Deddf Awtistiaeth i Gymru Until everyone understands Nes bydd pawb yn deall
CYNNWYS Rhagair gan Mark Lever, Prif Weithredwr, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cyflwyniad 03 04 05 06 07 08 Diagnosis a chymorth ar ôl cael diagnosis Addysg Cymorth i oedolion Cymorth i ofalwyr Deddf Awtistiaeth i Gymru Ynghylch awtistiaeth Am NAS Cymru 09 10 10 Cydnabyddiaeth Diolch i bawb a ymatebodd i n harolwg. Mae eu gonestrwydd a u parodrwydd i rannu rhan o u stori, sut maent yn ymdopi â bywyd bob dydd a pha welliannau yr hoffent eu gweld wedi bod yn sail well i ni ddeall pam mae angen Deddf Awtistiaeth i Gymru. Diolch hefyd i gydweithwyr Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, yn enwedig Jane Harris, Sarah Lambert, Tim Nicholls, Tom Madders, Ian Dale, Samuel Cropton, Heidi Aho a Suzanne Westbury. Diolch yn arbennig i Mat Mathias a Samuel Stone. Awdur yr adroddiad hwn yw Meleri Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Allanol, NAS Cymru. Methodoleg yr adroddiad Mae r adroddiad hwn yn seiliedig ar 668 o ymatebion i arolwg ar-lein a gynhaliwyd rhwng mis Mai a mis Mehefin 2015. Pobl awtistig sy n byw yng Nghymru fu n ymateb neu, os nad oeddent yn gallu cyfrannu, eu rhieni a u gofalwyr. 02 autism.org.uk/deddfnawr Deddf Nawr. Deddf Awtistiaeth i Gymru
BETH SY N BWYSIG I CHI Rhagair gan Mark Lever Yn ystod haf 2015, cynhaliodd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru (NAS Cymru) arolwg cenedlaethol ar-lein i weld beth sy n bwysig i bobl sy n byw ag awtistiaeth bob diwrnod o r flwyddyn. Y bwriad oedd i holi barnau, profiadau a blaenoriaethau pobl awtistig, eu rhieni a u gofalwyr. Mae n adeiladu ar waith ein hadroddiad Ein bywyd - ein dewis a gyhoeddwyd yn 2011. Yn yr adroddiad hwnnw, nodwyd bod rhywfaint o gynnydd wedi bod ers cyflwyno strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru yn 2008, ond bod y ddarpariaeth ar y cyfan yn dameidiog a bod bylchau yn y gwasanaethau ac yn y gefnogaeth. Wrth greu r adroddiad, daethom ar draws enghreifftiau gwych o bobl awtistig yn cael cefnogaeth a u hanghenion yn cael eu diwallu gan wasanaeth, elusen neu unigolyn penodol. Ond, gwelwyd gormod o lawer o enghreifftiau o ddiffyg cefnogaeth hefyd. Mewn sawl achos, roedd pobl yn ei chael yn anodd ymdopi ac yn cael eu gorfodi i frwydro am gymorth, a hyn wedyn yn gwneud iddynt deimlo n unig ac yn rhwystredig. Yng ngeiriau un rhiant: Yn fy marn i, pobl ar lawr gwlad pobl leol, rhieni, gweithwyr cyffredin, sy n gweithio n galed iawn dros awtistiaeth ac sy n gwneud y gwahaniaeth. Maen nhw n gweithio yn erbyn system sy n eu siomi. Yn 2016, bydd pobl Cymru n pleidleisio dros Gynulliad newydd a fydd yn ein harwain i r 2020au. Mae n bryd nawr cael Deddf Awtistiaeth i Gymru a bod yn uchelgeisiol, yn eofn ac yn glir ynghylch y dyheadau a rannwn dros bobl awtistig a u teuluoedd yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd i gyrraedd eu potensial yn yr un modd â phawb arall. Mae awydd gwirioneddol ymhlith y cyhoedd i gael cyfraith newydd. Dywedodd bron 90% o r bobl a ymatebodd i n harolwg fod angen deddfwriaeth benodol ar awtistiaeth yng Nghymru, tebyg i r hyn sydd eisoes yn bodoli yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae r adroddiad hwn yn cyflwyno r angen am Ddeddf Awtistiaeth i Gymru darn o ddeddfwriaeth sy n amddiffyn ac yn hyrwyddo hawliau pobl awtistig yng Nghymru, eu teuluoedd a u gofalwyr. Mae n giplun o r hyn a ddywedoch chi sy n bwysig i chi ac yn nodi r hyn y mae angen ei newid. Mae n neges gan bobl awtistig a u teuluoedd yng Nghymru i wleidyddion yng Nghymru am Ddeddf Awtistiaeth i Gymru. Mark Lever, Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth autism.org.uk/deddfnawr 03
