Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol I gael rhagor o wybodaeth a dolenni gwe sy n berthnasol i r maes ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/is/subject/interpol/ Cyflwyniad Mae astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn golygu defnyddio amrywiaeth eang o ddeunyddiau o wahanol ddisgyblaethau Gwleidyddiaeth, Hanes, y Gyfraith ac Economeg ac felly bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio llyfrau a chyfnodolion o wahanol adrannau Llyfrgell Hugh Owen. Ceir manylion pellach am Reoliadau r Llyfrgell, cyfleusterau benthyca, cyfnodau benthyca ac ati ar ein tudalennau gwe ar: http://www.aber.ac.uk/cy/is/ Adnoddau Printiedig Dosbarthiad a threfn y deunyddiau printiedig Mae r prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig ar gyfer astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cael ei gadw ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen. Dosberthir deunydd gan ddefnyddio system ddosbarthu Llyfrgell y Gyngres; dyma rai enghreifftiau dethol o nodau dosbarth sy n berthnasol i r pwnc hwn: D E-F H HC HX J JA JC JF JK JN JX-JZ K KX KZ U V Hanes, fesul gwlad Ewrop, yr Hen Fyd Hanes fesul gwlad Gwledydd America Y Gwyddorau Cymdeithasol Hanes ac amodau economaidd fesul gwlad Sosialaeth, Comiwnyddiaeth Gwyddor Wleidyddol Gweithiau Cyffredinol Theori Wleidyddol Hanes Cyfansoddiadol Gwleidyddiaeth, UDA Gwleidyddiaeth, Ewrop Cysylltiadau Rhyngwladol Y Gyfraith (ar silffoedd yn Llyfrgell y Gyfraith, Lefel E) Cyfraith Ryngwladol Cyfraith Cenhedloedd Gwyddor Filwrol Gwyddor Forwrol Tudalen 1
Z Llyfryddiaeth Mae n bwysig cofio nad yw r holl ddeunydd llyfrgell ar bwnc penodol yn cael ei gadw yn yr un man. Ceir llawer o Gasgliadau Arbennig a nifer o ddilyniannau a lleoliadau ar wahân ar gyfer mathau penodol o ddeunyddiau. Ceir manylion am y rhan fwyaf o r rhain yng ngweddill y daflen hon, ond dyma rai pwyntiau defnyddiol: Gellir dod o hyd i ddeunydd sydd wedi i ddefnyddio a i ddychwelyd yn ddiweddar ar y silffoedd llyfrau sydd wedi u trefnu n fras (rough sort) ar Lefel F, yn union i r dde o r drysau mynediad, neu ar y trolïau llyfrau. Os yw llyfr wedi ei farcio fel un a ddychwelwyd ar gatalog y llyfrgell, chwiliwch amdano ar y silffoedd llyfrau sydd wedi u trefnu n fras. Bydd llyfrau anarferol o fawr yn cael eu marcio â Qto neu Folio yng nghatalog y llyfrgell. Cedwir hwy ar silffoedd ym mhob cornel o r llyfrgell ar Lefel F edrychwch ar y cynllun llawr neu gofynnwch i staff y llyfrgell os nad ydych yn siŵr. Mae n bosibl y cedwir rhai llyfrau yn y Casgliad Benthyca Byr sydd i r dde o r brif fynedfa ar Lefel D. Fel arfer, dyma r deunyddiau sy n ymddangos ar restrau darllen a nodir hwy fel rhai y Casgliad Benthyca Byr ar gatalog y llyfrgell. Mae gan y llyfrgell gasgliad o bamffledi sydd wedi eu marcio â Pam ar gatalog y llyfrgell ac maent ar gael o r ddesg fenthyca. Dod o hyd i Ddeunydd Ceir sawl gwahanol ffordd o ddod o hyd i ddeunydd sy n cael ei gadw yn y llyfrgell:- Chwilio catalog y llyfrgell Catalog y llyfrgell - Voyager - yw r allwedd i gasgliad y llyfrgell. Mae hefyd yn borth i ffynonellau gwybodaeth ar