Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts Nodweddion arwyddocaol: Ymchwil ddiweddar i hanes Cymru; Bylchau yn yr ymchwil i hanes Cymru; Dyfodol disglair felly i hanes Cymru? A throi at ymchwil ddiweddar i hanes Cymru, pa feysydd ymchwil newydd sy n ymgynnig i haneswyr ifanc? Ble mae r bylchau mawr? Wel un o r bylchau mwyaf, ac roeddwn i n gallu gweld hynny wrth olygu hanes sirol Gwent, yw hanes poblogaeth Cymru cyn 1801. Wn i ddim mewn gwirionedd sut y gall haneswyr wneud y pwnc yma ond dyna beth yw un o r desiderata mwyaf. Roedd David Williams yn credu hynny ac fe geisiodd ysgrifennu nodyn ar boblogaeth Cymru flynyddoedd maith yn ôl, a Leonard Owen yn yr un modd. 1 Mae n bwnc mor anodd ond mae n un o r pethau sydd fwyaf ei angen arnom ni. Beth oedd y newidiadau yn hanes poblogaeth Cymru? Mae fy nghyfnither, Nia Watkin Powell, yn ceisio dadansoddi hanes trefi Cymru ac yn y blaen, ond mae n waith anodd a thechnegol iawn. 2 Un o r pethau eraill yr hoffwn ei weld yw mwy o ysgrifennu am hanes sefydliadau. Mae llawer o gymdeithasau yng Nghymru ac mae angen hanes nid y sefydliadau unigol yn unig ond hanes twf sefydliadau fel y cyfryw yng Nghymru. Rydw i wedi gweithio i ryw raddau ar hynny ond allaf i ddim gwneud y gwaith angenrheidiol, mae eisiau rhywun iau i wneud y math yna o waith ar sefydliadau. Yn gysylltiedig â sefydliadau mae hanes élites yng Nghymru ac mi ddechreuais weld hynny a gwneud rhywfaint o waith ar y maes pan ysgrifennais i bennod er cof am Glanmor Williams yn Degrees of Influence. 3 Wn i ddim a ydych chi n gyfarwydd â r gyfrol Degrees of Influence ond mi ysgrifennais i bennod ar Glanmor fel aelod o r sefydliad Cymreig, y Welsh Establishment, rhwng y 60au a r 90au neu ddechrau r unfed ganrif ar hugain. Ar ddechrau r bennod rwy n sôn am Glanmor ei hun a r holl bwyllgorau a chomisiynau ac yn y blaen yr oedd yn aelod ohonyn nhw. Erbyn ail ran y bennod rwy n dangos bod Glanmor wedi dod o dan ddylanwad pobl fel Henry Lewis, Alun Oldfield Davies a Sir Grismond Philipps, pobl hollol wahanol i w gilydd a Grismond yn annisgwyl mewn ffordd achos Tori rhonc oedd e a sgweier gwledig yn Sir Gaerfyrddin. Ac wedi hynny rwy n cymharu Glanmor â phob math o bobl gyhoeddus fel Syr Wynn Wheldon ac yn y blaen. Mae na ryw gant ohonyn nhw sydd ar bob pwyllgor Dogfael/Foter/CC BY-NC-SA 1 David Williams, A note on the population of Wales, 1536 1801, Bwletin Bwrdd y Gwybodau Celtaidd 8 (1935 7), 359 63; Leonard Owen, The population of Wales in the sixteenth and seventeenth centuries, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1959), 99 113. 2 Nia M. W. Powell, Do numbers count?: towns in early modern Wales, Urban History 32 (2005), 46 67; idem, Urban population in early modern Wales revisited, Cylchgrawn Hanes Cymru 23:3 (2007), 1 43. 3 Prys Morgan, Some sort of public machine : The Public Servant, yn Geraint H. Jenkins & Gareth Elwyn Jones (eds.), Degrees of Influence[:] A Memorial Volume for Glanmor Williams (Cardiff, 2008), tt. 164-81. 1 Y Cylchgrawn Hanes
