Hydref Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau.

Similar documents
Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

Buy to Let Information Pack

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Cefnogi gwaith eich eglwys

W32 05/08/17-11/08/17

NEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

The Friend. Y Cyfaill. Kyffin Williams Library book launch. Lansiad llyfr Kyffin Williams yn y Llyfrgell

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

MAPIAUMAPS. Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales

Family Housing Annual Review

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018

Welsh Conservative Manifesto for Local Government

Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg

Deddf Awtistiaeth i Gymru

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!

ATB: Collective Misunderstandings

Development Impact Assessment

Bwletin Gorffennaf 2017

PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru

Bwletin i Rieni - Hydref 2014

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

Wythnos Gwirfoddolwyr

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg


Cyngor Cymuned Llandwrog

DATHLU 30 MLYNEDD YR ARCHIF WLEIDYDDOL GYMREIG CELEBRATING 30 YEARS OF THE WELSH POLITICAL ARCHIVE

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

DYFED ARCHAEOLOGICAL TRUST NEWSLETTER SUMMER 2014 NEWYDDLEN HAF 2014 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL DYFED

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697

Llenydda a Chyfrifiadura

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi?

Week/Wythnos 13 March/Mawrth 28 - April/Ebrill 3. Pages/Tudalennau:

Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr

No 7 Digital Inclusion

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.

Llogi Cyfleusterau Venue Hire

PR and Communication Awards 2014

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol:

Wreiddio. Crynodeb. Dinas a Sir. yn y pen draw. Abertawee. newydd i CDSA. equivalent/fte) yn. corfforaethol ailddefnyddio, m 2.

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf

Profion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth

33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL

Magnox s socio-economic scheme has donated 50,000 to the Cylch Y Llan Trust to transform the former Grade II* St Deiniol s Church in Llanuwchllyn.

ROBERT MAPPLETHORPE PECYN ADNODDAU AR GYFER ATHRAWON AC ADDYSGWYR CEFNOGWYD GAN

Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr SAMPL

Cor Caerdydd o flaen adeilad y Pierhead yn y Bae noson noson perfformio Ar Waith Ar Daith gweler tud. 13. Dyluniad a lluniau: Irfon Bennett

Business development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio

Datblygu r Cwricwlwm Cymreig

Cyngor Cymuned Y Fali Community Council

Ceisiadau Cynllunio Newydd ~ New Planning Applications

Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru

Gwr lleol yn Grønland

Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development

REVIEW OF THE YEAR GOLWG AR Y FLWYDDYN PRESIDENT THE YEAR IN PROFILE HIGHLIGHTS FACTS AND FIGURES THE YEAR AHEAD LLYWYDD NEWYDD CRYNODEB O R FLWYDDYN

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth

The One Big Housing Conference

BODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG

Llantwit Major Llanilltud Fawr

SAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi

Bangoriad /6/04 1:41 pm Page 1. The University of Wales, Bangor Alumni Magazine Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor

GWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru. 1

Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin

CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg

Grwp Rheoli Adeiladu canllawiau rheoli adeiladu 2018

Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru

Transcription:

Hydref 2018 Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau www.llyfrgell.cymru