raddfa ehangach, gan ddarparu mynediad i adnoddau electronig a chronfeydd data y tu hwnt i Aberystwyth. Gallwch fynd i mewn i gatalog y Lyfrgell o r wefan ganlynol: http://voyager.aber.ac.uk/ Cyfnodolion/Cylchgronau Mae r llyfrgell yn tanysgrifio i nifer fawr o gyfnodolion (cyfeirir atynt hefyd fel cylchgronau neu fwletinau). Mae r rhifynnau diweddaraf i w gweld ar Lefel E. Mae ôl-rifynnau yn cael eu cadw y tu ôl i Ddesg Gymorth y Llyfrgell ar Lefel E hyd nes y bydd y gyfrol yn gyflawn ac yn cael ei hanfon i r adran rwymo, neu cânt eu gosod ar y silff gyda gweddill y gyfres ar Lefel F. Bydd gan y cyfrolau rhwymedig ar Lefel F nodau dosbarth tebyg i eiddo r llyfrau ond gyda r rhagddodiad PER a byddant mewn dilyniant ar wahân i r llyfrau. Mae n syniad da iawn i fyfyrwyr feithrin yr arferiad o fwrw golwg trwy r cyfnodolion cyfredol yn rheolaidd er mwyn chwilio am erthyglau sy n berthnasol i w cwrs, traethawd ymchwil neu draethawd estynedig. Fel arfer bydd canlyniadau gwaith ymchwil yn cael eu cyhoeddi n gyntaf fel erthyglau mewn cyfnodolion ac, yn y rhan fwyaf o achosion, dyma fydd y cofnod diffiniol Tudalen 2
o r gwaith. Gofynnwch wrth Ddesg Gymorth y Llyfrgell am gymorth a rhagor o wybodaeth. Papurau Newydd Mae r Llyfrgell yn tanysgrifio i r papurau newydd o safon (The Times, y Financial Times, y Guardian, yr Independent) ac mae r rhain yn darparu llu o ffynonellau cyfredol gwerthfawr ar ddigwyddiadau r byd, y sefyllfa economaidd a diwydiannol, ac adroddiadau ar weithgareddau cwmnïau unigol. Gellir chwilio drwy r mwyafrif o r rhain gan ddefnyddio Nexis neu Archif Ddigidol y Times, sydd ar gael o r elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/ Casgliad y Cyfeirlyfrau Brys Mae Casgliad y Cyfeirlyfrau Brys wedi i leoli ar Lefel F (y llawr uchaf) ger y Ddesg Wybodaeth. Crëwyd y casgliad er mwyn cadw r deunyddiau cyfeirio sy n cael eu defnyddio amlaf yn y llyfrgell gyda i gilydd. Gall gwyddoniaduron fod yn gyffredinol eu cynnwys (e.e. Encyclopaedia Britannica) neu n arbenigol (e.e. Encyclopaedia of the United Nations) a u pwrpas yw eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth ar bwnc yn gyflym; mae r manylion a roddant fel arfer yn glir a chryno. Nid ymwneud yn unig â ieithoedd y mae geiriaduron (e.e. geiriadur Ffrangeg-Saesneg); gallant hefyd ddiffinio termau mewn pwnc penodol megis geiriaduron gwleidyddiaeth neu eiriaduron rhyfel. Daw blwyddiaduron mewn sawl ffurf a maint, gan ddarparu gwybodaeth fywgraffiadol, ystadegol, hanesyddol neu gyffredinol ar bob pwnc. Ymhlith y llyfrau defnyddiol yn y maes pwnc hwn mae: Brewer s Politics : a phrase and fable dictionary, argraffiad diwygiedig N. Comfort, 1995 Q.REF JA71.C7 British Electoral Facts 1832-1999 casglwyd a golygwyd gan Colin Rallings a Michael Thrasher, 2000 Q.REF JN1037.B8 Dod s Parliamentary Companion Cofiannau Arglwyddi ac aelodau Tŷ r Cyffredin, etholaethau a chanlyniadau etholiadau, termau seneddol a gweinidogion y llywodraeth. Blynyddol Q.REF JN500.D6 Encyclopedia of the European Union - Desmond Dinan, 2000 Q.REF JN30.D5 Encyclopedia of the United Nations and International Agreements E. J. Osmanczyk, 1985 Q.REF JX1977.O8 Euroguide: Yearbook of the Institutions of the European Union, 2008. Q.REF JN30.E9 The Europa World Year Book Q.REF JF37.E9 Palgrave Macmillan Dictionary of Political Thought, 3ydd argraffiad - R. Scruton, 2007 Q.REF JA61.S4 Tudalen 3
