Enw Lleoliad Crynodeb Hafod Bowls and Social Club Abertawe Bydd Clwb Bowls a Chymdeithasol yr Hafod yn Abertawe yn defnyddio'r grant i ddarparu gwyliau byr i 40 o aelodau mewn perygl o arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn talu'n rhannol am llety a chludiant. Morriston Short Mat Bowls Club Abertawe Bydd Clwb Bowls Mat Byr Treforys yn Abertawe yn defnyddio'r grant i fynd â'u haelodau ar daith i ffwrdd i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 2,880 yn ariannu taith i ffwrdd am bum diwrnod. Sandfields Community Association Abertawe Bydd Cymdeithas Cymunedol Sandfields yn Abertawe yn defnyddio'r grant i drefnu cyfnod preswyl yn yr haf, teithiau dydd a digwyddiadau lleol i drigolion ardal y Sandfields er mwyn helpu i annog cydlyniad cymunedol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu costau cludiant, pebyll mawr, costau storïwyr a llogi trampolîn a gladiatoriaid. Swansea Festival of Stitch Abertawe Bydd Gŵyl Pwythau Abertawe yn cynnal gŵyl decstilau newydd yn cynnwys arddangosfeydd, celfyddyd stryd, gweithdai, arddangosfeydd a marchnad. Mae'r grant o 4,540 ar gyfer talu am ffioedd tiwtoriaid, marchnata a deunyddiau chyhoeddusrwydd.
Swansea Hard of Hearing Group Abertawe Bydd Grŵp Trwm eu Clyw Abertawe yn defnyddio'r grant i redeg sesiynau darllen gwefusau, i fynd â'u haelodau ar gyfres o deithiau ac i ddarparu dathliad gaeaf ar gyfer eu haelodau i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 4,809 yn ariannu sesiynau darllen gwefusau, cludiant, ffioedd mynediad a phrydau ar gyfer teithiau, dathliad gaeaf, a thaflenni a phosteri. Swansea University Students' Union Abertawe Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn defnyddio'r grant i drefnu cyrsiau atal hunanladdiad ar gyfer cyflogedigion, gwirfoddolwyr a rhai sy'n mynychu'r brifysgol. Bydd y grant hwn o 4,800 yn ariannu un cwrs diwrnod llawn 'Atal Hunanladdiad yn eich Prifysgol' a phedwar sesiwn hanner diwrnod 'Mind your Mate for Students'. Triathlon Trust Abertawe Bydd Ymddiriedolaeth Sefydliad Triathlon Prydain yn defnyddio'r grant i drefnu tri digwyddiad yn Abertawe lle bydd plant ysgol yn gweithio gyda'i gilydd i wneud ymarfer corff ar hyd y pellter rhwng y Ddaear a'r Orsaf Ofod Ryngwladol. Bydd y grant hwn o 4,990 yn ariannu cludiant ar gyfer cyfarpar, gwaith sesiynol, llety a phrydau bwyd i weithwyr sesiynol a chostau gweinyddu. Loughor Old Age Pensioners Association Abertawe Bydd Cymdeithas Pensiynwyr Casllwchwr yn Abertawe yn defnyddio'r grant i fynd â 48 o aelodau ar wyliau byr i atal eithrio cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu teithio a llety.
Cowbridge Food Festival Limited Bro Morgannwg Bydd Gŵyl Fwyd y Bont-faen Cyf ym Mro Morgannwg yn defnyddio'r grant i redeg arddangosfeydd bwyd iach i ddweud wrth bobl am fanteision bwyta'n iach drwy ddangos bwyd syml gyda phris rhesymol y gallant ei goginio gartref. Bydd y grant hwn o 4,790 yn ariannu rheolwr prosiect, costau trydan, pebyll, diogelwch, ffioedd siaradwyr, bwyd ar gyfer arddangosfeydd, llogi offer, baneri a nwyddau traul bach. Cardiff City FC Community Foundation Caerdydd Bydd Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn defnyddio'r grant i redeg bŵt camp pum niwrnod yn ystod gwyliau'r haf i herio camsyniadau, i fynd i'r afael â than-gynrychiolaeth ac i ryddhau doniau creadigol a chwaraeon merched ifanc rhwng 14 ac 19 oed o Dde Cymru. Bydd y grant hwn o 4,806 yn ariannu llogi cyfleusterau chwaraeon, llogi ystafell ddosbarth, costau tiwtor, hyfforddwyr chwaraeon, costau marchnata a recriwtio, gwerthuso, cyfarpar chwaraeon a chynhaliaeth. Steps4Change Ltd Caerdydd Bydd Steps4Change Cyf yn defnyddio'r grant i gynnal peilot o gyfres o weithdai rhianta cadarnhaol gyda theuluoedd Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn y gymuned leol. Bydd y grant hwn o 4,997 yn ariannu sesiynau hyfforddi, sesiynau gweithgareddau, deunyddiau cyhoeddusrwydd, ffioedd gweithiwr sesiynol, costau gwirfoddolwyr, llogi lleoliad, lluniaeth a theithio. NuHi Ltd Caerdydd Bydd Nu-Hi Ltd yng Nghaerdydd yn defnyddio r grant i greu ystafell TG y gall buddiolwyr y grŵp, sy n cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches ynghyd â phobl sy n ailsefydlu yn sgil camddefnyddio sylweddau, ei defnyddio. Hefyd, byddant yn cynhyrchu gwefan y gellir ei defnyddio i helpu gyda dysgu. Bydd y grant hwn o 4,775 yn ariannu gwefan, brandio, marchnata, hyfforddiant ac argraffu.
