Astudiaeth Achos: Defnyddio Strategaeth Gaffael Arloesoll i Wreiddio Cylcholdeb yn Adnewyddiad Swyddfa Canolfann Ddinesig Cyngor Abertawee Crynodeb Ffeithiau Allweddol Yn ystod 2017, dechreuodd Cyngor Dinas a Sir Abertawe (CDSA) ar raglen gweithio n ystwyth a fydd yn y pen draw yn symud 1,400 o weithwyr sy n gweithio yng Nghanolfann Ddinesig Abertawe o swyddfeydd unigol traddodiadol gyda desgiau penodol i amgylchedd gweithio n hyblyg. Mae r astudiaeth achos hon wedi i seilio ar y broses o newid i weithio n ystwyth, ac adnewyddiad y tair adain yn y Ganolfan Ddinesig a gwblhawyd hyd yma. Fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol (Cymru) 2015 (DLlCD) a i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol fel cyngor, archwiliodd CDSA ddulliau arloesol o ailddefnyddio ac adnewyddu eu dodrefn presennol i greu amgylchedd swyddfa newydd. I gyflawni hyn, mabwysiadodd CDSA ddull newydd o gaffael dodrefn a lloriau. Amlinellodd y manylebau tendro ofynion uchelgeisiol ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ymgorffori dodrefn a lloriau presennol yn y cynllun newydd. Mae CDSA wedi profi y gall aelodau staff groesawu gwreiddio caffael cynaliadwy yn adnewyddiad y swyddfeydd, ac y gall hyn yn ei dro ysbrydoli ailadrodd y dull yn y dyfodol. Mae gweithio gyda Busnesau a Gynorthwyirr lleol hefyd wedi helpu CDSA i arddangos cydweithio, thema a bwysleisir yn DLlCD. Mae arferion gweithio ystwyth wedi lleihau oddeutu 25% ar y lle sydd ei angen. Mae hyn wedi galluogi rhentu r lle sydd dros ben i denantiaid eraill, gan greu ffrwd refeniw newydd i CDSA. Yn wreiddiol, roedd 122 o staff yn gweithio o 150 o ddesgiau. Erbyn hyn, mae 368 o staff cyfwerth ag amser llawn (full-time equivalent/fte) yn gweithio o 212 o ddesgiau, gan ddyblu r gyfradd defnyddio desgiau o 0.81 i 1.74. Ailddefnyddiwyd neu ailgynhyrchwyd 486 eitem o ddodrefn. Mae hyn wedi dargyfeirio oddeutu 7.8 tunnell o dirlenwi, ac wedi arbed cyfanswm o 29.1 tunnell o CO 2 e. Carpedwyd 1,213m 2 o lawr, gyda 530m (44% o r llawr i gyd) yn deils carped wedi u hailddefnyddio. Mae hyn wedi arbed 2.39 tunnell o wastraff rhag mynd i dirlenwi neu losgi, ac wedi arbed 4.5 tunnell o CO 2 e. m 2 Mae cyrchu dodrefn wedi u hailgynhyrchu a charped wedi i ailddefnyddio yn golygu bod y caffaeliad wedi galluogi creu chwe swydd FTE newydd a thair rôl dros dro.