The Penguin Dictionary of International Relations G. Evans a J. Newnham, 1998 Q.REF JX1308.E9 Political Handbook of the World golygwyd gan A. S. Banks a T. C. Muller, 2007 Q.REF JF37.P7 Routledge Dictionary of Politics, 3ydd arg. - D. Robertson, 2004 Q.REF JA61.R6 The Statesman s Yearbook Yn cael ei gyfrif at ei gilydd fel y ffynhonnell orau o wybodaeth am wledydd a chyrff rhyngwladol. Q.REF JA51.S7 Casgliad y Cyfeirlyfrau Cedwir y prif gasgliad o gyfeirlyfrau ar gyfer holl bynciau'r Gwyddorau Cymdeithasol ar Lefel F, rhwng y Casgliad Celtaidd a Dosbarth A. Mae'r llyfrau defnyddiol yn cynnwys: The Blackwell Biographical Dictionary of British Political Life in the Twentieth Century K. Robbins, 1990 REF DA566.9.A1.B6 Cassell Dictionary of Modern Politics, 1994 REF JA61.C3 Communist and Marxist parties of the World, 2il arg.,1990 REF JF2051.H6 Crises in the Twentieth Century gan M. Brecher, J. Wilkenfeld, S. Moser, 1988 REF JX4471.B8 Dictionary of Government and Politics P. H. Collin, 1988 REF JF201.C6 A Dictionary of Marxist Thought golygwyd gan T. Bottomore, 1983 REF HX17.D5 A Dictionary of Modern Politics, 3ydd arg. D. Robertson, 2004 REF JA61.R6 The Economist Dictionary of Political Biography, 1991 REF JA66.E1 Encyclopedia of Nationalism L. L. Snyder, 1990 REF JC311.S6 Etholiadau r Ganrif 1885-1997 = Welsh Elections 1885-1997 B. Jones, 1999 REF JN1159.A55.J7 Keesing s Record of World Events, 1987 - Mae Keesing s yn darparu arolwg wythnosol o adroddiadau, ystadegau a data, wedi u crynhoi a u cyfieithu o ffynonellau newyddion Prydain a thramor. Mae ffynhonnell pob adroddiad yn cael ei dyfynnu. REF D1.K2 Oxford Handbook of International Relations. REF JZ1242.O9 Tudalen 4
The Routledge Dictionary of Twentieth-century Political thinkers golygwyd gan R. Benewick a P. Green, 1992 REF JA83.R8 Twentieth Century British Political Facts 1900-2000 - David Butler a Gareth Butler, 2000 REF JN231.B9 The World Atlas of Revolutions A. Wheatcroft, 1983 REF JC491.W5 Dosberthir cyfeirlyfrau yn yr un ffordd â llyfrau a chyfnodolion ac felly, er mwyn dod o hyd i gyfeirlyfrau ar Theori Wleidyddol edrychwch am ddosbarth Q.REF JC neu REF JC. Mae n werth treulio ychydig amser yn pori trwy r adrannau cyfeirlyfrau gan edrych ar rai o r gweithiau, yn arbennig yn nosbarth J. Cedwir cyfeirlyfrau sy n ymwneud â r gyfraith ar silffoedd yn Llyfrgell y Gyfraith. Hefyd, cedwir mynegeion i gyhoeddiadau swyddogol yn Llyfrgell y Gyfraith. Llyfryddiaethau Printiedig Mae llyfryddiaethau Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cael eu cadw ynghyd ar silffoedd yn adran Z ar Lefel F edrychwch yn benodol ar Z6461-6464 a Z7161-7164. Dyma rai teitlau defnyddiol: International Bibliography of Historical Sciences Z6205.I6 International Bibliography of the Social Sciences : Political Science Yn cael ei gyhoeddi er 1950, dyma r gwasanaeth llyfryddiaethol