Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion Cyfarfod y Cyngor 15 Medi 2014 Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 1 -
Cyngor Cymuned Llandwrog Cofnodion y cyfarfod o Gyngor Cymuned Llandwrog a gynhaliwyd Nos Lun, 15 Medi 2014 yn Neuadd Pentref Y Groeslon Yn bresennol- Cynghorwyr Gwyn Owen Jones, Y Fron; Robin Silyn Jones, Groeslon; Robert Isaac Jones, Llandwrog; Robert Jones, Y Groeslon; Dyfed Williams, Llandwrog; Alun Wyn Jones, Y Groeslon; David Lewis, Y Fron; Hywel J Owen,Y Groeslon: Alan Patterson, Carmel; Bryn Williams, Carmel; a r Clerc. 14-09-01 1 Croeso r Cadeirydd Agorwyd y cyfarfod gan y Cadeirydd Alun Wyn Jones. Croesawyd yr aelodau i'r cyfarfod. 14-09-02 2 Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr aelodau canlynol - Emyr Peris Hughes, Y Groeslon; Cadfan Roberts, Carmel 14-09-03 3 Datgan Buddiant Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.. 14-09-04 4 Enwebu Aelodau Newydd Adroddwyd fod y Clerc wedi cysylltu gyda Gerwyn Owen, Cae Sarn,Y Groeslon fel aelod o r Cyngor i gynrychioli Ward Y Groeslon Nid oedd enw wedi dod ymlaen r gyfer Ward Llandwrog/Dinas Dinlle. Bydd yr aelodau lleol yn trafod y mater ac adrodd yn ôl ym mis Hydref. Penderfynwyd yn unfrydol enwebu Gerwyn Owen fel aelod i gynrychioli Ward y Groeslon 14-09-05 5 Derbyn Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol fel Rhai Cywir (29 Gorffennaf 2014) Derbyniwyd y cofnodion uchod fel rhai cywir ac fe i harwyddwyd gan y Cadeirydd. 14-09-06 6 Materion yn Codi o r Cofnodion Gwasanaeth Bws Cludiant Disgyblion - Groeslon i Ysgol Dyffryn Nantlle Trafodwyd y mater fel y nodwyd yn y Rhaglen. Sylwadau Aelodau Cyng. Alun Wyn Jones - Bws yn rhedeg mewn trefniant dros dro. Cwestiwn ynglŷn â chynaladwyedd y gwasanaeth. Bydd angen cadw llygaid ar y sefyllfa. Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 2 -
Cyng. Alan Patterson Yn gofyn faint o blant sydd ar y bes a faint o lefydd gwag? Cyng. Hywel J Owen y bws yn llawn erbyn cyrraedd Cae Sarn. Efallai felly fod y gwasanaeth yn talu amdano i hyn? Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a monitro r sefyllfa. Mynedfa Fynwent Bryn rodyn Adroddwyd gan Cyng. Robin Silyn Jones fod amcan bris wedi ei dderbyn gan ofaint o 650.00 i adnewyddu r ffens. Wedi cysylltu gyda saer maen i adnewyddu r wal a r piler a threfnir cyfarfod ar safle gyda r Clerc yn fuan. Gan fod cwynion wedi dod i law rhai aelodau fod y fynedfa yn flêr roedd yr aelodau yn awyddus i r Cyngor rhoi hawl dirprwyedig i r Clerc, Cadeiryddion y Pwyllgorau i weithredu. Penderfynwyd ar y canlynol- i) Fod y Cyngor yn derbyn pris y gofaint. ii) Fod y Cyngor yn caniatáu hawl dirprwyedig i r Clerc, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd Pwyllgor Mynwentydd ac Eiddo i weithredu fel bod mynedfa Bryn rodyn yn cael ei adfer cyn gynted ag sy n bosib Dinas Dinlle. Trafodwyd gohebiaeth Swyddog Morwrol Cyngor Gwynedd fel y nodwyd yn y rhaglen. Sylwadau Aelodau Cyng. Hywel J Owen - yn cwestiynu paham nad yw yr asiantaethau perthnasol yn gosod bariau ar draws