Dydd Sadwrn, Mai 19eg, 2018

Similar documents
Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

GAIR O R DYFFRYN CROESO Dyna r cyfarchion unwaith eto o Ddyffryn Ceiriog.

Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

EISTEDDFOD TALAITH A CHADAIR POWYS BRO HAFREN RHESTR TESTUNAU

C H A TH A. eisteddfodpowys.co.uk

W32 05/08/17-11/08/17

Buy to Let Information Pack

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg

Bwletin i Rieni - Hydref 2014

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

Canlyniadau Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Development Impact Assessment

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

Cefnogi gwaith eich eglwys

Cyngor Cymuned Llandwrog

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!

AVID D NOSON D AWSON ARIAN I GARNIFAL LLANFAIR AS HAPUS PRIODAS. Ionawr 2015

Nazareth Chapel. Capel Nasareth. Dyma erthygl a ymddangosodd yn y Drysorfa yn The following article appeared in the Trysorfa in 1869:

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

Family Housing Annual Review

BODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG

ATB: Collective Misunderstandings

Welsh Conservative Manifesto for Local Government

Gwr lleol yn Grønland

PR and Communication Awards 2014

Deddf Awtistiaeth i Gymru

Hydref Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau.

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

Rhewlifegydd o r Borth yn astudio genedigaeth mynydd iâ

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Bwletin Gorffennaf 2017

Cyngor Cymuned Y Fali Community Council

33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL

Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol:

Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Wythnos Gwirfoddolwyr

Cyfarwyddiadau i Gyfranwyr. Wrth baratoi eu cyfraniadau dylai awduron ymgynghori â r cyfarwyddiadau a geir yn Elwyn

Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

PENCAMPWYR PÊL-DROED POWYS

Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.

Cyfres newydd, rhif 17 Hydref Mi glywais lais yr Iesu n dweud, Tyrd ataf fi yn awr. Llun: Fishers of Men (Simon Dewey)

NEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!

P A P U R B R O G E N A U R - G L Y N, M E L I N D W R, T I R Y M Y N A C H, T R E F E U R I G A R B O R T H. Dathlu r Gwyliau

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Business development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio

REVIEW OF THE YEAR GOLWG AR Y FLWYDDYN PRESIDENT THE YEAR IN PROFILE HIGHLIGHTS FACTS AND FIGURES THE YEAR AHEAD LLYWYDD NEWYDD CRYNODEB O R FLWYDDYN

MAPIAUMAPS. Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales

Llogi Cyfleusterau Venue Hire

Cor Caerdydd o flaen adeilad y Pierhead yn y Bae noson noson perfformio Ar Waith Ar Daith gweler tud. 13. Dyluniad a lluniau: Irfon Bennett

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )

CYNNWYS. Llawlyfr y 6ed 2016/2018 1

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council

The Friend. Y Cyfaill. Kyffin Williams Library book launch. Lansiad llyfr Kyffin Williams yn y Llyfrgell

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1

Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr SAMPL

Campus. Cylchgrawn Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru. The Magazine for University of Wales Alumni #002. Haf Summer 2010

Traddodiad a newydd-deb. yn nofelau Wiliam Owen Roberts

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC

GWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru. 1

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL


Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018

Sir Ddinbych / Denbighshire Phil Lord. Sir y Fflint / Flintshire Phil Lord

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf

TGAU CBAC mewn CERDDORIAETH. I w Addysgu o 2012 I w Ddyfarnu o Crynodeb o r Asesiad 2. Rhagarweiniad 3. Cynnwys y Fanyleb 6.

