YR HYN Y DYLAI ATHRAWON WYBOD Y TORIADAU UNDEB CENEDLATHOL YR ATHRAWON MAE YNA DDEWIS ARALL Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus Yr undeb athrawon mwyaf www.teachers.org.uk Gwanwyn 2011
DEG PETH Y DYLECH WYBOD AM Y TORIADAU l Gallai godiad cyflog 2010, sy n is na chyfradd chwyddiant a rhewi cyflogau 2011 gostio dros 2,000 i athrawon newydd gymhwyso a dros 3500 i athrawon ar U3. l Mae gwir werth ariannu ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn cael ei dorri: yn Lloegr mae 60% o fyfyrwyr cynradd ac 87% o fyfyrwyr uwchradd yn wynebu toriadau yn ôl ymchwil annibynnol. Mae disgyblion yng Nghymru eisoes yn cael eu tanariannu o 604 y flwyddyn. l Trawyd athrawon a myfyrwyr mewn colegau chweched dosbarth yn enbyd gan doriadau i ariannu yn ogystal â dod â r Lwfans Cynhaliaeth Addysg i ben. l Gallai cynnydd i gyfraniadau pensiwn gostio hyd at 61 y mis i athrawon newydd gymhwyso a 102 y mis i athrawon ar U3. Fe fydd rhaid i athrawon weithio nes iddynt gyrraedd oed pensiwn y wlad er mwyn iddynt dderbyn pensiwn llawn o leiaf 68 ar gyfer athrawon ifanc. l Mae cyfradd uwch o chwyddiant yn cynyddu gwir effaith rhewi cyflogau a thorri gwasanaethau. l Ni fydd modd i r sector breifat i lenwi r swyddi a gollir yn y sector gyhoeddus. l Mae gwariant cyhoeddus yn hanfodol i adferiad yr economi mae angen buddsoddi mewn addysg er mwyn arfogi pobl ifainc gyda r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y wlad. l Yn hytrach na ymosod ar y sector gyhoeddus, dylai r Llywodraeth weithredu yn erbyn y rhai sy n osgoi talu trethi. Gallai treth Robin Hood o 0.05% ar drafodion ariannol godi 20 biliwn y flwyddyn o r banciau a achosodd yr argyfwng presennol. l Mae yna ddewis arall i doriadau, gwaredu swyddi a gwaredu nifer o n gwasanaethau cyhoeddus mae r niferoedd anferthol ddaeth i orymdaith yr NUT yn erbyn y toriadau yn dangos mor eang yw r gefnogaeth dros y dewis arall. l Mae r toriadau yn taro gwasanaethau awdurdod lleol (ALl) yn enbyd, gyda gwaredu swyddi i nifer gan gynnwys athrawon yn gweithio mewn gwasanaethau ALl. 2 UNDEB CENEDLAETHOL YR ATHRAWON
Y GWIR GWERSI Dogma r diffyg ariannol yn erbyn realiti economaidd Cefndir Mae r Llywodraeth yn cyfiawnhau ei ymosodiad ar y sector gyhoeddus gyda chyfeiriadau at y diffyg ariannol, gan anwybyddu materion allweddol eraill. Cyn i ni edrych ar y materion allweddol, mae angen i ni osod cyddestun i r ddyled gyhoeddus. Nid yw dyled gyhoeddus yn beth newydd yn wir, dyma r norm ar gyfer nifer o economïau datblygedig. Mae r ddyled gyhoeddus wedi bod yn uwch yn y gorffennol i w gymharu â CMC (Cynnyrch Mewnwladol Crynswth). Yn y cyfnodau hyn, gwelwyd lleihad y ddyled trwy strategaethau tyfiant gan gynnwys buddsoddiad sylweddol yn y sector gyhoeddus. Mae dyled gyhoeddus Brydeinig yn sylweddol is na sawl un o n cystadleuaeth ni er enghraifft Ffrainc, Yr Eidal, Siapan a r UDA. Mae cymariaethau rhyngwladol eraill yn adrodd cyfrolau. Mae r Llywodraeth yn cymharu ein sefyllfa â Gwlad