Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Mae r lluniau yma yn dod o Photo Symbols Gwnaed y ddogfen hon yn rhwydd ei darllen gan VoiceAbility Mae r geiriau a amlygir a u hystyron yn y rhestr geiriau ar dudalennau 19-20
Manylion Cyswllt Cyngor Gofal Cymru South Gate House Wood Street Caerdydd CF10 1EW Ffôn: 0300 30 33 444 Ffacs: 029 2038 4764 Minicom: 029 2078 0680 E-bost: gwybodaeth@cgcymru.org.uk www.cgcymru.org.uk ISBN: 978-1-906528-37-9 2012 Cyngor Gofal Cymru Cedwir pob hawl. Ni chaniateir i unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn gael ei atgynhyrchu, ei storio mewn system adalw na i drosglwyddo mewn unrhyw fodd heb ganiatâd ysgrifenedig Cyngor Gofal Cymru o flaen llaw. Dylid anfon unrhyw geisiadau i w atgynhyrchu y tu allan i r cwmpas a ganiateir gan y gyfraith at Brif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru yn y cyfeiriad a nodir uchod. Copïau pellach a fformatau eraill Gellir cael mwy o gopïau o r ddogfen hon mewn print bras neu mewn fformatau eraill yn ôl y gofyn. 2
Cyflwyniad Mae r ddogfen hon ynglŷn â r Côd Ymarfer y cytunwyd arno ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y cyflwyniad hwn yn eich helpu i ddeall: beth yw diben y Côd, a r hyn mae n ei olygu i: 1. Ddefnyddwyr Gwasanaeth 2. Aelodau r cyhoedd Bydd y Côd yn eich helpu i ddeall: 1. Sut y dylai gweithwyr gofal cymdeithasol eich trin. 2. Sut y dylai cyflogwyr gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud eu gwaith yn dda. 3
Beth yw r Côd? Ceir Côd Ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a Chôd Ymarfer ar gyfer eu cyflogwyr. Cawsant eu rhoi gyda i gilydd yn y ddogfen hon. Mae r Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn rhestr sy n rhoi r safonau mae n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol eu defnyddio yn eu gwaith. Mae r Côd yn egluro beth yw r safonau. Mae hefyd yn sicrhau bod gweithwyr yn gwybod y safonau y mae cyflogwyr, defnyddwyr gwasanaeth a r cyhoedd yn eu disgwyl. Mae r Côd Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn dweud wrth gyflogwyr beth mae n rhaid iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cadw at y rheolau. 4
Mae r Côd yn dweud wrth gyflogwyr bod rhaid iddynt: 1. Gadw at safonau yn eu Côd. 2. Helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud yr hyn mae n ei ddweud yn eu Côd. 3. Cymryd camau gweithredu os nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir. Bydd y Cynghorau Gofal yn sicrhau bod pawb yn gwybod am y safonau drwy eu dangos i lawer o bobl 5
Y Côd Ymarfer Hawliau Mae 6 safon yn y Côd Ymarfer. Mae n rhaid i weithiwr gofal cymdeithasol: 1. Amddiffyn hawliau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gan sicrhau bod pawb yn gwybod beth sy n bwysig iddynt. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Drin pawb fel unigolyn, gan barchu r hyn mae pob defnyddiwr gwasanaeth a gofalwr yn ei feddwl a i eisiau. Mae n rhaid iddynt sicrhau bod y wybodaeth hon gan y bobl sydd ei hangen. cartref eich hun allweddol eu hunain Cefnogi hawliau defnyddwyr gwasanaeth i reoli eu bywydau. Rhoi i ddefnyddwyr gwasanaeth y wybodaeth maen nhw ei hangen er mwyn gwneud dewisiadau am y gwasanaethau maent yn eu cael. 6
Parchu a chadw urddas a phreifatrwydd defnyddwyr gwasanaeth bob amser Helpu defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gael yr un cyfleoedd â phawb arall. Coleg Parchu gwahaniaethau pobl eraill, diwylliannau eraill a r hyn sy n bwysig iddynt. 7
