Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru

Similar documents
Buy to Let Information Pack

Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

Deddf Awtistiaeth i Gymru

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )

MEDDYLIWCH AM FYD NATUR SUT MAE RHOI BYWYD I DDATBLYGU CYNALADWY

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

Welsh Conservative Manifesto for Local Government

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi?

SAETHU YNG NGHYMRU. er budd cefn gwlad a chymuned. y r ac h o s dro s gefnogi

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697

YR HYN Y Y TORIADAU. Yr undeb athrawon mwyaf. Gwarchodwch gyflogau, pensiynau a gwasanaethau cyhoeddus

Gynhyrchu gwartheg bîff a defaid organig yn yr ucheldiroedd

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru

Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

Profion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth

Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Business development support and networking platform Cefnogaeth i ddatblygu busnes a llwyfan rhwydweithio

Family Housing Annual Review

Wreiddio. Crynodeb. Dinas a Sir. yn y pen draw. Abertawee. newydd i CDSA. equivalent/fte) yn. corfforaethol ailddefnyddio, m 2.

RHAN UN: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/2007. Arolwg ac asesiad Ymddiriedolaeth y BBC

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

PWYSEDD GWAED UCHEL. Sut allwn ni wneud yn well? Dyddiad adolygu: Chwefror 2018

No 7 Digital Inclusion

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

Iechyd Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd

Cyngor Cymuned Llandwrog

CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016

Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU

Gwobrau. Enillwyr. Prif noddwyr 1

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!

Development Impact Assessment

Cycle Tracks Traciau Beicio & Butterflies & Glöynnod Byw. WREN projects in Wales Prosiectau WREN yng Nghymru

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr

Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

europe rittany Wales a partner for Llydaw, partner i Gymru

Mentro a cholli? Alcohol a gamblo: ymchwilio i r nodweddion cyffelyb ac atebion cyffredin

BODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG

Grwp Rheoli Adeiladu canllawiau rheoli adeiladu 2018

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

Dadansoddiad disgrifiadol o iechyd yng nghyffiniau Gwaith Hanson Cement

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Datganiadau o Bolisi Rhaglenni r BBC

Ceisiadau Cynllunio Newydd ~ New Planning Applications

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD. Y Naturiaethwr. Cyfres 2 Rhif 4 Gorffennaf 1999

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

Datblygu r Cwricwlwm Cymreig

NEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!

Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn

Cefnogi gwaith eich eglwys

YMGYNGHORI Â CHI/ DARPARU AR EICH CYFER CHI/

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD. Y Naturiaethwr. Cyfres 2 Rhif 18 Gorffennaf 2006

Cyngor Cymuned Y Fali Community Council

The One Big Housing Conference

Bwletin Gorffennaf 2017

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

Edexcel TAG. Mehefin Edexcel TAG mewn Iechyd a. Gofal Cymdeithasol. Papurau enghreifftiol gyda chvnlluniau marcio. dysgu uwch, newid bywyd

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

Newyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd

Mae'r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn hefyd ar gael ar ein gwefan yn:

Rural Crime Forum. MONDAY 23 JULY :00-12:30 FUW Building Royal Welsh Showground. Panel Members. Are we doing enough to tackle rural crime?


Datganiad Cadwraeth Clawdd Offa. Offa s Dyke Conservation Statement

CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG

ACQUISITION OF LAND ACT 1981

W32 05/08/17-11/08/17

GWOBRAU TAI CYMRU COMPENDIWM ARFER DA. Rhannu r gwersi a ddysgwyd wrth Gwobrau Tai Cymru Cymru. 1

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg Y Lle Celf

MAPIAUMAPS. Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales

Cronfa Buddsoddiadau Cyffredin yr Eglwys yng Nghymru. Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2014

33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL

Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol:

Colofn B BIOLEG. UNED 1: BIOCEMEG SYLFAENOL A THREFNIADAETH CELLOEDD Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 20% o'r cymhwyster

Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil

PR and Communication Awards 2014

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.