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg

Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU

CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG

PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Llenydda a Chyfrifiadura

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth

CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016

Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin

Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Y Lle Celf

Transcription:

Dydd Sadwrn, Mai 19eg, 2018 yng Nghanolfan Goffa Llandudoch Eisteddfod leol am 11.30 a.m. Eisteddfod yr Ifanc am 1.00 p.m. Eisteddfod yr Hwyr am 5.00 p.m. Hefyd Talwrn y Beirdd a Beirniadaethau Llên Nos Fercher, Mai 16eg am 7.30 p.m yn Neuadd Ysgol Llandudoch Meuryn Y Prif Lenor Eurig Salisbury, Aberystwyth Llywydd Anrhydeddus : Mr Colin James, Dorchester (gynt o Heol Dewi, Llandudoch) Beirniaid: Cerdd: Mari Lloyd Pritchard, Ynys Môn a Siôn Goronwy, Rhyd Uchaf, Y Bala. Llefaru : Iola Wyn, Sanclêr Llên: Y Prifardd Osian Rhys Jones, Caerdydd Cyfeilyddion: Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre ac Angharad James, Llantwd Ysgrifenyddion : Melrose Thomas, Dychwelfa, Heol Finch, Llandudoch, SA43 3EA (01239 615196) a Terwyn Tomos, Gwynfa, Heol Dewi, Llandudoch, SA43 3HT (01239 612928) e-bost : Llandudoch@steddfota.org Eisteddfod yr Ifanc: 2.00; Eisteddfod yr Hwyr : 4.00; Tocyn Dydd : 5.00 ; Plant dan 12 : 1.00 Bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael gydol yr Eisteddfod Bydd lluniaeth ysgafn ar gael drwy r dydd Aelod o Gymdeithas Eisteddfodau Cymru (www.steddfota.org)

Prif Noddwyr Cystadlaethau Eisteddfod 2018 SIOP AC ORIEL AWEN TEIFI Dewis da o lyfrau Cymraeg i blant ac oedolion. Hefyd, cardiau a recordiau. Ar agor 9 5.30 Llun i Sadwrn Cware ac Olew Trefigin 01239 621370 23 Stryd Fawr Aberteifi. SA43 1HJ Yswiriant Delwyn Griffiths Sefydlwyd 1983 YSWIRIANT at bob achlysur yn cynnwys: BUSNES CERBYDAU CARTREFI TEITHIO ac yn y blaen Gwasanaeth Personol Premiwm Cystadleuol Cyngor Diduedd 01239 615040 O.C. Davies Moduron Penparc Dewis eang o gerbydau ail law o ansawdd da Gallwn ddod o hyd i r car iawn i chi gallwn gael gafael ar 2,000 o gerbydau Penparc, Aberteifi, Ceredigion SA43 1SBB 01239 622955 ocdavies.com 3 Heathfield, Pendre Aberteifi SA43 1JT Awdurdodwyd a Rheolwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol

Yr Eisteddfod Leol am 11.30 a.m. I blant o r oedran priodol ar ddiwrnod yr eisteddfod o fewn dalgylch yr ysgolion cynradd canlynol : Aberporth, Aberteifi, Beulah, Cilgerran, Cenarth, Eglwyswrw, Llandudoch, Llechryd, Penparc. Caiff yr eisteddfod ei hagor gan blant oed Meithrin a Derbyn Llandudoch Cystadlaethau Llwyfan 1. Llefaru unigol oed Blwyddyn 2 ac iau. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 2. Unawd oed Blwyddyn 2 ac iau. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 3. Llefaru unigol Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 4. Unawd Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 5. Llefaru unigol Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 6. Unawd Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 7. Unawd Alaw Werin dan 12 oed. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 8. Grŵp llefaru dan 12 oed. 1af: Tarian a 15.00; 2il : 10.00 9. Parti/Côr dan 12 oed. 1af: Tarian a 30.00 10. Dyfernir Gwobr Her Nantypele (rhoddedig gan Pam a Norman High, Nantypele, Llandudoch) i r perfformiad gorau gan unigolyn yn y cystadlaethau lleol ym marn y beirniaid llefaru a cherdd. Cystadlaethau cartref y plant (agored) - dyddiad cau: Mai 9fed, 2018 Llenyddol : Ysgrifennu stori neu ddisgrifiad Beirniad : Mrs Eluned Jones, Capel Newydd 11. Plant hyd at Flwyddyn 2 (Llun a stori) : Gwisgo lan. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 12. Plant blynyddoedd 3 a 4 : Taith i r gofod. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 13. Plant blynyddoedd 5 a 6 : Sŵn rhyfedd. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 14. Barddoniaeth oed cynradd: Hwyl a Sbri neu Y Gêm. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 15. Gwobr Her W.R.Smart i r llenor mwyaf addawol yng nghystadlaethau 13-15 Celf : Darlun mewn unrhyw gyfrwng ar y thema : Chwedlau Beirniad : Joy Forster, Cenarth (Noddir y cystadlaethau celf gan siop Mundos, Pendre, Aberteifi) 16. Oed meithrin neu dderbyn. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 17. Blwyddyn 1 a 2. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 18. Blwyddyn 3 a 4. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 19. Blwyddyn 5 a 6. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 20. Anghenion Addysgol Arbennig(Cymedrol/Difrifol)dan12. 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 21. Ffotograffiaeth : Blwyddyn 6 ac iau. (Un llun). 1af: 5; 2il : 3; 3ydd: 2 22. Tlws Coffa Kenneth Mower i r arlunydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau 17-21