CROSO CYNNWYS CIPOLWG Mae 2018 yn Flwyddyn y Môr dewch i ddarganfod sut rydym yn dathlu ein harfordiroedd #BlwyddynyMôr #GwladGwlad Cipolwg 3 Arddangosfeydd 4 Caffi Pen Dinas 7 Siop 7 Darlithoedd a Chyflwyniadau 8 Ffilm 18 Cerddoriaeth 19 Lansio Llyfr 20 Gweithgareddau i r Teulu 22 Adnoddau Newydd 24 Gwybodaeth i Ymwelwyr 25 Cadwch mewn Cysylltiad 28 Swyddfa Docynnau 01970 632 548 digwyddiadau.llyfrgell.cymru GOSTYNGIAD O 10% I GRWPIAU O 5 NU FWY vents C Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg B Digwyddiad dwyieithog T Darperir cyfieithu ar y pryd Rhif lusen Gofrestredig 525775 Delwedd clawr blaen: Arfbais a gynhyrchwyd ar gyfer angladd Syr Thomas Mostyn. 1618, o Blasty Mostyn, Sir y Fflint Medi 05 Aspects of Ceredigion s Maritime History in the Nineteenth Century 11 A refined and beautiful talent : Thoughts on the centenary of the death of Morfydd Owen (1891 1918) 20 Drysau Agored: Ffoaduriaid ac adfeilion ffocws ar ffotograffiaeth 2.30pm 22 Mostyn: the creation of a north Wales dynasty c. 1500 1700 2.00pm 27 Lansio Llyfr: Cymru Mewn 100 Gwrthrych 7.00pm Hydref 03 Hanes y Byd a Hanes yr Awdur: chwilio am lis Gruffydd yn ei lawysgrifau 05 Gig: Huw Chiswell 7.30pm 10 Journey to the Past: Wales in Historic Travel Writing from France and Germany 11 Ffilm: The Dragon Has Two Tongues: Where to Begin & When was Wales? 2.00pm 15 Cama r Ddrama 7.30pm 17 Cof y Genedl: Cof y Byd 18 Ffilm: The Dragon Has Two Tongues: Aliens In Their Own Land & The Norman 2.00pm Smash And Grab 24 Sgwrs Oriel: A full library, workshops of knowledge 25 Ffilm: The Dragon Has Two Tongues: Under The Heel & Swallowing The Leek 2.00pm 30 Gweithgaredd i r Teulu: Defnydd o therapïau i hybu lles i bawb 10.00am 31 Witches in Wales Tachwedd 01 Gweithgaredd i r Teulu: Amser Stori Chwedl Cantre r Gwaelod 2.00pm 01 Ffilm: The Dragon Has Two Tongues: The Gentry Century & Rebirth of a Nation 2.00pm 02 The Mostyn Manuscripts Symposium 10.00am-4.00pm 02 Darlith Flynyddol Yr Archif Wleidyddol Gymreig: Aneurin Bevan 5.30pm 08 Adrodd in Stori 20 mlynedd o fenywod yn codi llais, llywodraethu a chreu newid yn ein Cynulliad Cenedlaethol 08 Ffilm: The Dragon Has Two Tongues: The Crucible & From Riot To Respectability 2.00pm 14 From Pembrokeshire to Passchendaele and Perth 15 Ffilm: The Dragon Has Two Tongues: How Red Was My Valley & xodus 2.00pm & The Death Of Wales? 24 David Lloyd George - Y gwir yn erbyn y byd / The truth against the world 2.00pm 28 Sgwrs Oriel: Llyfr-dŷ llawn, llafurdai dysg Rhagfyr 05 The Mostyn Psalter-Hours: A deluxe illuminated manuscript 06 Dathlu r Dolig Ionawr 09 T. H. Parry Williams a i ddiddordeb mewn meddygaeth 2 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 3

ORIL ORIL Arddangosfeydd Dewch i fwynhau casgliadau hynod y Llyfrgell Genedlaethol sy n cael eu harddangos yn ein horielau. Os mai dyma ch ymweliad cyntaf, neu os ydych wedi ymweld o r blaen, mae croeso cynnes yma bob amser. Mae mynediad i n holl arddangosfeydd yn rhad ac am ddim ac rydym yn croesawu teuluoedd. Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa r Canmlwyddiant Oriel Hengwrt, tan 8.12.18 Daeth y grŵp cyntaf o lawysgrifau o Blasty Mostyn, sir y Fflint i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1918. I nodi canmlwyddiant y derbyniad nodedig hwn, mae r Llyfrgell yn dangos rhai o i thrysorau mwyaf gwerthfawr o Fostyn yn ystod y tymor sydd i ddod, ochr-yn-ochr â detholiad bychan o eitemau a gedwir o hyd ym Mhlasty Mostyn. Dyma gyfle prin i syllu ar eitemau na chânt eu gweld yn aml gan y cyhoedd, gan gynnwys Telyn Arian isteddfodau Caerwys 1523 a 1567 gwobr eisteddfodol gynharaf Cymru, a dyfrluniau gan yr arlunydd o sir y Fflint, Moses Griffith (1747 1819). #Mostyn100 Delwedd: NLW MS 3026 t.26 Jack Lowe - The Lifeboat Station Project Uwch Gyntedd, tan 09.03.19 Detholiad unigryw o ddelweddau o orsafoedd bad achub Cymru sy n rhan o ymdrech Jack i dynnu llun o bob un o r 238 gorsaf RNLI o gwmpas y DU ac Iwerddon. Caiff y ffotograffau eu creu gan ddefnyddio Colodion ar Blatiau Gwlyb, proses Fictoraidd sy n llwyddo i greu delweddau syfrdanol ar wydr. Delwedd: Tenby Lifeboat Crew o The Lifeboat Station Project Jack Lowe 2016 4 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 The National Library of Wales What s On 5