1st Ystrad Mynach Scout and Guide Hall Management Committee Caerffili Bydd Pwyllgor Rheoli Neuadd Sgowtiaid a Geidiaid 1af Ystrad Mynach yng Nghaerffili yn defnyddio'r grant i adeiladu estyniad a gosod toiled i'r anabl fydd yn darparu gwell cyfleusterau i grwpiau defnyddwyr. Bydd y grant hwn o 4,913 yn ariannu gwaith adeiladu, drws cefn, toiled i'r anabl a gatiau. Crumlin Bravehearts Support Group Caerffili Bydd Grŵp Cefnogi Crumlin Bravehearts yng Nghaerffili yn defnyddio eu grant i fynd â'u haelodau ar gyfres o deithiau i fannau o ddiddordeb i wella eu hiechyd ac i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 2,758 yn ariannu costau teithio a ffioedd mynediad. Maesycwmmer Community Council Caerffili Bydd Cyngor Cymuned Maesycwmer yn y Coed Duon yn defnyddio'r grant i drefnu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer cynllun chwarae yn yr haf. Bydd y grant hwn o 2,440 yn ariannu llogi lleoliad, deunyddiau, cyfarpar, teithiau, recriwtio a hyfforddi, lluniaeth bwyd iach ac adloniant. Newport and Cwmbran Royal Engineers Association Caerffili Bydd Cymdeithas Royal Engineers Casnewydd a Chwmbran yn defnyddio'r grant i deithio i Gibraltar i gymryd rhan yng ngweithgareddau seremonïol Corfflu'r Royal Engineers a'r parêd sy'n digwydd bob tair blynedd. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu costau teithio a llety.
Rhymney Ladies Flower Guild Caerffili Bydd Urdd Blodau Menywod Rhymni yng Nghaerffili yn defnyddio'r grant i ddarparu teithiau ar gyfer eu haelodau ac yn rhedeg nifer o ddosbarthiadau garddwriaeth a byw yn iach. Bydd y grant hwn o 3,541 yn ariannu costau mynediad, cludiant a ffioedd tiwtoriaid. The Daffodil Senior Citizens Club Casnewydd Bydd Clwb Pensiynwyr Daffodil, Casnewydd, yn mynd ar daith penwythnos i Ilfracombe. Mae'r grant o 5,000 ar gyfer talu am costau sy'n gysylltiedig â thaith penwythnos. Choices Senior Citizens Club Casnewydd Bydd Clwb Pensiynwyr Choices yng Nghasnewydd yn defnyddio'r grant i fynd â'u haelodau ar gyfres o deithiau i fannau o ddiddordeb. Bydd y grant hwn o 2,320 yn ariannu costau cludiant. Banwen Gardening Club Castell Nedd Port talbot Bydd Clwb Garddio Banwen yng Nghastell-nedd yn defnyddio'r grant i brynu offer a chyfarpar garddio fydd yn caniatáu iddynt ddatblygu eu gardd gymunedol. Bydd y grant o 5,000 yn cael ei ddefnyddio i brynu amrywiaeth o offer a chyfarpar garddio.
Neath Port Talbot Stroke Group Castell Nedd Port talbot Bydd Grŵp Strôc Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio'r grant i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau a theithiau i 25 o aelodau sydd wedi cael strôc, a'u gofalwyr. Bydd y grant hwn o 4,980 yn ariannu ffioedd i dalu siaradwyr gwadd, gwaith coed cymunedol, cwrs celf a chrefft, deunyddiau, cludiant, ffioedd mynediad, deunyddiau cyhoeddusrwydd a ffioedd llety. Port Talbot Townswomen's Guild Castell Nedd Port talbot Bydd Urdd Menywod Tref Port Talbot yn defnyddio r grant i ddarparu rhaglen o weithgareddau i aelodau gan gynnwys cyflwyniadau gan siaradwyr a gwibdeithiau. Bydd y grant hwn o 4,295 yn ariannu ffioedd siaradwyr, tocynnau theatr, prydau bwyd, tocynnau sinema, te prynhawn a chostau cludiant. Port Talbot Women's Institute Castell Nedd Port talbot Bydd Sefydliad y Merched Port Talbot yn defnyddio'r grant i fynd â'u haelodau ar gyfres o deithiau i wahanol erddi a mannau o ddiddordeb i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 4,633 yn ariannu teithio a ffioedd mynediad ar gyfer teithiau i chwe lleoliad. Clwb Croeso Llandysul Ceredigion Bydd Clwb Croeso Llandysul yng Ngheredigion yn defnyddio'r grant i fynd â 40 o aelodau, y mwyafrif ohonynt yn bobl hŷn mewn perygl o arwahanrwydd cymdeithasol, ar nifer o deithiau dydd i fannau lleol o ddiddordeb. Bydd y grant hwn o 2,930 yn ariannu teithio, ffioedd mynediad a lluniaeth.
