Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg

Similar documents
Pecyn Gwersi 1 / (Bl 3 Lefelau 1-3) Disgrifio r Eisteddfod. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol: Llythrennedd Digidol

Archwiliad Tachwedd 2016 / November 2016 Review. Gwasanaeth Cyfnewid/ Mutual Exchange Service

Sut rydym yn delio â ch cwynion a ch canmoliaeth

Buy to Let Information Pack

HM Land Registry. Completion of registration THRINGS LLP DX6204 SWINDON 1. Date 08 May Your Ref DLA/P Our Ref RCS/WA922497

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei chau?

Beth oedd newidiadau crefyddol y Tuduriaid? - Pam y cafodd Abaty Tyndyrn ei gau?

DEVELOPMENT LAND FOR SALE Merthyr Tydfil

Cefnogi gwaith eich eglwys

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Taflen Waith

Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Adran 3 Cydberthyniad ac Atchweliad - Nodiadau Athrawon

Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion. Dysgu Learn

Development Impact Assessment

Cynhadledd a Gwobrau r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Darparu gwell gofal i genedl ddwyieithog

Gwybodaeth ffeithiol am y cais a r ymgeisydd/ymgeiswyr SAMPL

Criw Celf 2017/18. Celebrating and creating opportunities for young artists Yn dathlu a chreu cyfleoedd i artistiaid ifanc

W32 05/08/17-11/08/17

Cyflwyniad cyflym i Parkinson s

A: Property Register / Cofrestr Eiddo

Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Social Work in Wales. Prosbectws i Israddedigion. Undergraduate Prospectus

Adnoddau Llyfrgell ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Sir Ddinbych / Denbighshire Phil Lord. Sir y Fflint / Flintshire Phil Lord

Week/Wythnos 13 March/Mawrth 28 - April/Ebrill 3. Pages/Tudalennau:

Gan Heini Gruffudd a Steve Morris

Deddf Awtistiaeth i Gymru

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

Anhwylderau r Sbectrwm Awtistig. Adnodd i Deuluoedd yng Nghymru

NEWYDDION. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

MONITRO TLODI AC ALLGÁU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU 2015

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

Edexcel TAG. Mehefin Edexcel TAG mewn Iechyd a. Gofal Cymdeithasol. Papurau enghreifftiol gyda chvnlluniau marcio. dysgu uwch, newid bywyd

Recriwtio: Ystyried y Gymraeg

Ymgynghoriad ar safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol

Colofn B BIOLEG. UNED 1: BIOCEMEG SYLFAENOL A THREFNIADAETH CELLOEDD Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 20% o'r cymhwyster

33 Glan y Gors PRESTATYN Clwyd LL19 7RL

Cyngor Cymuned Llandwrog

Atrium Building, University of South Wales, Cardiff, April 2018/ Adeilad Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Ebrill 2018

BODWYN FARM / FFERM BODWYN CAEATHRO CAERNARFON GWYNEDD LL55 2TG

Llenydda a Chyfrifiadura

ACQUISITION OF LAND ACT 1981

Datganiad i r wasg: Rwyt ti'n fwy na digon da!

Anatomi cydnerthedd: Pecyn cymorth. Heading. Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Week/Wythnos 31 August/Awst 2-8, 2014

Datblygu r Cwricwlwm Cymreig

NEWS. Gwefan NEWYDD AVOW ewch arno heddiw!

Hawliau n gwreiddio Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Pecyn Gwersi 3 / (Bl 5 Lefelau 3-5) Nwyddau, Dyfeisio Gêm a Mentergarwch. Llwyfan y Maes. Pynciau & agweddau: Sgiliau: Adnoddau cefnogol:

Bwletin Gorffennaf 2017

Newyddion Ansawdd. Cynhadledd Breswyl POWIS. Dathlu dwy flynedd

Adopting Preventative Approaches Shared Learning Seminar Seminar Dysgu a Rennir Mabwysiadu Dulliau Ataliol

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYNNWYS. Llawlyfr y 6ed 2016/2018 1

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau Pobl ag Anableddau Beth mae n ei olygu i chi?

Bwletin i Rieni - Hydref 2014

Grwp Rheoli Adeiladu canllawiau rheoli adeiladu 2018

Cyfarwyddiadau i Gyfranwyr. Wrth baratoi eu cyfraniadau dylai awduron ymgynghori â r cyfarwyddiadau a geir yn Elwyn

Cyngor Cymuned Y Fali Community Council

TGAU CBAC mewn CERDDORIAETH. I w Addysgu o 2012 I w Ddyfarnu o Crynodeb o r Asesiad 2. Rhagarweiniad 3. Cynnwys y Fanyleb 6.