sylfaenol ar gyfer gwleidyddiaeth. Ar gael hefyd trwy r Web of Science. Z7163.I6 International Political Science Abstracts Yn cael ei gyhoeddi er 1951, dyma r adnodd crynodebu sylfaenol ar gyfer gwyddor wleidyddol yn gyffredinol. Z7163.I6 Public Affairs Information Service Bulletin (PAIS) O werth yn bennaf ar gyfer llyfrau a chyfnodolion o r Unol Daleithiau ar bob agwedd ar faterion economaidd a gwleidyddol. Z7161.P9 A Subject Bibliography of the Second World war, and Aftermath : Books in English 1975-1987 A. G. S. Enser, 1990 Z6207.W8.E6 Traethodau Ymchwil Traethodau Ymchwil Aberystwyth Mae llawer o draethodau ymchwil a gyflwynir ar gyfer graddau ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn cael eu rhoi yn Llyfrgell Hugh Owen, a gellir eu canfod gan ddefnyddio catalog y llyfrgell. Rhaid gwneud cais amdanynt wrth y Desgiau Benthyca/Y Ddesg Ymholiadau Benthyca, a dim ond yn y llyfrgell y caniateir eu defnyddio. Bydd angen ichi lofnodi datganiad yn cytuno i barchu awduraeth a chydnabod unrhyw wybodaeth a gewch o r traethawd ymchwil. Tudalen 5
CADAIR Mae testun llawn nifer cynyddol o draethodau ymchwil sydd wedi u cyflwyno n ddiweddar ar gael drwy gyfrwng cadwrfa ymchwil ar-lein y Brifysgol, sef CADAIR. I chwilio am eitemau, ewch i: http://cadair.aber.ac.uk/dspace/? locale=cy Traethodau Ymchwil Eraill Prifysgol Cymru Ceir copïau o r rhain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Prifysgolion a Cholegau Eraill Mae r rhain ar gael, am ddim yn bennaf, drwy r gwasanaeth Ethos. Ewch i http://ethos.bl.uk/ i chwilio am draethawd ymchwil a i archebu. Gellir gweld rhestrau o draethodau ymchwil drwy gyfrwng yr Index to Theses accepted for higher degrees by the Universities of Great Britain and Ireland o unrhyw gyfrifiadur gan ddefnyddio r elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/. CASGLIADAU ARBENNIG Casgliad y Dogfennau Diplomyddol Mae gan Lyfrgell Hugh Owen gasgliad mawr o ffynonellau yn ymwneud â Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae r casgliad wedi i leoli ar Lefel F wrth Risiau r De. Ceir yma setiau helaeth o ddeunyddiau Cynghrair y Cenhedloedd a r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys pob cyfres o Benderfyniadau r Cynulliad Cyffredinol a r Cyngor Diogelwch. Ar gael hefyd mae blwyddiadur y Cenhedloedd Unedig, The Yearbook of the United Nations, er 1946/7, sy n rhoi gwybodaeth ffeithiol am y Cenhedloedd Unedig gydag adroddiad am ei weithgareddau yn ystod y flwyddyn (DIP JX1977.A1.Y3). Ceir llawer mwy o gyfrolau o ohebiaeth ddiplomyddol sy n ymwneud yn benodol â r cefndir i r ddau Ryfel Byd. Ar gael hefyd o r Storfa Allanol mae casgliad helaeth sy n rhoi testunau prif gytundebau r byd. Cyhoeddiadau ac Ystadegau Swyddogol Cedwir y casgliad hwn ar silffoedd Llyfrgell y Gyfraith. Mae gan y Llyfrgell rediadau hir o gyhoeddiadau swyddogol Prydain, gan gynnwys yr holl Bapurau Gwyn, Papurau Tŷ r Cyffredin ac ati o 1922. Ceir llawer o r daliadau hyn ar microfiche. Mae dadleuon seneddol (Hansard) ar gael hefyd. Yn y Casgliad Ystadegol ceir rhediadau sylweddol o brif ffynonellau ystadegau pwysig a gyhoeddir gan