Gwlad, Gwlad. Hyfforddi, Gweithio, Byw yng Nghanolbarth Cymru

Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg

DYFED ARCHAEOLOGICAL TRUST NEWSLETTER SUMMER 2014 NEWYDDLEN HAF 2014 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL DYFED

Transcription:

Dyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru 2017 Cymru Cyfeiriwch at y geirfa ar y dudalen ôl am ddiffiniad o'r testun sydd wedi ei oleuo'n las.

Cyflwyniad Mae r ucheldiroedd yn nodwedd allweddol o dirweddau eiconig a diwylliannol Cymru. Maent yn darparu bwyd, bywoliaethau, cyfleoedd hamdden, gwasanaethau a nwyddau cyhoeddus ar gyfer pobl yn ogystal â chynefinoedd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae r ardaloedd hyn yn gwynebu newidiadau o nifer o sectorau; gall rhai ymddangos yn fygythiol, tra bod eraill yn cynnig cyfleoedd i gryfhau gwytnwch ein hucheldiroedd. Bydd y cyhoeddiad hwn yn disgrifio r polisi presennol yn fyr a r amodau economaidd ac amgylcheddol sy n effeithio ar yr ucheldiroedd, cyn amlinellu r heriau, y cyfleoedd a r ffyrdd o weithio posib. Beth sy n digwydd yng Nghymru? Polisïau a deddfwriaeth allweddol Gyda pherthynas y Deyrnas Unedig â r Undeb Ewropeaidd mewn cyflwr o newid, mae llawer o bolisïau amaethyddol, economaidd ac amgylcheddol yn debygol o newid hefyd, yn cynnwys disodli r Polisi Amaeth Cyffredinol (PAC). Yn y cyfamser fodd bynnag, mae dwy ddeddf newydd yng Nghymru yn berthnasol iawn i reolwyr tir yr ucheldir. Deddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bwriad y deddfau hyn yw helpu Cymru i gwrdd â i hymrwymiad tuag at ddatblygu cynaliadwy, a fydd ogystal yn cynnwys sut yr ydym ni n rheoli tir yng Nghymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol (Cymru) 2015¹ yn datgan bod yn rhaid i ddatblygu cynaliadwy ystyried llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol - gyda bob ffactor yn gyfartal bwysig. Bydd hyn yn arbennig o bwysig i ffermwyr a thirfeddianwyr wrth ymdrin â chyrff cyhoeddus (ac wrth dderbyn cyllid ganddyn nhw), sy n cael eu llywodraethu gan y Ddeddf. Mae r rhain yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Bydd yn rhaid i unrhyw allbynnau sy n cael eu cyflawni drwy gyllid cyhoeddus, fel rheoli llifogydd neu systemau storio carbon, gyfrannu tuag at y Nodau Llesiant a nodwyd yn y Ddeddf². Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016³ yn debygol o gael effaith uniongyrchol ar dirfeddianwyr a rheolwyr oherwydd y bydd mwy o graffu yn awr ar sut bydd adnoddau naturiol Cymru yn llwyddo drwy Adroddiadau ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (AaSAN). Bydd adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n fwy lleol yn sgil datganiadau ardal. Ymdrinnir â newid yn yr hinsawdd drwy dargedau statudol ar gyfer lleihau allyriadau carbon deuocsid a llygrwyr eraill, a thrwy gyllidebu carbon. Bydd cytundebau tir gyda CNC yn nodwedd barhaus, ynghyd â dyletswydd newydd i wrthdroi r gostyngiad mewn bioamrywiaeth a sicrhau ystwythder hirdymor ecosystemau yng Nghymru. Tynnodd yr AaSAN 4 cyntaf sylw yn benodol at yr ucheldiroedd fel ardal lle dylai polisïau ganolbwyntio ar ddiogelu storfeydd carbon, sicrhau ystwythder ehangach cynefinoedd a u rhywogaethau cysylltiedig, gwneud gwell defnydd o asedau naturiol Cymru, ymdrin â newid yn yr hinsawdd a lleihau risg llifogydd. Economi Ar hyn o bryd, mae ansicrwydd yngl n â r economi ehangach, fel y mae honiadau a senarios sy n gwahaniaethu yn dilyn Brexit yn cael eu rhoi gerbron. Gan fod y mwyafrif o sectorau amaethyddol yng Nghymru, a r ucheldiroedd yn benodol, yn ddibynnol ar dderbyn cyllid cyhoeddus (drwy r PAC), mae penderfyniadau yngl n â threfniadau ariannol y dyfodol yn hanfodol. Yn Awst 2016, adroddwyd bod Philip Hammond, Canghellor y DU, wedi dweud y byddai cyllid amaethyddol sy n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan yr UE yn parhau tan 2020, tra bod unrhyw ymrwymiadau hirdymor, yn ogystal â sut y gall taliadau gael eu strwythuro, eto i w penderfynu. Mae trefniadau r dyfodol yn cael ei drafod gan Llywodraeth Cymru a'r DU ar hyn o bryd.