Cylch Meithrin Cei Newydd Ceredigion Bydd Cylch Meithrin Cei Newydd yng Ngheredigion yn prynu'r adnoddau angenrheidiol i wella'r cyfleoedd chwarae a dysgu ar gyfer y plant sy'n mynychu. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu adnoddau iaith, TG a mathemateg. Elenydd Wilderness Hostels Ceredigion Bydd Hosteli Unigeddau'r Elenydd yng Ngheredigion yn defnyddio'r grant i gael gwared ar yr asbestos yn un o'u hadeiladau er mwyn darparu cyfleusterau mwy diogel i grwpiau defnyddwyr. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu cael gwared ar asbestos, ail-osod nenfwd a gwelyau bync. Follow Your Dreams Technology Club Ceredigion Bydd Clwb Technoleg Follow Your Dreams ym Mhorthcawl yn defnyddio'r grant i gymorthdalu nifer o deithiau dydd a gwyliau byr ar gyfer hyd at 20 o blant ac oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Bydd y grant hwn o 5,000 yn talu'n rhannol am dwy daith breswyl, camera Go Pro ac yswiriant, reid ar gwch cyflym, rafftio dŵr gwyn, a nifer o deithiau dydd i fannau o ddiddordeb. Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen Cyf Ceredigion Bydd Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen Cyf yn defnyddio'r grant i gynnal digwyddiad fydd yn hyrwyddo cysyniadau ynni adnewyddadwy, ailgylchu a chynaliadwyedd i'r dyfodol, gyda'r nod o addysgu'r gymuned a gwella cydlyniad. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu llogi pabell fawr, marchnata a chostau arddangos.
Ystwyth Valley Flix in the Stix Ceredigion Bydd Flix in the Stix Cwm Ystwyth, Ceredigion yn defnyddio'r grant i ddangos ffilm bob wythnos yn neuadd y pentref i bobl sydd mewn perygl o arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 4,735 yn ariannu taflunydd, sgrin, llenni du i'r ffenestri, cludiant cymunedol a chostau llogi lleoliad. CAIS Limited Conwy Bydd CAIS Cyf o Gonwy yn ymestyn eu gwasanaethau cefnogi i gynnwys gweithio gyda theuluoedd cyn-filwyr ym mhedwar rhanbarth Cymru. Bydd y grant hwn o 3,000 yn ariannu 12 cyfrifiadur tabled. Coach Connect C.I.C. Conwy Bydd Coach Connect C.I.C. yng Nghonwy yn defnyddio'r grant i gynnal digwyddiad ar gyfer 60 i 70 o gyfranogwyr i'w hannog i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi yn y dyfodol. Bydd y grant hwn o 4,998 yn ariannu costau llogi lleoliad, lluniaeth, deunyddiau hyrwyddo, offer, deunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd, cyfieithu, gweithwyr sesiynol a ffioedd hyfforddi proffesiynol. North Wales Fife Fancy Canary Club Conwy Bydd Clwb Caneris Fife Ffansi Gogledd Cymru yng Nghonwy yn prynu cyfarpar newydd i'w ddefnyddio yn eu sioeau. Mae'r grant o 5,000 ar gyfer talu am llwyfannu dur galfanedig.
Rowen Memorial Hall Conwy Bydd Neuadd Goffa Rowen, yng Nghonwy, yn prynu ac yn gosod cegin newydd i'w defnyddio gan y gymuned leol. Mae'r grant o 4,508 ar gyfer talu am cyflenwi a gosod cegin newydd, ffwrn nwy, oergell, addurniadau cegin, gwaith rydan a gosod y ffwrn nwy. Ysgol Llanddulas Conwy Bydd Ysgol Llanddulas yng Nghonwy yn defnyddio'r grant i osod cyfarpar chwarae actif fydd yn hygyrch i blant rhwng 3 ac 11 oed, er mwyn iddynt allu chwarae mewn modd sy'n heriol yn gorfforol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn talu'n rhannol am llwybr heini. Merched y Wawr Cangen Dinas Llanwnda a'r Cylch Gwynedd Bydd Merched y Wawr Cangen Dinas Llanwnda a'r Cylch, Gwynedd yn mynd â'u haelodau ar daith i Flaenau Ffestiniog i ymweld â Seren Ffestiniog Cyf, sefydliad sy'n cefnogi Pobl ag anableddau dysgu ac sy'n darparu gwasanaeth i'r gymuned. Bydd y grant hwn o 500 yn ariannu costau cludiant a lluniaeth. Neuadd Bentref Llanuwchlyn Gwynedd Bydd Neuadd Bentref Llanuwchllyn yng Ngwynedd yn diweddaru cyfleusterau'r neuadd er mwyn darparu gwell lle i'r gymuned a chreu ystafell gyfarfod ychwanegol i gwrdd ag anghenion grwpiau lleol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu cadeiriau, byrddau, arwynebeddau gwaith cegin, nwyddau gwyn, darllenfa, goleuadau, cysgodlenni a chostau peintio.
