. Roedd ar ben ei hun fel cymeriad a bu fyw a marw heb geisio efelychu neb arall. 1960 Fel gwerthfawrogiad o wasanaeth diflino a ffyddlon Mr R.W. Morgan YH, Maesnewydd fel blaenor a thrysorydd yr eglwys am dros ddeugain mlynedd anrhegwyd ef mewn ffordd ymarferol trwy gyflwyno iddo heilyr arian prydferth (silver salver). Y mae n eiddo i w fab Mr James Hughes Morgan, Maesmawr yn awr. Ein Canrif Our Century John James Hughes (Afaon Alaw) oak chair to Mr John James Hughes and his wife to mark the occasion of their marriage. (This gift is now in the possession of their son Mr Geraint Hughes). Here are some facts about John James Hughes: he was the son of Mr and Mrs John Hughes and was born in Tñ Capel. After his marriage he moved to a new house, Llys Alaw, where he spent the rest of his life. He was secretary of the chapel for more than 50 years and an organist for 60 years, making his mark on Caniadaeth y Cysegr and also as a music examiner under the Tonic Solfa college. He gave a lifetime of valuable service. He obtained a pipe organ for the chapel, played it and took care of it over the years. He was a member of the Gorsedd y Beirdd for over half a century and the name given to him was Afaon Alaw. The chapel was reconstructed in 1953 when the pillars by the main entrance were taken down. It is unusual to see a stable attached to a chapel but this is true of Nazareth. It is located behind the chapel. The last person to use it was Mr D.R. Jenkins, Erglodd at the beginning of the 1950s. We remember him coming to chapel in his pony and trap. Mr Jenkins placed great emphasis upon punctuality, faithfulness and regularity as far as the services were concerned. He was very much a character and he lived his life true to himself. 1960 As an appreciation of Mr R.W. Morgan JP, Maesnewydd s tireless and faithful service as deacon and treasurer of the chapel for more than forty years, he was presented with a beautiful silver salver. It now belongs to his son Mr James Hughes Morgan, Maesmawr. 249

Capel Nasareth cyn 1953 pan dynnwyd y pileri i lawr. Nazareth Chapel before 1953 when the pillars were removed. Y stabl tu cefn i r capel ar y dde. The stable behind the chapel on the right. 1961 Yn frwd iawn derbyniodd y gweinidog, sef y Parch. Tom Roberts a r aelodau y cyfle i groesawu Cymdeithasfa r De o Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar achlysur ymweliad cyntaf y Gymdeithasfa â Thal-ybont. Yr oedd hyn yn fenter enfawr i eglwys 1961 The minister, the Reverend Tom Roberts and members enthusiastically welcomed the South Wales Association of Welsh Presbyterian Churches on their first visit to Tal-y-bont. This was a huge venture for such a small chapel but it proved to be an 250