Eisteddfod yr Ifanc Cystadlaethau agored dan 12 oed am 1.00 p.m. 23. Llefaru unigol dosbarth derbyn neu iau. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 24. Unawd oed dosbarth derbyn neu iau. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 25. Llefaru unigol Blwyddyn 1 a 2. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 26. Unawd Blwyddyn 1 a 2. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 27. Gwobr Her Calon Ifanc Llandudoch i r perfformiad llwyfan unigol gorau yn yr holl gystadlaethau hyd at Flwyddyn 2 28. Llefaru unigol Blwyddyn 3 a 4. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 29. Unawd Blwyddyn 3 a 4. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 30. Llefaru unigol Blwyddyn 5 a 6. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 31. Unawd Blwyddyn 5 a 6. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 32. Unawd Alaw Werin dan 12 oed. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 33. Canu emyn dan 12 oed. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 34. Unawd Cerdd Dant dan 12 oed. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 35. Unawd piano dan 12 oed. 1af: 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 36. Unawd unrhyw offeryn cerdd (eithrio r piano) dan 12 oed. 1af: Cwpan; 2il : 3; 3ydd: 2 37. Gwobr Her Iwan a Sian Davies, Isfryn, ac 20 yn rhoddedig gan y teulu, i r perfformiad llwyfan unigol gorau yn y cystadlaethau o oed Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6 a than 12 oed 38. Deuawd dan 12 oed. 1af: 12; 2il: 8; 3ydd: 4. LLANDUDOCH FERRY INN Llandudoch Siop y Pentref Stryd Fawr, Llandudoch. Oriau agor : Llun i Iau : 8 a.m. 9 p.m. Gwener/Sadwrn : 8a.m 10 p.m. Dydd Sul : 8 a.m. 8 p.m. 01239 612087 perffaith ar gyfer cinio : perffaith i deuluoedd 01239 615172 e-bost : ferryinn@hotmail.co.uk