CYFLWYNIAD Yn 2008, arweiniodd Llywodraeth Cymru y ffordd, wrth iddi fod y gyntaf o blith gwledydd y DU i gyhoeddi strategaeth ar gyfer gwella gwasanaethau a chymorth i bobl awtistig a u teuluoedd. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ac er gwaethaf y cynnydd sydd wedi i wneud, mae anghenion pobl awtistig yn dal i gael eu diystyru ar lefel leol. Mae teuluoedd ac oedolion ar y sbectrwm yn dweud eu bod yn gorfod aros blynyddoedd am ddiagnosis. Nid yw awdurdodau lleol yn gwybod faint o bobl awtistig sydd yn eu hardal ac felly nid ydynt yn cynllunio n briodol ar gyfer y cymorth sydd ei angen arnynt. Nid yw gweithwyr proffesiynol yn gallu rhoi cymorth yn briodol i bobl ar y sbectrwm, oherwydd diffyg dealltwriaeth a hyfforddiant. Mae n fwyfwy clir erbyn hyn bod angen i r Llywodraeth gymryd camau pendant. Ni fydd strategaeth newydd yn ddigon i gyflawni r newid sydd ei angen ar lefel leol. Gan fod Llywodraeth Cymru yn gallu creu ei deddfwriaeth ei hun erbyn hyn, dylai fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos arweiniad ar awtistiaeth a deddfu er mwyn dangos yn gliriach sut dylid darparu gwasanaethau a chymorth i r rheini sydd ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae r ddeddfwriaeth a gynigiwn yn ehangu ar y dyletswyddau presennol. Nid yw n ceisio creu beichiau sylweddol ychwanegol ar awdurdodau lleol a u partneriaid. Yn wir, os caiff y ddeddf ei gweithredu n briodol, mae posibilrwydd y bydd yn arbed arian sylweddol i r pwrs cyhoeddus. Rydym yn argymell y dylai Deddf Awtistiaeth i Gymru wneud y canlynol: 1 2 3 4 5 6 7 gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd i sicrhau bod llwybr clir i roi diagnosis o awtistiaeth ym mhob ardal gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gofnodi nifer y plant a r oedolion awtistig yn eu hardal a fydd yn sail i r prosesau cynllunio dylai pob ardal leol ddefnyddio r data, ynghyd ag ymgynghori â phobl leol ar y sbectrwm a u teuluoedd, i ddatblygu cynllun ynghylch sut y byddant yn diwallu anghenion y boblogaeth awtistig leol sicrhau bod y data n cael ei adolygu n rheolaidd a i rannu rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion er mwyn gwneud yn siŵr bod y newid o r naill i r llall yn digwydd yn ddidrafferth i bobl ifanc awtistig sicrhau bod canllawiau statudol yn cael eu datblygu i nodi pa lefel o hyfforddiant sydd ei hangen ar ba weithwyr proffesiynol er mwyn sicrhau bod plant ac oedolion awtistig yn cael cymorth gan weithwyr proffesiynol sy n eu deall nodi n glir na ddylid gwrthod plant ac oedolion awtistig rhag defnyddio gwasanaethau cyhoeddus oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn rhy alluog a bod eu IQ yn rhy uchel cael ei hadolygu a i monitro n rheolaidd i wneud yn siŵr bod cynnydd amlwg yn digwydd. 04 autism.org.uk/deddfnawr Deddf Nawr. Deddf Awtistiaeth i Gymru