Groeg a Phortiwgal er mwyn cyfiawnhau r toriadau, ond nid oes cymhariaeth. Mae dyled Groeg a Phortiwgal llawer yn uwch mewn cyfrannedd â CMC. Mae dyled y DU yn cael ei ad-dalu dros gyfnod llawer hirach na gwledydd eraill, gan gynnwys Groeg a Phortiwgal. Iwerddon gwers go iawn Dylai r Llywodraeth ystyried y digwyddiadau yn Iwerddon, ble torrwyd gwariant cyhoeddus, cyflogau a phensiynau mewn ymateb i r dirwasgiad. Wrth i wasanaethau cyhoeddus ddioddef, achosodd y toriadau rhagor o broblemau ariannol ac ni lwyddodd y cynllun i helpu gyda diffygion ariannol Iwerddon gan arwain at ymyraethau gan yr Undeb Ewropeaidd a disodli r Llywodraeth mewn etholiad cyffredinol diweddar. Mewn sawl ffordd, mae r digwyddiadau yn Iwerddon yn wers iach i r Llywodraeth Y sector gyhoeddus allweddol i r adferiad Mae tyfiant yn allweddol i adferiad ac mae gwariant cyhoeddus yn allweddol i dyfiant. Ni all y Llywodraeth honni bod ganddynt gynllun rhesymegol ar gyfer tyfiant pan fo n ymosod ar y sector gyhoeddus. Gyda thrafferthion yr economi, mae gweithredoedd gan y Llywodraeth, a chwistrellu grym gwariant i r economi yn angenrheidiol er mwyn adleoli buddsoddiad y sector breifat. Fe fyddai defnyddwyr yn gwario mwy, yn sbarduno rhagor o gynhyrchu a buddsoddiad. O ganlyniad, fe fyddai twf yn achosi mwy o gyllid o ganlyniad i drethi a lleihau costau budd-daliadau. Fe fyddai hyn yn helpu lleihau r ddyled genedlaethol. Roedd gwariant cyhoeddus yn Y TORIADAU YR HYN DYLECH WYBOD 3
gymorth yn 2010 trwy annog tyfiant, erbyn hyn mae r tyfiant wedi peidio. gynyddu ac uwcholeuo r niwed hir dymor mae r toriadau yn ei achosi. Trawyd y sector breifat, sy n dibynnu ar waith o r sector gyhoeddus megis y rhaglen adeiladu ysgolion, gan y toriadau. Bu n rhaid i r Llywodraeth ail feddwl ei rhagfynegiadau ar dyfiant a rhagfynegwyd mai gwaethygu sydd i ddigwydd. O r 29 gwlad ddiwydiannol, dim ond Gwlad yr Iâ a r Iwerddon sy n gweithredu toriadau llymach na r DU. Mae r gwledydd eraill yn cefnogi tyfiant trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Wrth i economïau Ffrainc, Yr Almaen a r UDA dyfu yn hwyr yn 2010, gwelwyd lleihad yn economi r DU. Mae r Llywodraeth yn bendant nad yw am newid ei ffordd, er i r dystiolaeth Mae buddsoddiad yn y sector gyhoeddus yn allweddol i n dyfodol. Fe fydd technolegau gwyrdd yn diogelu anghenion egni r genedl ac yn lleihau r gost i r amgylchedd. Mae gwella r perfformiad economaidd yn golygu bod rhaid buddsoddi mewn isadeiledd trafnidiaeth a thai. Mae sgiliau r genedl yn ddibynnol ar fuddsoddiad mewn addysg. Mae gwariant cyhoeddus yn hanfodol i r meysydd hyn a meysydd eraill. Mae r sector breifat yn canolbwyntio ar elw yn y tymor byr. Ni allwn ddibynnu ar y sector breifat i fuddsoddi mewn cynlluniau sydd â chostau cychwynnol uchel, sydd â buddion i r cyhoedd a fydd hefyd yn dod a buddion economaidd hir dymor. Gwariant cyhoeddus yw r allwedd i ffyniant 4 UNDEB NATIONAL CENEDLAETHOL UNIONYR OFATHRAWON TEACHERS