y mynedfeydd i rwystro cerbydau mawr rhag parcio ar y safleoedd. Dyma a welir ar fynedfeydd tiroedd tebyg ar draws glannau moroedd eraill yn y wlad. Penderfynwyd cysylltu gyda Chyngor Gwynedd a Naturiol Cyfoeth Cymru gan ofyn iddynt roi ystyriaeth osod bariau rhwystro cerbydau ar y mynedfeydd. Defnydd Cymunedol Tiroedd ac Adeiladau Ysgolion Carmel a Bronyfoel. Trafodwyd y mater uchod fel y nodwyd yn y Rhaglen. Yn dilyn l lythyr gan Adran Eiddo Cyngor Gwynedd yn ôl yng Ngorffennaf oedd yn datgan fod angen cynllun busnes mewn lle erbyn Chwefror 2015 os oedd y gymuned yn bwriadu gwneud defnydd o r adeiladau neu'r tiroedd roedd y Clerc yn gofyn i r Cyngor ystyried cynnal cyfarfod cyhoeddus i ddod ar fater i sylw trigolion y ddau bentref. Mae Grŵp Datblygu r Fron eisoes mewn trafodaethau gyda r Cyngor Sir ynglŷn â gwneud defnydd o r ysgol a r tiroedd ond mynegwyd pryder nad oes yna unrhyw gynlluniau. Roedd yr aelodau oll o r farn fod angen cyfarfod cyhoeddus. Ymhellach cytunwyd mai cyfarfod i drigolion Carmel yn unig sydd ei angen gan fod Grŵp y Fron yn trefnu cynlluniau yno Cytunwyd hefyd i wahodd Swyddog Adfywio Cyngor Gwynedd, Mr Iestyn Pritchard i r cyfarfod i roi arweiniad ar yr opsiynau sydd yn bosib. Cafwyd trafodaeth ar gynnwys y cyfarfod. Aelodau o r farn mai Cadeirydd y Cyngor Cymuned ddylai agor y cyfarfod a gwneud y cyflwyniad ac yna rhoi r cyfle i unigolion neu grwpiau i drefnu pwyllgor a symud y mater yn ei flaen. Ymhellach gofynnwyd gan Cyng. Alan Patterson i r Cyngor ystyried Gardd y Coleg yn y cyfarfod cyhoeddus gan fod Pwyllgor a sefydlwyd yn Awst 2013 wedi dod chwalu ac nid oes neb yn gyfrifol am y safle bellach. Barn yr Aelodau i r cais oedd mai mater i r Grŵp neu Bwyllgor newydd yn unig fydd cynnwys Gardd y Coleg a r tiroedd cysylltiedig i r cynllun busnes. Trafodwyd cais gan Grŵp Datblygu'r Fron oedd yn gofyn i'r Cyngor hwn gymryd cyfrifoldeb neu berchnogaeth o gae'r ysgol - cynllun mae'r Grwp eisoes wedi bod mewn mewn trafodaeth gyda Chyngor Gwynedd. Sylwadau Aelodau Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 3 -
Cyng. Hywel Owen Cyfarfod Cyhoeddus - yn gryf o r farn mai Cyngor Cymuned sydd i alw r cyfarfod ac mai Cadeirydd y Cyngor, nid yr aelod lleol i w agor. O r farn fod angen llunio rhaglen ymlaen llaw. Hefyd nododd efallai bydd Cyng. Alan Patterson - o r farn na ddylai hysbysu r ffaith fod angen sefydlu pwyllgor gan y byddai hyn yn dychryn rhai o r trigolion rhag mynychu'r cyfarfod Cyng. Robin Silyn Jones - o r farn fod angen i r Cyngor hwn gadw n glir o gymryd perchnogaeth gan fod costau sylweddol ynghlwm a chynnal tiroedd ac adeiladau o r math. Cyng. Gwyn Jones - Efallai i r dyfodol bydd Cynghorau Cymuned yn cymryd cyfrifoldeb am barciau a thiroedd ac i r dyfodol bydd rhaid i r Cyngor hwn symud yn ei flaen. Penderfynwyd ar y canlynoli) Fod y Cyngor ynn galw cyfarfod cyhoeddus ar gyfer adeilad a thiroedd Ysgol Carmel yn unig - heb nodi'r angen ar yr agenda am Bwyllgor. ii) Mai Cadeirydd y Cyngor fydd yn agor y cyfarfod gwneud y cyflwyniad. iii) Ymestyn gwahoddiad i Swyddog Adfywio Cyngor Gwynedd i r cyfarfod iv) Peidio â chynnwys Gardd y Coleg yn y cyflwyniad wrth dderbyn mai mater i r pwyllgor newydd fydd ei gynnwys ai peidio. v) Gofyn i gynrychiolaeth i siarad gyda Grŵp Datblygu'R Fron i ddarganfod mwy am oblygiadau i r Cyngor hwn cyn ymateb i r cais. 14-09-06 6 Derbyn Cofnodion y Pwyllgor Cyllid 11 Medi 2014 Derbyniwyd y cofnodion uchod fel rhai cywir ac fe i harwyddwyd gan y Cadeirydd. 