ORIL CAFFI PN DINAS SIOP Tra Môr yn Fur: Cymru a r Môr Anecs Gregynog, 29.09.18 23.02.19 Mae dyfroedd Cymru wedi siapio nid yn unig yr arfordir, ond hefyd hanes a dychymyg y Cymry. Gan ddefnyddio hanes, straeon a delweddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Cymru, bydd yr arddangosfa hon yn archwilio ein perthynas â r môr a sut y bu iddo effeithio ar ein tirwedd a n diwylliant. Delwedd: Collecting Shells Claudia Williams Clawr i Glawr Byd y Llyfr, Llawr Gwaelod, tan 2019 Byddwn yn olrhain hanes y llyfr ar ei daith o r Aifft i r e-lyfr, gan edrych ar fathau o lyfrau, y broses o greu llyfr, a llyfrau fel darnau o gelf ynddynt eu hunain. Delwedd: Old King Cole, y llyfr lleiaf yn y byd Caffi Pen Dinas Mae Caffi Pen Dinas yn ymfalchïo mewn darparu bwyd o ansawdd uchel. Dewch i fwynhau r amrywiaeth o frechdanau, panini, tatws trwy u crwyn, cawl cartref a phrydau r dydd. Mae diodydd poeth ac oer ar gael trwy r dydd, a beth am flasu ein teisennau cartref godidog? Lleolir Caffi Pen Dinas mewn man cyfleus yn ymyl y brif fynedfa, a darperir mynediad rhwydd a chyfleusterau i deuluoedd. Rydym ar agor rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10.00am a 4.00pm ar ddydd Sadwrn. Siop Yn siop y Llyfrgell, gallwch brynu eitemau unigryw, gwaith wedi i wneud â llaw a chrefftau a rhoddion anarferol a ysbrydolir gan gasgliadau r Llyfrgell. Rydym yn gwerthu nwyddau hardd i r cartref, gemwaith o ansawdd uchel a wneir â llaw yng Nghymru, teganau, llyfrau, a llawer mwy... Rydym ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Siop Ar-lein: siop.llgc.org.uk Delweddau: Keith Morris Artswebwales.com 6 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 7

DARLITHODD A DARLITHODD A Dydd Mercher 5 Medi Aspects of Ceredigion s Maritime History in the Nineteenth Century William Troughton Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd herwlongau, smyglwyr a llongddrylliadau yn rhan o fywyd cymunedau arfordirol Ceredigion. Bydd y sgwrs hon yn rhoi sylw i rai agweddau ar fywyd arfordir Ceredigion yn ystod y cyfnod hwn. #BlwyddynyMôr Delwedd: View near Aberystwyth Cardiganshire, William Daniell, 1813 Dydd Mawrth 11 Medi A refined and beautiful talent: thoughts on the centenary of the death of Morfydd Owen (1891 1918) Dr Rhian Davies Claddwyd Morfydd Owen yn Ystumllwynarth ar 11 Medi 1918, gan mlynedd yn ôl i heddiw. Rhian Davies sy n ystyried gwaddol y gyfansoddwraig y dechreuodd ymchwilio i w hanes yn Aberystwyth yn 1982, gan osod ei chyrhaeddiad yng nghyd-destun cerddorion benywaidd eraill Cymru o r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen. Caiff deunyddiau o gasgliadau r Llyfrgell eu harddangos yn Ystafell Summers hefyd, i nodi canrif ers marwolaeth Morfydd Owen. Delwedd: Morfydd Owen (Casgliad Rhian Davies) Dydd Iau 20 Medi 2.30pm Drysau Agored: Ffoaduriaid ac Adfeilion ffocws ar ffotograffiaeth Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i un o gasgliadau ffotograffig mwyaf Prydain. Bydd William Troughton, Curadur Ffotograffiaeth, yn eich tywys trwy r celloedd i weld y casgliad helaeth a phwysig hwn. Bydd angen trefnu tocyn (am ddim) ar gyfer y daith tywys.. Yn ogystal bydd cyfle i weld detholiad o ffotograffau o archif y Comisiwn Brenhinol yn Ystafell Ddarllen y Comisiwn, gan gynnwys tai coll Cymru ac adfeilion arwyddocaol eraill rhwng 10.00am - 4.00pm. Ni fydd angen tocyn i weld yr arddangosfa. Delwedd: Fleeing Mosul Abbie Trayler-Smith C 8 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 9