yng Nghymru. Mae nhw n Deputy Lieutenants for the County, mae nhw n rheoli r Comisiwn Coedwigaeth, yn aelodau o r Festival of Britain s Committee for Wales, W.I. Committee for Wales, Girl Guides for Wales, ar bwyllgorau r Urdd a phwyllgorau r Eisteddfod ac yn y blaen. Yr un bobl ydyn nhw mwy neu lai, ac mae yna ryw gant ohonyn nhw ar y tro. Llew Haycock dwedwch ym Morgannwg a Syr Wynn Wheldon ym Mangor a Huw T. Edwards. Mae Gwyn Jenkins wedi cyhoeddi llyfr ar yr olaf fel prifweinidog answyddogol Cymru. 4 Roedd Glan yn perthyn i r grŵp yna ac mi es i allan o m ffordd i bwysleisio hynny yn y bennod gan obeithio denu hanesydd ifanc i wneud PhD ar hanes y sefydliad Cymreig yn yr ugeinfed ganrif. Neu r ganrif cynt? Wel ie, y ganrif cynt hefyd wrth gwrs. Wel mae John Gwynfor Jones wedi gwneud gwaith gwych ar y pendefigion Cymreig rhwng 1530 a 1642; a David Howell ar bendefigion y ddeunawfed ganrif; a Melvin Humphreys ar bendefigion y cyfnod yna hefyd. 5 Dyna beth arall a m trawodd i wrth imi ysgrifennu ar ddechreuadau r Amgueddfa, ac wedi hynny y bennod agoriadol a ysgrifennais i ar y chwiorydd Davies, Gregynog i ddathlu canmlwyddiant yr Amgueddfa Genedlaethol. 6 Pwy oedd y ddwy Ddavies, sut yr oedden nhw n perthyn i John Jones Tal-y-Sarn a sut yr oedd yr holl bobl yma fel T. E. Ellis, J. H. Davies a Herbert Lewis i gyd yn perthyn rywsut neu gilydd i John Jones Tal-y-Sarn a r élite Methodistaidd; naill ai eu bod nhw n Fethodistiaid neu eu bod nhw n gyfeillion i r Methodistiaid yma. A nhw oedd y tu cefn i gymaint o sefydliadau Cymrufyddaidd Cymru, fel y Llyfrgell a r Amgueddfa. A r ddwy Miss Davies wedyn yn ychwanegu eu cyfraniad nhw drwy roi celfyddyd i r Amgueddfa a sefydlu pob math o bethau eraill. Roedd yr élite yma yn wahanol i élites cynharach Cymru oherwydd yr oedden nhw n teimlo rhyw fath o genedlgarwch ac roedden nhw wedi blino ar enwadaeth ac am fynd y tu hwnt iddi. Roedd cenhedlaeth eu tadau a u teidiau nhw i ryw raddau yn fodlon bod yn ffigurau o fewn Methodistiaeth neu o fewn Annibyniaeth neu o fewn enwad y Bedyddwyr ac yn y blaen, ond erbyn 1890 roedd y genhedlaeth oedd yn codi yn gweld ymhellach na r enwad crefyddol. Ac yn eu gweld eu hunain fel ffigurau cenedlaethol. Roedden nhw n gweld cenedl gyfan. Ac felly roeddwn i, i ryw raddau, yn pwysleisio hyn yn y bennod ar y ddwy Miss Davies, er mwyn trio bachu neu berswadio hanesydd ifanc yn aflwyddiannus hyd yma i ymchwilio i hanes y gwahanol élites yma. Mae Matthew Cragoe wedi gwneud hynny yn Saesneg ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac mewn ail gyfrol ond erbyn hyn wn i ddim faint o ddiddordeb sydd gan Matthew yn hanes Cymru mewn gwirionedd, mae e wedi symud i wneud hanes Lloegr. 