Cystadlaethau oed Uwchradd dan 16 oed Noddir cystadlaethau 38 43 gan O.C.Davies a i Fab, Moduron Penparc, Penparc, Aberteifi. 39. Llefaru unigol oed Uwchradd. 1af: 10; 2il: 5, 3ydd: 3 40. Unawd. (Cwpan Her Miss Mair Evans). 1af: 10; 2il: 5, 3ydd: 3 41. Unawd Alaw Werin. 1af: 10; 2il: 5, 3ydd: 3 42. Canu Emyn. 1af: 10; 2il: 5, 3ydd: 3 43. Unawd piano. 1af: 10; 2il: 5, 3ydd: 3 44. Unawd unrhyw offeryn cerdd ac eithrio r piano. 1af: 10; 2il: 5, 3ydd: 3 45. Gwobr Arbennig Merched y Wawr Llandudoch i r perfformiad llwyfan gorau gan unigolyn yn y cystadlaethau oed Uwchradd dan 16 oed ym marn y beirniaid cerdd a llefaru Cystadlaethau hyd at 26 oed 46. Llefaru unigol 16 a than 19 oed. 1af: 30; 2il 20; 3ydd : 10 47. Unawd 16 a than 19 oed. 1af: Cwpan Her Rhiannon Lewis, Llanbedr PS a 30; 2il 20; 3ydd : 10 48. Llefaru unigol 19 a than 26 oed : 1af: 30; 2il 20; 3ydd : 10 49. Unawd 19 a than 26 oed : 1af: 30; 2il 20; 3ydd : 10 50. Unawd Alaw Werin 16 a than 26 oed. 1af: 20; 2il 15 51. Unawd Piano 16 a than 26 oed. 1af: 20; 2il 15 52. Unawd unrhyw offeryn cerdd ac eithrio r piano 16 a than 26 oed. 1af: 20; 2il 15 53. Deuawd 12 a than 26 oed. 1af: 30; 2il 20; 3ydd 10 54. Ymgom, deialog neu gyflwyniad llafar gan o leiaf dau berson na chymer mwy nac 8 munud i w gyflwyno unrhyw oed dan 26. 1af: 30; 2il 20; 3ydd: 10 Cystadlaethau Llenyddol yr Ifanc (Dyddiad cau : Ebrill 21ain, 2018) 55. Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc i gystadleuwyr hyd at 21 oed : dau ddarn o lenyddiaeth greadigol ar unrhyw ffurf. Testun : agored. Gwobr : Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc (i w gadw am flwyddyn), tlws parhaol a 30 11 oed a than 16: 56. Darn o ryddiaith (e.e. stori, erthygl, deialog, blog) : Cymwynas. 1af : 10.00 57. Darn o farddoniaeth ar unrhyw ffurf, ond dim mwy nac 20 llinell : Cynefin. 1af : 10.00 16 a than 26 oed: 58. Darn o ryddiaith (e.e. stori, erthygl, deialog, blog) : Gwrthdaro. 1af : 10.00 59. Darn o farddoniaeth ar unrhyw ffurf, ond dim mwy nac 20 llinell : Perthyn. 1af : 10.00

SIOP SGLODION BOWEN 2, Stryd Fawr, Llandudoch Blasus a ffres 01239 613814 DAI LEWIS - www.dai-lewis.co.uk Arolygwyr Siartredig, Arwerthwyr, Priswyr ac Asiantau Ystadau OS AM FOD AR Y BLAEN MEWN MARCHNATA NEU BRISIO EIDDO NEU DDA BYW, ADRODDIADAU PRISIO AR GYFER POB PWRPAS Cysylltwch â r arbenigwr: LLANDYSUL (01559)363401 CASTELL NEWYDD EMLYN (01239)710481 YN GWASANAETHU GORLLEWIN CYMRU Gwerthwch eich stoc yng nghanolfan flaenllaw Castell Newydd Emlyn diwrnod mart: 01239 710482 BOB DYDD IAU: ŴYN TEW A STÔR, DEFAID LLADD, POB DOSBARTH O DDEFAID MAGU (YN EU TYMOR) BOB YN AIL DDYDD MAWRTH : Gwartheg swynogydd a dros oedran, gwartheg sugno a lloi, teirw magu, gwartheg ifainc a gwartheg i w pesgi. Arwerthiannau eraill yn rheolaidd Arwerthwyr apwyntiedig o Gymdeithasau pedigri ledled y wlad Arwerthiannau Fferm ein harbenigedd