Music Traditions Wales Ltd Merthyr Tydfil Bydd Traddodiadau Cerddoriaeth Cymru Cyf yn defnyddio'r grant i ddarparu gweithdai dawns a chelf wedi'u dylunio i godi hyder 40 o bobl iau difreintiedig ym Merthyr Tudful a'r ardaloedd cyfagos. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu ffioedd gweithiwr prosiect sesiynol, costau llogi'r lleoliad, deunyddiau, a chostau rheoli prosiect. Coity and Bridgend First Responders Pen y Bont ar Ogwr Bydd Ymatebwyr Cyntaf Coety a Phen-y-bont yn defnyddio'r grant i brynu cyfarpar achub bywyd er mwyn cynyddu aelodaeth y grŵp, ac felly ehangu gorchudd, a gwella sgiliau'r tîm presennol. Bydd y grant hwn o 4,457 yn ariannu dau ddiffibriliwr, pedwar bag ymateb, dillad PPE, diffibriliwr hyfforddi, dymis adfywio, tri ocsifesurydd pwls, a dau uned sugno bach. Cylch Meithrin Pencoed Pen y Bont ar Ogwr Bydd Cylch Meithrin Pencoed yn defnyddio'r grant i ddarparu sesiynau coginio sylfaenol i rieni'r plant sy'n mynychu'r Cylch i wella sgiliau, i argymell opsiynau bwyd iach a rhoi cyngor ar sut i leihau gwastraff bwyd. Bydd y grant hwn o 1,680 yn ariannu offer coginio a chyflenwadau, papur ac inc, deunyddiau celf a chrefft, sgrin deledu/monitor mawr. Western Beacons Mountain Search and Rescue Team Pen y Bont ar Ogwr Bydd Tîm Chwilio ac Achub Mynydd Gorllewin y Bannau yn defnyddio'r grant i hyfforddi eu haelodau i allu mynychu argyfyngau llifogydd ac achub o'r dŵr ar lefel genedlaethol. Bydd y grant hwn o 4,686 yn ariannu cwrs pedwar diwrnod Technegydd Achub Dŵr Cyflym ac offer achub cysylltiedig i chwech o wirfoddolwyr.
1st Llwchwr Guides Powys Bydd Geidiaid 1af Llwchwr yn Abertawe yn defnyddio'r grant i ddarparu penwythnos i ffwrdd llawn gweithgareddau ar gyfer 30 o blant gyda'r mwyafrif ohonynt yn methu â mynychu heb gymorth y grant. Bydd y grant hwn o 2,540 yn talu'n rhannol am llety, lluniaeth a theithio. Brecknock Play Network Powys Bydd Rhwydwaith Chwarae Brycheiniog ym Mhowys yn rhedeg pod chwarae cymunedol i'r gymuned leol. Mae'r grant o 4,725 ar gyfer talu am dau Gweithiwr Chwarae, costau staff sesiynol ychwanegol a chyfarpar. Coetiroedd Dyfi Woodlands Powys Bydd Coetiroedd Dyfi ym Machynlleth yn defnyddio'r grant i hwyluso cyfres o ddyddiau rheolaeth coetiroedd a dyddiau 'Rhannu Natur' i gynyddu gwybodaeth am goetir Coed Tŷ Gwyn, ac yn caniatáu i'r gymuned leol gymryd rhan yn y gwaith o'u cynnal a'u cadw ac mewn trafodaethau am y dyfodol. Bydd y grant hwn o 4,314 yn ariannu costau gweithwyr sesiynol, llogi stondin marchnad, nwyddau traul, deunyddiau, offer a chyfarpar, marchnata ac argraffu a chostau cludiant. Cylch Llenyddol Bro Ddyfi Powys Bydd Cylch Llenyddol Bro Ddyfi ym Mhowys yn mynd â'u haelodau ar gyfres o deithiau i fannau o ddiddordeb yng Nghymru er mwyn hwyluso cydlyniad cymunedol. Bydd y grant hwn o 905 yn ariannu costau mynediad, costau cludiant, lluniaeth a chostau tywyswyr.
Llanfair Caereinion Community Events Committee Powys Bydd Pwyllgor Digwyddiadau Cymuned Llanfair Caereinion yn defnyddio'r grant i gynnal gweithdai crefftau i blant lleol i wneud llusernau ar gyfer parêd. Bydd y grant hwn o 600 yn ariannu deunyddiau a llogi lleoliadau. Llanfyllin High School Powys Bydd Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn defnyddio r grant i wella mynediad i offer arbenigol, arferion a thraddodiadau tecstilau er mwyn i r gymuned sbarduno diddordeb a chyfranogiad mewn dylunio tecstilau. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu deunyddiau gwnïo, argraffydd sychdarthu tecstilau, gwasg ddigidol trosglwyddo gwres, sgriniau ar gyfer printio sgrin, tri pheiriant addurno, traed brodwaith a bylbiau sbâr Mid Wales Food and Land Trust Limited Powys Bydd Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru Cyfyngedig yn Y Drenewydd yn defnyddio r grant i gyflwyno cyfres o weithdai celf i bobl ifanc 11-17 oed yn ystod y gwyliau haf i roi cyfle i gyfranogwyr fynegi eu diddordebau, profiadau a phroblemau trwy gelf greadigol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu costau gweithiwr sesiynol, deunyddiau celf a chost gosod darnau ar gyfer arddangosfa. Royal Mencap Society Powys Bydd Cymdeithas Frenhinol Mencap yn defnyddio'r grant i redeg rhandir gyda phobl ag anableddau dysgu ym Mhowys a disgyblion yn yr ysgol leol. Bydd y grant hwn o 4,132 yn ariannu staff sesiynol, teithio, cyfarpar, digwyddiad a chyfieithu.