DIAGNOSIS A CHYMORTH AR ÔL CAEL DIAGNOSIS Mae cael diagnosis o awtistiaeth yn allweddol i bobl awtistig. Gall hyn eu helpu nhw a u teuluoedd a u gofalwyr i ddeall pam eu bod yn cael anawsterau. Mae n ei gwneud yn haws iddynt ddeall y byd o u cwmpas, ac yn aml iawn mae n rhoi cyfle i bobl gael gafael ar wasanaethau a chymorth. Yn ein harolwg, dywedodd 70 y cant o r rheini a ymatebodd eu bod yn teimlo rhyddhad o gael diagnosis. Mae r National Institute for Health and Clinical Excellence (NICE) wedi cynhyrchu canllawiau ar ddiagnosis o awtistiaeth ar gyfer plant ac oedolion. Mae r canllawiau ar Recognition, referral and diagnosis of children and young people on the autism spectrum yn dweud y dylai asesiad y diagnosis gael ei wneud o fewn tri mis i gyfeirio rhywun. Ond, mae ein harolwg yn dangos: Bod chwech o bob deg person a ymatebodd wedi aros dros flwyddyn i gael diagnosis. Roedd bron draean (32%) wedi aros dros ddwy flynedd i gael diagnosis. Bod bron ddwy ran o dair (63%) o r rheini a ymatebodd wedi dweud bod y broses o gael diagnosis wedi cymryd gormod o amser ac roedd 56% wedi dweud bod y broses wedi achosi straen. Ar ôl cael diagnosis, dim ond un o bob pump (21%) a ddywedodd eu bod yn fodlon bod y wybodaeth a roddwyd iddynt wedyn wedi eu helpu i gael y gefnogaeth angenrheidiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli bod angen rhoi sylw hefyd i r amseroedd aros ar gyfer rhoi diagnosis o awtistiaeth. Yn 2015, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan y Llywodraeth i sicrhau gwelliannau i wasanaethau diagnosis i blant ac oedolion. Rydym yn aros am argymhellion y Grŵp o ran lleihau amseroedd aros a gwneud y broses o gael diagnosis o awtistiaeth yn haws. Beth sy n bwysig i chi: Cymerodd y broses diagnosis lawer gormod o amser, mae angen gwella r cyfathrebu rhwng adrannau n ddirfawr, mae angen gwneud mwy i roi cymorth ac addysg ar ôl diagnosis a chyfeirio pobl at wasanaethau a chyfleoedd dysgu a hyfforddiant ychwanegol ynghylch awtistiaeth. Ches i ddim gwybod bod syndrom Asperger ar fy mab nes ei fod yn 16 mlwydd oed. Cefais y diagnosis a dyna hi wedyn. Ches i ddim help na chyngor. Deddf Awtistiaeth i Gymru Rydym yn argymell y dylai Deddf Awtistiaeth i Gymru gael ei chyflwyno yn nhymor nesaf y Cynulliad. Rydym yn cynnig y gallai Deddf Awtistiaeth gynnwys y canlynol: gosod dyletswydd ar bob bwrdd iechyd i sicrhau bod llwybr clir i roi diagnosis ym mhob ardal ar gyfer plant ac oedolion sicrhau bod staff ar draws y sector iechyd a gofal wedi u hyfforddi n well ym maes awtistiaeth. Nid yw strategaeth a chanllawiau n unig wedi bod yn ddigon i gyflawni hyn. Byddai deddfwriaeth yn sicrhau bod diagnosis o awtistiaeth yn cael blaenoriaeth ar lefel leol. Byddai hyn yn helpu i esbonio n gliriach i unigolion a theuluoedd beth y dylent allu ei ddisgwyl gan eu gwasanaethau lleol. autism.org.uk/deddfnawr 05
ADDYSG Mae rhieni plant awtistig yn dweud wrthym eu bod am weld system addysg sy n rhoi r un cyfleoedd i w plant ag y mae plant eraill yn eu cael. Maent am weld system addysg sy n deall anghenion eu plentyn, yn sicrhau bod eu plentyn yn cael cymorth i gyflawni, ond hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, sgiliau emosiynol a sgiliau byw. Mae n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol ar blant a phobl ifanc awtistig yn y system addysg yn ogystal ag ar adegau o newid, wrth iddynt symud o un lleoliad addysg i un arall, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael addysg gyflawn. Dywedodd dros ddwy ran o dair (69%) o r rheini a atebodd ein harolwg fod eu plant yn cael addysg brif ffrwd, a bod 17% o ddisgyblion yn cael darpariaeth arbenigol. Roedd pedair rhan o bump o r rheini a ymatebodd wedi cael eu nodi n blant a oedd yn cael cymorth ychwanegol yn yr ysgol oherwydd eu hawtistiaeth, drwy Weithredu gan yr Ysgol, Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy neu Ddatganiad. 