Bwletin Gorffennaf 2017 Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded
Wythnos Sgiliau Unwaith eto mae r ysgol wedi trefnu wythnos o weithgareddau gyda r nod o ehangu gorwelion ein disgyblion, a hynny i gyd drwy r Gymraeg. Mae trefnu r wythnos sgiliau yn her gynyddol o ystyried y toriadau cyllidol; ond diolch i garedigrwydd rhieni a u rhoddion ariannol, cafwyd nifer o weithgareddau hwyliog a diddorol. Daeth cyn-ddisgybl atom: Manon Awst - sydd wedi ei gwahodd gan yr Eisteddfod Genedlaethol i greu arddangosfa celf arbennig ar faes yr Eisteddfod. Diolch i flwyddyn 8 a gymrodd rhan yn y gweithdy. Bydd eu gwaith yn cael ei arddangos ar y cyd gyda gwaith Manon, Kyffin Williams, Darren Hughes ac enwogion eraill. Rhai o r gweithgareddau eraill i ddisgyblion oedd y cyfle i greu bwyd o China, gweithdai gyda myfyrwyr o r ganolfan Confucius o Brif ysgol Bangor, hyfforddiant iechyd a diogelwch gan y gwasanaeth tân a r heddlu, cerdded arfordir Môn, cynlluniau arloesi, gwaith codio, dawnsio a gweithdy cerdd. Maria, Mrs Griffiths a Kelsey-Lee yn paratoi Dim sum Blwyddyn 8 yn cysylltu diwylliant, dad-redeg a chelf gyda Manon Awst
Dawn a Chyfle Fel rhan o n cynlluniau i adnabod doniau ein disgyblion a u datblygu, cafodd criw o flwyddyn 9 gyfle i ymweld â gwahanol adrannau o brifysgol Bangor. Y bwriad oedd rhoi blas iddynt o fywyd yn y brifysgol a r posibilrwydd o r gwahanol yrfaoedd i gynifer o r cyrsiau. Roedd cyfle i weld adran feddygol y brifysgol, ac yma gwelwn bechgyn blwyddyn 9 yn datblygu eu dealltwriaeth o anatomi r corff.
Y Faner Werdd O r diwedd mae r ysgol wedi llwyddo i ennill statws Y Faner Werdd am ein gwaith i geisio creu ysgol Eco. Fel rhan o r cynllun Ysgolion-Eco, dros gyfnod o 3 mlynedd, rydym wedi cyrraedd y brig a ni yw r ysgol uwchradd gyntaf ym Môn i wneud hynny! Roedd rhaid dechrau wrth adnabod ein cryfderau a gwendidau ynglŷn â materion ailgylchu, arbed egni, gwella diwyg ein tiroedd ac addysg am faterion amgylcheddol lleol a chenedlaethol. Diolch i waith di flino Mr Brian Williams a Mrs Rhian Fforest -Owen yn y clwb gwyrdd a garddio. Gwelwn wahaniaeth mawr gyda miloedd wedi ei arbed ym mil trydan yr ysgol, sustemau ailgylchu r ysgol wedi eu haildrefnu gyda chymorth yr awdurdod, cannoedd o bunnoedd wedi i godi i wella safon glendid mewn cymunedau o Bakistan i r Congo a gardd yr ysgol wedi gwella drwy gydweithio gyda r gymuned. Fel ysgol rydym yn hynod o falch o r criw. Rydym yn gobeithio arddangos ein baner ar y cyd a n eco-god yn y dderbynfa a phabell yr ysgol ar faes y brifwyl. Yr Eco bwyllgor: Lucy-Ann, Sophie, Huw, Pryderi, Ceuron, Noa, Elliw, Oliver a Llily yn derbyn y faner gan Esyllt Davies, swyddog eco- ysgolion Gogledd Orllewin Cymru.