mor fychan ond bu yn llwyddiant eithriadol a mawr fu y canmol a r diolch i ddilyn. Cyhoeddiwyd llyfryn o fraslun o hanes yr achos yma gan yr Athro T. Jones Pierce MA a oedd hefyd yn aelod ffyddlon yma; hefyd ei briod a fu n organyddes ac athrawes Ysgol Sul am nifer o flynyddoedd. Gwnaeth yr Athro hefyd drefnu nifer o deithiau addysgiadol ar hyd a lled Cymru. Dyma lun o r rhai cyntaf gawsom, trwy law Mr Geraint Jones, Tyncae gynt, a fu n organydd ac yn aelod gweithgar yma. Hefyd fe fu Miss Eirlys Watkins, Tñhen Henllys, yn organyddes am lawer o flynyddoedd. extraordinary success, and it was followed by much praise and gratitude. A booklet giving an outline of the history of this cause was published by Professor Jones Pierce MA who was also a faithful member of the chapel; also his wife who was an organist and Sunday School teacher for many years. The Professor also arranged several educational trips throughout Wales. The following photograph, showing one of the first, was lent by Mr Geraint Jones, formerly of Tyncae, who was an organist and hardworking member here. Miss Eirlys Watkins, Tñhen Henllys, was also an organist for many years. Taith Lenyddol Nasareth Nazareth s Literary Journey 1969 Dathlwyd canmlwyddiant y capel ar Dachwedd 28. Y gweinidog ar y pryd oedd y Parch. John Tudno Williams. Cafwyd gwasanaeth llewyrchus iawn a nifer o gynaelodau a gwahoddedigion yn bresennol. Soniwyd yn gynharach am John Williams oedd yn un o sylfaenwyr y capel; hefyd ei fab-yng-ngyfraith, John Hughes, a oedd yn un o r blaenoriaid cyntaf. Mae n debyg mai ei fab, John James Hughes, a gychwynnodd yr arfer o lafar ganu salmau ymhob gwasanaeth. Erbyn hyn mae ei ddau fab, Geraint a Gareth Hughes, yn flaenoriaid a u merched hwythau sef Gwenda, Linda a Margaret ymhlith yr organyddion. Y mae r cysylltiad felly rhwng y teulu hwn a dechreuadau r capel yn ddidor ac yn ymestyn dros bum cenhedlaeth. Y mae teulu arall hefyd yn dal cysylltiad 1969 The chapel celebrated its centenary on 28th November. The minister at the time was the Reverend John Tudno Williams. A very successful service was held, with several past members and guests present. John Williams was referred to earlier as one of the founders of the chapel; also his son-in-law, John Hughes, who was one of the first deacons. It was his son, John James Hughes who began the custom of chanting psalms in every service. By now his two sons Geraint and Gareth Hughes are deacons and their daughters, Gwenda, Linda and Margaret are amongst the organists. The connection, therefore, between this family and the chapel goes back unbroken to its earliest days and stretches over five generations. Another family, the Maesnewydd family, 251

Y Gweinidog a r blaenoriaid adeg y canmlwyddiant 1969. O r chwith: Gareth Hughes, R.W. Morgan, Caledfryn Evans, Parch. Tudno Williams, James Morgan, W.J. Watkin, Geraint Hughes. The Minister and the deacons at the time of the centenary 1969. From the left: Gareth Hughes, R.W. Morgan, Caledfryn Evans, Parch. Tudno Williams, James Morgan, W.J. Watkin, Geraint Hughes. â r eglwys o r dechrau, sef teulu Maesnewydd. Y gãr a benodwyd gan y fam eglwys Rehoboth i ofalu am yr achos newydd oedd John Davies, Erglodd un a adwaenid yn ei ddydd fel apostol y plant ar gyfrif ei waith mawr dros yr Ysgol Sul. Priododd ei nith, Mary Jones, a godwyd gyda i hewythr yn Erglodd, James Morgan, Maesnewydd aelod gyda r Annibynwyr yn Nhal-y-bont. Cofnodwyd yn y Drysorfa am 1869 bod Mary Jones wedi anrhegu r eglwys newydd â llestri cymundeb ardderchog a chostus. Ymaelododd James Morgan yn Nasareth ac fe i etholwyd yn flaenor a bu n drysorydd yr eglwys hyd 1923. Yna dilynodd ei fab, Richard William Morgan Y.H., ef yn drysorydd ac erbyn heddiw ei fab, James Hughes Morgan, sy n dal yn y swydd. Erbyn hyn mae ei blant yntau yn dilyn yr un traddodiad. Dyna eto gysylltiad arbennig o faith â r eglwys hon. 1976 Yn ystod y flwyddyn cawsom gyfle i longyfarch hynafgwr ifanc, un o n has been associated with the chapel from the outset. The man appointed by the mother chapel Rehoboth, to be in charge of the new cause was John Davies, Erglodd, known in his time as the children s apostle because of his work with the Sunday School. His niece, Mary Jones who was brought up by her uncle at Erglodd, married James Morgan, Maesnewydd who was a member with the Independents at Tal-y-bont. It was recorded in the Trysorfa in 1869 that Mary Jones had presented a set of beautiful and expensive communion glasses to the chapel. James Morgan became a member at Nazareth and was elected a deacon; he was treasurer of the chapel until 1923. His son, Richard Williams Morgan JP, followed in his footsteps as treasurer and today his son James Hughes Morgan holds the same position. Now his children follow the tradition. This is another example of a long connection with the chapel. 1976 During the year we had the opportunity to congratulate a young gentleman, one of 252