TSO a r Cenhedloedd Unedig. Mae r cynllun dosbarthu a ddefnyddir yn y casgliad hwn wedi i lunio n arbennig ar gyfer y math hwn o ddeunydd, ac mae r cyfarwyddiadau stac ar derfyn pob silff lyfrau yn dangos yn glir sut mae r deunydd wedi i drefnu. Am ragor o wybodaeth am gyhoeddiadau ac ystadegau swyddogol, ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/is/collections/officialpubs/ Canolfan Dogfennau Ewropeaidd Cedwir y casgliad hwn ar silffoedd ym mhen pellaf Llyfrgell y Gyfraith. Mae n Tudalen 6
cynnwys testunau deddfwriaethol, adroddiadau ac ystadegau ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â r Undeb Ewropeaidd. Am wybodaeth bellach ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/is/collections/edc/ Am ragor o wybodaeth am ddod o hyd i ddeunydd yn Llyfrgell y Gyfraith ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/is/subject/law/ Casgliad Astudio Effeithiol Cedwir y casgliad hwn i'r dde o ardal ganolog Lefel F, a i ddiben yw eich cynorthwyo i wneud y mwyaf o'ch amser astudio. Mae n cynnwys deunydd ar sut i drefnu ch astudiaethau a r wybodaeth ar gyfer eich ymchwil, sut i ysgrifennu traethodau (estynedig, ymchwil) a sut i lunio llyfryddiaeth. Ymhlith y teitlau defnyddiol yn y casgliad hwn mae: The craft of political research, 4 ydd arg. W. Phillips Shively, 1998. STUDY JA71.S5 Doing dissertations in politics: a student guide - D. M. Silbergh, 2001 STUDY JA86.S5 Am wybodaeth bellach am sgiliau astudio ewch i r dudalen hon ar y we: http://www.aber.ac.uk/cy/is/infoskills/ Adnoddau Printiedig Eraill Llyfrgell Genedlaethol Cymru Anogir myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddefnyddio Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy n llyfrgell hawlfraint sydd ag awdurdod i hawlio copi o bob llyfr a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig. Ni ellir benthyca llyfrau a chyfnodolion, a rhaid eu darllen yn y llyfrgell. Gyda stoc o fwy na phum miliwn o lyfrau, mae n adnodd hynod o werthfawr ar gyfer myfyrwyr. Gellir gwneud cais am aelodaeth ar-lein o unrhyw gyfrifiadur personol drwy glicio ar y botwm Ymuno â r Llyfrgell ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol http://www.llgc.org.uk/ Adnoddau Electronig Mynediad Gellir cael gafael ar yr holl adnoddau hyn drwy gyfrwng yr elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/. Catalogau (OPACs) Llyfrgelloedd Eraill heblaw am PA Gellir cyrchu catalogau llyfrgelloedd eraill drwy gyfrwng yr elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/ er enghraifft: OPAC Llyfrgell Genedlaethol Cymru OPAC y Llyfrgell Brydeinig COPAC (Consortium of University Research Libraries OPAC) Tudalen 7
Cronfeydd Data Testun Cyflawn Ar-lein LEXIS/NEXIS Dyma gronfeydd data ar-lein o destun cyflawn newyddion a gwybodaeth busnes a chyfreithiol sydd ar gael drwy gyfrwng yr elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/. Nid oes angen cyfrinair er mwyn eu defnyddio ar y campws. I gael mynediad oddi ar y campws, VPN yw r dull sy n cael ei ffafrio. Dod o hyd i Erthyglau mewn Cyfnodolion Mae'r cronfeydd data llyfryddiaethol canlynol yn ddefnyddiol i ddod o hyd i