STEM Mae r ffocws fwyfwy ar ddatblygu pynciau STEM ( Science, Technology, Engineering and Mathematics) o fewn addysg ac ym Modedern rydym yn freintiedig o gael cysylltiadau cryf yn y gymuned a gyda chwmnïau allanol, gan gynnwys Horizon. Diolch i Mr Eurwyn Hughes a Mr Llion Francis, trefnwyd noswaith gyda r cwmni sef Noson Her STEM Teulu er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynlluniau prentisiaid ac ysgoloriaethau a gynigir gan y cwmni. Roedd ymateb ar y noson yn wych ac unwaith eto roedd cefnogaeth ein rhieni i w weld yn glir drwy'r niferoedd uchel a fynychodd. Yn ystod y gweithgareddau bu raid i deuluoedd gynllunio a chreu ceir -a'r diwedd bu ras rhwng y teuluoedd gyda'u ceir bach. Diolch unwaith eto am gefnogaeth rhieni a llongyfarchiadau i r enillwyr. Chloe, Pryderi, Rosie ac Arthur yn disgwyl am enwau r disgyblion buddugol. Owain a Tomos yn cynllunio eu ceir gyda chymorth un o weithwyr Horizon
Cynllun Partneriaeth Busnes Mae gwaith yr ysgol o ddatblygu'r agwedd STEM wedi ei adnabod gan fusnesau lleol ac yn ddiweddar dewiswyd yr ysgol gan Gyrfa Cymru i fod yn rhan o gynllun partneriaeth busnes gyda Niwclear Horizon. Edrychwn ymlaen at gydweithio hapus gyda r cwmni dros y 3 blynedd nesaf. Mr Eurwyn Hughes, Mr Arwyn Roberts, Mr Gareth Wyn Jones, Mrs Catrin Jones Hughes a staff Cwmni Horizon a Mr Alwyn Roberts o r Eisteddfod Genedlaethol yn lansio r cynllun ar ddiwrnod gweithdai Gwyddoniaeth i ddisgyblion cynradd y dalgylch.
Hwyl fawr Ar ddiwedd pob blwyddyn mae cymuned ysgol yn gorfod ffarwelio â staff a pharatoi ar gyfer croesawu rhai newydd ym mis Medi. Y flwyddyn hon bydd rhaid ffarwelio â rai o hoelion wyth ein cymuned. Byddwn yn diolch iddynt i gyd am eu gwasanaeth diflino yn yr ysgol a r gymuned ehangach. Pob lwc i 4 ar eu hymddeoliad haeddiannol iawn : Mr Keith Withers, Cydlynydd heriau CA4 a gyrfaoedd a fu gynt yn bennaeth yr adran Addysg Gorfforol, Mrs Carolyn Williams, Pennaeth yr adran Gofal ac Iechyd a fu n dysgu cenedlaethau o ddisgyblion am faterion iechyd a glendid a sgiliau coginio. Mr Gwyn Jones fu n athro mathemateg yn yr ysgol ers y 80au. Yn ddiweddar mae wedi cynorthwyo nifer o ddisgyblion gyda materion lles yn rhinwedd ei swydd fel cydlynydd cynhwysiad a phrif diwtor Blwyddyn 10 ac 11 yn yr ysgol. I orffen y pedwarawd mae Mr Stan Morgan Jones, a fu n cefnogi disgyblion cyrsiau galwedigaethol coleg Llandrillo Menai. Fel y gwyddoch, mae Mr Jones yn fwy adnabyddus fel un o gantorion y grwp enwog Tebot Piws rocar go iawn! Mae rhai yn parhau ym myd addysg, gan ddefnyddio eu profiadau ym Modedern i fynd yn eu blaenau yn eu gyrfaoedd dysgu. Pob lwc i Ms Lowri Jones, sydd wedi derbyn dyrchafiad fel Pennaeth yr adran Gemeg yn ysgol Bro Morgannwg, Caerdydd, Mr Ellis Hughes sydd wedi derbyn swydd fel athro Saesneg yn Ysgol David Hughes a Ms Cerian Griffiths, sydd wedi derbyn swydd fel athrawes y Gymraeg yn Ysgol Glan y Môr. Diolch i chi gyd a phob dymuniad da yn y dyfodol.
POB LWC! Mae cyfnod yr arholiadau wedi dod i ben, ac felly dymunwn bob lwc i ddisgyblion blwyddyn 11 a 13.Mae r tabl isod yn egluro pa bryd mae r canlyniadau yn cael eu rhyddhau. Blwyddyn 10 a 11 Dydd Iau 24.08.17 9 11:30yb Blwyddyn 12 a 13 Dydd Iau 17.08.17 9 11:30yb Gofynnir yn garedig i r holl fyfyrwyr sicrhau eu bod yn cael sgwrs âg aelodau r Uwch Dim Rheoli a r athrawon ar fore'r canlyniadau i drafod opsiynau'r flwyddyn nesaf. Byddwn yma i ch cefnogi!