Ar gyfer 2014-2020, mae Cymru yn derbyn oddeutu 225miliwn y flwyddyn gan yr UE tuag at daliadau cefnogaeth uniongyrchol i ffermwyr Cymru. Drwy r cyfnod hwn, gall ffermwyr hefyd cael mynediad at 302 miliwn o gronfeydd UE (ac ychwanegiadau hyd at 900 miliwn gan Lywodraeth Cymru) drwy r Rhaglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig5. Fodd bynnag, mae r rhain yn faterion yr ymgynghorir arnyn nhw ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. - yn dod yn fwy aml yn y dyfodol. Yn ychwanegol at hynny, mae rhywogaethau, cynefinoedd ac ardaloedd bywyd gwyllt arbennig eisoes o dan bwysau ac yn dirywio (Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru6), ac mewn risg mawr o ganlyniad i gyflymdra r newid hwn. Ar ben hyn, mae natur a r amgylchedd yn ogystal yn cael eu heffeithio gan weithgareddau dynol uniongyrchol, fel defnydd o blaladdwyr a gwrtaith nitrogenaidd, adeiladu a datblygu. Tra bod rhai planhigion eisoes ar fin diflannu, ac efallai n cael eu colli os ni allynt addasu ymhellach, bydd rhai eraill yn gwneud defnydd o gynefinoedd newydd neu amgen a fydd ar gael fel y mae tymereddau ac amodau yn newid. Gall y newidiadau hyn hefyd ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau newydd ar gyfer ffermio a defnyddio tir. Bywyd gwyllt - mae r ucheldiroedd yn gartref i amrediad o fywyd gwyllt eiconig. Mae hyn yn cynnwys rhywogaethau fel gylfinirod, bodaod tinwyn a chynefinoedd yn cynnwys ffridd, gorgors a rhostir grug. Bydd colli mwy o fywyd gwyllt yr ucheldir yn cael ei osgoi drwy reoli r ucheldiroedd yn gynaliadwy; Gwasanaethau ecosystemau cynigir amrywiaeth o wasanaethau hynod werthfawr drwy reoli r ucheldiroedd a u cynefinoedd yn gynaliadwy: gall defnyddio tir yn briodol storio d r yfed a lleihau llifogydd mewn ardaloedd is gall storio carbon mewn corsydd mawn a choetiroedd leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd gall gwella bioamrywiaeth a Amgylchedd, natur a hinsawdd: Mae n cael ei dderbyn yn eang mai newid yn yr hinsawdd yw r brif fygythiad i gymunedau, bywoliaeth ac amgylcheddau ar lefel leol, lefel genedlaethol a lefel ryngwladol. Mae r rhan fwyaf o arbenigwyr yn rhagdybio y bydd digwyddiadau tywydd garw - fel y llifogydd, stormydd a chyfnodau sych unwaith mewn 100 mlynedd honedig gwarchod cynefinoedd ddarparu storfa o amrywiaeth enetig, a helpu i ddiogelu poblogaethau o rywogaethau defnyddiol, fel peillwyr. Gweithgareddau hamdden ac Cyfleoedd a gynigir gan ffermio r ucheldiroedd: Yn wyneb y newidiadau hyn, mae r ucheldiroedd mewn lle perffaith i ddarparu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau a werthfawrogir yn lleol ac yn fyd-eang: Cymunedau mae cael cymunedau lleol sy n ffynnu ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau o fudd i holl agweddau cynnal yr ucheldiroedd; Cynhyrchu bwyd gall cig eidion a chig oen sy n cael eu magu ar borfa eisoes gael eu gwerthu fel cynnyrch o r radd flaenaf, ond gall cynnyrch bwyd a nwyddau eraill fod yn ddichonadwy hefyd. adloniant a thwristiaeth wledig gall mynediad i gerddwyr, beicwyr, marchogwyr ceffylau ac, mewn ardaloedd priodol, digwyddiadau neu gystadlaethau eithafol sydd wedi cael eu cynllunio n dda ac eu rheoli n gynaliadwy, gyfrannu at arallgyfeirio bywoliaethau a busnesau fferm yn lleol; Mae tirwedd yr ucheldiroedd yn adnodd diwylliannol neilltuol, ar gyfer preswylwyr lleol ac ar gyfer ymwelwyr fel ei gilydd; Addysg mae cyfleoedd ar gyfer profiadau addysgol yn eang iawn, o addysg plant sy n gysylltiedig â r cwricwlwm drwy hyfforddiant antur yn arddull Dug Caeredin at hyfforddiant proffesiynol ar gyfer cadwraethwyr. Lluniau: Mynydd: Guy Rogers, Gylfinir: Ray Kennedy, Nant: Graham Eaton, rspb-images.com Yn ogystal, mae marchnadoedd ar gyfer cynnyrch amaethyddol yn broblem, yn enwedig felly i r rhai hynny sy n ddibynnol ar farchnadoedd allforio a lle y bydd tariffau efallai yn y dyfodol. Bydd costau ac ystyriaethau ariannol allanol eraill hefyd yn parhau i newid, yn cynnwys mewnbynnau fferm, tanwydd, pensiynau, costau benthyciadau a bancio, cyflogau ac yswiriant. Fodd bynnag, mae economi r ucheldiroedd fel cyfanwaith yn dibynnu ar amrywiaeth o ffrydiau incwm eraill (neu mae ganddi r potensial i wneud hynny), yn cynnwys cyfleoedd hamdden ac adloniant, twristiaeth wledig, datblygu ynni adnewyddadwy neu garbon isel, cynnyrch anamaethyddol neu arbenigol, a gweithgareddau arallgyfeirio eraill.