1 Mae r arolwg yn dangos: Mai dim ond dau blentyn o bob pump (39%) lle cafwyd ymateb gan y rhiant sy n cael yr holl gymorth a darpariaethau a ddisgrifir yn eu datganiad neu eu cynllun addysg. Nid yw plant yn ein harolwg yn cael digon o r mathau penodol o gymorth sydd ei angen arnynt. Roedd llai na un o bob pump (19%) rhiant a ymatebodd yn teimlo bod eu plentyn yn cael therapi galwedigaethol digonol, a dim ond 36% a oedd yn teimlo eu bod yn cael digon o therapi iaith a lleferydd. Roedd lefelau bodlonrwydd rhieni â staff ysgol ar eu huchaf gyda chynorthwywyr ystafell ddosbarth (61%) a chydlynwyr anghenion addysgol arbennig (56%). Pan ofynnwyd i bobl am eu barn am addysg a darpariaeth gofal cymdeithasol i blant, dywedodd 44% o r rheini a ymatebodd fod gwasanaethau a chymorth wedi gwaethygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Dim ond saith y cant a ddywedodd eu bod wedi gwella. Beth sy n bwysig i chi: Dydy fy wyres ddim yn cael dim cymorth ychwanegol yn yr ysgol. Mae r staff yn amyneddgar iawn ac yn ystyried ei hamgylchiadau, ond mae angen cymorth un-i-un arni gyda i gwaith ysgol a does dim ar gael felly mae hi ar ei hôl hi n academaidd. Mae hi n wyth mlwydd oed ac roedd yn rhaid iddi sefyll prawf gorfodol yr wythnos diwethaf. Doedd hi ddim yn gallu ei wneud a chollodd pob rheolaeth. Roedd yn rhaid i w mam ei chasglu o r ysgol gan ei bod wedi cynhyrfu gormod. Dydy hyn ddim yn dda o gwbl i w morâl. Roedd y system cyn-ysgol yn gweithio n dda iawn, diagnosis cyflym a chefnogaeth dda ond aeth hyn i gyd ar chwâl wrth i n plentyn dyfu. Roedd y gwahaniaeth yn ddramatig, a r ddarpariaeth yn amlach na heb yn wael. Deddf Awtistiaeth i Gymru Rydym yn cynnig y gallai Deddf Awtistiaeth gynnwys y canlynol: sicrhau bod ardaloedd lleol yn gwybod yn well faint o blant awtistig sydd yn eu hardal er mwyn cynllunio n effeithiol ar gyfer eu hanghenion sicrhau bod fframwaith clir ar gyfer hyfforddiant i athrawon. Nid yw strategaeth a chanllawiau n unig wedi bod yn ddigon i gyflawni hyn. Byddai deddfwriaeth yn gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc awtistig yn cael addysg sy n eu paratoi i fyw bywyd, mewn system sy n gweithio iddynt hwy a chyda u teuluoedd. Byddai athrawon yn fwy cymwys i addysgu plant a phobl ifanc awtistig. 1 Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a Datganiad yw r termau a ddefnyddir i ddisgrifio r gwahanol lefelau o gymorth a ddarperir mewn ysgolion i blant a chanddynt anghenion addysgol arbennig 06 autism.org.uk/deddfnawr Deddf Nawr. Deddf Awtistiaeth i Gymru
GWASANAETHAU A CHYMORTH I OEDOLION Mae awtistiaeth yn gyflwr sy n para gydol oes ac felly mae plant awtistig yn tyfu i fod yn oedolion awtistig. Mae llawer o bobl sydd ar y sbectrwm awtistiaeth yn cael diagnosis pan fyddant yn oedolion. Gan mai cyflwr datblygiadol yw awtistiaeth, ac nid anhawster dysgu neu fater sy n ymwneud ag iechyd meddwl, yn aml iawn gall pobl awtistig lithro drwy r rhwydi pan ddaw n fater o gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Dylai mynediad at wasanaethau fod yn seiliedig ar angen ac nid ar IQ rhywun. Gyda r gefnogaeth briodol ar yr adeg briodol, gall oedolion awtistig fyw bywydau llawn. Fodd bynnag, dywedodd bron hanner (49%) nad oeddent yn cael digon o gefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion. Mae r arolwg yn dangos: Bod oddeutu hanner (48%) yr oedolion a ymatebodd 2 wedi