Cyd-destun Mae CDSA yn bwriadu symud eu swyddfeydd o fewn y pedair blynedd nesaf, ac maent wedi cydnabod bod angen symud tuag at arferion gweithle a fyddd yn gweddu i weithlu mwy ystwyth yn yr adeilad newydd. Datblygwyd amserlin ar gyfer cynnal peilot cychwynnol (Cam 1) wedi ii seilio ar fan gwaith penodol i arddangos y dull a helpu i ysgogi cefnogaeth yn fewnol ar gyfer y fformat gweithle newydd. Yn dilyn hyn, rhoddwyd y cynllun ar waith ar un llawr yn y Ganolfan Ddinesig (Cam 2) ac wedyn ar yr adeilad yn ei gyfanrwydd (Cam 3). Roedd adnewyddiad y Ganolfan Ddinesig yn gyfle i greu man gwaith agored gyda dodrefn wedi u dylunio i hwyluso r trefniadau gwaith newydd. I gynorthwyo r broses ddyluniao, diffiniodd CDSA bum maes a swyddogaeth benodol: Cydweithio : Mannau ble galll pobl gwrdd a chynllunio Ffocws : Lle ar gyfer gwaith unigol ble gellir canolbwyntio Cymdeithasoli : Mannau anffurfiol ble gall pobl ymgysylltu a chynnal cyfarfodydd anffurfiol Taro heibio : Mannau gwaith arhosiad byr ar gyfer staff sydd yn yr adeilad am gyfnodau byr yn unig. Roedd CDSA hefyd eisiau ehangu eu hopsiynau presennol ar gyfer gwaredu dodrefn dros ben a diangen, ac i r opsiynau hyn flaenoriaethu: 1. Sefydliadau partner, e.e. ysgolion; 2. Holl sefydliadau eraill y cyngor; 3. Adrannau CDSA eraill; 4. Awdurdodau a cholegau cyfagos; 5. Elusennau lleol; 6. Ailgylchu drwy rr Recycle Shop, Abertawe. Y Broses Dendro Hyd yma, mae tair adain yn y Ganolfan Ddinesig wedi cael eu trawsnewid yn fannau gwaith cyfoes ac ystwyth, sy n cynrychioli arwynebedd o 1,200m 2. Cynhaliwyd y gwaith dros dri cham o fis Ebrill 2017 ymlaen. Dechreuoddd y broses caffael ar gyfer y peilot (Cam1) ym mis Ionawr 2017, a chynhaliwyd y gwaith gosod yn Ebrill 2017. Cynhaliwyd proses dendro ar gyfer Camau 2 a 3 ym Mai 2017, a chynhaliwyd y gwaith gosod o fis Gorffennaff 2017 ymlaen. Mae nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol yn greiddiol i reoli asedau Cyngor Abertawe. Mae uwchgylchu ac ailgylchu dodrefn mewn partneriaeth â mentrau cymdeithasol lleol wedi ein helpu i ddangos ein hamcanion corfforaethol mewn modd gweladwy a sylweddol wrth i ni foderneiddio ein fforddd o weithio drwy greu amgylchedd gwaith mwy ystwyth. Goruchwyliaeth : Mannau i gynorthwyoo datblygiad staff, e..e. adnoddau hyfforddiant, mannau distaw i gynnal cyfarfodydd cyfrinachol Rebecca Jones, Rheolwr Adeiladau Dinesig a Llety, Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol, Cyngor Abertawe
Nododd y tendrau angenn i o leiaf 80% o r dodrefn fod un ai wedi u huwchgylchu neu eu hailgylchu a dylidd cynnwys eitemau o blith y dodrefn swyddfa syddd eisoes yn eiddo i CDSA. Cai gweddill y dodrefn sef 20% - fod yn eitemau newydd neu wedi u hailgylchu, cyn belled â u bod yn cyfrannu at naws modern yr amgylchedd swyddfa ac yn cefnogi r amgylchedd gweithio ystwyth newydd. Defnyddiodd CDSA y Fframwaith Dodrefn ar gyfer Busnesau a Gynorthwyir gan Wasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru. Ministry of Furniture yw unig gyflenwr y Fframwaith ar hyn o bryd. Mae amcangyfrif o 20kg o garbon deuocsidd ynghlwm â phob cadair swyddfa a ailgynhyrchwyd i w defnyddio yn y prosiect. Mae hyn yn cyfateb i leihad o 61% o i gymharu â chadeiriau newydd cyfatebol. 