Y camau nesaf Ffermio ar gyfer gwerth ehangach ac amserlenni hirach: Bydd ffermwyr a rheolwyr tir yn gallu manteisio ar lawer o r cyfleoedd hyn drwy ddatblygu r sgiliau a r arbenigedd y mae llawer eisoes wedi u datblygu, yn benodol drwy ganolbwyntio ar: systemau pori cymysg eang wedi u haddasu n lleol; cnydio ar raddfa fechan, gyda mewnbwn isel; gwarchod bywyd gwyllt drwy ddarparu a chynnal mosäig o wahanol gynefinoedd; rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy; gofalu am y dirwedd a r nodweddion diwylliannol - yn cynnwys agweddau o r amgylchedd naturiol ac adeiledig, e.e. ffridd, cloddiau sychion ac ysguboriau traddodiadol. Mae posibilrwydd o daliadau ar gyfer gwasanaethau ecosystemau (TGE) yn cael ei archwilio ar hyn o bryd. Gallai dulliau rheoli tir yn eang ac yn ecolegol gyfeillgar olygu y gall ffermwyr yr ucheldiroedd fanteisio pan fydd y syniadau hyn yn cael eu gweithredu, unwaith y bydd penderfyniadau ynghylch polisi a cyllid yn cael eu gwneud. Ceir rhai materion sy n arbennig o berthnasol i ardaloedd yr ucheldir: Heriau: Ariannol sicrhau cyllid cyhoeddus sy n ddigonol i gefnogi rheolaeth tir cynaliadwy. Mae sawl sector amaethyddol yn dibynnu ar gefnogaeth y PAC, ac wrth ymateb i newid a gostyngiad mewn cyllid cyhoeddus, mae perygl y gwelir mai'r unig ateb yw dwysáu arferion ffermio. Materion tir comin mae rhai o r cyfleoedd angen cytundeb ar raddfa fawr, lle mae cydweithredu rhwng cominwyr, sydd â swyddogaeth arbennig o ddefnyddiol oherwydd yr ardaloedd mawr yn aml sy n cael eu ffermio, yn hanfodol; Gwahaniaethau rhwng gofynion y tir a rheolau r landlord - lle mae tir yn cael ei rentu, gall tirfeddianwyr a thenantiaid feddu ar flaenoriaethau gwahanol, er enghraifft, yngl n â systemau stocio neu ymarferion penodol ar y fferm. Cyfleoedd: Cyfleoedd arbenigol yn y farchnad mae cyfleoedd lleol a chyfleoedd i allforio yn bodoli ar gyfer cig oen a chig eidion o ansawdd uchel sydd wedi u magu ar borfa a chyda tharddiad lleol. Mae r rhain yn cael eu hystyried yn gynnyrch o r radd flaenaf oherwydd eu henw da rhyngwladol a u cysylltiadau diwylliannol; Taliadau ar gyfer gwasanaethau ecosystemau mae r ucheldiroedd o bosibl yn cynnig cyfleoedd mawr ar gyfer cynlluniau naturiol ar gyfer rheoli llifogydd, diogelu bioamrywiaeth a chynefinoedd, storio carbon a chynhyrchu ynni. Mae angen archwilio cynlluniau mwy creadigol ar gyfer twristiaeth, adloniant, gwasanaethau iechyd a llesiant; Balchder personol byddai gwerthfawrogi r ucheldir am eu priodweddau niferus o dan reolaeth sensitif yn cynyddu gwerth y lleoedd cyhoeddus ar ffermydd yr ucheldir a r balchder y mae r ffermwyr yn ei deimlo yn eu hymdrechion; Sgiliau arbenigol ac arbenigedd mae rhai sgiliau traddodiadol yn cael eu colli, ond bydd angen llawer o r ymarferion rheoli sydd eu hangen gan ffermio er mwyn darparu buddion ehangach i r gymdeithas, ynghyd ag arbenigedd newydd i reoli ar gyfer gwasanaethau ecosystemau. Mae dyfodol ffermio ar yr ucheldir yng Nghymru yn gwynebu heriau anodd, ond mae cyfleoedd ar gael; a gall ffermwyr yr ucheldir yn benodol fanteisio ar rai ohonyn nhw. Mae r ucheldiroedd yn adnodd gwerthfawr, yn darparu buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol, ac yn adnodd sy n dechrau cael ei werthfawrogi ar raddfa ehangach. Dyffryn Ogwen: Guy Rogers, rspb-images.com