dweud bod diffyg dealltwriaeth o awtistiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol. Cyflogaeth (55%), addysg (52%) a chwnsela (48%) oedd y prif feysydd y byddai pobl awtistig yn hoffi cael mwy o gefnogaeth ynddynt. Dim ond un o bob deg oedd mewn gwaith cyflogedig amser llawn. Gyda mwy o gymorth: Dywedodd 68% y byddent yn gallu mynegi r hyn sydd ei angen arnynt ac sydd ei eisiau arnynt Dywedodd 60% y byddai eu hiechyd meddwl yn gwella Dywedodd 52% y gallent fyw n fwy annibynnol. Pan ofynnwyd i bobl am eu barn am wasanaethau a chymorth i oedolion, dywedodd dros draean (35%) fod gwasanaethau a chymorth wedi gwaethygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Dim ond 10% a ddywedodd eu bod wedi gwella. Fodd bynnag, dywedwyd bod sawl mudiad gwirfoddol, grwpiau rhieni ac elusennau ledled Cymru yn cynnig cymorth gwerthfawr ar lefel leol. Beth sy n bwysig i chi: Mae llawer o sôn am helpu pobl awtistig ond fawr ddim o weithredu ar lawr gwlad i n helpu i reoli ein gwahaniaethau n well a chyflawni ein potensial. Mae diffyg gwasanaethau yn y sector oedolion yn bryder enfawr roedd y gwahaniaeth pan adawodd fy mab yr ysgol yn amlwg. Rwy n poeni llawer am y dyfodol. Mae gwasanaethau statudol yn ddyrys ac yn gallu peri ofn yn aml iawn dydy unigolion ddim yn gofyn am gymorth nes eu bod mewn sefyllfaoedd o argyfwng. Mae cael eu gorfodi i oresgyn sawl rhwystr i gael dim ond y cymorth sylfaenol yn creu mwy o bryder a straen mewn sefyllfa sydd eisoes yn un anodd mae pobl yn mynd ar goll mewn systemau! Deddf Awtistiaeth i Gymru Rydym yn cynnig y gallai Deddf Awtistiaeth gynnwys y canlynol: casglu data ar nifer y bobl awtistig er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gallu cynllunio eu gwasanaethau a u cymorth yn effeithiol sicrhau bod cynlluniau lleol a ddatblygir ar gyfer gwasanaethau a chymorth yn seiliedig ar angen sicrhau bod mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion yn seiliedig ar angen ac nid ar feini prawf sy n berthnasol i IQ. Nid yw strategaeth a chanllawiau n unig wedi bod yn ddigon i gyflawni hyn. Mae angen deddfwriaeth i sicrhau nad yw oedolion awtistig yn gorfod gwneud heb gymorth oherwydd eu IQ ac i rymuso unigolion a rhieni i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. 2 Mae hyn yn cynnwys rhieni neu ofalwyr yn ateb ar ran eu mab neu merch sy n oedolion autism.org.uk/deddfnawr 07
CYMORTH I OFALWYR Daeth y rhan fwyaf o r ymatebion i n harolwg gan rieni a gofalwyr pobl awtistig, ac roeddent yn cyflwyno darlun clir iawn o r anawsterau a wynebant wrth gael cymorth iddynt hwy eu hunain a r rhwystredigaethau a ddaw wrth ddelio â r systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae r arolwg yn dangos: Bod llai nag un o bob pump o r rheini a ymatebodd (18%) wedi cael asesiad gofalwr. O blith y rheini, ychydig dros hanner (54%) a ddywedodd eu bod wedi cael cymorth o ganlyniad. Mae tri chwarter yn anghytuno bod digon o gymorth i ofalwyr. Nododd 85% mai r cymorth ychwanegol sydd ei angen fwyaf arnynt yw un pwynt cyswllt. Dywedodd saith o bob deg gofalwr eu bod yn teimlo n unig. Dywedodd un rhan o bump o r rheini a ymatebodd eu bod wedi gorfod rhoi r gorau i weithio. Pan ofynnwyd i bobl am eu barn am wasanaethau a chymorth i deuluoedd a gofalwyr, dywedodd 41% fod gwasanaethau a chymorth wedi gwaethygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Dim ond chwech y cant a ddywedodd eu bod wedi gwella. Beth sy n bwysig i chi: Rydw i n