Clwyfau nad ydynt yn gwella Mae toriadau i wariant yn achosi niwed parhaol. Mae r toriadau - y rhai hiraf a dyfnaf ers o leiaf 1945 - yn niweidio ein heconomi, hyd yn oed cyn i ni deimlo r effaith. Collwyd 132, 000 o swyddi o r sector gyhoeddus yn 2010, gyda r nifer o swyddi sy n diflannu yn tyfu n gyflym ac yn digwydd yn gynt na r rhagfynegiadau swyddogol. Mae diweithdra wedi cyrraedd y lefelau uchaf ers 1994, gyda record ymysg diweithdra pobl ifainc. Mae colli swyddi a rhewi cyflogau yn lleihau grym gwario ac incwm trethi wrth iddynt gynyddu costau budddaliadau. Gwelwyd y cwymp mwyaf mewn safonau byw yn 2011 ers yr 1980au cynnar, gyda lleihad mewn incwm teuluol a rhewi cyflogau r sector gyhoeddus i ddod. Mae toriadau i wariant cyhoeddus yn taro r tlotaf yn ein cymdeithas fwyaf gan achosi cynnydd mewn arwahanu cymdeithasol. Mae nifer o n ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dibynnu ar y sector gyhoeddus ar gyfer gweithgarwch economaidd mae r rhan fwyaf o r cyfoeth a grëir gan wariant cyhoeddus yn aros yn yr economi lleol. Collwyd 132,00 o swyddi yn y sector gyhoeddus yn 2010, gyda r nifer yn cynyddu n gyflym ac yn llawer cyflymach na r rhagfynegiadau swyddogol Y gwir agenda Gwir amcan y Llywodraeth yw chwalu a phreifateiddio ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ei agenda preifateiddio yn cynnwys academïau ac ysgolion rhad ac am ddim, mae arian ar gyfer y cynlluniau hyn yn cynyddu er iddi dorri ariannu n gyffredinol. Mae dau draean o gynghorau eisoes yn cychwyn ar gynlluniau O ystyried mai merched sy n gweithio mewn dau draean o r swyddi yn y sector gyhoeddus, fe fydd yr effaith ar weithwyr benywaidd yn anferth
preifateiddio o ganlyniad i r toriadau, gan gynnig gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i r cyflenwr rhataf. Dyma ffug economi mae r sector breifat yn blaenoriaethu elw ac nid yw n ddarparwr addas ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen cefnogaeth gref gan y sector gyhoeddus er mwyn cefnogi gwerthoedd megis cyflog teg, amodau gwaith da a chyfleoedd cyfartal. Gan gymryd i ystyriaeth mai merched sy n gwneud dau draean o r swyddi yn y sector gyhoeddus, mae effaith y toriadau yn enbyd i weithwyr benywaidd. Y DEWIS ARALL Mae yna ddewis arall i r toriadau, preifateiddio a cholli swyddi. Trwy weithredu ar y rhai sydd yn osgoi talu trethi, a threthi banciau gallai r Llywodraeth ariannu buddsoddiad yn y sector gyhoeddus. yn sicrhau bod y sector ariannol sy n gyfrifol am y dirwasgiad, sy n ddibynnol ar gymorth ariannol gan y Llywodraeth, sydd eisoes wedi derbyn lefelau uchel o elw a bonwsau yn sicrhau eu bod yn talu am ychydig o r niwed a achoswyd. Nid oes dadl sy n dal d ^wr eto yn erbyn gweithredu r dreth Robin Hood. Mae trethi r banciau yn ddull llawer tecach o gydbwyso cyllid y DU na r mesurau llym megis cynnydd TAW, sy n taro pobl cyffredin fwyaf. Gallai treth R biliwn y flwyd Mae r Llywodraeth yn colli degau o biliynau o bunnoedd o ganlyniad i osgoi trethi eto maent yn gwaredu staff rheng flaen y Swyddfa Dreth, sef y rhai gallai weithredu i gau r bwlch. Gallai treth Robin Hood, tua 0.05% ar drafodion ariannol, godi 20 biliwn y flwyddyn i r DU yn unig ugain gwaith yn fwy na mesurau osgoi treth y Llywodraeth. Fe fyddai r dreth, a gefnogwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, 6