Wild Women Enterprise Co. Ltd Powys Bydd Wild Women Enterprise Co. Ltd ym Mhowys yn defnyddio'r grant i hyrwyddo entrepreneuriaeth i ysgolion a cholegau, pobl iau, a phobl sy'n ddi-waith, yn y gymuned wledig leol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu ffioedd gweithwyr sesiynol, deunyddiau gweithdy, llogi lleoliad, lluniaeth, costau gwirfoddolwyr, deunyddiau cyhoeddusrwydd ac arwyddion. Ystradgynlais Volunteer Centre Powys Bydd Canolfan Wirfoddolwyr Ystradgynlais yn defnyddio'r grant i brynu peiriant coed tân fydd yn caniatáu i wirfoddolwyr gynhyrchu coed tân o doriadau wedi eu hailgylchu a phaledau pren. Bydd y grant hwn o 3,112 yn ariannu hyfforddiant, costau gweithwyr sesiynol, taflenni, costau cyfieithu, costau gwirfoddolwyr, rhwydi ar gyfer bagio, peiriant coed tân, a chostau cludiant. Blaengwawr Close Social Club Rhondda Cynon Taf Bydd Clwb Cymdeithasol Clos Blaengwawr yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'r grant i wella'r gweithgareddau a'r cyfleusterau sydd ar gael i hyd at 30 o aelodau sydd mewn perygl o arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu cyngherddau yn y clwb, bwffes, tocynnau theatr, prydau bwyd a lluniaeth, planhigion ac eitemau garddio, a chludiant. Hirwaun YMCA Rhondda Cynon Taf Bydd YMCA Hirwaun yn defnyddio'r grant i weithio gyda phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan fwlian i gynhyrchu DVD addysgiadol, yn amlygu'r effeithiau y mae ymddygiad ymosodol yn ei gael ar y bwli ac ar y dioddefwr. Bydd y grant hwn o 4,950 yn ariannu costau gweithiwr sesiynol, awdur sgript a chefnogaeth, costau gweithdy, cynhyrchu DVD, cynhaliaeth a chostau digwyddiad.
Llantrisant and District Local History Society Rhondda Cynon Taf Bydd Cymdeithas Hanes Lleol Llantrisant a'r Ardal yn defnyddio'r grant i wella'r cyfleusterau a'r gweithgareddau sydd ar gael i aelodau, y mae'r mwyafrif ohonynt mewn perygl o arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 1,820 yn ariannu stondin cyhoeddusrwydd cludadwy, teithio a ffioedd mynediad. Manage Money Wales C.I.C Rhondda Cynon Taf Bydd CIC Manage Money Wales ym Mhontypridd yn defnyddio'r grant i ddarparu gweithdai i'r gymuned leol fydd yn ffocysu ar wneud y gorau o incwm, cyllidebu a chyllid ar-lein. Bydd y grant hwn o 4,973 yn ariannu ffioedd gweithiwr sesiynol, deunyddiau cyhoeddusrwydd, adnoddau gweithdai, cludiant a llogi lleoliad. People And Work Unit Rhondda Cynon Taf Bydd Uned Pobl a Gwaith Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'r grant i roi achrediad chwaraeon i 45 o bobl iau yn yr ardal, yn cynnwys cynhyrchu DVDau Ymarfer Cadair Freichiau fydd ar werth i grwpiau cymunedol lleol. Bydd y grant hwn o 3,930 yn ariannu Achrediad Arweinwyr Chwaraeon y DU, llogi lleoliadau, ffilmio a chynhyrchu DVD, 200 DVD, hyfforddiant a phecynnau Cymorth Cyntaf, offer chwaraeon, a deunyddiau hyrwyddo. Pontypridd and Rhondda NHS Retirement Fellowship Rhondda Cynon Taf Bydd Cyfeillach Ymddeoliad GIG Pontypridd a'r Rhondda yn defnyddio'r grant i ddiweddaru offer cyflwyno'r grŵp i alluogi aelodau i gymryd rhan llawn mewn cyfarfodydd. Bydd y grant hwn o 1,500 yn ariannu gliniadur a thaflunydd.