DARLITHODD A DARLITHODD A Dydd Sadwrn 22 Medi 2.00pm Mostyn: the creation of a north Wales dynasty c. 1500 1700 Dr Shaun vans Dydd Mercher 3 Hydref Hanes y Byd a Hanes yr Awdur: chwilio am lis Gruffydd yn ei lawysgrifau Dr Ceridwen Lloyd-Morgan Dydd Mercher 10 Hydref Dydd Llun 15 Hydref 7.30pm Cama r Ddrama Dydd Mercher 17 Hydref Cof y Genedl: Cof y Byd Dydd Mercher 24 Hydref Sgwrs Oriel: A full library, workshops of knowledge Dr Maredudd ap Huw Cyfle i ddysgu mwy am y teulu a r ystâd yn ystod yr 16eg a r 17eg ganrif. Noddir a chefnogir y digwyddiad hwn gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gydfynd â Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa r Canmlwyddiant. Mynediad trwy docyn 4.00, am ddim i Gyfeillion y Llyfrgell #Mostyn100 Delwedd: Arfbais a gynhyrchwyd ar gyfer angladd Syr Thomas Mostyn. 1618, o Blasty Mostyn, Sir y Fflint Wrth gasglu ynghyd farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg o r Oesoedd Canol, wrth gyfieithu traethodau meddygol, neu wrth ysgrifennu ei Gronicl anferth o hanes y byd o r Cread hyd ei ddyddiau ef ei hun yng nghanol yr 16eg ganrif, ni lwyddai lis Gruffydd i osgoi r demtasiwn i ychwanegu ei sylwadau personol. Trwy ddarllen ei lawysgrifau cawn felly aml i gip ar fywyd a chymeriad y Cymro rhyfeddol hwn o Sir y Fflint a i fywyd yn Llundain, Calais a thu hwnt. #Mostyn100 C T Journey to the Past: Wales in Historic Travel Writing from France and Germany Rita Singer a Susan Fielding Bydd staff Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cyflwyno gwefan newydd sy n eich gwahodd i ddarganfod trysorau treftadaeth ysblennydd ac amrywiol Cymru drwy gyfrwng teithlyfrau hanesyddol ac adnoddau digidol arloesol. Y mae Cama r Ddrama yn rhan o brosiect blynyddol ledled Aberystwyth i ganfod a chefnogi awduron sy n awyddus i sgriptio gwaith ar gyfer y theatr ac ar gyfer perfformiad. Anoga awduron i geisio ysbrydoliaeth yn rhai o ofodau mwyaf diddorol Aberystwyth, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, ac i ysgrifennu amdanynt. Bydd y noson hon yn cyflwyno detholiad o waith cychwynnol gan awduron yr ydym yn eu cefnogi i ysgrifennu drama lawn newydd. Os ydych am gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â playpenaberystwyth@gmail. com Mynediad trwy docyn 6.00 Delwedd: Boz Groden B Bydd curaduron y Llyfrgell yn dathlu eitemau a chasgliadau sydd wedi eu cynnwys ar Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, dan adain UNSCO. Ymuna r Athro Prys Morgan, Abertawe, â ni i drafod ein hychwanegiad diweddaraf, Cronicl lis Gruffydd, y milwr o Galais, llawysgrif sydd i w gweld yn ein harddangosfa gyfredol o drysorau Mostyn. #Mostyn100 Delwedd: Cronicl llis Gruffydd NLW MSS 3054i-iiD + 5276i-iiD C T A hithau n dymor Mostyn yn y Llyfrgell, bydd curadur ein harddangosfa yn ein tywys o amgylch llawysgrifau, llyfrau, creiriau a darluniau i adrodd stori un teulu a i gasgliadau hynod. (Cynhelir y cyflwyniad hwn yn Saesneg gyda Sgwrs Oriel yn y Gymraeg ar ddydd Mercher 28 Tachwedd.) #Mostyn100 Delewdd: Ychen Luc yr fengylydd NLW MS 21241 f.2 10 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 11

DARLITHODD A DARLITHODD A Dydd Mercher 31 Hydref Witches in Wales Richard Suggett Yn ystod y cyflwyniad hwn, ceir trafodaeth ar hanes gofidus erlyniadau am ddewiniaeth yng Nghymru yn yr 16eg a r 17eg ganrif. Mae yna gwestiynau niferus y mae modd eu hateb erbyn hyn: Pwy oedd dan amheuaeth o fod yn wrachod? Beth oedd y cyhuddiad yn eu herbyn? Pwy oedd yn eu cyhuddo? Beth ddigwyddodd i r rheiny oedd dan amheuaeth? Mae r cyflwyniad hwn ar Noson Calan Gaeaf yn tynnu ar archif ardderchog y Llyfrgell o Gofnodion Llys y Sesiwn Fawr. Cyhoeddir y dystiolaeth yn awr mewn llyfr newydd gan Richard Suggett, Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from Sixteenth and Seventeenth-century Wales (Atramentous Press, 2018). Delwedd: Cyfarfod â r Diafol (o Alrhe/Plasty Althrey, Sir y Fflint) Delwedd: Plasty Mostyn 2018 Dydd Gwener 2 Tachwedd 10.00am-4.00pm The Mostyn Manuscripts Symposium Dros y cenedlaethau, cydnabuwyd y teulu Mostyn fel un o deuluoedd tiriog mwyaf dylanwadol Cymru, ac mae r casgliadau a grëwyd ganddynt yn sail gadarn i ymchwil pellach. Trwy gyfrwng cyflwyniadau byrion, bydd y symposiwm cyhoeddus undydd hwn yn dangos ystod o astudiaethau n seiliedig ar Lawysgrifau Mostyn y Llyfrgell Genedlaethol a chasgliadau perthynol. Mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr ym Mhrifysgol Bangor, bydd y Symposiwm yn dangos gwerth diwylliannol ac ymchwil casgliadau un o blastai enwocaf Cymru. #Mostyn100 Delwedd: Telyn Arian isteddfod Caerwys 12 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 13