Dydd Sadwrn, Mai 19eg, 2018

CYNGOR CYMUNED LLANWENOG COMMUNITY COUNCIL

No 7 Digital Inclusion

Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil

Yr Athro Emeritws Prys T. J. Morgan mewn ymgom â Richard Glyn Roberts

ISBN digidol Hawlfraint y Goron WG23697

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Hydref Ffilmiau Perfformiadau byw Cyflwyniadau Teithiau.

14 th September 2017 The ninth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Felindre Welfare Hall

Arsyllfa Wledig Cymru Wales Rural Observatory ADRODDIAD AR FYW A GWEITHIO YNG NGHEFN GWLAD CYMRU

CYNGOR CYMUNED LLANGERNYW LLANGERNYW COMMUNITY COUNCIL

CYNNIG CYFRANDDALIADAU CYMUNEDOL CREU DYFODOL GWELL I BAWB DAW'R CYNNIG CYFRANDDALIADAU I BEN AM 12 GANOL DYDD AR 16 RHAGFYR 2016

Lefel 1 Diploma mewn Plastro ( ) Gorffennaf 2013 Fersiwn 1.3 LLAWLYFR CYMWYSTERAU

The Chairman welcomed all to the meeting. Mrs Dooley absent due to being on maternity leave. 2. Datganiadau Diddordeb. 2. Declarations of Interest.

CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG

CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL

Agenda Item 3. Public Accounts Committee. Inquiry into Regulatory oversight of Housing Associations. January Pack Page 1

Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg

CYNGOR TREF AMLWCH TOWN COUNCIL. Cyngor Tref Amlwch Town Council

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales. Cymorth chwilio Finding Aid - Gwen Rees Roberts Papers, (GB 0210 GWERTS)

Cylchgrawn Alumni Prifysgol Cymru, Bangor University of Wales, Bangor Alumni Magazine


Anatomi cydnerthedd: cynorthwyon a rhwystrau wrth i ni heneiddio Adolygiad llenyddiaeth

Ceisiadau Cynllunio Newydd ~ New Planning Applications

Wythnos Gwirfoddolwyr

ATB: Collective Misunderstandings

Family Housing Annual Review

AVID D NOSON D AWSON ARIAN I GARNIFAL LLANFAIR AS HAPUS PRIODAS. Ionawr 2015

Principality Building Society House Price Index Wales, Q1 2019

My Square Mile Fy Milltir Sgwâr

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ( )

Cylchlythyr Cytûn ~ Haf 2018 Cytûn Newsletter ~ Summer 2018

Yr hyn a ofynnir: I chi gymryd sylw o r cyngor a gynigir yn y ddogfen hon.

Profion. a monit. mewn. Dyddiad: Mawrth

Traddodiad a newydd-deb. yn nofelau Wiliam Owen Roberts

Y CWRICWLWM CYMREIG Shan Samuel-Thomas - Lead in the Arts

Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?

Llogi Cyfleusterau Venue Hire

Llanrumney Adventure Play Centre Braunton Crescent, Llanrumney, Cardiff, CF3 5HT

Job title / Teitl swydd Organisation / Sefydliad / E-bost

Transcription:

Defnyddio r Gymraeg: Canolradd B1 2018 Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg LLYFRYN YR YMGEISYDD Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). WJEC is a full member of ALTE (Association of Language Testers in Europe). www.alte.org Mae r llyfryn hwn yn amlinellu (outlines): Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio r Gymraeg Intermediate Level Certificate in Welsh Second Language: Use of Welsh 1