Treorchy Women's Institute Rhondda Cynon Taf Bydd Sefydliad y Merched Treorci'n defnyddio'r grant i fynd â'r aelodau ar gyfres o deithiau i fannau o ddiddordeb er mwyn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu llogi coetsis, ffioedd mynediad a phrydau bwyd. University of South Wales Students' Union Rhondda Cynon Taf Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru yn defnyddio'r grant i ddarparu rhaglenni hyfforddi atal hunanladdiad ar draws pum campws Prifysgol De Cymru. Bydd y grant hwn o 4,800 yn ariannu un cwrs diwrnod llawn a phedwar cwrs hanner diwrnod. Valleys Kids Rhondda Cynon Taf Bydd Plant y Cymoedd yn prynu ac yn gosod llawr newydd yn eu lleoliad, y Ffatri, yn Porth. Mae'r grant o 5,000 ar gyfer talu am llawr parquet derw. Voice of the Valleys Rhondda Cynon Taf Bydd Llais y Cymoedd yng Nghwmbran yn defnyddio'r grant i gynnal peilot o weithdy bob oed ar gyfer plant lleol, lle byddant yn dysgu am fywydau cyfoethog pobl hŷn yn yr ardal sydd mewn perygl o unigedd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 4,950 yn ariannu gweithwyr sesiynol, teithio, offer, costau gwerthuso a gweinyddu, deunyddiau gweithdy a chostau llogi lleoliad.
Cosh Callout Good Neighbour Scheme Sir Benfro Bydd Cynllun Cymdogion Da CoshCallout yn Sir Benfro yn gosod diffibrilwyr mewn ardaloedd allweddol yn Cosheston. Mae'r grant o 5,350 ar gyfer talu am pedwar diffibriliwr, dau gabinet awyr agored, un cabinet dan do a chostau gosod. Fishguard Unit 142 of the Sea Cadet Corps Sir Benfro Bydd Uned 142 Corfflu Cadetiaid Môr Abergwaun yn defnyddio'r grant i brynu dingi newydd i helpu cynyddu cyfranogiad pobl ifanc yn hwylio. Bydd y grant hwn o 2,235 yn ariannu dingi hwylio RS Quest newydd. Neuadd Goffa Llandudoch (St Dogmaels Memorial Hall) Sir Benfro Bydd Neuadd Goffa Llandudoch yn Sir Benfro yn defnyddio'r grant i sicrhau bod eu hadeilad yn parhau'n addas at y diben. Bydd y grant hwn o 5,000 yn talu'n rhannol am 14 ffenestr gwydr dwbl a drws tân newydd. Corwen and District Angling Club Sir Ddinbych Bydd Clwb Pysgota Corwen a'r Cylch yn Sir y Fflint yn defnyddio'r grant i wella mynediad i'r anabl i'w dyfroedd ac yn darparu hyfforddiant ar ddiogelwch i'w haelodau presennol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu sesiynau hyfforddi, offer a deunyddiau mynediad.
Denbigh Men's Shed Limited Sir Ddinbych Bydd Sied Dynion Dinbych Cyf yn defnyddio'r grant i gynnal sesiynau coginio, gweithgareddau glanhau a sgiliau eraill byw'n annibynnol gyda phobl sy'n profi allgau cymdeithasol, unigrwydd, materion iechyd meddwl neu sy'n byw mewn gofal preswyl, er mwyn gwella eu sgiliau tra'n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu costau gweithwyr sesiynol, costau gwirfoddolwyr a chyflenwadau gweithdy. Rhoslan & Terfyn Community Association Sir Ddinbych Bydd Clwb Rhoslan a Terfyn ym Mhrestatyn yn defnyddio'r grant i ddarparu teithiau dydd i hyd at 50 o aelodau sydd mewn perygl o unigedd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 2,355 yn ariannu cludiant. Ysgol Penmorfa Sir Ddinbych Bydd Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn yn defnyddio'r grant i brynu cyfarpar newydd ar gyfer eu clybiau ar ôl ysgol ac i'w defnyddio yn ystod sesiynau meithrin a chyn-ysgol. Bydd y grant hwn o 4,930 yn ariannu cegin fwd, pwmp-bwrdd cronni a chronfa ddŵr, bwrdd picnic, top compost, clorian awyr agored, a chompostiwr ailgylchu. Foster Carers 4 Foster Carers Association Sir Fynwy Bydd Cymdeithas Foster Carers 4 Foster Carers yn Sir Fynwy yn defnyddio'r grant i drefnu digwyddiadau ar gyfer eu haelodau yn cynnwys prynhawn grefftau a diwrnod hwyl yn y pwll i gefnogi gofalwyr a phlant sy'n derbyn gofal. Bydd y grant hwn o 1,081 yn ariannu llogi lleoliadau a deunyddiau ar gyfer pedwar diwrnod o ddigwyddiadau.