Sut y mae n gweithio eisoes ar ddwy fferm yng Nghymru: Hafod Las Troedrhiwdrain Wedi i lleoli ar lethrau unig i r de o Ysbyty Ifan, mae Hafod Las yn gartref i Guto Davies a i deulu ifanc. Mae r fferm ucheldir 245 hectar yn rhan o Ystâd Ysbyty r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae r rhan fwyaf ohoni yn gorwedd o fewn ffin Safle of Ddidordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig y Migneint-Arenig-Dduallt. Mae gorgors, rhostir sych a chynefin glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea) o ddiddordeb arbennig yma ac maen nhw n darparu cynefin bridio a fforio ar gyfer nifer o rywogaethau adar yn ogystal â storio carbon a d r. Mae Brian a Sorcha Lewis yn ffermio ar fferm organig 580 hectar ar yr ucheldir yn Nhroedrhiwdrain sy n eiddo i D r Cymru drwy Ymddiriedolaeth Cwm Elan. Mae r fferm wedi cael ei dynodi yn rhannol fel Safle of Ddidordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig yng ngoleuni ei gwerth natur uchel, ac mae n chwarae swyddogaeth bwysig mewn rheoli d r yfed. Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae Brian a Sorcha wedi gwella cynhyrchiant y fferm, wrth gadw ac ymgorffori llawer o gynefinoedd bywyd gwyllt pwysig. Mae Hafod Las yn rhan o gynllun amaeth-amgylcheddol Glastir Uwch sy n gydran hanfodol i sicrhau hyfywedd economaidd y fferm. Mae r cynllun yn helpu i adfer a chynnal cynefinoedd bywyd gwyllt drwy dalu i wartheg a defaid bori ar ffridd o laswellt y gweunydd, ynghyd â thorri brwyn yn flynyddol er mwyn creu amodau mwy agored ar gyfer adar sy n nythu ar y ddaear, fel y gylfinir. Mae Troedrhiwdrain yn cael ei chynnwys yng Nghynllun Glastir Uwch, ffynhonnell bwysig o incwm, ac mae rheoli yn cynnwys pori cymysg a thorri llystyfiant er mwyn adfer a rheoli dolydd gwair traddodiadol a chynefinoedd rhostir. Mae hyn yn ei dro yn troi buddion bywyd gwyllt prin fel y cwtiad aur (Pluvialis apricariae) a r gylfinir (Numenius arquata) sy n bridio ar y bryniau, a chacynen y mynydd sy n brin (Bombus monticola) sy n dibynnu ar y dolydd cyfoethog mewn blodau. Gyda golwg ar wella gwerth eu stoc a datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer eu cynnyrch, mae Sorcha yn gweithio gydag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru ac eraill i ddatblygu ardystiad cadwraeth ar gyfer cig a gynhyrchwyd ar ffermdir sydd wedi i warchod yn dda. Mae Brian a Sorcha yn angerddol yngl n â chadw ffermio ar y bryniau, oherwydd bod y cymunedau hyn yn rheoli llawer o n rhywogaethau bywyd gwyllt, ein cynefinoedd a n hadnoddau ucheldir pwysig. Sheep: Eleanor Bentall, rspb-images.com Cyfrannodd cytundeb rheoli gyda Chyfoeth Naturiol Cymru at flocio oddeutu 25,000m o ffosydd artiffisial ar y ffridd a thir y mynydd yn Hafod Las. Mae r gwaith hwn wedi helpu i adfer patrymau draenio naturiol, annog ail-lystyfiant, gwella ansawdd y d r, lleihau erydu a lliniaru llifogydd i lawr yr afon, neu mewn geiriau eraill, roedd blocio r draeniau yn darparu cymdeithas gydag amrediad eang o fuddion amgylcheddol yn gyfnewid am gyllid cyhoeddus.

