Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch Pynciau & agweddau: Mathemateg Cymraeg Saesneg Technoleg Mentergarwch Dinasyddiaeth Sgiliau: Rhifedd Llythrennedd Digidol Adnoddau cefnogol: Taflen Waith Llyfryn yr Eisteddfod Dolen i r wefan: https://eisteddfod.cymru/siop Gwahaniaethu: Nifer a symlrwydd y cwestiynau. Adrodd ar lafar wrth drafod syniadau cynnyrch i w werthu a thempled syml i gofnodi syniad y disgybl. Templed gêm yn barod ee templed cardiau cofio (memory) iddynt lenwi cyfle i chwarae r gêm adref. Gwahaniaethu rôl addas ar gyfer y gweithgaredd codi arian a ddewisir ee datblygu sgiliau cyfathrebu ar y bwrdd croeso/ dosbarthu rhaglen, ymwneud â rhifedd gyda r tagiau pris/cost mynediad, neu gwaith digidol ar bosteri hybysebu. MAT Cwestiynau A 5 & 6 a B 6 & 7. Gwahaniaethu r rôl i gyfateb â r gallu MAT yn y gwaith grŵp/dosbarth i godi arian.
Pecyn Gwersi 3 Gwaith Grŵŵp/Dosbarth/Cymunedol: Dysgu am y pwyllgor apêl / gweithgaredd codi arian Ymchwil, Arweiniad a Gweithredu i godi arian. Ymchwil: Sut mae r Eisteddfod yn codi arian yn lleol? Beth yw targed codi arian eich ardal? Pwy yw aelodau r pwyllgor apêl lleol? Beth yw cyfeiriad y cadeirydd neu aelod sydd yn adnabyddus i r ysgol? Gwahoddwch aelod i r ysgol i drafod yr apêl a sut maent yn mynd ati i godi arian. Arweiniad: Trafodwch eich cwestiynau cyn i r ymwelydd ddod gyda chwestiwn post-it ar gyfer pob disgybl. Gwrandewch yn ofalus yn ystod y cyflwyniad ac os yw r siaradwr wedi ateb y cwestiwn trowch y post-it drosodd. Yn eich sesiwn holi ceisiwch ddod o hyd i r syniadau gorau am sut i fynd ati i godi arian. Gwrandewch ar sut y maent yn rhannu cyfrifoldebau er mwyn gweithredu yn effeithiol fel grŵp. Holwch a yw r pwyllgor apêl wedi llwyddo i godi r arian i gyd. Gweithredu: Pam? Penderfynwch mewn grwpiau, ac yna drwy drafodaeth dosbarth, at beth y dylid codi r arian. Ee Efallai eich bod am godi arian at gronfa r Eisteddfod, ond os yw r ardal eisoes wedi cyrraedd y targed efallai eich bod am godi arian at addurno r pentref neu at fws o r pentref i ch cludo i r Eisteddfod am ddim, neu efallai eich bod eisoes yn codi arian at rywbeth penodol yn yr ysgol ee elusen, adnoddau, trip, ayb. Amlinellwch y digwyddiad/y fenter: Beth? Pwy? Pryd? Ble? Sut? Faint? Rhannwch y cyfrifoldebau paratoi i grwpiau er mwyn gweithredu n annibynnol ee: datganiad i r wasg, posteri, adroddiad gwefan/trydar, trefnu stondinau, trefnu eitemau, gofyn caniatâd priodol, gwahodd pwysigion. Lluniwch amserlen ar Excel yn dangos y gwahanol gyfrifoldebau, y tasgau, gan ddangos erbyn pryd bydd gwaith y gwahanol grwpiau wedi i gwblhau. A oes angen adolygu unrhyw beth? Cyn y lansiad/digwyddiad rhannwch y cyfrifoldebau gweithredu ee gosod allan, edrychiad, croeso, tywyswyr, lluniau, trydar, siaradwyr, diolchiadau, ayb. Cofiwch ysgrifennu adroddiad a gwerthuso ar y diwedd.