2. Gwneud eu gorau glas i ennill a chadw ffydd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Fod yn onest ac yn unigolyn y gellir ymddiried ynddo. Siarad â phobl mewn ffordd y gallant ei deall.?? Peidio â datgelu manylion personol am bobl. Esbonio i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr am bolisi eu sefydliad am gadw gwybodaeth yn breifat. 8
Bod yn unigolyn sydd bob amser yn gwneud yr hyn maen nhw n dweud y byddant yn ei wneud. Os nad yw hyn yn bosibl, mae n rhaid iddynt esbonio pam i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Dweud os oes unrhyw beth a allai ei wneud yn anodd iddynt gefnogi defnyddiwr gwasanaeth yn y ffordd gywir ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Cadw at bolisi eu sefydliad am dderbyn anrhegion ac arian gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr 9
3. Helpu defnyddwyr gwasanaeth i fod yn annibynnol, ac ar yr un pryd eu cadw n ddiogel rhag perygl. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Ti yn Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn annibynnol a u helpu i ddeall a defnyddio eu hawliau Hawliau Defnyddio polisi eu cwmni i ddweud ei ddweud am ymddygiad a dulliau gweithio gwael. A defnyddio r polisi i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel rhag ymddygiad treisgar neu fwlio. 10
Dweud wrth eu cyflogwr, neu wrth y sefydliad allanol cywir, am unrhyw broblemau yn eu gwasanaeth a allai rhwystro gofal diogel rhag cael ei roi. A dweud wrthynt am unrhyw weithwyr sy n gweithio mewn ffordd sy n anniogel neu n rhwystro gofal da rhag cael ei roi. Dilyn polisïau iechyd a diogelwch eu cyflogwr, gan gynnwys y rhai am gyffuriau ac alcohol. Helpu defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i ddweud os nad ydynt yn hapus. Mae n rhaid iddynt ymateb i unrhyw gwynion a throsglwyddo r wybodaeth i r unigolyn cywir. Deall a defnyddio r rheolaeth sydd ganddynt yn y ffordd gywir wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. 11
4. Parchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth, ac ar yr un pryd sicrhau nad yw r hyn a wnânt yn eu niweidio neu bobl eraill. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Ddeall bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth yr hawl i gymryd risgiau. Helpu defnyddwyr gwasanaeth i gydnabod risgiau posibl a gwirioneddol i w hunain ac i eraill. Eu cefnogi i ddelio â r risgiau hyn a chadw n ddiogel. Dilyn polisïau i benderfynu a fydd ymddygiad defnyddwyr gwasanaeth yn arwain at berygl iddynt niweidio eu hunain neu bobl eraill. Yr enw am hwn yw asesiad risg. 12
Cymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i leihau r risg o ddefnyddwyr gwasanaeth yn niweidio eu hunain neu bobl eraill. Sicrhau eu bod yn dweud wrth weithwyr a sefydliadau eraill am unrhyw asesiadau risg a allai effeithio ar eu gwaith gyda defnyddwyr gwasanaeth. 13
5. Gwneud eu gwaith yn dda, fel bod pawb yn teimlo bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith da. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol beidio â: Niweidio, bwlio neu fethu gofalu yn iawn am ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr neu weithwyr eraill. Defnyddio defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr neu weithwyr eraill i gael rhywbeth iddo ei hun. Torri ymddiriedaeth defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Datgelu gwybodaeth bersonol am ddefnyddiwr gwasanaeth neu ofalwr, neu wybodaeth am eu cartref neu ble maent yn gweithio. 14