Defnyddio r Gymraeg: Canolradd Rhagymadrodd / Introduction Mae Defnyddio r Gymraeg: Canolradd yn arholiad sydd wedi ei anelu n benodol (aimed specifically) at oedolion sy n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae r arholiad hwn wedi ei achredu ar lefel 2 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (yr un lefel â TGAU). Mae n cyfateb i lefel B1 yn Fframwaith Ewrop (CEFR). This examination has been accredited at Level 2 in the National Qualifications Framework (the same level as GCSE). It corresponds to level B1 in the European framework (CEFR). Bydd CBAC yn dyfarnu tystysgrif i ymgeiswyr llwyddiannus sydd yn gallu: The WJEC will award a certificate to successful candidates who can: siarad Cymraeg yn gymdeithasol (socially) a/neu yn y lle gwaith. deall Cymraeg llafar sgyrsiau a bwletinau newyddion. darllen a deall Cymraeg ysgrifenedig, e.e. erthyglau a negeseuon. ysgrifennu Cymraeg i gyflawni tasgau penodol (to fulfil specific tasks), e.e. ysgrifennu llythyrau, llenwi ffurflenni estynedig (extended). Does dim rhaid sefyll arholiad arall cyn gwneud Defnyddio r Gymraeg: Canolradd. Mae r arholiad yma n addas (suitable) i ymgeiswyr (candidates) sy wedi gorffen Cwrs Canolradd (CBAC) neu r Cwrs Pellach. Mae r arholiad ar ddydd Mercher 6 Mehefin 2018. Rhaid cofrestru (register) gyda r ganolfan arholi (examination centre) erbyn 23 Chwefror 2018 (manylion ar dudalen 11-13). Dych chi ddim yn cael sefyll yr arholiad yma os dych chi n siarad Cymraeg yn iaith gyntaf, neu os dych chi wedi derbyn rhan o ch addysg (education) drwy gyfrwng (medium) y Gymraeg os nad dych chi wedi gadael yr ysgol ers o leiaf pum mlynedd. Dych chi ddim yn cael defnyddio geiriadur mewn unrhyw ran o r arholiad yma. Braslun (outline) o r arholiad sy yn y llyfr yma - mae manylion llawn yn y Fanyleb i Diwtoriaid (Specification for Tutors). 2

Crynodeb / Summary Dyma gynnwys arholiad Defnyddio r Gymraeg: Canolradd: 1. Gwrando a Deall 15% i. Deialog ii. Bwletin Newyddion 2. Siarad i. Tasg Sgwrsio 15% Prawf Siarad: 40% ii. Trafod Pwnc iii. Sgwrs Gyffredinol 3. Darllen a Deall, a Llenwi Bylchau 15% i. Erthygl ii. Negeseuon iii. Llenwi Bylchau 4. Ysgrifennu 15% i. Llythyr ii. Llenwi Ffurflen 3

1. Gwrando 15% Mae 2 ran i r prawf yma, sy n para tua 40-45 munud. i. Deialog Rhaid i chi wrando ar ddeialog ac ateb cwestiynau n seiliedig (based) arni. Byddwch chi n cael clywed y ddeialog 3 gwaith. ii. Bwletin Newyddion Rhaid i chi wrando ar fwletin newyddion ac ateb cwestiynau n seiliedig arno. Byddwch chi n cael clywed y bwletin 3 gwaith. Rhaid i chi ateb y cwestiynau yn Gymraeg. Fyddwch chi ddim yn colli marciau am gamgymeriadau (mistakes), ond rhaid i chi ddangos eich bod chi wedi deall y darnau. 2.i Siarad (Tasg Sgwrsio) 15% Rhaid i chi recordio un sgwrs gyda rhywun sy n siarad Cymraeg yn rhugl, (nid eich tiwtor). Dylai r sgwrs bara tua 5 munud. Cyflwynwch (introduce) eich hun a r person arall ar ddechrau r sgwrs, yna rhaid i chi arwain y sgwrs, gofyn y cwestiynau ac ymateb (respond) i beth mae r person arall yn ei ddweud. Dych chi n gallu holi r person am unrhyw beth, e.e. gwaith, bywyd cymdeithasol, diddordebau, yr ardal, teulu. Bydd y marcwyr yn asesu eich gallu i ryngweithio (interact), i holi r person arall, a chywirdeb (accuracy) eich Cymraeg. Rhaid i chi recordio r sgwrs ar ffurf electronig fformat mp3. Os dych chi ddim yn siŵr sut i wneud hyn, cysylltwch â ch canolfan. Anfonwch eich tasg sgwrsio i ch canolfan. Peidiwch anfon eich tasgau n uniongyrchol i CBAC. Peidiwch stopio r sgwrs ac ailddechrau dylai r sgwrs fod yn ddi-dor (uninterrupted). Peidiwch sgriptio r sgwrs ymlaen llaw byddwch chi n colli llawer o farciau drwy wneud hynny. Rhaid i chi anfon ffeil mp3 i ch canolfan cyn 28 Ebrill 2018. 4