14-09-07 7 Materion yn Codi o r Cofnodion Cyllideb 2014-15 Penderfynwyd derbyn argymhellion y Pwyllgor fel a ganlyn - i) Fod y Cyngor yn derbyn y wybodaeth o r balansau fel y nodwyd. ii) Fod y Cyngor yn derbyn fod yna swm o 1,523 yn y gyllideb cynnal a chadw asedau ac yn gofyn i r Pwyllgor Mynwentydd i lunio rhestr blaenoriaeth. Model Ariannol Cenedlaethol Penderfynwyd ar y canlynol. i) Fod y Cyngor yn gofyn i r Panel Rheolau Sefydlog a chymharu'r model newydd gyda rheolau ariannol presennol y Cyngor cyn cyflwyno Rheolau Ariannol o r newydd i w fabwysiadu erbyn 1 Ebrill 2015 ii) Fod y Cyngor yn enwebu r aelodau canlynol i r Panel Rheolau Sefydlog- Cadeirydd Is-gadeirydd Cyng. Gwyn Owen Jones Cyng. Robin Silyn Jones Cyng. Robert Isaac Jones Cyng. Hywel J Owen Gohebiaeth Llythyrau ac E-byst 14-09-08 Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 4 -
14-09-08 8 Rhoddion Adran 137 Shelter Cymru Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a'i gynnwys ar y rhestr i'w drafod Chwefror 2015 14-09-09 9 Un Llais - Cyrsiau Rhaglen Hyfforddiant 2014 Penderfynwyd derbyn y wybodaeth heb sylwadau. 14-09-10 10 Un Llais - Cynllun Datblygu Lleol Hysbysiad fod Newyddlen CDLL wedi ei gyhoeddi sydd yn rhoi diweddariad ar y cynllun. Gwelir y newyddlen ar wefan Cyngor Gwynedd. http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=7982&doc=29553&language=2&p=1&c=1http Penderfynwyd derbyn y wybodaeth heb sylwadau. 14-09-10 10 GIG/NHS Cymru Llythyr gan GIG Cymru yn datgan fod perchnogaeth cytundeb fferyllfa Penygroes wedi ei drosglwyddo o L ac S Williams i, 37 Heol Dwr, Penygroes i Mr C L Williams a Ms S T McCarthy. Penderfynwyd derbyn y wybodaeth heb sylwadau 14-09-11 11 Cyfrifon Terfynol 2013-2014. Cymeradwyaeth Cyfrifon y Cyngor 2012-13 - Datganiad Blynyddol - Tystysgrif o dan Reoliadau 8B (1) ac 8B(2) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (fel y ei diwygiwyd) Yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor Cyllid i dderbyn sylwadau'r Archwiliwr Allanol mae rhaid cofnodi n ffurfiol fod y Cyngor Llawn yn derbyn ac yn cymeradwyo r Datganiad Blynyddol erbyn 20 Medi 2014. Y Clerc i arwyddo Adran 3 y datganiad nawr Y Cyngor i ystyried unrhyw faterion y tynnir sylw atynt yn y llythyr Hacker Uyong ac yna i gymeradwyo r Datganiad Blynyddol Wedi i r Cyngor ei gymeradwyo, y Cadeirydd i lofnodi a dyddio r Datganiad cyn anfon y Datganiad gwreiddiol yn ôl i UHY Hacher Young erbyn Medi 20fed, 2013, fel bod yr Archwiliwr yn llofnodi r Datganiad erbyn 30 Medi 2013 Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad y Cyfrifon 2013-14, ac arwyddwyd Adran 3 o r datganiad gan y Clerc a'r Cadeirydd. 14-09-12 12 Ceisiadau Cynllunio Ceisiadau Medi 2014 - Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 5 -