7 Ond rwy n gweld hwnna yn un o r bylchau mawr yn ein gwybodaeth am hanes Cymru, y ffaith nad oes neb wedi astudio r Sefydliad Cymreig a r gwahanol élites oedd i w cael yng Nghymru. A fyddech chi n teimlo fymryn yn anghyfforddus gan y byddech chi, mae n debyg, yn gymeriad yn yr hanes yna? Na, fyddwn i ddim yn teimlo n anghyfforddus o gwbl. Rwy n credu fy mod i n esiampl berffaith o r math o bobl yr ydyn ni n sôn amdanyn nhw, wyddoch chi. Yr ail genhedlaeth? Yr ail genhedlaeth ie a r holl berthnasau, pobl fel fy nghefnder Dewi Watkin Powell, fy mrawd wrth gwrs a hyd yn oed rai fel William Wilkins, y dyn ddechreuodd yr Ardd Genedlaethol, mae e n berthynas imi o bell. Rwy n sicr yn credu bod hanes élites yng Nghymru yn desideratum. Ond rwy n falch o allu dweud imi siarad dridiau n ôl gyda Richard Griffiths, esiampl ichi nawr o hanesydd yn dod i mewn o Ardan Ffrangeg fe fu n Athro Ffrangeg yn King s College yn Llundain. Mae Richard, sy n dod o r Barri, yn ddisgynnydd i nifer o deuluoedd cyfalafol y Cymoedd ac mae e ar fin cyhoeddi llyfr ar yr élite diwydiannol ym Morganwg, pobl fel ei dylwyth ei hun, teulu Mathias ac yn y blaen. Ac, wyddoch chi, rwy n cofio trafod llyfr ardderchog Merfyn ar y Chwarelwyr, 8 gyda Rhodri a ni ein dau yn dod i r casgliad ei bod hi n bwysig iawn i ni ystyried datblygiad undebaeth lafur ond nad yw r darlun yn gyflawn nes eich bod chi n trafod agwedd yr Arglwydd Penrhyn a r Ashton-Smiths a r Oakleys y cyfalafwyr yng Ngwynedd at y chwareli. Nhw oedd yn achosi r drafferth, nid y gweithwyr, felly fe ddylid astudio r cyfalafwyr ynghyd â r undebau. Ac rwy n gobeithio y bydd cyfrol Richard Griffiths yn ysgogi rhywun arall i wneud mwy o r un math o waith. Mae ambell i bennod gan L. J. Williams, 9 er enghraifft, ar y perchnogion ond does dim llawer o ysgrifennu am y bobl yma fel élite oedd yn cydbriodi â i gilydd. 4 Gwyn Jenkins, Prif weinidog answyddogol Cymru: cofiant Huw T. Edwards (Talybont, 2007). 5 John Gwynfor Jones, The Welsh Gentry 1536 1640: images of status, honour and authority (Cardiff, 1998); idem, Beirdd yr Uchelwyr a r Gymdeithas yng Nghymru, c. 1536 1640 (Dinbych, 1997); idem, Concepts of order and gentility in Wales, 1540 1640 (Llandysul, 1992); David Howell, Patriarchs and Parasites: The Gentry of South-West Wales in the Eighteenth Century (Cardiff, 1986); Melvin Humphreys, The crisis of community: Montgomeryshire, 1680 1815 (Cardiff, 1996). 6 Prys Morgan, Cyflwyniad: byd y teulu Davies yn Oliver Fairclough (gol.), Cyfoeth, Celf a Chydwybod[:] Llafur Cariad Chwiorydd Gregynog (Caerdydd, 2007), 16 24. 7 Matthew Cragoe, An Anglican Aristocracy: The Moral Economy of the Landed Estate in Carmarthenshire, 1832 1895 (Oxford, 1996); idem, Culture, politics and national identity in Wales 1832 1886 (Oxford, 2004). 8 R. Merfyn Jones, The North Wales Quarrymen 1874 1922 (Caerdydd, 1982). 9 L. J. Williams, The coalowners of South Wales, 1873 80: problems of unity, Cylchgrawn Hanes Cymru 8:1 (1976), 75 93. 2 Y Cylchgrawn Hanes