Monnow Valley Arts Sir Fynwy Bydd Monnow Valley Arts yn defnyddio'r grant i redeg gweithdai gwneud printiau wythnosol i bobl yn Sir Fynwy sydd ag arwyddion cynnar o dementia i wella ansawdd eu bywydau. Bydd y grant hwn o 4,980 yn ariannu gweithwyr sesiynol, llogi lleoliad, costau teithio a deunyddiau. The Bridge To Cross Charitable Trust Sir Fynwy Bydd Ymddiriedolaeth elusennol The Bridge to Cross yn y Fenni yn defnyddio'r grant i drefnu gŵyl i ganiatáu bod gwasanaethau cefnogi a sefydliadau cymunedol yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn annog datblygu perthnasoedd cadarnhaol. Bydd y grant hwn o 2,885 yn ariannu llogi system sain, sgip, generadur, pabell fawr, diogelwch a thoiledau symudol, costau hysbysebu, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, radios i stiwardiaid, artist graffiti ac offer, papur a chostau argraffu. The National Autistic Society Sir Fynwy Bydd y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn defnyddio'r grant i sefydlu grŵp cymdeithasol penodol i awtistiaeth i gyfarfod bob mis yng Nghas-Gwent. Bydd y grant hwn o 3,364 yn ariannu deunyddiau hyrwyddo, recriwtio gwirfoddolwyr, costau gweithiwr sesiynol, teithio, costau gweithgareddau, gweinyddu, a hyfforddi gwirfoddolwyr. Alban Road OAP Sir Gâr Bydd Pensiynwyr Heol Alban yn Llanelli yn defnyddio'r grant i fynd â'u haelodau ar gyfres o deithiau i leihau arwahanrwydd cymdeithasol ac yn darparu pedair sgwrs ar bynciau sydd o ddiddordeb i'r grŵp. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu dwy daith i ffwrdd, costau teithio ar gyfer pum taith, sgyrsiau, ymweliad â'r theatr a thaith i'r sinema.
Carmel and District Welfare Club Sir Gâr Bydd Clwb Llesiant Carmel a'r Cylch yn Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'r grant i brynu boeler newydd fydd yn darparu gwell cyfleusterau i ddefnyddwyr. Bydd y grant hwn o 2,945 yn ariannu boeler newydd. Cyfle i Bawb Sir Gâr Bydd Cyfle i Bawb yn Llanelli yn mynd ar gyfres o wibdeithiau i fannau o ddiddordeb i'w haelodau. Mae'r grant o 2,200 ar gyfer talu am cludiant a chostau mynediad. Cylch Meithrin Coedmor Sir Gâr Bydd Cylch Meithrin Coedmor yng Ngheredigion yn defnyddio'r grant i brynu cyfarpar newydd ar ôl symud i leoliad newydd fydd yn darparu gwell cyfleusterau i'r plant sy'n mynychu'r grŵp. Bydd y grant hwn o 4,996 yn ariannu cadeiriau a byrddau, adnoddau storio, dodrefn ac offer gweithgareddau. Equus Ferus International CIC Sir Gâr Bydd Equus Ferus International CIC yng Nghydweli yn defnyddio'r grant i sefydlu cyfres o weithdai wedi eu hanelu at gefnogi unigolion bregus drwy gyfrwng sgiliau Equine Facilitated Learning and Natural Horsemanship. Bydd y grant hwn o 5,000 yn talu'n rhannol am costau staff, cyrsiau hyfforddi, hwyluswyr gweithdai, cyfarpar, sied, offer swyddfa, yswiriant, cyhoeddusrwydd a ffioedd proffesiynol.
Growing Together Group Sir Gâr Bydd y Grŵp Tyfu Gyda'n Gilydd yn Rhydaman yn defnyddio'r grant i ddarparu teithiau i aelodau'r grŵp sydd mewn perygl o gael eu hynysu'n gymdeithasol. Bydd y grant hwn o 4,821 yn talu'n rhannol am costau cludiant a thâl mynediad ar gyfer 8 taith wahanol. Llangathen Village Hall Sir Gâr Bydd Neuadd Bentref Llangathen yng Nghaerfyrddin yn defnyddio'r grant i adnewyddu'r neuadd i ddarparu gwell cyfleusterau i grwpiau o ddefnyddwyr. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu ffenestri newydd, drysau, estyll tywydd, bondoeau cyfwyneb a nwyddau dŵr glaw. Meidrim Senior Citizens Sir Gâr Bydd Pensiynwyr Meidrim yn Sir Gaerfyrddin yn mynd â'u haelodau ar gyfres o deithiau i fannau o ddiddordeb i gefnogi cydlyniad cymunedol. Bydd y grant hwn o 4,424 yn ariannu costau cludiant, ffioedd mynediad a chostau lluniaeth. St Clears and District Gardening Club Sir Gâr Bydd Grŵp Garddio San Clêr a'r Cylch yn Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'r grant i fynd â'u haelodau ar gyfres o deithiau ac i ddarparu siaradwyr ar bynciau diddorol i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 4,903 yn ariannu taith goets ar gyfer taith i ffwrdd, costau coets a ffioedd mynediad ar gyfer teithiau dydd a ffioedd siaradwyr.
Tybie Youth Sir Gâr Bydd Ieuenctid Tybie yn Llandybie yn defnyddio'r grant i roi cyfle i aelodau iau ddysgu sgiliau newydd a dod at ei gilydd drwy weithgareddau integredig. Bydd y grant hwn o 4,880 yn ariannu gweithwyr sesiynol, llety, lluniaeth, cyrsiau sgiliau dŵr yn cynnwys hwylio a chanŵio, teithio a chamera GoPro ac ipad. West Wales Country Gardeners Sir Gâr Bydd Garddwyr Gwledig Gorllewin Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'r grant i drefnu gwyliau byr i ymweld â gerddi enwog Dorset, a thaith ddydd i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a Gerddi Dyffryn. Bydd y grant hwn o 4,960 yn talu'n rhannol am llogi bysiau, costau mynediad a chostau llety hanner prydau. Cyfeillion Ysgol Maes Garmon Sir y Fflint Bydd Cyfeillion Ysgol Maes Garmon yn Sir y Fflint yn defnyddio'r grant i ddarparu amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau i blant lleol mewn ysgol haf dri diwrnod. Bydd y grant hwn o 4,995 yn ariannu costau tiwtoriaid, cefnogi staff ac adnoddau dysgu. Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy Sir y Fflint Bydd Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy, Sir Fôn, yn mynd â'u haelodau ar daith i nifer o fannau o ddiddordeb yn Sir y Fflint. Bydd y grant hwn o 1,100 yn ariannu costau cludiant, ffioedd tywyswyr a siaradwyr gwadd, lluniaeth a phrydau gyda'r nos.