Eisteddfod yr Hwyr am 5.00 p.m. Bydd Cystadleuaeth y Côr, yr Hen Ganiadau, seremoni r cadeirio, a r Her Unawd yn dilyn ei gilydd gan ddechrau am 7.30 p.m., ble bynnag y byddwn ar y rhaglen. 60. Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru - Ensemble lleisiol 10-26 oed (rhwng 3 a 6 mewn nifer). Hunan-ddewisiad gyda chyfeiliant neu n ddigyfeiliant. Geiriau Cymraeg. Perfformiad dim mwy na 4 munud. 1af : 50 Bydd ennill mewn dwy eisteddfod leol a dwy yn unig rhwng Eisteddfod Genedlaethol 2017 a diwedd Gorffennaf 2018 yn rhoi r hawl i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 am wobrau o 150, 100 a 50 a chyfle i ennill Ysgoloriaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, gwerth 1000, i dderbyn hyfforddiant pellach ym maes perfformio ar lwyfan eisteddfodol. 61. Cyflwyniad ysgafn gan grŵp neu unigolyn, na chymer mwy na phum munud i w lwyfannu. Gwobr : 50 i w ddyrannu. 62. Cân o unrhyw sioe gerdd (unawd, deuawd neu grŵp). 1af: 100 a Chwpan Her Parhaol Sheila Penrallt-y-Dre i w gadw am flwyddyn. Mae r cwpan yn rhoddedig gan ei ffrindiau er cof amdani; 2il: 50; 3ydd: 30. Noddir Cystadleuaeth 63 gan Gwmni Yswiriant Delwyn Griffiths, Aberteifi 63. Canu emyn 12 a than 60 oed. 1af: 45; 2il: 30; 3ydd: 25 64. Darllen darn o r ysgrythur ar y pryd. Gwobr : 15; 2il: 10; 3ydd: 5 Noddir Cystadleuaeth 65 gan Eiry a Tony Ladd Lewis, Trefdraeth 65. Cystadleuaeth lwyfan i ddysgwyr o Lefel Mynediad hyd at Lefel Uwch darllen darn o ryddiaith y cafwyd mis o amser i w baratoi. Cysyllter â r ysgrifennydd am gopi o r darn. Gwobr : 15; 2il: 10; 3ydd: 5 66. Canu emyn dros 60 oed. 1af: 45; 2il: 30; 3ydd: 25 Noddir Cystadleuaeth 67 gan gwmni Cware ac Olew Trefigin, Eglwyswythwr, Aberteifi 67. Prif gystadleuaeth lefaru cyflwyniad llafar neu ddramatig gan unigolyn, na chymer mwy na 7 munud. 1af: 100; 2il: 50; 3ydd: 30.

68. Cystadleuaeth Côr Llandudoch : cystadleuaeth i gorau o 50 neu lai o leisiau, i gyflwyno rhaglen amrywiol na chymer mwy na 12 munud i w pherfformio. Bydd y gystadleuaeth ar y llwyfan tua 7.30 p.m. 1af: 300; 2il: 200; 3ydd: 100 69. Yr Hen Ganiadau unrhyw unawd Gymreig. 1af: 100; 2il 50: 3ydd: 30 70. Her Unawd. 1af : 150; 2il: 75; 3ydd: 40; 4ydd: 20; 5ed: 15; 6ed: 10. (Noddir y gystadleuaeth gan Geraint a Siân Jones, Pontyglasier er cof am Eurwen a Halket Jones, Hawddamor, Llandudoch.) Cystadlaethau Llenyddol Agored (Dyddiad Cau Ebrill 21ain, 2018 2017) 71. Cystadleuaeth y Gadair : Cerdd, neu gasgliad o gerddi, caeth neu rydd, hyd at 100 o linellau - 'Lleisiau' neu 'Darluniau'. Gwobr: Cadair fechan gywrain a 75.00 (Rhoddedig gan y teulu er cof am W.R. Smart) Noddir cystadlaethau 72-79 gan Siop ac Oriel AWEN TEIFI, Stryd Fawr, Aberteifi 72. Telyneg : Cysgod 1af : 15.00 73. Soned : Liw Nos 1af : 15.00 74. Pedwar pennill telyn neu bedwar triban yn ymwneud â cherddoriaeth. 1af : 15.00 75. Englyn : Neuadd 1af : 15.00 76. Cerdd hyd at 30 llinell mewn cynghanedd: Gŵyl 1af: 15.00 77. Limrig yn cynnwys y llinell : Fe es i yn hapus i r steddfod 1af : 10.00 78. Cân ddigri : Yr Eisteddfod 1af: 10.00 79. Stori fer yn ymwneud â digwyddiad cyhoeddus. 1af : 15.00 80. Cystadleuaeth CLEBRAN (Papur Bro r Preseli) erthygl addas i w chyhoeddi mewn papur bro. 1af : 25.00 Cystadlaethau i Ddysgwyr Ysgrifennu ar un o r themâu hyn : Y Storm neu Pen-blwydd 81. Lefel Mynediad ( hyd at 150 o eiriau) : 1af : 15.00 82. Lefel Sylfaen (hyd at 250 o eiriau: 1af : 15.00 83. Lefel Canolradd (hyd at 350 o eiriau): 1af : 15.00 84. Lefel Uwch (500 gair neu fwy) : 1af 15.00