haelodau, sef Mr J.M. Jenkins, Maesgwyn, ar ei ganfed penblwydd. Cafodd rodd gan yr aelodau o rai o gylchgronnau Cymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion. Bu farw ar Fedi r ail 1978 yn 102 mlwydd oed. Cadwodd ei ddiddordeb yn y capel hyd y diwedd a mynychau r cyfarfodydd. Yr oedd y Parch. Roberts yn briod â i ferch Gwen. Bu iddynt briodi yn Nasareth yn 1958. 1984 Cafwyd yr ail sasiwn yma. Yr oedd hon eto yn un i w chofio. Mor brydferth yw dy berthi Gwm annwyl Eleri. Caraf dy fwyn aceri A thrydar dy adar Di Felly y canodd Mr Huw Huws ac yn sicr ddigon fe wireddwyd profiad y bardd i bawb a fu yn y sasiwn. Y gweinidog oedd y Parch Elwyn Pryse a r organyddion, Miss Dilys Humphreys, Christine Charlton, Janet Jones a Nia Evans. Roedd y croeso a r ymborth a gafwyd yn y our members, Mr J.M. Jenkins, Maesgwyn, on the occasion of his hundredth birthday. He received a gift from the members of some of the Ceredigion Antiquarian Society s periodicals. He died on 2nd September 1978, at the age of 102. He attended services and his interest in the chapel continued until the end of his life. The Reverend Tom Roberts was married to his daughter Gwen. They were married in Nazareth in 1958. 1984 The second meeting of the Association of the Welsh Presbyterians was held here. This again was one to remember. Mor brydferth yw dy berthi Gwm annwyl Eleri Caraf dy fwyn aceri A thrydar dy adar Di Those are the words of Mr Huw Huws and surely enough the poet s experience was shared by everyone who attended the meetings. The minister was the Reverend Elwyn Pryse and the organists Miss Dilys Humphreys, Christine Charlton, Janet Jones Caledfryn Evans a i fedal Gee, 1984. Caledfryn Evans with his Gee medal, 1984. 253

Neuadd gan y chwiorydd yn ddihareb erbyn hyn. Rhaid llongyfarch yn galonnog iawn un y mae Nasareth yn ddyledus iddo am ei wasanaeth a i haelioni iddi ar hyd y blynyddoedd sef, Mr Caledfryn Evans YH ar dderbyn ohono yn haeddiannol iawn y Fedal Gee yn 1984 am ei wasanaeth i r Ysgol Sul. Bu ef a i briod yn byw yn Tñ Capel am gyfnod a mawr fu eu gofal am bopeth. Pan oedd yn 90 oed cafwyd parti yn y capel i ddathlu r achlysur a chyflwynwyd ffon yn anrheg iddo. 1987 Er mwyn codi arian at yr adeiladau trefnwyd taith gerdded o Aberystwyth i Dal-y-bont rhan o daith Gerallt Gymro a drefnwyd gan y Western Mail. Casglwyd 750. 1989 Bu gwasanaeth a pharti yn y capel i ddathlu 40 o flynyddoedd y bu Gareth Hughes yn ysgrifennydd. Cyflwynwyd anrheg o faromedr iddo. Y mae n parhau gyda r gwaith yn 1999. Felly mae wedi bod yn y swydd am dros 50 o flynyddoedd. Daeth amser i ni ffarwelio â Mr a Mrs Dafydd Jones (Yr Urdd) o u gwasanaeth fel and Nia Evans. The welcome given and the food provided in the Hall by the women is by now proverbial. One must heartily congratulate someone that Nazareth is indebted to for his service and his generosity over the years Mr Caledfryn Evans JP, who deservedly received the Gee Medal in 1984 for his service to the Sunday school. He and his wife lived in the Chapel House for a time and took great care of everything. When he was 90 years old a party was held in the chapel to celebrate the occasion and he received a walking stick as a gift. 1987 In order to raise money towards the buildings a sponsored walk was held from Aberystwyth to Tal-y-bont, part of the journey made by Gerald the Welshman, and organised by the Western Mail. A sum of 750 was collected. 1989 A service and party was held in the chapel to celebrate Gareth Hughes 40 years as secretary. He was presented with a barometer. He continues to do the work in 1999. He has therefore held the post for over 50 years. The time came to say farewell to Mr and Mrs Dafydd Jones (The Urdd) for their Gareth Hughes yn derbyn rhodd gan y capel, 1989. Gareth Hughes receiving a gift from the chapel, 1989. 254