DARLITHODD A DARLITHODD A Dydd Gwener 2 Tachwedd 5.30pm Darlith Flynyddol Yr Archif Wleidyddol Gymreig: Aneurin Bevan, Pensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (1945 1948) Y Parch. Ddr D. Ben Rees Delwedd: Aneurin Bevan, Casgliad Geoff Charles LlGC Dydd Iau 8 Tachwedd Adrodd in Stori 20 mlynedd o fenywod yn codi llais, llywodraethu a chreu newid yn ein Cynulliad Cenedlaethol lin Jones AC Gan mlynedd ers i rai menywod ennill y bleidlais am y tro cyntaf, Llywydd y Cynulliad ac AC Ceredigion, lin Jones, fydd yn trafod cyfraniad menywod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mi fydd hefyd yn pwyso a mesur y rhesymau pam nad yw r cyfraniadau hyn yn derbyn y sylw y maent yn ei haeddu a r heriau sy n dal i fodoli wrth sicrhau mwy o wleidyddion benywaidd. C T Ar ôl ennill tholiad Cyffredinol 1945, mentrodd Clement Attlee ddewis Aneurin Bevan, un o i feirniaid llymaf, yn Weinidog Iechyd. r nad oedd erioed wedi ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb mewn Llywodraeth nac yn yr Wrthblaid, daeth yn un o weinidogion mwyaf llwyddiannus y Cabinet. Bydd y ddarlith hon yn olrhain ei berthynas â Chymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a roddodd iddo weledigaeth sosialaidd i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gyda i ddawn i gyflwyno ei athroniaeth i r gweision sifil a r cyfryngau, a i athrylith i ddeall cymhlethdodau r cynllun iechyd, estynnodd egwyddor Tredegar i bob cwr o r Deyrnas Unedig erbyn 5 Gorffennaf 1948. C T Delwedd: lin Jones AC Dydd Mercher 14 Tachwedd From Pembrokeshire to Passchendaele and Perth Yr Athro Tony Curtis Y bardd a r awdur o Gymro, Tony Curtis, sy n ein tywys ar siwrnai bersonol i edrych ar gyfraniad ac aberth ei deulu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Buont yn gwasanaethu ochr yn ochr â rhai o awduron ac artistiaid pwysig y rhyfel ac mae hyn yn cyfrannu at eu stori. Delwedd: Thomas Charles Thomas, a laddwyd yn 1917 (Casgliad Tony Curtis) Dydd Sadwrn 24 Tachwedd 2.00pm David Lloyd George Y gwir yn erbyn y byd / The truth against the world Yr Athro Russell Deacon Roedd gan dri Phrif Weinidog etholaethau seneddol yng Nghymru, sef David Lloyd George, Ramsay MacDonald a James Callaghan. rbyn heddiw, prin yw r sôn am MacDonald a Callaghan, ond erys enw Lloyd George yn gyson, bron, ar wefusau gwleidyddion yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Nid ei statws fel y gŵr a enillodd y rhyfel yn unig sy n gyfrifol am hyn. Roedd Lloyd George yn llawer mwy nag arweinydd rhyfel; roedd yn ddiwygiwr cymdeithasol, yn grëwr cenhedloedd, yn arweinydd i r holl bleidiau gwleidyddol ac, ar adegau, yn arweinydd heb yr un blaid wleidyddol. Yr Athro Russell Deacon, Cadeirydd Cymdeithas Lloyd George, fydd yn edrych ar hanes Lloyd George ei hun, ac yn esbonio rhywfaint hefyd am ffraethineb a doethineb yr areithiwr gwleidyddol hynod o bwerus hwn. Dyma ŵr a ddisgrifiwyd gan Winston Churchill fel y Cymro pwysicaf ers y Tuduriaid. Bydd y cyflwyniad hefyd yn cynnwys darlleniadau dethol o ysgrifau ac areithiau Lloyd George ei hun. Mynediad trwy docyn 4.00, am ddim i Gyfeillion y Llyfrgell Delweddau: Poster Lloyd George a r Athro Russell Deacon 14 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 15