erthyglau ar bwnc arbennig mewn cyfnodolion. Mae pob un ohonynt ar gael drwy gyfrwng yr elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/. International Bibliography of the Social Sciences (IBSS) Mae r gronfa ddata sylweddol hon yn cwmpasu r disgyblaethau craidd yn y gwyddorau cymdeithasol, sef economeg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth ac anthropoleg. Mae'n cynnwys dyddiadau o 1951 ac fe'i diweddarir yn wythnosol. Gellir cyrraedd y gronfa ddata trwy r Web of Knowledge o r elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/. Web of Science Mynegai i erthyglau mewn cyfnodolion sy'n cwmpasu r cyfnod o 1981 hyd heddiw. Mae'r pynciau'n cynnwys y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol trwy'r Social Sciences Citation Index a'r Arts and Humanities Citation Index. Gellir cael mynediad iddo trwy gyfrwng y Web of Science o r elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/. OCLC Firstsearch Mae tair cronfa ddata sydd ar gael trwy r gwasanaeth hwn yn ddefnyddiol: cronfa ddata r World Cat ar gyfer llyfrau o 1000AD ymlaen, cronfa ddata Article 1 st sy n cynnwys erthyglau o 1990 ymlaen a chronfa ddata ECO ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion o 1995 ymlaen, rhai ohonynt yn rhoi testun cyflawn. Gellir cael mynediad drwy gyfrwng OCLC o r elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/ neu Elecinfo http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/. ZETOC Mae ZETOC Electronic Table of Contents yn gronfa ddata gan y Llyfrgell Brydeinig sy'n cynnwys dros 15 miliwn o deitlau erthyglau o'r 20,000 cyfnodolyn ymchwil pwysicaf, gyda thua 1,000 ohonynt ym maes gwyddor wleidyddol/cysylltiadau rhyngwladol. Mae hefyd yn cynnwys casgliad o dros 100,000 o bapurau cynhadledd wedi eu mynegeio yn ôl testun y papur. Gwasanaeth yw ZETOC Alert sy'n tynnu sylw at erthyglau a gallwch gael chwiliadau personol wedi eu hanfon yn uniongyrchol atoch ar e-bost. Mae hwn yn adnodd gwerthfawr o ran ymwybyddiaeth gyfoes, ac mae'r gronfa ddata n cwmpasu r blynyddoedd o 1993 hyd heddiw ac yn cael ei diweddaru'n ddyddiol. Tudalen 8
Mae ZETOC ar gael ar http://zetoc.mimas.ac.uk. Gallwch hefyd ddefnyddio r wefan ganlynol http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/ Cyfnodolion Electronig Mae nifer fawr o deitlau perthnasol ar gael drwy gyfrwng yr elyfrgell http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/. Mynedfeydd Pwnc Mae mynedfeydd pwnc yn aml yn fan cychwyn da ar gyfer chwilio pwnc ar y Rhyngrwyd. Maent yn cael eu darparu gan ystod o sefydliadau academaidd a masnachol ac maent yn gweithredu fel casgliadau o wefannau safonol. Yn y mwyafrif o achosion mae'r safleoedd a restrir yn y mynedfeydd wedi eu gwerthuso a'u hasesu cyn cael eu cynnwys. Mae'r tabl isod yn amlinellu'r prif fynedfeydd pwnc ar gyfer y maes hwn. BUBL (Bulletin Board for Libraries). Mae BUBL ar gael ar y we ar http://bubl.ac.uk Gwasanaeth gwybodaeth cenedlaethol yw BUBL ar gyfer y gymuned addysg uwch ac mae n darparu mynediad gwerthfawr i adnoddau rhyngrwyd. Unwaith eto mae adnoddau cyffredinol megis newyddion, rhestrau postio, cyfnodolion