Rhestr o dermau a thalfyriadau Datganiadau ardal: offer i weithredu Deddf yr Amgylchedd ar y tir ar lefel leol yw r rhain. Bydd CNC yn gweithio gyda chymunedau lleol er mwyn edrych ar eu hardal a chreu datganiad sy n amlinellu r blaenoriaethau, y risgiau a r cyfleoedd ar gyfer yr adnoddau naturiol yn yr ardal honno. Gallan nhw gael eu defnyddio gan reolwyr tir er mwyn arwain eu gweithgareddau. Bioamrywiaeth: yr amrywioldeb ymysg organebau byw o bob ffynhonnell, yn cynnwys tirol, morol a d r croyw. Mewn cyfraith yng Nghymru, mae bioamrywiaeth yn ogystal yn cael ei diffinio fel adnodd naturiol (anifeiliaid, planhigion ac organebau eraill). Cyllidebu carbon: faint o garbon deuocsid y mae gwlad, cwmni neu sefydliad wedi cytuno y bydd yn ei gynhyrchu mewn cyfnod penodol o amser. Ecosystem: system sy n cynnwys y rhyngweithio rhwng cymuned o organebau byw mewn ardal arbennig a i hamgylchedd difywyd. Gwasanaethau ecosystemau a gwasanaethau cyhoeddus: allbynnau, amodau neu brosesau systemau naturiol sydd o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i fodau dynol neu sy n gwella lles cymdeithasol, e.e. storio d r yfed mewn corsydd mawn. Gall gwasanaethau ecosystemau fod o fudd i bobl mewn sawl ffordd, un ai n uniongyrchol neu fel mewnbynnau i gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau eraill. Ynni adnewyddadwy neu garbon isel: Mae ynni adnewyddadwy yn ynni o ffynhonnell nad yw n cael ei ddisbyddu pan mae n cael ei ddefnyddio, fel gwynt neu ynni solar. Daw ynni carbon-isel o brosesau neu dechnolegau sy n cynhyrchu p er gyda symiau sylweddol is o allyriadau carbon deuocsid nag sy n cael ei rhyddhau wrth gynhyrchu ynni o danwydd ffosil confensiynol. Cadernid ecosystemau: os yw ecosystem yn gadarn, mae n gallu ymdrin ag ymyriadau, un ai drwy wrthsefyll, adfer neu addasu iddyn nhw, wrth barhau i allu cyflawni gwasanaethau a buddion yn awr ac yn y dyfodol 7. Datblygu cynaliadwy: Mae datblygu cynaliadwy yn ddatblygiad sy n cwrdd ag anghenion cenedlaethau r presennol heb beryglu gallu cenedlaethau r dyfodol i gwrdd â u hanghenion, ac mae n cyfrannu tuag at gyflawni nodau llesiant Cymru. Nodau llesiant (Deddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru) Adnoddau naturiol: Mae adnoddau naturiol yn cynnwys anifeiliaid, planhigion ac organebau eraill, yr awyr, d r, y pridd a mwynau ond nid ydyn nhw wedi cael eu cyfyngu i r rhain (er mwyn cael diffiniad llawn, gweler Deddf yr Amgylchedd, Rhan 2). Taliadau am wasanaethau ecosystemau (TWE): Mae taliadau am wasanaethau ecosystemau yn daliadau i ffermwyr a rheolwyr tir eraill sydd wedi cytuno i reoli eu tir er mwyn darparu rhyw fath o wasanaeth ecosystemau. Safle of Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig: Safleoedd gwarchodedig ar gyfer natur. Dolenni 1. http://www.legislation.gov.uk/anaw/2015/2/contents 2. http://thewaleswewant.co.uk/cy/cefndir/future-generations-bill/deddf-llesiant-cenedlaethau r-dyfodol-cymru-2015-yrhanfodion.pdf 3. http://www.legislation.gov.uk/anaw/2016/3/contents 4. Medi 2016 https://naturalresources.wales/our-evidence-and-reports/the-state-of-natural-resources-report-assessmentof-the-sustainable-management-of-natural-resources/?lang=cy 5. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, http://www.wlga.gov.uk/common-agricultural-policy-cap-cym 6. Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru http://www.bto.org/sites/default/files/publications/state-of-nature-report-2016- wales-welsh.pdf 7. Pennod 4 AaSAN - https://naturalresources.wales/media/679405/chapter-4-resilience-final-for-publication.pdf Mae r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yn elusen gofrestredig: Lloegr a Chymru rhif 207076, yr Alban rhif SC037654. The Royal Society for the Protection of Birds (RSPB) is a registered charity: England and Wales no. 207076, Scotland no. SC037654. 830-1748-16-17