DARLITHODD A DARLITHODD A Dydd Mercher 28 Tachwedd Sgwrs Oriel: Llyfr-dŷ llawn, llafurdai dysg Dr Maredudd ap Huw Dydd Mercher 5 Rhagfyr The Mostyn Psalter-Hours: a deluxe illuminated manuscript Dr Kathleen Doyle Dydd Iau 6 Rhagfyr A hithau n dymor Mostyn yn y Llyfrgell, bydd curadur ein harddangosfa yn ein tywys o amgylch llawysgrifau, llyfrau, creiriau a darluniau i adrodd stori un teulu a i gasgliadau hynod. (Cynhelir y Sgwrs Oriel hon yn Saesneg ar ddydd Mercher 24 Hydref.) #Mostyn100 Delwedd: Herod Frenin ar ei orsedd NLW MS 21241 f.2v C Bydd Kathleen Doyle, Prif Guradur Llawysgrifau Goreuredig y Llyfrgell Brydeinig, yn trafod Llyfr Sallwyr ac Oriau Mostyn, a brynwyd ganddynt yn ddiweddar. Crëwyd y llawysgrif oreuredig hon yn Llundain yn ystod degawdau olaf y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae n enghraifft odidog o oreuro Seisnig o r radd flaenaf, a hynny o bosibl ar gyfer esgob Llundain. #Mostyn100 Delwedd: sgob mewn gweddi o Sallwyr Mostyn, Britoish Library Additional 89250 f.90v Dathlu r Dolig Ymunwch gyda ni i fwynhau naws yr ŵyl cyfleoedd i siopa, adloniant byw, a llawer iawn mwy... Manylion llawn i ddilyn... Dydd Mercher 9 Ionawr T. H. Parry-Williams a i ddiddordeb mewn meddygaeth Dr Bleddyn Owen Huws Bwriadodd T. H. Parry-Williams newid cwrs ei yrfa a mynd yn feddyg ddwywaith, ac yntau eisoes wedi treulio pymtheg mlynedd yng Nghadair y Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth. r mai penderfynu peidio â mynd a wnaeth yn y diwedd, ni phallodd ei ddiddordeb mewn meddygaeth. Bydd y ddarlith hon yn ymdrin â r diddordeb a oedd ganddo yn y maes trwy dynnu ar dystiolaeth y casgliad o lyfrau meddygol a oedd yn ei feddiant, gan ddatgelu gwybodaeth newydd am hyd a lled ei ddiddordebau. Delwedd: T.H.Parry Williams Julian Sheppard, Casgliad LlGC C T 16 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 17

FFILM CRDDORIATH Bob prynhawn dydd Iau 11 Hydref 15 Tachwedd 2.00pm Ffilm: The Dragon Has Two Tongues The History of the Welsh Wynford Vaughan-Thomas a r Athro Gwyn Alf Williams 11 Hydref Where to Begin & When was Wales 18 Hydref Aliens In Their Own Land & The Norman Smash And Grab 25 Hydref Under The Heel & Swallowing The Leek 01 Tachwedd The Gentry Century & Rebirth Of A Nation 08 Tachwedd The Crucible & From Riot To Respectability 15 Tachwedd How Red Was My Valley & xodus & The Death Of Wales? Delwedd: The Dragon Has Two Tongues ITV CymruWales HUW CHISWLL Nos Wener 5 Hydref 7.30pm Noson o gerddoriaeth acwstig yng nghwmni un o berfformwyr a chyfansoddwyr mwyaf poblogaidd Cymru. 01970 632 548 digwyddiadau.llyfrgell.cymru Mynediad trwy docyn 10.00 Bar ar gael C 18 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 19

LANSIO LLYFR CFNOGATH Dydd Iau 27 Medi 7.00pm Cymru Mewn 100 Gwrthrych Andrew Green Noson cyhoeddi llyfr diweddaraf Andrew Green, cyn-lyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae r llyfr arbennig hwn yn crisialu hanes Cymru mewn can gwrthrych sydd wedi cael eu casglu o amryw leoliadau, ac o wahanol gyfnodau hanesyddol. Mae r llyfr yn cynnwys lluniau trawiadol gan y ffotograffydd Rolant Dafis o Aberystwyth. Cyhoeddir dau fersiwn o r llyfr un yn Gymraeg ac un yn Saesneg. Cynhelir derbyniad gwin ar ddiwedd y noson. Delwedd: Detholiad o rai o r delweddau yn y llyfr B T Ymgyrch Fframio r Dyfodol Mae Ymgyrch Fframio r Dyfodol yn ariannu fframiau cadwraeth ar gyfer paentiadau eiconig Kyffin Williams. isoes, mae cyfraniadau hael gan y cyhoedd wedi ein galluogi i fframio r paentiad hwn o waith Kyffin. Gyda ch cefnogaeth chi byddwn yn medru cyflawni mwy o r gwaith cadwraeth hanfodol hwn gan sicrhau y bydd paentiadau Kyffin yma i w gwerthfawrogi gan genedlaethau r dyfodol. I gefnogi anfonwch rodd trwy r post, cyfrannwch ar-lein, neu tecstiwch KYFF10 i 70070 i roi 10 i r ymgyrch. Delwedd: Ffermwr Ymysg y Creigiau - Kyffin Williams LlGC 20 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 SUMMR 2018 The National Library of Wales What s On 21