Y CYD-DESTUN REAL: YR ADOLYGIAD GWARIANT AC ADDYSG Roedd nifer o ysgolion yn wynebu trafferthion ariannol cyn y toriadau. Roedd cynnydd mewn gwariant addysg dan y Blaid Lafur yn dilyn toriadau aruthrol yn yr 1980au a r 1990au. Mae nifer o wledydd eraill yn gwario mwy ar addysg. Nawr mae r Llywodraeth wedi torri gwariant addysg mewn gwir dermau, o ganlyniad nid yw n cadw at ei haddewid i ddiogelu ysgolion. Fe fydd gwir werth y toriadau yn cael ei obin Hood godi 20 dyn yn y DU yn unig Mae gwir werth cyllidebau ysgolion a cholegau chweched dosbarth yn cael eu torri chwyddo o ganlyniad i chwyddiant uwch. Mae ysgolion yn wynebu toriadau i wasanaethau awdurdodau lleol, lefelau is o arian grant a lleihau ariannu cyfalaf - hyn i gyd mewn cyfnod pan fydd 350,000 yn ychwanegol o ddisgyblion cynradd. Mae nifer o ysgolion yn gweithredu gweithdrefnau diswyddo wrth i r toriadau effeithio fwyaf. Dangosodd ddadansoddiad annibynnol yn Lloegr bod 60 y cant o ddisgyblion cynradd ac 87 y cant o ddisgyblion uwchradd mewn ysgolion ble ddisgynnodd gwir werth ariannu hyd yn oed o gymryd Premiwm y Disgybl i ystyriaeth. Mae colegau chweched dosbarth yn wynebu toriadau mewn gwir dermau, a lleihad o 75 y cant mewn ariannu cyfoethogiad a thiwtorial. Mae 7
athrawon yn y sector hanfodol hwn yn wynebu r posibilrwydd o golli swyddi a chynnydd mewn pwysau gwaith. Fe fydd rhaid i nifer o fyfyrwyr adael addysg o ganlyniad i dorri dau draean o gyllid y Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg, yng Nghymru dan fygythiad yn wyneb toriadau o 12 y cant Llywodraeth San Steffan dros y pedair blynedd nesaf. Torrwyd ariannu cyfalaf ar gyfer ysgolion, er bod amcangyfrifon mewnol y Llywodraeth yn amlygu ôlgroniad o 8.5 biliwn yn Lloegr yn unig. Trwy ddileu r cynllun Adeiladu Ysgolion y Dyfodol, gwelwyd terfyn ar 700 o gynlluniau adeiladu angenrheidiol. Mae ysgolion yn dibynnu ar wasanaethau awdurdodau lleol. Mae torri r gwasanaethau yn doriadau i r rheng flaen. Mae cyllid awdurdodau lleol yn cael ei dorri o 28 y cant yn ystod y cyfnod rhwng 2011 a 2015 er hyn. Mae r cynghorau hefyd cael eu gorfodi i gyfrannu at ariannu academïau. Lleihawyd neu terfynwyd nifer o wasanaethau gan achosi i athrawon ac eraill i golli swyddi. Mae ymchwil yn dangos bod pobl ifainc yn cael eu heffeithio n waeth gan y toriadau mae clybiau ieuenctid, clybiau chwarae a gwasanaethau blynyddoedd cynnar yn wynebu toriadau sy n uwch na r cyfartaledd. Mae dau draean o gynghorau yn bwriadu gwaredu cynllun Sure Start. Mae arweinwyr cynghorau Torïaidd wedi rhybuddio r Llywodraeth y bydd canlyniadau erchyll o ganlyniad i r toriadau. Fe fydd gwaredu darpariaethau wedi u targedi