1 Mae r defnydd dŵr sydd ynghlwm ag ailgynhyrchu r cadeiriau (1,424 litr) hefyd yn cymharu n ffafriol â chynhyrchu cadeiriau newydd (5,114 litr). Mae hyn yn cyfateb i arbediad o 72% mewn defnydd dŵr. Cafodd desgiau eu hailadeiladu a u hailgynhyrchu i greu system desgiau trawst gan ddefnyddio hen stoc CDSA. Cyfrifodd Ministry of Furniture bod datgymalu 70 desg ar gyfer eu hailddefnyddio ar y safle wedi u galluogi i leihau 77% ar deithiau lori (o 13 llwyth cerbyd i dri). Cyrchwyd ac atgyweiriwyd dodrefn a seddi meddal o stoc bron yn newydd a stoc ystafelloedd arddangos, gan helpu i gyflawni arbedion cost. Dodrefn Trwy gydol pob un o r tri cham, ailddefnyddiwyd neu ailgynhyrchwyd 486 darn o ddodrefn. Roedd hyn yn cynnwys: 199 o ddesgiau 214 o gadeiriau swyddfa 41 o unedau storioo 2 fwrddd 3 chaban cyfarfod 25 o eitemau eraill Mae ailddefnyddio ac ailgynhyrchu rr eitemau uchod wedi dargyfeirio oddeutu 7.8 tunnell o dirlenwi. Mae hyn hefyd wedi cyflawni arbediadd CO 2 2e o 29.1 tunnell: Mae cytundebau ailddefnyddio wedi galluogi Ministry of Furniture i greu pedair swydd FTE newydd a thair rôl dros dro ar gyfer pobl sy n bellach nag eraill o r farchnad waith. Lloriau Arbedion desgiau a byrddau: oddeutu 13.9 tunnell o CO 2 e Arbedion cadeiriau swyddfa: oddeutu 12.6 tunnell o CO 2 e Arbedion o unedau storio ac eitemau eraill: oddeutu 2.6 tunnell o CO 2 e Penodwyd Greenstream i newid y carpedi gan gynnwys eu hailgylchu a u hailddefnyddio. Roeddent mewn cyflwr gwael ar ôl defnyddd trwm dros gyfnod hir o amser.
Ym mhob un o r tri cham, carpedwyd cyfanswm o 1,213m 2 o lawr. Roedd 530m 2 o hyn yn deils carped wedi u hailddefnyddio, sy n cyfateb i 44% o r llawr i gyd. Mae ailddefnyddio 530 m 2 o deils carped wedi galluogi CDSA i arbed 2.39 tunnell o wastraff rhag mynd i dirlenwi neu losgi. Arbedodd hyn 4.5 tunnell o CO2e hefyd. 2 Mae r cytundeb gyda CDSA wedi cynorthwyo Greenstream i sicrhau cyflogaeth a hyfforddiant prentisiaeth ar gyfer dau unigolyn a fu n ddi-waith am gyfnod hir. Cwrdd â r Cyflenwyr Greenstream Flooring Mudiad trydydd sector a gyflenwodd y lloriau ar gyfer y prosiect hwn. Eu nod yw mwyhau r budd cymunedol a ddaw o ailddefnyddio a gwerthu lloriau. Mae Greenstream yn fenter gymdeithasol, ac felly defnyddir ei helw i gefnogi ei gwaith. Diolch i CDSA ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae gwasanaeth lloriau cylchol Greenstream bellach yn gallu cefnogi mwy o bobl gydag anawsterau dysgu tuag at swyddi a chynnig mwy o garpedi am ddim i denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru sydd ag incwm isel. Mae tîm Ystadau Cyngor Abertawe wedi dangos arweiniad go iawn wrth chwilio am ffordd o adnewyddu eu swyddfeydd sydd yn cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol. Yn ogystal ag ailddefnyddio dodrefn a lloriau, a lleihau gwastraff, maen nhw hefyd wedi ymgysylltu â mentrau cymdeithasol ar lefel sy n dangos y potensial i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus cyflawni buddion tebyg. Ellen Petts, Rheolwr Gyfarwyddwr, Greenstream Flooring CIC Ministry of Furniture Busnes a Gynorthwyir ac aelod cyflawn o Gwmnïau Cymdeithasol Cymru. Mae ein gwaith gyda Chyngor Abertawe wedi bod yn werthfawr ac yn arloesol. Wrth ddewis defnyddio nwyddau wedi u hailgynhyrchu a nwyddau ail-law cymeradwy ar gyfer eu prosiectau Dinesig, mae Cyngor Abertawe wedi dangos eu hymroddiad i r economi gylchol, ac ar yr un pryd, wedi cefnogi Ministry of Furniture busnes Cymreig gydag amcanion cymdeithasol. Rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â nhw. Simon Jones Rheolwr Busnes, Ministry of Furniture Ym mis Ionawr 2017, gwnaethant drefniant gyda busnes dodrefn swyddfa yng Nghymru, Orangebox, i gyrchu dodrefn lleol ar gyfer ei ailddefnyddio a i ailgynhyrchu. Mae un ffrwd cynnyrch a ddefnyddiwyd yn y prosiect CDSA yn cynnwys cymryd cadeiriau tasg G64 gan Orangebox, eu trin, newid unrhyw ddarnau sydd wedi gwisgo, a chyflenwi cadair fel newydd sy n dod gyda warantî pum mlynedd. Gwireddwyd Amcanion gyda Chymorth Caffael Arloesol Dylai caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus flaenoriaethu a dangos tryloywder, tegwch, dim gwahaniaethu, cystadleuaeth, atebolrwydd, a gwirio. Mae hyn mewn cytgord â Nodau Llesiant Llywodraeth Cymru, sef cyfrannu tuag at Gymru sydd yn fwy cyfartal, yn fwy gwydn ac yn gyfrifol yn fyd-eang (fel amlinella DLlCD).