GWITHGARDDAU I R TULU GWITHGARDDAU I R TULU Dydd Mawrth 30 Hydref 10.00am Defnydd o therapïau i hybu lles i bawb Sian Davies a Lorraine Davies o Clinig Bach y Wlad Gweithdy adweitheg/tylino a thriniaethau eraill a all gefnogi a rhoi gwellhad yn ein bywyd bob dydd. Bydd y gweithdy n addas i bob oedran, ond disgwylir rhiant / oedolyn gyda phob plentyn, ac fe fydd yn para am 45 munud. C Dydd Iau 1 Tachwedd 2.00pm Gweithgaredd i r Teulu: Amser Stori Chwedl Cantre r Gwaelod Sesiwn stori aml-synhwyraidd, ryngweithiol yn adrodd un o chwedlau mwyaf adnabyddus Ceredigion Cantre r Gwaelod, y deyrnas dan y dŵr. Cyfle i blant ddefnyddio u dychymyg wrth iddynt deithio nôl mewn amser fel rhai o r prif gymeriadau, a chael defnyddio amryw o bropiau ac offerynnau cerddorol. Addas i blant 5 11 oed. #BlwyddynyMôr C 22 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 23

ADNODDAU GWYBODATH I YMWLWYR Delwedd: Dehongliad artistig o Ganolfan Glan-yr-afon YN AGOR YN FUAN Llyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd. Dewch i weld oriel newydd y Llyfrgell Genedlaethol ochr yn ochr â llyfrgell gyhoeddus newydd, canolfan gwybodaeth i ymwelwyr a chaffi yng nghanol tref Hwlffordd. Yn arddangos pob agwedd o gasgliadau r Llyfrgell, o eitemau eiconig i rai sydd ddim yn cael eu harddangos yn aml. Mynediad yn rhad ac am ddim wch i n gwefan www.llyfrgell.cymru am fanylion pellach #Glanyrafon YSTAFLLODD DARLLN Hanes Lleol Hanes y Teulu Ymchwil Beth bynnag fo ch diddordebau, dyma r lle delfrydol i gael mynediad at gasgliadau eang y Llyfrgell. Dewch i ddefnyddio n dwy ystafell ddarllen groesawgar a deniadol a gwneud y gorau o n holl adnoddau, gyda chymorth staff profiadol a chyfeillgar. Delwedd: Ystafell Ddarllen y Gogledd YMWLD Cynhelir teithiau tywys wythnosol o amgylch y Llyfrgell. I archebu tocyn cysylltwch â r Swyddfa Docynnau ar 01970 632 548 neu archebwch ar y we trwy fynd i digwyddiadau.llyfrgell.cymru Mae r Llyfrgell hefyd yn cynnig teithiau tywys i grwpiau a chymdeithasau am ragor o wybodaeth ffoniwch 01970 632 800 neu anfonwch e-bost at gwas-ymwelwyr@llyfrgell. cymru DARGANFOD Ydych chi eisiau manteisio i r eithaf ar gasgliadau a gwasanaethau r Llyfrgell? Os felly, cynhelir sesiynau gwybodaeth ar y pynciau canlynol: Sesiwn Groeso Catalogau ac e-adnoddau Hanes Teulu a Hanes Lleol Hanes Adeiladau Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle yn un o r sesiynau, ewch i www.llyfrgell.cymru/ cymorthfeydd neu ffoniwch 01970 632 933 Delwedd: Pembroke Castle and landscape - Richard Wilson NLW Delwedd: Hwlffordd - Casgliad Geoff Charles LlGC 24 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 25