yn taro r ardaloedd o amddifadedd uchel. Fe fydd awdurdodau lleol yn codi mwy am wasanaethau ysgolion, neu eu dileu yn gyfan gwbl. GWIR WERTH ADDYSG Mae safon addysg uchel yn hanfodol i dyfiant economaidd a ffyniant. Mae angen gweithlu crefftus arnom er mwyn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol. Golyga hyn mwy o athrawon ar gyflogau gwell yn hytrach na thoriadau. Mae gan doriadau i addysg gostau anferth i ddyn, cymdeithas ac economi. Achosa plant a eithrir o addysg neu sy n gadael addysg heb sgiliau digonol gostau ychwanegol i r economi o ganlyniad i enillion a gollwyd, derbyn llai o dreth, lefel uwch o drosedd a chynnydd mewn taliadau budd-dal. Adlewyrchwyd pwysigrwydd economaidd addysg gan ymchwil. Wrth ddatblygu addysg dorfol, gwelwyd tyfiant economaidd cynaliadwy, ffyniant a newid 8 UNDEB CENEDLAETHOL YR ATHRAWON
technolegol yr oes fodern. Buddsoddiad ac nid cost yw gwella cyflwr addysg - er enghraifft, lleihau maint dosbarthiadau a chynyddu amser digyswllt i athrawon. GWIR GOST YR YMOSODIAD AR GYFLOGAU A PHENSIYNAU Nid yw cyflogau na phensiynau'r sector gyhoeddus yn rhy hael - maent yn hanfodol i ddatblygu sector gyhoeddus iach, ac yn ei dro yn chwarae rôl hanfodol yn economaidd. Dengys ymchwil y telir mwy i bron pob un categori o swydd yn y sector breifat nag yn y sector gyhoeddus. Mae athrawon, er enghraifft, yn derbyn cyflog cychwynnol is a datblygiad arafach yn eu cyflogau nag eraill mewn proffesiynau graddedig. Cyflog Mae rhewi cyflogau gan y Llywodraeth ar gyfer y cyfnod rhwng 2011 a 2013 yn dilyn cyfnod estynedig o godiadau cyflog is na chwyddiant. O ganlyniad, mae athrawon newydd gymhwyso yn wynebu colledion o dros 2,000 ac athrawon ar U3 dros 3,500. Cynyddir gwir ergyd rhewi cyflogau gan gynnydd mewn chwyddiant, gyda RPI yn cyrraedd ei lefel uchaf ers 20 mlynedd ar ddechrau 2011. Mae r cynnydd yn nhrethi r Llywodraeth, megis cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol, yn taro athrawon hefyd. Trwy rewi cyflogau ac achosi toriadau yng ngwir werth cyflogau i athrawon a gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus, gwelir lleihad yn y grym gwariant sy n angenrheidiol er mwyn gwthio r adferiad economaidd. Mae n rhaid i addysgu gynnig lefelau addas o gyflogau er mwyn denu r graddedigion gorau i r proffesiwn. Fel mewn meysydd eraill, rhaid ystyried cyflogau athrawon fel buddsoddiad i r dyfodol. Pensiynau Nid yw pensiynau r sector gyhoeddus yn euraidd ac maent yn fforddiadwy. Cadarnhaodd y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol bod costau pensiynau Dwi ar U3, fe fyddaf yn colli 3,500 erbyn 2013 Y TORIADAU YR HYN DYLECH WYBOD 9