2. Siarad (Prawf Llafar) 40% Rhaid i chi wneud cyfweliad llafar sy n para tua 20 munud. Bydd y cyfweliad yn cael ei recordio a i asesu n allanol a fyddwch chi ddim yn nabod y cyfwelydd (interviewer) fel arfer. Bydd y marcwyr yn asesu eich gallu i siarad yn gywir, amrywio amserau (tenses), i ryngweithio (interact) â r cyfwelydd, priodoldeb (appropriacy) y sgwrs, ynganu (pronunciation), a r gallu i estyn ymatebion (to give extended responses). Mae dwy ran i r prawf llafar. ii. iii. Trafod pwnc Cyn mynd i mewn i r cyfweliad, byddwch chi n cael edrych ar daflen gyda 3 phwnc trafod am 20 munud. Rhaid i chi ddewis un pwnc i w drafod gyda r cyfwelydd llafar. Mae r rhan hon yn para tua 5 munud. Sgwrs Gyffredinol Bydd y cyfwelydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich cefndir chi, gwaith, teulu, diddordebau, eich profiadau n dysgu Cymraeg, gwyliau neu unrhyw bwnc sy n codi yn ystod y sgwrs. 3. Darllen a Llenwi Bylchau 15% Mae 3 rhan i r prawf yma, sy n para 60 munud: i. Erthygl Rhaid i chi ddarllen erthygl ac ateb cwestiynau a fydd yn profi dealltwriaeth (comprehension). ii. iii. Negeseuon Rhaid i chi ddarllen negeseuon ar ffurf e-bost. Bydd cwestiynau amlddewis (multiple choice) i ddangos eich bod chi wedi deall y darnau a bwriad yr ysgrifennwr. Llenwi Bylchau Rhaid i chi lenwi bylchau mewn darn neu ddeialog. 5

4. Ysgrifennu 15% Rhaid i chi ysgrifennu dau ddarn. Bydd y marcwyr yn asesu eich gallu i ysgrifennu n gywir, i ddefnyddio amserau a phatrymau gwahanol, i ddefnyddio geirfa a bod y cynnwys yn briodol (appropriate) i r dasg. Mae dwy ran i r prawf yma. i. Llythyr Rhaid i chi ysgrifennu llythyr tua 100 o eiriau o hyd ar destun (topic) penodol (specific). Mae dewis o destunau. ii. Llenwi Ffurflen Rhaid i chi lenwi ffurflen, e.e. holiadur, yn gofyn am tua 150 o eiriau. 6

Trefn y profion ar ddiwrnod yr arholiad: 9.00 Ymgeiswyr i gyrraedd y ganolfan 9.15-10.15 Prawf Darllen a Llenwi Bylchau 10.15-11.00 Prawf Gwrando 11.00-11.10 Toriad 11.15-12.30 Prawf Ysgrifennu Y Prynhawn Prawf Llafar Bydd eich canolfan yn cadarnhau lleoliad yr arholiad ac amser eich prawf siarad cyn yr arholiad ei hun. Bydd rhaid i chi ddod i ystafell aros y ganolfan tua 20 munud cyn amser y cyfweliad i baratoi r pwnc i w drafod. Graddau Byddwch chi n derbyn eich sgôr ar gyfer pob prawf ac yn cael gradd ar sail eich cyfanswm terfynol. Bydd y cyfanswm allan o 400. Mae n bosib cael Rhagoriaeth neu Lwyddo (neu Fethu) yn yr arholiad hwn. I lwyddo, rhaid i chi gael 60% o r marciau posibl. Canlyniadau a Thystysgrifau (Results and Certificates) Bydd eich canlyniadau (ym mhob prawf) yn cael eu hanfon atoch chi tua wyth wythnos ar ôl dyddiad yr arholiad. Os dych chi wedi llwyddo (passed), byddwch chi n derbyn tystysgrif ar ddiwedd mis Medi. Mae n bosibl i chi dderbyn eich tystysgrif cyn hynny mewn seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd ffurflen yn dod gyda r llythyr canlyniadau n gofyn a dych chi eisiau gwneud hynny. Dyddiadau Pwysig Dyddiad Olaf Cofrestru gyda r Ganolfan Arholi: 23 Chwefror 2018 Dyddiad Olaf i anfon y Dasg Sgwrsio: 28 Ebrill 2018 Dyddiad yr Arholiad: 6 Mehefin 2018 7