GWYBODATH I YMWLWYR GWYBODATH I YMWLWYR GWASANATH LLTYGARWCH Os ydych yn chwilio am leoliad godidog ac unigryw ar gyfer seremoni briodas, cynhadledd neu ddigwyddiad, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig nifer o ystafelloedd i w llogi, ynghyd â chymorth technegol a gwasanaeth arlwyo i hyd at 100 o bobl. Cysylltwch â r Swyddog Lletygarwch ar gwas@llyfrgell.cymru neu 01970 632 801 i drafod eich anghenion ymhellach. Delwedd: Y Drwm TITHIO Mae maes parcio cyfleus ger y Llyfrgell neu gallwch deithio ar fws 03 sy n dilyn taith gylch rhwng tref Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. NODR Cedwir eich sedd yn y Drwm tan 5 munud wedi i r digwyddiad ddechrau. Os bydd y sedd yn wag, cedwir yr hawl gan y Llyfrgell i gynnig y sedd i unrhywun arall sydd ar ein rhestr aros. Bydd hyn yn weithredol ar gyfer tocynnau a gynigir am ddim. Os gwyddoch y byddwch yn hwyr yn cyrraedd, dylid ymdrechu i roi gwybod i r Llyfrgell os yw n bosib. Dylid ymdrechu i fod yn eich sedd yn brydlon, er hwylusdod. Diolch am eich cydweithrediad. Mae n bosib y bydd ffotograffwyr y Llyfrgell yn tynnu lluniau neu n ffilmio mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd. Mae n bosib hefyd y bydd y Llyfrgell yn dymuno defnyddio r delweddau hyn mewn deunydd hyrwyddo a marchnata. Os ydych yn gwrthwynebu gweld lun sy n eich cynnwys chi yn cael ei ddefnyddio at y dibenion hyn, rhowch wybod i aelod o staff y Llyfrgell. Rydym hefyd yn defnyddio Camerâu Cylch Cyfyng y tu mewn i r adeilad a thu allan ar safle r Llyfrgell. Mae r Llyfrgell yn cadw r hawl i newid amseroedd a dyddiadau unrhyw ddigwyddiad neu arddangosfa. Mae r manylion a geir yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Os bydd digwyddiad yn cael ei ohirio, gwneir pob ymdrech i hysbysu deiliaid y tocynnau. CFNOGI CYFILLION Y LLYFRGLL Ymunwch â Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gefnogi ac i chwarae eich rhan yn ein dyfodol. Cewch ostyngiad o 10% ar rai o r eitemau yn Siop y Llyfrgell: www.llyfrgell.cymru/ cyfeillion Y GRONFA GASGLIADAU - Adeiladu r Dyfodol I sicrhau bod ein gwaith casglu n parhau i fod yn effeithiol a n casgliadau n gyfredol, bydd rhaid i ni sefydlu ffynonellau ariannu hirdymor a chynaliadwy. Un ffordd o wneud hyn yw annog rhoddion i r Gronfa Gasgliadau newydd. Buddsoddir yr arian er mwyn ennill incwm, a fydd ar gael i w wario ar eitemau newydd i r casgliadau. Os hoffech ein cefnogi n rheolaidd neu drwy gyfrannu unwaith yn unig mae cyfrannu ar-lein yn hawdd: www.llyfrgell.cymru/ cronfagasgliadau Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni: rhoddion@llyfrgell.cymru BARN Y BOBL Beth, neu bwy, hoffech chi eu gweld yn y Llyfrgell? Os oes gennych unrhyw awgrym am siaradwr, cerddor neu ddigwyddiad yr hoffech ei gynnig, cysylltwch â ni. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych. CYSYLLTWCH Â Uned Hyrwyddo a Marchnata Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth SY23 3BU 01970 632 471 post@llyfrgell.cymru CWRDD A CHYFARCH Os oes gennych chi ddiddordeb gwirfoddoli yn ystod rhai o ddigwyddiadau r Llyfrgell, beth am ymuno â n cynllun Cwrdd a Chyfarch? Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr, dros 18 oed, sy n rhugl yn y Gymraeg neu n dysgu r iaith. Os am wybod mwy, cysylltwch â Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr: 01970 632 991 gwyneth.davies@llyfrgell.cymru 26 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018 HYDRF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 27

CADW CH MWN CYSYLLTIAD CADWCH MWN CYSYLLTIAD! Ymunwch â n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y Llyfrgell. Llenwch y ffurflen a i dychwelyd i r cyfeiriad isod. nw Cyfeiriad Rhif ffôn -bost Sut hoffech chi dderbyn eich copi? Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth Ceredigion SY23 3BU 01970 632 800 gofyn@llyfrgell.cymru Oriau Agor Cyffredinol Dydd Llun Dydd Gwener 9.30am 6.00pm Dydd Sadwrn 9.30am 5.00pm Drwy r post Drwy e-bost Cefais y llyfryn hwn yn (nodwch ble, er enghraifft, y Llyfrgell Genedlaethol, Canolfan Groeso Aberystwyth ayyb) Rwy n deall y caiff yr wybodaeth uchod ei chadw yn y Llyfrgell yn unig, ac na fydd unrhyw gwmni na sefydliad arall yn ei defnyddio. Mae Datganiad Preifatrwydd Rhestrau Cyswllt LLGC: www.llyfrgell.cymru/preifatrwyddrhestraucyswllt yn darparu eglurder ychwanegol ynglŷn â sut rydym yn storio a phrosesu ch gwybodaeth. Dychwelwch y ffurflen wedi i chwblhau at: Uned Hyrwyddo a Marchnata Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth SY23 3BU Neu drwy e-bost at post@llyfrgell.cymru 28 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDRF 2018