teimlo fy mod i dan ormod o bwysau Rwy ar fforwm gofalwyr lleol sy n fy helpu i gael Asesiad Gofalwr gan fod gennym ddau sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac un yn aros [i gael diagnosis] ond dim help, a dim teulu yng Nghymru i helpu. Rydym wedi sylweddoli n ddiweddar ar ôl byw yn y tŷ hwn am ddeng mlynedd ein bod ni (y gŵr a finnau) heb gael un noson allan yn y dref hon. Mae n rhywbeth sydd yno drwy r amser ac yn eich ynysu. Rydw i wedi colli fy hyder ac unrhyw ymdeimlad ohonof fi fy hun Does dim amser i feddwl am fywyd y tu hwnt i r straen sy n digwydd ar yr union adeg honno a r asesiadau parhaus. A ninnau n rhieni sy n gofalu, rydym wedi gorfod brwydro ym mhob cam i gael pethau yn eu lle. Deddf Awtistiaeth i Gymru Rydym yn cynnig y gallai r Ddeddf gynnwys y canlynol: sicrhau bod ymyriadau a chymorth penodol yn cael eu darparu i ofalwyr pobl awtistig, drwy wneud yn siŵr bod gwell dealltwriaeth o r angen yn rhan o r cynlluniau lleol. Nid yw strategaeth a chanllawiau n unig wedi bod yn ddigon i gyflawni hyn. Byddai deddfwriaeth yn gwneud yn siŵr bod anghenion penodol gofalwyr a rhieni pobl awtistig yn cael eu diwallu a u bod yn gwybod pa gymorth y gallant ei ddisgwyl ar lefel leol. 08 autism.org.uk/deddfnawr Deddf Nawr. Deddf Awtistiaeth i Gymru
DEDDF AWTISTIAETH I GYMRU Mae r angen dirfawr am newid a ddangoswyd drwy brofiadau pobl awtistig a u teuluoedd a rannwyd gyda ni ar gyfer yr adroddiad hwn yn dweud wrthym fod angen i wleidyddion gyflwyno Deddf Awtistiaeth i Gymru yn nhymor nesaf y Cynulliad. Mae hyn yn bwysig er mwyn i ni gyflawni ein huchelgais i sicrhau bod cymdeithas yn derbyn ac yn deall awtistiaeth ac yn darparu cyfleoedd gwirioneddol i bobl awtistig a u teuluoedd i gyrraedd eu potensial llawn. Mae n bwysig hefyd fod Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad ar y mater hwn ac yn arbed arian wrth wneud hynny. Er bod cyflwyno deddfwriaeth newydd bob amser yn arwain at rywfaint o gostau, ni fyddai r hyn a gynigiwn yn y ddeddfwriaeth newydd hon yn arwain at lawer o feichiau newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Yn wir, credwn drwy wneud dyletswyddau n gliriach y bydd hyn yn arbed arian yn y tymor hir. Mae awdurdodau lleol eisoes yn gorfod darparu gwasanaethau cefnogi a gofal, gan gynnwys gwasanaethau ataliol, i bobl yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Os methir â darparu r gwasanaethau hyn yn ddigonol, gall hynny arwain at ganlyniadau costus i unigolion yn ogystal â r wladwriaeth, wrth i bobl fynd i sefyllfaoedd o argyfwng ac angen gwasanaethau drud neu ofal preswyl arnynt. Mewn adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, nodwyd bod: Argyfyngau o r fath yn cael effaith negyddol ar fywyd rhywun, a bod gwasanaethau acíwt yn ddrud hefyd, ac mae gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol yn costio rhwng 200 a 300 y diwrnod. 3 3 Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. (2009). Supporting people with autism into adulthood. Llundain Y Llyfrfa 4 Ibid O ganlyniad, nodwyd yn adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol pe byddai gwasanaethau lleol yn adnabod ac yn cefnogi dim ond pedwar y cant o oedolion sydd ag awtistiaeth, byddai r gwariant yn niwtral o ran cost dros amser. Pe byddent yn gwneud yr un fath ar gyfer dim ond wyth y cant, gallai arbed 67 miliwn bob blwyddyn. 