Cofrestru Mae ffurflen gofrestru ar y dudalen nesaf. Rhaid i chi gofrestru n uniongyrchol gyda ch canolfan arholi. Mae rhai canolfannau n caniatáu cofrestru ar-lein. Cysylltwch â ch canolfan i gael gwybod a oes ffi n daladwy. Ni roddir ad-daliad am y ffi hwn. Mae manylion cyswllt y canolfannau ar ddiwedd y llyfryn hwn. Trwy ddychwelyd ffurflen hon rydych yn caniatáu i r ganolfan drosglwyddo r wybodaeth a nodir ar y ffurflen i CBAC, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw anghenion arbennig a nodir gennych, (ond nid eich manylion cyswllt personol). Hefyd, rydych yn caniatáu i CBAC anfon eich canlyniadau i r ganolfan, ac yn caniatáu i r ganolfan anfon eich canlyniadau i r darparwr cwrs lleol (lle bo hynny n berthnasol). Lle bo cyflogwr wedi talu ffi ymgeisydd, bydd y ganolfan yn gallu rhyddhau r canlyniad i r cyflogwr perthnasol. Dewch â cherdyn adnabod ffotograffig i r arholiad i w ddangos i r trefnydd. Peidiwch â dod â ffôn symudol i r ystafell arholi. Registration There is a registration form on the next page. You must register directly with your centre. Some centres allow on-line registration. Check with your centre whether a fee is payable or not. This fee is non-refundable. The centre contact details are at the end of this booklet. By sending this form you are thereby giving permission for your centre to send the information given on the form to WJEC, including any information about special requirements you provide, (but not your personal contact details). Also, you thereby allow WJEC to send your results to the centre, and allow the centre to send your results to the local course provider (where relevant). Where an employer has paid for the candidate s fee, the centre may give the candidate s result to the relevant employer. Bring photographic ID to the exam to be shown to the organiser. Do not bring a mobile phone to the examination room. 8

FFURFLEN GOFRESTRU ar gyfer Defnyddio r Gymraeg: Canolradd 2018 Enw llawn: Cyfeiriad: Cod Post: Rhif ffôn: Dyddiad geni: E-bost: Gwryw: Male: Benyw: Female: Dw i n cadarnhau fy mod i n bwriadu sefyll yr arholiad Defnyddio r Gymraeg: Canolradd: I confirm that I intend to sit the Defnyddio r Gymraeg: Canolradd examination: Llofnod / Signature: Dyddiad / Date: Eich Dosbarth / Your Class: Cod y cwrs (os yn wybyddus): Course code (if known): Ble mae r dosbarth yn cael ei gynnal? Enw eich tiwtor: 9

Canolfan / Centre Eich canolfan ranbarthol sy n penderfynu ble bydd yr arholiad yn cael ei gynnal. Ni ellir gwarantu y bydd canolfan yn agos i ch dosbarth neu ch cartref chi. Fodd bynnag, nodwch yma le hoffech chi sefyll yr arholiad, (e.e. coleg lleol, tref gyfagos). Your regional centre will decide where the exam will be held. It cannot be guaranteed that there will be a centre near your class or your home. However, note here where you would wish to sit the exam, (e.g. local college, nearby town). Anghenion Arbennig / Special Requirements Os oes unrhyw anghenion arbennig gyda chi, nodwch ar dudalen ar wahân, e.e. os ydych chi mewn cadair olwyn, yn cael trafferthion gyda ch clyw neu ch golwg. I gael ystyriaeth arbennig, rhaid anfon papur meddyg neu dystiolaeth gyfatebol gyda r ffurflen gofrestru. If you have any special requirements, please note on a separate sheet, e.g. if you are in a wheel chair, or have hearing or vision difficulties. To receive special consideration, you must send a doctor s note or corresponding evidence with the registration form. 10