Cystadleuaeth Gyfansoddi 85. Cyfansoddi tôn ar gyfer emyn buddugol Eisteddfod Llandudoch 2017 (geiriau isod). 1af: 30. Caiff y gystadleuaeth ei beirniadu gan Mari Lloyd Pritchard. Os bydd teilyngdod, caiff yr emyn ei berfformio yn ystod yr eisteddfod. Dyddiad cau : Ebrill 21ain, 2018 Anfoner at: Mrs Melrose Thomas, Dychwelfa, Heol Finch, Llandudoch, SA43 3EA ( Rhif ffôn : 01239 615196) Emyn Heddwch Bugail mwyn a thad gofalon, Gwrando ar ein cri; Arwain ni i fyd o heddwch Clyw ein gweddi ni. Dysg arweinwyr ffôl y gwledydd Mai nid grym y cledd Ddaw a n byd llawn trais a gormes Mewn i fyd o hedd. O boed i Ti, fugail tirion, Atal trachwant dyn, Fel daw holl dylwythau daear Oll i fyw n gytûn. Ymbil wnawn ni am gyfiawnder Drwy holl wledydd byd, Fel bydd cariad yn teyrnasu - Dyma n cri o hyd. Mary B Morgan, Llanrhystud DALIER SYLW : Dyddiadau Cau Cynnyrch llenyddol a gwaith celf y plant i fod yn llaw r ysgrifennydd erbyn Mai 9fed, 2018: Mr Terwyn Tomos, Gwynfa, Heol Dewi, Llandudoch (Rhif ffôn : 01239 612928) Cynnyrch y cystadlaethau llenyddol ieuenctid ac agored i fod yn nwylo r ysgrifennydd Llên erbyn Ebrill 21ain, 2018 Mrs Melrose Thomas, Dychwelfa, Heol Finch, Llandudoch, Sir Benfro, SA43 3EA. Derbynnir cynnyrch trwy e-bost o u hanfon at llandudoch@steddfota.org Cofiwch gynnwys enw a manylion cyswllt (ffôn neu gyfeiriad), os gwelwch yn dda ni fydd y cynnyrch yn cael ei dderbyn i r gystadleuaeth heb y wybodaeth yma.