Pecyn Gwersi 3 Gwaith Dosbarth: Siop yr Eisteddfod a Nwyddau Masnachol Siop yr Eisteddfod Mae Mrs Puw yn 100 oed. Mae n fam i 5 o blant (60-80 oed), 15 o wyrion (20-40 oed) a 20 o or-wyrion (1-11 oed). Mae am brynu anrheg o r Eisteddfod i bob un! 1. Faint o anrhegion fydd rhaid iddi brynu? B. Dyluniwch rywbeth i r Eisteddfod werthu er mwyn codi arian. 1. Beth fydd yr eitem? 2. Beth yw pwrpas yr eitem? 2. Faint o anrhegion plant fydd hi n prynu? 3. Mae Mrs Puw am wario cyfanswm o 60 ar y plant. Faint sydd ganddi i wario ar bob plentyn yn gyfartal? 3. Dangoswch sut fydd yr eitem yn edrych mewn 3D 1) o r blaen 2) o r cefn neu r gwaelod. Gallwch ddefnyddio rhaglen ddylunio gyfrifiadurol. 4. Gan edrych ar safle siop yr Eisteddfod neu ar y daflen, rhowch awgrym iddi o un math o anrheg gallai brynu i bob plentyn? Her: 4. Beth fydd y dyluniad 2D /logo fydd ar wyneb yr eitem i adlewyrchu r ardal? 5. Mae Mrs Puw wedi penderfynu rhoi mwy nag un anrheg. Rhestrwch dri chyfuniad o anrhegion posib: 5. Beth fydd pris yr eitem? Her: 6. Mae Mrs Puw am roi union yr un anrheg i bob oedolyn. Mae ganddi gyfanswm o 80 i wario ar yr oedolion. Edrychwch ar wefan yr Eisteddfod https://eisteddfod.cymru/siop i ddweud pa nwyddau cartref gall Mrs Puw eu prynu fel anrhegion: 6. Os yw costau gwneud yr eitem yn 80% a r elw yn 20% - faint o elw fydd yr Eisteddfod yn ei wneud ar eich eitem newydd? 7. Sawl eitem fydd yn rhaid eu gwerthu i wneud elw o 1,000?
Taflen Gefnogi Gwers 3A Siopa! Mae pob math o nwyddau diddorol ar werth ar Faes yr Eisteddfod ond cyn yr Eisteddfod rhaid codi arian. Dyma rai o r nwyddau mae r Eisteddfod yn eu gwerthu i godi arian i gynnal yr ŵyl. Efallai byddwch yn meddwl am nwyddau newydd i w gwerthu neu ddulliau eraill i godi arian. Crys-T Ynys Môn 2017 Lliw: Gwyrdd Maint: Oed 3-4. Het Lliw: Glas tywyll Crys Chwys Maes B delwedd Nos Maint: Canolig Crys Chwys Maes B delwedd Dydd Maint: Bach 7.00 5.00 20.00 20.00 Lliain Sychu Llestri Lliw: Pinc Bag Siopa Cylch Allwedd Maes B Lliw: Porffor Pensil Lliw: Coch 3.00 3.00 1.00 0.50 Potel Ddŵr Cardiau Snap Cas Pensiliau 2.50 3.00 1.50
Pecyn Gwersi 3 Gwaith Cartref/Homework: Dyfeisio gêm/invent a game Datblygu dyfeisgarwch, rhifedd a llythrennedd Defnyddiwch eich dyfeisgarwch a ch profiad o gemau hwyliog i greu gêm fydd Dysgwyr yn ei mwynhau ar Faes yr Eisteddfod. Gall fod yn gêm fwrdd neu yn gêm tîm. Defnyddiwch yr eirfa i ch helpu. Gall y gêm fod mor syml â snap neu cofio (memory), neu gêm wreiddiol arall sy n defnyddio geiriau Cymraeg. Dyma agweddau i w hystyried wrth benderfynu ar y Meini Prawf Llwyddiant: A yw n hwyl? A yw r chwaraewyr yn dysgu mwy o Gymraeg wrth chwarae r gêm? A yw r cyfarwyddiadau yn eglur yn y Gymraeg a r Saesneg? A ydych wedi egluro sut mae sgorio/ennill? Defnyddiwch gefn y ddalen i ysgrifennu r cyfarwyddiadau. Gall y penawdau hyn fod yn defnyddiol: Offer, Nifer y Chwaraewyr, Pwrpas y Gêm, Sut i gadw Sgôr, a Sut i Ennill. Asesu: Dewch a ch gêm i r ysgol i ddangos ac i