cyhoeddus yn lleihau eisoes o ganlyniad i r diwygiadau sy n weithredol eisoes, gan gynnwys cyfraniadau uwch, codi oedran pensiwn i 65 i ddechreuwyr newydd a gosod terfyn ar gyfraniadau cyflogwyr. Mae adroddiad terfynol John Hutton yn bygwth y bydd rhaid i athrawon weithio nes eu bod yn 68 - nid yw hyn er budd neb, athrawon h^yn sydd eisiau ymddeol nac athrawon newydd yn chwilio am swyddi. Newidiwyd y cyswllt pensiynau eisoes o RPI i CPI, yn torri miloedd oddi ar incwm ymddeol athro. Cyhoeddwyd hefyd y byddai cynnydd o 50% mewn cyfraniadau pensiynau a fydd yn costio 61 y mis yn ychwanegol i ANG ac athrawon h^yn llawer mwy. Fe fydd y mesurau hyn yn arwain at nifer o athrawon a gweithwyr cyhoeddus yn tynnu allan o gynlluniau pensiwn yn gyfan gwbl ac fe fydd yn arwain a dibyniaeth ar y wladwriaeth yn eu henaint. Nid yw hyn o fudd i neb. Mae pensiynau yn rhan o becyn cyflog cyflawn gweithwyr cyhoeddus. Mae gweithwyr cyhoeddus yn cynilo ar gyfer eu hymddeoliad fel y mae r Llywodraeth yn ei ddisgwyl. Dylent ganmol hyn nid ei gondemnio. Nid yw r Llywodraeth yn deall Y broblem yw r toriadau, nid yr ateb. Gallai gynyddu cyfraniadau pensiwn gostio 61 i athro newydd gymhwyso a hyd at 102 i r rhai ar U3 Felly, beth nesaf l Anfonwyd neges glir i r Llywodraeth a r wlad o ganlyniad i r niferoedd anferth oedd yn bresennol yng ngorymdaith y TUC yn Llundain, gan gynnwys sawl mil o aelodau r NUT. l Ymunwch ag ymgyrchoedd yr NUT er mwyn diogelu pensiynau, swyddi, cyllid a r gwasanaeth addysg. l Gofynnwch i athrawon nad ydynt yn aelod o undeb i ymuno â ni. 10 UNDEB CENEDLAETHOL YR ATHRAWON
Cynrychiolydd ysgol diolch yn fawr rydych chi n gwneud gwahaniaeth Yn wythnosol mae miloedd o aelodau r NUT ar eu hennill o ganlyniad i r gwaith rydych chi yn ei wneud yn yr ysgolion. Mae ein haelodau yn llawer mwy gwybodus a datrysir trafferthion yn y gweithle. Mae llawer mwy o athrawon yn ymuno â ni sy n cryfhau ein dylanwad. Os ydych yn teimlo yr hoffech wneud mwy, mae digon o ffyrdd i ehangu eich gweithgarwch y tu allan i r gweithle: l Ewch i gyfarfodydd rhanbarth/cymdeithas l Cymerwch rôl yn eich rhanbarth/cymdeithas l Ewch i sesiynau hyfforddi lleol l Dewch yn rhan o un o grwpiau hunan drefnu r Undeb. Eich prif gyswllt yw ysgrifennydd eich rhanbarth/cymdeithas. Ewch i www.teachers.org.uk/contactus am eu manylion. Gofynnwch i ch cydweithwyr ymuno â ni gweler y manylion trosodd Aelodau Cymerwch rôl weithredol yn eich gr ^wp ysgol o r NUT Dim cynrychiolydd yn eich ysgol, etholwch un Os nad oes cynrychiolydd yn eich ysgol, gweithiwch gyda ch cyd weithwyr i ethol un. Unwaith i chi ethol cynrychiolydd hysbyswch eich ysgrifennydd adran/cymdeithas. Gallwch ddarganfod yr wybodaeth hyn ar eich llythyr cyflwyno neu yn www.teachers.org.uk/contactus NUT yr unig undeb sy n recriwtio athrawon cymwys yn unig, neu r rhai sydd yn dilyn cyrsiau neu n dal swyddi bydd yn arwain at gymhwyster athrawon.
Rhifau ymaelodi â r NUT: 0845 300 1669 020 7380 6369 Llun i Gwener (9am-5pm) Neu ymunwch trwy ymweld â www.teachers.org.uk Yr undeb athrawon mwyaf Ein nod: un undeb ar gyfer athrawon i gyd www.teachers.org.uk Cynlluniwyd a chyhoeddwyd gan Adran Strategaeth a Chyfathrebu yr NUT www.teachers.org.uk Dyluniwyd gan Paragraphics www.paragraphics.co.uk Printiwyd gan Ruskin Press www.ruskinpress.co.uk 7320w/04/11