Rheolau ac Amodau 1. Bydd pob cystadleuydd yn ddarostyngedig i r amodau hyn, ac i unrhyw amodau penodol a berthyn i unrhyw gystadleuaeth. 2. Cymraeg fydd iaith pob cystadleuaeth. 3. Y cystadleuwyr i fod yn y grŵp oedran priodol ar ddyddiad yr eisteddfod. 4. Ni chaniateir defnyddio r un darn gan yr un cystadleuydd mewn mwy nag un gystadleuaeth. 5. Bydd gan y beirniaid yr hawl i atal, rhannu, neu i gwtogi gwobrau. 6. Rhaid i bob cystadleuydd ofalu am gopi i r beirniaid a r cyfeilydd. 7. Cystadleuwyr i ddod i r blaen ar ddechrau cystadleuaeth. Cynhelir rhagbrawf os bydd angen. 8. Ni thraddodir beirniadaeth gyhoeddus ym mhob cystadleuaeth. Gall pob cystadleuydd ofyn am feirniadaeth ysgrifenedig, os yw n dymuno. 9. Disgwylir i aelodau r corau sy n cystadlu dalu tâl mynediad o 1.00 y pen. Byddai n hwyluso pethau pe bai modd gwneud hynny ymlaen llaw trwy anfon siec yn daladwy i Eisteddfod Llandudoch at y trysorydd, Geraint Volk, Tynewydd Clawddcam, Llandudoch, Sir Benfro (01239 615962). 10. Bydd trefn y cystadlu yn dilyn trefn y rhaglen hon, oni nodir amser penodol ar gyfer cystadleuaeth. Noddwyr Eisteddfod Llandudoch 2017 Dymuna r pwyllgor ddiolch o waelod calon i bawb a gyfrannodd arian, cwpanau a chefnogaeth ymarferol i r eisteddfod. Mae llwyddiant a pharhad yr eisteddfod yn dibynnu n drwm ar haelioni unigolion a chwmnïau, ac rydym yn ei werthfawrogi n fawr iawn. Archwiliwyd cyfrifon 2016/2017 gan D.M.B. Davies, Cyfrifydd, Aberteifi Cyngor Cymuned Llandudoch 500.00 Abbey Shakespeare Players 150.00 B.V.Rees Cyf,Modurdy'r Abaty 120.00 Geraint a Siân Jones, Pontyglasier 100.00 John F.Rees, Pantygalchfa 100.00 Awen Teifi,Aberteifi 100.00 G.M. James,Tredryssi, Nanhyfer 100.00 O.C.Davies,Modurdy Penparc 100.00 Cware ac OlewTrefigin 100.00 Delwyn Griffiths 100.00 Llenyddiaeth Cymru 120.00 Diana Evans, June, a Dawn Smart 75.00

Mr a Mrs G. Bazeley, Brynderwen 50.00 Siop Mundos Aberteifi 50.00 Brodyr Richards,Aberteifi 50.00 Terwyn a Marged Tomos, Gwynfa, Heol Dewi 50.00 Mair a Geraint Volk, Tynewydd Clawddcam 50.00 Ron a Janet Evans Briscwm 50.00 Terence a Rhiannon Lloyd, Parc y Ffrier 50.00 Tim a Helen Rees, Foxhill 50.00 Rhiannon Lewis, LlanbedrPS 40.00 Cymdeithas Waldo 35.00 Teulu Evans, Pantirion 30.00 Siop y Cardi, Aberteifi 30.00 Clebran 25.00 Pam a Norman High, Llandudoch 25.00 Barrie a Lynda Forster, Llandudoch 25.00 Merched y Wawr, Llandudoch 25.00 Glenda a Noel Evans, Llantwd 25.00 Dai a Jane Pugh, Llandudoch 25.00 Dai a Dilys Roberts, Tirion Isaf 25.00 Margaret G Lloyd, Gwynfa, Brynhir 25.00 Esther Davies, Brig yr Ewyn 20.00 Muriel Davies, Sŵn y Nant, Aberteifi 20.00 Cynthia Dray, Llandudoch 20.00 Sian ac Iwan Davies, Isfryn 20.00 Mrs Julia Thomas, Rhosgwyn 20.00 Steve ac Angela Czech, Mwtsiwr 20.00 Mr JM Kemsley a Mrs MI Kemsley 20.00 Cynghorydd Mike a Sian James 20.00 Vanya Constant, Mwtshwr 20.00 Howard a Llinos Devonald 15.00 Mr Taff Jenkins, Llandudoch 10.00 Lorna Wynn 10.00 Mrs Rhin Palmer, Maesmynachhh 10.00 Caiff y gwobrau i r cystadlaethau llenyddol, ac eithrio cystadleuaeth y gadair a Thlws Llenyddiaeth yr Ifanc, eu dyfarnu mewn NOSON BEIRNIADAETHAU A THALWRN Y BEIRDD am 7.30 pm, Nos Fercher, Mai 16eg 2018 yn Neuadd Ysgol Llandudoch yng nghwmni r beirniad, y Prifardd Osian Rhys Jones, Caerdydd a r meuryn, Y Prif Lenor Eirug Salisbury, Aberystwyth.