Cael perthnasoedd personol agos gyda defnyddwyr gwasanaeth. Trin unrhyw un yn wahanol oherwydd eu hil, ffordd o fyw, rhyw, oedran, rhywioldeb neu grefydd. Mae hyn yn erbyn y gyfraith. Hefyd mae n rhaid iddynt beidio â chytuno ag unrhyw un arall sy n trin rhywun yn wahanol oherwydd y rhesymau hyn. Rhoi ei hun neu bobl eraill mewn sefyllfa beryglus. Ymddwyn mewn ffordd a fyddai n peri i bobl ofyn a yw r unigolyn yn addas i weithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol. 15
6. Sicrhau eu bod yn gwybod digon i wneud gwaith da. Mae hyn yn golygu sicrhau eu bod yn cael hyfforddiant yn y sgiliau cywir. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol: Weithio mewn ffyrdd maent wedi cytuno arnynt gyda r cyflogwr. Gweithio mewn ffordd ddiogel sy n achosi canlyniadau da ac nad yw n torri r gyfraith. Dweud wrth eu cyflogwr, neu r sefydliad allanol cywir, os oes ganddynt broblem bersonol a allai ei wneud yn anodd iddynt wneud eu gwaith yn dda ac yn ddiogel. Mae n rhaid iddynt ofyn i w cyflogwr am gymorth os ydynt yn teimlo na allant wneud unrhyw ran o u waith. 16
? Chwilio am gymorth gan eu cyflogwr, neu r sefydliad allanol cywir, os ar unrhyw adeg nad ydynt yn sicr o beth i w wneud yn y gwaith. Gweithio gyda gweithwyr eraill yn y ffordd orau bosibl. Gweithio gyda gweithwyr eraill yn y ffordd orau bosibl. Os yw r gweithwyr yn dod o sefydliad arall, eu trin yn yr un ffordd ag y mae pawb yn hoffi cael ei drin. Deall os ydynt wedi rhoi unrhyw waith i weithwyr eraill, mae arnynt ddyletswydd i sicrhau y caiff ei wneud yn iawn. 17
Beth sy n digwydd os nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud yr hyn y mae n ei ddweud yn y Côd? Mae Cyngor Gofal Cymru yn disgwyl i bob gweithiwr gofal cymdeithasol wneud yr hyn mae n ei ddweud yn y Cod. Mae n bosibl y byddant yn cymryd camau gweithredu os na fydd hyn yn digwydd. Mae n rhaid i gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol edrych ar y Côd hwn cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniadau am yr hyn mae eu gweithwyr wedi i wneud. Os nad yw ei waith yn ddigon dda, gallai gweithiwr gofal cymdeithasol golli ei swydd. 18
Cyngor Rhestr geiriau Cynghorau Gofal Mae Cynghorau Gofal yn gwneud y rheolau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol. Maent wedi ysgrifennu r Codau ac maent yn sicrhau bod pobl yn gwybod amdanynt. Gall Cynghorau Gofal rwystro pobl rhag gweithio mewn gofal cymdeithasol os nad ydynt yn gweithio yn y ffordd mae r Codau n dweud bod rhaid iddynt wneud. Côd Ymarfer Mae Côd Ymarfer yn dweud wrth bobl am y safonau a ddisgwylir Urddas Dignity is a person's right to be treated like everyone else who is not receiving support. If people are treated with dignity, they usually have the right to make choices for themselves. Cyflogwr Mae cyflogwr yn rhoi swyddi i weithwyr. Mae n rhaid i gyflogwr sicrhau y caiff y gwaith ei wneud yn iawn gan y gweithwyr 19
Polisïau Mae polisïau yn gynlluniau neu n rheolau sydd gan sefydliad ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd fel bod pawb yn gwybod beth mae n rhaid iddynt ei wneud. Asesiad risg Mae asesiad risg yn darganfod faint o berygl a allai fod mewn sefyllfa. Mae hefyd yn pennu r hyn mae angen ei wneud i w wneud yn llai peryglus. Defnyddiwr gwasanaeth Mae defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn cymorth gan weithwyr gofal cymdeithasol ac yn defnyddio eu gwasanaethau. Gweithiwr Gofal Cymdeithasol Mae gan weithiwr gofal cymdeithasol swydd yn gweithio gyda phobl sydd angen cymorth ychwanegol yn eu bywydau. Er enghraifft, gallai fod yn weithiwr cymdeithasol neu n weithiwr cymorth Safon Mae safon yn ffordd o wneud rhywbeth y cytunwyd arni gan bawb 20