dreialu gyda ffrindiau cyn asesu. Os yw eich gêm ar gyfer tu allan, tynnwch lun ohonoch chi yn ei threialu gyda theulu neu ffrindiau a dewch â r daflen gyfarwyddiadau i r dosbarth er mwyn i eraill roi eu hadborth. Developing inventiveness, numeracy and literacy Use your experience of fun games to invent a game that Welsh Learners would enjoy playing. It can be a board game or a team game. Use the vocabulary provided for you in the Eisteddfod booklet. The game can be as simple as snap or memory, or an original game which uses Welsh words. These are aspects to consider as your success criteria: Is it fun? Do the players learn more Welsh by playing the game? Have you communicated the instructions clearly in English and Welsh? Is it clear how you score and win? Use the back of this sheet to write your instructions. Useful headings could include: Equipment, Number of Players, Aim of the Game, Scoring, and How to Win. Assessment: Bring your game to school to show and trial with friends before assessing. If your game is for outside, take a picture of you playing the game with your family or friends and then bring the instruction sheet to class so that others can give you feedback.
Taflen Gefnogi Gwers 3B Geirfa posib ar gyfer creu gêm i Ddysgwyr Geirfa Cystadlaethau Gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Seremonïau Y Coroni Y Cadeirio Croeso i bawb Dawnsio disgo Corau meibion Y Maes Barddoniaeth Beirdd Y celfyddydau Y Lle Celf Cyngerdd Dramâu Llenyddiaeth Maes Carafanau Offer cyfieithu Y Babell Lên Swyddfa Docynnau Crwydro r Maes Bore da P nawn da Noswaith dda Vocabulary Competitions Simultaneous translation service Ceremonies The Crowning The Chairing of the Bard All welcome Disco dancing Male voice choirs The Eisteddfod field Poetry Poets Arts Art Exhibition Concert Plays Literature Caravan Park Translation equipment Literary Pavilion Ticket Office Strolling on the Maes Good morning Good afternoon Good evening Hwyl Sut mae? Ti n iawn? Cwrteisi Os gwelwch yn dda Diolch Dim diolch Esgusodwch fi Mae n ddrwg gen i Sori! Dim problem Iawn Gofyn am bethau Ga i os gwelwch yn dda? Te Coffi Sudd oren Goodbye How are you? Are you ok? Good manners Please Thanks No thanks Excuse me I m sorry Sorry! No problem OK Asking for things Can I have please? Tea Coffee Orange juice Faint? How much? / How many? Faint ydi o? Mwy o fanylion Dim llefrith Siwgr Dim siwgr Dipyn bach How much is it? Add some details (N. Wales) No milk Sugar No sugar A little bit
Taflen Gefnogi Gwers 3B Geirfa posib ar gyfer creu gêm i Ddysgwyr Mwy o fwyd Ga i Sglodion Ffa pôb Taten bôb Cig eidion Byrgyr Menyn Pysgod Hufen iâ Cig oen Crempog Porc wedi i rostio Ci poeth Sosej / selsig Brechdan More food Can I have Chips Baked beans Baked potato Beef Burger Butter Fish Ice cream Lamb Pancake Roast pork Hot dog Sausage Sandwich Faint ydych chi eisiau? How many do you want? Un Dau Tri Pedwar Pump Chwech Saith Wyth Naw Deg One Two Three Four Five Six Seven Eight Nine Ten