A fyddai hi n deg dweud fod haneswyr yn draddodiadol wedi bod yn llai dadansoddol wrth drafod yr uchelwriaeth a u bod i ryw raddau wedi cael eu swyno gan eu testun? Wel ie. Mae tuedd ichi fod yn achyddol ac yn antiquarian eto wyddoch chi. Wrth gwrs mae r pwnc ei hunan yn bwnc picturesque iawn gan eu bod nhw n byw mewn tai mawr, hardd ac mae eu portreadau nhw n drawiadol, a u cerrig beddau nhw yn yr eglwysi yn brydferth iawn. Ac mae haneswyr yn dueddol o fynd i sôn am y priodasau, fel yr oedd Francis Jones yn ei wneud, yn ddiddorol iawn yn y ffordd yr oedd e n ysgrifennu er hynny. 10 Ond mi ellid dadlau i r gwrthwyneb, bod holl draddodiad y Chwith yng Nghymru yn milwrio yn erbyn trafod y pendefigion tiriog neu r pendefigion cyfalafol. Mi fyddai gohebiaeth y gwahanol élites yma yn gloddfa werth chweil i ymchwilydd, ac astudiaeth a detholiad o r ohebiaeth honno n ddadlennol. Byddai n wir. Wyddoch chi, mae llond cês anferth gen i lan yn yr atig rydw i ar fin ei roi fe i r Llyfrgell Genedlaethol o gannoedd ar gannoedd o lythyrau at fy nhad rhwng 20au ac 80au yr ugeinfed ganrif at bobl fel T. H. Parry-Williams, Ifor Williams, Henry Lewis, Saunders Lewis, Thomas Jones, Kenneth Jackson ac yn y blaen. Ac mae n amlwg fod yna gylch o bobl fel Ifor, W. J. Gruffydd a Griffith John Williams, i gyd yn gohebu gyda i gilydd yn rheolaidd, y cwbl mewn ysgrifen fechan, fechan ar ddarnau bychan iawn o bapur yn aml iawn. Ysgrifennu at ei gilydd yr oedden nhw am bethau Celtaidd, Bwrdd y Gwybodau Celtaidd, am Y Llenor neu am lyfrau, ac yn y blaen. Yr unig ran o r ohebiaeth sydd wedi i chyhoeddi yw llythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts, a hynny oherwydd y diddordeb mawr yn Saunders, wrth gwrs. 11 Mae gan Saunders ryw fath o star quality sy n eisiau yn y lleill. Ond mae cannoedd o lythyrau yn y ces mawr yma sydd yn mynd i fynd i r Llyfrgell Genedlaethol ac rwy n siŵr mai dyna oedd bwriad fy nhad, er na ddwedodd e ddim, ond roedd e wedi cadw r cwbl yn ofalus yn eu hamlenni fel bod y dyddiad gyda ni. Ac rwy n teimlo ei bod hi n amser i rywun drafod y deunydd yma, rhywun fel Simon Brooks dyna esiampl arall o hanesydd mewn Adran Gymraeg. 12 Efallai y dylai rhywun fel yna ysgrifennu am yr ysgolheigion yma oedd yn gohebu â i gilydd yn y cyfnod cyn y teleffôn. Mae n siŵr fod cannoedd o lythyrau gan Thomas Parry ac mae rheini o gymeriad cwbl wahanol i bawb arall. Roedd Thomas Parry yn gallu bod mor gas ac mor ddwrdiol o gymharu â llythyrau T. H. Parry-Williams, dwedwch, a oedd mor ofalus o bopeth yr oedd e n ei ddweud ac mor ofnus. Dyw haneswyr Cymru ddim wedi delio â r cylchoedd o gyfeillion yma fel yn Lloegr. Yno, er enghraifft, mae nhw n sôn am y Bloomsbury group ac mae digon o ysgrifennu am gyfeillion Evelyn Waugh a Virginia Woolf ac mae digon o esiamplau o hyn yn Ffrainc hefyd gyda ffrindiau Balzac ac yn y blaen. A dyna Noel Annan sydd wedi ysgrifennu braidd yn ysgafn ac ysgafnfryd am ddeallusion Lloegr. 