Eisteddfod Genedlaethol Mae pethau yn prysuro, a mae n siwr eich bod wedi sylwi ar gryn newid yn y caeau ar hyd lôn Dalar, wrth i r Eisteddfod ddechrau dod at ei gilydd. Yn yr ysgol mae nifer o drefniadau ar y gweill, yn ogystal â chroesawu r eisteddfod, mae r ysgol yn defnyddio r brifŵyl i ddathlu r ysgol yn 40. Bydd llyfryn dathlu ar werth yn ein pabell. Enw r llyfryn dathlu yw Yr YsgUB, sy n efelychu rhai o rifynnau cyntaf cylchgrawn yr ysgol.rhif ein pabell yw 223-224 a bydd ar agor pob dydd I bawb. Bydd rhestr o r gweithgareddau ar ein gwefan yn fuan dewch i gymryd rhan neu dewch am baned a sgwrs!
Gweithdy Niwclear Horizon a r Eisteddfod Genedlaethol yn Ysgol Uwchradd Bodedern I godi ymwybyddiaeth o r Eisteddfod a r hyn sy n cael ei gynnig ar y maes, cydweithiodd yr Eisteddfod a Phrifysgol Bangor i gynnig gweithdai i ddisgyblion blwyddyn 7 a darpar ddisgyblion blwyddyn 7. Braf oedd gweld y gweithdai i gyd yn fwrlwm. Rhai o wyddonwyr y dyfodol gyda darlithwyr prifysgol Bangor.
Arloesi Mae r ysgol yn arwain mewn sawl maes ac o dan arweiniad Mrs Saunderson, mae adrannau r ysgol yn cyd weithio er mwyn treialu cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson. Fel rhan o r gwaith bu blwyddyn 7 yn cynnal gwaith maes yn Rhosneigr, wrth i r adran Saesneg, Celf a Daearyddiaeth gyd weithio. Yn ystod yr wythnos sgiliau roedd adrannau eraill yn arbrofi, o greu apps i greu murluniau. Yn barod mae ysgolion eraill Cymru wedi ymweld â r ysgol sawl gwaith er mwyn profi ein harferion da. Edrychwn ymlaen am yr her ac ehangu'r gwaith i flwyddyn 7 a 8, gyda r nod bydd yr ysgol yn fwy na pharod ar gyfer y cwricwlwm newydd yn Medi 2018. Rhai o flwyddyn 7 yn casglu delweddau ar y traeth, i w paratoi ar gyfer creu murluniau yn yr ysgol.
Gwaith Maes Daearyddiaeth Er bod y flwyddyn academaidd yn sydyn ddiflannu, mae adrannau yn parhau gyda'u gwaith i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer eu harholiadau allanol. Mae r ysgol eisoes wedi treialu gydag amserlen newydd i flwyddyn 9, sydd galluogi r disgyblion i ddechrau cyrsiau TGAU. Ymhlith yr adrannau i fanteisio ar yr amser ychwanegol mae r adran Daearyddiaeth wrth iddynt drefnu nifer o ymweliadau gwaith maes. Rebecca a Siân yng Nghwm Idwal ar gyfer eu gwaith maes. Mr Andy Short a oedd yn arwain taith gerdded ddaearegol
Llongyfarchiadau i nifer o ddisgyblion a gymrodd rhan yng nghyngerdd arbennig i berfformio'r sioe Mabinogion gan William Mathias yn Y Galeri yn ddiweddar yn arbennig Ffion Jordan o flwyddyn 7 oedd yn unawdydd Blodeuwedd Diridwen. Gwych oedd clywed am bod Rhodri Richards wedi ennill prentisiaeth i weithio gyda'r Urdd yng Nglanllyn y flwyddyn nesaf. Bu nifer o flwyddyn 10 yn mynychu penwythnos Swyddogion yng Nglan-llyn yn ddiweddar ac yn cynorthwyo'r staff gyda blwyddyn 6 - diolch a llongyfarchiadau i r criw sef :Huw Evans, Dylan Williams, Ceuron Parry, Elisha Jones, Maisie Ware, Sioned Evans, Glesni Jones a Erin Telford-Jones o flwyddyn 9. Mi lwyddodd pawb i gasglu 27 awr o waith ar gyfer y BAC, a hefyd cymhwyster 'Paddle Power', a Chymorth cyntaf. Gwerth chweil!
NEGES GAN Y PENNAETH Diolch i holl gymuned yr ysgol am eich cefnogaeth a ch ymroddiad yn ystod y flwyddyn addysgol a aeth heibio. Dymunwn y gorau i n disgyblion sy n disgwyl canlyniadau arholiad yr haf hwn a ffarweliwn yn annwyl â hen gyfeillion - peidiwch â chadw n ddieithr. Cofiwch bawb ddod i n gweld ni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol stondin 223-224! Mwynhewch y gwyliau!