4 Mae r ymatebion i n harolwg, a r sylwadau a gawsom, yn dangos yn glir bod angen gweithredu ac arwain ar awtistiaeth yng Nghymru, i liniaru r rhwystredigaeth a deimlir gan bobl awtistig, eu teuluoedd a u gofalwyr. Mae n bryd cael Deddf Awtistiaeth i Gymru. O ganlyniad, nodwyd yn adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol pe byddai gwasanaethau lleol yn adnabod ac yn cefnogi dim ond pedwar y cant o oedolion sydd ag awtistiaeth, byddai r gwariant yn niwtral o ran cost dros amser. Pe byddent yn gwneud yr un fath ar gyfer dim ond wyth y cant, gallai arbed 67 miliwn bob blwyddyn. autism.org.uk/deddfnawr 09
YNGHYLCH AWTISTIAETH Mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol difrifol sy n effeithio ar sut mae person yn cyfathrebu ac yn ymwneud â phobl eraill. Mae n effeithio hefyd ar sut maent yn deall y byd o u cwmpas. Mae n gyflwr sy n para gydol oes ac mae plant sydd ar y sbectrwm awtistiaeth yn tyfu i fod yn oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae gan fwy nag 1 o bob 100 o bobl yng Nghymru awtistiaeth. Mae n gyflwr sbectrwm, sy n golygu, er bod pawb sydd ag awtistiaeth yn rhannu anawsterau penodol, bydd eu cyflwr yn effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai pobl sydd ar y sbectrwm awtistiaeth yn gallu byw n gymharol annibynnol, ond gall fod angen gofal arbenigol ar eraill drwy gydol eu hoes. Mae n bosib hefyd y bydd pobl ar y sbectrwm awtistiaeth yn rhy sensitif neu ddim digon sensitif i synau, cyffyrddiad, blasau, arogleuon, goleuadau neu liwiau. Am NAS Cymru Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru (NAS Cymru) yw r brif elusen ar gyfer pobl sydd ar y sbectrwm awtistiaeth a u teuluoedd. Gyda chymorth ein haelodau, ein cefnogwyr a n gwirfoddolwyr, rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cefnogi, ac yn ymgyrchu dros fyd gwell i bobl awtistig. Mae gan 34,000 o bobl yng Nghymru awtistiaeth. Ynghyd â u teuluoedd a u gofalwyr, mae hyn yn rhoi cyfanswm o 136,000 o bobl sy n cael eu cyffwrdd gan awtistiaeth bob dydd o r flwyddyn. Mae NAS Cymru yn gweithio ledled Cymru dros bobl y mae awtistiaeth yn effeithio arnynt. Mae gennym 14 o ganghennau sy n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, yn ogystal ag aelodau ledled y wlad. Maent wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym yn darparu cyngor a gwybodaeth, ac yn ymgyrchu dros newid cadarnhaol a pharhaol i bobl y mae awtistiaeth yn effeithio arnynt, a thros alluogi pobl i ddylanwadu ar y rheini sy n gwneud penderfyniadau n lleol. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau cefnogi a gwasanaethau arbenigol ar gyfer oedolion ar draws gogledd a de Cymru mewn nifer o leoliadau, yn amrywio o ofal preswyl, byw â chefnogaeth, canolfannau adnoddau yn y gymuned, mewn prifysgolion ac yng nghartrefi pobl. Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru 6 7 Village Way Parc Busnes Greenmeadow Springs Tongwynlais Caerdydd CF15 7NE Ffôn: 029 2062 9312 Llinell Gymorth Awtistiaeth: 0808 800 4104 Minicom: 0845 070 4003 E-bost: wales@nas.org.uk Gwefan: www.autism.org.uk/wales DEWCH ATOM ar facebook.com/nascymru DILYNWCH NI ar @NASCymru #DeddfNawr Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn elusen a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr (269425) a r Alban (SC039427) ac yn gwmni cyfyngedig dan warant sydd wedi i gofrestru yn Lloegr (Rhif.1205298), swyddfa gofrestredig 393 City Road, Llundain, EC1V 1NG 10 autism.org.uk/deddfnawr Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth 2016 Deddf Nawr. Deddf Awtistiaeth i Gymru