13 Roedd e ar fin marw pan oedd e n ysgrifennu The Dons felly doedd dim gwahaniaeth ganddo fe ddweud pethau cas am ei gyfeillion ond mae n llyfr diddorol iawn ar yr élite deallusol sy n dangos bod llawer o r dons yma yn priodi â i gilydd ac yn y blaen. Dyna yn fy marn i yw r ffordd i drin Morrisiaid Môn. Mi fyddai llyfr nad ydyw n ddim byd ond dyfyniadau o lythyrau r Morrisiaid yn llethol ond o drin y Morrisiaid fel rhan o gylch o gyfeillion Hynny a wnaeth Prosiect Iolo Morganwg 14 gyda chyfran arall o hanes Cymru r ddeunawfed ganrif. Roeddech chi n cyd-gyfarwyddo r prosiect hwnnw gyda Geraint H. Jenkins. Wel ie, mi ddylwn i ddweud mai un o r pethau mwyaf diddorol yr ydw i wedi ei wneud yn ystod fy henaint yw cyfarwyddo ysgolheigion ifanc yn gweithio ar Brosiect Iolo. Pleser aruthrol oedd cydweithio gyda Geraint, oedd yn hen fyfyriwr i mi yn Abertawe. A phan rydych chi n meddwl bod hyn wedi datblygu o rywbeth mor fach â rhyw ysgrif eitha tila, arwynebol gen i yn ôl yn 1975. Mae delio gyda chymaint o ysgolheigion ifanc yn gweithio ar Iolo wedi bod yn un o bleserau mawr bywyd. Ond ie, rydych chi n iawn, dyna i ryw raddau sydd wedi digwydd wrth gyhoeddi llythyrau Iolo Morganwg yn dair cyfrol swmpus sy n dangos cylchoedd o gyfeillion ac yn esbonio llawer o hanes diwylliannol Cymru. Ond fe ellid ac fe ddylid ymestyn y math yma o waith i ymdrin â gohebiaeth a chysylltiadau cylchoedd o gyfeillion mewn cyfnodau diweddarach. Pwy oedd cyfeillion Tom Ellis, er enghraifft, yn y 1880au a r 90au. Gyda phwy yr oedd e n gohebu, a sut yr oedd rhai fel Sir John Lloyd yn ffitio i mewn i r cyfeillgarwch yma. Daw peth goleuni ar hyn yn 2011, pan gyhoeddir astudiaeth Huw Pryce ar J. E. Lloyd. A sut yr oedd T.H. Parry-Williams a Thomas Parry, a Iorwerth Peate a Gruffydd John Williams a nhad a Saunders, sut oedden nhw n i gyd yn creu rhyw fath o gylch. Hanes biographical iawn ond eto nid cofiant un dyn yw e ond cofiant cylch o gyfeillion. Fe fyddai rhywun fel Simon Brooks yn gallu delio gyda r maes ond beth fyddech chi n galw r math yna o hanes, wn i ddim. Hanes rhwydweithiau. Dyna yw e, hanes rhwydweithio. Rydych chi n gallu deall cymaint am gyfnod drwy astudio r 10 Francis Jones, Historic Carmarthenshire homes and their families (Carmarthen, 1987). 11 Dafydd Ifans (gol.), Annwyl Kate, Annwyl Saunders: gohebiaeth, 1923 1983 (Aberystwyth, 1992). 12 Gw. Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (Caerdydd, 2004). 13 Noel Annan, The Dons: Mentors, Eccentrics and Geniuses (London, 1999). 14 Gw. http://iolomorganwg.cymru.ac.uk/prosiect.php 3 Y Cylchgrawn Hanes