Mae gan CDSA eisoes bolisi gwaredu cyfrifol ar gyfer dodrefn. Fodd bynnag, roedd adnewyddu r swyddfeydd yn cynnig cyfle i gyflawni Nodau Llesiant ehangach drwy greu cyfleoedd swyddi a sgiliau ar gyfer Busnesau a Gynorthwyir yng Nghymru drwy adnewyddu dodrefn. Roedd y dull caffael cylchol hefyd yn helpu i gau dolenni cynhyrchion a deunyddiau, gan leihau r gwastraff a anfonir i dirlenwi a chefnogi r economi ailddefnyddio ac ailgynhyrchu. gofod swyddfa dros ben (2,069m 2 ) i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, gan greu ffrwd refeniw newydd i CDSA. Gwersi a Ddysgwyd Bydd CDSA yn archwilio opsiynau i gysylltu cyflenwi yn y dyfodol gyda chynnal a chadw parhaus i gynyddu natur gylchol a chynaliadwyedd eu strategaeth caffael. Penododd CDSA hyrwyddwyr mewnol ar gyfer rheoli newid (deinamig tîm ac amgylchedd) i helpu gyda r newid mewn arferion gwaith. Mae CDSA wedi symud 180 o staff hyd yma, ac wedi defnyddio arolwg i werthuso r canlyniadau. Mae monitro n parhau; fodd bynnag, mae r canlyniadau cychwynnol yn dangos gostyngiad o hyd at 87% mewn lefelau salwch o i gymharu â chyfnod tebyg yn y flwyddyn cynt. Bydd egwyddorion caffael cylchol yn cael eu defnyddio ar gyfer adnewyddu swyddfa Neuaddd y Ddinas yn Abertawe, ble mae oddeutu 900 o staff yn gweithio. Pe bai arbedion tebyg i r prosiect hwn yn cael eu cyflawni, byddai n dargyfeirio 21 tunnell arall o dirlenwi ac yn arbed oddeutuu 78 tunnell o CO 2 e. Mae angen mwy o ofynion tendro agored a phrofi rr farchnad os gwneir hyn ar raddfa uwch gan CDSA ac yn ehangach ledled Cymru. Byddai rhagolygu anghenionn dodrefn o fewn sector cyhoeddus Cymru yn helpu cleientiaid a chyflenwyr i ddeall y galw, ac mae n bosib y gallai hynny annog rhagor o fusnesau i gynnig atebion dodrefn cylchol, gan adlewyrchu r tueddiadau a welir yn yr Iseldiroedd. 3 Bu CDSA yn ymgynghori â staff i helpu i ennyn cefnogaeth ar gyfer yr arferion gweithio ystwyth newydd. Roeddd monitro lefelau defnyddio hefyd yn golygu y gellid treialu mannau gwaith gwahanol er mwyn cynyddu effeithlonrwydd a defnydd y mannau hyn. Mae arferion gweithio ystwyth newydd wedi lleihau oddeutu 25% ar yr angen am le. Mae defnydd wedi cynyddu ymhellach drwy rentu r Mae warantïau ar nwyddau a ailgynhyrchwyd yn agwedd bwysig o fagu hyder cleientiaid mewn cynhyrchion a ailddefnyddir. Mae r warantî bum mlynedd a gynhigir gan Ministry of Furniture ar nwyddau a ailgynhyrchwyd ar gyfer prosiect Canolfan Ddinesig Abertawe yn debyg i r hyn a geir ar gynhyrchion newydd.