Flint Town Council Sir y Fflint Bydd Cyngor Tref y Fflint yn defnyddio'r grant i weithio gyda phlant ysgol lleol i ddylunio a chynhyrchu baneri yn dathlu diwylliant a threftadaeth y gymuned leol. Bydd y grant hwn o 4,570 yn ariannu dylunio ac argraffu baneri, ffi arlunydd sesiynol, craen ffrwythau, baneri bach, pecynnau gwybodaeth a deunyddiau. Trelawnyd Friendship Club Sir y Fflint Bydd Clwb Cyfeillgarwch Trelawnyd yn y Rhyl yn defnyddio'r grant i dalu am nifer o deithiau dydd i fannau o ddiddordeb i dros 70 o aelodau sydd mewn perygl o arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y grant hwn o 3,500 yn ariannu cludiant. Ysgol Derwenfa Sir y Fflint Bydd Ysgol Derwenfa yn yr Wyddgrug yn defnyddi'r grant i ddatblygu gardd cegin fydd yn cysylltu coginio, tyfu llysiau ac ailgylchu, er mwyn hyrwyddo manteision ffordd o fyw iach i ddisgyblion. Bydd y grant hwn o 4,995 yn ariannu gwaith paratoi, chwech plannwr, compostydd ailgylchu, tair mainc, bwrdd picnic a bwrdd sialc anferth. Pontypool Branch The Royal Welsh Regimental Association Torfaen Bydd Cangen Pont-y-pŵl Cymdeithas Catrawd Frenhinol Cymru yn Nhorfaen yn defnyddio'r grant i fynd â'r aelodau ar daith i gofio 100 mlynedd ers brwydr y Somme. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu cludiant a llety.
Pontypool Dance Club Torfaen Bydd Clwb Dawns Pont-y-pŵl yn Nhorfaen yn mynd ar gyfres o deithiau dawns i Weston, Porthcawl, Ross on Wye a Llandudno. Mae'r grant o 2,500 ar gyfer talu am y costau ynghlwm wrth gludiant a llety. Eyton Extras Wrecsam Bydd Eyton Extras yn Wrecsam yn defnyddio'r grant i brynu sied storio newydd ac yn prynu offer newydd yn lle'r rhai sydd wedi torri ac wedi dyddio. Bydd y grant hwn o 4,025 yn ariannu sied fawr ddiogel, silffoedd a rheseli, cloeon diogelwch a chistiau ffeilio, deunyddiau celf a chrefft, offer chwarae, blychau storio a llogi sgip. Leonard Cheshire Disability Wrecsam Bydd Leonard Cheshire Disability yn defnyddio'r grant i osod gardd cegin cyfeillgar i fywyd gwyllt yn Nolywern, eu cartref gofal yng Ngogledd Cymru, gan alluogi trigolion a gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau garddio therapiwtig a chorfforol lesol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu Ffioedd Cadwch Gymru'n Daclus, ffioedd yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, addasu offer garddio, perlysiau, cnydau a blodau, rhwydi gwarchod, llogi torrwr tywarch, a chostau cynllunio prosiectau. 1st Amlwch Guides Ynys Môn Bydd Geidiaid 1af Amlwch yn defnyddio'r grant i dalu'n rhannol am benwythnos i ffwrdd ar gyfer 40 o aelodau a 12 arweinydd; fyddai'r mwyafrif ohonynt yn methu mynd heb gymorth y grant. Bydd y grant hwn o 4,636 yn ariannu ffioedd safleoedd campio, cludiant, bwyd a lluniaeth, a gweithgareddau amrywiol.
Clwb Hwyl Esceifiog Ynys Môn Bydd Clwb Hwyl yn Sir Fôn yn defnyddio'r grant i brynu teganau addysgiadol fydd yn caniatáu i'r plant gymryd rhan mewn gwell amrywiaeth o weithgareddau. Bydd y grant hwn o 4,075 yn ariannu ipads, teganau awyr agored, eitemau crefft a chostau gweithdy. Pantri No 6 Ynys Môn Bydd Pantri Rhif 6 yn Sir Fôn yn defnyddio'r grant i brynu cyfarpar i ddatblygu caffe rhyngrwyd a chanolfan galw i mewn ar gyfer pobl ddi-waith a rhai sydd ar gyflogau isel yn y gymuned leol. Bydd y grant hwn o 5,000 yn ariannu saith cyfrifiadur, deg bwrdd, 40 cadair, lloriau, carpedi a llestri a chyllyll a ffyrc amrywiol.