rhwydweithiau yma. Mae r llyfr gan Kitty, ei ferch, ar Syr Herbert Lewis, er yr oedd hi ei hun yn dweud mai rhywbeth byr, arwynebol ydy e, yn enghraifft arall. 15 Mae Herbert yn haeddu mwy o sylw. Beth oedd arwyddocâd eu cyfeillgarwch nhw gyda Llywelyn Williams er enghraifft? Roedd Kitty mor ddiddorol yn siarad am Llywelyn Williams a i wraig a r ffordd yr oedden nhw n cael picnic gyda i gilydd y tu allan i Lundain ar ddechrau r ugeinfed ganrif a beth yr oedden nhw n ei feddwl o Lloyd George ac yn y blaen. Sut mae mynd ati i gynhyrchu r math yma o astudiaeth felly? Yn achos Iolo Morganwg, a oes perygl fod rhoi cymaint o amser ac adnoddau i astudio un dyn yn chwyddo ei arwyddocâd o gymharu â rhywun fel Edward Lhwyd, ddwedwn i, nad ydyw wedi derbyn cymaint o sylw? Wel wrth gwrs mae Edward Lhwyd wedi derbyn llai o sylw am ei fod e n gynharach ac am fod llai o ohebiaeth wedi goroesi, er bod cryn dipyn o ohebiaeth wedi goroesi mewn gwirionedd. 16 Mae gwaith Brynley Roberts yn mynd i fod yn allweddol yn hyn o beth. 17 Rwy n credu bod cyfeillion Edward Lhwyd ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg yn hynod o ddiddorol. Brysied y dydd y gwelwn ni hanes cyflawn cylch Edward Lhwyd a r bobl yna oedd yn ysgrifennu o i gwmpas, rhai fel Moses Williams, a u cysylltiad nhw wedi hynny â r Morrisiaid. Wyddom ni ddim yn iawn sut yr oedden nhw n ymgysylltu â i gilydd. A rhai fel Humphrey Foulkes y bu Caryl Davies a Mary Burdett-Jones yn gweithio arno yn ddiweddar. 18 Dydw i ddim yn cael Humphrey Foulkes yn gymeriad mor gynnes ag Edward Lhwyd, er ei fod e n bwysig iawn fel ysgolhaig, ond rwy n credu bod llyfr Caryl Davies ar syniadeth ieithyddol y ddeunawfed ganrif yn gampwaith, a champwaith annisgwyl hefyd, wedi dod fel yna reit ar ddiwedd ei hoes. 19 Roedd hi n ferch swil iawn, hynod o swil, ond rhyfeddol o beniog a doedd neb yn gwybod am ei hathrylith hi, mewn ffordd, yng Nghymru. Roedd hi wedi byw ei hoes yn Leeds yn wraig i athro coleg yno ac mae hi n drueni mewn ffordd nad yw r rhai di-gymraeg yn ymwybodol o i hathrylith hi. Mae ei method hi n wreiddiol iawn, mae hi n defnyddio deunydd mewn ffordd hynod o wreiddiol i oleuo r cyfnod o Lhwyd hyd William Owen Pughe. Ond dyw hi ddim yn trin Pughe fel rhyw ffwlcyn fel yr oedd Griffith John yn dueddol o wneud. Roedd e n colli amynedd gyda Pughe ac, yn dilyn John Morris-Jones, yn ei ystyried yn rhyw hurtyn ond mae pobl fel Caryl Davies, mae nhw n delio gyda Pughe o ddifri ac yn gweld pam yr oedd ganddo r syniadau yma. Rydw i wedi cael llawer o oleuni ar Pughe yn llyfr campus Glenda Carr arno. 20 Fe fûm yn gweithio ar Pughe fy hunan ac yn ddiweddar fe roddais ddarlith ar ei waith yn Llambed ac roeddwn i n dweud yno efallai fod barddoniaeth Pughe yn annealladwy ac yn annarllenadwy ond fod holl