C14//0798/17/LL Fron Dirion, Cilgwyn, Carmel. Gosod system ynni solar ffotofoltaidd (PV) 8kw ar y ddaear (2 glwstwr o 12 panel)/installation Page 5 Of 6 Dyddiad / Date: 22/08/2014of 8kw ground mounted solar photovoltaic (PV) system (2 clusters of 12 panels). C14/0777/17/LL Ysgol Gynradd / Groeslon Primary School, Lon Garreg Fawr, Diwygio amod rhif 2 o ganiatâd cynllunio C13/1246/17/R3 er mwyn galluogi newidiadau bychain i'r edrychiadau a'r cynlluniau/revision of planning condition No 2 of planning permission C13/1246/17/R3 to enable minor amendments to the elevations and plans. C14//0780/17/LL Tyn Ddol, Dinas Dinlle Newidiadau bychain ynghyd a chreu ffenestr gromen a phorth newydd C14//0810/17/LL 2 Dyffryn Terrace, Y Groeslon Estyniad deulawr i'r tŷ presennol C14//0820/17/LL Garn Llywelyn, Carmel Estyniadau a newidiadau i dy presennol. Materion Ariannol 14-09-13 13 Derbyniadau i 11 Medi 2014 - Manylion Cyfanswm Ffioedd Claddu 775.00 Praesept Rhan 2 17,000.00 14-09-14 14 Taliadau sydd angen eu hawdurdodi gan y Cyngor - Manylion Swm heb Cyfanswm y Rhif Siec TAW Taliad Cyflog y Clerc - Awst 2014 411.00 411.00 uniongyrchol HMRC - Treth Incwm Awst 2014 111.00 111.00 uniongyrchol Clerc Treuliau Awst 2014 25.00 25.00 uniongyrchol Siop Doris Daily Post Awst 2014 17.10 17.10 101582 Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 6 -
Cyflog y Clerc -Medi 2014 411.00 411.00 uniongyrchol HMRC Treth Incwm Clerc Medi 2014 111.00 111.00 uniongyrchol Clerc Treuliau Medi 2014 25.00 25.00 uniongyrchol Siop Doris Daily Post Medi 2014 17.40 17.40 101583 Viking Direct Defnyddiau Swyddfa 32.53 39.04 101584 Zurich - Yswiriant y Cyngor 898.06 898.06 101585 14-09-15 15 Dyddiadau Cyfarfod Nesaf Cyngor Llawn Hydref - Nos Lun, 20 Hydref 2014 Pwyllgor Mynwentydd - wythnos yn cychwyn 29 Medi 14-09-16 16 Materion yn Codi Cyfarfod nesaf Carmel Cyng. Alan Patterson Llwybr Llys Twrog Cwyn wedi ei dderbyn fod carreg fawr yn rhwystro adwy rhag agor ar y lon drol rhwng Llon buarth a Llys Twrog. Hefyd gordyfiant angen sylw. Gwartheg Cwynion wedi do di law ynglŷn â r gwartheg sydd yn tramwyo ar hyd y pentref. Parcio Cerbyd yn parcio yn beryglus dros ffordd i hen ysgol Penffoerddelen Y Groeslon Cyng. Robin Silyn Jones Gordyfiant Angen ymdrin â gordyfiant ar y ffordd ger Trem Werydd a Penbont Cyng. Robert Jones Llwybr Dolydd Hen Gastell Cwyn fod camfa angen sylw, a bod angen ymdrin â gordyfiant Llandwrog Cyng. Robert Isaac Jones Llwybr Gwern Afalau Angen sylw i gamfeydd Cyng. Robert Isaac Jones a Cyng. Dyfed Williams Gwern Afalau Parcio dros nos Dinas Dinlle Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 7 -
Erydiad a chyflwr traeth yn Dinas Dinlle. Cyng. Robin Silyn Jones Gordyfiant Trem Werydd / Penbont Daeth y cyfarfod i ben am 8.40 yr hwyr Cafwyd y Cofnodion yn rhai cywir - Dyddiad - Cyng. Alun Wyn Jones, Cadeirydd y Cyngor Clerc y Cyngor David Roberts Tudalen - 8 -