Diffiniadau o r Termau a Ddefnyddir yn y Ddogfen Cyfeirnodau Ailddefnyddio Defnyddir cynhyrchion neu gydrannau nad ydynt yn wastraff eto i r un pwrpas â u pwrpas gwreiddiol (h.y. ymwneud ag atal gwastraff). Atgyweirio Cynhyrchion a atgyweiriwyd gan weithgynhyrchwr neu asiant a u hailwerthu. Mae nwyddau wedi u hatgyweirio fel arfer yn cael profion am ymarferoldeb a diffygion cyn y cânt eu gwerthu. 4 Ailgynhyrchu Y weithred o gymryd nwyddau sydd wedi cyrraedd ddiwedd eu hoes a u hailadeiladu i gyflwr fel newydd, gyda warantî sy n cyfateb i w gyflwr 5. Ailgylchu Unrhyw weithred lle caiff deunyddiau gwastraff eu hadfer a u hailbrosesu yn gynhyrchion, yn ddeunyddiau neu n sylweddau, boed hynny i w pwrpas gwreiddiol neu at ddiben arall 2. Busnesau a Gynorthwyir Mae Busnesau a Gynorthwyir yn darparu cyflogaeth gynaliadwy i bobl sydd ag anabledd. I gael eu cyfrif yn Fusnes a Gynorthwyir, mae n rhaid i bobl sydd ag anabledd gynrychioli o leiaf 50% o weithlu r sefydliad. 6 1. Astudiaeth Achos: Benefits of Re-use Case Study: Office Furniture, WRAP, 2011 http://www.wrap.org.uk/sites/files/wrap/office%20f urniture_final.pdf 2. Wedi i seilio ar 4.5kg/m 2 ar gyfer teils carped masnachol. Carpet Recycling UK. http://www.netintent.co.uk/cruk/members_area.ph p?story=399544 3. Adroddiad: The Path Towards a Circular Category: Office Furniture. Rijkswaterstaat 2016 https://www.pianoo.nl/sites/default/files/documents /documents/reportcircularcategoryenoktober2016.p df 4. Cyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff Y Comisiwn Ewropeaidd. 2008. http://ec.europa.eu/environment/waste/framework/ 5. Fforwm Adfer Adnoddau 2004. http://www.remanufacturing.org.uk/pdf/story/1r17. pdf 6. Busnesau a Gynorthwyir yng Nghymru, PRP. 2009. http://prp.gov.wales/docs/prp/generalgoodsservices /130612sfbbrochure.pdf Hoffech chi wybod mwy? Os hoffech chi wybod mwy am yr esiampl astudiaeth achos hon, neu os ydych chi n sefydliad sector cyhoeddus a hoffai dderbyn cefnogaeth, yna cysylltwch â thîm Rheoli Adnoddau Cynaliadwy WRAP Cymru ar 02920 100 100 neu Resources.Wales@wrap.org.uk. Er i ni wneud ein gorau i sicrhau cywirdeb yr astudiaeth achos hon, ni fedrwn dderbyn atebolrwydd na chael ein dal yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan neu a godir mewn cysylltiad â r wybodaeth hon os yw n anghywir, yn anghyflawn neu n gamarweiniol. Mae r deunydd hwn yn destun hawlfraint. Caniateir i chi ei gopïo heb dâl cyn belled â bod y deunydd yn gywir ac na ddefnyddir ef mewn modd camarweiniol. Mae n rhaid i chi nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod ein hawlfraint. Ni chewch ddefnyddio r adroddiad hwn na deunydd ohono i gefnogi nac i awgrymu ein bod wedi cefnogi cynnyrch neu wasanaeth masnachol. Am fanylion pellach gweler ein telerau ac amodau ar ein gwefan. www.wrapcymru.org.uk/cy/sector-cyhoeddus