farddoniaeth Pughe yn mynd i mewn i w eirfa fe. Yng ngeirfa Pughe yr oedd prydferthwch creadigaeth Pughe nid yn ei farddoniaeth sy n echrydus ac yn gwbl annarllenadwy. Ac mae hwnna eto yn agor maes newydd ac fe ddylai rhywun ysgrifennu cyfrol debyg i un Caryl Davies ar hanes syniadaeth ieithyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hyd yn oed yr ugeinfed ganrif, gwaith rhai fel Syr John Rhŷs a John Morris-Jones. Does neb wedi olrhain eu syniadau na u trin fel cylch o ysgolheigion oedd yn dylanwadu ar ei gilydd. Mi fyddai n rhaid wrth gyfuniad o hanesydd a ieithegydd i fynd i r afael â r pwnc, fel yn achos eich gwaith ar enwau. Byddai mae n debyg, ond dyna faes ffrwythlon arall. Rydw i wedi bod yn gweithio yn ddiweddar ar enwau lleoedd ac yn ymwneud cryn dipyn â r Names Society of Britain and Ireland. Rwy n eu cael nhw n bobl ddiddorol iawn. Fe gawsom ni gynhadledd yn ddiweddar yng Nghaerfyrddin a oedd yn llwyddiant ysgubol, un o r cynhadleddau gorau ers blynyddoedd ac rydw i wedi bod yn mynd i r cynhadleddau yma ers 1986 fwy neu lai. Ac mae n amlwg iawn imi, er bod y diweddar Melville Richards a rhai fel Hywel Wyn Owen heddiw wedi cyhoeddi llyfrau ar enwau lleoedd Cymru, fod angen i rywun ystyried gwaith y rhain ochr yn ochr â gwaith y canoloesegwyr, pobl fel Ralph Griffiths er enghraifft sy n gymydog imi yma ac yn hanesydd gwych iawn. Mae eisiau dod â gwaith y bobl yma at ei gilydd i egluro lleoliad ffiniau Cymru. Beth sy n egluro r holl ffiniau mewnol yma rhwng cantrefi a chymydau? Beth yw r rheswm amdanyn nhw? Pam mae ffiniau r plwyfi a r maenorau yn wahanol? Mae r peth yn anesboniadwy yn aml iawn. Pam y mae r ffin rhwng esgobaeth Tŷ Ddewi a Llandaf ym mhentref Sgiwen er enghraifft? Mae Llansamlet yn esgobaeth Tŷ Ddewi, neu hen esgobaeth Tŷ Ddewi, ac mae Sgiwen a Chastell Nedd yn esgobaeth Llandaf. Paham y mae nant cwbl ddibwys, ychydig ddiferion o ddŵr sydd ynddi yn mynd i lawr i r môr, 15 Kitty Idwal Jones, Syr Herbert Lewis, 1858 1933 (Caerdydd, 1958). 16 R. T. Gunther (ed), Life and Letters of Edward Lhwyd, yn Early Science at Oxford, 14 (Oxford, 1945). 17 Gw. y llyfryddiaeth ddethol yn Dewi W. Evans & Brynley F. Roberts (eds.) Edward Lhwyd, Archaeologia Britannica[:] Texts and Translations (Aberystwyth, 2009). 18 Caryl Davies a Mary Burdett-Jones, Cyfraniad Humphrey Foulkes at Archaeologia Britannica Edward Lhuyd, Y Llyfr yng Nghymru 8 (2007), 7 32. 19 Caryl Davies, Adfeilion Babel[:] Agweddau ar Syniadaeth Ieithyddol y Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 2000). Gw. adolygiad Prys Morgan arno yn Studia Celtica 35 (2001), 378 81. 20 Glenda Carr, William Owen Pughe (Caerdydd, 1983). 4 Y Cylchgrawn Hanes