a chyfeiriaduron ar gael, ond yr hyn sydd o bwys arbennig yw r gwasanaeth BUBL Link. Mae BUBL Link yn rhyngwyneb sy n eich galluogi i gael gafael ar adnoddau rhyngrwyd sydd â gogwydd academaidd iddynt, a hynny fesul pwnc. Diweddarir ef bob pythefnos a darperir crynodebau ar gyfer yr holl safleoedd sydd wedi u cynnwys. Cynigir mynediad yn ôl grwpiau pwnc ac mae grŵp y Gwyddorau Cymdeithasol, sy n cynnwys gwleidyddiaeth, yn arbennig o berthnasol. Political Science Resources gan Richard Kimber Ar gael ar y we ar http://www.psr.keele.ac.uk Casgliad helaeth o dros 3,000 o ddolenni i brif wefannau gwleidyddol a gwefannau llywodraethau ledled y byd. Intute Ar gael ar y we ar http://www.intute.ac.uk/ Mae Intute yn wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim sy n eich galluogi i gael gafael ar yr adnoddau gwe gorau un ar gyfer addysg ac ymchwil. Mae r gwasanaeth yn cael ei greu gan rwydwaith o brifysgolion y DU a u partneriaid. Bydd arbenigwyr pwnc yn dewis ac yn gwerthuso r gwefannau yn ein cronfa ddata ac yn ysgrifennu disgrifiadau graenus o r adnoddau. Safleoedd Penodol ar y Rhyngrwyd Ceir miloedd o dudalennau a allai fod yn ddefnyddiol, a r ffordd orau o ddod o hyd i ddeunydd yw defnyddio mynedfeydd pwnc. Mae tudalennau gwe yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn PA hefyd yn cynnwys llu o ddolenni i safleoedd defnyddiol y gallwch roi cynnig arnynt (http://www.aber.ac.uk/interpol/cy/welcome/). Dyma rai enghreifftiau o r ystod o ddeunyddiau sydd ar gael: Tudalen 9
Adran Amddiffyn UDA http://www.defenselink.mil/ Amnest Rhyngwladol http://www.amnesty.org/ BOPCAS (British Official Publications Current Awareness Service) http://www.soton.ac.uk/library/about/projects/bopcas.html Y Cenhedloedd Unedig http://www.un.org/ Central Intelligence Agency (CIA) https://www.cia.gov/ Cymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol (PSA) http://www.psa.ac.uk Cynulliad Cenedlaethol Cymru http://www.wales.gov.uk Gwefan UK Government Online http://www.open.gov.uk Gweinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig http://www.mod.uk/ Llywodraethau ar y We Fyd-eang http://www.gksoft.com/govt/en/ NATO http://www.nato.int/ Sefydliad Rhyngwladol Astudiaethau Strategol (IISS) http://www.iiss.org/scripts/index.asp Sefydliad Ymchwil Heddwch Rhyngwladol Stockholm http://www.sipri.se/ Senedd Ewrop http://www.europa.eu/ Senedd yr Alban http://www.scottish.parliament.uk/ Yr Undeb Ewropeaidd http://europa.eu.int/ Gwybodaeth Arall Ble i gael cymorth Staff y Gwasanaethau Gwybodaeth ar Ddesgiau Gwybodaeth a Mannau Ymholiadau ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch est. 2399 neu anfonwch e-bost i libinfo@aber.ac.uk Arbenigwyr pwnc ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol cysylltwch â Meirion Derrick ar est. 2401, anfonwch e-bost i scd@aber.ac.uk, neu galwch yn Llyfrgell y Gyfraith. Desgiau cymorth cyfrifiadurol gallwch ymweld yn bersonol ag amryw leoliadau o amgylch y Gwasanaethau Gwybodaeth neu gallwch ffonio ar est. 2747, ebost advisory@aber.ac.uk Tudalennau y Gwasanaethau Gwybodaeth ar y we ar http://www.aber.ac.uk/cy/is/ Tudalen 10