gofalwyr y capel. Yr oeddent wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth diwyd i ni. Un a fu n weithgar iawn gyda r plant ar hyd yr amser oedd Mrs Myfanwy Jones hi oedd yn trefnu ac yn paratoi r plant gyda chymorth yr athrawon gogyfer â r gwahanol wasanaethau gyda r Ysgol Sul a r capel ac yr oeddent bob amser yn llewyrchus. service as chapel caretakers. They had given years of unstinting service. Mrs Myfanwy Jones is one who has worked diligently with the children over the years; she organised and prepared the children, assisted by the teachers, for the various services of the Sunday School and chapel and they were always of a high standard. Plant ac athrawon y capel, 1989. The chapel children and teachers, 1989. 1998, 1999 Gwnaed gwelliannau i r organ yn 1998 ac yn 1999. Y mae paratoadau ar y gweill yn awr gogyfer â phaentio a gwneud gwaith trefn a chadw ar yr adeiladau. Gobeithio y bydd hyn wedi ei gwblhau erbyn y flwyddyn 2000. Felly edrychwn ymlaen yn hyderus i r dyfodol. Dyma r swyddogion 1999 2000: Gweinidog: Parch. R.W. Jones Blaenoriaid: Gareth Hughes (1950) Geraint Hughes (1955) James H. Morgan (1970) Ysgrifennydd: Gareth Hughes (1949) Trysorydd: James H. Morgan (1962) Organyddion: Nia Evans Janet Jones Cyhoeddwr: Geraint Hughes Codwyr Canu: Geraint Hughes W.E. Michell Casglwyr: W.E. Michell J. Aldred 1998, 1999 Improvements were made to the organ in 1998 and 1999. Arrangements are now in hand to paint and carry out maintenance work to the buildings. It is hoped that this will be completed by 2000. Therefore we look forward to the future with confidence. The officials in the year 1999 2000 are as follows: Minister: Reverend R.W. Jones Deacons: Gareth Hughes (1950) Geraint Hughes (1955) James H. Morgan (1970) Secretary: Gareth Hughes (1949) Treasurer: James H. Morgan (1962) Organists: Nia Evans Janet Jones Announcer: Geraint Hughes Precentors: Geraint Hughes W.E. Michell Collectors: W.E. Michell J. Aldred 255

Gweinidogion yr eglwys: Richard Davies 1873 David Evans 1887 95 T. Jenkins 1897 1926 R. Humphreys Jones 1928 32 Thomas A. Williams 1937 44 R.H. Edwards 1945 50 O.J. Roberts 1951 56 Tom Roberts 1957 64 Gruffydd Jones 1964 68 J. Tudno Williams 1967 73 Elwyn Pryse 1974 92 R.W. Jones 1994 Dilys Hughes The chapel s ministers: Richard Davies 1873 David Evans 1887 95 T. Jenkins 1897 1926 R. Humphreys Jones 1928 32 Thomas A. Williams 1937 44 R.H. Edwards 1945 50 O.J. Roberts 1951 56 Tom Roberts 1957 64 Gruffudd Jones 1964 68 J. Tudno Williams 1967 73 Elwyn Pryse 1974 92 R.W. Jones 1994 Dilys Hughes 256