Cysylltu / Contact 1. Abertawe, Nedd, Port Talbot Swansea, Neath, Port Talbot Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe Learn Welsh Swansea Bay Region Academi Hywel Teifi Academi Hywel Teifi Adeilad Talbot Talbot Building Prifysgol Abertawe Swansea University Parc Singleton Singleton Park ABERTAWE SA2 8PP SWANSEA SA2 8PP dysgucymraeg@abertawe.ac.uk learnwelsh@swansea.ac.uk Ffôn: 01792 602070 Telephone: 01792 602070 Rhif canolfan arholi CiO: 00501 WfA exam centre number: 00501 2. Caerdydd Cardiff Tîm Cefnogi Myfyrwyr Student Support Team Ysgol y Gymraeg School of Welsh Prifysgol Caerdydd Cardiff University Adeilad John Percival John Percival Building Rhodfa Colum Colum Drive CAERDYDD CF10 3EU CARDIFF CF10 3EU myfyrwyrcymraeg@caerdydd.ac.uk myfyrwyrcymraeg@cardiff.ac.uk Ffôn: 029 2087 4710 Telephone: 029 2087 4710 Rhif canolfan arholi CiO: 00502 WfA exam centre number: 00502 3. Canolbarth Cymru Mid-Wales (Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin) (Ceredigion, Powys and Carmarthenshire) Dysgu Cymraeg Ceredigion, Learn Welsh Ceredigion, Powys Powys a Sir Gâr and Carmarthenshire Prifysgol Aberystwyth Aberystwyth University P5 Campws Penglais P5 Penglais Campus ABERYSTWYTH ABERYSTWYTH Ceredigion SY23 3UX Ceredigion SY23 3UX dysgucymraeg@aber.ac.uk learnwelsh@aber.ac.uk Ffôn: 0800 876 6975 Telephone: 0800 876 6975 Rhif canolfan arholi CiO: 00503 WfA exam centre number: 00503 4. Gogledd Orllewin Cymru North West Wales Elen Lois Williams Elen Lois Williams Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin Learn Welsh North West Prifysgol Bangor Bangor University Stryd y Deon Dean Street BANGOR BANGOR Gwynedd LL57 1UT Gwynedd LL57 1UT 11

elen.l.williams@bangor.ac.uk elen.l.williams@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 383690 Telephone: 01248 383690 Mae n bosibl cofrestru ar-lein: It s possible to register on-line: www.bangor.ac.uk/cio/arholiadau www.bangor.ac.uk/cio/arholiadau Rhif canolfan arholi CiO: 00504 WfA exam centre number: 00504 5. Gwent Gwent Dysgu Cymraeg Gwent Learn Welsh Gwent Coleg Gwent Coleg Gwent Heol Blaendâr Blaendare Road PONT-Y-PŴL NP4 5YE PONTYPOOL NP4 5YE welsh@coleggwent.ac.uk welsh@coleggwent.ac.uk Ffôn: 01495 333710 Telephone: 01495 333710 Rhif canolfan arholi CiO: 00505 WfA exam centre number: 00505 6. Morgannwg Glamorgan Lynette Jenkins Lynette Jenkins Cymraeg i Oedolion Morgannwg Glamorgan Welsh for Adults Prifysgol De Cymru University of South Wales Trefforest Treforest PONTYPRIDD CF37 1DL PONTYPRIDD CF37 1DL lynette.jenkins@decymru.ac.uk lynette.jenkins@decymru.ac.uk Ffôn: 01443 483600 Telephone: 01443 483600 Rhif canolfan arholi CiO: 00506 WfA exam centre number: 00506 7. Sir Benfro Pembrokeshire Rhian Owens Rhian Owens Gwasanaeth Cymraeg i Oedolion Sir Benfro Pembrokeshire Welsh for Adults Service Canolfan Ddysgu Gymunedol y Preseli Preseli Community Learning Centre Ysgol y Preseli Ysgol y Preseli Crymych Crymych Sir Benfro SA41 3QH Pembrokeshire SA41 3QH Ffôn: 01437 770180 Tel: 01437 770180 learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk Rhif canolfan arholi: 00507 Exam centre number: 00507 8. Bro Morgannwg Vale of Glamorgan Suzanne Condon Suzanne Condon Dysgu Cymraeg y Fro Learn Welsh the Vale Canolfan Ddysgu Palmerston Palmerston Learning Centre Cilgant Cadog Cadoc Crescent Y BARRI CF63 2NT BARRY CF63 2NT Ffôn: 01446 730402 Tel: 01446 730402 12

dysgucymraeg@bromorgannwg.gov.uk learnwelsh@valeofglamorgan.gov.uk Rhif canolfan arholi CiO: 00508 WfA exam centre number: 00508 9. Gogledd Ddwyrain Cymru North East Wales Nia Humphreys Nia Humphreys Cymraeg i Oedolion Welsh for Adults Coleg Cambria Coleg Cambria Ffordd Parc y Gelli Grove Park Road WRECSAM LL12 7AB WREXHAM LL12 7AB Ffôn: 01978 267596 Telephone: 01978 267596 learncymraeg@cambria.ac.uk learncymraeg@cambria.ac.uk Rhif canolfan arholi CiO: 00509 WfA exam centre number: 00509 13