paham y mae hi n arwyddo ffin mor bwysig? Dyw r bobl enwau a haneswyr y Canol Oesoedd ddim wedi dod at ei gilydd i egluro hyn inni. Un o r pethau yr oeddwn i n mynd i ysgrifennu arno fe pan oeddwn i n gweithio ar Calais ac Elis Gruffydd oedd ffiniau Ffrainc. Roedd gan Trevor-Roper ddiddordeb mawr yn hynny, ffiniau Ffrainc yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Doedd gan Ffrainc ddim ffiniau, a dim ond yn raddol y penderfynwyd ble yr oedd ffiniau Ffrainc. Hyd yn oed yn y ddeunawfed ganrif fyddai r rhan fwyaf o bobl ddim yn gwybod ble roedd ffiniau Ffrainc. Yn yr un modd roedd gwir angen astudiaeth o beth sy n gwneud y Mers yn Fers. A nawr mae gennym ni lyfrau ar y pwnc gan Max Lieberman. 21 Mewn maes sy n gysylltiedig ag arwyddocâd ffiniau, mae Nia Watkin Powell, fy nghyfnither, yn gweithio ar bwnc hynod o anodd sef sut yr oedd Cymru n cael ei thrin yn gwbl wahanol yn ariannol yn y cyfnod ar ôl y Deddfau Uno. Doedd Cymru ddim wedi cael ei llyncu yn llwyr i mewn i r system Seisnig yn 1542. Ac mae r drefn ariannol yn parhau i mewn i r ddeunawfed ganrif, hyd y gwelaf i, yn wahanol i Loegr. Pam felly? Wel mae hwnnw n esiampl o bwnc pwysig nad ydyw hyd yma wedi ei drin yn llawn. Beth ddigwyddodd i r Dywysogaeth, yr hen Dywysogaeth frenhinol, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif? Sut y diflannodd y Dywysogaeth oedd wedi bod yno yn uned ar ôl 1542? Beth oedd y broses a arweiniodd at ei diflaniad rywdro rhwng y ddeunawfed ganrif a r bedwaredd ganrif ar bymtheg? Erys sawl cwestiwn heb ei ateb a sawl chwarel heb ei chloddio ac mae dyfodol disglair felly i hanes Cymru? Dim ond inni gael haneswyr ifanc, dyna sydd ei angen arnom ni. Meddyliwch chi am y bachgen ifanc yna, Owen Jones, a ysgrifennodd erthygl yn ddiweddar ar raniadau Powys. 22 Dyna beth wnaeth imi feddwl am y ffiniau yma. Roedd hi n erthygl ryfeddol; er nad ydw i n arbenigwr o gwbl ar yr Oesoedd Canol mi ddarllenais i r erthygl gyda rhyfeddod mawr. Y cyfan yr oedd hi n ei drafod oedd Piler Eliseg yng Nglyn-y- Groes, Llangollen a beth mae r piler yma yn ei ddweud wrthom ni am raniadau Powys yn y cyfnod cynnar. A dim ond y piler a r hyn yr oedd Edward Lhwyd wedi i ddarllen arno sydd ganddo fe, ac ychydig o achau wedi eu casglu gan Bartrum. Ac eto gyda r deunydd yma, nad yw neb wedi i drin o ddifrif, fe allodd e ailgreu cyfnod cyfan o hanes coll Powys. Wel, i mi, mae hynny n dangos bod yna dalent yn codi, chi n gweld, yng Nghylchgrawn Hanes Cymru. Ond mae n rhaid darganfod a meithrin y talentau ifanc hyn trwy sefydliadau megis y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, ac yn adrannau hanes ein colegau. 21 Max Lieberman, The Medieval March of Wales: The Creation and Perception of a Frontier, 1066 1283 (Cambridge, 2010); idem, The March of Wales 1067 1300: A Borderland of Medieval Britain (Cardiff, 2008). 22 Owen Wyn Jones, Hereditas Pouoisi: The Pillar of Eliseg and the History of Early Powys, Cylchgrawn Hanes Cymru 24:4 (2009), 41 80. 5 Y Cylchgrawn Hanes